Strategaeth Monitro a Gwerthuso'r Gronfa Ffyniant Bro
Cyhoeddwyd 31 Mawrth 2022
1. Crynodeb Gweithredol
Cyhoeddwyd y Gronfa Ffyniant Bro (LUF) gan Drysorlys EM (TEM), yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) ar Adran Drafnidiaeth (DfT) ym mis Mawrth 2021, gyda chyfanswm cyllid o 贈4.8 biliwn.
Mae LUF yn ceisio gwella bywyd pob dydd drwy fuddsoddi mewn seilwaith cyfalaf a gaiff effaith wirioneddol ar leoedd lleol ar draws pob rhan or DU. Er ei bod yn agored i bob man, ceir rhywfaint o flaenoriaethu cyllid yn 担l yr angen (h.y. mannau lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf i fywyd pob dydd, gan gynnwys ardaloedd cyn-ddiwydiannol, trefi difreintiedig a chymunedau arfordirol).
珂温艶r Gronfan canolbwyntio ar dri math o ymyriad:
- Buddsoddiadau trafnidiaeth gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol, atgyweirio pontydd, lonydd blaenoriaeth bysiau, gwelliannau i ffyrdd lleol, a gwelliannau hygyrchedd.
- Adfywio a buddsoddi yng nghanol trefi, i uwchraddio adeiladau syn ddolur llygad a seilwaith sydd wedi dyddio, caffael ac adfywio safleoedd tir llwyd, buddsoddi mewn seilwaith cymunedol diogel a lleihau troseddu, a dod 但 gwasanaethau cyhoeddus a mannau cymunedol diogel i ganol trefi a dinasoedd.
- Buddsoddiad diwylliannol sef cynnal, adfywio, neu ailddefnyddion greadigol amgueddfeydd, orielau, atyniadau ymwelwyr (a mannau gwyrdd cysylltiedig) ac asedau treftadaeth yn ogystal 但 chreu mannau newydd syn eiddo ir gymuned i gefnogir celfyddydau a bod yn fannau diwylliannol.
Mae Prosbectws LUF yn nodir hyn y maer polisi am ei gyflawni, drwy fuddsoddi mewn seilwaith i wella bywyd bob dydd, canolbwyntio ar wella twf economaidd, balchder mewn lle, a dod 但 chymunedau ynghyd. Mae hyn yn golygu mynd ir afael 但 gwahaniaethau economaidd a sbarduno ffyniant fel rhan o hybu ffyniant bro ac adawyd ar 担l rhanbarthau or DU, gwella bywydau drwy roi balchder i bobl yn eu cymunedau lleol, ac wrth ir wlad ymadfer o effeithiau economaidd digynsail Covid-19, buddsoddi mewn prosiectau sydd nid yn unig yn dod 但 buddion economaidd, ond sydd hefyd yn helpu i uno cymunedau. Er mwyn gwneud y gwerthusiad o LUF mor effeithiol 但 phosibl , rydym wedi ceisio datblygur bwriadau hyn a gwneud y mwyaf o ddysgu. Felly, bydd yr hyn a gaiff ei fonitro ai werthuso yn mynd y tu hwnt ir effeithiau cychwynnol a nodir yn y Prosbectws, gan dynnu ar y dystiolaeth ddiweddaraf ar Papur Gwyn Ffyniant Bro i nodir effeithiau y bydd LUF yn eu cael ar gymdeithas yn gyffredinol.
Yn ychwanegol, cynlluniwyd y Gronfa gyda disgresiwn lleol mewn golwg, gyda lleoedd lleol yn datblygu prosiectau i ddiwallu anghenion lleol. Bydd y problemau ym mhob lle yn amrywio yn dibynnu ar gyd-destun y lle. Gall problemau ac atebion lleol fod yn wahanol ir darlun cenedlaethol, gan nad yw hwn yn bolisi syn addas i bawb.
Nod y Gronfa Ffyniant Bro yw targedur problemau eang canlynol:
Problem 1: Mae gwahaniaethau gofodol ledled y DU mewn canlyniadau economaidd gan gynnwys safonau byw, cyflog a chynhyrchiant is.
Problem 2: Mae gwahaniaethau gofodol mewn canlyniadau cymdeithasol gan gynnwys lefelau is o gydlyniant cymdeithasol, balchder mewn lle, lefelau uwch o droseddu a thai gwael.
Problem 3: Mae gwahaniaethau gofodol mewn canlyniadau iechyd gan gynnwys lefelau uwch o ddiabetes, ysmygu, alcoholiaeth, a marwolaethau cynamserol mewn ardaloedd o amddifadedd uwch.
Arweiniodd adolygiad o lenyddiaeth academaidd ac adnoddau polisi at Theori Newid y bydd y gwerthusiad yn ceisioi phrofi. O ystyried them但u ymyrryd lluosog y Gronfa, mae damcaniaethau newid thematig yn cael eu datblygu a byddant yn cyfrannu at gynllun y gwerthusiad.
珂温艶r gwaith o fonitro a gwerthusor Gronfa yn cynnwys pedair elfen allweddol:
- Monitro a ddefnyddir i olrhain cyflwyno a chostau prosiectau ac i nodi ymhle y gallai fod angen cymorth ychwanegol drwy gydol y rhaglen.
- Gwerthuso prosesau a fydd yn ceisio deall sut y cyflenwyd y Gronfa mewn ardaloedd a ariannwyd, gan gynhyrchu gwersi ir hyn a weithiodd yn dda, yr hyn nad oedd yn gweithio yn 担l y bwriad, a r担l llywodraeth ganolog o ran hwylusor ddarpariaeth.
- Gwerth am arian a gwerthusiadau effaith, syn cael eu cwmpasu au datblygu ar hyn o bryd, a fydd yn anelu at ddangos a oedd y Gronfan sicrhau gwerth am arian trethdalwyr ac a gyflawnodd y canlyniadau ar effeithiau dymunol yn effeithiol.
2. Cyflwyniad
珂温艶r ddogfen hon yn nodi dull yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC), a dull yr Adran Drafnidiaeth, o fonitro a gwerthusor Gronfa Ffyniant Bro (LUF). Fei datblygwyd ar y cyd ar draws y llywodraeth, gan gynnwys yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), Trysorlys EM, ar Tasglu Gwerthuso (ETF), ynghyd ag arbenigedd allanol o ganolfan Beth syn Gweithio ar gyfer Twf Economaidd Lleol. Maen bwriadu hysbysur cyhoedd, a rhanddeiliaid, am gyd-destun cynnal y gwerthusiad, y rhesymeg syn ei sbarduno a rhai or allbynnau y bydd yn eu cynhyrchu yn y pen draw.
Nodaur ddogfen yw darparu strategaeth syn amlinellur gweithgareddau a fydd yn cael eu cynnal i ateb cwestiynau allweddol ar yr hyn syn gweithio a pham. Bydd y dystiolaeth a gynhyrchir yn cyfrannun 担l at weithredur gwaith o gyflenwir Gronfa ac yn cryfhaur dull a ddefnyddir ar gyfer cronfeydd eraill syn cyfrannu at amcanion yr agenda ffyniant bro. Cynlluniwyd y strategaeth i fod yn hyblyg, er mwyn ir dull esblygu wrth ir gwaith o gyflenwir Gronfa fynd rhagddo.
Mae monitro a gwerthuso yn weithgareddau allweddol sydd wrth wraidd deall beth syn gweithio a pham. Fel yr amlinellir yn Llyfr Magenta, gwerthuso ywr asesiad systematig o gynllun, gweithrediad a chanlyniadau ymyriad. Er bod monitron gallu dangos cynnydd o ran cyrraedd nodau penodol, ac yn gallu arwain yr addasiadau angenrheidiol i ymateb, mae gwerthuson nodi a ywr amcanion cyffredinol wediu cyflawni ac i ba raddau y mae newid wedi digwydd o ganlyniad uniongyrchol i ymyriad.
