Swyddf²¹â€™r Gwarcheidwad Cyhoeddus Strategaeth Ddigidol: 2014 i 2015 (fersiwn y we)
Diweddarwyd 1 Hydref 2020
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Rhagair
Mae’n bleser gennyf gyflwyno strategaeth ddigidol gyntaf erioed Swyddf²¹â€™r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG). Mae’r strategaeth hon yn diffinio ein hymagwedd at gyflenwi gwasanaethau digidol ac yn pennu wyth cam gweithredol allweddol ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Rydym yn awyddus i fod yn asiantaeth ‘digidol yn bennaf’ erbyn 2015 a bydd y camau gweithredu yn y strategaeth hon yn ein cynorthwyo i gyflawni’r nod hwnnw.
Roedd Cynllun Diwygio’r Gwasanaeth Sifil yn cyflwyno’r achos i gynyddu gallu digidol ar draws y llywodraeth yn 2012. Ers hynny, mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth ²¹â€™r Weinyddiaeth Cyfiawnder wedi cyhoeddi strategaethau digidol eu hunain, y naill strategaeth ²¹â€™r llall yn hyrwyddo newid i gyflenwi gwasanaethau ar-lein. Mae strategaeth OPG yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau sy’n cael eu cyflwyno yn y dogfennau hyn, ond yn cydnabod anghenion penodol ein hasiantaeth.
Mae OPG yn cynnal proses drawsnewid uchelgeisiol iawn ar hyn o bryd, ac mae ein gweledigaeth ar gyfer trawsnewid yr asiantaeth, ²¹â€™r daith y byddwn yn ei dilyn i gyflawni hynny, yn unigryw i ni. Fel asiantaeth weithredol, sydd wedi cael ei hysbrydoli gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth ²¹â€™r Weinyddiaeth Cyfiawnder, nid ydym yn canolbwyntio ar strategaethau adrannol neu drawslywodraethol yn unig. Felly, yr oeddem yn teimlo bod angen ysgrifennu ein strategaeth ein hunain i ddiffinio ein ffyrdd ein hunain o weithio’n ddigidol. Fodd bynnag, nid ein rhaglen drawsnewid yn unig sy’n uchelgeisiol; mae OPG gyfan yn uchelgeisiol. Rydym yn asiantaeth enghreifftiol, ac mae gwasanaethau digidol wedi datblygu i fod yn rhan hollbwysig o’r broses o gyflawni ein cynllun busnes. Mae ein hasiantaeth yn datblygu yn gyflym, ac mae’n briodol i ni ganolbwyntio yn awr ar ddyfodol yr asiantaeth, ei chynhyrchion a’i gwasanaethau.
Dechreuodd ein taith ddigidol gyd²¹â€™r gwaith o greu ein hoffer gwneud cais am atwrneiaeth arhosol, a gyflwynwyd ym mis Mai. Ni oedd y gwasanaeth enghreifftiol cyntaf i basio’r Asesiad Gwasanaeth Digidol yn Bennaf. Ers ei lansio yn gyhoeddus ar Beta yr haf diwethaf, rydym wedi lansio nifer o gynhyrchion digidol newydd, pob un wedi’u datblygu ar sail anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth (mewnol ac allanol). Rydym yn datblygu system rheoli achosion newydd ar gyfer ein staff, a fydd yn ffordd gyflymach o gasglu dogfennau a data ac yn offer newydd a fydd yn galluogi dirprwyon i ymgysylltu mewn ffordd fwy cyfleus gyd²¹â€™r asiantaeth. Mae pob un o’r cynhyrchion a gwasanaethau hyn yn ein helpu i weithio’n fwy effeithlon a gwasanaethu ein cwsmeriaid yn well.
