Cyfarwyddyd ymarfer 79: Pridiannau Tir Lleol
Diweddarwyd 17 Chwefror 2025
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelun bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 但 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1.Cyflwyniad
1.1 Cefndir i bridiannu tir lleol
Yn gyffredinol, mae pridiannau tir lleol yn bridiannau neun gyfyngiadau ariannol ar y defnydd o dir syn llywodraethol eu natur ac yn cael eu gosod gan awdurdodau lleol o dan bwerau statudol, a elwir fel arall yn awdurdodau gwreiddiol. Maent yn effeithio ar bwy bynnag syn berchen ar y tir ac felly ceir rhwymedigaeth iddynt fod yn gofrestredig, i rybuddio prynwyr eu bod yn bodoli. Fel rheol, ni fyddai eu bodolaeth yn amlwg trwy archwilior tir neur gofrestr teitl (neu weithredoedd teitl os ywr tir yn dal i fod yn dir digofrestredig).
Os nad yw pridiant tir lleol yn gofrestredig, bydd yn parhau i effeithio ar brynwr yn yr un modd ag yr oedd yn effeithio ar y perchennog gwreiddiol. Fodd bynnag, os yw prynwr yn gwneud chwiliad swyddogol neu bersonol cyn prynu, fel rheol, bydd hawl ganddo gael iawndal am y golled y maen ei dioddef o ganlyniad i fethiant y chwiliad i ddatgelu pridiant tir lleol oedd yn bodoli pan gafodd y chwiliad ei wneud.
Mae mathau cyffredin o bridiannau tir lleol yn cynnwys (ond heb eu cyfyngu i):
- amodau a osodir mewn caniat但d cynllunio (maer rhain yn ffurfior mwyafrif o bridiannau)
- adeiladau rhestredig
- ardaloedd cadwraeth
- gorchmynion diogelu coed
- rhybuddion cynllunio a gorfodi
- gorchmynion rheoli mwg
- hysbysiadau rhwystro golau
1.2 Pryd i wneud cais i Gofrestrfa Tir EF
Cyn i Rannau 1 a 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Seilwaith 2015 ddod i rym mewn perthynas ag ardal awdurdod lleol, mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol perthnasol i gadwr gofrestr pridiannau tir lleol ar gyfer ei ardal awdurdod lleol. Mae Deddf Seilwaith 2015 yn caniat叩u ir Prif Gofrestrydd Tir (y cofrestrydd) ymgymryd yn raddol 但r swyddogaeth statudol ar gyfer pridiannau tir lleol trwy roi rhybudd i awdurdod lleol penodol gan nodir dyddiad pan ddawr cofrestrydd yn gyfrifol am bridiannau tir lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol hwnnw.
Cyflwynir rhybudd fesul cam, gan ddechrau yn haf 2018, syn golygu y bydd yn rhaid gwneud cais o hyd ir awdurdod lleol perthnasol i wneud chwiliad neu wneud cais i gofrestru, amrywio neu ddileu pridiant, hyd nes bod y cofrestrydd yn gyfrifol am bridiannau tir lleol ar gyfer yr ardal awdurdod lleol y maer tir perthnasol wedi ei gynnwys ynddi. Os yw pridiant neu chwiliad yn effeithio ar dir syn rhannol mewn ardal y maer cofrestrydd yn awdurdod cofrestru ar ei chyfer ac yn rhannol mewn ardal lle nad ydyw, bydd yn rhaid gwneud ceisiadau ar wah但n ir awdurdod lleol perthnasol ar cofrestrydd sydd, yn ymarferol, yn golygu Cofrestrfa Tir EF.
Gallwch weld a ywr cofrestrydd yn gyfrifol am bridiannau tir lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol penodol.
1.3 Yr hyn y bydd Cofrestrfa Tir EF yn ei ddarparu
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn cadwr Gofrestr Pridiannau Tir Lleol ar gyfer yr ardaloedd hynny lle mae Rhannau 1 a 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Seilwaith 2015 wedi dod i rym (gweler Pryd i wneud cais i Gofrestrfa Tir EF). Os yw pridiant tir lleol yn effeithio ar dir mewn ardal or fath, bydd yn rhaid ir awdurdod gwreiddiol wneud cais i Gofrestrfa Tir EF i gofrestru pridiant, ac maen rhaid ir unigolyn y mae, neu yr oedd, y pridiant yn orfodadwy ganddo ddiwethaf wneud cais i amrywio neu ddileu pridiannau tir lleol, gan ddefnyddior dulliau a fanylir yn Awdurdodau gwreiddiol.
