Canllawiau

Asesiad y Swyddog Cyfrifyddu: Y Rhaglen Pridiannau Tir Lleol

Diweddarwyd 30 Gorffennaf 2025

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Maen ymarfer arferol i Swyddogion Cyfrifyddu graffu ar gynigion polisi neu gynlluniau arwyddocaol i ddechrau neu amrywio prosiectau mawr, ac yna asesu a ydynt yn bodlonir safonau a nodwyd yn Rheoli Arian Cyhoeddus. O Ebrill 2017, maer llywodraeth wedi ymrwymo i wneud crynodeb or pwyntiau allweddol a ddaw or asesiadau hyn sydd ar gael ir Senedd pan fydd swyddog cyfrifyddu wedi cytuno ar asesiad o brosiectau o fewn Portffolio Prosiectau Mawr y Llywodraeth. Mae hwn yn grynodeb ar gyfer y Rhaglen Pridiannau Tir Lleol ar gyfer Cofrestrfa Tir EM (CTEM).

1. Cefndir a chyd-destun

1.1 Y cam hanfodol cyntaf yng ngham cyn-gontract y broses prynu eiddo yw cynnal chwiliadau eiddo i sefydlu unrhyw hawliau neu rwymedigaethau dros yr eiddo. Mae Chwiliadau Pridiannau Tir Lleol yn un or 2 chwiliad eiddo lleol allweddol syn mynd ochr yn ochr 但r chwiliad Cofrestrfa Tir EM canolog. Ceir oddeutu 26 miliwn o Bridiannau Tir Lleol yn Lloegr a gedwir mewn niferoedd anghyfartal gan 314 o awdurdodau lleol yn Lloegr.

1.2 Mae pob awdurdod lleol yn cadw cofrestr o Bridiannau Tir Lleol o fewn ei awdurdodaeth gyda ffurfiau, safonau, amserau cwblhau a ff誰oedd gwahanol ar gyfer cwsmeriaid. Mae hyn yn arwain at sefyllfa lle mae nifer o gwsmeriaid eiddo yn profi lefel gwasanaeth syn ddrutach, yn arafach ac yn llai hygyrch yn ddigidol nag y gallai fod ar hyn o bryd. Mae Pridiannau Tir Lleol yn rhwymedigaethau, gwaharddiadau neu gyfyngiadau dros ddarn penodol o dir megis rhestriad o adeilad, dynodiad ardal gadwraeth neu orchymyn diogelu coed. Mae Pridiant Tir Lleol yn rhwymol ar berchnogion olynol ac nid yw wedi ei ddogfennu fel arfer yng ngweithredoedd teitl eiddo.

1.3 Wrth brynu eiddo, yn gyffredinol bydd chwiliadau Pridiannau Tir Lleol yn cael eu gwneud at ddibenion diwydrwydd dyladwy fel rhan or broses drawsgludo. Mae ein hymchwil wedi dangos bod gan awdurdodau lleol amser cwblhau cyfartalog o 8 diwrnod (yn amrywio o 1 diwrnod i 50 diwrnod fel arfer) gyda chostau syn amrywio o 贈3 i 贈76 ar gyfer darparu canlyniadau chwiliad Pridiannau Tir Lleol i gwsmeriaid.

1.4 Maer Papur Gwyn Tai, Fixing our Broken Housing Market (Chwefror 2017) wedi ymrwymo Cofrestrfa Tir EM i fod y gofrestrfa tir fwyaf blaenllaw yn y byd ar gyfer cyflymder, symlrwydd a dull agored i ddata. Mae Cofrestrfa Tir EM yn croesawur her hon maen cael ei moderneiddio i fod yn fusnes cofrestru wedi ei llywion ddigidol ac yn seiliedig ar ddata o fewn y sector cyhoeddus. Mae hyn yn ganolog er mwyn cael gwir dryloywder ar gyfer perchnogaeth a rheolaeth tir a bydd yn helpu i ddatgloi cynhyrchiant perthnasol y Deyrnas Unedig. Mae Deddf Seilwaith 2015 yn darparu bod yn rhaid ir Prif Gofrestrydd Tir gadwr gofrestr Pridiannau Tir Lleol.

