Guidance

Notice of rights and entitlements Welsh (PACE Code H) (accessible version)

Updated 31 January 2019

Deddf Terfysgaeth 2000

Cofiwch eich hawliau tra byddwch yn y ddalfa

Maer hawliau yn yr Hysbysiad hwn wedi eu gwarantu i chi dan y gyfraith yng Nghymru a Lloegr ac yn cydymffurfio 但 ar yr hawl i wybodaeth mewn achosion troseddol.

Mae eich hawliau yng ngorsaf yr heddlu wedi eu crynhoi ar y dudalen hon.

Ceir rhagor o wybodaeth ym mharagraffau 1 i 11 ar y tudalennau nesaf.

Ceir manylion llawn yng Nghod Ymarfer H yr heddlu.

  1. Dywedwch wrth yr heddlu os ydych eisiau cyfreithiwr ich helpu trach bod yn yr orsaf heddlu. Mae hyn am ddim.

  2. Dywedwch wrth yr heddlu os ydych eisiau rhoi gwybod i rywun ble rydych chi. Mae hyn am ddim.

  3. Dywedwch wrth yr heddlu os ydych eisiau edrych ar eu rheolau feu gelwir yn Godau Ymarfer.

  4. Dywedwch wrth yr heddlu os ydych eisiau cymorth meddygol. Dywedwch wrth yr heddlu os nad ydych yn teimlon dda neu wedich anafu. Mae cymorth meddygol am ddim.

  5. Os holir cwestiynau i chi am amheuaeth och cyfranogiad yng ngweithredu, paratoi neu ysgogi gweithredoedd terfysgol, does dim rhaid i chi ddweud dim. Fodd bynnag, fe allai niweidio eich amddiffyniad os na fyddwch yn s担n wrth gael eich holi am rywbeth y byddwch yn dibynnu arno nes ymlaen yn y Llys. Gall unrhyw beth yr ydych yn ei ddweud gael ei roi fel tystiolaeth.

  6. Rhaid ir heddlu roi gwybod i chi am natur yr amheuaeth och cyfranogiad yng nghomisiynu, paratoi neu ysgogi gweithredoedd terfynol a pham eich bod wedich arestio ac yn cael eich cadw.

  7. Rhaid ir heddlu adael i chi neuch cyfreithiwr weld eich cofnodion a dogfennau ynghylch pam eich bod wedi cael eich arestio ac yn cael eich cadw ac ynghylch eich amser yng ngorsaf yr heddlu.

  8. Os oes arnoch angen cyfieithydd, rhaid ir heddlu gael un i chi. Gallwch hefyd ofyn i ddogfennau penodol gael eu cyfieithu. Mae hyn am ddim.

  9. Rhowch wybod ir heddlu os nad ydych yn Brydeinig ach bod eisiau cysylltu 但ch llysgenhadaeth neu gonsyliaeth neu eisiau rhoi gwybod iddynt eich bod wedich cadw dan glo. Mae hyn am ddim.

  10. Rhaid ir heddlu roi gwybod i chi am faint o amser maent yn bwriadu eich cadw.

  11. Os cewch eich cyhuddo ac maech achos yn mynd ir llys, bydd gennych chi neuch cyfreithiwr yr hawl i weld tystiolaeth yr erlyniad cyn mynd ir llys.

Os nad ydych yn si典r am unrhyw un or hawliau hyn, rhowch wybod i swyddog y ddalfa

Gweler y tudalennau ar 担l y crynodeb am ragor o wybodaeth ynghylch sut ddylair heddlu eich trin a gofalu amdanoch

Dawr fersiwn hon or Hysbysiad o Hawliau i rym o 1 Rhagfyr 2018

Cadwch yr wybodaeth hon ai darllen cyn gynted 但 phosibl. Bydd yn eich helpu i wneud penderfyniadau trach bod yng ngorsaf yr heddlu.