Rydym hefyd wedi dechrau symud ein holl gynnwys ar-lein i wefan 51²è¹Ý. Rydym wedi penodi Pennaeth Digidol i arwain y broses o gyflenwi gwasanaethau digidol, a sicrhau bod y camau gweithredu yn y strategaeth hon yn cael eu dilyn a bod ein nodau yn cael eu cyflawni. Mae ein tîm digidol yn cynnig hyfforddiant i staff OPG ac adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth. Rydym yn awyddus i ddefnyddio ffyrdd o weithio digidol er mwyn trawsnewid yr asiantaeth gyfan ac ysbrydoli eraill i ddechrau gweithio mewn ffordd debyg.
Mae’n gyfnod cyffrous i OPG. Mae ein strategaeth ddigidol yn bwysig iawn i ni: bydd yn ein galluogi i wella ein gwasanaethau i gwsmeriaid a gwireddu ein huchelgeisiau o ran tyfu, a chyfrannu at y strategaeth drawslywodraethol yr un pryd. Bydd hyn, yn ei dro, yn gwneud bywyd yn haws i’n staff gweithgar ac i’n cwsmeriaid.
Alan Eccles Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus Wast 2014
Crynodeb Gweithredol
Roedd [Cynllun Diwygio’r Gwasanaeth Sifil]](/government/organisations/civil-service-reform), Strategaeth Ddigidol y Llywodraeth ²¹â€™r Adroddiad Effeithlonrwydd Digidol yn cyflwyno’r dadleuon o blaid gwasanaeth sifil sy’n ‘ddigidol yn bennaf’, gan amcangyfrif arbedion o £1.8 biliwn y flwyddyn ac yn cyflwyno 16 o gamau gweithredu i’w cyflawni, yn cynnwys gwasanaethau mwy effeithlon a chyfleus i ddefnyddwyr, a gostwng y galw am ddulliau cost uwch.
Mae’r strategaeth hon yn diffinio rhaglen trawsnewidiad digidol Swyddf²¹â€™r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) hyd at 2018. Mae’n datgan gweledigaeth ddigidol OPG, ac yn nodi’r wyth cam gweithredu y byddwn yn eu cymryd i fod yn asiantaeth ddigidol yn bennaf erbyn 2015, a chyfrannu at y gwaith o ddiwygio’r gwasanaeth sifil.
Y camau gweithredu hyn yw:
-
Cam Gweithredu 1: byddwn yn cynllunio gwasanaethau digidol newydd, gan ganolbwyntio ar y defnyddiwr yn bennaf, a chyflawni’r Safon Gwasanaeth Digidol yn Bennaf.
-
Cam Gweithredu 2: byddwn yn datblygu darpariaeth ddigidol wedi’i chynorthwyo, ar gyfer pob un o’n gwasanaethau ar-lein, a gwneud yn siw^ r nad yw’r rhai na allant ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein yn cael eu hallgáu.
*Cam Gweithredu 3: byddwn yn ailgynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau drwy OPG, gan ganolbwyntio ar anghenion y defnyddiwr.
-
Cam Gweithredu 4: byddwn yn annog newid dulliau a marchnad o fewn ein gwasanaethau.
-
Cam Gweithredu 5: byddwn yn sicrhau bod y gwaith o gyflenwi gwasanaethau digidol yn gynaliadwy ac yn gost-effeithiol yn OPG.
-
Cam Gweithredu 6: byddwn yn cynyddu gallu digidol OPG.
-
Cam Gweithredu 7: byddwn yn cynorthwyo eraill y tu allan i OPG i ymgorffori ffyrdd o weithio digidol.
-
Cam Gweithredu 8: byddwn yn ymgorffori diwylliant agored sy’n rhannu.
Bydd y strategaeth hon yn cael ei diweddaru’n flynyddol.
Y cefndir ²¹â€™r cyd-destun
Mae OPG yn un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Cyfiawnder. Mae gan OPG gyfrifoldebau ar draws Cymru a Lloegr mewn pedwar prif faes:
-
cofrestru atwrneiaeth arhosol ac atwrneiaeth barhaus, sy’n caniatáu i bobl ddewis pwy y maent yn dymuno iddynt wneud penderfyniadau ar eu rhan os byddant yn colli galluedd meddyliol.