2.1 Y Gronfa Ffyniant Bro
珂温艶r Gronfa Ffyniant Bro (LUF) yn cyflawni blaenoriaethau lleol syn cael effaith weladwy ar bobl a chymunedau ar draws pob rhan or DU, gan gynnwys Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. 珂温艶r Gronfan buddsoddi mewn seilwaith cyfalaf syn gwella bywyd pob dydd ac syn cael effaith wirioneddol ar leoedd lleol. Ar gyfer Cylch 1, buddsoddodd y Gronfa mewn prosiectau ar draws tair thema: adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio trafnidiaeth leol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth. Targedir cyllid tuag at leoedd sydd 但r angen mwyaf arwyddocaol, fel yu mesurir gan y mynegai o leoedd 但 blaenoriaeth. Mae hwn yn ystyried angen lleoedd am adferiad a thwf economaidd, gwell cysylltedd trafnidiaeth ac adfywio, yn unol ag amcanion y Gronfa Ffyniant Bro. Y gallu i gyflenwi, gwerth am arian, a chyweddu strategaethau oedd y meini prawf allweddol a ystyriwyd hefyd wrth asesu cynigion. I gael gwybod rhagor am y broses hon, gweler y Gronfa Ffyniant Bro: nodyn esboniadol ar y broses asesu a gwneud penderfyniadau.
珂温艶r Gronfa Ffyniant Bro yn gronfa olynol ir Gronfa Twf Lleol (LGF) a oedd, drwy gyfres o gytundebau 但 Phartneriaethau Menter Leol, yn buddsoddi mewn cyfalaf sgiliau, yn adeiladu cartrefi newydd ac yn cefnogi prosiectau seilwaith gan gynnwys gwelliannau i drafnidiaeth a rhwydweithiau band eang cyflym iawn. Yn wahanol i gronfa LGF a oedd ar gael i Loegr yn unig, maer Gronfa Ffyniant Bro (LUF) ar gael i ardaloedd lleol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
珂温艶r Gronfa Ffyniant Bro yn un elfen or cynllun cyffredinol i hybu ffyniant bro o ran cyfleoedd ledled y DU fel y nodir yn y Papur Gwyn Ffyniant Bro a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022. Ers 2019, mae llywodraeth y DU wedi cefnogi lleoedd i adfywio canol trefi, cadw asedau cymunedol a thyfu eu heconom誰au drwy raglenni fel y Gronfa Ffyniant Bro (LUF) gwerth 贈4.8 biliwn, cronfa Getting Building gwerth 贈900 miliwn, a chronfa Tai Tir Llwyd (BHF) gwerth 贈400 miliwn yn Lloegr, y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol (COF) gwerth 贈150 miliwn ledled y DU, y Gronfa Trefi gwerth 贈3.6 biliwn, y Gronfa Adfywio Cymunedol (CRF) gwerth 贈220 miliwn a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) gwerth 贈2.6 biliwn.
Bydd y Gronfa Ffyniant Bro yn cael ei dyrannu drwy broses gystadleuol gydag arian iw wario o 2021-2022 i 2024-2025 a disgwylir sawl cylch o gyllid. Ym mis Hydref 2021, dyfarnwyd cyfanswm o 贈1.7 biliwn i 105 o geisiadau llwyddiannus yn ystod cylch cyntaf y Gronfa. Lansiwyd ail gylch y Gronfa ym mis Mawrth 2022.
Fel y nodwyd ym Mhrosbectws y Gronfa Ffyniant Bro, y meysydd thematig allweddol ar gyfer ymyrryd ar gyfer y cylch ariannu cyntaf yw:
- Buddsoddiadau trafnidiaeth gan gynnwys (er enghraifft) trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol, atgyweirio pontydd, lonydd blaenoriaeth bysiau, gwelliannau i ffyrdd lleol a gwaith cynnal a chadw strwythurol mawr, a gwelliannau hygyrchedd. Gofynnwyd am gynigion ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth lleol bach, canolig a thrwy eithriad rhai mwy o faint i leihau allyriadau carbon, gwella ansawdd aer, lleihau tagfeydd, cefnogi twf economaidd, a gwella profiad defnyddwyr trafnidiaeth.
- Adfywio a buddsoddi yng nghanol trefi, gan adeiladu ar fframwaith y Gronfa Trefi i uwchraddio adeiladau syn ddolur llygad a seilwaith sydd wedi dyddio, caffael ac adfywio safleoedd tir llwyd, buddsoddi mewn seilwaith cymunedol diogel a lleihau troseddu, a dod 但 gwasanaethau cyhoeddus a mannau cymunedol diogel i ganol trefi a dinasoedd.
- Buddsoddiad diwylliannol sef cynnal, adfywio, neu ailddefnyddion greadigol amgueddfeydd, orielau, atyniadau ymwelwyr (a mannau gwyrdd cysylltiedig) ac asedau treftadaeth yn ogystal 但 chreu mannau newydd syn eiddo ir gymuned i gefnogir celfyddydau a bod yn fannau diwylliannol.
Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn thema drawsbynciol a disgwylir i fentrau gefnogi amcanion Sero Net a materion fel amddiffynfeydd rhag llifogydd.
2.2 Dull o ddatblygu Strategaeth Monitro a Gwerthusor Gronfa Ffyniant Bro
Mae strategaeth monitro a gwerthusor Gronfa Ffyniant Bro yn cynnwys pedair adran. 珂温艶r rhain yn disgrifior her syn wynebu lleoedd, sylfaen ddamcaniaethol sylfaenol y strategaeth monitro a gwerthuso, nodau ac amcanion y strategaeth honno, ar dull monitro a gwerthuso cyffredinol.
Dadansoddi Problemau syn crynhoir dadansoddiad a gynhaliwyd ir heriau syn wynebu lleoedd. 珂温艶r dadansoddiad yn seiliedig ar dystiolaeth or llenyddiaeth sydd ar gael ac ymgysylltu 但 rhanddeiliaid.
Theori Newid (ToC) syn darparur sail ddamcaniaethol i adeiladur dull monitro a gwerthuso. Defnyddiwyd dull theori newid ar sail actorion i gael dealltwriaeth fanwl or ffordd y maer Gronfan bwriadu mynd ir afael 但r problemau a nodwyd yn y dadansoddiad o broblemau. Yna cafodd hyn ei drosin ToC cyffredinol ar gyfer y Gronfa, gan ddisgrifio pum lefel o newid (Gweithgareddau, Allbynnau, Canlyniadau Canolraddol, Canlyniadau ac Effeithiau) yn ogystal 但u llwybrau achosol. 珂温艶r adran hefyd yn disgrifior tybiaethau ar rhagdybiaethau ac yn darparu cyfeiriadau at lenyddiaeth lle bor rheini ar gael.
Nodau ac Amcanion Monitro a Gwerthuso syn manylu ar nodau allweddol y Strategaeth Monitro a Gwerthuso ar hyn rydym yn bwriadu ei gyflawni.
珂温艶r Dull Monitro a Gwerthuso yn nodir pedwar prif weithgaredd a gynhelir i asesu darpariaeth, gwerth am arian ac effaith y Gronfa Ffyniant Bro, a rhai or cwestiynau allweddol y bydd y gweithgareddau hyn yn ceisio eu hateb.
