Corporate report

Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cynllun Cyflawni Canlyniadau: 2021 i 2022

Published 15 July 2021

This was published under the 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Applies to Wales

Bridge at sunset

Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS
Cyfarwyddwr
Glynne Jones CBE

Rhagair

Yn yr un modd 但 holl adrannau eraill y Llywodraeth, mae Swyddfa Cymru wedi bod yn canolbwyntio dros y deuddeg mis diwethaf ar chwarae ein rhan yn y frwydr yn erbyn coronavirus (COVID-19) a sicrhau bod Cymrun cael y cymorth sydd ei angen arni gan Lywodraeth y DU. Er bod y frwydr honno ymhell o fod wedii hennill, maen awr yn bryd inni roir un egni a phenderfyniad tuag at arwain yr adferiad economaidd yng Nghymru. Rydym am ailgodin gryfach yng Nghymru fel rhan o godir gwastad yn y Deyrnas Unedig drwyddi draw.

Swyddi fydd ein prif flaenoriaeth. Rydym yn cefnogi busnesau bach a mawr drwy Gynllun Swyddir Llywodraeth, ac yn creu swyddi gwyrdd gyda Chynllun Deg Pwynt y Llywodraeth ar gyfer Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd. Maer Cynllun Cyflawni Canlyniadau hwn yn nodir sylfeini ar gyfer y twf economaidd a fydd yn sbardunor adferiad: gwella ein seilwaith, yn enwedig ym meysydd digidol, trafnidiaeth ac ynni; sicrhaur buddsoddiad i dyfu diwydiannaur dyfodol, yn benodol i helpu i gyflawni ein huchelgeisiau o ran sero net; ac ar yr un pryd cefnogir sectorau a fydd yn parhau i fod yn hanfodol i economi Cymru, fel amaethyddiaeth, twristiaeth a lletygarwch.

Maer Cynllun hefyd yn adlewyrchu pa mor bwysig yw gwireddun llawn y manteision mae Cymrun eu mwynhau drwy fod yn rhan or Deyrnas Unedig, fel sydd wedi bod yn amlwg drwy gydol yr argyfwng Covid. Yn yr un modd, mae angen inni dynnu sylw at gyfraniad Cymru ir Undeb hwnnw ac adeiladu arno. Gweledigaeth Swyddfa Cymru yw Cymru lewyrchus mewn Teyrnas Unedig gref, ac maer Cynllun hwn yn ein rhoi ar y trywydd hwnnw.

A. Crynodeb Gweithredol

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw cefnogi Cymru ffyniannus mewn Teyrnas Unedig gref.

Ein Gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd yn sail ir gwaith o wireddu ein gweledigaeth. Maer Swyddfa wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl staff yn ymddwyn yn rhagorol ym mhopeth a wn但nt a bod ein Gwerthoedd yn rhan allweddol or gwaith o gyflawni amcanion yr Adran. Dyma ein gwerthoedd:

  • Ymrwymiad in gwaith ac in pobl
  • Cydweithio sefydlu cysylltiadau cryf
  • Ansawdd yn ein darpariaeth

Ein Cenhadaeth

Mae Swyddfa Cymru yn helpu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i hyrwyddo buddiannau Cymru mewn Teyrnas Unedig gref. Ni yw wyneb Llywodraeth y DU yng Nghymru a llais Cymru ar draws Whitehall.

Maer Swyddfa yma i hybu, hwyluso a chefnogir canlynol:

  • Ysgogi twf a chreu swyddi cynaliadwy drwy gefnogi economi gref yng Nghymru mewn Prydain fyd-eang ffyniannus, a marchnad fewnol y DU.
  • Adeiladu Cymru ffyniannus, carbon isel sydd 但 chysylltiadau da drwy sicrhau ei bod yn elwa ar gynlluniau i greu twf a chyfleoedd ledled y DU, gan gynnwys cefnogaeth a thechnoleg wledig, manteisio ar gyfleoedd Brexit a cheisio cyflawni ymrwymiad y Prif Weinidog i gyflymu prosiectau ledled y DU. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi gwella cysylltedd ledled Cymru a rhwng Cymru a gweddill y DU trwy Adolygiad Cysylltedd yr Undeb.
  • Cryfhau ac amddiffyn statws Cymru yn y DU drwy sicrhau bod Cymrun manteisio ir eithaf ar ei lle yn yr Undeb.
  • Sicrhau bod buddiannau Cymrun cael eu cynrychiolin llawn wrth ir DU fanteisio ar gyfleoedd diwedd y Cyfnod Pontio.

Maer blaenoriaethau hyn yn cael eu cyflawnin bennaf drwyr Swyddfa, gan weithion agos gydag adrannau polisi arweiniol.

Ein canlyniadau blaenoriaeth

Maer cynllun cyflawni hwn yn nodin fanwl sut byddwn yn cyflawni ein canlyniadau blaenoriaeth, sut byddwn yn mesur ein llwyddiant a sut byddwn yn sicrhau ein bod yn gwellan barhaus. Dyma ein canlyniadau blaenoriaeth:

  1. Cefnogi twf economaidd yng Nghymru.
  2. Cryfhau a chynnal yr Undeb a r担l Cymru ynddo.
  3. Gwneud ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru yn fwy amlwg.

Maer Swyddfa hefyd yn cefnogir gwaith o gyflawnir Canlyniad Blaenoriaeth canlynol, syn cael ei arwain gan adrannau eraill:

Canlyniad Blaenoriaeth Adran arweiniol
Sicrhau bod manteision yr Undeb yn glir, yn weladwy ac yn ddealladwy i bob dinesydd Swyddfar Cabinet

Hwyluswyr strategol

Er mwyn cyflawni ein canlyniadau blaenoriaeth, ac atgyfnerthu uchelgeisiaur Datganiad ar Ddiwygior Llywodraeth, byddwn yn defnyddior pedwar hwylusydd allweddol:

  1. Gweithlu, Sgiliau a Lleoliad
  2. Arloesi, Technoleg a Data
  3. Cyflawni, Gwerthuso a Chydweithio
  4. Cynaliadwyedd

B. Cyflwyniad

1. Cyd-destun

Y Swyddfa ywr unig adran yn Llywodraeth y DU syn canolbwyntion arbenigol ar Gymru. Yn y cyd-destun hwnnw, maer Swyddfan darparu cyngor ac arweiniad strategol i adrannau Llywodraeth y DU ynghylch cymhwyso a gweithredu polisi yng Nghymru, gan gynnwys gwariant mewn cysylltiad 但r polis誰au hynny.

Nid oes gan y Swyddfa unrhyw wariant ar raglenni nac unrhyw arfau polisi ei hun, ac felly maen dibynnu ar ddylanwadu ar adrannau a chydweithio 但 nhw er mwyn cyflawnir tair blaenoriaeth, a chyfrannu at gyflawnir flaenoriaeth drawsbynciol mewn perthynas 但 Chymru.

Maer Swyddfa hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i adrannau eraill y Llywodraeth ar setliad datganoli Cymru ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru a sefydliadau datganoledig eraill yng Nghymru.

Mae blaenoriaethaur Swyddfan adlewyrchu ei phwrpas yn llawn: hyrwyddo twf economaidd yng Nghymru a sicrhau ei bod yn chwarae rhan gref a chanolog yn ein Teyrnas Unedig.

2. Asiantaethau llywodraethu a chyflawni

Bwrdd yr Adran syn pennu cyfeiriad strategol a rhaglen waith y Swyddfa, ac yn adolygur cynnydd o ran cyflawni. Maen cyfarfod hyd at chwe gwaith y flwyddyn ac mae Gweinidogion yn mynychu o leiaf ddau gyfarfod y Bwrdd bob blwyddyn. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cadeirior Bwrdd pan fydd yn bresennol. Cyfarwyddwr y Swyddfa syn cadeirior Bwrdd pan nad ywr Gweinidogion yn bresennol.