Bydd yn rhaid i gwsmeriaid wneud cais i Gofrestrfa Tir EF am chwiliad swyddogol neu gynnal chwiliad personol or gofrestr os ywr tir y maer chwiliad yn ofynnol ar ei gyfer o fewn ardal or fath, gan ddefnyddior dulliau a fanylir yn Chwilior Gofrestr Pridiannau Tir Lleol.
2. Awdurdodau gwreiddiol
2.1 Cais i gofrestru pridiant tir lleol
2.1.1 Pwy ddylai wneud y cais
Ystyr yr awdurdod gwreiddiol, mewn perthynas 但 phridiant tir lleol, yw Gweinidog y Goron, adran or llywodraeth, awdurdod lleol neu unigolyn arall y maer pridiant yn dod i fodolaeth ganddo, neu, pan ddaw i fodolaeth, y maer pridiant yn orfodadwy ganddo.
Cyfrifoldeb yr awdurdod gwreiddiol mewn perthynas 但 phridiant tir lleol yw gwneud cais i gofrestrur pridiant hwnnw. Dylai cais i gofrestru pridiant gael ei wneud cyn gynted 但 phosibl, oherwydd bydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu adennill iawndal gan yr awdurdod gwreiddiol perthnasol y mae rhwymedigaeth ar y cofrestrydd iw dalu o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975, oni bai bod cais wedi cael ei wneud gan yr awdurdod gwreiddiol hwnnw ar gyfer cofrestrur pridiant mewn digon o amser iddo fod yn ymarferol i Gofrestrfa Tir EF osgoi fod yn atebol i dalur iawndal.
2.1.2 Sut i wneud cais
Mae Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i gais i gofrestru pridiant (heblaw hysbysiad rhwystro golau) gael ei wneud trwy ddefnyddio dull cyfathrebu electronig. Mae Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018 yn caniat叩u i Gofrestrfa Tir EF benderfynur dull cyfathrebu electronig iw ddefnyddio i wneud ceisiadau a ffurf unrhyw gais or fath.
Gwiriwch air cofrestrydd ywr awdurdod cofrestru ar gyfer yr ardal awdurdod lleol y maech pridiant wedi ei gynnwys ynddi. Gellir gwneud hyn cyn cofrestru pridiant trwy ddefnyddior gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol. Os nad y cofrestrydd ywr awdurdod cofrestru, peidiwch 但 gwneud cais i gofrestrur pridiant gyda ni. Yn lle hynny, dylair pridiant gael ei gofrestru yng nghofrestr pridiannau tir lleol yr awdurdod lleol perthnasol.
I wneud cais, gallwch naill ai:
- defnyddior gwasanaeth Maintain Pridiannau Tir Lleol
- defnyddio Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API) i wneud cais i gofrestrur pridiant yn awtomatig
Bydd awdurdodau lleol wedi pennu Admin User gyfer y gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol ar 51画鋼 a fydd yn rheoli cyfrifon o fewn eu sefydliad a hwn ddylai fod y pwnt cysylltu yn y lle cyntaf. Yn ogystal 但r awdurdod lleol, byddwn yn nodi ac yn cysylltu ag awdurdodau gwreiddiol eraill syn debygol o wneud ceisiadau rheolaidd i ddarparu mynediad at y gwasanaeth cofrestr.
Os oes angen mynediad arnoch, neu os oes problemau mynediad gennych, cysylltwch 但 Chofrestrfa Tir EF: gweler Pethau iw cofio am fanylion. Mae Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018 hefyd yn rhoi hawl ir cofrestrydd ganiat叩u i geisiadau gael eu gwneud trwy ddull electronig arall heblaw trwyr gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol mewn rhai amgylchiadau, ac esbonnir hyn yn Awdurdodau gwreiddiol nad oes ganddynt fynediad at y gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol.
Dylai unrhyw gais i gofrestru, amrywio neu ddileu Hysbysiad Rhwystro Golau gael ei wneud yn unol ag adran Hysbysiadau Rhwystro Golau or cyfarwyddyd hwn.
Ni all Cofrestrfa Tir EF ddarparu cyngor cyfreithiol ynghylch a yw pridiant yn bridiant tir lleol.