3. Dadansoddi Problemau
Fel y nodir yn y Papur Gwyn Ffyniant Bro:
Mae gan y DU wahaniaethau daearyddol mwy na llawer o wledydd datblygedig eraill yn 担l mesurau lluosog, gan gynnwys cynhyrchiant, cyflog, cyrhaeddiad addysgol ac iechyd. Mae ardaloedd trefol a threfi arfordirol yn dioddef yn anghymesur o droseddu, tra bod gan leoedd 但 lefelau arbennig o uchel o amddifadedd, megis hen gymunedau mwyngloddio, ystadau trefol anghysbell a threfi glan m担r, y lefelau uchaf o angen cymunedol a chyfleoedd gwael ir bobl syn tyfu i fyny yno. 珂温艶r gwahaniaethau hyn yn aml yn fwy o fewn trefi, siroedd neu ranbarthau na rhyngddynt. 珂温艶r rhain yn hyper-leol a gall pocedi o gyfoeth ac amddifadedd fodoli yn yr un ardal. Yn wir, ceir llawer or ardaloedd gwaethaf o amddifadedd yn ninasoedd mwyaf llwyddiannus y DU. Er bod newid yn bosibl, mewn rhai achosion, maer gwahaniaethau hyn wedi parhau am lawer or ganrif ddiwethaf. Ac mae rhai o ddinasoedd mwyaf llwyddiannus y DU fel Birmingham, Manceinion, Leeds, Glasgow a Chaerdydd ar ei h担l hin rhyngwladol o ran cynhyrchiant ac incwm.
Mae Prosbectws y Gronfa Ffyniant Bro yn nodir hyn y maer polisi am ei gyflawni, drwy fuddsoddi mewn seilwaith i wella bywyd pob dydd, canolbwyntio ar wella twf economaidd, balchder mewn lle, a dod 但 chymunedau at ei gilydd. Mae hyn yn golygu mynd ir afael 但 gwahaniaethau economaidd a sbarduno ffyniant fel rhan o hybu ffyniant bro i ranbarthaur DU a adawyd ar ol, gwella bywydau drwy roi balchder i bobl yn eu cymunedau lleol, ac wrth ir wlad wella o effeithiau economaidd digynsail Covid-19, buddsoddi mewn prosiectau syn dwyn buddion economaidd, ond sydd hefyd yn helpu i rwymo cymunedau gydai gilydd. Er mwyn gwneud y gwerthusiad or Gronfa Ffyniant Bro mor effeithiol 但 phosibl, rydym wedi ceisio datblygur y bwriadau hyn a dysgu cymaint 但 phosibl. Felly, bydd mwy nar effeithiau cychwynnol a nodir yn y Prosbectws yn destun monitro a gwerthuso, gan ddefnyddior dystiolaeth ddiweddaraf ar Papur Gwyn Ffyniant Bro i nodir effeithiau y bydd y Gronfa yn eu cael ar gymdeithas yn gyffredinol.
Yn ogystal, cynlluniwyd y Gronfa gyda disgresiwn lleol mewn golwg. Mae lleoedd lleol wedi cynllunio prosiectau i ddiwallu anghenion lleol. Bydd y problemau ym mhob lle yn amrywio yn dibynnu ar gyd-destun y lle. Gall problemau ac atebion lleol fod yn wahanol ir darlun cenedlaethol, ac nid yw hwn yn bolisi syn cynnig un ateb syn addas i bawb.
Felly, at ddibenion y gwerthusiad hwn, rydym wedi nodir problemau eang canlynol syn wynebu lleoedd y bydd y Gronfan ceisio eu targedu:
Problem 1: Mae gwahaniaethau gofodol ledled y DU mewn canlyniadau economaidd gan gynnwys safonau byw, cyflog a chynhyrchiant is.
Problem 2: Mae gwahaniaethau gofodol mewn canlyniadau cymdeithasol gan gynnwys lefelau is o gydlyniant cymdeithasol, balchder mewn lle, lefelau uwch o droseddu a thai gwael.
Problem 3: Mae gwahaniaethau gofodol mewn canlyniadau iechyd gan gynnwys lefelau uwch o ddiabetes, ysmygu, alcoholiaeth, a marwolaethau cynamserol mewn ardaloedd o amddifadedd uwch.
Er bod y Gronfa Ffyniant Bro yn canolbwyntio ar seilwaith cyfalaf, maen bwysig cydnabod mai dim ond un o nifer or ffactorau lawer syn cyfrannu at y problemau a nodir uchod yw diffyg buddsoddiad cyfalaf. Cynigiar Papur Gwyn Ffyniant Bro fod ffyniant bron cael ei gyflawni gan system o chwe math o gyfalaf syn atgyfnerthu ei gilydd: ffisegol, anniriaethol, dynol, ariannol, cymdeithasol a sefydliadol. Bydd diffyg buddsoddi mewn seilwaith cyfalaf yn effeithio ar y rhan fwyaf, os nad pob un, or chwe math o gyfalaf y soniwyd amdanynt uchod mewn rhyw ffordd.
Drwy gyfres o weithdai ac ymgynghoriadau rhwng DLUHC ar Adran Drafnidiaeth a chyda chyngor gan DCMS, rydym wedi cynhyrchur crynodeb lefel uchel canlynol o ddadansoddi problemau isod.
Crynodeb Problem:
Problem 1: Mae gwahaniaethau gofodol ledled y DU o ran canlyniadau economaidd gan gynnwys safonau byw, cyflog a chynhyrchiant is.
Crynodeb:
- Mae perchnogaeth tir dameidiog o ran canol trefi a strydoedd mawr a dyheadau croes perchnogion tir ac eiddo yn arwain at heriau gyda strategaeth gynllunio a datblygu gydgysylltiedig.
- Mae gan leoedd fynediad gwael at gyllid, syn arwain at ddiffyg cyllid ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth, diwylliannol a dinesig allweddol.
- Mae materion trafnidiaeth a chysylltedd digidol yn gwneud lleoedd yn llai deniadol i bobl a busnesau. Mewn rhai ardaloedd, gall rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus fod yn dameidiog, gan arwain at deithiau hirach syn anghyfleus neun anymarferol. Ir rhai syn teithio mewn car, gall tagfeydd ac amseroedd teithio hirach effeithio ar y pellter y mae rhywun yn barod iw deithio am swydd. Gall cysylltedd digidol gwael ei gwneud yn llai deniadol i fusnesau sefydlu mewn lle neu i bobl weithio gartref.
- Nid yw twf economaidd y diwydiannau creadigol wedii ddosbarthun gyfartal ledled y DU, ac mae twf yn canolbwyntio ar Lundain ar de-ddwyrain.
- Mae yna fethiant marchnad syn arwain at wahaniaeth o ran cyfranogiad / ymgysylltiad 但r celfyddydau / diwylliant ac felly canlyniadau is-optimaidd.
- Adeiladau nad ydynt yn addas i ofynion yr oes bresennol. Nid yw trefniadaeth ofodol trefi a strydoedd mawr yn addas i ddefnydd 担l-ddiwydiannol.
- Ffactorau economaidd-gymdeithasol parhaus megis diweithdra ac amddifadedd rhwng cenedlaethau ar lefel deuluol, symudedd cymdeithasol gwael, anghydraddoldeb daearyddol a diboblogi cyffredinol uchel.
Problem 2: Mae gwahaniaethau gofodol mewn canlyniadau cymdeithasol yn y DU, lle mae gan rai mannau lefelau is o gydlyniant cymdeithasol, balchder mewn lle, lefelau uwch o droseddu a thai gwael.