Mae gan y Swyddfa ddau bwyllgor syn adrodd ir Bwrdd Adrannol:

i. Y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
ii. Pwyllgor Iechyd a Diogelwch

Maer Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn gyfrifol am oruchwylio a chyflawnin briodol y gwaith cyfrifon adrannol, archwilio mewnol a sicrwydd risg strategol. Maen uwchgyfeirio materion syn destun pryder strategol ir Bwrdd Adrannol. Maer Pwyllgor yn gweithredu yn unol 但 Llawlyfr Pwyllgor Archwilio Trysorlys EM ac yn cyfarfod bob chwarter. Maen cael ei gadeirio gan brif Aelod Anweithredol y Swyddfa or Bwrdd ac maer aelodaun cynnwys Aelod Anweithredol eilaidd y Swyddfa or Bwrdd, ac aelod annibynnol (nad ywn aelod or Bwrdd Adrannol).

Maer Pwyllgor Iechyd a Diogelwch yn gyfrifol am roi cyngor ir Bwrdd Adrannol ar y ffordd orau o sicrhau bod y Swyddfan darparu amgylchedd gwaith iach a diogel iw staff, ei Gweinidogion ai hymwelwyr. Maen cael ei gadeirio gan y Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol ac yn cynnwys cynrychiolwyr Undebau Llafur. Maer Pwyllgor yn cwrdd unwaith y flwyddyn o leiaf.

Mae Uwch D樽m Arwain y Swyddfa yn cynnwys Cyfarwyddwr a dirprwy gyfarwyddwyr yr adran. Maen cyfarfod bob wythnos i drafod materion gweithredol, gan gynnwys datblygiadau mawr, adnoddau a materion cyllidebol. Gall y Bwrdd Adrannol gyfeirio materion ir Uwch D樽m Arwain ar gyfer goruchwylio a phenderfynu, a gall yr Uwch D樽m Rheoli uwchgyfeirio materion ir Bwrdd ar gyfer goruchwylio a phenderfynu strategol.

Yn olaf, maer Swyddfan rhan o Gr典p Llywodraethur DU[footnote 1]. Maer Cyfarwyddwr yn mynychu cyfarfodydd wythnosol Uwch D樽m Arwain y Gr典p i drafod materion syn ymwneud 但 datganoli ar cyfansoddiad syn croesi ffiniau adrannol.

Mae rhagor o wybodaeth am y Swyddfa ar gael ar dudalennaur Swyddfa.

Nid oes gan y Swyddfa unrhyw gyrff hyd braich.

3. Trosolwg o risg strategol

Mae gan y Swyddfa Strategaeth a Fframwaith Polisi Rheoli Risg, syn cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Adrannol ar Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Maer strategaeth yn hyrwyddo diwylliant tryloyw ac atebol yn y Swyddfa i gefnogi proses rheoli risg gyson, amserol ac effeithiol.

Mae system rheolaethau mewnol y Swyddfa wedii dylunio i nodi risgiau busnes (cyn belled ag y bo modd o fewn rheolaeth yr Adran) au lliniaru yn unol 但r parodrwydd i dderbyn risg a ddiffinnir gan Fwrdd yr Adran. Mae risgiau strategol ar camau lliniaru yn cael eu mesur au hasesu mewn Cofrestr Risgiau Strategol adrannol.

Maer Gofrestr yn cael ei hadolygun rheolaidd gan yr Uwch D樽m Arwain ac yn chwarterol gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, a all benderfynu rhoi gwybod ir Bwrdd Adrannol os ywn credu bod rheolaethau annigonol ar waith i liniaru risgiau strategol. Gall y Bwrdd Adrannol benderfynu cymryd camau i weithredu neu gynyddu rheolaethau, neu ddirprwyo camau gweithredu ir Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Ansawdd neur Uwch D樽m Arwain wneud hynny.

Maer Gofrestr Risgiau Strategol yn seiliedig ar 5 Cofrestr Risgiau Adrannol. Mae dirprwy gyfarwyddwyr yn gyfrifol am eu cynnal. Maer 5 Cofrestr Risgiau Adrannol yn cynnwys y:

  • Swyddfa Breifat
  • Cyfathrebu
  • Polisi
  • Undeb
  • a Chorfforaethol

Ac mae pob un yn cael ei hadolygun flynyddol gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg mewn fformat at wraidd y mater (deep dive). Maer ffactorau allweddol syn effeithio ar allur Swyddfa i gyflawni ei blaenoriaethau strategol yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

3.1 Dylanwadau Allanol

Y dylanwadau allanol allweddol ar y gwaith o gyflawni blaenoriaethaur Swyddfa yw ymatebion polisi Llywodraeth y DU i COVID-19, gan gynnwys blaenoriaethau ar gyfer adfer or pandemig dros y tymor byr, ar ymateb polisi syn datblygu i bontio or UE.

Maer ymateb i COVID-19 yn dylanwadu ar y gwaith o gyflawni blaenoriaethaur Swyddfa mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, gallai unrhyw oedi cyn ir DU ddychwelyd at normal newydd ar 担l y pandemig wthior amserlenni ar cynlluniau cyflawni yn 担l ymhellach. Yn ail, mae cymorth ariannol parhaus gan y llywodraeth i fusnesau a gweithwyr i lywio drwyr pandemig yn golygu bod mwy o her i gyllid cyhoeddus yn y dyfodol ar gyfer cyflawni rhaglen y Llywodraeth.

Bydd y Swyddfan helpu adrannau eraill y llywodraeth wrth iddyn nhw ddatblygu polis誰au sydd 但 goblygiadau sylweddol ir Undeb a chyn i adrannau ymgysylltu 但 Llywodraeth Cymru a sefydliadau datganoledig eraill yng Nghymru.

3.2 Strategaeth y Gweithlu

Mae gan y Swyddfa tua 50 aelod o staff[footnote 2] ac felly gallai newidiadau yn y cyflenwad ar galw yng ngweithlu ehangach y Gwasanaeth Sifil effeithio arni.

Maer Swyddfan ceisio cael gweithlu sefydlog gyda set sgiliau briodol i gyflawni ei blaenoriaethau a lleihau nifer y swyddi gwag, gan sicrhau eu bod yn wag am y cyfnod byrraf posibl. Mae gan y Swyddfa Gynllun Pobl a Chynllun Olyniaeth i helpu i sicrhau ei bod yn cadwr bobl sydd eu hangen arni, ac mae wedi symleiddio a gwella prosesau recriwtio dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn lleihau cyfnodau swyddi gwag (er enghraifft, drwy greu cronfa wrth gefn ar gyfer swyddi gwag).

3.3 Yr Amgylchedd Ariannol

Mae gan y Swyddfa gyllideb adnoddau flynyddol fach o tua 贈5 miliwn a 贈30,000 o gyfalaf ar gyfer 2021-22. Mae 68% o gyllideb adnoddaur Swyddfa yn cael ei gwario ar gostau staff. Maer amcangyfrif o gostau staff blynyddol prif adrannaur Swyddfa ar bob un or blaenoriaethau iw weld isod. Mae is-adrannau eraill hefyd yn cyfrannu at y gwaith o gyflawnir blaenoriaethau hyn, gan gynnwys Gwasanaethaur Swyddfa Breifat a Gwasanaethau Corfforaethol. Mae costau Cynghorwyr Cyfreithiol Swyddfa Cymru[footnote 3] wediu cynnwys gyda Th樽m yr Undeb.