2.2 Cais i amrywio pridiant tir lleol
Pan fydd pridiant cofrestredig wedi cael ei amrywio neu os yw unrhyw gofrestriad yn anghywir, rhaid ir unigolyn y maer pridiant yn orfodadwy ganddo wneud cais i amrywior cofrestriad. I wneud cais, defnyddiwch y gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol ar 51画鋼 neur API. Os yw perchennog eiddo neu ei drawsgludwr or farn y dylai cofrestriad gael ei amrywio, dylai gysylltu 但r unigolyn y maer pridiant yn orfodadwy ganddo er mwyn ir unigolyn hwnnw allu gwneud cais ir pridiant gael ei amrywio.
Gall y cofrestrydd amrywio cofrestriad ohono ei hun. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o gofrestriadau yn cael eu hamrywio dim ond o ganlyniad i gais gan yr unigolyn sydd 但r hawl i orfodir pridiant. Yn gyffredinol, dim ond yr unigolyn hwnnw fydd yn cadwr wybodaeth angenrheidiol i benderfynu a yw pridiant cofrestredig wedi cael ei amrywio neu a yw cofrestriad yn anghywir. Maer cofrestrydd yn debygol o amrywio cofrestriad ohono ei hun dim ond, mewn amgylchiadau eithriadol iawn, am un rheswm neui gilydd (er enghraifft, nid oes modd adnabod yr unigolyn sydd 但r hawl i orfodir pridiant), ni fyddain ymarferol i fynnu i gais am amrywiad gael ei wneud gan yr unigolyn hwnnw.
2.3 Cais i ddileu pridiant tir lleol
Pan fydd pridiant cofrestredig wedi cael ei ryddhau, wedi peidio 但 chael effaith neu wedi peidio 但 bod yn bridiant, rhaid ir unigolyn yr oedd y pridiant yn orfodadwy ganddo wneud cais i ddileur cofrestriad. I wneud cais, defnyddiwch y gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol ar 51画鋼 neur API.
Os yw unigolyn or farn y dylai cofrestriad gael ei ddileu, dylai gysylltu 但r unigolyn yr oedd y pridiant yn orfodadwy ganddo, yr awdurdod gwreiddiol fel arfer, er mwyn iddo wneud cais ir pridiant gael ei ddileu.
Gall y cofrestrydd ddileu cofrestriad ohono ei hun ond maen debygol o wneud hynny dim ond yn yr amgylchiadau eithriadol pan fyddai cofrestriad yn cael ei amrywio; gweler Cais i amrywio pridiant tir lleol.
2.4 Ceisiadau i ddileu pridiant tir lleol yn unol 但 gorchymyn llys
Os ywr llys wedi gwneud gorchymyn ar gyfer dileu pridiant tir lleol, anfonwch gopi or gorchymyn hwnnw naill ai:
2.5 Awdurdodau gwreiddiol nad oes ganddynt fynediad at y gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol
Os ydych yn awdurdod gwreiddiol nad oes gennych fynediad at wasanaeth Pridiannau Tir Lleol ar 51画鋼 neur API, cysylltwch 但 ni:
Byddwn yn gallu trefnu mynediad, neu roi cymeradwyaeth ich cais gael ei wneud trwy ddull ymgeisio electronig arall. Yn aml iawn bydd modd trefnu i fynediad gael ei roi heb unrhyw oedi ond os na ellir gwneud hyn am unrhyw reswm, mewn rhai achosion gallwch ofyn i Gofrestrfa Tir EF ganiat叩u i gais gael ei wneud trwy ddull electronig arall.
Gall yr amgylchiadau hyn gynnwys ond nid ydynt wedi eu cyfyngu ir canlynol:
-
Os nad yw awdurdod gwreiddiol wedi gallu trefnu mynediad eto at y gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol ar 51画鋼 neur API, ac mae angen iddo gofrestru pridiant tra bon aros i fynediad gael ei drefnu.
-
Os yw awdurdod gwreiddiol neu unigolyn y mae neu yr oedd pridiant yn orfodadwy ganddo ddiwethaf am wneud cais i gofrestru pridiant, neu amrywio neu ddileu cofrestriad, ond nid ywn debygol o orfod gwneud ceisiadau pellach yn rheolaidd.
2.6 Hysbysiadau Rhwystro Golau
Dim ond Hysbysiad Rhwystro Golau (HRhG) yn ymwneud 但 thir syn dod o fewn ardal awdurdod lleol y maer cofrestrydd yn awdurdod cofrestru ar ei chyfer byddwn yn gallu ei gofrestru.