Crynodeb:
- Mae dosbarthiad daearyddol anwastad o gyllid diwylliannol, gan leihaur cyfle i gymunedau ryngweithio a chymryd rhan mewn profiadau a gweithgareddau a rennir a allai fod yn bwysig wrth bennu lefelau balchder lleol. Lle mae asedau diwylliannol ar gael ac yn rhad ac am ddim/fforddiadwy gerllaw, nid oes gan bawb y cyfalaf diwylliannol i deimlon gyfforddus yn eu defnyddio.
- . Gall hyn hefyd gyfrannu at unigedd a llai o gyswllt cymdeithasol.
- gan arwain at gydlyniant cymdeithasol gwael
- a thai o ansawdd gwael yn eistedd ochr yn ochr ag amddifadedd a thanberfformio economaidd yn cyfrannu at lai o falchder mewn lle.
Problem 3: Ceir amrywiad sylweddol mewn canlyniadau iechyd (corfforol, meddyliol a lles), syn gysylltiedig 但 lefelau amddifadedd mewn mannau.
Crynodeb:
- Gall diffyg mannau cyhoeddus gwyrdd/glas (fel parciau a llynnoedd) gyfrannu at lai o ymdeimlad o les a llai o gyfleoedd am weithgareddau corfforol.
- Gall lefelau uwch o ddiweithdra mewn trefi gyfrannu at ganlyniadau iechyd gwael. Cael swydd oedd yr ail ffactor mwyaf yn gysylltiedig 但 lles ac mae cydberthynas rhwng
- Gall diffyg buddsoddiad mewn seilwaith cymdeithasol syn cefnogi agweddau ar ddiwylliant a chymuned leol gael effeithiau negyddol ar iechyd, lles a ffyniant economaidd ein cymunedau.
- Gall diffyg lle diogel i bobl ifanc mewn cymuned leol, gan gynnwys diffyg pethau iw gwneud y tu allan ir ysgol, arwain at fwy o ofn yn y gymuned i bobl ifanc.
Atebion
Yn sgil nodir problemau eang hyn, canolbwyntiodd Cylch 1 y Gronfa ffyniant Bro ar dair thema fuddsoddi eang: uwchraddio trafnidiaeth leol, adfywio canol trefi a strydoedd mawr, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth.
Trafnidiaeth leol
Gall buddsoddi mewn rhwydweithiau trafnidiaeth lleol adfywio econom誰au lleol drwy hybu twf, gwella cysylltedd, a chreu lleoedd iachach, gwyrddach a mwy deniadol i fyw a gweithio ynddynt. Mae bron pob taith yn dechrau ac yn gorffen ar rwydweithiau trafnidiaeth lleol, felly gall buddsoddiad wneud gwahaniaeth gwirioneddol, pendant i drigolion, busnesau a chymunedau. Gall prosiectau trafnidiaeth lleol chwarae rhan ganolog yn y gwaith o wella lleoedd a chryfhau ymdrechion i hybu ffyniant bro. Gallai hyn gynnwys uwchraddio seilwaith bysiau a beicio i wella mynediad at swyddi gan gefnogi aer glanach a theithio gwyrddach ac iachach; targedu gwelliannau ffyrdd lleol at fannau cyfyng tagfeydd, ac atgyweirio pontydd i sicrhau nad yw cymunedaun cael eu hynysu oddi wrth wasanaethau allweddol.
Adfywio
Mae canol trefi yn rhan hanfodol on cymunedau an heconom誰au lleol, gan ddarparu canolbwynt ar gyfer masnach manwerthu a lletygarwch, a chraidd disgyrchiant ystyrlon i gymunedau lleol. Mae llywodraeth y DU yn cydnabod bod newid ymddygiad defnyddwyr yn y blynyddoedd diwethaf wedi gwneud pethaun anoddach i fanwerthwyr yng nghanol ein trefi an strydoedd mawr, mater a amlygwyd fwyfwy gan effaith Covid-19. Yn ogystal, er bod rhai ardaloedd lleol wedi elwa ar raglenni fel y Gronfa Trefi, nid yw rhai lleoedd fel trefi llai wedi gallu manteisio ar y buddsoddiad hwn eto.
Yng Nghyllideb 2018, cyhoeddodd llywodraeth y DU Our Plan for the High Street, gan arwain nifer o fentrau gan gynnwys y Gronfa Trefi, i adnewyddu ac ail-lunio canol trefi a strydoedd mawr fel eu bod yn edrych ac yn teimlon well ac yn gallu ffynnu yn y tymor hir. Mae piler adfywior Gronfa Ffyniant Bro yn ceisio adeiladu ar yr athroniaeth hon ac ar y buddsoddiadau a wnaed hyd yn hyn drwyr Gronfa Trefi.
Bydd y Gronfan helpu cymunedau i drawsnewid safleoedd adfeiliedig, gwag neu safleoedd a ddefnyddir yn wael yn ganolfannau masnachol a chymunedol bywiog y gall pobl leol ymfalch誰o ynddynt.
Asedau diwylliannol a threftadaeth
Gall buddsoddi mewn asedau diwylliannol adfywio lleoedd, gan arwain at ganlyniadau economaidd a chymdeithasol cadarnhaol ar lefel leol. Gall helpu i gadw a thyfu gweithlu medrus iawn, denu twristiaid i gryfhau busnes lleol, a darparu cyfleoedd i dyfu cysylltiadau pobl a chymunedau 但 lleoedd. Yn ogystal, gall cefnogi datblygiad perthynas fwy cadarnhaol rhwng pobl a lle gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a chorfforol. Yn fyr, mae diwylliant a threftadaeth yn bethau syn dod 但 phobl at ei gilydd ledled y wlad ac yn cryfhau cymunedau.
Mae canfyddiad o le yn ffactor tynnu pwysig mewn penderfyniadau buddsoddi a lleoliad busnes, a gall effeithio ar allu lle i ddenu talent yn enwedig pobl ifanc a chadw gweithwyr. Mae gan lawer o drefi dreftadaeth ac ymdeimlad cryf o le eisoes, ac maent yn elwa ar eu hasedau diwylliannol a dinesig yn uniongyrchol, o refeniw twristiaeth ac ymwelwyr, ac yn anuniongyrchol, drwy ysbrydoli ymdeimlad o falchder lleol a chydlyniant cymunedol, gan wneud lleoedd yn fwy deniadol i fyw a gweithio ynddynt. Ochr yn ochr 但 threfi, mae ardaloedd gwledig hefyd yn aml yn meddu ar dapestri cyfoethog o asedau treftadaeth a diwylliant lleol.
Nid yw diogelu treftadaeth wedii gyfyngu i ddenu twristiaid yn unig; mae llawer o ganol trefi a dinasoedd ledled y DU yn hanesyddol ac yn hardd ynddynt eu hunain ac mae sicrhau bod hyn yn parhau yn hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol y busnesau sydd yno, gan weithio ar y cyd 但 thema adfywio a buddsoddi yng nghanol trefi y Gronfa Ffyniant Bro.
Egwyddorion allweddol
Yn ogystal ag anelu at fynd ir afael 但 phroblemau lleol penodol fel y nodwyd gan awdurdodau lleol, nod y Gronfa hefyd yw cynnal dwy egwyddor allweddol drwy gydol ei gweithredu:
- Egwyddor 1: Dylai rhaglennir Gronfa Ffyniant Bro fod yn gyson ag uchelgeisiau Sero Net y llywodraeth a chyfrannu at gyrraedd targedau amgylcheddol lleol.
- Egwyddor 2: Dylair rhaglen gyfrannu at lai o seilos rhwng adrannaur llywodraeth i wella rheoli economaidd cenedlaethol a galluoedd economaidd a rheoli economaidd lleol.