1. Cael cyfreithiwr ich helpu

  • Gall cyfreithiwr eich helpu ach cynghori yngl天n 但r gyfraith.
  • Nid yw gofyn am gael siarad 但 chyfreithiwr yn gwneud i chi edrych fel eich bod wedi gwneud unrhyw beth oi le.
  • Rhaid i Swyddog y Ddalfar Heddlu ofyn i chi os ydych eisiau cyngor cyfreithiol. Mae hyn am ddim.
  • Rhaid ir heddlu adael i chi siarad 但 chyfreithiwr ar unrhyw adeg, dydd neu nos, trach bod yng ngorsaf yr heddlu.
  • Os ydych yn gofyn am gyngor cyfreithiol, fel arfer nid ywr heddlu yn cael gofyn cwestiynau i chi nes eich bod wedi cael cyfle i siarad 但 chyfreithiwr. Pan fydd yr heddlun holi cwestiynau i chi, gallwch ofyn i gael cyfreithiwr yn yr ystafell gyda chi.
  • Os byddwch yn dweud wrth yr heddlu nad ydych eisiau cyngor cyfreithiol ond ynan newid eich meddwl, dywedwch wrth swyddog y ddalfa a fydd yn eich helpu i gysylltu 但 chyfreithiwr.
  • Os na fydd cyfreithiwr yn cyrraedd neun cysylltu 但 chi yn swyddfar heddlu, neu os bydd arnoch angen siarad 但 chyfreithiwr eto, gofynnwch ir heddlu gysylltu 但 nhw eto.
  • Gallwch ofyn i gael siarad 但 chyfreithiwr rydych yn ei adnabod ac ni fydd rhaid i chi dalu os ydynt yn gwneud gwaith cymorth cyfreithiol. Os nad ydych yn adnabod cyfreithiwr neu na ellir cysylltu 但r cyfreithiwr rydych yn ei adnabod, gallwch siarad 但r cyfreithiwr ar ddyletswydd. Mae am ddim.
  • Nid ywr cyfreithiwr ar ddyletswydd yn gysylltiedig 但r heddlu.

I drefnu cyngor cyfreithiol am ddim:

  • Bydd yr heddlu yn cysylltu 但 Chanolfan Alwadau Cyfreithwyr yr Amddiffyn (DSCC). Bydd y DSCC yn trefnu i roi cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr yr ydych wedi gofyn amdano neu gan y Cyfreithiwr ar Ddyletswydd.
  • Maer DSCC yn wasanaeth annibynnol syn gyfrifol am drefnu cyngor cyfreithiol am ddim ac nid ywn gysylltiedig 但r heddlu.

Os byddwch eisiau talu am gyngor cyfreithiol eich hunan:

  • Ym mhob achos gallwch dalu am gyngor cyfreithiol os ydych eisiau gwneud hynny.
  • Bydd y DSCC yn cysylltu 但ch cyfreithiwr eich hunan ar eich rhan.
  • Mae gennych hawl i siarad yn breifat gyda chyfreithiwr och dewis ar y ff担n neu fe allant benderfynu dod ich gweld yng ngorsaf yr heddlu.
  • Os na ellir cysylltu 但 chyfreithiwr och dewis chi, bydd yr heddlun dal i allu ffonior DSCC i drefnu cyngor cyfreithiol am ddim gan y Cyfreithiwr ar Ddyletswydd.

2. Dweud wrth rywun eich bod yng ngorsaf yr heddlu

  • Gallwch ofyn ir heddlu gysylltu 但 rhywun sydd angen gwybod eich bod yng ngorsaf yr heddlu. Mae hyn am ddim.
  • Byddant yn cysylltu 但 rhywun i chi cyn gynted 但 phosibl.

3. Edrych ar y Codau Ymarfer

  • Maer Codau Ymarfer yn rheolau a fydd yn rhoi gwybod i chi beth all yr heddlu ei wneud a pheidio 但i wneud trach bod yng ngorsaf yr heddlu. Maent yn cynnwys manylion yr hawliau a grynhoir yn yr Hysbysiad hwn.
  • Bydd yr heddlu yn gadael i chi ddarllen y Codau Ymarfer, ond ni allwch wneud hyn os ywn oedi ymgais yr heddlu i ganfod a ydych wedi torrir gyfraith.
  • Os ydych eisiau darllen y Codau Ymarfer, rhowch wybod i Swyddog y Ddalfar Heddlu.

4. Cael cymorth meddygol os ydych yn anhwylus neu wedich anafu

  • Dywedwch wrth yr heddlu os nad ydych yn teimlon dda neu angen meddyginiaeth neu os oes gennych anaf. Byddant yn ffonio meddyg neu nyrs neu weithiwr gofal iechyd arall ac mae am ddim.
  • Efallai y byddwch yn gallu cymryd eich meddyginiaeth eich hun, ond bydd rhaid ir heddlu ei gwirio yn gyntaf. Fel arfer bydd nyrs yn eich gweld yn gyntaf, ond bydd yr heddlu yn ffonio am feddyg os oes arnoch angen un. Gallwch ofyn i weld meddyg arall, ond efallai bydd rhaid i chi dalu am hyn.

