Guidance

Notice of rights and entitlements Welsh (PACE Code C) (accessible version)

Updated 6 August 2020

Cofiwch eich hawliau tra byddwch yn y ddalfa

Maer hawliau yn yr Hysbysiad hwn wedi eu gwarantu i chi dan y gyfraith yng Nghymru a Lloegr ac yn cydymffurfio 但 ar yr hawl i wybodaeth mewn achosion troseddol.

Mae eich hawliau yng ngorsaf yr heddlu wedi eu crynhoi ar y dudalen hon.

Ceir rhagor o wybodaeth ym mharagraffau 1 i 11 ar y tudalennau nesaf.

Ceir manylion llawn yng Nghod Ymarfer C yr heddlu.

  1. Dywedwch wrth yr heddlu os ydych eisiau cyfreithiwr ich helpu trach bod yn yr orsaf heddlu. Mae hyn am ddim.
  2. Dywedwch wrth yr heddlu os ydych eisiau rhoi gwybod i rywun ble ydych chi. Mae hyn am ddim.
  3. Dywedwch wrth yr heddlu os ydych eisiau edrych ar eu rheolau feu gelwir yn Godau Ymarfer.
  4. Dywedwch wrth yr heddlu os ydych eisiau cymorth meddygol. Dywedwch wrth yr heddlu os nad ydych yn teimlon dda neu wedich anafu. Mae cymorth meddygol am ddim.
  5. Os gofynnir cwestiynau i chi dan ddrwgdybiaeth o drosedd, nid oes rhaid i chi ddweud dim byd. Fodd bynnag, fe allai niweidio eich amddiffyniad os na fyddwch chin s担n wrth gael eich holi am rywbeth y byddwch chin dibynnu arno nes ymlaen yn y Llys. Gall unrhyw beth yr ydych yn ei ddweud gael ei roi fel tystiolaeth.
  6. Rhaid ir heddlu roi gwybod i chi ynghylch y drosedd maent yn credu eich bod wedi ei chyflawni a pham eich bod wedich arestio ac yn cael eich cadw yn y ddalfa.
  7. Rhaid ir heddlu adael i chi neuch cyfreithiwr weld eich cofnodion a dogfennau ynghylch pam eich bod wedi cael eich arestio ac yn cael eich cadw ac ynghylch eich amser yng ngorsaf yr heddlu.
  8. Os ydych chi angen cyfieithydd, rhaid ir heddlu gael un i chi. Gallwch hefyd ofyn i gael cyfieithu rhai dogfennau. Mae hyn am ddim.
  9. Rhowch wybod ir heddlu os nad ydych yn Brydeinig ach bod eisiau cysylltu 但ch llysgenhadaeth neu gonsyliaeth neu eisiau rhoi gwybod iddynt eich bod wedich cadw dan glo. Mae hyn am ddim.
  10. Rhaid ir heddlu roi gwybod i chi am faint maent yn bwriadu eich cadw.
  11. Os cewch eich cyhuddo ac maech achos yn mynd ir llys, bydd gennych chi neuch cyfreithiwr yr hawl i weld tystiolaeth yr erlyniad cyn mynd ir llys.

Os nad ydych yn si典r am unrhyw un or hawliau hyn, rhowch wybod i swyddog y ddalfa

Gweler y tudalennau ar 担l y crynodeb am ragor o wybodaeth ynghylch sut ddylair heddlu eich trin a gofalu amdanoch

Dawr fersiwn hon or Hysbysiad o Hawliau i rym o 21 Awst 2019

Cadwch yr wybodaeth hon ai darllen cyn gynted 但 phosibl. Bydd yn eich helpu i wneud penderfyniadau trach bod yng ngorsaf yr heddlu.