Adran arweiniol Cost staff flynyddol
T樽m Polisi (yn arwain Blaenoriaeth 1 yn bennaf) 贈1.052 miliwn
T樽m yr Undeb (yn arwain Blaenoriaethau 2 a 3 yn bennaf) 贈0.490 miliwn
T樽m Cyfathrebu (yn gweithio ar Flaenoriaeth 3 ac yn cefnogir tair blaenoriaeth) 贈0.480 miliwn

Nid oes gan y Swyddfa gyllideb rhaglenni ac maen dibynnu ar gefnogi a chydweithio ag adrannau eraill y llywodraeth, a dylanwadu arnynt, i gyflawni ei blaenoriaethau.

3.4 Rhanddeiliaid

Maer Swyddfan cynnal deialog rheolaidd ac agos gyda rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru, ac yn enwedig gyda busnesau Cymru au sefydliadau cynrychioliadol, prifysgolion, awdurdodau lleol ar trydydd sector. Mae Gweinidogion yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda busnesau Cymru o bob un o brif sectorau economi Cymru. Maer trafodaethau hyn yn gyfrwng uniongyrchol rhwng rhanddeiliaid a llunwyr barn yng Nghymru a Chabinet y DU, drwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Cynyddodd amlder a dwysedd y trafodaethau hyn yn y cyfnod cyn diwedd y Cyfnod Pontio ac ar 担l diwedd y Cyfnod Pontio.

Maer Swyddfan gweithion agos gyda llywodraeth leol yng Nghymru ac mae ein hymgysylltiad ynghylch bargeinion dinesig a thwf yng Nghymru wedi helpu i ddatblygu perthynas agosach o lawer. Rydym am ir berthynas hon ddod yn agosach fyth wrth i Lywodraeth y DU gyflwyno Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a Chronfa Codir Gwastad y DU yng Nghymru.

Mae Gweinidogion hefyd yn cynnal deialog rheolaidd gyda chynrychiolwyr sectorau eraill yng Nghymru, gan gynnwys y trydydd sector, addysg uwch ac addysg bellach, a chynrychiolwyr o undebaur ffermwyr.

3.5 Cyfleoedd a Bygythiadau

Mae llawer o gyfleoedd cyffrous i Gymru o ran cyflawni ein blaenoriaethau. Maer Swyddfan benderfynol o fanteisio ir eithaf ar y ffaith fod y DU bellach yn genedl fasnachu annibynnol; i sicrhau bod ein cytundebau masnach rydd yn manteisio ir eithaf ar gyfleoedd i fusnesau Cymru a chynnyrch Cymreig, ac i hyrwyddo cynnyrch eiconig Cymru fel cig oen a chig eidion Cymru mewn marchnadoedd sydd heb eu datblygun ddigonol ledled y byd.

Bydd canolbwyntio ar farchnadoedd a sectorau a fydd yn creu twf yng Nghymru yn y tymor canolig ir tymor hwy yn cynnwys diwydiannau sydd hefyd yn helpu i gyflawni ein nodau cynaliadwyedd tymor hwy, fel sero net. Maer sector ynni adnewyddadwy, gan gynnwys gwynt, niwclear, llanw a hydrogen, yn darparu ystod eang o gyfleoedd cyffrous i Gymru ar gyfer y dyfodol.

Yn olaf, mae ein gwaith adnewyddu rhanbarthol, lleol a chymunedol drwy gytundebau dinesig a thwf, ar cronfeydd twf lleol yn galluogi rhanbarthau ac ardaloedd ar hyd a lled Cymru i benderfynu drostynt eu hunain beth ywr ffordd orau o ddefnyddio cyllid Llywodraeth y DU i greu twf economaidd. Maen nhwn helpu i wireddur uchelgais o godir gwastad ar draws y DU gyfan hefyd.

Mae dau gategori o fygythiad i greur cyfleoedd hyn. Yn gyntaf, bygythiadau allanol. Y prif fygythiad yn hyn o beth yw ton newydd Covid-19 syn atal neun gohirior gwaith o gyflawni rhaglen y Llywodraeth. Maer gwaith parhaus a llwyddiannus o gyflwyno brechlynnau Covid-19, a llacior cyfyngiadaun ofalus ac yn raddol, yn gwneud hyn yn risg isel i ganolig.

Maer ail fygythiad yn un mewnol, sef y Llywodraeth yn methu gweithio gyda phartneriaid lleol yng Nghymru i fanteisio ir eithaf ar y llu o gyfleoedd syn deillio o gyflawni ein rhaglen lywodraethu, o bontio or UE, ac o adfer ar 担l Covid.

Byddai effeithiau ar y bargeinion dinesig a thwf yng Nghymru. Maer bygythiadaun rhai ymarferol cytundebaun methu cyflawni eu hamcanion arfaethedig; eu cyflawnin hwyr a/neu dros y gyllideb; neun methu cynnal llif o brosiectau y gellir eu cyflawni ac yn rhai syn ymwneud ag enw da, gyda phartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn cwestiynu ymrwymiad Gweinidogion y DU i raglenni twf rhanbarthol a lleol efallai.

O ran y cronfeydd twf lleol newydd, maer bygythiadaun cynnwys awdurdodau lleol Cymru yn peidio ag ymgysylltun llawn ar y rhaglenni, ar meysydd blaenoriaeth yn methu cyflwyno cynifer o geisiadau o ansawdd da 但r disgwyl o dan Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU a Chronfa Codir Gwastad y DU. Gallair canlyniadau sicrhau twf economaidd a chryfhau r担l Cymru yn yr Undeb gael eu peryglu yn sgil hynny.

4. Ein hadnoddau

4.1 Ein cyllid

i. Terfyn Gwariant Adrannol: 贈5.147 miliwn
ii. Terfyn Gwariant Adrannol ar Adnoddau (gan gynnwys dibrisiant): 贈5.322 miliwn
iii. Terfyn Gwariant Adrannol ar Gyfalaf: 贈0.30 miliwn
iv. Gwariant a Reolir yn Flynyddol: dim

Ffynhonnell: Prif Amcangyfrifon Cyflenwi 2021/22

5. Ein pobl

Ar 31 Rhagfyr 2020, roedd gan Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru 47 o gyflogeion cyfwerth ag amser llawn.

Ffynhonnell: / Amserlen ryddhau: chwarterol

5.1 Dadansoddiad or adnoddau yn 担l gwaith

Yn yr amgylchedd hwn, mae ein gwaith yn bwysicach nag erioed. Mae angen inni gael yr adnoddau i wneud ein gwaith yn effeithiol ac i ymateb i flaenoriaethau newydd wrth iddynt godi. Maer tabl dros y dudalen yn dangos sut, yn gyffredinol, y mae ein hadnoddaun cael eu dyrannu in gwahanol ganlyniadau blaenoriaeth. Nid ywr adnoddau hyn yn cynnwys gwasanaethau cymorth y Swyddfa, gan gynnwys Swyddfeydd Preifat Gweinidogion a Gwasanaethau Corfforaethol (fel cyllid ac adnoddau dynol).

Canlyniad blaenoriaeth Cyllideb (贈) Gweithlu (Cyfwerth ag Amser Llawn)
Canlyniad 1: Cefnogi twf economaidd yng Nghymru. 贈1.052 million 18.2
TMae hyn yn cynnwys is-adran Polisir Swyddfa a rhai timau yn is-adran Undeb y Swyddfa.
Canlyniad 2: Cryfhau a chynnal yr Undeb a r担l Cymru ynddo.
Canlyniad 3: Gwneud ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru yn fwy amlwg.
贈0.950 million
TMae hyn yn cynnwys cyllid y Swyddfa ar gyfer Cynghorwyr Cyfreithiol Swyddfa Cymru rhan o Adran Gyfreithiol y Llywodraeth. Maer Adran Gyfreithiol yn darparu cymorth cyfreithiol ar draws holl weithgareddaur Swyddfa.
11.5
(a 2.3 o gynghorwyr cyfreithiol)
Mae hyn yn cynnwys rhan o d樽m Undeb y Swyddfa a th樽m Cyfathrebur Swyddfa. Maer t樽m Cyfathrebun darparu cyngor a darpariaeth cyfathrebu ar gyfer holl swyddogaethaur Swyddfa. Nid ywn bosibl gwahanu gweithgareddaur Swyddfa rhwng Canlyniadau dau a thri.

