Pridiannau Tir Lleol: paratoi data ar gyfer y gofrestr ddigidol newydd
Diweddarwyd 31 Awst 2023
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Maer cyfarwyddyd hwn yn helpu awdurdodau lleol i baratoi eu data ar gyfer y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol ddigidol sengl newydd.
1. Trosolwg
Efallai y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol gwblhau nifer o dasgau i sicrhau bod y data yn eu cofrestr pridiannau tir lleol yn barod iw mudo ac yn cael eu trosglwyddon effeithlon gan gadw nifer yr atgyfeiriadau ar ymholiadau y mae angen eu gwneud ir awdurdod lleol ir lleiaf posibl. Maer ddogfen hon yn disgrifior tasgau a sefyllfa ddelfrydol data awdurdod lleol cyn ir trosglwyddo ddechrau.
Mae Cofrestrfa Tir EF wedi datblygu nifer o declynnau rhad ac am ddim i helpu awdurdodau lleol gydar tasgau hyn a pharatoi eu datar pridiannau tir lleol ar gyfer mudo.
Dangosfwrdd dadansoddi data
Maer dangosfwrdd dadansoddi data ar gael i awdurdodau lleol nad ydynt yn y broses fudo ar hyn o bryd ond sydd am ddechrau paratoi eu data ar gyfer mudo. Gall ddadansoddi cymaint neu cyn lleied o ddata digidol ag y mae awdurdodau lleol am eu darparu ac yn golygu bod modd amcangyfrif y nifer ar math o ddiwygiadau y mae angen eu gwneud.
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn trafod y casgliadau 但r awdurdod lleol ac yn nodi pa bridiannau all gael eu gosod yn awtomatig a pha bridiannau y mae angen eu gosod 但 llaw. Caiff y casgliadau hyn eu dogfennu au blaenoriaethu fel bod yr awdurdod lleol yn gwybod pa ddiwygiadau i ganolbwyntio arnynt.
Cynorthwyydd mudo
Maer cynorthwyydd mudo yn gyfres o declynnau seiliedig ar y we a gafodd eu datblygu i helpu awdurdodau lleol i fudo eu data pridiannau tir lleol yn gyflymach ac yn fwy effeithlon. Maer teclynnau wedi eu bwriadu ar gyfer awdurdodau lleol sydd eisoes wedi dechraur broses fudo a gellir eu defnyddio i osod pridiannau sydd heb stent gofodol. Gall y cynorthwyydd awgrymu nifer o ddarpar bolygonau ar gyfer pridiannau heb stentiau gofodol a chyflymur broses trwy gynnig modd i awdurdodau lleol ddewis o ddetholiad ohonynt yn hytrach na gorfod creu polygon or newydd.
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddiffinio rheolau busnes ac felly cynyddu aseinio stentiau gofodol yn awtomatig llen bosibl. Mae hyn yn hwyluso ymhellach y broses dewis polygon.
2. Pwrpas
Mae Cofrestrfa Tir EF yn cydnabod bod trosglwyddor cofrestri pridiannau tir lleol syn bodoli, a gedwir mewn amrywiaeth o ffurfiau, i gofrestr ddigidol yn dasg gymhleth ar gyfer rhai awdurdodau. Byddwn yn gweithio gydar awdurdod lleol i ddiffinior prosesau. Gall hyn fod yn gyfuniad o ddulliau awtomatig a phrosesu 但 llaw.
Caiff unrhyw brosesau neu newidiadau a gytunir rhwng Cofrestrfa Tir EF ar awdurdod lleol eu dogfennu o fewn y rheolau busnes lleol, dogfen syn cael ei chreu ar gyfer pob awdurdod lleol gan Gofrestrfa Tir EF ar 担l dadansoddir data pridiannau tir lleol.
3. Cysylltu
Ar gyfer ymholiadau am y cyfarwyddyd hwn, .
4. Gofynion ar gyfer mudo
Maer adran hon yn rhoi manylion am y gofynion sydd iw bodloni er mwyn gallu mudo Cofrestr Pridiannau Tir Lleol awdurdod i Gofrestr Pridiannau Tir Lleol Cofrestrfa Tir EF ac feu rhennir yn rhai sydd:
- yn gymwys sut bynnag y cedwir y cofnodion pridiannau tir lleol (gofynion cyffredin)
- yn benodol i sut y cedwir cofnodion neu gydrannaur pridiannau tir lleol (papur, electronig, digidol)
- yn benodol i fathau arbennig o bridiannau
4.1 Gofynion cyffredin
4.1.1 Ffynonellau cofrestr
Rhaid ir awdurdod lleol gynorthwyo Cofrestrfa Tir EF i baratoi rhestr syn nodi holl gydrannaur gofrestr.