1. Cael cyfreithiwr ich helpu

  • Gall cyfreithiwr eich helpu ach cynghori yngl天n 但r gyfraith.
  • Nid yw gofyn am gael siarad 但 chyfreithiwr yn gwneud i chi edrych fel eich bod wedi gwneud unrhyw beth oi le.
  • Rhaid i Swyddog y Ddalfar Heddlu ofyn i chi os ydych chi eisiau cyngor cyfreithiol. Mae hyn am ddim.
  • Rhaid ir heddlu adael i chi siarad 但 chyfreithiwr ar unrhyw adeg, dydd neu nos, trach bod yng ngorsaf yr heddlu.
  • Os ydych yn gofyn am gyngor cyfreithiol fel arfer nid ywr heddlu yn cael gofyn cwestiynau i chi nes eich bod wedi cael cyfle i siarad 但 chyfreithiwr. Pan fydd yr heddlun holi cwestiynau i chi, gallwch ofyn i gael cyfreithiwr yn yr ystafell gyda chi.
  • Os byddwch yn dweud wrth yr heddlu nad ydych eisiau cyngor cyfreithiol ond ynan newid eich meddwl, dywedwch wrth swyddog y ddalfa a fydd yn eich helpu i gysylltu 但 chyfreithiwr.
  • Os na fydd cyfreithiwr yn cyrraedd neun cysylltu 但 chi yn swyddfar heddlu, neu os ydych angen siarad 但 chyfreithiwr eto, gofynnwch ir heddlu gysylltu 但 nhw eto.

Cyngor cyfreithiol am ddim am faterion llai difrifol:

  • Mewn rhai achosion yn ymwneud 但 materion llai difrifol, mae cyngor am ddim wedi ei gyfyngu i gyngor dros y ff担n am ddim gan gynghorwyr cymwys or Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol (CDS Direct) oni bai fod eithriadau cyfyngedig pan ddylai cyfreithiwr ddod i orsaf yr heddlu, megis:
    • maer heddlu eisiau gofyn cwestiynau i chi am drosedd neu gynnal ymarfer adnabod gyda llygad-dyst
    • rydych angen cymorth gan oedolyn priodol. Gweler Pobl sydd angen cymorth.
    • ni allwch gyfathrebu dros y ff担n, neu
    • rydych yn cyhuddor heddlu o gamymddwyn difrifol.

Pan na fydd cyngor am ddim wedi ei gyfyngu i gyngor dros y ff担n gan CDS Direct:

  • Gallwch ofyn i gael siarad 但 chyfreithiwr rydych yn ei adnabod ac ni fydd rhaid i chi dalu os ydynt yn gwneud gwaith cymorth cyfreithiol. Os nad ydych yn adnabod cyfreithiwr neu na ellir cysylltu 但r cyfreithiwr rydych yn ei adnabod, gallwch siarad 但r cyfreithiwr ar ddyletswydd. Mae hyn am ddim.
  • Nid ywr cyfreithiwr ar ddyletswydd yn gysylltiedig 但r heddlu.

I drefnu cyngor cyfreithiol am ddim:

  • Bydd yr heddlu yn cysylltu 但 Chanolfan Alwadau Cyfreithwyr yr Amddiffyn (DSCC). Bydd y DSCC yn trefnu i roi cyngor cyfreithiol, naill ai gan CDS Direct, gan gyfreithiwr yr ydych wedi gofyn amdano neu gan y Cyfreithiwr ar Ddyletswydd.
  • Maer DSCC a CDS Direct yn wasanaethau annibynnol syn gyfrifol am drefnu cyngor cyfreithiol am ddim ac nid ydynt yn gysylltiedig 但r heddlu.

Os byddwch eisiau talu am gyngor cyfreithiol eich hun:

  • Ym mhob achos gallwch dalu am gyngor cyfreithiol os ydych eisiau gwneud hynny.
  • Pan fydd cyngor cyfreithiol am ddim yn gyfyngedig i gyngor dros y ff担n gan CDS Direct, byddwch yn dal i allu siarad 但 chyfreithiwr och dewis ar y ff担n os ydych eisiau ond ni fydd cymorth cyfreithiol yn talu amdanynt ac fe allant ofyn i chi eu talu. Bydd y DSCC yn cysylltu 但ch cyfreithiwr chi ar eich rhan.
  • Mae gennych hawl i siarad yn breifat gyda chyfreithiwr och dewis ar y ff担n neu fe allant benderfynu dod ich gweld yng ngorsaf yr heddlu.
  • Os na ellir cysylltu 但 chyfreithiwr och dewis chi, bydd yr heddlun dal i allu ffonior DSCC i drefnu cyngor cyfreithiol am ddim gan y Cyfreithiwr ar Ddyletswydd.