Edrychwch i weld air cofrestrydd ywr awdurdod cofrestru ar gyfer yr ardal awdurdod lleol mae eich HRhG yn perthyn iddi.
2.6.1 Cofrestru Hysbysiad Rhwystro Golau
Mae cofrestru HRhG yn gweithredu fel rhwystr tybiannol or golau syn mynd trwyddo i adeilad cymydog dros dir yr unigolyn syn cofrestrur pridiant. Yr effaith yw, oni bai bod yr adeilad eisoes yn elwa o hawddfraint golau, maer golau syn mynd trwyddo yn cael ei drin fel golau a dorrir ar ei draws, ac os ywr cofrestriad hwnnw yn parhau am flwyddyn, maer cymydog yn cael ei atal mewn gwirionedd rhag caffael hawl i oleuni trwy bresgripsiwn. Felly mae HRhG yn wahanol mewn sawl ffordd ir pridiannau tir lleol eraill.
Bydd HRhG yn dod i rym fel pridiant tir lleol dim ond pan fydd wedi ei gofrestru.
I wneud cais i gofrestru HRhG, gallwch naill ai:
- , gyda delweddau wedi eu sganio or dogfennau gofynnol byddwn yn cael eich cais yn gynt wrth ddefnyddior dull hwn
- anfon cais ar bapur trwyr post, gyda chop誰au or dogfennau gofynnol, ir canlynol:
Light Obstruction Notices
PO Box 3286
Twyver House
Gloucester
GL1 9HP
Rhaid i gais i gofrestru HRhG gael ei wneud ar Ffurflen A gyda chynllun lliw atodedig yn dangos yr adeilad y caiff yr hysbysiad ei gofrestru yn ei erbyn, ynghyd 但 chopi or dystysgrif a gyhoeddwyd gan yr Uwch Dribiwnlys. Os ywr cais yn cael ei anfon trwy ddefnyddio ein , bydd yn rhaid sganio Ffurflen A wedi ei llenwi a chynllun lliw atodedig, a thystysgrif yr Uwch Dribiwnlys, ac anfon y delweddau fel atodiadau. Mae Ffurflen A wedi ei hamlinellu yn Atodlen 2 i Reolau Pridiannu Tir Lleol 2018.
Mae ffi yn daladwy ar gyfer y cais hwn. Gweler ein cyfarwyddyd ff誰oedd i gael rhagor o wybodaeth.
O dan reol 11 o Reolau Pridiannau Tir Lleol 2018, gall Cofrestrfa Tir EF ddinistrio unrhyw ddogfennau papur, gan gynnwys dogfennau gwreiddiol, syn ymwneud 但 chofrestru neu gais neu ymholiad a bydd yn cadw copi mewn ffurf electronig. Felly, ni ddylai dogfennau gwreiddiol gael eu hanfon gyda chais Hysbysiad Rhwystro Golau.
Cofiwch gynnwys pob un or canlynol, neu caiff eich cais ei wrthod:
- Ffurflen A wedi ei llenwi
- cynllun lliw yn dangos yr adeilad y caiff yr hysbysiad ei gofrestru yn ei erbyn
- copi or dystysgrif a gyhoeddwyd gan yr Uwch Dribiwnlys
- ffi
2.6.2 Amrywio neu ddileu cofrestru hysbysiad rhwystro golau o dan reol 7(1) or prif Reolau
Gall yr unigolyn a wnaeth gais i gofrestrur Hysbysiad Rhwystro Golau, neu ei olynydd yn y teitl ir tir y maer golau yn mynd trwyddo, wneud cais o fewn blwyddyn ir cofrestriad ir manylion cofrestredig gael eu hamrywio (er enghraifft, lleoliad yr adeiledd rhwystro tybiannol sydd iw newid) neu ddileur cofrestriad.
I wneud cais i gofrestrur amrywiad neu ddileu Hysbysiad Rhwystro Golau, gallwch naill ai:
- , gyda delweddau wedi eu sganio or dogfennau gofynnol byddwn yn cael eich cais yn gynt wrth ddefnyddior dull hwn
- anfon cais ar bapur trwyr post, gyda chop誰au or dogfennau gofynnol, ir canlynol:
Light Obstruction Notices
PO Box 3286
Twyver House
Gloucester
GL1 9HP
Byddwn yn gallu prosesu cais syn ymwneud 但 thir sydd wedi ei gynnwys o fewn ardal awdurdod lleol y maer cofrestrydd yn awdurdod cofrestru ar ei chyfer yn unig.
