Sut i ddarllen cynllun teitl
Cyhoeddwyd 4 Tachwedd 2021
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Pan fydd Cofrestrfa Tir EF yn cofrestru eiddo, rydym yn rhoi cyfeirnod unigryw iddo or enw rhif teitl ac, yn y rhan fwyaf o achosion, rydym yn paratoi cofrestr a chynllun teitl.
Maer gofrestr yn dangos gwybodaeth bwysig am yr eiddo, megis enwaur perchnogion cyfreithiol ac a oes unrhyw forgeisi, hawliau tramwy neu faterion cyfreithiol eraill yn effeithio arno.
Maer cynllun teitl yn cefnogi disgrifiad yr eiddo yn y gofrestr; rydym yn defnyddio detholiad o fap yr Arolwg Ordnans i roi arwydd gweledol or tir cofrestredig gydag amlinelliad coch. Y stent ywr enw a roddwn ar hyn.
Cael cynllun teitl
I gael cynllun teitl, gallwch:
- lawrlwytho copi gan ddefnyddio ein gwasanaeth Chwilio am wybodaeth am eiddo 贈7 yw cost cop誰au
- archebu copi swyddogol trwy lenwi ffurflen OC1 贈11 yw cost cop誰au swyddogol
Pa un bynnag byddwch yn ei ddewis, gallwch ddibynnu ar y copi i ddangos sefyllfar cynllun teitl ar y dyddiad ar amser a ddangosir. Os oes newidiadau yn aros iw gwneud ir gofrestr, gan y gallair rhain effeithio ar y cynllun, caiff eich copi ei 担l-ddyddio ir amser yn union cyn y gwnaed cais am y newid cyntaf.
Yr hyn maer cynllun yn ei ddangos

The property registered under title number HL12345 is an end-terrace house with land to the front and back, plus outbuildings which could be sheds or garages.
Yn yr enghraifft hon gallwch weld:
- Rhif teitl unigrywr eiddo cofrestredig.
- Cyfeirnod map y rhan o fap yr Arolwg Ordnans a ddefnyddiwyd i baratoir cynllun teitl.
- Saeth yn pwyntio tuar Gogledd ar y map.
- Llinellau du syn cynrychioli nodweddion diriaethol megis adeiladau, waliau, ffensys neu berthi.
- Llinellau coch yn nodir tir cofrestredig (y stent).
- Y dyddiad ar amser y cymerwyd y copi.
Cyfeiriadau ar y cynllun teitl
Maer cynllun teitl weithiaun dangos lliwiau, llythrennau a symbolau eraill. Cyfeiriadau ywr enw a roddwn ar y rhain.

Weithiau, defnyddir cyfeiriadau ar y cynllun teitl i nodi ardaloedd yr effeithir arnynt gan gofnodion penodol yn y gofrestr, megis:
- hawddfreintiau (fel hawliau tramwy, naill air rhai ar gyfer perchnogion cyfagos dros yr eiddo neur rhai sydd o fudd ir eiddo dros dir cyfagos)
- cyfamodau cyfyngu (sef addewidion i beidio 但 gwneud rhywbeth ar ran or eiddo)
- cytundebau terfyn (a all gyfeirio at safle terfyn rhwng perchnogion cyfagos neu bennu pwy syn berchen ar strwythur terfyn neu syn gorfod ei gynnal)
Edrychwch ar eich cofrestr i weld beth yw ystyr unrhyw gyfeiriad ar y cynllun teitl. Os nad oes gan eich cynllun gyfeirnod lliw, nid ywn golygu nad yw hawddfreintiau, cyfamodau neu gytundebau eraill yn effeithio ar eich eiddo. Lle gallwn nodir tir yr effeithir arno yn glir heb yr angen am gyfeirnod gweledol, byddwn yn disgrifior tir hwnnwn ysgrifenedig yn y gofrestr.
Darllen y cynllun teitl gydar gofrestr
Lle mae tir wedi ei dynnu ymaith or teitl (fel pan fydd rhan or ardd wedi ei gwerthu) mae hyn fel arfer yn cael ei ddangos gydag ymyl gwyrdd. Weithiau, bydd y rhif teitl newydd ar gyfer yr ardal a dynnwyd ymaith yn cael ei ddangos mewn gwyrdd hefyd.
Mae lliwiau neu gyfeiriadau eraill yn cael eu hychwanegu at gynllun teitl am nifer o resymau a chaiff y rhain eu hesbonio yn y gofrestr.