-
goruchwylio dirprwyon sy’n cael eu penodi gan y Llys Gwarchod (fel arfer pan na fydd twrnai wedi’i benodi cyn colli galluedd meddyliol)
-
ymchwilio i honiadau o gamdriniaeth yn erbyn twrneiod neu ddirprwyon
-
cynnal cofrestrau dirprwyon, atwrneiaeth arhosol ac atwrneiaeth barhaus, sydd ar gael i’r cyhoedd chwilio amdanynt.
Gweledigaeth OPG yw annog pawb i baratoi ar gyfer diffyg galluedd meddyliol posibl a chefnogi a diogelu’r rhai heb alluedd meddyliol yn awr. Rydym yn awyddus i gynyddu nifer y bobl sy’n trefnu atwrneiaeth arhosol, er mwyn i fwy o oedolion baratoi ar gyfer diffyg galluedd meddyliol, a goruchwylio dirprwyon sy’n cael eu penodi gan y llysoedd, mewn ffordd fwy effeithlon ac effeithiol, er mwyn i ni allu parhau i gyflawni ein rolau wrth i nifer ein cwsmeriaid gynyddu.
Mae galw cynyddol am wasanaethau OPG. Mae’r boblogaeth sy’n heneiddio yn y DU, ynghyd ag ymwybyddiaeth uwch am ein gwasanaethau, wedi arwain at gynnydd o tua 20% y flwyddyn mewn ceisiadau am atwrneiaeth arhosol; yn 2014-15, bydd OPG yn prosesu tua 375,000 o geisiadau. Mae nifer y dirprwyon sy’n cael eu goruchwylio gan OPG yn cynyddu tua 9% y flwyddyn, ac mae’r asiantaeth yn goruchwylio tua 54,000 o achosion dirprwyaeth yn awr. Byddwn ond yn gallu diwallu’r galw cynyddol hwn gan y cyhoedd drwy ddatblygu gwasanaethau digidol, er mwyn gwella profiad y cwsmer a gweithio’n fwy effeithlon.
Mae ein huchelgais ni hefyd yn cynyddu. Deilliodd y cymhelliant gwreiddiol i ddatblygu gwasanaethau digidol newydd i OPG yn 2011, yn sgîl yr angen i ddisodli systemau TG sy’n bwysig i’r busnes, ond sy’n heneiddio. Ers hynny rydym wedi:
-
lansio offer digidol atwrneiaeth arhosol yn swyddogol, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth
-
atgyfnerthu a datblygu ein tîm digidol a phenodi Pennaeth Digidol i arwain y gwaith o ddatblygu gwasanaethau ac ysgogi’r tîm
-
gweithio’n agos gyda Gwasanaethau Digidol y Weinyddiaeth Cyfiawnder er mwyn rhannu profiad a rhoi cymorth.
Rydym yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hwn, a bod yn asiantaeth ddigidol yn bennaf erbyn 2015. Rydym eisiau sicrhau bod y gwasanaethau digidol wrth galon OPG, a sicrhau bod OPG wrth galon y gwaith o ddatblygu gwasanaethau digidol yn y llywodraeth. Rydym eisiau datblygu gwasanaethau digidol sydd mor dda, fel y bydd y bobl sy’n gallu eu defnyddio yn gwneud hynny, ond gan sicrhau’r un pryd nad yw’r bobl sydd methu eu defnyddio yn cael eu hallgáu. Rydym yn awyddus i bob un o’n gwasanaethau - gwybodaeth a thrafodion, mewnol ac allanol - gael eu cyflenwi drwy ddulliau digidol, yn hytrach na thrwy ddulliau wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy’r post.
Ein gweithredoedd
Er mwyn gwireddu ein gweledigaeth, byddwn yn gwneud y canlynol:
Cam Gweithredu 1: byddwn yn cynllunio gwasanaethau digidol newydd, gan ganolbwyntio ar y defnyddiwr yn bennafac (ar gyfer gwasanaethau cwsmeriaid wyneb-yn-wyneb) cyflawni’r Safon Gwasanaeth Digidol yn Bennaf.