1.5 Yn wyneb y cymhlethdod ar risg o drawsffurfior data, mae Cofrestrfa Tir EM wedi paratoir cynllun cyflenwi mudo mewn camau. Bydd Cam 1, yn ystod 2018 a 2019, yn digideiddio, safoni a chanoli datar Gofrestr Pridiannau Tir a gwasanaethau cysylltiedig hyd at 26 o awdurdodau lleol. Bydd hyn yn cynnwys cofrestri awdurdodau lleol syn gyfan gwbl ar bapur a rhai electronig er mwyn dileu papur or broses ac o gofrestrir awdurdod lleol sydd 但 niferoedd chwilio uchel, ff誰oedd uchel ac amserau cwblhau hir, gan roir buddion gorau i gwsmeriaid. Maer cam hwn hefyd wedi ei gynllunio i ddarparur wybodaeth fwyaf posibl am y costau, cymryd rhagdybiaethau a risgiau ar gyfer gweithredu a chamau yn y dyfodol.

2. Asesiad yn erbyn safonaur swyddog cyfrifyddu

2.1 Rheoleidd-dra wedi ei asesu fel rheolaidd

2.1 Darparodd Deddf Seilwaith 2015 y sail gyfreithiol i Gofrestrfa Tir EM gymryd cyfrifoldeb am gofrestru Pridiannau Tir Lleol gan awdurdodau lleol ar draws Cymru a Lloegr. Y cwmpas cyfredol ar gyfer gweithredu yw darparu Gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol Cofrestrfa Tir EM ar gyfer Lloegr yn unig. Wrth ir p典er i osod ff誰oedd gael ei ddatganoli yng Nghymru, byddai awdurdodau lleol Cymru yn cael eu trin o dan achos busnes ar wah但n maes o law ac mae y tu allan i gwmpas y rhaglen ar hyn o bryd.

2.2 Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004[troednodyn 1] yn darparu ar gyfer cael mynediad cyhoeddus heb d但l ir wybodaeth amgylcheddol a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol. Maer Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 1 yn gwneud hyn mewn 2 ffordd:

  • rhaid i awdurdodau cyhoeddus fynd atin rhagweithiol i wneud y wybodaeth amgylcheddol sydd ganddynt ar gael ir cyhoedd trwy ddulliau electronig
  • gall aelodaur cyhoedd wneud cais i awdurdodau cyhoeddus am wybodaeth amgylcheddol.

2.3 Bydd gan Gofrestr Pridiannau Tir Lleol Cofrestrfa Tir EM wybodaeth amgylcheddol ynddi sydd ar gael ir cyhoedd yn rhad ac am ddim. Mae t樽m y rhaglen wedi ymgynghori ac yn parhau i ymgynghori 但 Swyddfar Comisiynydd Gwybodaeth ac wedi cael cyngor cyfreithiol a adlewyrchir yn nyluniad datblygol Gwasanaeth Cofrestr Pridiannau Tir Lleol Cofrestrfa Tir EM ar gyfer deilio 但 cheisiadau Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn ogystal 但r chwiliadau y talwyd amdanynt fel cynhyrchion ar wah但n a weithredir or un gofrestr. Mae darpariaethau iawndal statudol yn gymwys i chwiliadau personol a swyddogol.

2.2 Priodoldeb wedi ei asesu fel priodol

2.4 Mae strategaeth ariannol Cofrestrfa Tir EM ar gyfer gweithredur Gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol cenedlaethol wedi cael ei llunio yn unol ag egwyddorion Rheoli Arian Cyhoeddus Trysorlys EM. Gyda chymeradwyaeth Trysorlys EM, bydd Cofrestrfa Tir EM yn ariannu gwariant rhaglen oi harian parod ai chronfeydd wrth gefn ei hun a gronnwyd yn ystod y blynyddoedd blaenorol. Maer gost wedi ei chynnwys yn llawn ai chyllidebu o fewn Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Cofrestrfa Tir EM, ac mae arian parod a chronfeydd wrth gefn yn ddigonol i gwmpasur gwariant gweithredu yn llawn. Maer achos busnes ar gyfer y rhaglen yn cymryd arno statws cronfa fasnachu ar gyfer Cofrestrfa Tir EM a gallai unrhyw ailddosbarthiad posibl i ffwrdd o hynny effeithion negyddol ar argaeledd cronfeydd i gwblhaur rhaglen or ffynhonnell hon, a bydd yn rhaid ei adolygun ofalus.

2.5 Mae gan Fwrdd Rhaglen Pridiannau Tir Lleol gylch gwaith penodol i osod y cyfeiriad ar gyfer y rhaglen, cefnogir Prif Berchennog Cyfrifol wrth wneud penderfyniadau a goruchwylio cynnydd y rhaglen. Maer Bwrdd wedi ei gadeirio gan y Prif Berchennog Cyfrifol, Cyfarwyddwr Trawsffurfio Cofrestrfa Tir EM, sydd 但 chyfrifoldeb gweithredol am benderfyniadau syn ymwneud 但r Rhaglen Pridiannau Tir Lleol. Mae aelodaeth or Bwrdd wedi ei ffurfio or randdeiliaid allweddol, gan gynnwys unigolion ar draws Cofrestrfa Tir EM, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, UK Governmnet Investments Limited ar Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol sydd i gyd 但 budd yng nghanlyniad y gwaith hwn a strategaeth fusnes Cofrestrfa Tir EM.