C. Cynlluniau Cyflawni Canlyniadau Blaenoriaeth

Canlyniad 1: Cefnogi twf economaidd yng Nghymru

1. Strategaeth y Canlyniad

R担l y Swyddfa yw nodi a mynegi anghenion penodol Cymru a lle maer potensial am yr effaith fwyaf. Mae wedyn yn dylanwadu ac yn cydweithio ag adrannau eraill Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a chyrff rhanbarthol a lleol, a rhanddeiliaid yng Nghymru yn y sector cyhoeddus, y sector preifat ar trydydd sector i sicrhau twf economaidd mewn termau absoliwt a chymharol. Nid oes gan y Swyddfa gyllideb rhaglenni nac unrhyw arfau polisi uniongyrchol.

Maer Swyddfan gweithio gydag adrannau arweiniol y Llywodraeth gan gynnwys yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yr Adran Drafnidiaeth, Trysorlys Ei Mawrhydi ar Adran dros Fasnach Ryngwladol i flaenoriaethu sectorau a meysydd ar gyfer twf yng Nghymru yn y dyfodol. Maer flaenoriaeth hon yn cyd-fynd ag agwedd y Llywodraeth tuag at dwf ac adnewyddu ar draws y DU y Cynllun Twf; ailgodin gryfach wrth inni adfer ar 担l pandemig Covid-19, codir gwastad ar draws y DU a chreu swyddi gwyrdd drwyr Cynllun Deg Pwynt ar gyfer Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd. Maen perthyn i dri maes eang:

  1. Blaenoriaethu cymorth mewn sectorau economaidd ar gyfer twf yn y dyfodol. Y sectorau syn cynnig y potensial mwyaf ar gyfer twf yng Nghymru yn y dyfodol ac syn cefnogir gwaith o gyflawni nodau strategol Llywodraeth y DU ar draws y DU, fel codir gwastad a sero net.

  2. Codir gwastad ym mhob ardal yng Nghymru drwy gyllid twf rhanbarthol a lleol Llywodraeth y DU, gan gynnwys bargeinion dinesig a thwf, Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, y Gronfa Codir Gwastad ar Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Bydd y bargeinion ar cronfeydd hyn hefyd yn cryfhaur gwendidau cynhenid yn economi Cymru (ar DU), gan gynnwys buddsoddi mewn seilwaith, sgiliau ac arloesedd.

  3. Buddsoddi mewn prosiectau syn darparu swyddi a thwf tymor hir. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, y 贈30 miliwn o gyllid cyfatebol gan Lywodraeth y DU ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd arfaethedig a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2021; buddsoddi mewn gwell cysylltedd ledled Cymru (a gwell cysylltedd digidol yn benodol), a buddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy i gefnogir gwaith o gyflawni sero net ac i gyfrannu at y gwaith o gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwyr Cenhedloedd Unedig yn y DU (gweler yn ddiweddarach yn yr adran hon) er enghraifft y 4.8 miliwn a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2021 ar gyfer Canolfan Hydrogen Caergybi.

Maer Swyddfan gweithio gydag adrannau eraill Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol i gyflawni ymrwymiadau Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru, gan gynnwys ymrwymiadau a wnaed ym maniffesto 2019.

Maer ymrwymiadau hyn a blaenoriaethau eraill wediu nodi yng Cynllun ar gyfer Cymru Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Er bod adrannau eraill Llywodraeth y DU yn gyfrifol am gyflawnir Cynllun yn eu priod feysydd polisi, maer Swyddfan gyfrifol am siapio a monitro ei ddarpariaeth, gan ymrwymor amser ar adnoddau angenrheidiol i gyflawnir amcan hwnnw a, drwy hynny, gefnogi swyddi a thwf economaidd yng Nghymru.

Yn fras, mae tri chategori o flaenoriaethau polisi yn y Cynllun:

  1. Buddsoddiad seiliedig ar brosiectau mewn meysydd twf allweddol ac i helpu i gyflawni nodau strategol Llywodraeth y DU.

  2. Buddsoddiad seiliedig ar leoedd i sicrhaur canlyniadau gorau posibl o wariant Llywodraeth y DU ar lefel ranbarthol, leol a chymunedol. Maer enghreifftiaun cynnwys gwariant Llywodraeth y DU ar y pedair bargen dinesig a thwf yng Nghymru, a gwariant yng Nghymru ar y cronfeydd twf lleol newydd.

  3. Gwariant i sicrhau gwelliannau o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus a gedwir yn 担l yng Nghymru, gan gynnwys cyfiawnder (llysoedd, carchardai, y gwasanaeth prawf) a phlismona. Mae darparur gwasanaethau hyn yn effeithiol hefyd yn ffactor allweddol wrth gyflawni blaenoriaethau dau a thri.

Nid oes gan y Swyddfa gyllideb rhaglenni i gyflawnir canlyniad hwn. Rydym yn dibynnu ar gefnogi a chydweithio ag adrannau eraill, a dylanwadu arnynt, i gyflawni Cynllun Cymru, gan ddefnyddio cyllidebau eu rhaglenni yn unol 但 hynny.

2. Metrigau ar gyfer y Canlyniad hwn

Wrth gyflawnir flaenoriaeth hon, maer Swyddfan canolbwyntio ar gynyddu swyddi a thwf economaidd yng Nghymru, mewn termau absoliwt ac o gymharu 但 rhanbarthau a gwledydd eraill y DU. Mae pum metrig strategol ar gyfer mesur cyflawniad y canlyniad hwn:

  • Cynnyrch Domestig Gros (GDP) y pen yng Nghymru
  • Gwerth allforion Cymru
  • Canran y busnesau syn gwneud gweithgareddau arloesedd gweithredol yng Nghymru
  • Canran yr eiddo syn cael eu pasio 但 chysylltiad gigabit yng Nghymru
  • Diffyg ariannol y pen yng Nghymru (贈)

Dylai cyflawni Cynllun Cymru an blaenoriaethau o dan y Cynllun gyfrannu at gynyddu gwerthoedd o dan y metrigau hyn. Fodd bynnag, mae llawer o newidynnau allanol a fydd hefyd yn dylanwadu ar a fyddent yn gwella, ac i ba raddau. Er enghraifft, bydd cyflymder a llwyddiant busnesau Cymru o ran addasu ir trefniadau masnachu newydd gydar UE ar 担l diwedd y Cyfnod Pontio yn dylanwadu ar werth allforion Cymru hefyd, fel y bydd cyfradd a chyflymder yr adferiad yn dilyn pandemig Covid-19.

Bydd y Swyddfan barhau i weithio gyda Thrysorlys EM i ddatblygur metrigau hyn ymhellach. I ddatblygur metrigau hyn ymhellach a gyda bron pob un o adrannau Llywodraeth y DU i gyflawnir canlyniad hwn, yn bennaf yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yr Adran Drafnidiaeth, yr Adran dros Fasnach Ryngwladol, yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Swyddfar Cabinet, a Thrysorlys EM.