2. Dweud wrth rywun eich bod yng ngorsaf yr heddlu

  • Gallwch ofyn ir heddlu gysylltu 但 rhywun sydd angen gwybod eich bod yng ngorsaf yr heddlu. Mae hyn am ddim.
  • Byddant yn cysylltu 但 rhywun i chi cyn gynted 但 phosibl.

3. Edrych ar y Codau Ymarfer

  • Maer Codau Ymarfer yn rheolau a fydd yn rhoi gwybod i chi beth all yr heddlu ei wneud a pheidio trach bod yng ngorsaf yr heddlu. Maent yn cynnwys manylion yr hawliau a grynhoir yn yr Hysbysiad hwn.
  • Bydd yr heddlu yn gadael i chi ddarllen y Codau Ymarfer ond ni allwch wneud hyn os ywn golygu oedi ymgais yr heddlu i ganfod a ydych wedi torrir gyfraith.
  • Os ydych eisiau darllen y Codau Ymarfer, rhowch wybod i Swyddog y Ddalfar Heddlu.

4. Cael cymorth meddygol os nad ydych yn anhwylus neu wedich anafu

  • Dywedwch wrth yr heddlu os nad ydych yn teimlon dda neu angen meddyginiaeth neu os oes gennych anaf. Byddant yn ffonio meddyg neu nyrs neu weithiwr gofal iechyd arall ac mae am ddim.
  • Efallai y byddwch yn gallu cymryd eich meddyginiaeth eich hun ond bydd rhaid ir heddlu ei wirio yn gyntaf. Fel arfer bydd nyrs yn eich gweld yn gyntaf, ond bydd yr heddlu yn ffonio am feddyg os ydych angen un. Gallwch ofyn i weld meddyg arall, ond efallai y bydd rhaid i chi dalu am hyn.

5. Hawl i fod yn ddistaw

Os gofynnir cwestiynau i chi dan ddrwgdybiaeth or drosedd, nid oes rhaid i chi ddweud dim byd.

Fodd bynnag, fe allai niweidio eich amddiffyniad os na fyddwch chin s担n wrth gael eich holi am rywbeth y byddwch chin dibynnu arno nes ymlaen yn y Llys.

Gall unrhyw beth yr ydych yn ei ddweud gael ei roi fel tystiolaeth.

6. Gwybod am y drosedd yr amheuir i chi ei chyflawni a gwybod pam eich bod wedi eich arestio ach cadw

  • Rhaid ir heddlu roi gwybod i chi ynghylch natur y drosedd maent yn amau eich bod wedi ei chyflawni. Mae hyn yn cynnwys pryd a ble maent yn credu yi cyflawnwyd.
  • Rhaid ir heddlu roi gwybod i chi pam eu bod yn credu i chi gyflawnir drosedd a pham eu bod yn credu bod angen iddynt eich arestio.
  • Yng ngorsaf yr heddlu, rhaid ir heddlu roi gwybod i chi pam eu bod yn credu fod angen eich cadw.
  • Cyn y gofynnir unrhyw gwestiynau i chi yngl天n ag unrhyw drosedd, rhaid ir heddlu roi digon o wybodaeth i chi ach cyfreithiwr ynghylch beth maer heddlu yn amau eich bod wedi ei wneud er mwyn i chi allu amddiffyn eich hun, ond nid ar adeg a fyddain niweidio ymchwiliad yr heddlu.
  • Mae hyn yn berthnasol i unrhyw droseddau eraill maer heddlu or farn eich bod wedi eu cyflawni.