4. Theori Newid
Mae Theori Newid (ToC) yn mapio sut y disgwylir i ymyriad neu newid gyflawnir amcanion a ddymunir. Dengys y cysylltiadau rhwng y mewnbynnau ar gweithgareddau syn rhan o ymyriad, a sut y disgwylir i hyn arwain at allbynnau a chanlyniadau syn cynhyrchur effeithiau disgwyliedig.
Arweiniodd adolygiad o lenyddiaeth academaidd a dogfennau polisi at Theori Newid y bydd y gwerthusiad yn ceisioi phrofi. O ystyried them但u ymyrryd lluosog y Gronfa Ffyniant Bro, mae theor誰au newid thematig hefyd yn cael eu datblygu a byddant yn cyfrannu at gynllun y gwerthusiad.
Nodir Theori Newid ar lefel rhaglen yn ein theori newid lefel-uchel, gan ddangos y rhesymeg gyffredinol syn sail ir Gronfa Ffyniant Bro. Bydd prosiectau lleol yn ymateb i broblemau syn seiliedig ar fannau ac felly bydd rhaglennir Gronfan amrywion sylweddol o ran them但u ymyrryd, graddfar buddsoddiad ar ddarpariaeth. Felly, gall canlyniadau ac effeithiau amrywio or Theori Newid ar lefel rhaglen ar gyfer prosiectau unigol.
Bydd yr amserlenni disgwyliedig ar gyfer cyflawni prosiectau, gwireddu canlyniadau ac effeithiau yn amrywio o ran natur ac amcanion pob prosiect. Er enghraifft, gallai ymyriad teithio llesol (megis adeiladu llwybr beicio newydd) ddisgwyl gweld canlyniadau canolraddol yn cael eu gwireddun fuan ar 担l ir ymyriadau gael eu gweithredu (e.e. drwy gynyddur nifer syn dechrau beicio), ond ar gyfer prosiect adfywio masnachol ar raddfa fawr gall gymryd sawl blwyddyn i sylwi ar unrhyw newidiadau mewn cyfraddau cyflog a chyflogaeth canolrifol. Dylid nodi hefyd fod yr effeithiau a amlinellir yn y ToC yn debygol o ddod ir amlwg dros gyfnod cymharol hir ar 担l y prosiect e.e. gallai gymryd 5 i 10 mlynedd i allu mesur effeithiau cynlluniau ar berfformiad economaidd.
Theori Newid Lefel Uchel:
Mewnbynnau:
- Mae 贈4.8 biliwn o gyllid canolog wedii ddyrannu i awdurdodau lleol ei wario ar gymysgedd o brosiectau ar draws tair thema, sef buddsoddi mewn trafnidiaeth, adfywio a diwylliant
- Canllawiau canolog ar ddewis a chyflenwi pecyn o ymyriadaun llwyddiannus
- Canllawiau a chymorth prosiect llywodraeth ganolog
- Gwybodaeth leol am benderfynwyr ym mhob lle a chynnig prosiect
Gweithgareddau:
- Gall pob lle godi digon o gyfanswm arian i gyflenwi pecyn arfaethedig o ymyriadau
- Cymorth llywodraeth ganolog ar gyfer gwella a monitro parhaus
Ym mhob lle, gall penderfynwyr gynnig pecyn o ymyriadau:
1: Ymyriadau teithio llesol
2: Buddsoddiad trafnidiaeth gyhoeddus
3: Buddsoddiad mewn ffyrdd
4: Buddsoddiad diwylliannol
5: Adfywio masnachol
6: Adfywio dinesig
7: Adfywio preswyl
Allbynnau:
- Mae pob lle dethol yn cyflenwir pecyn o ymyriadau arfaethedig.
- Yn y rhan fwyaf o leoedd, bydd ansawdd cyflenwi a graddaur cwblhau yn ddigonol i gyflawni o leiaf rhai or canlyniadau canolradd a ddisgwylir.
Canlyniadau Canolradd:
Gan ddibynnu ar y cyfuniad o weithgareddau y mae lleoedd yn eu gwneud, byddant yn disgwyl cymysgedd or canlyniadau canlynol:
1: Gwell GYC yr awr
2: Gwell cyflog canolrifol
3: Gwell cyfraddau cyflogaeth
4: Buddsoddiad preifat cynyddol
5: Mwy yn manteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol
6: Llai o amser teithio ir canol trefol sylweddol agosaf
7: Gwell gwasanaeth 5G daearyddol a gwell gwasanaeth safle band eang gigabeit
8: Gwell disgwyliad oes iachus
9: Gwell lles
10: Gwell balchder mewn lle
11: Gwell mynediad at dai o ansawdd da
12: Llai o droseddu cymdogaeth
Effeithiau Tymor Hir:
- Gwell perfformiad economaidd (twf economaidd)
- Gwell canlyniadau cymdeithasol (e.e. balchder mewn lle)
- Gwell canlyniadau iechyd
Blaenioraethau rhaglen
- Gwell cydredeg o ran targedau amgylcheddol lleol a chenedlaethol
- Gwell galluoedd economaidd a rheoli economaidd lleol
- Llai o seilos rhwng adrannau llywodraeth i wella rheoli economaidd cenedlaethol
Gall nifer o alluogwyr ddylanwadu ar y cysylltiadau rhwng cyfnodaur Theori Newid, syn hwyluso cyflenwad a llwyddiant rhaglenni. Mae cyflenwi rhaglenni hefyd yn agored i effeithiau allanoldeb, syn effeithiau gorlif negyddol posibl nad ydynt yn ganlyniadau nac effeithiau dymunol y rhaglen (er enghraifft, mae perygl bod polis誰au syn cynyddu gweithgarwch economaidd a gwerth tir mewn lleoedd yn arwain at ddadleoli ar gyfer grwpiau incwm is). Yn ogystal, gall risgiau effeithio ar gyflenwi rhaglenni au heffeithiau. Mae yna hefyd nifer o ragdybiaethau allweddol syn sail ir cysylltiadau rhwng cydrannaur Theori Newid. Rydym yn nodir galluogwyr, yr effeithiau allanoldeb ar risgiau hynny, ar rhagdybiaethau isod.
Galluogwyr allweddol
-
Amodau macroeconomaidd sefydlog (gan gynnwys chwyddiant, ysgytiadau ir economi fyd-eang, ysgytiadau ir farchnad lafur).
-
Adferiad llyfn o bandemig Covid-19 a llacior cyfyngiadau.
-
Bod gan awdurdodau lleol y sgiliau a/neur mynediad at y sgiliau sydd eu hangen i gwblhau prosiectau, e.e. penseiri, dylunwyr, cynllunwyr dinasoedd, gallu adeiladu.
-
Bod llywodraeth ganolog yn chwarae r担l gefnogol effeithiol i awdurdodau lleol.
-
Bod llywodraeth ganolog yn gweithion effeithiol ar draws adrannau i gyflawni blaenoriaethau hybu ffyniant bro.
Effeithiau allanoldeb a risgiau allweddol
-
Mae perygl bod polis誰au syn cynyddu gweithgarwch economaidd a gwerth tir mewn lleoedd yn arwain at ddadleoli ar gyfer grwpiau incwm is.
-
Mae tystiolaeth werthuso o raglenni tebyg yn y gorffennol yn awgrymu bod perygl mai cymudwyr, yn hytrach na phreswylwyr, fydd yn elwa ar ymyriadau.
-
Mae prosiectau adeiladu nad ydynt yn cydredeg ag ymrwymiadau Sero Net yn mentro cynyddu allyriadau yn y tymor hir.
-
Gall buddsoddi mewn trafnidiaeth i wella seilwaith ffyrdd arwain at fwy o deithiau ceir preifat, a allai fod yn groes ir nod o gynyddur nifer syn manteisio ar ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio.