Canlyniad 2: Cryfhau a chynnal yr Undeb a r担l Cymru ynddo

1. Strategaeth y Canlyniad

Maer strategaeth ar gyfer cyflawnir flaenoriaeth hon yn ategur rhai ar gyfer Canlyniad 3 ar canlyniad trawsbynciol y maer adran yn cyfrannu ato. Bydd cyflawni prosiectau i gefnogi twf economaidd a chyflogaeth yng Nghymru (Canlyniad 1) hefyd yn dangos perthnasedd a budd Llywodraeth y DU i bobl yng Nghymru, ac fellyn gweithredu i gryfhaur gefnogaeth ir Undeb.

Mae sicrhau bod Cymrun chwarae r担l ystyrlon a rhagweithiol yn y Deyrnas Unedig yn rhan annatod o waith y Swyddfa, ac mae gweithgareddau allweddol yn cael eu datblygu yn y meysydd canlynol:

  1. Cydweithio ag adrannau i gefnogi meysydd polisi allweddol sydd 但 chysylltiad cryf 但 hunaniaeth genedlaethol pobl au barn am yr Undeb, yn enwedig diwylliant ar Lluoedd Arfog.

  2. Mae elfen allweddol o gefnogaeth ir Undeb yn seiliedig ar y gred bod y setliad cyfansoddiadol syn sail iddo yn addas ir diben. Felly, maer Swyddfan gweithredu fel canolfan arbenigedd yn y Llywodraeth ar setliad datganoli Cymru, gan weithio i wneud y canlynol:

  • Sicrhau bod deddfwriaeth a pholis誰au Llywodraeth y DU yn adlewyrchu buddiannau Cymru ar DU yn ei chyfanrwydd
  • Hyrwyddo a chefnogi ymgysylltu cynhyrchiol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru i sicrhau bod setliad datganoli Cymru yn gweithredun effeithiol, a bod deddfwriaeth y Senedd yn adlewyrchur ffin ddatganoli

Mae gan y Swyddfa gyfrifoldeb arweiniol dros setliad datganoli Cymru ac maen gweithion agos gyda chydweithwyr yng Ngr典p Llywodraethur DU a Swyddfa Gogledd Iwerddon i sicrhau dull trawslywodraethol cydlynol o gryfhaur Undeb. Cyfrifoldeb yr adran arweiniol berthnasol yw cyflwyno ymyriadau penodol i gryfhaur Undeb.

2. Metrigau ar gyfer y Canlyniad hwn

Y metrig ar gyfer mesur cyflawniad y canlyniad hwn yw:

  • Dangosyddion o gefnogaeth ir Undeb sydd ar gael yn gyhoeddus polau piniwn (y cant)

Maer dangosydd hwn yn cynnwys mesurau o agweddau pobl at yr Undeb yn ei gyfanrwydd; r担l Cymru yn yr Undeb a dangosyddion o gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru, datganoli pellach neu ddiddymur Senedd a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys tueddiadau data dros amser.

Bydd data ar gael drwy arolygon sydd ar gael yn gyhoeddus, gan gynnwys data a gynhyrchir gan sefydliadau pleidleisio fel YouGov, Survation ac Ipsos Mori; Arolygon Baromedr Cymru a gomisiynir gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, ar Arolwg Dydd G典yl Dewi blynyddol a gynhelir ar ran y BBC. Mae etholiad y Senedd ar 6 Mai 2021 wedi cyfrannu data dangosol hefyd.

Y waelodlin ar gyfer mesur llwyddiant, yn rhannol, yw .

Canlyniad 3: Gwneud ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru yn fwy amlwg

1. Strategaeth y Canlyniad

Maer Swyddfan cefnogi gwaith i gyflawnir flaenoriaeth hon mewn tair prif ffordd:

1. Gweithio gyda bron pob un o adrannau llywodraeth y DU i sicrhau bod ganddynt bresenoldeb yng Nghymru (gan gynnwys uwch weision sifil lle bo hynnyn briodol)

Bydd hyn yn gwneud Llywodraeth y DU yn fwy amlwg yng Nghymru ac yn helpu i hwyluso ymgysylltiad adrannau 但 rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru a Llywodraeth Cymru. Yn y tymor byr, rydym yn gweithio gyda Swyddfa Eiddor Llywodraeth ac Asiantaeth Eiddor Llywodraeth i sicrhau bod adrannau Llywodraeth y DU yn lleoli staff yng Nghanolfan newydd Llywodraeth y DU yng Nghaerdydd (T天 William Morgan).

Ffocws cynnar hyn yw sicrhau presenoldeb nifer o adrannau allweddol syn chwarae r担l ganolog yn cyflawni blaenoriaethau polisi i Gymru. Yn y tymor hwy, rydym yn ceisio manteisio ir eithaf ar gyfleoedd i Gymru yn sgil adleoli swyddir Gwasanaeth Sifil o Lundain a de-ddwyrain Lloegr, ac o raglen canolfannau Llywodraeth y DU.

2. Gwneud gwariant Llywodraeth y DU yng Nghymru, a manteision a chanlyniadaur gwariant hwn, yn fwy amlwg

Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi 贈790 miliwn yn y pedair bargen dinesig a thwf yng Nghymru, gan gydariannur bargeinion gyda Llywodraeth Cymru. Mae Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU a Chronfa Codir Gwastad y DU, a ddarperir drwy bwerau cyllido Gweinidogion y DU yn Neddf y Farchnad Fewnol a drwy weithion agos gydag awdurdodau lleol Cymru hefyd yn darparu cyfleoedd newydd i ddangos cefnogaeth Llywodraeth y DU yng Nghymru, gan adeiladu ar y gydnabyddiaeth gyffredinol o gynlluniau cymorth Covid-19 llwyddiannus ledled y DU, fel y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (furlough) ar Cynllun Cymorth Incwm ir Hunangyflogedig.

3. Gwella presenoldeb llywodraeth y DU yng Nghymru

Elfen hanfodol o ddangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru yw mynd ir afael 但r canfyddiad bod Cymrun cael ei hesgeuluso ai hanwybyddu ar lefel y DU; bod polis誰au mewn meysydd cymhwysedd a gedwir yn 担l yn cael eu datblygu au cyflwyno o bell, i ffwrdd o Gymru, a heb ystyried teimladau a chanfyddiadau yng Nghymru. Maer Swyddfan rhan ganolog o ymdrechion Llywodraeth y DU i fynd ir afael 但r canfyddiad hwn, drwy:

  • wella ein presenoldeb
  • cynyddu amlder ymweliadau Gweinidogion y DU 但 Chymru a rhanddeiliaid Cymru, ac ymgysylltu 但 nhw
  • chynyddu nifer y cyhoeddiadau polisi syn cyfeirion benodol at Gymru ac syn cael eu cyhoeddi yng Nghymru

Maer Rhaglen Places for Growth yn cael ei harwain gan Swyddfa Eiddor Llywodraeth ac Asiantaeth Eiddor Llywodraeth. Amcan y rhaglen yw symud 22,000 o swyddir Gwasanaeth Sifil o Lundain a de-ddwyrain Lloegr i wledydd a rhanbarthaur DU erbyn 2030. Mae penderfyniadau ar adleoli yn cael eu gwneud gan adrannaur DU eu hunain. Ochr yn ochr 但 hyn, maer rhaglen Canolfannau, syn cael ei harwain gan Asiantaeth Eiddor Llywodraeth, yn ad-drefnu ystad y Llywodraeth ledled y DU.

Er mwyn sicrhau bod gan y rhan fwyaf o adrannau Llywodraeth y DU bresenoldeb yn Nh天 William Morgan, maer Swyddfan gweithio gyda phob adran, Cyllid a Thollau EM (fel y brif adran syn meddiannur Ganolfan newydd), a Swyddfa Eiddor Llywodraeth ac Asiantaeth Eiddor Llywodraeth.