Mae ffi yn daladwy ar gyfer y cais hwn. Gweler ein cyfarwyddyd ff誰oedd i gael rhagor o wybodaeth.
O dan reol 11 o Reolau Pridiannau Tir Lleol 2018, gall Cofrestrfa Tir EF ddinistrio unrhyw ddogfennau papur, gan gynnwys dogfennau gwreiddiol, syn ymwneud 但 chofrestru neu gais neu ymholiad a bydd yn cadw copi mewn ffurf electronig. Felly, ni ddylai dogfennau gwreiddiol gael eu hanfon gydach cais.
Cofiwch gynnwys pob un or canlynol, neu caiff eich cais ei wrthod:
- Ffurflen B wedi ei llenwi (mae Ffurflen B wedi ei hamlinellu yn Atodlen 2 i Reolau Pridiannau Tir Lleol 2018)
- ffi
2.6.3 Amrywio cofrestru hysbysiad rhwystro golau o dan reol 7(6) or prif Reolau (tystysgrif diffiniol wedi ei chyflwyno)
Pan gafodd Hysbysiad Rhwystro Golau ei gofrestru ar sail tystysgrif dros dro gan yr Uwch Dribiwnlys a, chyn diwedd y cyfnod y maer dystysgrif dros dro yn dod i ben ar ei gyfer, gellir cyflwyno cais i amrywior cofrestriad gwreiddiol naill ai:
- gan , gyda delweddau wedi eu sganio or dystysgrif diffiniol byddwn yn cael eich cais yn gynt wrth ddefnyddior dull hwn
- trwyr post, gyda chopi or dystysgrif diffiniol, ir canlynol:
Light Obstruction Notices
PO Box 3286
Twyver House
Gloucester
GL1 9HP
Mae ffi yn daladwy ar gyfer y cais hwn. Gweler ein cyfarwyddyd ff誰oedd i gael rhagor o wybodaeth.
Bydd y cofrestrydd yn amrywior cofrestriad yn unol 但 hynny. Nid oes angen cyflwyno Ffurflen B ar gyfer ceisiadau a wneir o dan reol 7(6).
2.6.4 Amrywio neu ddileu cofrestru hysbysiad rhwystro golau yn unol 但 gorchymyn y llys o dan adran 3(5) o Ddeddf Hawliau Golau 1959
Os ywr llys wedi gwneud gorchymyn yn siarsio amrywio neu ddileu cofrestru hysbysiad rhwystro golau o dan adran 3(5) o Ddeddf Hawliau Golau 1959, anfonwch gopi swyddogol or gorchymyn hwnnw naill ai:
- gan byddwn yn cael eich cais yn gynt wrth ddefnyddior dull hwn
- trwyr post ir canlynol:
Light Obstruction Notices
PO Box 3286
Twyver House
Gloucester
GL1 9HP
Ni chodir ffi i gyflwyno copi o orchymyn or fath.
3. Chwilior Gofrestr Pridiannau Tir Lleol
Mae modd gwneud ymholiad am chwiliad swyddogol or gofrestr neu wneud cais i chwilio yn y gofrestr (i wneud chwiliad personol). Rhaid ir ymholiad gael ei wneud trwy ddefnyddior dull cyfathrebu electronig a bennir gan y cofrestrydd ac yn y ffurf a bennir gan y cofrestrydd.
Os ywr tir a nodir y maer chwiliad iw wneud yn ei gylch yn cynnwys tir nad y cofrestrydd ywr awdurdod cofrestru ar ei gyfer, bydd neges rhybudd yn cael ei dangos a bydd yn rhaid ichi wneud cais ir awdurdod lleol perthnasol.