Byddwn yn:
-
datblygu gwasanaeth dirprwyaeth ddigidol, er mwyn ei gwneud yn bosibl i ddirprwyon (²¹â€™r ymwelwyr sy’n rhan o raglen oruchwyliaeth OPG) allu cysylltu â ni yn gyfan gwbl ar-lein.
-
datblygu piblinell o gynhyrchion a gwasanaethau digidol i sicrhau’r gwerth gorau i’n cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid o fewn yr adnoddau sydd gennym ni.
-
defnyddio methodoleg ac egwyddorion rheoli prosiect Agile.
Beth mae Agile yn ei olygu i ni
-
Datblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd ar sail anghenion y defnyddwyr
-
Bod yn agored: ynglÅ·n â’n ffyrdd o weithio, y ffordd yr ydym yn caffael, ²¹â€™r ffordd yr ydym yn rhannu gwybodaeth gydag eraill
-
Grymuso ein staff i well²¹â€™r gwasanaeth rydym yn ei gynnig i gwsmeriaid
-
Parhau i bwysleisio’r holl wasanaethau digidol, er mwyn sicrhau eu bod bob amser yn gweithio yn y ffordd orau i’r defnyddiwr.
Rydym wedi defnyddio methodoleg Agile yn llwyddiannus ar gyfer pob un o’n prosiectau digidol hyd yma, ac mae’r canlyniadau wedi bod yn rhyfeddol. Mae’n ein galluogi i fod yn hyblyg ac i sicrhau bod y defnyddiwr bob amser yn ganolog i’r hyn a wnawn.
Rydym hefyd yn awyddus i ddarparu dulliau gweithio hawdd ei ddeall a’i ddefnyddio i’n staff, a byddwn yn datblygu dau wasanaeth newydd er mwyn diwallu’r angen hwn:
-
system rheoli achosion er mwyn prosesu ceisiadau atwrneiaeth arhosol, rheoli ein dulliau o gyfathrebu gyda dirprwyon a galluogi proses ddiogelu well.
-
system casglu dogfennau a data er mwyn gwneud ein prosesau cefn swyddfa yn gyflymach a haws.
Amserlen ar gyfer cyflwyno gwasanaethau digidol Swyddf²¹â€™r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Discovery | Alpha | Beta | Live | |
---|---|---|---|---|
Atwrneiaeth arhosol | Chwef 2012 | Tach 2012 | Gorff 2013 | Mai 2014 |
Dirprwyon digidol | Ion 2014 | Awst 2014 | Tach 2014 | Dechrau 2015 |
Rheoli achosion | Awst 2013 | Tach 2014 | Mawrth 2014 | Canol 2015 |
Casglu dogfennau a data | Awst 2013 | Tach 2014 | Mawrth 2014 | Canol 2015 |
Byddwn yn darparu’r profiad gorau posibl i’n cwsmeriaid a’n staff, drwy ailadrodd pob gwasanaeth yn rheolaidd, yn seiliedig ar adborth defnyddwyr.
Cam Gweithredu 2: byddwn yn datblygu darpariaeth ddigidol wedi’i chynorthwyo, ar gyfer
pob un o’n gwasanaethau ar-lein.
Byddwn yn:
-
gweithio ar draws y llywodraeth, a gyd²¹â€™r trydydd sector, i sicrhau bod opsiynau digidol wedi’u cynorthwyo ar gael, er mwyn i’r bobl hynny sy’n cael anhawster i ddefnyddio ein gwasanaethau eu hunain yn derbyn cymorth ac nad ydynt yn cael eu hallgáu gan y newidiadau sy’n cael eu gwneud
-
sicrhau bod darpariaeth ddigidol wedi’i chynorthwyo yn gynaliadwy drwy gytundebau gyda’n partneriaid.
Cam Gweithredu 3: byddwn yn ailgynllunio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau drwy OPG, gan ganolbwyntio ar anghenion y defnyddiwr.