5. Hawl i fod yn ddistaw

Os gofynnir cwestiynau i chi am amheuaeth och cyfranogiad yn y drosedd, nid oes rhaid i chi ddweud dim byd.

Fodd bynnag, fe allai niweidio eich amddiffyniad os na fyddwch yn s担n wrth gael eich holi am rywbeth y byddwch yn dibynnu arno nes ymlaen yn y Llys.

Gall unrhyw beth yr ydych yn ei ddweud gael ei roi fel tystiolaeth.

6. Gwybod pam eich bod wedich arestio ach cadw

  • Rhaid ir heddlu eich darparu 但 gwybodaeth er mwyn i chi allu deall pam eich bod wedi cael eich arestio a pham eich bod dan amheuaeth o fod yn gysylltiedig 但 chomisiynu, paratoi neu ysgogi terfysgaeth.
  • Yng ngorsaf yr heddlu, rhaid ir heddlu roi gwybod i chi pam eu bod yn credu fod angen eich cadw.
  • Cyn eich holi am yr amheuaeth o fod yn gysylltiedig 但 therfysgaeth, rhaid ir heddlu roi digon o wybodaeth i chi neuch cyfreithiwr ynghylch beth maent yn amau eich bod wedi ei wneud er mwyn i chi alluch amddiffyn eich hun, ond heb niweidio ymchwiliad yr heddlu.
  • Mae hyn yn berthnasol i unrhyw droseddau eraill maer heddlu yn amau eich bod wedi eu cyflawni.

7. Gweld cofnodion a dogfennau yngl天n 但ch arestio ach cadw

  • Pan fyddwch yn cael eich cadw yng ngorsaf yr heddlu, rhaid ir heddlu:
    • Gofnodi yn eich cofnod dalfa y rheswm ar angen dros eich arestio a pham eu bod yn credu bod angen eich cadw.
    • Adael i chi ach cyfreithiwr weld y cofnodion hyn. Bydd swyddog y ddalfa yn trefnu hyn.
  • Rhaid ir heddlu roi mynediad i chi neuch cyfreithiwr at ddogfennau a deunyddiau syn allweddol i herio cyfreithlondeb eich arestio a chadw yn effeithiol.

8. Cael cyfieithydd ar y pryd a chyfieithiadau o ddogfennau penodol ich helpu

  • Os nad ydych yn siarad nan deall Saesneg, bydd yr heddlu yn trefnu i rywun syn siarad eich iaith eich helpu. Mae hyn am ddim.
  • Os ydych yn fyddar neun profi anawsterau wrth siarad, bydd yr heddlu yn trefnu i gyfieithydd ar y pryd Saesneg Iaith Arwyddion Prydain eich helpu. Mae hyn am ddim.
  • Os nad ydych yn gallu siarad neu ddeall Saesneg, bydd yr heddlu yn gofyn ir cyfieithydd ddweud wrthych chi pam eu bod yn eich cadw. Rhaid gwneud hyn pob tro y penderfynir eich cadw yn y ddalfa.
  • Wedi pob penderfyniad ich cadw yn y ddalfa ac wedi i chi gael eich cyhuddo o unrhyw drosedd, rhaid ir heddlu hefyd roi cofnod i chi yn eich iaith eich hun o pam eich bod yn cael eich cadw ac o unrhyw drosedd ych cyhuddwyd oi chyflawni, oni bai fod rhesymau arbennig dros beidio 但 gwneud hynny. Y rhain yw:
    • Os byddwch yn penderfynu nad oes arnoch angen y cofnod er mwyn amddiffyn eich hun gan eich bod yn deall yn llawn beth syn digwydd a goblygiadau peidio 但 chael y cofnod, ach bod wedi cael cyfle i ofyn am gyfreithiwr ich helpu i benderfynu. Rhaid i chi hefyd gydsynio i hyn yn ysgrifenedig.
    • Os byddai cael cyfieithiad llafar neu grynodeb trwy gyfieithydd ar y pryd yn hytrach na chyfieithiad ysgrifenedig yn ddigon i chich amddiffyn eich hun ac i ddeall yn llawn beth syn digwydd. Rhaid ir swyddog y ddalfa awdurdodi hyn hefyd.
  • Pan fydd yr heddlu yn gofyn cwestiynau i chi heb wneud recordiad sain, bydd y cyfieithydd ar y pryd yn gwneud cofnod or cwestiynau ach atebion yn eich iaith eich hun. Byddwch yn gallu gwirio hyn cyn i chi ei lofnodi fel cofnod cywir.
  • Os byddwch eisiau gwneud datganiad ir heddlu, bydd y cyfieithydd ar y pryd yn gwneud copi or datganiad hwnnw yn eich iaith eich hunan i chi ei wirio ai lofnodi ei fod yn gofnod cywir.
  • Mae gennych hefyd hawl i gyfieithiad or Hysbysiad hwn. Os nad oes cyfieithiad ar gael, rhaid i chi gael yr wybodaeth trwy gyfieithydd ar y pryd a derbyn cyfieithiad heb unrhyw oedi.

