Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Iath Gymraeg Y Weinyddiaeth Amddiffyn (MODWLS) 2019-2010
Published 15 December 2021
1. Ynghylch yr adroddiad hwn
Dyma Adroddiad Monitro Blynyddol MODWLS ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg, a gyflwynir yn Saesneg ac yn y Gymraeg. Maen rhoi manylion am ein perfformiad o ran bodloni ein hymrwymiadau polisi ar gyfer y MODWLS yn ystod 2019-20.
2. Ynghylch y MODWLS
Maer MODWLS yn pennu ein hymrwymiadau o ran y Gymraeg. Rydym yn anelu at drin y Gymraeg ar Saesneg yn gyfartal, fel y gall siaradwyr Cymraeg ymwneud 但r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) yn Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, a sicrhau bod y gwasanaeth Cymraeg cystal 但r gwasanaeth Saesneg cyfatebol.
3. Rheolir MODWLS
Mae Syr Stephen Lovegrove, Ysgrifennydd Parhaol y MOD, yn parhau i fod 但 chyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio 但r MODWLS. Mae T樽m Digidol MOD ar gyfer Stiwardiaeth Gwybodaeth, Rheoli Gwybodaeth a Chofnodion wedi bod yn rheolir MODWLS ar ei ran ers diwedd 2014.
4. Adolygiad or Flwyddyn
Yn gyffredinol, ni chafodd y cyfnodau clo cenedlaethol nar cyfyngiadau lleol yng Nghymru lawer o effaith ar ein gwasanaethau yn 2020.
Rydym wedi paratoi a chyflwyno drafft or MODWLS 2020 sydd wedii ddiweddaru ai ddiwygio, i gael sylwadau gan Gomisiynydd y Gymraeg cyn cyflwyno cyhoeddiad ffurfiol gan yr Adran yn ddiweddarach eleni.
Maen bleser gennym gyhoeddi bod Pencampwr Iaith Gymraeg ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD WLC) wedi cael ei benodi. Commodore Dai Williams ywr MODWLC, ac mae mewn sefyllfa ddelfrydol, fel Swyddog Llu Awyr Cymru, i arwain ar ymgysylltu 但r MODWLS ar draws yr Adran. Hefyd, trwy ei berthnasau gydag uwch randdeiliaid yng Nghymru, maen gallu rhoi cyngor ar yr effaith y gall ein polis誰au an prosiectau gael ar Gymru ar Gymraeg, Rydym wedi ychwanegur Rhaglen Gweithion Gymraeg i Ysgol Ymgysylltur MOD a Rhestr Ieithoedd Awdurdodedig Canolfan Iaith a Diwylliant y MOD, ac mae ar gael i holl staff y MOD ar yr offer TGCh a ddarperir iddynt gan y MOD. Bydd hyn yn cefnogi ein hymrwymiad i annog ein staff, yn enwedig y rhai hynny sydd yng Nghymru, i ddysgu Cymraeg neu wella eu sgiliau Cymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Rydym yn parhau i gynnal perthynas waith dda iawn ag Uned Iaith Gymraeg Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM); syn darparu gwasanaeth ardderchog inni, yn cyfieithu gwaith ysgrifenedig yn brydlon ac yn gweithredu ein gwasanaeth Llinell Gymorth Cymraeg.
5. Y Flwyddyn i Ddod
Ein blaenoriaeth yn 2021 fydd gweithredur mesurau ychwanegol rydym wedi ymrwymo iddynt yn y MODWLS 2020 diwygiedig. Yn bennaf, byddwn yn:
- lansio Porth Gymraeg MOD ar wefan gov.uk a chanolir holl wybodaeth MOD syn berthnasol i Gymru neu aelodaur cyhoedd syn siaradwyr Cymraeg yno, a
- chreu Wiki Cymraeg dwyieithog tebyg ar ryngrwyd yr Adran, a fydd yn darparu cyngor ac arweiniad ar sut i fodloni ein hymrwymiad i aelodaur cyhoedd syn siaradwyr Cymraeg;
- cyflwyno, ar y cyd 但n T樽m Datganoli, Llwybr Asesiad or Effaith ar Gymru ar Gymraeg ir broses Knowledge in Defence ai wneud yn ofynnol i bob prosiect neu fenter newydd ei gwblhau. Bydd hyn yn cydnabod pwysigrwydd ystyried yr effaith gall ein prosiectau an mentrau gael ar Gymru ar Gymraeg;
- ffurfio Rhwydwaith Siaradwyr Cymraeg MOD ar gyfer gweithwyr, wedii arwain gan Bencampwr yr Iaith Gymraeg MOD, i ymestyn y defnydd or Gymraeg yn ein busnes o ddydd i ddydd a darparu sgiliau iaith Cymraeg ychwanegol o fewn yr Adran ac yn ein rhaglenni estyn allan;
- cymryd rhan yn y Gweithgor Cynllun Iaith Gymraeg traws-lywodraethol sydd newydd gael ei ffurfio, ac sydd wedii gadeirio gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, i rannur arfer gorau a sbarduno gwelliannau ir darpariaethau iaith Gymraeg a gynigir gan Adrannaur Llywodraeth a Chyrff Cyhoeddus.
6. Casgliad
Rydym yn parhau i ymrwymo i fodloni disgwyliadau siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a gwellar gwasanaethau rydym yn eu cynnig iddynt.