Ffurflen

Gofyn i CThEF drosglwyddo lwfansau Treth Incwm sydd dros ben

Defnyddiwch ffurflen 575(T) i ofyn i CThEF drosglwyddo unrhyw Lwfans Pâr Priod neu Lwfans Person Dall heb eu defnyddio i’ch priod neu bartner sifil.

Dogfennau

Manylion

I roi gwybod i CThEF eich bod am drosglwyddo Lwfans Pâr Priod neu Lwfans Person Dall sydd heb eu defnyddio i’ch priod neu bartner sifil, gallwch wneud un o’r canlynol:

  • defnyddio’r gwasanaeth ffurflen ar-lein

  • llenwi’r ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i CThEF — darllenwch dudalen 1 o’r nodiadau sy’n manylu ar y dystiolaeth y bydd angen i chi ei hanfon wrth drosglwyddo Lwfans Person Dall

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.

Os ydych yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, byddwch yn cael cyfeirnod er mwyn gallu dilyn hynt eich ffurflen.

Er mwyn llenwi’r ffurflen bydd angen y canlynol arnoch:

  • dyddiad y briodas neu ffurfio’r bartneriaeth sifil

  • cyfeirnod CThEF eich priod neu bartner sifil (fe welwch hwn ar unrhyw lythyr neu ffurflen y mae wedi ei gael o’i swyddfa CThEF)

  • rhif Yswiriant Gwladol eich priod neu bartner sifil (fe welwch hwn ar slip cyflog, P60 neu Ffurflen Dreth eich priod neu bartner sifil)

  • manylion eich incwm a didyniadau ar gyfer y flwyddyn dreth hon

  • manylion y lwfansau yr ydych am eu hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth hon

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Gorffennaf 2025 show all updates
  1. The English and Welsh versions of the 575(T) form and notes for apply by post have been updated for 2025. Guidance about where to get help with the evidence needed when transferring Blind Person's Allowance has been added.

  2. We have updated the link to apply online.

  3. The English and Welsh versions of the 575(T) form and notes have been updated for 2020.

  4. The English and Welsh versions of the 575(T) form and notes have been updated for 2019 to 2020.

  5. The English and Welsh postal versions have been updated to remove paragraph for claiming higher personal allowance when born before 6 April 1948.

  6. Apply by post PDF has been updated to reflect changes effective from 2018.

  7. This guidance has been updated to reflect changes effective from 6 April 2017.

  8. An online forms service is now available.

  9. Replaced print and post iform with flat PDF.

  10. The Income Tax: notice of transfer of surplus Income Tax allowances (575(T)) has been updated for 2016 to 2017.

  11. New interactive form now available

  12. Welsh translation to form 575(T) added to the page.

  13. First published.

Argraffu'r dudalen hon