9. Cysylltu 但ch llysgenhadaeth neu gonsyliaeth

Os nad ydych yn Brydeinig, gallwch ddweud wrth yr heddlu eich bod eisiau cysylltu 但ch Uwch Gomisiwn, Llysgenhadaeth neu Gonsyliaeth i roi gwybod iddynt ble rydych chi a pham eich bod yng ngorsaf yr heddlu. Gallant hefyd ymweld 但 chin breifat neu drefnu i gyfreithiwr eich gweld.

10. Am faint o amser y gellir eich cadw

  • Dim ond os yw llys yn caniat叩u mwy o amser ir heddluch cadw y gellir eich cadw am fwy na 48 awr heb gyhuddiad. Mae gan y llysoedd y p典er i ymestyn cyfnod eich carchariad heb gyhuddiad am hyd at 14 niwrnod och arestio.
  • Pob hyn a hyn rhaid i uwch swyddog yr heddlu edrych i mewn ich achos i weld a ddylid eich cadw o hyd. Fe elwir hyn yn adolygiad. Oni bai nad ydych mewn cyflwr gweddus, mae gennych hawl i gael dweud eich barn am y penderfyniad hwn. Mae gan eich cyfreithiwr hefyd hawl i roi barn am y penderfyniad hwn ar eich rhan.
  • Os nad ywr swyddog adolygu yn eich rhyddhau, rhaid rhoi gwybod i chi pam a chofnodir rheswm yn eich cofnod dalfa.
  • Os nad oes angen eich cadw bellach, yna maen rhaid eich rhyddhau.
  • Pan fydd yr heddlu yn gofyn ir llys ymestyn eich cyfnod yn y ddalfa:
    • Rhaid i chi gael hysbysiad ysgrifenedig yn eich hysbysu pryd fydd y gwrandawiad yn digwydd ar sail dros ymestyn eich carchariad.
    • Rhaid dod 但 chi ir llys ar gyfer y gwrandawiad, oni sefydlir cyswllt teledu fel y gallwch weld a chlywed y bobl yn y llys a gallant weld a chlywed chi.
    • Bydd gennych hawl i gael cyfreithiwr gyda chi yn y llys.
    • Fydd yr heddlu ddim ond yn cael eich cadw yn y ddalfa os ywr llys yn credu fod hynnyn angenrheidiol ac os ywr heddlu yn ymchwilio ich achos yn ofalus a heb oedi diangen.
  • Os oes gan yr heddlu ddigon o dystiolaeth ich anfon ir llys, gellir eich cyhuddo yng ngorsaf yr heddlu neu drwyr post, i ymddangos yn y llys i gael eich erlyn.

Adolygiadau ac ymestyn cyfnod o garchariad

  • Gall fod achlysuron pan fyddwch yn cael eich cadw am fwy na 48 awr wedi cael eich arestio. Dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i chi gael y canlynol:
    • Dogfen ysgrifenedig fod y cais i ymestyn eich cyfnod o garchariad wedi ei gyflwyno;
    • Yr amser y gwnaed y cais;
    • Yr amser pan fydd y cais yn cael gwrandawiad yn y llys; ac
    • Y rheswm neu resymau dros ofyn am gyfnod pellach o garchariad.

Rhaid hefyd darparu hysbysiad i chi (ach cynrychiolydd cyfreithiol) pob tro y gwneir cais i ymestyn neu ymestyn ymhellach eich cyfnod o garchariad.