Os nad ywr gofrestr yn endid sengl, rhaid nodir holl ffynonellau syn ffurfior gofrestr neu a ddefnyddir i gynhyrchu canlyniad chwilio.
4.1.2 Stent gofodol
Dylai pob pridiant gael ei ategu gan wybodaeth ddigonol er mwyn ir cyflenwr digitieiddio a thrawsnewid rhwymedig allu creu stent gofodol cywir ar gyfer y pridiant. Os yw stentiau gofodol eisoes yn bodoli, naill ai o fewn System Gwybodaeth Daearyddol (GIS) neu o ryw ffynhonnell ddibynadwy arall o fewn eich awdurdod, gall y stentiau hynny fodlonir gofyniad hwn.
Os nad yw unrhyw stentiau gofodol yn bodoli, gall teclyn cynorthwyydd mudo Cofrestrfa Tir EF gael ei ddefnyddio i awgrymu darpar stentiau o ffynonellau eraill syn eich helpu i ddiwygio neu dderbyn y stent.
Maer dulliau ar gyfer darparu gwybodaeth ofodol yn cynnwys y canlynol.
Eiddo cyfeiriadwy
Ar yr amod bod y pridiant yn effeithio ar y cyfan o eiddo cyfeiriadwy a ddiffinnir yn llawn ar y map Arolwg Ordnans fel y disgrifir yn y nid oes angen gwneud unrhyw beth arall. Fodd bynnag, os nad ywr cyflenwr digideiddio a thrawsnewid rhwymedig yn gallu cysonir disgrifiad 但r map Arolwg Ordnans cyfredol, c但nt eu cyfeirio at yr awdurdod lleol er mwyn ir stent gael ei ddiffinio.
Os ywr pridiant wedi ei ddisgrifio ar hyn o bryd mewn perthynas ag eiddo nad ywn bodoli mwyach neu syn effeithio ar ran o eiddo cyfeiriadwy yn unig, rhaid darparu cynllun syn nodir tir a effeithir gan y pridiant.
Tir
Os ywr pridiant yn effeithio ar dir a/neu eiddo nad ywn gyfeiriadwy, rhaid ir awdurdod lleol ddarparu cynllun (cynrychiolaeth ddaearyddol) syn nodi naill ai:
- stent y tir a effeithir lle maer pridiant yn effeithio ar ardal
- safler tir a effeithir lle nad yw ardal yn bodoli (er enghraifft Gorchymyn Diogelu Coed syn effeithio ar un goeden) rhaid ir cynllun gael ei gysoni 但r map Arolwg Ordnans graddfa fawr gyfredol (wedi ei gynhyrchu ar raddfa o 1/1250 neu 1/2500)
Rhaid i unrhyw gynllun a ddarperir:
- ddangos ei gyfeiriad (er enghraifft, pwynt gogleddol)
- dangos digon o fanylion er mwyn gallu ei nodi ar y map Arolwg Ordnans
- egluro ei leoliad cyffredinol trwy ddangos ffyrdd, cyffyrdd neu dirnodau eraill
Os ywr ddogfennaeth ffynhonnell yn cynnwys cynllun addas, maen dderbyniol i ddarparu copi or cynllun hwn.
Mae Atodiad 2 yn rhoi rhai enghreifftiau o sut i weithredur rheolau uchod.
I ddarparu cynllun, gall yr awdurdod lleol wneud un or canlynol. Gall:
- ddigideiddio stent y tir a effeithir gan y pridiant iw system bresennol, ar yr amod bod y stent wedi ei gysylltu 但r pridiant priodol (mae hyn yn cymryd bod system ddigidol eisoes yn ei lle) dymar ateb a argymhellir gan Gofrestrfa Tir EF
- defnyddio cynorthwyydd mudo Cofrestrfa Tir EF i greur stent
- dangos yn eglur stent y pridiant ar gynllun papur
- darparur cynllun (neu gopi) or ddogfennaeth ffynhonnell syn dangos yn eglur stent y tir a effeithir gan y pridiant
Yn ogystal, rhaid i ddisgrifiad or tir a/neur eiddo a effeithir gael ei ddarparu syn bodloni un or rheolau canlynol (yn nhrefn blaenoriaeth).
(a) Disgrifiad post
Er enghraifft:
- 3 Smith Street, Mansfield, NG1 1XN
- First floor flat 3a, St Marys Flats, High Street, Peterborough, PE1 1XN
- Unit 15b Queensgate Centre, Peterborough, PE1 1XN
Sylwer: Er bod yr enghreifftiau uchod yn cynnwys codau post, os nad yw cofrestr bresennol yr awdurdod lleol yn cynnwys unrhyw godau post, nid oes disgwyl ir awdurdod lleol eu darparu.