Y gwahaniaeth yn y wybodaeth y bydd chwiliad swyddogol yn ei darparu oi gymharu 但 chwiliad personol
Yr hyn maer gwasanaeth yn ei gynnig
Ar gyfer chwiliad swyddogol (贈15) neu chwiliad personol (am ddim), cewch:
- ddisgrifiad or pridiant tir lleol
- y dyddiad cofrestru (pryd gafodd y pridiant ei ychwanegu at y gofrestr)
- manylion am yr awdurdod a all ateb cwestiynau am y pridiant tir lleol hwn
Ar gyfer chwiliad swyddogol (贈15), cewch hefyd:
- dystysgrif chwiliad swyddogol syn ddiogel (gwrth-ymyrraeth), wedi ei llofnodin ddigidol ai gwarantu gan Gofrestrfa Tir EF, gan sicrhau dilysrwydd
- cyswllt electronig ir fan lle maer ddogfen ar gael iw harchwilio, os ywr cyswllt hon wedi cael ei darparu gan yr awdurdod gwreiddiol
- terfyn y pridiant tir lleol, yn dangos ble maer pridiant yn dechrau ac yn gorffen
-
ar gyfer 6 mis, bydd pob chwiliad yn:
- rhoi lawrlwythiadau diderfyn o dystysgrif swyddogol
- chwiliadau swyddogol ailadroddus diderfyn i chwilio am bridiannau newydd cyn cwblhau trafodiad
- bod ar gael iw lwytho i lawr mewn fformatau lluosog (PDF, JSON, CSV, XML)
- rhoi dangosfwrdd hanes chwilio
- dangos chwiliadau gweithredol ac anweithredol
3.1 Chwiliad swyddogol
Gall cais am chwiliad swyddogol gael ei wneud trwy borthol Cofrestrfa Tir EF, neu Business Gateway, neu . Os ydych eisoes yn defnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF neu Business Gateway, maer opsiwn i brynu chwiliad Pridiannau Tir Lleol swyddogol ar gael trwyr sianeli hyn. Os nad ydych yn defnyddior gwasanaethau hyn a hoffech gofrestru, cysylltwch 但 Chofrestrfa Tir EF: gweler Pethau iw cofio am fanylion.
Mae Rheol 10 o Reolau Pridiannau Tir Lleol 2018 yn ei gwneud yn ofynnol ir ceisydd nodir tir y maer chwiliad iw wneud yn ei gylch. Cewch eich annog i wneud hyn pan fyddwch yn gwneud chwiliad a gellir gwneud hyn trwy un or opsiynau canlynol.
-
Rhoi cyfeiriad post y tir os ywr tir yn gofrestredig, bydd stent y teitl cofrestredig yn cael ei ddangos. Dylech wirio bod y stent a ddangosir yn adlewyrchun gywir yr ardal iw chwilio yn ei herbyn. Gellir newid hyn 但 llaw os oes angen.
-
Defnyddior map i dynnu stent y tir iw chwilio yn ei erbyn.
Os ydych yn defnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF, gallwch hefyd nodir tir y maer chwiliad iw wneud yn ei gylch trwy nodir rhif teitl, os ywr tir yn gofrestredig. Gellir newid hyn 但 llaw os oes angen. Os ywr tir yn ddigofrestredig, dylid defnyddio un or opsiynau a restrir uchod.
Pan fydd chwiliad wedi cael ei gwblhau ac mae canlyniad wedi cael ei gyhoeddi, ni fydd modd newid yr ardal chwilio.
Codir ffi am y gwasanaeth hwn. Gweler ein cyfarwyddyd ff誰oedd i gael rhagor o wybodaeth.
3.2 Chwiliad personol
I wneud cais i chwilio yn y gofrestr defnyddiwch y gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol ar 51画鋼. Byddwch yn gallu gweld ar y sgrin yr holl fanylion cofrestru ar gyfer pridiannau syn effeithio ar y tir rydych yn ei chwilio, ond ni fydd gennych fynediad at nodweddion ychwanegol y chwiliad swyddogol.
Mae Rheol 9 o Reolau Pridiannau Tir Lleol 2018 yn ei gwneud yn ofynnol ir ceisydd nodir tir y maer chwiliad or tir yn cael ei wneud yn ei gylch. Cewch eich annog i wneud hyn pan fyddwch yn chwilio a gellir ei wneud trwy un or opsiynau canlynol.
- Nodi cyfeiriad post y tir os ywr tir yn gofrestredig, bydd stent y teitl cofrestredig yn cael ei ddangos. Dylech wirio bod y stent a ddangosir yn adlewyrchun gywir yr ardal sydd iw chwilio yn ei herbyn. Gellir newid hyn 但 llaw os oes angen.
- Defnyddior map i dynnu stent y tir iw chwilio yn ei erbyn.
Ni chodir ffi i wneud cais am y dogfennau hyn. Gweler ein cyfarwyddyd ff誰oedd i gael rhagor o wybodaeth.
3.3 Maint yr ardal chwilio
Nid yw stent y tir y gellir ei chwilio gan un cais, os ywr cais am chwiliad swyddogol neu chwiliad personol, wedi ei gyfyngu i un darn o dir.