11. Mynediad at y dystiolaeth os ywch achos yn mynd ir Llys

Os ydych yn cael eich cyhuddo o drosedd, rhaid i chi neuch cyfreithiwr gael gweld y dystiolaeth yn eich erbyn yn ogystal 但 thystiolaeth a allai helpuch amddiffyniad. Rhaid gwneud hyn cyn ich achos gychwyn. Maen rhaid ir heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron drefnu hyn a darparu mynediad at y dogfennau ar deunyddiau perthnasol.

Pethau eraill iw gwybod am fod mewn gorsaf heddlu

Sut y dylid eich trin a gofalu amdanoch

Maer nodiadau hyn yn dweud wrthych beth allwch ei ddisgwyl trach cedwir yng ngorsaf yr heddlu. Am ragor o wybodaeth, gofynnwch am weld y Codau Ymarfer. Maent yn cynnwys rhestr o ble i ganfod rhagor o wybodaeth am bob un or pethau hyn. Gofynnwch i swyddog y ddalfar heddlu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Pobl sydd angen cymorth

  • Os ydych dan 18 neun fregus, er enghraifft os oes gennych anawsterau dysgu neu broblemau iechyd meddwl, yna mae gennych hawl i gael rhywun gyda chi pan fydd yr heddlu yn gwneud pethau penodol. Gelwir yr oedolyn hwn eich oedolyn priodol a rhoddir copi or Hysbysiad hwn iddynt.
  • Bydd eich oedolyn priodol yn eich helpu chi i ddeall yr hyn syn digwydd ac yn diogelu eich buddiannau. Rhaid iddo ef neu hi fod gyda chi pan fydd yr heddlu yn dweud wrthych beth ywch hawliau ac yn dweud pam eich bod yn cael eich cadw yng ngorsaf yr heddlu. Rhaid iddo ef neu hi hefyd fod gyda chi pan fydd yr heddlu yn darllen rhybuddiad yr heddlu i chi.
  • Gall eich oedolyn priodol hefyd ofyn am gyfreithiwr ar eich rhan.
  • Gallwch siarad 但ch cyfreithiwr heb fod eich oedolyn priodol yn yr ystafell os dymunwch.
  • Efallai y bydd yr heddlu hefyd angen gwneud un or pethau a restrir isod trach bod yng ngorsaf yr heddlu. Oni bai fod rhesymau arbennig i beidio, rhaid ich oedolyn priodol fod gyda chir holl amser os bydd yr heddlu yn gwneud unrhyw un or canlynol:
    • Eich cyfweld neu ofyn i chi lofnodi datganiad ysgrifenedig neu nodiadaur heddlu.
    • Dynnu unrhyw beth nad ydynt yn ddillad allanol oddi arnoch ich chwilio.
    • Cymryd eich olion bysedd, llun neu DNA neu sampl arall.
    • Gyflawni unrhyw beth yngl天n ag ymarfer adnabod gan dyst.
  • Dylaich oedolyn priodol gael cyfle i fod ar gael yn bersonol neu ar y ff担n ich helpu pan fydd yr heddlun adolyguch achos i weld a ddylid eich cadw ymhellach.
  • Os ywch oedolyn priodol ar gael, dylai hefyd fod yn bresennol pan fydd yr heddlu yn eich cyhuddo o drosedd.

Cael manylion och amser yng ngorsaf yr heddlu

  • Mae popeth syn digwydd i chi pan fyddwch yng ngorsaf yr heddlu yn cael ei gofnodi. Fei gelwir yn Gofnod Dalfa.
  • Pan fyddwch yn gadael gorsaf yr heddlu, gallwch chi, eich cyfreithiwr neu oedolyn priodol ofyn am gopi or Cofnod Dalfa. Maen rhaid ir heddlu roi copi och Cofnod Dalfa i chi cyn gynted 但 phosibl.
  • Gallwch ofyn ir heddlu am gopi och Cofnod Dalfa hyd at 12 mis wedi i chi adael gorsaf yr heddlu.

Cadw mewn cysylltiad

  • Yn ogystal 但 siarad 但 chyfreithiwr a rhoi gwybod i rywun eich bod wedi cael eich arestio, fel arfer byddwch yn cael gwneud un alwad ff担n.
  • Gofynnwch ir heddlu os hoffech wneud galwad ff担n.
  • Gallwch hefyd ofyn am bapur a beiro.
  • Efallai y byddwch yn gallu gweld ymwelwyr ond gall swyddog y ddalfa wrthod caniat叩u hynny.