(b) Trwy gyfeirio at nodwedd ddaearyddol sefydledig, gan gynnwys disgrifiad or eiddo/tir a effeithir.
Er enghraifft:
Tir ar ochr ogleddol Smith Street, Mansfield neur Pumping Station ar ochr ogleddol Smith Street, Mansfield
(c) Trwy gyfeirio at ardal, gan gynnwys disgrifiad or pridiant
Er enghraifft:
Ardal Rheoli Mwg 4, Mansfield neu Ardal Gadwraeth Rhif 1, Mansfield. Disgwylir ir math hwn o ddisgrifiad daearyddol gael ei ddefnyddio pan fydd pridiant yn effeithio ar ardal fawr o fewn yr awdurdod lleol.
Eitemau data sydd ar goll
Rhaid ir Gofrestr Pridiannau Tir Lleol fod yn gyflawn a rhaid i bob cofnod pridiannau tir lleol gynnwys yr eitemau data ar gyfer pob pridiant fel y disgrifir yn Atodiad 1: eitemau data lleiaf
Mae hyn hefyd yn cynnwys ychwanegur eitemau data gorfodol hynny sydd ar goll ar hyn o bryd. Ar gyfer yr eitemau data nad ydynt wedi eu cofnodi ar hyn o bryd, bydd Cofrestrfa Tir EF yn gweithio gydar awdurdod lleol i nodi a chytuno ar werth ar gyfer yr eitemau sydd ar goll neu sut iw poblogi.
Mae Atodiad 1 yn rhestrur mathau mwyaf cyffredin o bridiannau.
Os nad yw math o bridiant iw weld yn Atodiad 1, rhaid ir cofnodion gynnwys yr eitemau data hynny sydd wedi eu marcio yn y Math arall o bridiant.
Bydd yn rhaid ir cyflenwr rhwymedig wybod lleoliad yr eitemau data sydd iw cipio. Felly, bydd Cofrestrfa Tir EF yn gweithio gydar awdurdod lleol i nodi lleoliad yr eitemau data o fewn y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol syn bodoli ai roi ir cyflenwr rhwymedig.
4.1.4 Pridiannau sydd wedi dod i ben
Rhaid ir awdurdod lleol sicrhau bod y pridiannau canlynol yn cael eu tynnu ymaith or cofnodion a ddarperir i Gofrestrfa Tir EF.
Efallai y bydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu gweithredu rheolau busnes er mwyn tynnu ymaith y pridiannau hyn yn awtomatig mewn rhai achosion, gyda chytundeb yr awdurdod lleol.
Pridiannau darfodedig
Maer pridiannau canlynol yn cael eu hystyried yn ddarfodedig a rhaid iddynt gael eu tynnu ymaith or cofnodion:
- Pridiannau Fenland Way
- Pridiannau cynllunio Rhan 3a
- Pridiannau cynllunio amodol cyn 01/08/1977
Pridiannau ariannol cyffredinol
Os yw pridiant ariannol cyffredinol a phridiant ariannol penodol yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer yr un budd, rhaid ir pridiant ariannol cyffredinol gael ei dynnu ymaith or cofnodion.
Pridiannau y mae eu hamser wedi dod i ben
Os oes gan bridiannau syn bodoli ddyddiad dod i ben cofnodedig, bydd y rheiny y mae eu dyddiad dod i ben eisoes wedi mynd heibio yn cael eu nodi yn ystod y cam dadansoddi data a ch但nt eu cyfeirio ir awdurdod lleol ar gyfer gweithredu.
4.1.5 Cynllunio
Os yw pridiannau tir lleol syn codi o gynllunio wedi eu cydgymysgu 但 chofnodion cynllunio eraill, bydd Cofrestrfa Tir EF yn cynorthwyo i nodi dulliau a phrosesau i sicrhau mai dim ond y rhai syn creu pridiannau tir lleol syn cael eu darparu ir cyflenwr rhwymedig. Er enghraifft, fel rheol dim ond ceisiadau cynllunio a gymeradwyir gydag amodau fyddain rhan or gofrestr pridiannau tir lleol a dylai unrhyw geisiadau cynllunio heb eu cymeradwyo neur rhai a gymeradwyir heb amodau gael eu tynnu ymaith or cofnodion a ddarperir i Gofrestrfa Tir EF.
4.1.6 Pridiannau dyblyg
Caiff pridiannau dyblyg eu nodi yn ystod cam dadansoddi data a ch但nt eu cyfeirio yn 担l ir awdurdod lleol ar gyfer gweithredu.
