Gwybodaeth Rheoli hawliadau gwasanaeth ceisiadau Camweinyddu Cyfiawnder (MOJAS)
Diweddarwyd 7 Awst 2025
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
1. Ystadegau Camweinyddu Cyfiawnder:
1.1 Cyflwyniad
Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol ddyletswydd statudol i benderfynu pa un ai i ddyfarnu iawndal i rhywun sydd wedi dioddef camweinyddu cyfiawnder yng Nghymru a Lloegr, yn unol 但r prawf a nodwyd yn adran 133rDeddf Camweinyddu Cyfiawnder 1988.
Nid oes hawl awtomatig i iawndal ac un llwybr yn unig ywr Gwasanaeth Ceisiadau Camweinyddu Cyfiawnder ble gall unigolyn dderbyn iawndal ar gyfer euogfarn ar gam, gydag opsiynau eraill yn cynnwys gwneud hawliad sifil. Mae fwy o wybodaeth am wneud cais am iawndal ar gael yn
Maer adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o geisiadau a dderbyniwyd a phob penderfyniad a wnaed ar geisiadau yn y cyfnod rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2025. Nid yw data o flynyddoedd blaenorol wedii gynnwys gan nad oedd yn cael ei gasglun gyson, syn golygu nad ywn cymharun uniongyrchol gydar cyfnodau diweddaraf. Dylair wybodaeth ar data a gyflwynir yma ac yn y dogfennau atodol (ar gael yma: Gwybodaeth am reoli hawliadau -Gwasanaeth Ceisiadau Camgweinyddu Cyfiawnder iscarriage of Justice application service (MOJAS) - 51画鋼) gael ei hystyried fel gwybodaeth reoli a gyflwynir i roi un fersiwn gydlynol or ystadegau hyn.
Bydd rhai ceisiadau o reidrwydd yn dal ar y gweill ar y pwynt y cafodd yr ystadegau eu coladu ar gyfer eu cyhoeddi ac felly ni fydd pob cais a gasglwyd yn y data wedi cwblhau pob cam or broses.
1.2 Rhesymeg dros gyhoeddi
Maer cyhoeddiad hwn yn rhoi trosolwg o ystadegau ar geisiadau a dderbyniwyd a phob penderfyniad a wnaed ar gyfer camweinyddu cyfiawnder o Ebrill 2016. Mae data ar gyfer Ebrill 2024 i Mawrth 2025 wedii ychwanegu ir dilyniant data a gyhoeddwyd yn flaenorol.
Maer adran yn cyhoeddir ffigyrau yn dilyn diddordeb y cyhoedd yn ypwnc a cheisiadau a wnaed yn dilyn sylw yn y cyfryngau. Mae cyhoeddir ystadegau hyn yn darparu set cydlynol o ddata ar gael ir cyhoedd. Bydd
y cyhoeddiad yn rhoi mynediad cyfartal yn unol 但r data y gofynnir amdano gan y cyhoedd a gydar Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau syn nodi, Dylai ystadegau a data fod ar gael i bawb, dim eu rhoi i rai pobl cyn eraill.
1.3 1.3 Sylw
Maer adroddiad yn ymwneud 但r blynyddoedd ariannol o 2016/17 i 2024/25. Nid yw data o flynyddoedd blaenorol wedii gynnwys gan na chasglwyd yn gyson ac nid yw ansawdd y data yn ddigonol ar gyfer ei gyhoeddi. Maer adroddiad yn cynnwys siwrnai achosion iawndal, y cyfanswm a dalwyd ar amser a gymerwyd i gyrraedd camau allweddol:
- Derbyniwyd cais
- Cais wedii asesu neu ei wrthod yn ystod brysbennu
- Gwnaed penderfyniad i ganiat叩u neu i wrthod
- Asesiad annibynnol o Quantum
- Talwyd dyfarniad
1.4 Crynodeb o ganfyddiadau
Yn 2024/25:
-
Derbyniwyd 103 o geisiadau ar gyfer iawndal. Aeth 27 cais ymlaen i asesiad llawn iw hystyried yn erbyn meini prawf adran 133 a gwrthodwyd 77 yn ystod brysbennu.
