Canllawiau

Canllawiau bywyd cwmni (ffeilio a yrrir gan ddigwyddiadau)

Diweddarwyd 1 Mai 2024

1. Cyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion

1.1 Maer cyfarwyddwyr o dan gyfrifoldeb i baratoi dogfennau au cyflwyno, ar ran y cwmni, i D天r Cwmn誰au yn unol 但 gofynion y Ddeddf Cwmn誰au. Maer rhain yn cynnwys:

  • ffeilio datganiad cadarnhau
  • cyfrifon blynyddol
  • rhoi gwybod am unrhyw newid yn swyddogion y cwmni neu yn eu manylion personol
  • rhoi gwybod am newid yn swyddfa gofrestredig y cwmni
  • clustnodi cyfrannau
  • cofrestru arwystlon
  • hysbysiad o unrhyw newid yn manylion PRhA y cwmni neur datganiadau gofynnol syn gysylltiedig 但 hwy

1.2 Y gwahaniaethau rhwng y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau ar cyfeiriad preswyl arferol

Maer cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn un y gall cyfarwyddwr ei ddefnyddio i dderbyn gohebiaeth gan drydydd part誰on mewn perthynas 但r cwmni. Gall y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau fod yr un fath 但 chyfeiriad preswyl y person neu gyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni, neu gall fod yn rhywle arall.

Y cyfeiriad preswyl arferol yw cyfeiriad cartref arferol y cyfarwyddwr o dan sylw. Mae angen ei ffeilio gydar Cofrestrydd o hyd, ond ni fydd ar gael ar y cofnod cyhoeddus i bawb ei weld. Caiff ei gadw ar gofrestr breifat a dim ond sefydliadau a bennir ymlaen llaw gaiff weld y gofrestr hon.

1.3 Beth ywr gwahaniaeth rhwng y gofrestr cyfarwyddwyr ar gofrestr o gyfeiriadau preswyl y cyfarwyddwyr?

Ar gyfer pob cyfarwyddwr syn unigolyn, maer gofrestr cyfarwyddwyr yn cynnwys:

  • enw ac unrhyw enwau blaenorol
  • y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau (y gellir ei nodi fel swyddfa gofrestredig y cwmni)
  • y wlad neur wladwriaeth neur rhan or Deyrnas Unedig y mae fel arfer yn preswylio ynddi
  • cenedl, galwedigaeth busnes (os oes un) a dyddiad geni

Ar gyfer cyfarwyddwyr syn gwmn誰au neun ffyrmiau, bydd y gofrestr cyfarwyddwyr yn cynnwys:

  • yr enw corfforaethol neu enwr busnes
  • y swyddfa gofrestredig neur brif swyddfa
  • yn achos cwmni cyfyngedig sydd wedii ymgorffori ai gofrestru yn y DU - ei rif cofrestru; fel arall, ffurf gyfreithiol y cwmni neur cwmni ar gyfraith y maen cael ei llywodraethu ganddo ac, os ywn berthnasol, lle yi cofrestrwyd ai rif cofrestru

Maer gofrestr o gyfeiriadau preswyl y cyfarwyddwyr yn cynnwys cyfeiriad preswyl arferol pob cyfarwyddwr syn unigolyn. Ar yr amod nad swyddfa gofrestredig y cwmni ywr cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau ir cyfarwyddwr, yna caiff y cofnod ddweud rhywbeth ir perwyl bod y cyfeiriad preswyl arferol yr un fath 但r cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau.

Rhaid ir gofrestr cyfarwyddwyr gael ei chadw ar gael iw harchwilio; rhaid peidio 但 datgelur wybodaeth ar y gofrestr o gyfeiriadau preswyl y cyfarwyddwyr. Dim ond i gyfathrebu 但r cyfarwyddwr ac i gyflwyno gwybodaeth i D天r Cwmn誰au i ddiweddarur cofnodion syn cael eu cadw yno, y caiff y cwmni ddefnyddior wybodaeth yn y gofrestr hon. Ni chaiff y cwmni defnyddior wybodaeth hon at yr un diben arall onibai naill ai bod y cyfarwyddwr wedi rhoi ei gydsyniad neu fod y llys yn gofyn.