Os yw pridiant wedi cael ei gofrestru fel pridiant sengl yn erbyn stryd a hefyd ar wah但n fel pridiant yn erbyn pob eiddo o fewn y stryd, rhaid ei drin fel pridiant aml-bolygon. Er enghraifft, rhybudd Erthygl 4 lle mae cofrestriad wedi cael ei greu ar gyfer Smith Street a hefyd fel cofrestriadau ar wah但n ar gyfer pob eiddo yn y stryd honno.
4.1.7 Gwallau
Os gwyddys bod gwallau yn bodoli yn y cofnodion pridiannau tir lleol, syn arwain at ganlyniadau chwilio yn cael eu diwygio cyn cyhoeddi neun os ydynt yn dod ir amlwg yn ystod prosesau gweithredol arferol, dylair rhain gael eu cywiro cyn trosglwyddo cofnodion ir cyflenwr rhwymedig.
Os gwyddys bod y gwall yn effeithio ar nifer o gofnodion ac mae modd nodir cofnodion a effeithir, gall yr awdurdod lleol wneud trefniadau ar gyfer swmp-ddiweddaru adeg trosglwyddo trwy ddarparur data cywir ir cyflenwr digideiddio a thrawsnewid rhwymedig trwyr rheolau busnes llesol.
Er mwyn osgoi ansicrwydd, nid oes rhaid ir awdurdod lleol ddiweddaru pridiannau os ydynt yn dal i gyfeirio at awdurdod gwreiddiol sydd naill ai wedi cael ei ddisodli neu wedi newid ei enw. Nid ystyrir bod y rhain yn wallau ac ni ch但nt eu diwygio i gyfeirio at yr enw newydd.
4.1.8 Man archwilio
Gofynnir ir awdurdod lleol gadarnhau neu ddarparur man priodol lle y gellir cael gwybodaeth bellach mewn perthynas 但 phridiant. Gall fod yn gyfeiriad ffisegol neu rithwir; er enghraifft, presenoldeb rhyngrwyd neu gyfeiriad ebost neu gyfuniad or rhain.
Lle mae newidiadau yn ofynnol ir man archwilio a gofnodir ar hyn o bryd, rhaid ir newidiadau hyn gael eu cytuno trwy ddefnyddior rheolau busnes lleol.
4.1.9 Cyfeirnod ffeil yr awdurdod
Rhaid i gyfeirnod ffeil yr awdurdod fod y cyfeirnod o fewn yr awdurdod lleol syn caniat叩u ir awdurdod lleol, neu rywun syn ceisio rhagor o wybodaeth am bridiant a ddatgelir mewn chwiliad, i leolir ddogfennaeth ffynhonnell (neu gopi). Enghraifft dda o hyn yw cyfeirnod cynllunio. Caiff cyfeirnodau lluosog eu caniat叩u ond rhaid bod yn glir pa fan archwilio y maent yn cyfeirio ato, os ywn briodol.
4.1.10 Dyddiadau
Fel arfer gall Cofrestrfa Tir EF weithredu rheolau busnes er mwyn datrys y rhan fwyaf or problemau syn gysylltiedig 但 dyddiadau, gyda chytundeb yr awdurdod lleol.
Rhaid ir awdurdod lleol gadarnhau yn y rheolau busnes lleol ym mha ffurf y cedwir y dyddiad.
Os yw hyn yn wahanol rhwng gwahanol ffynonellau cofrestr, rhaid ir ffurf syn gymwys i bob ffynhonnell gael ei nodin eglur ir cyflenwr digideiddio a thrawsnewid rhwymedig.
Sylwer: ar gyfer systemau digidol, yr hyn sydd ei angen ywr modd y caiff y dyddiad ei gadw yn y gronfa ddata ac nid y modd y caiff ei arddangos.
Ystyr ffurf ywr strwythur a ddefnyddir i gadw neu ysgrifennur dyddiad. Mae enghreifftiau yn cynnwys:
- dd/mm/ccbb
- mm/dd/ccbb
4.1.11 Data personol
Caiff achosion o ddata personol a nodir yn ystod y cam dadansoddi data eu cyfeirio at yr awdurdod lleol iw hystyried ymhellach er mwyn sicrhau y caiff unrhyw ddata personol diangen eu tynnu ymaith cyn mudo ir Gofrestr Pridiannau Tir Lleol.
4.2 Cofnodion ffisegol
4.2.1 Eglurdeb
Bydd yn rhaid i gofnodion ffisegol fod yn eglur. Os nad ywr cyflenwr rhwymedig yn gallu penderfynu ar y testun, caiff y cofnod ei gyfeirio at yr awdurdod lleol am gyngor.
4.2.2 Ansawdd ffisegol
Gwnewch yn siwr bod y cofnodion yn ddigon cadarn er mwyn gallu eu sganio.