-
Or sawl a wrthodwyd, gwrthodwyd dros hanner (52%) gan nad oedd euogfarnau neu cafodd yr euogfarn ei dileu. Gweler ar gyfer dadansoddiad manwl o resymau dros wrthod yn ystod brysbennu.
-
Talwyd 贈95,250 mewn iawndal nad ywn cynnwys taliadau interim. Bydd unrhyw daliadau interim a wnaed yn y flwyddyn ariannol hon yn cael eu cynnwys yn y flwyddyn ariannol y gwnaed y taliad terfynol.
-
Yr amser ar gyfartaledd rhwng derbyn ceisiadau ar canlyniad syn hysbys yn 2024/25 yw 39 wythnos. Mae hyn 4 wythnos yn gynt nar llynedd
Rhwng 2016 a 2025:
- Maer Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi talu 贈2,475,918 o iawndal o dan y
- Gwasanaeth Ceisiadau Camweinyddu Cyfiawnder yn y cyfnod rhwng 2016/17 a 2024/25.
- Maer symiau a dalwyd yn amrywio rhwng 贈250 a 贈500,000. Dros y cyfnod, derbyniwyd 694 cais am iawndal ar gyfer camweinyddu cyfiawnder.
- O Ebrill 2016 i Mawrth 2025, aeth 162 cais ymlaen i asesiad llawn i gael eu hystyried yn erbyn meini prawf a133 a gwrthodwyd 538 yn ystod brysbennu.
1.5 Nodiadau Esboniadol
-
Maer Weinyddiaeth Gyfiawnder yn annog ceiswyr i gynnwys dogfennau perthnasol gydau cais, ond yn aml mae ceisiadau yn cael eu derbyn heb unrhyw ddogfennau cefnogol, a gall gymryd rhwng 4 a 12 wythnos i gasglu dogfennau llys er mwyn ir achos gael ei asesun llawn.
-
Bydd cais yn mynd drwyr system brysbennu ac yn cael ei asesu gan weithiwr achos yn erbyn meini prawf adran 133 os oedd gan yr ymgeisydd:
-
Euogfarn droseddol
-
Cafodd yr euogfarn ei dileu mewn ap棚l allan o amser
-
Cafodd y cais ei wneud o fewn 2 flynedd o adeg ddileu euogfarn neur adeg cafwyd maddeuant
-
Caiff cais ei wrthod yn ystod brysbennu os na fydd yn bodloni un o feini prawf adran 133. Mae enghreifftiau yn cynnwys ble mae ymgeisydd wedii gael yn ddieuog yn y treial neu achos adran 142 ble maer achos yn cael ei ailagor ac mae gwall yn cael ei ddatrys yn y Llys Ynadon. Gall cais hefyd gael ei dynnun 担l os yw ceisydd wedi cyrraedd setliad llawn a therfynol mewn man arall ar gyfer yr un materion yn codi or un set o amgylchiadau a bydd egwyddorion adferiad dwbl yn berthnasol.
-
Mae pob cais syn mynd drwyr brysbennu ynan cael ei asesu gan weithiwr achos fydd yn ystyried a yw unigolyn wedi cael gwrthdroi ei euogfarn neu wedi cael maddeuant ar y sail bod ffaith newydd neu newydd ei ddarganfod yn dangos y tu hwnt i amheuaeth resymol nad oeddent wedi cyflawnir trosedd, ac nad oedd diffyg datgelur ffaith newydd neu newydd ei ddarganfod yn gwbl neun rhannol briodol iddyn nhw.
-
Pan fydd ymgeisydd yn cael ei hysbysu y bodlonwyd y prawf,maent yn cael hyd at 3 mis (y gellir ei ymestyn) i gasglu tystiolaeth gefnogol i fesur y colledion syn codi or camweinyddu cyfiawnder. Penderfynir ar swm yr iawndal gan Asesydd Annibynnol a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.