7. Gweld cofnodion a dogfennau yngl天n 但ch arestio ach cadw

  • Pan fyddwch yn cael eich cadw yng ngorsaf yr heddlu, rhaid ir heddlu:
    • Gofnodi yn eich cofnod dalfar rheswm ar angen dros eich arestio a pham eu bod yn credu bod angen eich cadw.
    • Adael i chi ach cyfreithiwr weld y cofnodion hyn. Bydd swyddog y ddalfa yn trefnu hyn.
  • Mae hyn yn berthnasol i unrhyw droseddau eraill maer heddlu or farn eich bod wedi eu cyflawni.
  • Rhaid ir heddlu adael i chi neuch cyfreithiwr gael mynediad at ddogfennau a deunyddiau syn allweddol i herio cyfreithlondeb eich arestio a chadw yn effeithiol.

8. Cael cyfieithydd ar y pryd a chyfieithiadau o ddogfennau penodol ich helpu

  • Os nad ydych yn siarad nan deall Saesneg bydd yr heddlu yn trefnu i rywun syn siarad eich iaith eich helpu. Mae hyn am ddim.
  • Os ydych yn fyddar neun drwm eich clyw, bydd yr heddlu yn trefnu i gyfieithydd ar y pryd Saesneg Iaith Arwyddion Prydain eich helpu. Mae hyn am ddim.
  • Os nad ydych yn gallu siarad neu ddeall Saesneg bydd yr heddlu yn gofyn ir cyfieithydd ddweud wrthych chi pam eu bod yn eich cadw. Rhaid gwneud hyn pob tro y penderfynir eich cadw yn y ddalfa.
  • Wedi pob penderfyniad ich cadw yn y ddalfa ac wedi i chi gael eich cyhuddo o unrhyw drosedd, rhaid ir heddlu hefyd roi cofnod i chi yn eich iaith eich hun o pam eich bod yn cael eich cadw ac o unrhyw drosedd ych cyhuddwyd oi chyflawni, oni bai fod rhesymau arbennig dros beidio gwneud hynny. Y rhain yw:
    • Os byddwch chin penderfynu nad ydych angen y cofnod er mwyn amddiffyn eich hun gan eich bod yn deall yn llawn beth syn digwydd a goblygiadau peidio cael y cofnod, ach bod wedi cael cyfle i ofyn am gyfreithiwr ich helpu i benderfynu. Rhaid i chi hefyd gydsynio i hyn yn ysgrifenedig.
    • Os byddai cael cyfieithiad llafar neu grynodeb trwy gyfieithydd ar y pryd yn hytrach na chyfieithiad ysgrifenedig yn ddigon i chi amddiffyn eich hun ac i ddeall yn llawn beth syn digwydd. Rhaid ir swyddog y ddalfa awdurdodi hyn hefyd.
  • Pan fydd yr heddlu yn gofyn cwestiynau i chi heb wneud recordiad sain, bydd y cyfieithydd ar y pryd yn gwneud cofnod or cwestiynau ach atebion yn eich iaith eich hun. Byddwch yn gallu gwirio hyn cyn i chi ei lofnodi fel cofnod cywir.
  • Os byddwch eisiau gwneud datganiad ir heddlu, bydd y cyfieithydd ar y pryd yn gwneud copi or datganiad hwnnw yn eich iaith eich hunan i chi ei wirio ai lofnodi ei fod yn gofnod cywir.
  • Mae gennych hefyd hawl i gyfieithiad or Hysbysiad hwn. Os nad oes cyfieithiad ar gael, rhaid i chi gael yr wybodaeth trwy gyfieithydd ar y pryd a derbyn cyfieithiad heb unrhyw oedi.