4.2.3 Cadw cofnodion ffisegol
Ni ddylai fod angen cadw unrhyw gofnodion papur ar 担l digideiddio oni bai eu bod yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol sydd heb eu cadw yn y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol.
4.3 Cofnodion electronig
4.3.1 Eglurder
Bydd yn rhaid i gofnodion electronig syn cynnwys delweddau wedi eu sganio fod yn eglur. Os nad ywr cyflenwr rhwymedig yn gallu penderfynu ar y testun, caiff y cofnod ei gyfeirio ir awdurdod lleol am gyngor.
4.3.2 Darn
Rhaid ir awdurdod lleol ddarparu cop誰au or pridiannau electronig i Gofrestrfa Tir EF. Rhaid ir copi fod mewn ffurf agored nad ywn benodol ir cyflenwr. Rhaid ir copi gynnwys y wybodaeth destunol ac (os yw ar gael) gwybodaeth ofodol.
4.4 Cofnodion digidol
4.4.1 Strwythur
Mae Cofrestrfa Tir EF yn gweithio gyda chyflenwyr rhwymedig meddalwedd pridiannau tir lleol i ddeall sut mae eu systemau yn cadw data. Byddwn yn gweithio gydar awdurdod lleol i ddeall sut y mae ei systemau yn cael eu defnyddio o fewn yr awdurdod lleol i gofrestru pridiannau neu amrywio a dileu cofrestriadau ochr yn ochr 但 darparu canlyniadau chwilio. Byddwn hefyd yn gweithio gydar awdurdod lleol i nodi unrhyw newidiadau i ymarferion presennol ar 担l mudo cofrestr yr awdurdod lleol.
4.4.2 Darn
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn defnyddio (gyda chytundeb yr awdurdod lleol ar cyflenwr rhwymedig) adnodd cyflenwyr rhwymedig meddalwedd pridiannau tir lleol i echdynnur data pridiannau tir lleol a chaiff gofynion ar wah但n eu darparu i gyflenwyr rhwymedig y meddalwedd i wneud hyn.
Os ywr awdurdod lleol yn echdynnur data, rhaid i hyn fod mewn ffurf berchnogol agored nad ywn benodol ir cyflenwr. Rhaid ir copi gynnwys y wybodaeth destunol ac (os yw ar gael) gwybodaeth ofodol.
4.4.3 Dyddiadau dod i ben
Ceir enghreifftiau lle mae systemau yn nodi dyddiad dod i ben yn awtomatig (er enghraifft 31/12/2009) nad ywn berthnasol ar gyfer y pridiant dan sylw. Mae hyn iw weld yn nodwedd or system.
Lle mae awdurdod lleol yn defnyddio system gyda nodwedd or fath, rhaid ei nodi yn y rheolau busnes lleol fel un na ddylair cyflenw(wyr) rhwymedig ei throsglwyddo.
4.4.4 Cyfeirnodau eiddo unigryw
Lle maer pridiant tir yn gysylltiedig 但 chyfeirnod eiddo unigryw a ddyrennir/reolir gan GeoPlace (UPRN), rhaid darparur UPRN cyfredol.
Cysylltu UPRN 但 stent gofodol
Rhaid i bob pridiant tir lleol yng nghofrestr Cofrestrfa Tir EF gael stent gofodol.
-
Lle mae awdurdod lleol yn gysylltiedig ag UPRN stent gofodol, rhaid darparur stent gofodol hwnnw.
-
Lle nad yw awdurdod lleol yn gysylltiedig ag UPRN stent gofodol, rhaid ir awdurdod lleol ddarparu naill ai stent gofodol neu reol busnes y gall yr eiddo gael ei fapio naill ai i fanylion MasterMap yr Arolwg Ordnans neu bolygon(au) Mynegai INSPIRE.
4.4.5 Pridiannau aml-bolygonau
Os yw pridiant sengl yn effeithio ar fwy nag un eiddo ac mae stentiau gofodol ar wah但n wedi cael eu creu ar gyfer pob eiddo a effeithir, gofynnir ir awdurdod ddewis un or tri opsiwn ar gyfer y camau iw cymryd. Bydd yn darparu un or canlynol:
- y stentiau gofodol or system syn bodoli a gofyn ir cyflenwr rhwymedig beidio 但 gweithredu ymhellach
- y stentiau gofodol or system syn bodoli a gofyn ir cyflenwr rhwymedig unor stentiau cyffiniol i greu un stent
- y ddogfennaeth ffynhonnell a gofyn ir cyflenwr rhwymedig anwybyddur stentiau gofodol syn bodoli a digideiddio or ddogfennaeth ffynhonnell
Rhaid cofnodir penderfyniad a wnaed yn y rheolau busnes lleol.