-
Mae perygl y bydd chwyddiant tymor byr (Ym mis Chwefror 2022, mae chwyddiant ar ei uchaf ers 30 mlynedd sef 6.2% yn 担l . Rhagwelir rhagor o gynnydd ar gyfer 2022, y disgwylir iddo arwain at frig o dros 7% yng Ngwanwyn 2022. Gallai hyn effeithion sylweddol ar y costau ar gyfer cyflenwi, oherwydd costau cynyddol llafur, deunyddiau a chydrannau) yn cynyddu costau cyflenwi ac yn effeithio ar werth am arian y prosiect. Yn ogystal, gall cyfyngiadau ar yr ochr gyflenwi ei gwneud yn anodd cael gafael ar rai deunyddiau a chynhyrchion.
Rhagdybiaethau a thybiaethau allweddol
-
Bod prosiectaun cydredeg yn dda 但 nodau strategol y Gronfa Ffyniant Bro.
-
Bod prosiectaur Gronfa yn cael eu cyflenwi mewn pryd yn 担l y cynllun.
-
Os bydd lleoedd yn ymgysylltu 但r gymuned leol drwy gydol y broses o gynllunio a datblygu prosiectau, bydd ymyriadaun fwy tebygol o gael cefnogaeth leol ac felly cael mwy o effaith.
-
Bod angen i ardaloedd gael y swm gorau posibl o gyllid, digon i gael effaith wirioneddol.
-
Os darperir cymorth i fynd ir afael 但 bylchau capasiti a gallu ac adeiladu partneriaethau, bod buddsoddiadau cyfalaf yn fwy tebygol o lwyddo i greu twf cynaliadwy yn lleol.
-
Os bydd lleoedd yn gwellar amgylchedd adeiledig, sgiliau a chyfleoedd busnes, a chysylltedd trafnidiaeth, bydd y newidiadau hyn yn gwella delwedd ac ymdeimlad o le ymhlith trigolion yn ogystal ag ymhlith darpar ymwelwyr a buddsoddwyr.
-
Os bydd delwedd ar ymdeimlad o le ymhlith trigolion, darpar ymwelwyr a buddsoddwyr yn gwella, yna yn y tymor hwy dylai hyn gynyddur galw ar cyflenwad, gan wella twf economaidd.
-
Os oes gan leoedd opsiynau trafnidiaeth o ansawdd da, yna bydd cysylltedd ar nifer syn manteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus/teithio llesol yn gwella, a all gael effaith gadarnhaol ar fusnesau newydd, cyflogaeth, buddsoddi a nifer yr ymwelwyr 但 chanol trefi.
5. Nodau ac Amcanion Monitro a Gwerthuso
珂温艶r Gronfa Ffyniant Bro yn gyfle unigryw i ddatblygu gwell dealltwriaeth or hyn syn gweithio ar gyfer hybu ffyniant bro yn y DU. Oherwydd lledaeniad them但u prosiectau a lleoliadau daearyddol yn nyraniad y Gronfa, mae cyfle i ddysgu o ystod eang o ymyriadau ledled y DU.
Bydd gwaith monitro a gwerthusor Gronfa yn cynnwys y prif elfennau a restrir isod:
Monitro:
Olrhain a yw lleoedd yn cyflawnir hyn y dywedasant eu bod yn mynd iw gyflawni, pan ddywedasant eu bod yn mynd iw gyflawni, ac yn unol 但r costau a ragwelwyd.
Gwerthuso Prosesau:
Archwilior hyn a weithiodd yn dda, ar hyn nad oedd yn gweithio fel y bwriadwyd, wrth gynllunio a chyflenwir gronfa, a pham.
Gwerthuso Effaith:
Asesu pa newidiadau sydd wedi digwydd, maint y newidiadau hynny ac i ba raddau y gellir eu priodoli ir ymyriad.
Gwerthuso Gwerth am Arian:
Deall a oedd y Gronfan darparu gwerth am arian. 珂温艶r union ddull o weithredu hefyd yn dibynnu ar ganlyniadaur astudiaeth ddichonoldeb a amlinellir isod (adran 6.3).
6. Dull Monitro a Gwerthuso
Bydd y Gronfa Ffyniant Bro yn ariannu prosiectau ledled y DU, gan ddefnyddio dulliau syn seiliedig ar le ar draws meysydd ymyrryd thematig. Yng Nghylch 1 y Gronfa, cafodd 105 o leoedd gyllid, gyda mwy o leoedd i gael cyllid mewn cylchoedd yn y dyfodol. Felly, mae nifer o lefelau lle gallem werthusor Gronfa, yn amrywio o werthusiadau ar sail lle o gynlluniau unigol (a gynhelir gan awdurdodau lleol a hyrwyddwyr cynlluniau eraill), gwerthusiadau thematig (e.e. canolbwyntio ar grwpiau o ymyriadau tebyg i wella ein dealltwriaeth or hyn syn gweithio), i asesu effaith ac effeithiolrwydd y cyflenwi ar lefel rhaglen o bosibl. Maen ofynnol i awdurdodau lleol adrodd ar ddata monitro i lywodraeth ganolog a chynnal eu gwerthusiadau eu hunain syn seiliedig ar le.
Rydym wrthin datblygur cynllun ar gyfer y gwerthusiad cyffredinol or rhaglen ac rydym yn bwriadu cynnal astudiaeth ddichonoldeb i asesun llawn yr opsiynau ar gyfer gwerthusiadau effaith a gwerth am arian. 珂温艶r adran ganlynol yn nodi nodaur gwerthusiad ar lefel rhaglen an cynigion ar gyfer datblygur cynlluniau hyn ymhellach yn ystod y misoedd nesaf.
6.1 Monitro
Nod
Defnyddir monitro i olrhain cynnydd prosiectau ac i nodi lle y gallai fod angen cymorth ychwanegol drwy gydol y rhaglen. Bydd y data monitro a gesglir yn galluogir adran i wirio cynnydd yn erbyn cerrig milltir y prosiect, sicrhau bod cyllid yn cael ei wario yn unol 但 thelerau y cytunwyd arnynt, a bod yr allbynnau y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni. Bydd y gweithgaredd hwn hefyd yn ceisio nodi pwy syn elwa ar y rhaglen. Bydd y data a gesglir hefyd yn cyfrannu at werthusiadau proses, effaith a gwerth am arian y rhaglen.
Gallair cwestiynau allweddol gynnwys:
1. Sut mae lleoedd yn perfformio o ran:
a. Cynnydd yn erbyn cynllun cyflawni
b. Gwariant yn erbyn proffil
c. Cyflawni allbynnau y cytunwyd arnynt
ch. Nodi a lliniaru risgiau
d. Nodi heriau a chyfleoedd
2. A ywr lle dan sylw yn bodloni gofynion sicrwydd er mwyn gallu rhoir taliadau nesaf?
3. Os na, pam felly? Pa gamau sydd eu hangen i fynd yn 担l ar y trywydd iawn?
Caiff y cwestiynau canlynol eu hateb yn rhannol drwyr wybodaeth fonitro ond byddant yn cael eu harchwilio ymhellach yn rhan or gwerthusiad proses:
4. Pa gymorth sydd ei angen ar leoedd tra byddant yn y cyfnod cyflenwi?
5. Beth syn gweithion dda o ran cyflenwi, a beth sydd angen ei wella?
6. Pa wersi ar gyflawni y gellir eu rhannu o fewn cyfnod y rhaglen?
Ffynonellau data
Bydd derbynyddion y Gronfan gyfrifol am ddarparu data monitro bob chwarter a phob chwe mis. Nodwyd y data syn ofynnol ym mhob pwynt mewn canllawiau monitro a gwerthuso a rannwyd gyda derbynyddion Cylch 1 y Gronfa Ffyniant Bro ym mis Tachwedd 2021, ynghyd 但 rhestri o ddangosyddion allbwn a chanlyniad safonedig (h.y. dangosyddion gyda diffiniadau safonol, unedau mesur, a gofynion tystiolaeth). Ar yr un pryd, cynhaliodd yr adran ymarfer casglu gwybodaeth, gan gynnwys proffiliau ariannol, cynlluniau cyflawni, allbynnau a risgiau, i ganfod rhagolygon ar gyfer pob prosiect cyn iddo ddechrau. Bydd templed monitro, ynghyd 但 chanllawiau manwl pellach ar sut i gwblhau hyn, yn cael ei rannu 但 derbynyddion Cylch 1 y Gronfa yng Ngwanwyn 2022.