9. Cysylltu 但ch llysgenhadaeth neu gonsyliaeth

Os nad ydych yn Brydeinig, gallwch ddweud wrth yr heddlu eich bod eisiau cysylltu 但ch Uwch Gomisiwn, Llysgenhadaeth neu Gonsyliaeth i roi gwybod iddynt ble rydych chi a pham eich bod yng ngorsaf yr heddlu. Gallant hefyd ymweld 但 chin breifat neu drefnu i gyfreithiwr eich gweld.

10. Am ba mor hir ellir eich cadw

  • Fel arfer gellir eich cadw am hyd at 24 awr heb eich cyhuddo. Gall hyn fod yn hwy ond dim ond os gellid mynd ar achos gerbron barnwr a rheithgor mewn llys y goron ac mae Uwch-arolygydd yr Heddlu neu lys yn caniat叩u i hyn ddigwydd. Wedi 36 awr dim ond llys syn gallu caniat叩u mwy o amser ir heddlu eich cadw heb gyhuddiad.
  • Pob hyn a hyn rhaid i uwch swyddog yr heddlu edrych i mewn ich achos i weld a ddylid eich cadw yng ngorsaf yr heddlu o hyd. Fe elwir hyn yn arolwg ar swyddog ywr swyddog arolwg. Oni bai nad ydych mewn cyflwr gweddus, mae gennych hawl i gael dweud eich barn am y penderfyniad hwn yn ysgrifenedig neu trwy ddweud wrth y swyddog arolwg yn bersonol neu trwy ddolen deledu. Mae gan eich cyfreithiwr hefyd hawl i farn am hyn ar eich rhan.
  • Os nad ywr swyddog adolygu yn eich rhyddhau, rhaid rhoi gwybod i chi pam a chofnodir rheswm yn eich cofnod y ddalfa.
  • Os nad oes angen eich cadw, yna maen rhaid eich rhyddhau. Os ywr heddlu yn dweud wrthych eu bod eisiau parhau i ymchwilio ir drosedd, cewch eich rhyddhau naill ai ar fechn誰aeth neu heb fechn誰aeth. Os rhoddir mechn誰aeth, rhaid i chi gael hysbysiad ysgrifenedig i ddweud wrthych fod yn rhaid i chi ddychwelyd i swyddfar heddlu ac ynghylch unrhyw amodau all fod ynghlwm 但ch mechn誰aeth.
  • Pan fydd yr heddlu eisiau gofyn ir llys ymestyn eich cyfnod yn y ddalfa:
    • Rhaid dod 但 chi ir llys ar gyfer y gwrandawiad oni bai bod dolen deledu wedi ei darparu, fel y medrwch weld a chlywed y bobl yn y llys au bod hwy yn medruch gweld ach clywed chi.
    • Ni ellir darparu dolen deledu oni bai bod swyddog y ddalfa yn ystyried bod hyn yn briodol, bod cyfreithiwr wedi eich cynghori ynghylch ei defnydd ach bod chi wedi rhoich cydsyniad.
    • Rhaid rhoi copi i chi or wybodaeth syn rhoi gwybod ir llys ynghylch y dystiolaeth a pham fod yr heddlu eisiauch cadw yn y ddalfa.
    • Bydd gennych hawl i gael cyfreithiwr gyda chi ar gyfer y gwrandawiad llys.
    • Fydd yr heddlu ddim ond yn cael eich cadw yn y ddalfa os ywr llys yn credu fod hynnyn angenrheidiol ac os ywr heddlu yn ymchwilio ich achos yn ofalus a heb wastraffu amser.
  • Os oes gan yr heddlu ddigon o dystiolaeth ich anfon ir llys, gellir eich cyhuddo yng ngorsaf yr heddlu neu drwyr post, i ymddangos yn y llys i gael eich erlyn.

11. Mynediad at y dystiolaeth os ywch achos yn mynd ir Llys

Os ydych yn cael eich cyhuddo o drosedd, rhaid i chi neuch cyfreithiwr gael gweld y dystiolaeth yn eich erbyn yn ogystal 但 thystiolaeth a allai helpuch amddiffyniad. Rhaid gwneud hyn cyn ich achos gychwyn. Yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron syn trefnu hyn ac yn darparu mynediad at y dogfennau a deunyddiau perthnasol.