Ym mron pob achos, bydd modd i un cais gael ei wneud ar gyfer chwiliad or holl dir syn destun pryniant arfaethedig. Fodd bynnag, ni fydd modd i chwiliad fynd rhagddo pe byddai stent y tir a nodwyd yn arwain at nifer eithriadol o fawr o gofrestriadaun cael eu datgelu, ac felly gallai parhau 但r cais niweidio gweithrediad y gwasanaeth.
Mewn amgylchiadau or fath, bydd yn rhaid lleihau stent y tir a nodwyd a gwneud mwy nag un cais. Caiff ceiswyr eu hysbysu os bydd y stent yn rhy fawr pan fyddant wedi nodi yn eu cais y tir y caiff y chwiliad ei wneud yn ei erbyn: ni chaniateir ir cais fynd rhagddo ymhellach.
4. Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004
Y ffordd symlaf i gael gwybodaeth o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yw trwy gynnal chwiliad personol ar-lein (chwiliad personol). Caiff y wybodaeth ei darparu iw gweld ar y sgrin ar unwaith ac yn rhad ac am ddim.
Os na allwch ddefnyddior gwasanaeth chwilio personol ar-lein, gydach cais, nid oes rhaid iddo fod yn ysgrifenedig. Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniat叩u hyd at 20 diwrnod gwaith ymateb i gael ei gyhoeddi.
Pan fyddwch yn anfon eich cais, rhaid ichi ddarparu un or canlynol:
- rhif teitl Cofrestrfa Tir EF (os yw gennych)
- cyfeiriad post (os yw ar gael)
- cynllun er mwyn gallu nodir ardal chwilio
Dylech hefyd gynnwys eich manylion cysylltu, oherwydd maen bosibl y bydd angen gwybodaeth bellach arnom os nad oes modd nodin eglur y tir y maech cais yn cyfeirio ato.
5. Rhagor o wybodaeth am bridiannau neu gop誰au o ddogfennau
Mae pob cofrestriad yn cynnwys manylion am yr awdurdod gwreiddiol ar gyfer y pridiant ar manylion cysylltu ar gyfer yr awdurdod syn gallu ateb cwestiynau am y pridiant.
Dylai unrhyw ymholiadau ynghylch pridiannau gael eu cyfeirio at yr awdurdod gwreiddiol oherwydd yr awdurdod fydd 但r wybodaeth i gynorthwyo.
Os oes angen copi o ddogfen syn ymwneud 但 phridiant arnoch (heblaw dogfen a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF, (gweler Cael cop誰au o ddogfennau a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF), bydd yn rhaid ichi gysylltu 但r awdurdod gwreiddiol. Bydd y cofrestriad yn datgan pwy ywr awdurdod gwreiddiol a ble y gallwch gael rhagor o wybodaeth am y pridiant, gan ddefnyddior manylion cysylltu a ddarperir.
6. Cael cop誰au o ddogfennau a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF
Gallwch wneud cais am gopi o unrhyw ddogfen a restrir fel un a gedwir gan y cofrestrydd ym manylion cofrestriad ar gyfer hysbysiad rhwystro golau neu unrhyw orchymyn llys neu eitem o ohebiaeth a gedwir gan y cofrestrydd syn gysylltiedig 但 chofrestriad.
I gael copi o ddogfen a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF, rhaid ichi gydar canlynol:
- cyfeirnod Cofrestrfa Tir EF a ddangosir ar ganlyniadau chwiliad (os yw ar gael)
- y math o ddogfen
- dyddiad y ddogfen
Byddwch yn cael copi or ddogfen trwy ebost.
Ni chodir ffi i wneud cais am y dogfennau hyn. Gweler ein cyfarwyddyd ff誰oedd i gael rhagor o wybodaeth.
7. Yr hyn iw wneud os ydych yn meddwl bod camgymeriad mewn cofrestriad, neu ganlyniad chwiliad
Dylech gysylltu 但r awdurdod gwreiddiol perthnasol i drafod yr ymholiad gan ddefnyddior manylion cysylltu ar gyfer yr awdurdod syn gallu ateb cwestiynau am y pridiant fel y dangosir ar bob cofrestriad. Yn dilyn ei ymchwiliad, efallai y bydd yn gallu datrys y mater trwy wneud cais i Gofrestrfa Tir EF i amrywio neu ddileur pridiant.