Enghraifft o hyn yw ardal rheoli mwg lle mae polygon wedi cael ei greu ar gyfer pob eiddo a effeithir, gan arwain at filoedd o bolygonau yn hytrach nag un polygon ar gyfer y stent cyfan a effeithir gan yr ardal rheoli mwg.
4.5 Mathau penodol o bridiant
4.5.1 Pridiant adeilad rhestredig
Dylair cyfeirnod ar gyfer y pridiannau adeilad rhestredig gyfeirio at y rhif cofnod rhestr ar y Rhestr Treftadaeth Genedlaethol ar gyfer Lloegr (a elwir y Rhestr) a ddarperir gan Historic England.
Llen bosibl dylid defnyddior rhif cofnod rhestr gyfredol a ddarperir gan Historic England fel y cyfeirnod yn y cofnod pridiant. Os nad yw ar gael, maer rhif rhestr cofnodedig syn bodoli yn dderbyniol.
Ar gyfer adeiladau rhestredig yng Nghymru, dylid defnyddior cyfeirnod gan Cadw.
Maen ofynnol i bob cofnod adeilad rhestredig gael cynrychiolaeth ofodol or gwrthrych byd go iawn fel a restrir (gan gynnwys unrhyw wrthrych neu adeiledd syn sownd wrth yr adeilad ac unrhyw wrthrych neu adeiledd o fewn cwrtil yr adeilad sydd, er nad ywn sownd wrth yr adeilad, yn ffurfio rhan or tir ac wedi gwneud hynny er cyn 1 Gorffennaf 1948 (adran 1(5) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990).
Mae enghreifftiau yn cynnwys:
- Lle maer rhestriad o adeilad neu adeiladau go iawn, rhaid darparu polygon syn dangos stent y tir neur eiddo a effeithir gan y pridiant, gan gynnwys unrhyw wrthrych neu adeiledd sydd yn sownd wrth yr adeilad sydd wedi ei gynnwys yn y rhestriad.
- Lle maer rhestriad o wrthrych megis carreg filltir, arwydd terfyn neu garreg fedd, disgwylir data pwynt.
- Lle maer rhestriad o nodwedd linellog megis mur yr harbwr, disgwylir llinell.
- Os ywr rhestriad yn cynnwys unrhyw adeiledd cwrtil (sydd heb ei gynnwys o fewn y stent a ddarperir ar gyfer y prif adeilad rhestredig), dylair adeiledd hwnnw gael ei ddangos trwy ddefnyddior dull mwyaf priodol or tri a nodwyd.
- Er 2011 mae rhestriadau Historic England yn cynnwys yn y rhan fwyaf o achosion y gynrychiolaeth ofodol yn 担l y fanyleb uchod (fodd bynnag cyn 2011 roedd Historic England yn aml yn darparur rhestriad fel data pwynt yn unig).
Er mwyn bodloni gofynion Cofrestrfa Tir EF, rhaid ir awdurdod lleol ddarparu stent gofodol lle y bo ar gael, neu gynllun yn dangos y rhestriad, fel y disgrifir uchod.
Lle (ac mewn amgylchiadau eithriadol) na ellir nodin eglur union stent gofodol or rhestriad, dylair awdurdod ddarparu stent gofodol sydd:
-
Yn ddigon mawr er mwyn cadw ir lleiaf posibl y risg o beidio 但 nodir tir a allai gael ei effeithio gan y pridiant, a allai arwain at faterion atebolrwydd.
-
Heb fod mor fawr fel ei fod yn cynnwys tir sydd yn amlwg heb fod yn ddarostyngedig ir pridiant, a allai arwain at wneud ymholiadau ychwanegol a diangen ir awdurdod lleol.
Lle nad oes modd i awdurdod lleol nodi a all adeiledd cwrtil neu wrthrych neu adeiledd syn sownd wrth yr adeilad gael ei gynnwys yn y rhestriad, dylair stent gofodol a ddarperir gynnwys pob adeiledd neu wrthrych or fath fel y maen rhesymol i ystyried y gallai gael ei effeithio gan y pridiant.
Lle nad oes modd diffinior stent gofodol yn union, dylair awdurdod lleol ychwanegur nodyn canlynol at y cofnod yn y gofrestr:
Cyfeiriwch at [enwr awdurdod lleol perthnasol] am fanylion yr adeiladau, gwrthrychau neu adeileddau penodol syn ffurfior adeilad rhestredig at ddibenion y pridiant hwn.