Byddwn yn:
-
rhoi blaenoriaeth i’r defnyddiwr: byddwn yn cynllunio ac yn cynhyrchu gwasanaethau digidol sy’n seiliedig ar anghenion ein defnyddwyr, yn cynnwys y cyhoedd, ymarferwyr, staff, sefydliadau partner neu randdeiliaid, er mwyn creu’r profiad gorau posibl iddynt
- annog proses o newid yn fewnol drwy:
- gwneud ein timau gweithredol yn fwy effeithlon drwy wneud defnydd cynyddol o ddulliau digidol
- alinio barn ein cwsmeriaid a gwaith ymchwil ar gyfer datblygu’r gwasanaeth digidol
-
datblygu polisi i ddileu llofnodion â llaw o’r broses Atwrneiaeth Arhosol, ac ymchwilio i’r cyfleoedd deddfwriaethol i wneud hynny
- datblygu a defnyddio metrigau cywir i wneud dewisiadau da yngly^ n â sut i wella ein gwasanaethau drwy:
- gwybod beth yr ydym eisiau ei fesur o’r dechrau
- rhannu gwybodaeth reoli ar draws OPG er mwyn sicrhau bod gennym un safbwynt ar ymddygiad cwsmeriaid, a beth sy’n ei ysgogi
- canolbwyntio ar bedwar dangosydd perfformiad Strategaeth Ddigidol y Llyowdraeth, fel ysgogwyr ar gyfer gwelliannau i wasanaethau ar-lein: cost drafodaethol, boddhad defnyddwyr, cynyddu’r nifer o bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau digidol a chyfradd gwblhau.
Cam Gweithredu 4: byddwn yn annog newid dulliau a marchnad o fewn ein gwasanaethau.
Byddwn yn:
-
codi ymwybyddiaeth o wasanaeth digidol Atwrneiaeth Arhosol o’r amser y bydd yn cael ei gyflwyno ym mis Mehefin 2014 ac, ymhen amser, ei gynnyrch a’i wasanaethau eraill, a hyrwyddo’r defnydd o’r dull digidol yn hytrach n²¹â€™r opsiynau eraill
-
mandadu’r dull digidol ar gyfer rhai gwasanaethau a grwpiau defnyddwyr
-
archwilio’r cyfleoedd i bennu ffioedd gwahanol ar gyfer gwasanaethau ar-lein yn y dyfodol
-
datblygu gwybodaeth am y grwpiau defnyddwyr gwirioneddol a phosibl ar gyfer pob gwasanaeth
-
annog pob un o’n cwsmeriaid i ddefnyddio’r dulliau digidol yn hytrach n²¹â€™r post neu’r ffôn, er mwyn lleihau ein costau rhedeg a chynyddu effeithlonrwydd gweithredol
-
lleihau galwadau fesul galwr i’n canolfan galwadau, drwy ddarparu canllawiau gwell ar-lein.
Cam Gweithredu 5: byddwn yn sicrhau bod y gwaith o gyflenwi gwasanaethau digidol yn
gynaliadwy ac yn gost-effeithiol yn OPG.
Byddwn yn:
-
datblygu modelau cymorth er mwyn gallu ailadrodd ein gwasanaethau digidol yn barhaus, gyda meddalwedd yn cael ei defnyddio’n rheolaidd
-
sefydlu tîm ymchwil mewnol, er mwyn i ni fod mewn cysylltiad parhaus gyda’n defnyddwyr a gallu datblygu ein gwasanaethau yn seiliedig ar eu hadborth
-
defnyddio opsiynau digidol pan fydd hynny’n bosibl, er mwyn lleihau costau a gwella profiad defnyddwyr drwy ail-fuddsoddi’r arbedion hynny yn ein gwasanaethau
-
lleihau ein dibyniaeth ar integreiddwyr systemau mawr, a dewis ehangach o gyflenwyr llai, sydd â chymhelliant i ddarparu gwasanaeth o safon uchel
-
rheoli ein gwasanaethau gan ddefnyddio timau cynnyrch mewnol, er mwyn sicrhau ein bod yn berchen ar ein gwasanaethau digidol ein hunain
-
defnyddio llwyfannau a gwasanaethau cyffredin gyd²¹â€™r Weinyddiaeth Cyfiawnder, pan fydd hyn yn sicrhau arbedion costau neu fantais strategol, er enghraifft cynnal diogel.