Pethau eraill i wybod am fod mewn gorsaf heddlu

Sut y dylid eich trin a gofalu amdanoch

Maer nodiadau hyn yn dweud wrthych am beth allwch ei ddisgwyl trach bod wedich cadw yng ngorsaf yr heddlu. Am ragor o wybodaeth, gofynnwch i weld y Codau Ymarfer. Maent yn cynnwys rhestr o ble i ganfod rhagor o wybodaeth am bob un or pethau hyn. Gofynnwch i swyddog y ddalfar heddlu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Pobl sydd angen cymorth

  • Os ydych dan 18 neun fregus, er enghraifft os oes gennych anawsterau dysgu neu broblemau iechyd meddwl, yna mae gennych hawl i gael rhywun gyda chi pan fydd yr heddlu yn gwneud pethau penodol. Gelwir yr oedolyn hwn eich oedolyn priodol a bydd yn cael copi or Hysbysiad hwn.
  • Bydd eich oedolyn priodol yn eich helpu i ddeall beth syn digwydd ac yn gofalu am eich buddiannau. Rhaid iddo ef neu iddi hi fod gyda chi pan fydd yr heddlu yn dweud wrthych beth ywch hawliau ac yn dweud pam eich bod yn cael eich cadw yng ngorsaf yr heddlu. Rhaid iddo ef neu hi hefyd fod gyda chi pan fydd yr heddlu yn darllen rhybudd yr heddlu i chi.
  • Gall eich oedolyn priodol hefyd ofyn am gyfreithiwr ar eich rhan.
  • Gallwch siarad 但ch cyfreithiwr heb fod eich oedolyn priodol yn yr ystafell os dymunwch.
  • Efallai y bydd yr heddlu hefyd angen gwneud un or pethau a restrir isod trach bod yng ngorsaf yr heddlu. Oni bai fod rhesymau arbennig, rhaid ich oedolyn priodol fod gyda chir holl amser os bydd yr heddlu yn gwneud unrhyw un or canlynol:
    • Eich cyfweld neu ofyn i chi lofnodi datganiad ysgrifenedig neu nodiadaur heddlu.
    • Dynnu unrhyw beth nad ydynt yn ddillad allanol oddi arnoch ich chwilio.
    • Cymryd eich olion bysedd, llun neu DNA neu sampl arall.
    • Gyflawni unrhyw beth yngl天n ag ymarfer adnabod gan dyst.
  • Dylaich oedolyn priodol gael cyfle i fod ar gael yn bersonol neu ar y ff担n ich helpu pan fydd yr heddlun adolyguch achos i weld a ddylid eich cadw yn hwy.
  • Os ywch oedolyn priodol ar gael, dylai hefyd fod yn bresennol pan fydd yr heddlu yn eich cyhuddo o drosedd.

Cael manylion och amser yng ngorsaf yr heddlu

  • Mae popeth syn digwydd i chi pan fyddwch yng ngorsaf yr heddlu yn cael ei gofnodi. Fei gelwir yn Gofnod Dalfa.
  • Pan fyddwch yn gadael gorsaf yr heddlu, gallwch chi, eich cyfreithiwr neu oedolyn priodol ofyn am gopi or Cofnod Dalfa. Maen rhaid ir heddlu roi copi och Cofnod Dalfa i chi cyn gynted 但 phosibl.
  • Gallwch ofyn ir heddlu am gopi och Cofnod Dalfa hyd at 12 mis wedi i chi adael gorsaf yr heddlu.

Cadw mewn cysylltiad

  • Yn ogystal 但 siarad 但 chyfreithiwr a rhoi gwybod i rywun eich bod wedi cael eich arestio, fel arfer byddwch yn cael gwneud un alwad ff担n.
  • Gofynnwch ir heddlu os hoffech wneud galwad ff担n.
  • Gallwch hefyd ofyn am bapur a beiro.
  • Efallai y byddwch yn gallu gweld ymwelwyr ond gall swyddog y ddalfa wrthod caniat叩u hynny.