2.6 Y gost amcangyfrifedig o weithredu cam cychwynnol Gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol cenedlaethol Cofrestrfa Tir EM yw 贈15 miliwn. Yn seiliedig ar y cynlluniau cyflwyno cyfredol, bydd lefel y ff誰oedd, y rhagdybiaethau ynghylch y defnydd or cynnyrch a chost y cam hwn yn cael ei adennill gan Gofrestrfa Tir EM o fewn 10 mlynedd.

2.7 Wedi ei lywio gan gostau a rhoir gwasanaeth ar waith ai weithredu, yn ogystal 但 chyfarwyddyd Rheoli Arian Cyhoeddus, cafodd y ffi ei gosod trwy ddeddfwriaeth (Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Lloegr) 2018 (Rheolau Ff誰oedd)) am bris chwiliad sylfaenol o 贈15 ar gyfer pob chwiliad Cofrestrfa Tir EM. Mae hyn yn cymharu 但 贈27 sef y pris cyfartalog wedi ei bwysoli a godir gan awdurdodau lleol a adlewyrchir yn yr achos busnes. Mae hwn yn bris is na 84% o d但l yr awdurdodau lleol.

2.8 Bydd dadansoddiad or costau, y galw am y cynnyrch ar incwm yn dilyn y cam cyflenwi cychwynnol yn darparu gwybodaeth hollbwysig ar gyfer pennur pwynt pris tymor hwy gorau posibl ar gyfer y cynnyrch chwilio Pridiannau Tir Lleol swyddogol. Ar y cam hwn bydd yn bosibl, os oes angen, trwyr broseso Rheolau Ff誰oedd i ddiwygior ffi i lefel fwy addas. Cydnabyddir y bydd amser arwain o oddeutu naw mis ar gyfer gwneud hyn, oherwydd bydd diwygiadau ffi ir Rheolau Ff誰oedd yn mynd trwyr broses statudol, ac fel rheol byddant yn dod i rym dim ond ar un o 2 ddyddiad dechrau cyffredin bob blwyddyn.

2.9 Mae gan y Rhaglen Pridiannau Tir Lleol 2 risg strategol arwyddocaol. Ni wyddys etor gost lawn o uwchraddio ansawdd y data syn cael ei fudo ai gynnal yn y gofrestr genedlaethol, yn wyneb yr amrywioldeb a welsom yn y ffyrdd y mae awdurdodau lleol wedi casglu a storio eu data yn hanesyddol. Yn yr un modd, maer galw yn y dyfodol ar gyfer y cynnyrch chwiliad swyddogol am d但l yn seiliedig ar ragdybiaethau ynghylch nifer y gwerthiannau eiddo yn y farchnad ar nifer syn defnyddior cynnyrch am d但l. Maer cam cychwynnol wedi cael ei lunio i brofir rhagdybiaethau hyn a bydd yn bwydo i mewn ir dyluniad ar achos busnes ar gyfer camau yn y dyfodol.

2.10 Maer awdurdodau lleol hynny a ddewiswyd ar gyfer y cam cychwynnol wedi cael eu dewis i gynrychioli trawstoriad da or mathau gwahanol, er mwyn gwellar wybodaeth. Mae 20 or 26 awdurdod lleol a nodwyd yn wreiddiol wedi cofrestru i gymryd rhan, ac mae trafodaethaun parhau gydar gweddill. Mae nifer o awdurdodau lleol gwirfoddol wedi dod ymlaen hefyd.