Eich Cell

  • Os yn bosibl, dylid eich cadw mewn cell ar eich pen eich hun.
  • Dylai fod yn l但n, yn gynnes ac wedi ei goleuo.
  • Dylaich dillad gwely fod yn l但n ac mewn cyflwr da.
  • Rhaid gadael i chi ddefnyddio toiled ac ymolchi.

Dillad

Os byddant yn cymryd eich dillad oddi arnoch, yna maen rhaid ir heddlu eich darparu 但 rhyw fath arall o ddillad.

Bwyd a diod

Dylid cynnig 3 phryd y dydd i chi gyda diodydd. Gallwch hefyd gael diodydd rhwng prydau.

Ymarfer corff

Os yn bosibl dylid gadael i chi fynd allan pob dydd am awyr iach.

Pan fydd yr heddlu yn eich holi

  • Dylair ystafell fod yn l但n, yn gynnes ac wedi ei goleuo.
  • Ni ddylai fod rhaid i chi sefyll.
  • Dylai Swyddogion yr Heddlu roi eu henw a rheng i chi.
  • Dylech gael egwyl yn ystod adegau bwyta arferol ac egwyl am ddiod wedi oddeutu dwy awr.
  • Dylid caniat叩u o leiaf 8 awr o orffwys i chi mewn unrhyw gyfnod o 24 awr trach bod yn y ddalfa.

Anghenion Ffydd

Rhowch wybod ir heddlu os ydych angen unrhyw beth ich cynorthwyo i ymarfer eich crefydd tra byddwch yn yr orsaf. Gallant ddarparu llyfrau crefyddol ac eitemau eraill, fel bo angen.

Adegau pan fydd y rheolau arferol yn wahanol

Cael cyfreithiwr ich helpu

Mae adegau pan fydd yr heddlu angen eich holi ar frys cyn i chi siarad 但 chyfreithiwr. Rhoddir gwybodaeth am hyn yn y Codau Ymarfer. Maer rhain yn sefydlu beth all yr heddlu wneud a pheidio 但i wneud trach bod yng ngorsaf yr heddlu. Os ydych eisiau gweld y manylion, maent ym mharagraff 6.7 Cod H y Codau Ymarfer.

Mae un adeg pan na fydd yr heddlu yn gadael i chi siarad 但r cyfreithiwr a ddewisoch. Os bydd hyn yn digwydd bydd rhaid gadael i chi ddewis cyfreithiwr arall. Os ydych eisiau gweld y manylion, maent yn Atodiad B Cod H y Codau Ymarfer.

Mae un adeg pan na fydd yr heddlu yn gadael i chi siarad 但ch cyfreithiwr yn breifat. Mae hyn pan fydd swyddog uchel iawn or heddlu yn rhoi awdurdod i arolygydd mewn iwnifform i fod yn bresennol. Os ydych eisiau gweld y manylion, maent ym mharagraff 6.5 Cod H y Codau Ymarfer.

Dweud wrth rywun eich bod yng ngorsaf yr heddlu

Mae adegau pan na fydd yr heddlu yn gadael i chi gysylltu ag unrhyw un. Rhoddir gwybodaeth am hyn yn y Codau Ymarfer. Os ydych eisiau gweld y manylion, maent yn Atodiad B Cod H y Codau Ymarfer.

Ymwelwyr Dalfa Annibynnol

Maent yn aelodau or gymuned syn cael mynediad i orsafoedd heddlu heb drefnu o flaen llaw. Fei gelwir yn ymwelwyr dalfa annibynnol ac maent yn gweithion wirfoddol i sicrhau fod pobl a garcharir yn cael eu trin yn gywir ac 但 mynediad at hawliau.

Nid oes gennych hawl i weld ymwelydd dalfa annibynnol nac i ofyn i un ymweld 但 chi, ond gall ymwelydd ofyn am gael eich gweld chi. Os bydd ymwelydd dalfa annibynnol yn ymweld trach bod yn y ddalfa, byddant yn gweithredun annibynnol or heddlu i wirio y diogelwyd eich lles a hawliau. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi siarad 但 nhw os nad ydych yn dymuno ei wneud.

Sut i wneud cwyn

Os ydych eisiau cwyno am y modd y cawsoch eich trin, gofynnwch am siarad 但 swyddog heddlu syn arolygydd neun rheng uwch. Wedi cael eich rhyddhau, gallwch hefyd gwyno mewn unrhyw orsaf heddlu, i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) neu drwy gyfreithiwr neuch AS ar eich rhan.