R担l y Swyddfa yw:

  • hybu a hwyluso adleoli rolaur Gwasanaeth Sifil i Gymru (yn enwedig rolau polisi)
  • gweithio gydag adrannau eraill o Lywodraeth y DU i sicrhau bod Canolfan Llywodraeth y DU a agorwyd yn ddiweddar yng Nghaerdydd T天 William Morgan yn cael ei hystyried yn bresenoldeb gweladwy Llywodraeth y DU yng Nghymru ac yn gartref i staff o bron pob un o adrannau Llywodraeth y DU
  • sicrhau bod Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ymweld 但 Chymrun rheolaidd a bod ganddynt bresenoldeb rheolaidd yno
  • gan weithio gyda Swyddfa Eiddor Llywodraeth ac Asiantaeth Eiddor Llywodraeth, sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cynyddu ei phresenoldeb yng Nghymru ir graddau mwyaf posibl ac yn bwrw ymlaen 但 chynlluniau ar gyfer canolfannau Llywodraeth y DU yng Nghymru

Pwrpas y gwaith hwn yw dangos gwerth a pherthnasedd yr Undeb, a Llywodraeth y DU, i bobl yng Nghymru drwy gynyddu ein presenoldeb an hamlygrwydd yn y wlad; drwy adlewyrchun fwy uniongyrchol materion syn berthnasol i Gymru wrth ddatblygu a darparu polis誰au adrannau, a drwy gyfrannu at dwf economaidd Cymru drwy gynyddu nifer y gweision sifil yng Nghymru, a hynny drwy adleoli a recriwtion lleol.

Nid ywr Swyddfan adran rhaglenni ac nid oes ganddi gyllideb o dan y rhaglen Places for Growth.

2. Metrigau ar gyfer y Canlyniad hwn

  • Canolfan Caerdydd Nifer a Math Adrannau Llywodraeth y DU

Maer mesurau o dan y dangosydd hwn yn cynnwys:

  • Nifer yr adrannau a gynrychiolir yng Nghanolfan Caerdydd
  • Graddfa a r担l gweision sifil a leolir yn y Ganolfan
  • Nifer adrannau llywodraeth y DU a gynrychiolir yng Nghymru
  • Nifer gweision sifil llywodraeth y DU sydd wediu lleoli yng Nghymru

Mae hybu a hwyluso presenoldeb uwch Gweinidogion yn elfen allweddol o waith y Swyddfa. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid ywr Swyddfan cadw cofnod o ddangosyddion meintiol ymweliadau Gweinidogol 但 Chymru, na chyhoeddiadau polisi a wneir yng Nghymru. Ond rydym yn cydnabod yr angen i ddatblygu metrigau i olrhain cynnydd yn effeithiol.

Sut mae ein gwaith yn cyfrannu at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig

Canlyniad Blaenoriaeth Cysylltiad ar Nodau Datblygu Cynaliadwy
1. Cefnogi twf economaidd yng Nghymru Nod 8 - Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd
Nod 9 - Diwydiant, Arloesi a Seilwaith
Nod 11 - Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy
2. Cryfhau a chynnal yr Undeb a r担l Cymru ynddo
3. Gwneud ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru yn fwy amlwg
Nod 16 - Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn

Cynllun Gwerthuso Canlyniadau

Mae cyflawni Canlyniad 1 yn llwyddiannus yn dibynnu i raddau helaeth ar lwyddiant y rhaglenni ar prosiectau yng Cynllun ar gyfer Cymru gan gynnwys ymrwymiadau maniffesto 2019. Maer rhain yn cynnwys rhaglenni fel bargeinion dinesig a thwf, ar rhaglenni twf lleol newydd yng Nghymru, yn ogystal 但 phrosiectau penodol mewn amrywiaeth o feysydd polisi. Er mai adrannau eraill o Lywodraeth y DU syn gyfrifol am gyflawnir cynllun yn eu priod feysydd polisi gan weithion agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol yng Nghymru y Swyddfa syn gyfrifol am siapio a monitro ei ddarpariaeth, ac felly am gefnogi swyddi a thwf economaidd yng Nghymru. Maer gwaith o gyflawnir Cynllun yn cael ei adolygun gyson, gan gyfrannun rhannol at gyflawni canlyniadau 2 a 3.

Pwrpas canlyniadau blaenoriaeth 2 a 3 yw dangos gwerth a pherthnasedd yr Undeb i bobl yng Nghymru drwy gynyddu presenoldeb, amlygrwydd ac effaith Llywodraeth y DU yn y wlad; drwy adlewyrchun fwy uniongyrchol materion syn berthnasol i Gymru wrth ddatblygu a darparu polis誰au adrannau Llywodraeth y DU, a drwy gyfrannu at dwf economaidd Cymru drwy gynyddu nifer y gweision sifil, a hynny drwy adleoli a recriwtion lleol. Bydd cyflawni canlyniadau 2 a 3 yn llwyddiannus dibynnu ar y graddau y mae Cymrun cael ei hystyried yn natblygiad a darpariaeth polisi Llywodraeth y DU, a bydd yn cael ei fesur, yn y pen draw, gan lefel y gefnogaeth ir Undeb yng Nghymru.

D. Galluogwyr Strategol

1. Gweithlu, Sgiliau a Lleoliad

Mae tri amcan trawslywodraethol:

  1. Atgyfnerthur systemau ar gyfer rheoli talent a rheoli perfformiad i fynd ir afael ag anghenion datblygiad personol a phroffesiynol, a gwobrwyo perfformiad yn unol 但 blaenoriaethaur Llywodraeth a blaenoriaethau adrannol.
  2. Parhau i gael gwared ar y rhwystrau i recriwtio, datblygu a hyrwyddo gweithlu amrywiol.
  3. Sicrhau bod eich sefydliad yn adlewyrchur wlad rydym yn ei gwasanaethu drwy adleoli staff, gan gynnwys staff Uwch Arweinyddiaeth, o Lundain. (Maer trydydd amcan yn gyfyngedig o ran ei gymhwysiad ir Swyddfa o ystyried ein maint ar ffaith bod ein staff wediu lleoli, ac y byddant yn parhau i gael eu lleoli, yn Llundain a Chaerdydd)

Prif flaenoriaethaur Swyddfa o ran pobl ar gyfer 2021-22 yw:

  • Sicrhau ein bod yn denu, yn dethol, yn cynefino ac yn cadwr bobl orau ar gyfer y Swyddfa;
  • Sicrhau perfformiad da drwy helpu pobl i wneud eu gorau a gweithredu polisi cydnabyddiaeth a th但l teg;
  • Cynllunio dilyniant drwy adnabod, denu a datblygu talent a gallu;
  • Gwellar diwylliant dysgu a drwy hynny ychwanegur gwerth mwyaf posibl at sefydliad syn fwy darbodus;
  • Sefydlu diwylliant cynhwysol lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn gallu bod yn nhw eu hunain.