Eich Cell

  • Os yn bosibl, dylid eich cadw mewn cell ar eich pen eich hun.
  • Dylai fod yn l但n, yn gynnes ac wedi ei goleuo.
  • Dylaich dillad gwely fod yn l但n ac mewn cyflwr da.
  • Rhaid gadael i chi ddefnyddio toiled ac ymolchi.

Personal needs health, hygiene and welfare

  • Rhaid gofyn i chi os ydych chi eisiau siarad yn breifat ag aelod o staff y ddalfa ynghylch unrhyw anghenion personol syn ymwneud 但ch iechyd, hylendid ach lles a allai effeithio arnoch neuch pryderu trach bod chi yn y ddalfa.
  • Bydd yr heddlun trefnu i ddarparur cynhyrchion yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i ddiwalluch anghenion. Os dymunwch, gallwch siarad 但 rhywun sydd or un rhyw 但 chi.
  • Os ydych chin fenyw 18 oed neun h天n, rhaid gofyn i chi a oes arnoch angen neu a ydych chin debygol o fod angen unrhyw gynhyrchion misglwyf trach bod chi yn y ddalfa a rhaid dweud wrthych:
    • y bydd y cynhyrchion misglwyf yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim;
    • bod cynhyrchion cyfnewid ar gael; a
    • gall eich teulu neuch ffrindiau ddarparu cynhyrchion i chi ar draul eu hunain os yw swyddog y ddalfan cytuno.
  • Os ydych chin ferch o dan 18 oed, bydd swyddog y ddalfan sicrhau bod menyw yng ngorsaf yr heddlu ar gael i ofalu amdanoch chi ac i ofyn am eich anghenion personol a chynhyrchion misglwyf.

Dillad

Os byddant yn cymryd eich dillad oddi arnoch, yna maen rhaid ir heddlu eich darparu 但 rhyw fath arall o ddillad.

Bwyd a diod

Dylid cynnig 3 pryd y dydd i chi gyda diodydd. Gallwch hefyd gael diodydd rhwng prydau.

Ymarfer corff

Os yn bosibl dylid gadael i chi fynd allan pob dydd am awyr iach.

Pan fydd yr heddlu yn eich holi

  • Dylair ystafell fod yn l但n, yn gynnes ac wedi ei goleuo.
  • Ni ddylai fod rhaid i chi sefyll.
  • Dylai Swyddogion yr Heddlu roi eu henw a rheng i chi.
  • Dylech gael egwyl yn ystod adegau bwyta arferol ac egwyl am ddiod wedi oddeutu dwy awr.
  • Dylid caniat叩u o leiaf 8 awr o orffwys i chi mewn unrhyw gyfnod o 24 awr trach bod yn y ddalfa.

Anghenion Ffydd

Rhowch wybod ir heddlu os ydych angen unrhyw beth ich cynorthwyo i ymarfer eich crefydd tra byddwch yn yr orsaf. Gallant ddarparu llyfrau crefyddol ac eitemau eraill, fel fo angen.

Adegau pan fydd y rheolau arferol yn wahanol

Cael cyfreithiwr ich helpu

Mae rhai adegau arbennig pan fydd yr heddlu angen eich holi ar frys cyn i chi siarad 但 chyfreithiwr. Rhoddir gwybodaeth am yr adegau arbennig hyn yn y Codau Ymarfer. Maer rhain yn sefydlu beth all yr heddlu wneud a pheidio trach bod yng ngorsaf yr heddlu. Os ydych eisiau gweld y manylion, maent ym mharagraff 6.6 Cod C y Codau Ymarfer.

Mae un adeg arbennig pan na fydd yr heddlu yn gadael i chi siarad 但r cyfreithiwr a ddewisoch. Os bydd hyn yn digwydd bydd rhaid gadael i chi ddewis cyfreithiwr arall. Os ydych eisiau gweld y manylion, maent yn Atodiad B Cod C y Codau Ymarfer.