1.4 Pan gyflenwir cyfeiriad preswyl i D天r Cwmn誰au

Ni fydd cyfeiriadau preswyl yn ymddangos ar y cofnod cyhoeddus oni bai eich bod yn eu darparu yn y rhan gywir or ffurflen benodi neur ffurflen newid manylion. Yn achos ffurflenni papur, bydd y rhan hon yn dudalen ar wah但n, ac wrth ffeilio dogfennau electronig fe fydd meysydd ychwanegol ar gyfer y cyfeiriad. Dim ond i asiantaethau hanes credyd ac awdurdodau cyhoeddus penodol, megis yr heddlu, y byddwn yn rhoi gwybodaeth am gyfeiriad cartref. Gweler y canllaw ar Cyfyngu datgeliad eich cyfeiriad

1.5 Beth yw r担l ysgrifennydd cwmni?

Does dim rhaid i gwmn誰au preifat benodi ysgrifennydd oni bai bod eu herthyglau cymdeithasiad yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw wneud hynny, er eu bod yn cael dewis ei gwneud beth bynnag.

Rhaid i Gwmni Cyfyngedig Cyhoeddus (CCC) gael o leiaf un ysgrifennydd. Gweler y canllaw ymgorffori ac enwi am ragor o wybodaeth am benodi ysgrifennydd i CDP.

Nid ywr ddeddfwriaeth yn nodi r担l ysgrifennydd y cwmni. Mae hyn fel arfer wedii gynnwys yn eu contract cyflogaeth. Er hynny, fel rheol, fe allai ysgrifennydd cwmni ymgymryd 但r canlynol:

  • cadwr cofrestrau statudol
  • sicrhau bod y cwmni yn ffeilio gwybodaeth statudol yn brydlon
  • rhoi gwybod am gyfarfodydd ir aelodau ar cyfarwyddwyr
  • rhoi penderfyniadau ysgrifenedig arfaethedig ir aelodau a rhoi unrhyw benderfyniadau sydd wediu pasio ir archwilwyr
  • cyflwyno cop誰au o benderfyniadau a chytundebau i D天r Cwmn誰au
  • rhoi copi or cyfrifon i bob aelod or cwmni, pob dyledebwr a phawb sydd 但 hawl i gael gwybod am gyfarfodydd cyffredinol
  • cadw, neu trefnu cadw, cop誰au o bob penderfyniad gan yr aelodau (syn cael eu pasio heblaw mewn cyfarfodydd cyffredinol), a chofnodion yr holl drafodion ar holl gyfarfodydd
  • sicrhau bod y bobl sydd 但 hawl i wneud hynny yn cael archwilio cofnodion y cwmni
  • cadw a defnyddio s棚l y cwmni (os ywr cwmnin dewis cael s棚l)
  • cyd-lofnodi er mwyn i ddogfen gael ei gweithredu gan gwmni
  • dilysu ffurflenni iw cyflwyno i D天r Cwmn誰au (chaiff ysgrifennydd cwmni ddim dilysu cyfrifon blynyddol y cwmni)

Maer ysgrifennydd yn swyddog ir cwmni a gall fod yn atebol yn droseddol am ddiffygion y cwmni.

1.6 Hawliau ysgrifennydd cwmni

Mae hawliau ysgrifennydd y cwmnin dibynnu ar delerau ei gontract ac maen fater mewnol ir cwmni, rhwng yr ysgrifennydd ar cwmni.

I weld y cymwysterau y mae ar ysgrifennydd cwmni cyhoeddus eu hangen, edrychwch ar y canllaw Corffori ac enwau.

2. Pobl 但 rheolaeth arwyddocaol (PRhA)

Person 但 rheolaeth arwyddocaol (PRhA) yw rhywun syn berchen ar eich cwmni neu sydd 但 rheolaeth drosto. Maen rhaid ichi ganfod eich PRhA a dweud wrthym pwy ydynt. Efallai mai chi, neu rywun syn gysylltiedig 但ch cwmni yw hwn. Gall cwmni fod ag un neu fwy nag un PRhA.

Rhaid i chi gofnodi eu manylion ar gofrestr PRhA eich cwmni, a bydd angen i chi gynnwys y wybodaeth hon wrth sefydlu (ymgorffori) eich cwmni.

Os na allwch ganfod eich PRhA, neu os ydych yn credu nad oes un gennych, mae angen ichi ddweud wrthym pam.

Gweler ein canllaw ar Bobl 但 rheolaeth sylweddol (PRhA).