Cam Gweithredu 6: byddwn yn cynyddu gallu digidol OPG.
Byddwn yn:
-
parhau i ddatblygu sgiliau proffesiynol ein tîm digidol, er mwyn gallu cefnogi uchelgeisiau digidol yr asiantaeth
-
dysgu drwy brofiad adrannau eraill, drwy ddatblygu rhwydwaith o gysylltiadau ar draws y llywodraeth
-
mynychu digwyddiadau a chynadleddau er mwyn sicrhau bod OPG yn parhau i fod yn arweinydd ym maes datblygu gwasanaethau digidol ar draws y llywodraeth
-
cynyddu gallu digidol mewnol drwy ddysgu a hyfforddi, er mwyn sicrhau bod y OPG cyfan yn symud tuag at ffyrdd mwy digidol o gydweithio
-
ysbrydoli newidiadau i brosesau a grymuso’r staff i sicrhau mai dulliau digidol yw’r dulliau arferol a ddefnyddir drwy’r asiantaeth gyfan, gyda thimau digidol a gweithredol yn cydweithio
-
buddsoddi yng nghynllun Llwybr Carlam y gwasanaeth sifil, sy’n cynnig rolau sy’n rhoi darlun gwirioneddol o gynllunio gwasanaethau digidol yn y llywodraeth
-
datblygu strategaeth gyfathrebu ddigidol ar gyfer cysylltiadau mewnol ac allanol.
Cam gweithredu 7: byddwn yn cynorthwyo eraill y tu allan i OPG i ymgorffori ffyrdd o weithio digidol.
Byddwn yn:
-
caffael yn gyflymach ac yn ddoethach
-
gweithio gyda busnesau bach a chanolig yn gyntaf, pan fydd yn bosibl
-
diffinio ffyrdd modern o achredu meddalwedd y llywodraeth, er mwyn symleiddio’r broses o’i derbyn yn y gwasanaeth
-
chwilio am gyfleoedd i greu partneriaethau hirdymor gyd²¹â€™r trydydd sector a rhannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu gyda hwy.
Cam Gweithredu 8: byddwn yn ymgorffori diwylliant agored sy’n rhannu.
Byddwn yn:
-
rhannu data gydag asiantaethau eraill, pryd bynnag y bydd yn bosibl
-
cyhoeddi cod ar gyfer pob gwasanaeth y byddwn yn eu datblygu
-
defnyddio safonau agored ym mhob gwasanaeth y byddwn yn ei greu, yn unol â chanllawiau Swyddf²¹â€™r Cabinet
-
cyhoeddi perfformiad ein gwasanaethau er mwyn cynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd ynom
-
nodi fframweithiau cyffredin ar gyfer meysydd cyflenwi gwasanaethau digidol (er enghraifft cymorth a llywodraethu) a’u rhannu gydag eraill sy’n datblygu gwasanaethau digidol ar draws y llywodraeth
-
integreiddio gyda llwyfannau cyffredin Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth: 51²è¹Ý, llwyfan perfformio ac yn y blaen
-
cynnal arferion llunio polisïau cydweithredol a thryloyw
Yr hyn yr ydym wedi’i wneud hyd yma
Rydym yn ailgynllunio gwasanaethau’r we, a hynny’n seiliedig ar anghenion y defnyddiwr: mewn partneriaeth â Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth, mae OPG eisoes wedi cyflwyno’r offer digidol ar gyfer atwrneiaeth arhosol, a basiodd y Safon Gwasanaeth Digidol yn Bennaf ym mis Ebrill. Lansiwyd yr offer yn swyddogol gennym ar 21 Mai 2014, fel rhan o raglen drawsnewid ehangach Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth – y gwasanaeth enghreifftiol cyntaf i basio’r asesiad safon gwasanaeth a’i gyflwyno’n swyddogol.