Dweud wrth rywun eich bod yng ngorsaf yr heddlu

Mae rhai adegau arbennig pan na fydd yr heddlu yn gadael i chi gysylltu ag unrhyw un. Rhoddir gwybodaeth am yr adegau arbennig hyn yn y Codau Ymarfer. Os ydych eisiau gweld y manylion, maent yn Atodiad B Cod C y Codau Ymarfer.

Troseddau yfed a gyrru a throseddau cyffuriau a gyrru

Os ydych wedich arestio oherwydd trosedd yfed a gyrru neu oherwydd trosedd cyffuriau a gyrru mae gennych hawl i siarad 但 chyfreithiwr. Nid ywr hawl hwnnw yn golygu y gallwch wrthod rhoi samplau och anadl, gwaed neu droeth ir heddlu hyd yn oed os nad ydych wedi siarad 但r cyfreithiwr eto.

Carchariad dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983

Gall yr heddlu hefyd eich cadw yng ngorsaf yr heddlu am asesiad dan y Ddeddf Iechyd Meddwl os ydych yn 18 oed neun h天n ac oherwydd bod yna berygl bod eich ymddygiad yn mynd i achosi niwed difrifol neu farwolaeth i chi neu i eraill, ni allwch yn rhesymol ddisgwyl cael eich cadw yn unrhyw le arall. Os ydych wedich cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, nid yw hyn yn golygu eich bod wedi cael eich arestio am drosedd.

Maen golygu fod yn rhaid ir heddlu drefnu ichi gael eich gweld gan feddyg a Gweithiwr Iechyd Meddwl Cymeradwy syn gymwys i gyflawnir asesiad. Rhaid eich asesu o fewn 24 awr o gyrraedd, neu o gael eich cadw, yn yr orsaf heddlu, ond bydd yr heddlu yn ceisio trefnu hyn cyn gynted 但 phosibl. Mewn gorsaf heddlu, gellir ymestyn y cyfnod cadw o 24 awr ar gyfer asesiad am 12 awr ychwanegol os yw meddyg yn meddwl bod hyn yn hanfodol a bod heddwas ar lefel uchel iawn yn cymeradwyo hynny. Yn ystod y cyfnod hwn, fe all yr heddlu eich trosglwyddo i leoliad mwy addas i allu cynnal yr asesiad.

Trach bod yn aros i gael eich asesu, fe all yr heddlu drefnu i Ymarferydd Gofal Iechyd Cymeradwy eich gweld. Ni allant wneud yr asesiad, ond byddant yn eich helpu gydag unrhyw bryderon iechyd eraill sydd gennych ac yn helpu esbonio beth maer asesiad yn ei olygu.

Ymwelwyr Dalfa Annibynnol

Maent yn aelodau or gymuned syn cael mynediad i orsafoedd heddlu heb drefnu o flaen llaw. Fei gelwir yn ymwelwyr dalfa annibynnol ac maent yn gweithion wirfoddol i sicrhau fod pobl a garcharir yn cael eu trin yn gywir ac 但 mynediad at hawliau.

Nid oes gennych hawl i weld ymwelydd dalfa annibynnol nac i ofyn i un ymweld 但 chi, ond gall ymwelydd ofyn i gael eich gweld chi. Os bydd ymwelydd dalfa annibynnol yn ymweld trach bod yn y ddalfa, byddant yn gweithredun annibynnol or heddlu i wirio y diogelwyd eich lles a hawliau. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi siarad 但 nhw os nad ydych yn dymuno gwneud.

Sut i wneud cwyn

Os ydych eisiau cwyno am y modd y cawsoch eich trin, gofynnwch i siarad 但 swyddog heddlu syn archwilydd neun rheng uwch. Wedi cael eich rhyddhau, gallwch hefyd gwyno mewn unrhyw orsaf heddlu, i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH) neu trwy gyfreithiwr neuch AS ar eich rhan.