珂温艶r data monitro y gofynnir amdano gan dderbynyddion y Gronfa yn cydredeg 但 strwythur Theori Newid ac, felly, maen cynnwys:
- Mewnbynnau a Gweithgareddau (e.e., swm a wariwyd ar gyflawni prosiectau)
- Allbynnau (e.e., faint o le diwydiannol newydd a gr谷wyd)
- Canlyniadau Canolraddol (e.e., newid yn nifer yr ymwelwyr)
- Canlyniadau (e.e., newid mewn buddsoddiad preifat)
Bydd yn ofynnol i dderbynyddion y Gronfa Ffyniant Bro adrodd ar fewnbynnau, gweithgareddau ac allbynnau hyd nes y cwblheir y prosiect ar y cynharaf ond, ar gyfer rhai dangosyddion yn enwedig canlyniadau efallai y bydd angen casglu ac adrodd ar ddata am sawl blwyddyn ar 担l cwblhaur prosiect. Gan fod amgylchiadau pob prosiect yn unigryw, byddwn yn cytuno ar y telerau gyda phob derbynnydd pan fydd eu prosiectau wediu cadarnhau.
Rhagwelir y bydd DLUHC a DFT hefyd yn casglu ac yn dadansoddi data ar ganlyniadau/effeithiau yn unol ag amserlenni hirach, gan ddefnyddio data y tu hwnt ir hyn a gesglir gan dderbynyddion y Gronfa. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys setiau data gweinyddol, casgliadau ystadegol rheolaidd neu ymchwil bwrpasol megis arolygon. Caiff hyn ei archwilio ymhellach yn rhan or gwaith cynllunio manylach a fydd yn dilyn y strategaeth hon.
Gall derbynyddion y Gronfa gael y data y gofynnir amdano yn y templed monitro o wahanol ffynonellau. Rhagwelir y bydd y rhan fwyaf or datan cael ei gasglun uniongyrchol gan dderbynyddion drwy gasglu data sylfaenol. Mewn rhai achosion, gall partneriaid prosiect ddarparu data; caiff y derbynnydd ddewis contractior gwaith casglu data allan i sefydliad trydydd parti; neu gall y derbynnydd gaffael data (e.e. ar gyfer olrhain canlyniadau penodol). Ym mhob achos or fath, cyfrifoldeb y derbynnydd o hyd fydd adrodd ar y data drwyr prosesau monitro y cytunwyd arnynt.
Bydd y data monitro a gyflwynir i DLUHC ar Adran Drafnidiaeth gan dderbynyddion y Gronfa Ffyniant Bro yn chwarae rhan hanfodol mewn prosesau sicrwydd a rheoli perfformiad, ond disgwylir iddo hefyd gyfrannu at bob lefel o werthuso. Ni ddisgwylir i ddysgu gael ei gyfyngu i adroddiadau gwerthuso interim a therfynol, gan y bydd dadansoddiad parhaus or data yn galluogi dysgu gwersi, a gwneud penderfyniadau mwy effeithiol, wrth ir rhaglen fynd rhagddi. Lle bynnag y bo modd, bydd y mewnwelediadau ar gwersi hyn yn cael eu lledaenu ymhlith derbynyddion a rhanddeiliaid perthnasol, er mwyn mynd ir afael 但 materion, gwellar ddarpariaeth, a gwneud y mwyaf o effaith y gronfa.
6.2 Gwerthuso prosesau
Nod
Nod y gwerthusiad proses yw deall sut y cafodd y Gronfa Ffyniant Bro ei chyflenwi mewn ardaloedd a gafodd gyllid. Bydd yn cynhyrchu gwersi ar yr hyn a weithiodd yn dda ar hyn nad oedd yn gweithio fel y bwriadwyd, a fydd yn cyfrannu at welliant parhaus mewn cylchoedd cyflenwi dilynol. Defnyddir y gwersi hyn a ddysgwyd hefyd i lywior gwaith o gynllunio polis誰au a chyflenwi cronfeydd eraill. Bydd gwaith cwmpasu pellach yn cael ei wneud i bennur fethodoleg ar gyfer y gwerthusiad proses, a cheir amlinelliad bras or dull arfaethedig isod.
Gallair cwestiynau allweddol gynnwys:
Proses ac ymgysylltu ar lefel rhaglen
1. Pa mor dda y gweithredwyd y gystadleuaeth ar gronfa?
2. I ba raddau y maer broses wedi adeiladu arweinyddiaeth, partneriaethau a/neu allu mewn awdurdodau lleol (neu yng Ngogledd Iwerddon, sefydliadau fel prifysgolion)?
3. I ba raddau y maer Gronfa Ffyniant Bro wedi galluogi perthynas waith agosach o fewn llywodraeth ganolog o ran mynd ir afael 但 heriau twf economaidd ar draws pob rhan or Deyrnas Unedig?
4. I ba raddau y mae llai o seilos a chydweithrediad cryfach rhwng DLUHC, yr Adran Drafnidiaeth a Thrysorlys EM? A aethpwyd ir afael 但 heriau economaidd mewn mannau 但 blaenoriaeth ledled y Deyrnas Unedig drwy ymyriadau symlach, teilwredig a chydlynol?
Cyflenwi ar lefel ymyriad
5. Wrth gynllunio eu prosiectau, i ba raddau yr ymgynghorodd ymgeiswyr am grantiau 但 phob gr典p perthnasol, gan gynnwys pobl o gefndiroedd sydd wediu hallg叩u a/neu o dan anfantais?
6. Ller oedd cais gan awdurdod lleol, i ba raddau yr oedd yn ymwybodol o anghenion grwpiau sydd wediu hallg叩u a/neu grwpiau o dan anfantais, ac a ywr rhain yn cael sylw llawn yn y cais?
7. Pa gymorth a gafodd lleoedd gan y llywodraeth ganolog? A gafodd hynny effaith sylweddol ar gyflawni prosiectaun llwyddiannus ar canlyniadau ar allbynnau a geisiwyd?
8. Pa gymorth oedd ei angen ar sefydliadau eraill yng Ngogledd Iwerddon i gyflenwir Gronfa Ffyniant Bro? A oeddent yn wahanol i awdurdodau lleol o ran gweithredur Gronfa?
9. Os cafodd partneriaid cyflenwi eu penodi, pa wahaniaeth a wnaethant wrth weithredu rhaglenni?
10. Pa gymorth sydd ei angen ar leoedd tra byddant yn y cyfnod cyflenwi?
11. Beth syn gweithion dda o ran cyflenwi, a beth sydd angen ei wella?
12. Pa wersi ar gyflenwi y gellir eu rhannu o fewn cyfnod y rhaglen?
13. A fethodd unrhyw leoedd 但 chyrraedd eu nodau au hamcanion? A oedd gan y lleoedd hyn unrhyw nodweddion a rennir?
14. A oedd unrhyw alluogwyr neu hwyluswyr cyffredin a gyfrannodd yn gadarnhaol at wireddu canlyniadau?
15. A oedd unrhyw rwystrau cyffredin a gyfrannodd yn negyddol at wireddu canlyniadau?
Ffynonellau data
Bydd y gwerthusiad proses yn defnyddio data monitro rheolaidd a ddarperir gan leoedd. Gellir ategu hyn gyda setiau data gweinyddol i roi trosolwg meintiol o berfformiad pob lle yn erbyn ei ddangosyddion ai fetrigau allweddol. Bydd cyfweliadau a grwpiau ffocws gydag arweinwyr lle a rheolwyr prosiect yn rhoi cipolwg ansoddol i ehangu ar ddata meintiol. Bydd y gweithgareddau ymchwil ansoddol hyn yn rhoi cipolwg gweithredol ar lawr gwlad ar yr hyn a weithiodd yn dda wrth gyflenwi a gweithredur Gronfa Ffyniant Bro, ar hyn nad oedd yn gweithio fel y bwriadwyd.
珂温艶r canllawiau technegol a ddaw gydar Gronfa hefyd yn gofyn bod lleoedd yn datblygu a chyflwyno eu gwerthusiadau lleol eu hunain. Yn yr un modd 但r gweithgaredd monitro, rhagwelir y bydd lleoedd naill ain casglu eu data eu hunain neun comisiynu hyn i bartneriaid prosiect neu sefydliadau trydydd parti.
6.3 Gwerthusiadau effaith a gwerth am arian
Rydym wedi ymrwymo i gynnal gwerthusiadau effaith cadarn o ansawdd uchel ar ein polis誰au, lle bynnag y bo modd. O ystyried cymhlethdod model cyflenwir Gronfa Ffyniant Bro ar potensial i leoedd llwyddiannus gael arian arall gyda nodau ac amcanion tebyg, bydd yn heriol cynllunio gwerthusiad effaith a all ddangos yn glir gysylltiadau achosol rhwng ymyriadau ac effeithiau. Fel y cyfryw, mae angen ymchwilio ymhellach i gwmpasur gwerthusiadau effaith a gwerth am arian er mwyn deall pa fethodoleg sydd ar gael i asesu effaith y Gronfa.
Ar gyfer gwerthusiadau effaith ar draws y rhaglen, cynhelir astudiaeth ddichonoldeb i ganfod beth y gellir ei gyflawni o ystyried cymhlethdod model cyflenwir Gronfa, ac a ellir meintioli canlyniadau ac effeithiau au priodolin uniongyrchol ir Gronfa ar lefel y rhaglen. Bydd yr astudiaethau dichonoldeb yn taflu goleuni ar ba ddulliau gwerthuso sydd fwyaf priodol, yn seiliedig ar archwilio pa ganlyniad neu ganlyniadau y gellir eu defnyddio i fesur effaith er enghraifft, dewis rhwng dulliau syn seiliedig ar theori neu ddulliau lled-arbrofol. Bydd hyn hefyd yn helpu sefydlur amseriadau ar gyfer cyflawni gweithgareddau gwerthuso, ar gwaith casglu data sydd ei angen. Byddwn yn archwilio defnyddio setiau data gweinyddol, gan gynnwys Gwasanaeth Data Integredig y Swyddfa Ystadegau Gwladol a data gan adrannau eraill y llywodraeth, ar y cyd 但 setiau data masnachol, i gynnal gwerthusiadau effaith ond gallai hyn newid ac esblygu ar 担l cwblhaur astudiaethau dichonoldeb.
Fel yr amlinellir yn adran 6, efallai yr awn hefyd ar drywydd yr opsiwn o gynnal gwerthusiadau effaith thematig. Gallair rhain ganolbwyntio ar grwpiau o ymyriadau tebyg i gasglu tystiolaeth fwy cadarn ynghylch a yw mathau penodol o ymyriadau yn effeithiol o ran cyflawni eu hamcanion. Gallai hyn hefyd roi cyfle i sefydlu grwpiau rheoli mewn ardaloedd sydd 但 mathau tebyg o nodweddion ond na chawsant yr ymyriadau dan sylw. Wrth gynllunio gwerthusiadau thematig, gallem gael ein harwain gan y saith is-thema a amlinellir yn y Theori Newid: ymyriadau teithio llesol, buddsoddiadau trafnidiaeth gyhoeddus, buddsoddiadau ffyrdd, buddsoddiadau diwylliannol, adfywio masnachol, adfywio dinesig, ac adfywio cymunedol. Mae theor誰au newid mwy gronynnog ar gyfer y them但u hyn ar y gweill, a thrwyr astudiaethau dichonoldeb byddwn yn ceisio deall pa ddulliau a allai fod fwyaf priodol ar gyfer cynnal y lefel hon o werthusiad. Gall y gwerthusiadau effaith thematig hyn hefyd gynnwys astudiaethau achos syn archwilio data ansoddol a meintiol mewn mannau penodol, er mwyn adeiladu dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o effaith ymyriadau.
Bydd y gallu i briodoli achosoldeb rhwng mewnbynnau/gweithgareddau ac effeithiau yn cael effaith uniongyrchol ar sut y gallwn, neu a allwn, gynnal gwerthusiad gwerth am arian. Os na allwn gysylltu canlyniadau ac effeithiau 但r Gronfa, ni fyddwn yn gallu asesu a ywn sicrhau gwerth am arian. Maen allweddol, felly, ein bod yn archwilio a allwn asesu graddaur berthynas achosol rhwng gweithgareddau ac effeithiau cyn y gallwn ystyried y dulliau ar ffynonellau data a fydd fwyaf priodol i ddangos effeithiolrwydd, cynildeb, effeithlonrwydd a thegwch y Gronfa. Bydd angen ir dull gwerthuso gwerth am arian syn deillio o hynny fod yn gymhleth i gyfrif am gymhlethdod model cyflenwir Gronfa ar ystod bosibl o fanteision a allai ddod ir amlwg.
Yn yr un modd 但r opsiwn o gynnal gwerthusiadau effaith thematig, gall yr astudiaethau dichonoldeb hefyd archwilio posibilrwydd cynnal gwerthusiadau gwerth am arian o brosiectau unigol, neu fathau o brosiectau wediu grwpio o dan yr is-them但u ymyrryd a restrwyd yn flaenorol. Os ywn ymarferol, bydd y gwerthusiadau gwerth am arian hyn ar lefel ymyriad yn anelu at ddarparu rhywfaint o dystiolaeth gadarn o beth syn gweithio os na allwn gynnal gwerthusiadau gwerth am arian ar lefel rhaglen.
7. Y camau nesaf
珂温艶r ddogfen hon yn cyflwyno strategaeth lefel uchel ar gyfer monitro a gwerthusor Gronfa Ffyniant Bro. Fei dilynir gan gam cynllunio gwerthuso manylach a fydd yn ystyried dulliau, methodoleg ac argaeledd data mewn perthynas 但 phob un or prif weithgareddau gwerthuso (proses, effaith a gwerth am arian). Bydd y cam cynllunio hwn (a fydd yn ymgorfforir asesiadau dichonoldeb a amlinellir uchod) yn ystyried ymhellach raddfa a logisteg y gweithgareddau gwerthuso, gan gynnwys pa weithgareddau a gynhelir yn fewnol neu a gomisiynir i arbenigwyr allanol.
Efallai bydd diweddariadau pellach ir strategaeth yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn 2022, gan gwmpasu cynllun y gweithgareddau gwerthuso effaith, proses a gwerth am arian.