3. Cofnodion y cwmni

3.1 Maen ofynnol bod cofnodion cwmni ar gael iw harchwilio

Yn dibynnu ar y math o gwmni, maen bosibl y bydd gan y cwmni rai neur cyfan or cofnodion canlynol:

  • 6 Ebrill 2016 ymlaen maen rhaid i PAC gadw cofrestr o bobl 但 rheolaeth arwyddocaol
  • cofrestr hanesyddol o bobl 但 rheolaeth arwyddocaol (o 30 Mehefin 2016 ymlaen)
  • cofrestr or aelodau
  • cofrestr hanesyddol o aelodau (o 30 Mehefin 2016 ymlaen)
  • cofrestr y cyfarwyddwyr
  • cofrestr cyfeiriadau preswyl arferol y cyfarwyddwyr
  • contractau gwasanaeth y cyfarwyddwyr
  • indemniadaur cyfarwyddwyr
  • cofrestr yr ysgrifenyddion
  • cofnodion o benderfyniadau a chofnodion cyfarfodydd cyffredinol
  • contractau neu femoranda syn ymwneud 但 phrynu cyfrannaur cwmni eich hun
  • dogfennau ynghylch adbrynu neu brynu eich cyfrannau eich hun trwy gyfalaf cwmni preifat
  • cofrestr dyledebwyr
  • adroddiad ir aelodau ar ganlyniad archwiliad gan gwmni cyhoeddus ir diddordeb yn ei gyfrannau
  • cofrestr or diddordeb mewn cyfrannau a ddatgelwyd i gwmni cyhoeddus
  • offerynnau syn creu arwystlon a chofrestr o arwystlon

Mae angen i chi gadwr cofnodion cwmni hyn ar gael iw harchwilio.

3.2 Lle gellir cadwr cofnodion

Cewch gadwr cyfan neu unrhyw rai or cofnodion hyn yn swyddfa gofrestredig y cwmni. Caiff y cwmni ddewis lle arall i drefnu bod y cofnodion hyn ar gael iw harchwilio. Dim ond un lleoliad arall heblawr swyddfa gofrestredig a all fod gan y cwmni ar unrhyw adeg benodedig. Rhaid ir lleoliad hwn fod yn yr un rhan or DU 但r swyddfa gofrestredig, er enghraifft gall cwmni sydd wedii gofrestru yn Lloegr a Chymru gael lleoliad arall ar gyfer archwilior cofnodion yn Lloegr a Chymru, ond nid yn yr Alban na Gogledd Iwerddon. Gall y cwmni ddewis cadw rhai cofnodion yn ei swyddfa gofrestredig a rhai yn ei leoliad archwilio arall ar yr amod bod yr holl gofnodion or un math yn cael eu cadw gydai gilydd.

3.3 Yr hyn mae angen i chi ei hanfon atom

Os nad ydych yn cadw eich holl gofnodion yn swyddfa gofrestredig y cwmni, defnyddiwch ffurflen AD02 i ddweud wrthym beth yw cyfeiriad eich lleoliad arolygu amgen a pha gofnodion sydd gennych yno. Os oes unrhyw newid yn y cyfeiriad hwnnw, dywedwch wrthym ar ffurflen AD03. Mae angen ichi ddweud wrthon ni hefyd pan fyddwch yn dychwelyd unrhyw gofnodion ir swyddfa gofrestredig, a hynny ar ffurflen AD04.

Gallwch roi gwybod i D天r Cwmn誰au am unrhyw un or newidiadau hyn gan ddefnyddio ein gwasanaeth ffeilio ar-lein neu feddalwedd, neu drwy gyflwyno dogfennau papur i ni.

3.4 Dull amgen o gadw cofnodion

O 30 Mehefin 2016 ymlaen, caiff cwmni ddewis peidio 但 chadw rhai cofrestri statudol Gall cwmn誰au anfon y wybodaeth syn ofynnol yn y cofrestri hynny at y cofrestrydd cwmn誰au iddi gael ei gosod ar y cofnod cyhoeddus yn Nh天r Cwmn誰au.