Er mwyn cyflawnir blaenoriaethau hyn, byddwn yn:

  • Deall pam mae staff yn penderfynu gadael y Swyddfa drwy gynnal cyfweliadau ymadael.
  • Uwchsgilio a hyfforddi rheolwyr llinell i gael sgyrsiau rheolaidd ac ystyrlon am berfformiad a thalentau gydau timau.
  • Adolygu polisi Cydnabyddiaeth a Th但l y Swyddfa i sicrhau ei fod yn gweithredun deg ac yn gyson ar draws y Swyddfa.
  • Hyrwyddo pwysigrwydd ar defnydd o ddiwrnodau Dysgu a Datblygu, a sicrhau bod y gyllideb Dysgu a Datblygu flynyddol yn cael ei defnyddio.
  • Archwilio strategaethau i gynyddu nifer y staff o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Byddwn yn mesur llwyddiant ein strategaeth pobl drwy ddefnyddior metrigau canlynol:

  • Canlyniadaur Arolwg Pobl Blynyddol cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn y sg担r ymgysylltu adrannol
  • Gweithredu ar adborth or cyfweliadau ymadael adrodd ar y cynnydd ir T樽m Arwain Strategol ddwywaith y flwyddyn
  • Nifer cyfartalog y diwrnodau gwaith a gollwyd, wedi eu meincnodi yn erbyn cyfartaledd y gwasanaeth sifil
  • Trosiant, wedii feincnodi yn erbyn cyfartaledd y gwasanaeth sifil
  • Olrhain y llwybr talent o flwyddyn i flwyddyn a sicrhau bod hyn yn trosi ir cynllun olyniaeth adrannol
  • Yn unol ag agwedd dim goddefgarwch y Swyddfa tuag at fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu, lleihau canran y staff syn dweud eu bod wedi profi neu wedi bod yn dyst i fwlio, aflonyddu neu wahaniaethu yn y Swyddfa, fel y mesurir gan ganlyniadau cynhwysiant yr Arolwg Pobl
  • Ymdrechu i gynyddu nifer y staff o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gydar targedau canlynol:
    • cynyddu nifer y staff syn ferched o 39% i 50% erbyn 2023;
    • cynyddu nifer y staff lleiafrifol ethnig o 14% i 16% erbyn 2023;
    • cynyddu nifer y staff anabl o 19% i 20% erbyn 2023;
    • cynnal cynrychiolaeth o 50% o leiaf o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ymysg y staff Uwch Arweinyddiaeth.
  • Cynnydd yn y defnydd o bolisi Cydnabyddiaeth a Th但l y Swyddfa.
  • Cynyddu canran y staff syn dweud bod y gweithgareddau Dysgu a Datblygu y maen nhw wediu cyflawni wediu gwneud yn fwy effeithiol yn eu r担l, fel y mesurir gan yr Arolwg Pobl.
  • Parhau i adolygu gofynion y gweithlu yn unol 但 blaenoriaethau a gwerthoedd adrannol. Cyfrannu at flaenoriaethau Places for Growth a Chodir Gwastad y Llywodraeth drwy ailddyrannu rolau ac adnoddau staff o Lundain i Gaerdydd, lle bo hynnyn briodol. Ar hyn o bryd, mae gan y Swyddfa 26 o staff yn Llundain a 21 o staff yng Nghaerdydd.

Sg担r ymgysylltur arolwg pobl

Blwyddyn Sg担r ymgysylltu
2020 61%
2019 62%
2018 58%

Ffynhonnell: Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil / Amserlen ryddhau: blynyddol

Cynrychiolaeth staff syn ferched, staff lleiafrifol ethnig a staff anabl

Blwyddyn Cyfanswm yr Aelodau o Staff Merched Lleiafrifol Ethnig Anabl
2020 47 60.5% * *
2019* 41 52.4% * *
2018 45 48.5% * *

*Data mis Mawrth ac eithrio data mis Rhagfyr 2019.

Ffynhonnell: Dangosfwrdd Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gwasanaeth Sifil / Amserlen ryddhau: chwarterol

2. Arloesi, Technoleg a Data

Ychydig o gyfleoedd sydd gan y Swyddfa i benderfynu sut a phryd i adnewyddu ein technoleg an systemau. Fel adran fach, mae ein gwasanaethau TG ar rhan fwyaf o wasanaethau teleffoni yn cael eu darparu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Felly, mae adnewyddu TG a diweddaru systemau TG ar gyfer y Swyddfa yn perthyn i raglenni uwchraddior Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae gan y Swyddfa nifer cyfyngedig o setiau data hefyd bron dim un yn ymwneud 但 data personol ar wah但n i ddata staff.

Felly, dim ond hyn a hyn o berthnasedd sydd gan yr amcanion trawslywodraethol ir Swyddfa:

i. Buddsoddi mewn offer, prosesau, safonau a fframweithiau angenrheidiol i sicrhau bod datan cael eu rhannun ddiogel ar draws adrannau er mwyn cefnogir broses o wneud penderfyniadau a gwella gwasanaethau.
ii. Adnewyddu systemau TG i awtomeiddio a digido prosesau llaw ailadroddus yn llawn, a diweddaru hen systemau TG sydd wedi dyddio.

O ran syniadau newydd, rydym yn canolbwyntio ar ddiwylliant sefydliadol a newid diwylliant; hybu gweithlu syn awyddus i greu syniadau a ffyrdd newydd o weithio, ac i herio normau confensiynol. Mae dylanwadu ar flaenoriaethau a darpariaeth adrannau eraill or Llywodraeth yn golygu bod syniadau newydd a herio prosesau traddodiadol yn rhan annatod o set sgiliau ein pobl.

Ein dull o fesur syniadau newydd yw drwyr Arolwg Pobl blynyddol ar draws y Gwasanaeth Sifil, yn benodol:

Arolwg Pobl 2020

Cwestiwn Sg担r Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru (%)
Rwyn credu y byddai rhywun yn fy nghefnogi pe bawn in rhoi cynnig ar syniad newydd, hyd yn oed os na fyddain gweithio 71
Maer bobl yn fy nh樽m yn gweithio gydai gilydd i wellar gwasanaeth rydym yn ei ddarparu 84
Maer bobl yn fy nh樽m yn cael eu hannog i feddwl am ffyrdd newydd a gwell o wneud pethau 71

3. Cyflawni, Gwerthuso a Chydweithio

Maer Swyddfan ymdrechun barhaus am ganlyniadau gwell wrth gyflawni ei blaenoriaethau strategol. Maen gwneud hynny mewn dwy brif ffordd:

3.1 Trefnur Swyddfan well a symleiddio ein darpariaeth

Mae maint bach ac adnoddau cyfyngedig y Swyddfan golygu bod angen inni weithion agos gydag adrannau eraill y Llywodraeth, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, i gyflawni ein blaenoriaethau. Maer gwaith hwn ar y cyd yn cynnwys:

  • Gweithio gydag adrannau a thimau cyfansoddiadol eraill yn Llywodraeth y DU fel rhan o Gr典p Llywodraethur DU i wella llais a dylanwad y Swyddfeydd Tiriogaethol mewn perthynas 但 lunio polis誰au.
  • Fel rhan o hyn, gweithio fel un Gr典p Llywodraethur DU i wella gallu a chyrhaeddiad ymchwil Llywodraeth y DU, er mwyn gwellar data sylfaen syn sail i benderfyniadau polisi. Yn benodol, mireinio ymchwil Llywodraeth y DU yng Nghymru (ar gwledydd eraill) er mwyn cyfrannun well at yr atebion polisi a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU au heffaith ar lawr gwlad.
  • Gweithio tuag at welliant ac effeithlonrwydd parhaus wrth ddarparu ein gwasanaethau, gan gynnwys drwy rannu rhagor o wasanaethau swyddfa gefn gydag adrannau eraill Llywodraeth y DU. Yn gynnar yn 2021, fe wnaethom sefydlu t樽m cyllid ar y cyd 但 Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, gan adeiladu ar y llu o wasanaethau eraill y maer Swyddfan eu rhannu ag adrannau eraill Llywodraeth y DU. Drwy gydol 2021 byddwn yn gweithio gydar Swyddfeydd Tiriogaethol eraill i ganfod sut gellir rhannu ein gwasanaethau swyddfa gefn eraill.
  • Yn y tymor canolig, byddwn yn archwilio opsiynau i symud i lwyfan TG cyffredin gydar timau cyfansoddol eraill yng Ngr典p Llywodraethur DU.