Os ywr nodyn hwn yn cael ei ychwanegu oherwydd ni ellir darparu stent gofodol union, mae ymholiadau ychwanegol yn debygol iawn o gael eu gwneud ir awdurdod lleol. Felly dylair dull hwn gael ei ystyried pan fydd yn hollol angenrheidiol yn unig.
4.5.2 Gorchmynion Diogelu Coed
Mae data pwynt neu bolygonau yn dderbyniol ar gyfer pridiannau Gorchmynion Diogelu Coed, yn dibynnu ar yr ardal a effeithir 但 phrosesau presennol yr awdurdod lleol.
4.5.3 Rhybudd rhwystro goleuni
Bydd yr offeryn ar gyfer rhybudd rhwystro goleuni naill ai:
- yn dystysgrif tribiwnlys tir dros dro
- yn dystysgrif tribiwnlys tir derfynol
Lle mae tystysgrif tribiwnlys tir derfynol wedi cael ei chyhoeddi ar gyfer y rhybudd rhwystro goleuni, nid yw dyddiadaur dystysgrif dros dro yn ofynnol.
Y stent syn ofynnol yw stent yr adeilad trech. Gweler yr adran ar stent gofodol i gael manylion am ddarparu stentiau.
Nid ywr dyddiad creu pridiant yn ofynnol ar gyfer rhybuddion rhwystro goleuo oherwydd ar gyfer y math hwn o bridiant nid ywr pridiant yn cael ei greu hyd nes y caiff ei gofrestru.
4.5.4 Pridiannau ariannol cyffredinol
Er nad yw Rheolau Pridiannau Tir Lleol 1977 yn gwneud man archwilio yn ofynnol ar gyfer pridiannau ariannol cyffredinol, mae Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018 yn gwneud lleoliad Ble y gellir cael gwybodaeth bellach am bridiant yn ofynnol ar gyfer pob pridiant. Felly rhaid ei ddarparu. Gweler yr adran ar fan archwilio i gael manylion am y math o leoliad y gellir ei dderbyn.
5. Atodiad 1: eitemau data lleiaf
Maer tabl yn Atodiad 1 yn dangos rhestr o eitemau data yn 担l math o bridiant. Rhestrir y mathau mwyaf cyffredin o bridiannau ar draws brig y tabl. Rhestrir yr eitemau data syn ofynnol ar gyfer pob pridiant i lawr y golofn chwith o dan y pennawd manylion presennol. Maer golofn hon yn rhestrur eitemau data a ddylai fod ar gael ac wedi eu nodin eglur ar gyfer pob math o bridiant fel y dangosir.
Maer eitemau gorfodol yn ddarnau o wybodaeth y maen rhaid eu darparu ar gyfer y math o bridiant lle y nodir. Caiff yr eitemau amodol eu nodi ar bob pridiant os ywr wybodaeth ar gael. Maer blychau wedi eu marcio C1 yn cael eu hategu gan destun yn y cyfarwyddyd hwn.
Os nad ywr math o bridiant iw weld yn yr atodiad, maer eitemau data hynny wedi eu marcio yn y golofn math arall o bridiant yn ofynnol.
6. Atodiad 2: disgrifiadau eiddo a chynlluniau
Mae Atodiad 2 yn rhoi enghreifftiau o ble y byddai cynllun yn ofynnol a ble y byddai disgrifiad or eiddo yn ddigonol i benderfynu ar stent.
Ar gyfer pridiannau syn effeithio ar eiddo o fewn yr ardaloedd ag ymyl oren ceir manylion digonol i ddiffinio stent yn hyderus trwy (os oes angen) estyn y terfynau ochr i gwrdd 但r ffordd.
Ar gyfer pridiannau syn effeithio ar eiddo o fewn yr ardaloedd ag ymyl las, ceir manylion annigonol i ddiffinio stent yn hyderus naill ai oherwydd:
- diffyg manylion yn diffinio unrhyw ran or eiddo (wedi ei farcio A ar y cynllun yn Atodiad 2)
- anhawster wrth benderfynu ar ffryntiad eiddo (wedi ei farcio B ar y cynllun yn Atodiad 2)
- diffyg eglurder ynghylch sut y maer eiddo yn cyffinio (wedi ei farcio C ar y cynllun yn Atodiad 2)
- ble mae blaen yr eiddo yn gorffen (wedi ei farcio D ar y cynllun yn Atodiad 2)
Atodiad 2: disgrifiadau eiddo a chynlluniau (delwedd) (PNG, 1.71MB)
7. Geirfa
Cyfeirnod ffeil yr awdurdod
Dymar cyfeirnod o fewn yr awdurdod y gellir ei ddefnyddio i nodir ddogfennaeth ategol ar gyfer y pridiant (megis y cyfeirnod cynllunio neur cyfeirnod ffeil).