Dymar cofrestri mae hyn yn berthnasol iddynt:

  • cofrestr or aelodau
  • cofrestr o bobl 但 rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
  • cofrestr y cyfarwyddwyr
  • cofrestr cyfeiriadau preswyl arferol y cyfarwyddwyr
  • cofrestr yr ysgrifenyddion

Yn y canllaw ar y cynllun cofrestri ceir gwybodaeth am yr hyn syn ofynnol er mwyn dewis yr opsiwn hwn, sut i gynnal y wybodaeth a gedwir ar y gofrestr gyhoeddus, goblygiadau gwneud hynny a beth syn digwydd pan mae cwmnin dewis tynnun 担l o gadw ei gofrestri ar y gofrestr gyhoeddus.

4. Penderfyniadau

4.1 Diffiniad o benderfyniad

Mae penderfyniad yn gytundeb neun ddyfarniad syn cael ei wneud gan aelodau cwmni, gan ddosbarth o aelodau cwmni, neu gan gyfarwyddwyr cwmni, i gyflawni newidiadau penodol. Gallai hynny gynnwys newid enwr cwmni, newid ei gyfalaf cyfrannau neu newid ei erthyglau.

4.2 Sut mae cwmn誰aun pasio penderfyniadau?

Bydd aelodaur cwmnin pleidleisio a ddylid pasio ynteu gwrthod dull gweithredu arfaethedig. Fel arfer bydd p典er pleidleisio pob aelod yn dibynnu ar faint o gyfrannau syn perthyn iddo. Ran amlaf, bydd gan aelod sydd ag un gyfran un bleidlais. Maer penderfyniad yn cael ei basio pan fydd y mwyafrif sydd wedii bennu ymlaen llaw er mwyn pasior penderfyniad yn cael ei gyrraedd (er enghraifft 75% or aelodau ar gyfer penderfyniad arbennig i newid enwr cwmni). Os na chaiff y mwyafrif angenrheidiol ei sicrhau, yna maer penderfyniad arfaethedig yn methu.

4.3 Pwy all bleidleisio?

Maen bosibl y bydd erthyglau cymdeithasiad y cwmnin datgan yr amodau yngl天n 但 hawliau pleidleisior aelodau, ond yn gyffredinol bydd gan aelod un bleidlais am bob un gyfran sydd ganddo ar benderfyniad ysgrifenedig neu un bleidlais wrth godi dwylo mewn cyfarfod cyffredinol oni bai bod p担l yn cael ei alw. Os bydd rhywun yn galwn ddilys am b担l mewn cyfarfod cyffredinol, yna bydd gan bob aelod un bleidlais am bob cyfran sydd ganddo.

Os na all aelod fod yn bresennol yn y cyfarfod, caiff benodi dirprwy i bleidleisio drosto. Yn achos cyd-ddeiliaid cyfrannau, pleidlais y deiliad sydd wedii enwi gyntaf yn y gofrestr aelodau a gaiff ei chyfrif, oni bai bod erthyglaur cwmnin dweud rhywbeth gwahanol.

4.4 Pwy syn derbyn cop誰au or penderfyniad cyn iddo gael ei gymeradwyo ac wedyn?

Rhaid ir cwmni gylchredeg hysbysiad or bwriad i gynnig penderfyniad iw aelodau. Os oes gan gwmni archwilwyr, rhaid iddo anfon cop誰au atyn nhw neu fel arall roi gwybod iddyn nhw am gynnwys pob penderfyniad arfaethedig. Maer Ddeddf Cwmn誰aun ei gwneud yn ofynnol ichi gyflwyno penderfyniad penodol (er enghraifft unrhyw benderfyniad arbennig) i D天r Cwmn誰au o fewn 15 diwrnod ar 担l ei basio. Dylech gyflwyno copi o benderfyniad ysgrifenedig, neu ddatganiad bod penderfyniad wedii basio. Gallwch ddefnyddior templed hwn i ddarparu datganiad bod penderfyniad wedii basio. Peidiwch ag anfon cop誰au o gofnodion cyfarfod os gwelwch yn dda. Gallair rhain gynnwys gwybodaeth nad ydynt ar gyfer y cofnod cyhoeddus a gellir eu gwrthod.