Maer testun canlynol yn ddyfyniad or adran arwystlon o gofrestr cofrestr teitl syn cyd-fynd 但r cynllun a ddangosir uchod.
C. Y gofrestr arwystlon
Maer gofrestr hon yn cynnwys arwystlon a materion eraill syn effeithio ar y tir
-
(20.12.2006) Maer tir wedi ei arlliwion las ar y cynllun teitl yn ddarostyngedig i gyfamodau cyfyngu a all fod wedi eu gosod arnynt cyn 16 Hydref 1960 ac syn dal i fodoli ac syn gallu cael eu gorfodi.
-
(20.12.2006) Mae trawsgludiad or tir wedi ei arlliwion binc ar y cynllun teitl dyddiedig 20 Mehefin 1983 a wnaed rhwng (1) Geraint Edwards (Gwerthwr) a (2) Arwel Thomas (prynwr) yn cynnwys y cyfamodau a ganlyn:-
Maer prynwr, gydar bwriad ac ir graddau y maen rhwymor tir a drawsgludir trwy hyn, yn cyfamodi gydar gwerthwr er budd ystad gyffiniol y gwerthwr na fydd y prynwr yn defnyddior tir a drawsgludwyd ar gyfer unrhyw fasnach neu fusnes nac yn dioddef nac yn caniat叩u ar hynny unrhyw weithred y gellid ei hystyried yn niwsans cyhoeddus neun anghyfleustra preifat
Dylech ddarllen y cynllun teitl gydar gofrestr bob amser. Sut i lawrlwytho a darllen cofrestr teitl.
Map yr Arolwg Ordnans
Peidiwch 但 phoeni os ywr nodweddion diriaethol a ddangosir ar eich cynllun yn ymddangos wedi eu dyddio. Paratowyd y cynlluniau teitl cynharaf, syn dal i gael eu defnyddio, dros 100 mlynedd yn 担l, ac efallai bod rhesymau eraill pam nad yw eich un chi yn dangos adeilad neu strwythur er ei fod wedi bodoli ers blynyddoedd lawer.
Rydym yn defnyddior argraffiad mwyaf diweddar o fap yr Arolwg Ordnans sydd ar gael wrth baratoi cynllun teitl, ond nid ydym yn ei ddiweddaru bob tro y bydd yr Arolwg Ordnans yn adolygu ei fap ar gyfer yr ardal.
Weithiau, rydym yn paratoi cynllun teitl newydd. Gall hyn fod pan fydd rhan or eiddo cofrestredig yn cael ei werthu neu, yn achlysurol, pan fo map yr Arolwg Ordnans a ddefnyddiwyd i greur cynllun teitl wedi dyddio cymaint rydym or farn y gallair cynllun teitl achosi dryswch.
Terfynau
Mae gan bob eiddo derfynau cyfreithiol syn nodi terfyn yr hyn mae person yn ei berchen, ond nid yw bob amser yn hawdd eu hadnabod yn union.
Darllenwch ragor am .
Amlinelliad coch ar gynllun teitl
Maer amlinelliad coch ar gynllun teitl yn dangos stent y tir cofrestredig. Bydd yn aml yn dilyn nodweddion terfyn a ddangosir ar fap yr Arolwg Ordnans, megis waliau, perthi a ffensys. Tra bod terfyn cyfreithiol yn aml yn dilyn y nodweddion hyn hefyd, efallai na fydd yn amlwg hyd yn oed yn yr achosion hyn ble yn union maer terfyn cyfreithiol er enghraifft, a ywn rhedeg trwy ganol perth neu i un ochr iddo.
Pan fyddwn yn paratoi cynllun teitl, byddwn yn ceisio dangos y terfynau cyfreithiol orau y gallwn. Fodd bynnag, mae graddfa a chywirdeb map yr Arolwg Ordnans ei hunan yn ein cyfyngu. Weithiau nid ywr gweithredoedd teitl a gwybodaeth arall a ddarperir i ni yn dangos gwir leoliad terfyn yn gywir.
Os ydych yn denant eiddo lesddaliol fel fflat ar lawr cyntaf adeilad, efallai y gwelwch fod yr amlinelliad coch ar eich cynllun teitl yn dangos amlinelliad yr adeilad yn hytrach nach fflat. Mae hyn oherwydd ein bod yn cynhyrchu ein cynlluniau ar fapiau yr Arolwg Ordnans ar raddfa fach nad ydynt yn caniat叩u ar gyfer manylion cymhleth. Maen bwysig iawn darllen y gofrestr ar cynllun teitl ynghyd 但r brydles i ddeall y cytundeb a wnaed rhwng y part誰on gwreiddiol.
Terfynau eiddo
Ni allwch drin yr amlinelliad coch ar gynllun teitl fel pe bain nodi union leoliad terfyn cyfreithiol neun dangos pwy syn berchen ar nodwedd terfyn. Er bod cynlluniau wedi eu llunio wrth raddfa, ni ddylech ddibynnu ar fesuriad wedi ei raddio o gynllun teitl ac syn gysylltiedig 但r nodweddion diriaethol ar y safle i leoli lleoliad terfyn cyfreithiol.
Maer gyfraith yn ymwneud 但 therfynau yn gymhleth, felly os oes angen ichi sefydlu terfynau cyfreithiol eich eiddo, neu os oes anghytundeb gyda chymydog yn eu cylch, efallai byddwch am siarad 但 chynghorydd cyfreithiol. Os bydd cymdogion yn cytuno ar union leoliad y terfyn cyfreithiol rhwng eu heiddo, gellir cofnodir cytundeb hwnnw yn y gofrestr ar gyfer eiddo pob cymydog.
Gallwch gael help i ddatrys anghytundebau.
Ni allwn roi cyngor cyfreithiol. Os oes gennych unrhyw broblemau gydach cynllun, dylech gysylltu 但ch cynghorydd cyfreithiol.