Os ywch chwiliad wedi cael ei ddarparu gan gwmni chwiliad personol, cysylltwch 但r cwmni yn y lle cyntaf oherwydd maen bosibl y bydd yn gallu rhoi cymorth.
Mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, o dan reol 6 o Reolau Cofrestru Tir 2018, gall y Cofrestrydd, ohono ei hun, amrywio neu ddileu cofrestriad. Gweler Cais i amrywio pridiant tir lleol a Cais i ddileu pridiant tir lleol.
8. Iawndal
Fel rheol, bydd hawl gan brynwr tir i gael iawndal o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 am unrhyw golled a gafwyd o ganlyniad os cafodd chwiliad swyddogol neu bersonol perthnasol ei wneud cyn yr amser perthnasol ac os nad oedd y chwiliad neur dystysgrif chwiliad swyddogol wedi dangos pridiant tir lleol oedd yn bodoli adeg gwneud y chwiliad.
At ddiben adran 10, mae unigolyn yn prynu tir pan fydd, am gydnabyddiaeth sydd 但 gwerth iddi, yn caffael unrhyw fudd yn y tir gan gynnwys lle maer caffaeliad fel prydlesai neun forgeisai.
Bydd chwiliad yn berthnasol os cafodd ei wneud (neu y gwnaed ymholiad amdano yn achos chwiliad swyddogol) gan neu ar ran y prynwr neu, cyn yr amser perthnasol, mae gan y prynwr neu ei asiant wybodaeth am ganlyniad y chwiliad neu gynnwys y dystysgrif chwiliad swyddogol.
Fel arfer, yr amser perthnasol fydd yr amser pan gafodd y contract ar gyfer caffael y budd ei wneud neu (os nad oes contract or fath) dyddiad y trosglwyddiad, trawsgludiad, prydles, morgais neu gyfrwng arall y cafodd y budd dan sylw ei gaffael trwyddo.
Rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig am iawndal. Rhaid ir wybodaeth ganlynol gael ei chynnwys gydag unrhyw gais or fath:
- manylion y chwiliad a gafodd ei wneud ac (yn achos chwiliad swyddogol) copi or dystysgrif chwiliad swyddogol berthnasol
- y dyddiad pan gafodd y chwiliad ei wneud
- disgrifiad or budd a brynwyd mewn dibyniaeth ar y chwiliad
- manylion y pridiant yr honnwyd iddo fodoli ar yr adeg y cafodd y chwiliad ei wneud ond heb ei ddatgelu
- manylion y golled yr honnir iddi gael ei dioddef o ganlyniad
9. Pethau iw cofio
Gwiriwch air cofrestrydd ywr awdurdod cofrestru ar gyfer yr ardal awdurdod lleol lle maer tir perthnasol wedi ei gynnwys. Os na, bydd yn rhaid ichi wneud cais ir awdurdod lleol perthnasol, nid Cofrestrfa Tir EF.
Yn gyffredinol, bydd dogfennau syn cynnwys neun ffurfior pridiant tir lleol yn cael eu cadw gan yr awdurdod gwreiddiol, nid gan Gofrestrfa Tir EF.
Os ydych yn meddwl bod cofrestriad yn anghywir neu y dylai pridiant gael ei ddileu, cysylltwch 但r awdurdod gwreiddiol perthnasol er mwyn iddo allu gwneud cais i Gofrestrfa Tir EF i amrywio neu ddileur cofrestriad.
I wneud cais am chwiliad swyddogol, defnyddiwch borthol Cofrestrfa Tir EF, neu Business Gateway, neur .
Maer cyfarwyddyd hwn yn ymwneud 但 chwiliad pridiannau tir lleol yn unig. Dylai ymholiadau CON29 gael eu gwneud ir awdurdod lleol perthnasol.
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.
10. Cysylltu
Os oes unrhyw gwestiynau gennych am geisiadau pridiannau tir lleol, cysylltwch 但 ni.
酷韓担稼
0300 006 0422
Local Land Charges
Processing Team
PO Box 7804
Bilston
WV1 9QP
Os ydych am gael mynediad at ein porthol neu Business Gateway, cewch wybod rhagor yma a gwneud cais i ddefnyddio E-wasanaethau busnes.
Os oes ymholiad gennych am ddebyd uniongyrchol amrywiol, cysylltwch 但r adran gyfrifon:
- ff担n 0300 006 6690
- ebost creditaccounts@landregistry.gov.uk