Rydym wedi dechrau gweithio ar gynnyrch ar-lein newydd ar gyfer ein cwsmeriaid: offer ‘dirprwyaethau digidol’, a fydd yn galluogi dirprwyon i gyfathrebu’n haws gyda staff OPG. Rydym ni wedi cyflawni gwaith ymchwil cychwynnol ar y defnyddiwr ar gyfer offer chwilio drwy gofrestrfeydd ar-lein, a fydd yn galluogi gweithwyr proffesiynol a phobl leyg i benderfynu a oes gan unigolyn dwrnai neu ddirprwy sy’n gyfrifol am eu materion, a bydd hyn yn rhan o’n piblinell o gynhyrchion digidol.
Rydym yn datblygu meddalwedd rheoli achosion newydd ar gyfer prosesu atwrneiaeth arhosol. Mae’r system hon yn syml a greddfol, ac mae wedi’i datblygu yn seiliedig ar anghenion y defnyddiwr, sy’n rhoi’r un profiad gwych i’n staff â’r profiad y byddwn yn disgwyl ei roi i gwsmeriaid yn awr. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno yn alpha ym mis Tachwedd 2014, ynghyd â system casglu dogfennau a dogfen well o later.
Rydym yn trosglwyddo ein cynnwys digidol i 51²è¹Ý, yn unol â Cham Gweithredu 7 strategaeth ddigidol y llywodraeth, er mwyn i ddefnyddwyr allu dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt gennym yn gyflymach, ac er mwyn i’r wybodaeth fod yn gliriach pan fyddant yn ei derbyn.
Rydym yn fwy agored: rydym yn cyhoeddi metrigau ar gyfer y gwasanaeth atwrneiaeth arhosol ar lwyfan perfformio OPG, rydym yn am ein profiadau ac rydym yn agor cod ffynhonnell ar gyfer gwasanaethau newydd.
Rydym yn cynyddu ein gallu digidol: rydym wedi penodi Pennaeth Digidol a Rheolwr Gwasanaeth, ac rydym yn datblygu tîm digidol OPG er mwyn sicrhau ei fod yn elfen ganolog o’r gwaith o wireddu ein cynllun busnes. Rydym yn cynnig hyfforddiant Agile i staff ac rydym yn codi ymwybyddiaeth o fanteision gwasanaethau digidol.
Rydym yn cydweithio gyda’n cydweithwyr y tu allan i OPG er mwyn galluogi ffyrdd o weithio digidol gwell: rydym yn caffael yn ddoethach ac yn gyflymach, o fframweithiau digidol modern, ac yn ysgrifennu contractau mewn ffordd sy’n gweithio orau i ni. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr sicrwydd gwybodaeth er mwyn i’r broses achredu fod yn gyflymach ac yn fwy cymesur, ond yn cynnal y diogelwch a gynigir i gwsmeriaid yr un pryd.
Rydym yn gwneud i gyflenwi digidol fod yn gynaliadwy yn yr asiantaeth, drwy gynllunio modelau cymorth sy’n ein galluogi i ailadrodd pob un o’n cynhyrchion yn barhaus.
Mae ein hymagwedd at ddarparu digidol wedi’i chynorthwyo yn arloesol, ac rydym yn meithrin partneriaethau ar gyfer y gwasanaeth atwrneiaeth arhosol, sy’n galluogi defnyddwyr i wneud cais ar- lein heb unrhyw gost ychwanegol.
Rydym yn ymroddedig i fod yn asiantaeth hyfforddi ddigidol, sy’n nodi patrymau cyffredin a gwersi a ddysgwyd, a’u rhannu gydag eraill, er mwyn i’w teithiau hwy fod yn fwy esmwyth na’n taith ni.
Holl ganllawiau a ffurflenni Cymraeg Swyddf²¹â€™r Gwarcheidwad Cyhoeddus