4.5 Cwmn誰au preifat a phasio penderfyniadau

Caiff cwmn誰au preifat basio penderfyniadau:

  • drwy benderfyniad ysgrifenedig, y maen rhaid iddyn nhw ei gylchredeg i bob aelod cymwys yn electronig neu ar ffurf copi caled
  • drwy gymryd pleidlais mewn cyfarfod or aelodau

Un o effeithiaur Ddeddf Cwmn誰au yw nad yw mwyach yn ofynnol i gwmn誰au preifat gynnal Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol (CCB). Mae darpariaethau newydd ynghylch penderfyniadau ysgrifenedig yn galluogi cwmn誰au preifat i hepgor cyfarfodydd cyffredinol yn gyfan gwbl, ac eithrio at ddau ddiben cyfyngedig.

4.6 Penderfyniadau ysgrifenedig a chwmn誰au preifat

Caiff cwmn誰au preifat basio bron pob penderfyniad ar ffurf penderfyniad ysgrifenedig, er enghraifft, un sydd wedii gylchredeg, naill ai ar bapur neun electronig, ir aelodau heb fod angen cyfarfod.

Eithriadau i hyn yw:

  • penderfyniad i ddiswyddo cyfarwyddwr
  • penderfyniad i ddiswyddo archwilydd

Mae angen ir penderfyniadau hyn gael eu pasio mewn cyfarfod cyffredinol.

4.7 Cwmn誰au cyhoeddus a phasio penderfyniadau

Mae cwmn誰au cyhoeddus yn gorfod cynnal CCB o fewn 6 mis ar 担l diwedd eu blwyddyn ariannol yn ychwanegol at unrhyw gyfarfodydd eraill syn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwnnw. Dim ond drwy gymryd pleidlais mewn cyfarfod or aelodau, sef y CCB o bosibl, y caiff cwmni cyhoeddus basio penderfyniad. Nid ywn cael pasio penderfyniad ysgrifenedig.

4.8 Cofnodion o benderfyniadau a chyfarfodydd sydd iw cadw gan y cwmni

Rhaid ir cwmni gadw cofnodion or holl drafodion mewn cyfarfodydd cyffredinol neu benderfyniadau syn cael eu gwneud gan yr unig aelod. Rhaid hefyd iddyn nhw gadw cop誰au o bob penderfyniad gan aelodau syn cael eu pasio heblaw mewn cyfarfodydd cyffredinol. Rhaid iddyn nhw gadwr cofnodion hyn am 10 mlynedd a threfnu eu bod ar gael iw harchwilio gan yr aelodau os gwn但n nhw gais.

4.9 Penderfyniadau a chyfarfodydd

Drwy godi llaw y maer bleidlais yn cael ei chynnal ar benderfyniad mewn cyfarfod cyffredinol, oni bai bod yr aelodaun galw am b担l. Mae p担l yn bleidlais sydd wedii seilio ar nifer y cyfrannau sydd gan bobl yn hytrach nag ar godi llaw. Y cyfan y mae ei eisiau er mwyn i benderfyniad gael ei basio yw datganiad gan y cadeirydd bod y penderfyniad wedi llwyddo drwy godi llaw, ond dydy hyn ddim yn gymwys os bydd yr aelodaun galw am b担l. Does dim angen ichi gyfrif nifer y pleidleisiau o blaid neu yn erbyn o dan y drefn codi llaw.

Rhaid i gwmni preifat roi o leiaf 14 diwrnod o hysbysiad o gyfarfod cyffredinol. Rhaid i gwmni cyhoeddus roi 21 diwrnod o leiaf o hysbysiad oi CCB, oni bai bod erthyglaur cwmnin pennu cyfnod hysbysu hirach. Caiff cwmni alw cyfarfod cyffredinol ar rybudd byrrach, gyda mwyafrif o 90% or hawliau pleidleisio yn achos cwmni preifat a 95% yn achos cwmni cyhoeddus. Dydy hyn ddim yn gymwys yn achos CCB cwmni cyhoeddus, lle maen rhaid i bob aelod gytuno. Rhaid i rybuddion syn rhoi gwybod am CCB cwmn誰au cyhoeddus ddatgan mai CCB ywr cyfarfod.

Caiff cwmn誰au roi hysbysiad o gyfarfod:

  • ar ffurf electronig
  • ar ffurf copi caled
  • drwy gyfrwng gwefan
  • drwy gyfuniad o unrhyw rai or uchod

Rhaid ir hysbysiad ddatgan amser, dyddiad a lleoliad y cyfarfod ac unrhyw benderfyniadau sydd iw cytuno.

4.10 Rhagor o wybodaeth am benderfyniadau

Gweler .