2.3 Gwerth am arian wedi ei asesu fel cynrychioli gwerth da am arian

2.11 Mae dadansoddiad llawn or opsiynau wedi cael ei ystyried yn flaenorol fel rhan or rhaglen. Mae Cam 1 yn darparur Gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol cenedlaethol a bydd Cofrestrfa Tir EM yn gwellan sylweddol ar brofiad y cwsmer o broses chwilio Pridiannau Tir Lleol trwy ddarparu gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd. Ar 担l ei gyflwyno, bydd y cam cychwynnol hwn yn cynnig buddion ir cwsmer ar unwaith, gan gynnwys arbedion blynyddol amcanestynedig ar gyfer prynwyr eiddo o 贈2.5m yn flynyddol, gan fwy na hanerur gost gyfartalog o chwiliad Pridiannau Tir Lleol ar gyfer dros 125,000 o brynwyr cartrefi ac eiddo bob blwyddyn. Dichonoldeb wedi ei asesu ar hyn o bryd fel hyder cyflenwi oren/gwyrdd gan archwiliad iechyd noddedig yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

2.12 Maer Rhaglen Pridiannau Tir Lleol a ddechreuodd yn Ebrill 2013 a hyd yma wedi cyflenwi:

  • deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth
  • yr Achos Busnes Amlinellol
  • ymgynghoriadau cyhoeddus ar y ddeddfwriaeth sylfaenol ar is-ddeddfwriaeth
  • prototeip Pridiannau Tir Lleol gan ddefnyddio data Pridiannau Tir Lleol o saith awdurdod lleol
  • ymgysylltu 但r farchnad cyflenwyr yn ofynnol i gynorthwyor gwaith o ddigideiddio a mudo data Pridiannau Tir Lleol
  • wedi sefydlu perthnasoedd gweithio 但 phob un or 314 awdurdod lleol yn Lloegr
  • gwybodaeth dda or data Pridiannau Tir Lleol presennol fel y mae ar draws y 314 awdurdod lleol
  • dealltwriaeth dda or rhwystrau a mesurau lliniaru i fudo data yn llwyddiannus or awdurdodau lleol
  • y cynllun gweithredu manwl ar gyfer mudo cam cychwynnol awdurdodau lleol
  • tri ymarfer caffael arwyddocaol i sicrhau gallu a chapasiti cyflenwi rhaglen diogel
  • cofrestr ddigidol newydd
  • wedi cyhoeddi safonau mudo data
  • wedi lansion llwyddiannus y Gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol digidol newydd ar 11 Gorffennaf 2018, gyda phedwar awdurdod lleol yn fyw erbyn hyn
  • maer Gwasanaeth yn parhaun sefydlog gyda chwsmeriaid yn ei ddefnyddion weithredol
  • statws y rhaglen yn adrodd fel oren/gwyrdd yn natganiad chwarterol Medi 2018 Portffolio Prosiectau Mawr y Llywodraeth yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

2.13 Cafodd y Rhaglen ei hystyried gan Banel Pwynt Cymeradwyo Trysorlys EM ar 7 Ebrill 2017, yn cwmpasu pob agwedd ar y ffordd ymlaen arfaethedig. Casgliad y Panel oedd bod y rhaglen mewn cyflwr da i fynd rhagddo os yw hynnyn parhau i fod yn flaenoriaeth weinidogol. Cafodd y Rhaglen adolygiad yr Awdurdod Seilwaith a Phrosiectau (IPA) Gateway 0 llawn yn Rhagfyr 2016. Cwblhawyd yr argymhellion dilynol yn llawn. Cafodd y Rhaglen ei chymeradwyo i weithredu ei cham cychwynnol gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ar 26 Ionawr 2018. Cwblhawyd Adolygiad Archwiliad Iechyd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ym Mehefin 2018, gydag adborth cadarnhaol yn rhoi hyder oren/gwyrdd i symud ymlaen gyda lansior Gwasanaeth newydd ar 11 Gorffennaf 2018. Cymeradwyodd Asesiad Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth y gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol digidol ar gyfer beta cyhoeddus yn Nhachwedd 2018.

3. Casgliad

3.1 Fel y Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer Cofrestrfa Tir EM, rwyf wedi ystyried yr asesiad hwn or Rhaglen Pridiannau Tir Lleol ac rwyn fodlon ei bod mewn trefn. Fei cymeradwyais ar 30 Tachwedd 2018.

3.2 Rwyf wedi paratoir crynodeb hwn i amlinellur pwyntiau allweddol ar risgiau a lywiodd fy mhenderfyniad. Os yw unrhyw un or ffactorau hyn yn newid yn sylweddol yn ystod oes y rhaglen hon, ymrwymaf i baratoi crynodeb diwygiedig, gan amlinellu fy asesiad ohonynt.

3.3 Caiff y crynodeb hwn ei gyhoeddi ar wefan y llywodraeth (51画鋼). Caiff cop誰au eu hadneuo yn Llyfrgell T天r Cyffredin au hanfon at Reolydd ac Archwilydd Cyffredinol a Swyddog Cyfrifon y Trysorlys.

Graham Farrant
Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir

  1. Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn rhan or Gyfraith Ewropeaidd ac felly gallant newid wrth ir Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd..