Guidance

Framework guidance (Welsh) (accessible version)

Updated 5 January 2022

Gorffennaf 2021

1. Cyflwyniad

1.1 Cefndir

Cafodd Deddf Arfau Tramgwyddus 2019 (a ddisgrifir hefyd fel y Ddeddf) Gydsyniad Brenhinol ar 16 Mai 2019. Maer Ddeddf yn cynnwys mesurau deddfwriaethol newydd i reoli gwerthu cyllyll a sylweddau cyrydol, ac maen cyflwyno troseddau newydd ar eu meddiant au defnydd. Mae hefyd yn cyfyngu ar fynediad i rai arfau tanio. Cyhoeddir canllawiau statudol ar wah但n, o dan adran 66 or Ddeddf, syn ymwneud 但 gweithredu Rhannau un, tri, pedwar a phump o Ddeddf Arfau Tramgwyddus 2019.

Mae Rhan dau o Ddeddf Arfau Tramgwyddus 2019 yn cyflwyno Gorchymyn Atal Troseddau Cyllyll (KCPOs). Maer gorchmynion sifil hyn wediu cynllunio i roi offeryn ir heddlu, gyda chymeradwyaeth y Llys, i helpu i lywio pobl ifanc ac eraill i ffwrdd o droseddau cyllyll ac o gario cyllyll yn gyhoeddus fel mater o drefn.

Bydd KCPOs yn helpu i ddargyfeirior rhai a allai fod yn cario cyllyll, neu sydd fwyaf o berygl o gael eu tynnu i drais difrifol, i ffwrdd o fod yn gysylltiedig 但 throseddau cyllyll. Byddant hefyd yn helpu i atal eraill sydd wedi bod yn gysylltiedig 但 throseddau cyllyll rhag troseddu ymhellach pan roddir gorchymyn gan y llys yn dilyn collfarn.

Y bwriad yw y bydd KCPOs yn ataliol yn hytrach na chosbol i helpu i atal troseddau cyllyll, drwy ddefnyddio gofynion cadarnhaol i helpu i lywior unigolyn oddi wrth drais difrifol ac i fynd ir afael 但 ffactorau yn eu bywydau a allai gynyddur siawns o droseddu, ochr yn ochr 但 mesurau i wahardd rhai gweithgareddau i helpu i atal troseddu yn y dyfodol.

1.2 Terminoleg

Defnyddir y derminoleg ganlynol drwy gydol y canllawiau hyn:

  • KCPO Gorchymyn Atal Troseddau Cyllyll.
  • Ymgeisydd Yr awdurdod syn gwneud cais am y KCPO, a fydd ar gyfer KCPOs ac eithrio ar gollfarn fydd yr heddlu perthnasol yng Nghymru a Lloegr (gan gynnwys Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Heddlur Weinyddiaeth Amddiffyn) neu ar gyfer KCPOs ar gollfarn fydd Gwasanaeth Erlyn y Goron.
  • Amddiffynnydd Y person syn dderbynnydd neun ddarpar dderbynnydd y KCPO.
  • Y Llys Wrth gyfeirio at y llys yn unig bydd hyn yn gyfeiriad at y Llys Ynadon. Bydd unrhyw lys arall fel Llys y Goron yn cael ei bennu yn y testun.
  • Ystyr plentyn - at ddibenion y canllawiau hyn, yw person 12 oed neu h天n sydd o dan 18 oed.

1.3 Diben y Canllawiau

Mae Deddf Arfau Tramgwyddus 2019 yn caniat叩u ir Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi canllawiau, o dan adran 30 or Ddeddf, syn ymwneud ag arfer swyddogaethau gan berson perthnasol mewn perthynas 但 gorchmynion atal troseddau cyllyll a gorchmynion atal troseddau cyllyll dros dro. Diffinnir person perthnasol fel person syn gallu gwneud cais am orchymyn atal troseddau cyllyll neu orchymyn atal troseddau cyllyll dros dro. Bwriedir ir canllawiau hyn gael eu defnyddion bennaf gan yr awdurdodau perthnasol a all wneud cais am KCPO, sef yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS). Bydd y canllawiau hefyd o ddiddordeb ir Farnwriaeth.

Mae KCPOs yn gofyn am ddull amlasiantaethol o fynd ir afael 但 throseddau cyllyll ac yn ei gefnogi. Disgwylir ir heddlu weithio gyda sefydliadau perthnasol a grwpiau cymunedol i gefnogir rhai sydd wedi cael KCPO i osgoi troseddu neu droseddu pellach. Bydd sefydliadau perthnasol a grwpiau cymunedol yn cynnwys Timau Troseddau Ieuenctid yn ogystal 但 sefydliadau trydydd sector syn cefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion syn agored i niwed sydd mewn perygl o droseddu. Bydd gan bob un ohonynt r担l iw chwarae i sicrhau mai KCPOs ywr offeryn ataliol y bwriedir iddynt fod. Felly, maer canllawiau hyn hefyd wediu hanelu at y rhai syn ymwneud 但 rheoli ac adolygu KCPOs.

2. Ystyried Plant a Phobl Ifanc

Maer garfan ar gyfer KCPOs yn cynnwys plant rhwng 12 oed ac oedolion. Rhaid rhoi ystyriaeth benodol i blant a phobl ifanc yngl天n 但 phob agwedd ar y broses KCPO. Mae eu haeddfedrwydd emosiynol a chorfforol yn wahanol i oedolion ac mae angen ei ddeall; gall ffactorau fel trallod neu drawma amlygun wahanol yn ymddygiad plentyn neu berson ifanc.

Dylid ystyried y canllawiau yn y ddogfen hon ochr yn ochr 但 Chyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) . Maer strategaeth hon yn pwysleisio, mewn rhai amgylchiadau, mai gorfodi ywr arf mwyaf effeithiol, ond i lawer o rai eraill gall fod yn offeryn di-flewyn-ar-dafod. Dengys tystiolaeth nad yw sancsiynau cosbol iawn yn cael fawr o effaith ar ddeunydd eildro, felly dylid ystyried gorfodin briodol ai ddefnyddio dim ond lle bo angen i atal eraill rhag dod yn ddioddefwyr.

Er bod y canllawiau hyn yn gwahanu oedolion a phlant yn glir, cydnabyddir bod yr ystod oedran 18-24 oed yn gyfnod allweddol o ddatblygiad; maer ymennydd yn dal i ddatblygu, mae annibyniaeth yn cael ei hennill, mae gweithgarwch cymdeithasu yn cynyddu, ac mae arbrofi gyda chyffuriau, alcohol a pherthnasoedd rhywiol yn digwydd. Maer cyfnod oedran hwn hefyd yn cyd-daro ag adeg pan fyddant yn fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad 但r heddlu. Felly, maen bwysig cofior effaith ar y gr典p oedran h天n hwn wrth iddynt drosglwyddo i fod yn oedolion.

3. Cymhwyso

3.1 KCPO a wnaed ar gollfarn

Gall KCPO gael ei wneud gan unrhyw lys syn delio 但r diffynnydd (e.e. Llys y Goron, llys ynadon neu Lys Ieuenctid).

Mae Adran 19 o Ddeddf Arfau Tramgwyddus 2019 yn nodir amodau y maen rhaid eu bodloni er mwyn ir llys wneud KCPO ar gollfarn.

  • Yn gyntaf, rhaid ir llys fod yn fodlon, ar fantol tebygolrwydd (safon prawf sifil) fod y diffynnydd wedi cyflawni trosedd. Rhaid ir drosedd hon fod yn drosedd berthnasol, hynny yw, trosedd syn ymwneud 但 thrais (neur bygythiad o drais) neu pan ddefnyddiwyd neu y cludwyd teclyn 但 llafn gan y diffynnydd neu unrhyw berson arall wrth gyflawnir drosedd. (Mae teclyn 但 llafn yn declyn y mae adran 139 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 yn gymwys iddi). Rhaid ir gollfarn y maer KCPO yn ymwneud 但 hi 担l-ddyddiadu dod 但r darpariaethau perthnasol ar KCPOs i rym yn Rhan dau o Ddeddf Arfau Tramgwyddus 2019 a bod y drosedd wedii chyflawni mewn ardal lle mae adran 19 or Ddeddf mewn grym.
  • Yn ail, maen rhaid bod cais wedii wneud gan yr erlyniad. Ni chaiff y llys wneud gorchymyn oi wirfodd. Byddair cais fel arfer yn cael ei ategu gan dystiolaeth gan yr heddlu. Maer mathau o dystiolaeth y gellir eu defnyddio wrth wneud cais am KCPO yn cael eu nodi ymhellach yng Nghanllawiau Ymarferwyr KCPO.
  • Yn drydydd, maen ofynnol ir llys ystyried bod angen gwneud y gorchymyn i amddiffyn y cyhoedd yn gyffredinol, neu bersonau penodol (gan gynnwys y diffynnydd) rhag y risg o niwed corfforol neu seicolegol syn cynnwys teclyn 但 llafn, neu atal y diffynnydd rhag cyflawni trosedd syn ymwneud 但 theclyn 但 llafn.

Pan fydd y CPS yn gwneud cais am KCPO, bydd angen iddo nodi pa ofynion a gwaharddiadau a geisir ar dystiolaeth iw cefnogi. Nid oes angen darparur dystiolaeth honno yn unol 但 rheolau caeth tystiolaeth droseddol a gall y cais ddibynnu ar ffeithiaur drosedd y maer diffynnydd wedii chollfarnu oi herwydd. Diben y gorchymyn yw gwahardd y diffynnydd rhag gwneud gweithgareddau penodol neu ei gwneud yn ofynnol ir diffynnydd gydymffurfio ag unrhyw beth a ddisgrifir yn y gorchymyn at ddibenion amddiffynnol.

Cyfrifoldebaur CPS

  • Ar gyfer ceisiadau ar gollfarn, bydd y CPS yn adolygur achos ar y cyd 但r heddlu ac yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen 但r cais KCPO yn wyneb amgylchiadaur achos penodol a sut i fwrw ymlaen ag ef. Os ywr diffynnydd o dan 18 oed, maen ofynnol ir erlyniad gael barn y T樽m Troseddau Ieuenctid lleol.
  • Bydd y CPS yn sicrhau bod y diffynnydd ar llys yn ymwybodol or cais sydd iw wneud yn y gwrandawiad cyntaf, neu cyn hynny, ar 担l derbyn y cais gan yr heddlu.
  • Bydd y CPS yn cyflwynor cais ar yr amddiffyniad ar llys, gan ei gop誰o ir heddlu.
  • Bydd y CPS yn gwneud cais neun ceisio gohirio gwneud cais fel y bon briodol ar gollfarn.
  • Bydd y CPS yn ymgynghori 但r heddlu lle bynnag y bo modd, yn enwedig ynghylch diwygiadau sylweddol. Bydd adolygiad y CPS yn sicrhau mai dim ond gofynion a gwaharddiadau syn angenrheidiol ac yn gymesur a geisir, a dim ond pan fo tystiolaeth iw cefnogi

3.2 Heblaw ar gollfarn

Mae gan y llysoedd y p典er i wneud KCPOs mewn achosion heblaw ar gollfarn. Gellir gwneud KCPO mewn perthynas ag unrhyw berson sydd dros 12 oed. Os ywr derbynnydd arfaethedig yn oedolyn, rhaid gwneud y cais i lys ynadon, a lle bor derbynnydd arfaethedig o dan 18 oed, i Lys Ieuenctid.

Mae Adran 14 o Ddeddf Arfau Tramgwyddus 2019 yn nodir amodau y maen rhaid eu bodloni er mwyn ir llys wneud KCPO ac eithrio ar gollfarn:

  • Yn gyntaf, rhaid ir llys fod yn fodlon bod cais wedii wneud yn unol ag adran 15 o Ddeddf Arfau Tramgwyddus 2019. Maer cais yn cael ei wneud drwy g典yn. Nid ywr terfynau amser a osodir gan adran 127 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys i g典yn or fath.
  • Yn ail, rhaid ir llys fod yn fodlon, ar fantol tebygolrwydd (safon prawf sifil), fod gan y person, ar o leiaf ddau achlysur yn y cyfnod perthnasol, declyn 但 llafn gyda hwy mewn man cyhoeddus, ar safle ysgol neu ar safle addysg bellach heb reswm da nac awdurdod cyfreithlon. (Mae teclyn 但 llafn yn declyn y mae adran 139 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 yn gymwys iddi ac ystyr y cyfnod perthnasol yw cyfnod o ddwy flynedd cyn y dyddiad y gwnaed y gorchymyn).
  • Yn drydydd, maen ofynnol ir llys ystyried bod angen gwneud y gorchymyn i amddiffyn y cyhoedd yn gyffredinol, neu bersonau penodol (gan gynnwys y diffynnydd) rhag risg o niwed corfforol neu seicolegol syn cynnwys teclyn 但 llafn neu atal y diffynnydd rhag cyflawni trosedd syn ymwneud 但 theclyn 但 llafn.

3.3 Gofynion ar gyfer gwneud cais KCPO ac eithrio ar gollfarn

Gall prif swyddog heddlur ardal wneud cais pan for diffynnydd yn byw neu lle maer diffynnydd, ym marn yr ymgeisydd, yn bwriadu bod neu deithio iddo. Rhaid i brif swyddog yr heddlu perthnasol wneud y cais ir llys syn gweithredu ar gyfer eu hardal cyfiawnder lleol. Gall Prif Gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Phrif Gwnstabl Heddlur Weinyddiaeth Amddiffyn wneud cais hefyd.

3.4 Cais am KCPO a wnaed heb hysbysiad

Er y bydd cais am KCPO fel arfer yn cael ei wneud ar 担l rhoi hysbysiad ir diffynnydd, mae adran 16 o Ddeddf Arfau Tramgwyddus 2019 hefyd yn galluogir ymgeisydd i wneud cais am KCPO heb roi hysbysiad or fath. Heb hysbysiad, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol neu frys y dylid gwneud ceisiadau a byddai angen ir ymgeisydd gyflwyno tystiolaeth ir llys ynghylch pam mae angen cais heb hysbysiad.

Byddai hyn fel arfer yn digwydd pan geisiwyd gwrandawiad heb hysbysiad i atal niwed neu ddianc rhag digwydd. Efallai y bydd angen gohirio er mwyn gallu casglu rhagor o wybodaeth cyn gwrandawiad llawn a bydd angen galluogir diffynnydd i fynychu gwrandawiad llawn.

3.5 KCPO dros dro heb hysbysiad

Pan wneir cais heb hysbysiad, gall y llys ganiat叩u KCPO dros dro tran aros am wrandawiad llawn ar 担l rhoi hysbysiad ir diffynnydd. Nid ywn ofynnol ir ymgeisydd gydymffurfio 但r gofyniad i ymgynghori 但r Timau Troseddau Ieuenctid perthnasol cyn gwneud cais heb hysbysiad i amddiffynnydd o dan 18 oed. Fodd bynnag, bydd y gofyniad i ymgynghori 但r Timau Troseddau Ieuenctid perthnasol yn gymwys cyn dyddiad gwrandawiad llawn cyntaf y KCPO.

Dim ond ar gais a wneir heb hysbysiad pan fydd y llys or farn bod angen gwneud hynny y gall y llys roi KCPO dros dro. Caiff gorchymyn or fath osod unrhyw waharddiadau a osodir gyda KCPO llawn (ac y maer llys or farn eu bod yn angenrheidiol) ond ni chaiff y gorchymyn osod unrhyw un or gofynion y caiff KCPO eu gosod o dan adran 14 (KCPO a wneir heblaw ar gollfarn).

3.6 KCPO dros dro pan na phenderfynir ar gais gyda hysbysiad

Mae gan y llys b典er o dan adran 18 or Ddeddf i ganiat叩u KCPO dros dro pan fydd yn gohirio gwrandawiad y rhoddwyd hysbysiad ir diffynnydd ohono. Caiff y llys ganiat叩u KCPO dros dro os oes cais wedii wneud hefyd ar gyfer KCPO dros dro (naill ai ar yr un pryd 但r cais llawn neu wedi hynny) ac maer llys or farn ei bod yn deg gwneud gorchymyn or fath. Felly, er enghraifft, gall y llys wneud gorchymyn dros dro mewn sefyllfa lle maen fodlon ei bod yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn person rhag niwed uniongyrchol tran aros ir cais am y gorchymyn gael ei benderfynun llawn.

Gall KCPO dros dro a roddwyd o ganlyniad i ohirio gwrandawiad, pan hysbyswyd y diffynnydd or cais neu fod cais am KCPO wedii wneud yn unol ag adran 14 or Ddeddf, gynnwys unrhyw waharddiad neu ofyniad y mae gan y llys y p典er iw gynnwys mewn KCPO a roddwyd ar 担l gwrandawiad llawn ac y maer llys yn credu ei fod yn briodol o dan yr amgylchiadau syn gymwys. Mae Deddf Arfau Tramgwyddus 2019 yn datgymhwysor terfynau amser a osodir gan adran 127 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 mewn perthynas 但 chwynion a wnaed o dan adran 18 or Ddeddf.

3.7 Ystyriaethau penodol ar gyfer ceisiadau lle maer diffynnydd o dan 18 oed

Caiff Llys Ieuenctid wneud KCPO mewn perthynas ag unrhyw berson o dan 18 oed ar yr amod nad ywr person yn iau na 12 mlwydd oed. Os ywr KCPO a geisir yn ymwneud 但 diffynnydd o dan 18 oed, mae adran 15 o Ddeddf Arfau Tramgwyddus 2019 yn ei gwneud yn ofynnol ir ymgeisydd ymgynghori 但r T樽m Troseddau Ieuenctid perthnasol cyn gwneud cais. Maer ymgynghoriad yn gyfle pwysig i ystyried barn y T樽m Troseddau Ieuenctid. Gan ei bod yn ofynnol ir ymgeisydd ymgynghori 但r T樽m Troseddau Ieuenctid perthnasol, disgwylir, fel arfer da, fod yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn rhannu canlyniad yr ymgynghoriad yn y gwrandawiad gydar llys. Efallai y bydd yr heddlu ar CPS am ystyried cynnwys adroddiad y T樽m Troseddau Ieuenctid yn y bwndel tystiolaeth gan ragweld y bydd y llys yn dymuno ei weld.

Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol canlynol wrth ystyried a ddylid gwneud cais am KCPO mewn perthynas 但 pherson o dan 18 oed:

  1. Dim ond pan for ymgeisydd yn credu bod y diffynnydd o dan 18 oed yn cario cyllyll mewn safleoedd cyhoeddus, ysgol neu addysg bellach fel mater o drefn heb reswm da y dylid ceisio KCPOs, ac felly mae mewn perygl o gymryd rhan mewn troseddau cyllyll neu ddioddef troseddau cyllyll.

  2. Mae prosesau amddiffyn plant clir iw dilyn pan nodwyd niwed sylweddol neur risg o niwed sylweddol. Mae Adran 11 o Ddeddf Plant 2004 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol, yr heddlu ac eraill i wneud trefniadau i sicrhau eu bod, wrth gyflawni eu swyddogaethau, yn rhoi sylw ir angen i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Dylai gwasanaethau plant lleol, sydd 但 chyfrifoldebau cyfreithiol dros ddiogelu ac amddiffyn plant, fod yn rhan o drafodaethau ynghylch KCPO posibl ar gyfer person o dan 18 oed. Maen hanfodol, pan for plentyn yn cael ei gefnogi gan weithiwr cymdeithasol, yr ymgynghorir yn gynnar ar Ofal Cymdeithasol Plant (CSC) ym mhroses ystyried KCPO a dylid ymwneud 但 CSC ac ymgynghori ag ef yn adroddiad y Timau Troseddau Ieuenctid er mwyn sicrhau y rhoddir cyfrif llawn am amgylchiadau llawn y plentyn o ran risgiau, anghenion a bregusrwydd.

  3. Lle y bon briodol, dylai ymgeiswyr weithion agos gyda theulu neu ofalwyr y person ifanc, or cam cynharaf posibl, i sicrhau cymorth rhieni/gofalwyr. Mae tystiolaeth yn awgrymu, lle mae rhieni neu ofalwyr yn gefnogol, bod ymyriadaun fwy tebygol o lwyddo. Os ceisir cais am KCPO yn erbyn plentyn mewn gofal, bydd angen ymgynghori 但r gwasanaethau i blant.

  4. Er bod y T樽m Troseddau Ieuenctid perthnasol mewn sefyllfa dda i gynghori a bod yn rhaid ymgynghori 但 hwy ar wneud KCPO, nid dymar unig asiantaeth a all gynorthwyor heddlu i nodi ffactorau risg. Yn ogystal 但r T樽m Troseddau Ieuenctid, dylair heddlu benderfynu fesul achos a all unrhyw asiantaethau eraill gynorthwyo. Er enghraifft, gallai grwpiau neu sefydliadau cymunedol lleol ddarparu gwybodaeth briodol am ffactorau risg ac ymyriadau, yn enwedig os ydynt yn gweithio, neu wedi gweithio, gydar person ifanc syn ddarostyngedig ir gorchymyn. Efallai y bydd gwasanaethau addysg a gwasanaethau plant, er enghraifft, hefyd yn gallu cynorthwyor heddlu yn y cyd-destun hwn.

  5. Ni ddylid ystyried KCPO fel yr unig ddewis i bobl ifanc; maent yn arf pwysig o fewn dull partneriaeth ehangach o reolir risg o droseddau cyllyll ymhlith pobl ifanc dan 18 oed. Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i briodoldeb y KCPO fel y dull cywir o ymyrryd ar gyfer y plentyn unigol dan sylw. Mae gan bawb syn gweithio gyda phlant gyfrifoldeb dros eu cadwn ddiogel. Mae Deddf Plant 2004 yn nodi bod buddiannau plant a phobl ifanc or pwys mwyaf ym mhob ystyriaeth o les a diogelu.

3.8 Dogfennau iw darparu ir llys

Wrth wneud cais am KCPO, bydd angen ir ymgeisydd lenwir ffurflen gais KCPO. Dylair ffurflen hon gael ei llenwi gan yr unigolyn arweiniol syn gyfrifol am yr achos dros yr ymgeisydd ai gofnodi yn y llys.

3.9 Ffi iw thalu

Cyfeiriwch at y Gorchymyn (Gorchmynion) Ffioedd cyfredol i gael manylion y ffioedd ymgeisio. Telir y ffi i gychwyn y trafodion. Nid oes angen taliad arall.

4. Darpariaethau KCPO

Mater ir llys benderfynu arno yw natur unrhyw ofyniad neu waharddiad a gynhwysir mewn KCPO neu KCPO dros dro. Fodd bynnag, gall y llys ond cynnwys gwaharddiadau neu ofynion y mae wediu bodloni syn angenrheidiol er mwyn amddiffyn y cyhoedd yn gyffredinol, neu bersonau penodol, rhag y risg o niwed corfforol neu seicolegol syn cynnwys teclyn 但 llafn neu atal y diffynnydd rhag cyflawni trosedd syn ymwneud 但 theclyn 但 llafn.

4.1 Gofynion Cadarnhaol

Y bwriad yw y dylai KCPOs fod yn ataliol o ran dull gweithredu, yn hytrach na chosbol. Felly, ochr yn ochr 但r gwaharddiadau a nodir yn y gorchymyn, disgwylir i ymgeiswyr wneud cais am ofynion cadarnhaol syn gweithio tuag at fynd ir afael 但r ymddygiad troseddol mewn perthynas 但r ffactorau risg perthnasol. Dylai ymgeiswyr feddwl yn greadigol ac yn ofalus am y gofynion cadarnhaol y maent yn bwriadu eu cynnig. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod y gofynion yn cael eu teilwra i amgylchiadau unigol pob achos. Mae hyn yn golygu ystyried nodweddion penodol fel ethnigrwydd, rhyw, oedran neu anabledd, a allai olygu bod angen cynnwys gwasanaethau arbenigol. Pan fydd plant yn cael eu cefnogi gan weithiwr cymdeithasol, bydd y gweithiwr cymdeithasol hwnnwn gallu rhoi cipolwg arbennig o wybodus ar yr hyn a fydd yn gweithio ir plentyn penodol hwnnw. Bydd angen i ymgeiswyr allu cyflwyno tystiolaeth ir llys yn dangos bod y gofynion cadarnhaol a geisir ar gael ac yn briodol ir diffynnydd.

Gall yr ymgeisydd ar gyfer y KCPO ddod o hyd i wybodaeth am y gofynion cadarnhaol yn lleol ou Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (CSP) ac o Unedau Lleihau Trais lleol (VRUs). Gall y gofynion cadarnhaol hyn gynnwys y rhai sydd ar gael gan sefydliadaur sector gwirfoddol yn ogystal 但 rhaglenni a ddarperir gan asiantaethau statudol.

Bydd argaeledd ac ystod y gofynion cadarnhaol yn amrywio rhwng ardaloedd lleol. Mae enghreifftiaun cynnwys:

  • Cyrsiau addysgol ar gyfer oedolion a rhai dan 18 oed
  • Rhaglenni sgiliau bywyd
  • Cyfranogiad mewn chwaraeon fel aelodaeth o glybiau chwaraeon neu gymryd rhan mewn chwaraeon gr典p.
  • Cyrsiau codi ymwybyddiaeth
  • Rhaglenni Ymyrraeth wediu Targedu
  • Cwnsela mewn perthynas
  • Rhaglenni adsefydlu cyffuriau
  • Dosbarthiadau rheoli dicter
  • Mentora

Nid ywr rhestr hon yn hollgynhwysol ond bwriedir iddi ddarparu syniadau o ofynion cadarnhaol posibl. Bydd y gofynion cadarnhaol a gynigir wrth wneud KCPO yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael yn lleol ar hyn syn debygol o fynd ir afael 但 ffactorau risg y diffynnydd ar tebygolrwydd o droseddu neu droseddu pellach. Mae Adran 21(2) o Ddeddf Arfau Tramgwyddus 2019 yn dweud y caiff y gofynion a osodir gan KCPO ar amddiffynnydd, yn benodol, gael yr effaith oi gwneud yn ofynnol i amddiffynnydd wneud y canlynol:

  • bod mewn man penodol rhwng amseroedd penodol ar ddiwrnodau penodol neu unrhyw ddiwrnodau;
  • cyflwyno eu hunain i berson penodol mewn man lle maen ofynnol iddo fod rhwng amseroedd penodol ar ddiwrnodau penodol;
  • a chymryd rhan mewn gweithgareddau penodol rhwng adegau penodol ar ddiwrnodau penodol.

Rhaid ir gofynion a osodir drwy KCPO, ir graddau y maen ymarferol, roi sylw dyledus i (i) gredoau crefyddol y diffynnydd a (ii) unrhyw ymyrraeth 但r amseroedd, os o gwbl, lle maer diffynnydd fel arfer yn gweithio neun mynychu sefydliad addysgol.

4.2 Gwaharddiadau

Mae Adran 21(4) o Ddeddf Arfau Tramgwyddus 2019 yn nodi rhestr o waharddiadau posibl y gall KCPO eu gosod ar amddiffynnydd. Maer Ddeddf hefyd yn rhestru effeithiau posibl gwaharddiadau, megis:

  • parth gwahardd
  • diffyg cysylltiad ag unigolion eraill
  • diffyg cyfranogiad mewn gweithgareddau penodol,
  • bod mewn lle penodol rhwng amseroedd penodol ar unrhyw ddiwrnod neu ddiwrnodau penodol
  • atal y diffynnydd rhag defnyddio neu gael teclynnau penodol gyda nhw
  • defnyddior rhyngrwyd i hwyluso neu annog troseddau syn cynnwys teclynnau 但 llafn

Gall gorchymyn gynnwys eithriadau i waharddiadau or fath. Maer Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn glir nad ywr rhestrau hyn o waharddiadau yn hollgynhwysol, a gall y Llys benderfynu cynnwys gwaharddiadau eraill mewn KCPO fesul achos. Rhaid cymryd gofal bod gwaharddiadaun rhoi sylw dyledus ir holl nodweddion neu grwpiau gwarchodedig y mae angen addasiadau rhesymol arnynt yn unol 但 deddfwriaeth cydraddoldeb.

Fel yn achos gofynion, rhaid ir gwaharddiadau a osodir ar amddiffynnydd drwy KCPO, ir graddau y maen ymarferol, roi sylw dyledus i (i) gredoau crefyddol y diffynnydd a (ii) unrhyw ymyrraeth 但r amseroedd, os o gwbl, y maer diffynnydd fel arfer yn gweithio neun mynychu sefydliad addysgol

Ceir eglurhad ac enghreifftiau pellach or gwaharddiadau sydd iw cynnwys mewn KCPO yng Nghanllawiau yr Ymarferydd.

4.3 Ystyriaethau penodol ar gyfer gofynion cadarnhaol a gwaharddiadau ar

gyfer diffynyddion o dan 18 oed

Mewn perthynas 但 gwneud ceisiadau KCPO mewn perthynas 但 diffynyddion o dan 18 oed, yn ogystal 但r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, bydd Unedau Lleihau Trais (VRUs) a Thimau Troseddau Ieuenctid hefyd yn gallu nodi a chynnig gofynion cadarnhaol i ddiffynyddion. Dylid ymgynghori 但 Thimau Troseddau Ieuenctid ar addasrwydd yr holl ofynion a gwaharddiadau arfaethedig ar gyfer diffynyddion o dan 18 oed. Rhaid cymryd gofal i sicrhau bod gwaharddiadau neu ofynion a gynigir ar gyfer KCPO yn rhoi sylw dyledus i unrhyw nodweddion gwarchodedig neu gyda diffynyddion sydd angen unrhyw addasiadau rhesymol yn unol 但 deddfwriaeth cydraddoldeb. Dylid hefyd ystyried sicrhau nad yw gwaharddiadau a gofynion yn gwrthdaro ag ymyriadau eraill sydd mewn grym i gefnogi plant mewn angen sydd eisoes ar waith.

4.4 Goruchwylio a Chydymffurfio

Mae Adran 22 o Ddeddf Arfau Tramgwyddus 2019 yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas 但 goruchwylior gofynion a osodir ar amddiffynnydd o dan KCPO (neu KCPO dros dro mewn rhai achosion).

Pan fo KCPO yn gosod gofyniad ar amddiffynnydd, rhaid ir gorchymyn hwnnw bennur person (unigolyn neu sefydliad) sydd i fod yn gyfrifol am oruchwylio cydymffurfiaeth y diffynnydd 但r gofyniad. Rhaid ir llys gael tystiolaeth ar addasrwydd a gorfodadwyedd y gofyniad gan y person hwn. Maer Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i lys, cyn gosod dau neu ragor o ofynion, ystyried cydnawsedd y gofynion hynny.

Dyletswydd y person penodedig yw gwneud unrhyw drefniadau angenrheidiol mewn cysylltiad 但r gofyniad. Y person penodedig hefyd sydd yn y sefyllfa orau i hyrwyddo cydymffurfiaeth y diffynnydd ac i helpur diffynnydd i fodlonir gofynion a osodir yn y KCPO. Cyfrifoldeb y person penodedig hefyd yw hysbysu prif swyddog priodol yr heddlu bod y diffynnydd wedi cydymffurfio 但r holl ofynion perthnasol yn y KCPO neu, os mai felly y mae hi, bod y diffynnydd wedi methu 但 chydymffurfio. Y diffynnydd syn gyfrifol am gadw mewn cysylltiad 但r person penodedig a rhaid iddo roi gwybod iddo am unrhyw newid cyfeiriad.

Fel y nodwyd uchod, gall y person penodedig fod yn unigolyn neun sefydliad. Gallair person fod yn swyddog heddlu syn delio 但r achos, yn aelod or T樽m Troseddau Ieuenctid lleol neun weithiwr ieuenctid. Gallai hefyd fod yn berson a oedd yn rhedeg cwrs atal troseddau cyllyll lle maer diffynnydd yn mynychu fel rhan o ofyniad y KCPO hwnnw, ac sydd mewn sefyllfa i fonitro presenoldeb a chynnydd y diffynnydd ac a fyddai hefyd yn gallu hysbysur heddlu pe bair diffynnydd yn methu 但 chydymffurfio 但 gofynion perthnasol yn y gorchymyn.

5. Hyd KCPO

Yn gyffredinol, bydd KCPO neu KCPO dros dro yn dod i rym ar y diwrnod y caiff ei wneud. Fodd bynnag, ni fydd KCPO dros dro a wneir heb hysbysiad yn dod i rym nes iddo gael ei gyflwyno. Mae KCPO neu KCPO dros dro a wnaed mewn perthynas 但 diffynnydd yn y ddalfa, syn destun dedfryd o garchar neu sydd ar drwydded, yn dod i rym pan gaiff y diffynnydd ei ryddhau or ddalfa, neun peidio 但 bod yn destun dedfryd o garchar, neun peidio 但 bod ar drwydded.

Mae KCPO dros dro yn peidio 但 bod yn effeithiol unwaith y penderfynir ar y prif gais neu os ywr gorchymyn fel arall yn cael ei amrywio, ei adnewyddu neu ei ryddhau. Rhaid i KCPO bennu ei hyd a rhaid iddo bara am gyfnod penodol o 6 mis o leiaf ond dim mwy na 2 flynedd. Gall y gwaharddiadau ar gofynion a bennir mewn KCPO neu KCPO dros dro fod 但 pharhad gwahanol.

Ar gyfer KCPOs a roddir i bobl ifanc dan 18 oed, dylid ymgynghori 但r T樽m Troseddau Ieuenctid perthnasol a CSC (lle maer plentyn yn cael ei gefnogi gan weithiwr cymdeithasol) ar hyd priodol y gorchymyn a dylid adolygu hyn yn rheolaidd, er enghraifft bob 6 mis.

6. Cyflwyno KCPO

6.1 Cyflwynor KCPO ar y diffynnydd

Unwaith y bydd KCPO wedii wneud, rhaid ei gyflwyno ir diffynnydd, oni bai bod y llys yn gorchymyn fel arall. Os bydd yr ymgeisydd yn cael y KCPO mewn gwrandawiad llys lle maer diffynnydd yn bresennol, dylair ymgeisydd ystyried gofyn ir llys orchymyn bod y diffynnydd yn aros ar safler llys nes bod y KCPO yn cael ei gyflwyno ir diffynnydd.

Maen hanfodol bod y diffynnydd yn deall natur a manylion manwl y telerau a darpariaethau penodol eu KCPO a bod y teleraun cael eu hesbonio mewn iaith gyffredin. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, darparu map ir diffynnydd syn dangos unrhyw barthau gwahardd y cyfeirir atynt yn y gorchymyn. Bydd angen rhoi ystyriaeth ofalus i sicrhau bod y diffynnydd yn gallu deall effaith y KCPO ar gofynion ar gwaharddiadau priodol a osodir.

Os nad yw diffynnydd wedi derbyn y KCPO yn bersonol yn y llys, bydd yr ymgeisydd yn gyfrifol am drefnu ei gyflwynon bersonol cyn gynted 但 phosibl wedi hynny.

6.2 Cyflwynor KCPO ar ddiffynyddion o dan 18 oed

Wrth gyflwyno KCPO ar amddiffynnydd o dan 18 oed, rhaid ir ymgeisydd gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir iddo o dan deleraur gorchymyn llys syn ymwneud 但r cyflwyniad ym mhresenoldeb oedolyn cyfrifol/oedolyn priodol. Gall oedolyn priodol, er enghraifft, fod yn rhiant, gwarcheidwad, gweithiwr cymdeithasol awdurdod lleol, rhywun o sefydliad sector gwirfoddol neu oedolyn cyfrifol arall syn 18 oed neun h天n nad ywn swyddog heddlu nac yn cael ei gyflogi gan yr heddlu. Dylai trefniadau arferol y T樽m Troseddau Ieuenctid mewn perthynas 但 darparu oedolion priodol fod yn berthnasol.

Maen arbennig o bwysig yn achos diffynyddion o dan 18 oed y rhoddir ystyriaeth wrth gyflwynor gorchymyn i lefel aeddfedrwydd a/neu unrhyw anghenion datblygiadol sydd gan y diffynnydd i sicrhau bod y person ifanc yn gallu deall amodau ei orchymyn yn llawn. Dylid cyfleu unrhyw anghenion datblygiadol neu arsylwadau am lefel aeddfedrwydd y diffynnydd yn adroddiad y Timau Troseddau Ieuenctid.

7. Hysbysiad

7.1 Gofynion hysbysiad

Ar 担l gwneud y gorchymyn, rhaid ir person syn ddarostyngedig i KCPO neu KCPO dros dro hysbysur heddlu, o fewn tri diwrnod, oi enw(au) ai gyfeiriad. Os ywr KCPO yn disodli KCPO dros dro, nid ywr gofyniad hwn yn gymwys.

Mae hefyd yn ofynnol ir person syn destun KCPO neu hysbysiad KCPO dros dro hysbysur heddlu, o fewn tri diwrnod, am unrhyw newidiadau dilynol ir wybodaeth hon; yn benodol, defnyddio enw newydd, newid iw cyfeiriad cartref neu gyfeiriad lle byddant yn byw am fis neu fwy. Mae hysbysiad iw roin bersonol drwy fynychu gorsaf heddlu yn ardal yr heddlu lle maer diffynnydd yn byw neu drwy roi hysbysiad llafar i swyddog heddlu, neu i unrhyw berson a awdurdodwyd at y diben hwnnw gan y swyddog syn gyfrifol am yr orsaf.

7.2 Gofynion hysbysu diffynyddion o dan 18 oed

Mae gofynion hysbysu diffynyddion o dan 18 oed yn debyg ir rhai ar gyfer oedolion. Rhaid ir diffynnydd hysbysur heddlu, o fewn tri diwrnod, oi enw(au) ai gyfeiriad. Os ywr KCPO yn disodli KCPO dros dro, nid ywr gofyniad hwn yn gymwys. Rhaid ir diffynnydd hefyd hysbysur heddlu, o fewn tri diwrnod, am unrhyw newidiadau dilynol ir wybodaeth hon; yn benodol, defnyddio enw newydd, newid iw cyfeiriad cartref neu gyfeiriad lle byddant yn byw am fis neu fwy. Mae hysbysiad iw roin bersonol gan y diffynnydd syn mynychu gorsaf heddlu yn ardal yr heddlu y maen byw ynddi neu drwy roi hysbysiad llafar i swyddog heddlu, neu i unrhyw berson a awdurdodwyd at y diben hwnnw gan y swyddog 但 gofal am yr orsaf. Dylid addasu gofynion hysbysu plant er mwyn ystyried unrhyw anghenion addysgol (AAA) sydd wediu nodi, pun a ywr plentyn yn Blentyn syn Derbyn Gofal (LAC) neu wedii nodi wedi bod yn Blentyn Mewn Angen (CIN).

7.3 Troseddau syn ymwneud 但 hysbysu

Maen drosedd i berson syn ddarostyngedig i KCPO neu KCPO dros dro fethu, heb esgus rhesymol, 但 chydymffurfio 但r gofynion hysbysu yn adran 24 o Ddeddf Arfau Tramgwyddus 2019 neu roi gwybod ir heddlu am wybodaeth y maent yn gwybod ei bod yn ffug. Safon y prawf ywr safon droseddol.

Y gosb uchaf am drosedd hysbysu yw chwe mis o garchar neu ddirwy neur ddau ar gollfarn ddiannod, neu ddwy flynedd o garchar neu ddirwy neur ddau yn dilyn collfarn ar dditiad. Maer person yn cyflawni trosedd ar y diwrnod cyntaf y maen methu 但 hysbysu ac yn parhau i gyflawnir drosedd drwy gydol y methiant parhaus ond dim ond unwaith y gellir ei erlyn mewn perthynas 但r un drosedd.

Bydd uchafswm tymor y carchariad ar gollfarn ddiannod yn cynyddu i ddeuddeng mis mewn perthynas 但 throseddau a gyflawnwyd ar 担l i adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 ddod i rym.

8. Adolygu

8.1 Gwrandawiadau adolygu

Mae gan y llys y p典er i bennu dyddiad ac amlder gwrandawiadau adolygu y maen rhaid ir ymgeisydd ar diffynnydd fod yn bresennol ynddynt. Diben gwrandawiadau adolygu yw ystyried yn bennaf a ddylid amrywio neu ryddhaur KCPO.

Maen ofynnol ir llys osod gwrandawiad adolygu os yw unrhyw waharddiad neu ofyniad gan KCPO i ddod i rym ar 担l diwedd y cyfnod o flwyddyn syn dechrau ar y diwrnod y daeth y KCPO i rym. Rhaid cynnal y gwrandawiad adolygu o fewn pedair wythnos olaf y cyfnod o flwyddyn. Gall y llys gynnal gwrandawiad adolygu pan fydd or farn y byddain briodol, felly gallai benderfynu cynnal gwrandawiad adolygu ymhell cyn y terfyn amser o flwyddyn ar gyfer adolygiad os ywn briodol yn yr achos penodol hwnnw.

Yn ystod gwrandawiadau adolygu, gall y llys osod gwaharddiad neu ofyniad ychwanegol drwy amrywio os yw wedii fodloni bod angen gwneud hynny er mwyn amddiffyn y cyhoedd yn gyffredinol neu berson penodol rhag niwed syn cynnwys teclyn 但 llafn, neu atal y diffynnydd rhag cyflawni trosedd syn ymwneud 但 theclyn 但 llafn. Gall gwrandawiad adolygu ystyried a ddylid rhyddhaur KCPO neu ddileu gwaharddiad neu ofyniad.

8.2 Gwrandawiadau adolygu ar gyfer diffynyddion o dan 18 oed

Ar gyfer KCPOs a wnaed mewn perthynas 但 diffynyddion o dan 18 oed, ni ddylid gadael adolygiadau tan y cyfnod adolygu gofynnol o flwyddyn. O ran diffynyddion o dan 18 oed, yr ieuengaf ywr diffynnydd, y mwyaf aml y dylair adolygiad gan y llys fod or KCPO. Dylid ymgynghori 但r T樽m Troseddau Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol Plant (lle maer plentyn yn derbyn cymorth gweithiwr cymdeithasol) ynghylch hyd cychwynnol y gorchymyn yn ogystal 但 dyddiadau adolygu arfaethedig.

8.3 Amrywiad

O dan adran 27 o Ddeddf Arfau Tramgwyddus 2019, gall llys hefyd amrywio, adnewyddu neu ryddhau KCPO neu amrywio neu ryddhau KCPO dros dro ar gais gan y person syn ddarostyngedig ir gorchymyn neur heddlu (gan gynnwys Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Heddlur Weinyddiaeth Amddiffyn). Rhaid gwneud y cais ir llys priodol. Maer ddarpariaeth hon yn sicrhau y gellir addasur gorchymyn i adlewyrchu amgylchiadau syn newid, er mwyn sicrhau ei fod yn parhaun effeithiol i reolir risg a achosir gan weithgareddau syn gysylltiedig 但 throseddau cyllyll a chario cyllell a bod y gorchymyn yn parhau i fod yn angenrheidiol at y diben hwnnw.

Gall adnewyddu neu amrywio fod ar sawl ffurf gan gynnwys ychwanegu gwaharddiad neu ofyniad newydd neu ddileu un syn bodoli eisoes. Fodd bynnag, rhaid ir llys fod yn fodlon bod angen unrhyw waharddiad neu ofyniad ychwanegol or fath er mwyn amddiffyn y cyhoedd yn gyffredinol, neu bersonau penodol rhag risg o niwed syn ymwneud 但 theclyn 但 llafn, neu atal diffynnydd rhag cyflawni trosedd syn ymwneud 但 theclyn 但 llafn

8.4 Amrywiad i ddiffynyddion o dan 18 oed

Os ywr diffynnydd o dan 18 oed, rhaid ymgynghori 但r T樽m Troseddau Ieuenctid perthnasol cyn gwneud cais o dan adran 27 or Ddeddf (ac eithrio os caiff ei wneud gan y diffynnydd ei hun). Cyn gwneud ei benderfyniad ar gais or fath, rhaid ir llys glywed y person syn gwneud y cais ac unrhyw berson arall syn dymuno cael gwrandawiad a restrir yn adran 27(2) or Ddeddf. Mae hyn yn rhestrur diffynnydd ar heddluoedd perthnasol.

8.5 Rhyddhau

Dim ond pan fydd yn fodlon bod yr amodau ar gyfer gwneud hynnyn cael eu bodloni mewn perthynas 但r diffynnydd penodol a fyddain ddarostyngedig ir gorchymyn y caiff KCPO ei wneud, boed hynny ar gollfarn neu fel arall. Fodd bynnag, maen agored ir heddlu neur diffynnydd wneud cais ir llys i ryddhau gorchymyn cyn iddo ddod i ben os yw or farn y bydd yn gallu bodlonir llys nad oes angen y gorchymyn mwyach i fynd ir afael 但r risg a achoswyd pan wnaed y gorchymyn am y tro cyntaf.

Mae adran 27(10) or Ddeddf yn atal y llys rhag cyflawni gorchymyn cyn diwedd chwe mis or diwrnod y daeth i rym heb gydsyniad y diffynnydd a phrif swyddog priodol yr heddlu. Os gwnaed y cais i ryddhau gan brif swyddog, rhaid ir prif swyddog hwnnw roi caniat但d. Os na wnaed y cais i ryddhau gan brif swyddog ond bod y cais am y KCPO wedii wneud gan brif swyddog, rhaid ir prif swyddog hwnnw roi caniat但d yn ychwanegol at bob prif swyddog ar gyfer yr ardal(oedd) lle maer diffynnydd yn byw. Mewn unrhyw achos arall (er enghraifft, pan for diffynnydd yn gwneud cais i gael ei ryddhau ar CPS yn gwneud cais am y KCPO), rhaid i brif swyddog yr heddlu roi caniat但d ar gyfer ardal lle maer diffynnydd yn byw.

9. Apeliadau

9.1 Hawliau apelio

Pan wneir KCPO neu KCPO dros dro ac eithrio ar gollfarn, gall yr ymgeisydd neur diffynnydd apelio yn erbyn gwneud y gorchymyn, neu wrthod gwneud gorchymyn or fath, i Lys y Goron.

Pan wneir KCPO ar gollfarn, caiff y diffynnydd apelio yn erbyn gwneud y gorchymyn fel pe bair gorchymyn yn ddedfryd a basiwyd ar y diffynnydd am y tramgwydd.

Gall person apelio yn erbyn penderfyniad i amrywio, adnewyddu neu ryddhau gorchymyn, neu wrthod gwneud hynny, i Lys y Goron neu, pan wnaed y cais i Lys y Goron, ir Llys Ap棚l.

Wrth benderfynu ap棚l, caiff Llys y Goron wneud unrhyw orchmynion a allai fod yn angenrheidiol i roi effaith iw benderfyniad ar yr ap棚l ac unrhyw orchmynion cysylltiedig a chanlyniadol y maen ymddangos iddo eu bod yn briodol.

10. Torri

10.1 Troseddau

Maen drosedd i berson dorri KCPO neu KCPO dros dro, hynny yw, gwneud unrhyw beth syn cael ei wahardd gan y gorchymyn neu syn methu 但 gwneud unrhyw beth syn ofynnol gan y gorchymyn heb esgus rhesymol. Rhaid ir llys fod yn fodlon ir safon droseddol fod y diffynnydd, heb esgus rhesymol, wedi torrir gorchymyn.

Mater ir heddlu fydd penderfynu pa gamau iw cymryd pan fydd toriad yn digwydd. Er enghraifft, bydd yr heddlu am ystyried a ywr ymddygiad a arweiniodd at dorrir KCPO yn gymharol fach neu a ywn torrir gorchymyn yn sylweddol. Y mwyaf bach ywr toriad, y lleiaf tebygol ydyw o fod o bryder ir cyhoedd. Mewn achosion or fath, bydd angen ir heddlu benderfynu a oes angen cymryd camau ffurfiol (gan gynnwys cyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS)) neu a fydd yn fwy priodol cymryd camau anffurfiol. Fodd bynnag, bydd angen ir heddlu gofio y gallai m但n achosion o dorri amodau neu nifer o f但n achosion o dorri amodau ar yr un pryd fod yn destun digon o bryder bod angen ystyried cymryd camau ffurfiol.

O ran achosion syn ymwneud 但 thorri KCPO a atgyfeirir gan yr heddlu i Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS), mater ir CPS yw ystyried a ddylid bwrw ymlaen ag erlyniad. Wrth wneud y penderfyniad hwnnw bydd erlynwyr yn cymhwysor Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron ac yn ystyried lle mae digon o dystiolaeth yn erbyn y diffynnydd i ddarparu ar gyfer posibilrwydd realistig o gollfarn ac a yw er budd y cyhoedd i erlyn.

Nid oes rhaid erlyn yn awtomatig lle ystyrrir bod cam tystiolaethol y yn cael ei fodloni gan Wasanaeth Erlyn y Goron, gan nad yw o bosibl er budd y cyhoedd i wneud hynny ar sail difrifoldeb y toriad neu ffactorau budd cyhoeddus eraill.

10.2 Dedfrydu

Y gosb uchaf am doriad yw chwe mis o garchar neu ddirwy neur ddau ar gollfarn ddiannod, neu ddwy flynedd o garchar, dirwy neur ddau, yn dilyn collfarn ar dditiad. Mae adran 29(4) o Ddeddf Arfau Tramgwyddus 2019 yn atal y llys rhag gwneud gorchymyn am ryddhad amodol yn dilyn collfarn am drosedd yn yr adran hon.

Bydd gan y llys yr ystod lawn o ddedfrydau cymunedol sydd ar gael iddynt iw hystyried. Maer opsiynau amgen i ddedfryd o garchar ir rhai a gollfarnwyd am doriad yn cynnwys:

  • Gwaith di-d但l Ad-dalu Cymunedol
  • Gofyniad gweithgaredd adsefydlu (RAR) yn ymgymryd 但 gweithgareddau yn 担l cyfarwyddyd
  • Ymgymryd 但 rhaglen benodol i helpu i newid ymddygiad troseddol
  • Triniaeth iechyd meddwl gyda chydsyniad y diffynnydd
  • Gofyniad adsefydlu cyffuriau gyda chydsyniad y diffynnydd
  • Gorchymyn trin a phrofi cyffuriau (DTTO)
  • Gofyniad trin alcohol gyda chaniat但d y diffynnydd
  • Gofyniad ymatal a monitro alcohol gyda chydsyniad y diffynnydd.

10.3 Ystyriaethau penodol ar gyfer dedfrydu diffynyddion o dan 18 oed

Wrth ystyried dedfrydau priodol ar gyfer diffynyddion o dan 18 oed, bydd y llys yn dilyn y canllawiau dedfrydu a nodir gan y . Rhaid ir llys roi sylw i brif nod y system cyfiawnder ieuenctid, atal troseddu gan bobl ifanc a phlant a lles y plentyn neur person ifanc.

Bydd gan y llys yr ystod lawn o ddedfrydau cymunedol sydd ar gael iddynt iw hystyried mewn perthynas 但 phobl ifanc o dan 18 oed fel y maent yn ei wneud gydag oedolion.

11. Rhychwant Tiriogaethol

Rhychwant tiriogaethol KCPOs yw Cymru a Lloegr. Pan fo KCPO neu KCPO dros dro wedii wneud mewn perthynas 但 diffynnydd syn teithio i ardal y tu allan i Gymru a Lloegr, ni all y person hwnnw dorri gwaharddiad neu fethu 但 chydymffurfio 但 gofyniad yn y gorchymyn hwnnw oni bai bod y gorchymyn yn gwahardd y diffynnydd rhag teithio y tu allan i Gymru neu Loegr.

Maen ofynnol i amddiffynnydd y gwnaed KCPO neu KCPO dros dro mewn perthynas ag ef hysbysur heddlu am newid ei gyfeiriad cartref neu gyfeiriad lle maer person hwnnw wedi penderfynu byw am gyfnod o fis neu fwy ac felly byddain ofynnol iddo hysbysur heddlu oi gyfeiriad newydd. Bydd y KCPO yn parhau i gael effaith drwy gydol y cyfnod a bennir yn y gorchymyn a bydd yn ofynnol ir person y gwnaed ef mewn perthynas ag ef gydymffurfio 但r gofynion ar gwaharddiadau a osodir ganddo os bydd y person hwnnwn dychwelyd i Gymru neu Loegr.

12. Cyfathrebur defnydd o KCPOs

Efallai yr hoffair heddlu gyfathrebu eu bod yn defnyddio, neun bwriadu defnyddio, KCPOs yn yr ardal leol. Gall cyfleur wybodaeth hon gynyddu hyder y gymuned yn yr ymateb lleol i droseddau cyllyll, rhoi sicrwydd ir gymuned y gellir rhoi gwybod yn ddiogel am droseddau cyllyll a phryder bod pobl yn cario cyllyll, a gweithredu fel rhwystr rhag person syn dewis cario cyllell yn gyhoeddus heb reswm da. Gellir cyfleu gwybodaeth gyffredinol am KCPOs drwy bartneriaid ymgynghori, y cyfryngau, drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol, neu unrhyw gyfrwng priodol arall.

Fodd bynnag, mae trafodion KCPOs yn y Llys Ieuenctid yn ddarostyngedig i gyfyngiadau adrodd awtomatig yn rhinwedd adran 49 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933. Mae adran 49 yn caniat叩u i faterion penodol gael eu hadrodd mewn perthynas 但 phlentyn neu berson ifanc ar yr amod nad yw hyn yn debygol o arwain aelodau or cyhoedd iw nodi fel rhywun syn ymwneud 但 thrafodion

13. Ystyried dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus

Rhaid i ymgeiswyr gofio hefyd, yn unol ag adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, y dylid gwneud pob ystyriaeth a phenderfyniad mewn perthynas 但 cheisiadau am KCPOs gan roi sylw dyledus ir angen i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth, a hyrwyddo cyfle cyfartal waeth beth for ffactorau fel oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd neu gred neu gyfeiriadedd rhywiol.

14. Peilot

Mae Adran 31 o Ddeddf Arfau Tramgwyddus 2019 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dau amod y maen rhaid eu bodloni cyn y gellir dod 但 KCPOs i rym ledled Cymru a Lloegr:

  • yn gyntaf, rhaid treialu darpariaethaur KCPO mewn un neu fwy o ardaloedd yng Nghymru a Lloegr at un neu fwy o ddibenion penodedig; ac
  • yn ail, rhaid ir Ysgrifennydd Gwladol osod adroddiad gerbron y Senedd ar weithrediad y peilot.

Diben treialu peilot KCPOs yw profi a llywio prosesau ar gyfer ei gyflwynon ehangach. Bydd y peilot yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am ddefnydd a fformat y ddogfennaeth a ddefnyddir yn y cais am orchymyn yn ogystal 但 chyfle i asesur gwaharddiadau ar gofynion a wneir mewn KCPOs a sut maer rhain wedi gweithio. Bydd y cynllun peilot hefyd yn caniat叩u dealltwriaeth lawnach or costau tebygol y byddant yn cael eu hysgwyddo unwaith y bydd y gorchmynion yn cael eu cyflwyno ledled gweddill Cymru a Lloegr.

Caiff y canllawiau hyn eu hadolygu yn wyneb canfyddiadaur peilot au diweddaru cyn cyflwyno KCPOs ledled Cymru a Lloegr.