Digidol
Maen cynnwys eitemau data strwythuredig syn byw mewn meysydd sefydlog o fewn cofnod. Gall yr eitemau hyn gael eu hechdynnu gan beiriant heb ymyrraeth ddynol neur angen am feddalwedd i adnabod yr eitemau oherwydd c但nt eu cadw mewn lle wedi ei ddiffinio ymlaen llaw bob amser.
Electronig
Maer categori hwn yn cynnwys data pridiannau tir lleol a gedwir mewn dogfennau Word, cofnodion papur wedi eu sganio, taenlenni Excel a delweddau microffilm (microfiche). Er eu bod yn cael eu cadw yn electronig, ni all eitemau data gael eu hechdynnun ddibynadwy yn awtomatig gan beiriant heb naill ai ymyrraeth ddynol neur angen am feddalwedd ychwanegol i ddilysu natur yr eitem (adnabod nodau optegol er enghraifft).
Hybrid
Maen cynnwys cyfuniad o ddata pridiannau tir lleol digidol (gweler y diffiniad ar gyfer Digidol) a data heb fod yn ddata digidol sydd naill ai mewn ffurf electronig neu bapur (a gall gynnwys microfiche).
Offeryn
Y ddogfen megis gorchymyn, rhybudd, trosglwyddiad syn cynnwys y pridiant ei hun neu y daeth y pridiant i fodolaeth mewn cysylltiad ag ef.
Papur
Maer data pridiannau tir lleol yn cael eu cadw ar ffurf bapur, ni ddefnyddir dull electronig neu ddigidol yn y broses. Maer categori hwn yn cynnwys dogfennau papur, cardiau mynegai ac unrhyw gofnod y maen rhaid ei archwilion gorfforol.
Data personol
Ystyr yw unrhyw wybodaeth syn ymwneud 但 phersonau naturiol sydd naill ai:
- yn gallu cael eu hadnabod neu syn adnabyddadwy yn uniongyrchol or wybodaeth dan sylw.
- yn gallu cael eu hadnabod yn anuniongyrchol or wybodaeth honno ar y cyd 但 gwybodaeth arall
Darpariaeth statudol
Y ddeddf (leol neu genedlaethol) neur is-ddeddfwriaeth y caiff y pridiant ei greu oddi dani, gan gynnwys yr adran briodol; er enghraifft: adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Cyflenwr rhwymedig
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn ymgysylltu 但 chyflenwyr rhwymedig i ddarparu atebion integreiddio Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau lle maer cyflenwr yn darparu ei system TG berchnogol ei hun ar hyn o bryd (er mwyn osgoi ansicrwydd, mae hyn yn eithrio, ond nid yw wedi ei gyfyngu i, gyfryngwyr neu ailwerthwyr meddalwedd) i awdurdod lleol sydd iw fudo i gofrestr pridiannau tir lleol Cofrestrfa Tir EF ac maer system TG honno:
- yn cael ei defnyddio gan yr awdurdod lleol i gynnal ei gofrestr pridiannau tir lleol ei hun (trwy gofrestru pridiannau newydd ac amrywio/dileu pridiannau syn bodoli)
- yn cynnal a storio data pridiannau tir lleol yr awdurdod lleol (ar y safle neu wedi ei letya)
- yn cael ei defnyddio fel yr unig ffynhonnell ar gyfer anfon diweddariadau data pridiannau tir lleol yr awdurdod lleol, wedi eu cynnal yn y system TG honno, yn awtomatig i Gofrestr Pridiannau Tir Lleol Cofrestrfa Tir EF pan fydd yr awdurdod lleol wedi cael ei fudo
- yn cynnig modd integreiddio 但 Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau Cofrestrfa Tir EF fel yi diffinnir yn Natganiad o Ofynion y Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn ymgysylltu 但 chyflenwyr rhwymedig i ddarparu atebion echdynnu data lle maer cyflenwr yn darparu ei system TG berchenogol ar hyn o bryd (er mwyn osgoi ansicrwydd, mae hyn yn eithrio, ond nid yw wedi ei gyfyngu i, gyfryngwyr neu ailwerthwyr meddalwedd) i awdurdod lleol sydd iw fudo i gofrestr pridiannau tir lleol Cofrestrfa Tir EF ac maer system TG honno:
- yn cadw ac yn storio datar awdurdod lleol (ar y safle neu ei letya) syn ofynnol er mwyn llunio set ddata ddigidol yn unol 但 sgema data Cofrestr Pridiannau Tir Lleol Cofrestrfa Tir EF
- yn cynnig modd echdynnu yn unol 但 ffurf data Cofrestrfa Tir EF fel yi diffinnir yn y Datganiad o Ofynion Echdynnu Data