3.2 Cynnal deialog cryf, rheolaidd ac ystyrlon gydan rhanddeiliaid allweddol a llunwyr barn yng Nghymru

  • Bydd y Swyddfan parhau 但n deialog cryf a rheolaidd gyda rhanddeiliaid yng Nghymru ar lefel Gweinidogion a swyddogion. Fel wyneb Llywodraeth y DU yng Nghymru, maer Swyddfan cynnal cysylltiadau cryf 但 rhanddeiliaid ym mhob sector yng Nghymru, gan ddarparu cyfrwng uniongyrchol rhwng rhanddeiliaid a llunwyr barn yng Nghymru, a phenderfyniadau strategol Cabinet y DU.
  • Mae ein r担l fel wyneb llywodraeth y DU yng Nghymru yn darparu porth i adrannau eraill ddatblygu cysylltiadau cryfach 但 rhanddeiliaid yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o bwysig, er enghraifft, gan ein bod yn gweithio gydar Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i feithrin perthynas waith effeithiol gydag awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn cyflawni Cronfa Codir Gwastad y DU a Chronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.

3.3 Mae tri amcan ar gyfer y Llywodraeth gyfan y maer Swyddfan eu defnyddio i fesur canlyniadau gwell yn eu herbyn

i. Cryfhau arbenigedd a darpariaeth swyddogaethol, gan sicrhau cydymffurfedd 但 safonau swyddogaethol a monitro perfformiad yn effeithiol

Rydyn nin gwneud hyn drwyr ffyrdd canlynol:

  • Adolygu cynnydd cyflawnin rheolaidd yn erbyn cynllun busnes adrannol a chynllun busnes is-adrannol, a diweddaru Cofrestr Risg Strategol y Swyddfa ar cofrestrau risg is-adrannol.
  • Adolygu perfformiad a chynlluniaur Swyddfa yn rheolaidd yn erbyn adborth gan randdeiliaid a llunwyr barn yng Nghymru.
  • Sicrhau bod ein staff cymwys yn parhau 但u hyfforddiant au hachrediad sydd eu hangen i gynnal neu uwchraddio eu cymwysterau (ee ein Prif Gyfrifydd an Prif Economegwyr ac Economegwyr Cynorthwyol).
  • Parhau i gynllunio ar gyfer rhannu rhagor o wasanaethau cefn swyddfa gydag adrannau eraill y Llywodraeth, er mwyn gwella cadernid y Swyddfa a gwella ein harbenigedd. Mae hyn yn adeiladu ar rannu gwasanaethau TG, cyflogres, adnoddau dynol strategol a chyfleusterau gydar Weinyddiaeth Gyfiawnder; t樽m Seneddol gydar Swyddfeydd Tiriogaethol eraill; t樽m Rhyddid Gwybodaeth gyda Swyddfa Gogledd Iwerddon ac, yn fwyaf diweddar, swyddogaeth gyllid y Swyddfa gyda Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol yr Alban.

ii. Rheolir cylch cynllunio mewn ffordd syn cynnwys yr holl staff wrth gyflawni blaenoriaethau a hynny drwy broses glir, effeithlon a thryloyw

Rydyn nin gwneud hyn drwyr ffyrdd canlynol:

  • Adran fach ywr Swyddfa. Maer holl staff yn cael eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu a chyflawni ein blaenoriaethau, ein cynlluniau busnes an hasesiadau risg, gan gynnwys drwy gyfarfodydd wythnosol rhwng yr holl staff ar adran.
  • Mae staff yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y gwaith cynllunio busnes ac adrodd ar gyflawni, a hynny mewn diwylliant agored a pharchus. Mae hyn yn cynnwys awgrymu sut byddai modd gwneud pethaun well.

iii. Darparu atebolrwydd tryloyw drwy adroddiadau rheolaidd yn yr adran, ir ganolfan, i Senedd y DU, ac ir cyhoedd

Rydyn nin gwneud hyn drwyr ffyrdd canlynol:

  • Parhau i adrodd yn fewnol yn rheolaidd ac yn gadarn ar ddangosyddion allweddol o berfformiad y Swyddfa, gan gynnwys cyllideb a gwariant, pobl / adnoddau dynol, a chyflawnir cynllun busnes. Mae hyn yn cynnwys adrodd yn rheolaidd ir Bwrdd Adrannol ar Uwch D樽m Arwain.
  • Gwella proses adrodd y Swyddfa ir Ganolfan, gan gynnwys drwyr gofynion adrodd o dan y Cynllun Cyflawni Canlyniadau hwn.
  • Parhau 但 threfniadau adrodd ac atebolrwydd y Swyddfa i Senedd y DU, gan gynnwys drwy gyflwyno ei Hadroddiad Blynyddol ai Chyfrifon ir Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig a sesiynau craffu rheolaidd y Pwyllgor gyda th樽m Gweinidogol y Swyddfa.
  • Cyrraedd y targedau a mesur y dangosyddion a restrir yn y tabl dros y ddalen.

3.4 Dangosyddion Swyddfa Cymru ar gyfer Canlyniadau Gwell

  • Gohebiaeth Weinidogol (% a atebwyd o fewn 15 diwrnod gwaith).
  • Gohebiaeth Weinidogol (% o ohebiaeth ddilynol ar yr un pwnc o fewn 30 diwrnod).
  • Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (% a atebwyd o fewn 20 diwrnod gwaith).
  • Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (% y ceisiadau yr apeliwyd yn eu cylch a % y ceisiadau a gyfeiriwyd at y Comisiynydd Gwybodaeth).
  • % taliadau a wnaed i gyflenwyr allanol o fewn 30 diwrnod.
  • % taliadau a wnaed i fusnesau bach a chanolig o fewn 5 diwrnod.
  • Cyhoeddir Adroddiad ar Cyfrifon Blynyddol mewn pryd (% amlder dros y deng mlynedd diwethaf).
  • Ymgysylltu Gweinidogol 但 rhanddeiliaid allweddol a llunwyr barn yng Nghymru (% o 50 prif rhanddeiliad yr adran yr ymgysylltwyd 但 nhw bob chwarter).
  • Deiliaid cyllideb sydd 但r lefel ofynnol o wybodaeth a dealltwriaeth ar gyfer y r担l (% o ddeiliaid cyllideb wediu hyfforddi).
  • % o swyddogaethau cefn swyddfa a rennir ag adrannau eraill y Llywodraeth.
  • % y staff syn cyflawnir holl hyfforddiant gorfodol bob blwyddyn.

4. Cynaliadwyedd

Mae galluogwyr cynaliadwyedd y Swyddfa yn perthyn i ddau gategori.

Yn gyntaf, cynaliadwyedd wrth gyflawni polis誰au, rhaglenni a chynlluniau Llywodraeth y DU yng Nghymru. Mae llawer or cynlluniau hyn yn cefnogi nodau cynaliadwyedd strategol y Llywodraeth, gan gynnwys sero net erbyn 2050 er enghraifft, uchelgeisiaur Llywodraeth o ran ynni adnewyddadwy yng Nghymru, fel y dangosir gan y 贈4.8 miliwn a ddarparwyd yng Nghyllideb 2021 ar gyfer Canolfan Hydrogen Caergybi.

Nid oes gan y Swyddfa unrhyw gyfrifoldeb uniongyrchol dros bolisi na chyflwyno Nodau Datblygu Cynaliadwy penodol. Mae cyfraniad tri chanlyniad blaenoriaeth y Swyddfa at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy yn unol 但r hyn a nodir yng Nghynlluniau Cyflawni Amlinellol yr adrannau arweiniol a/neu maen nhwn destun prosesau gwerthuso prosiectau o dan raglenni twf rhanbarthol a lleol. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn Rhan C or Cynllun hwn.

Yn ail, mae cynaliadwyedd yn rhan annatod o weithgareddaur Swyddfa. Maer Swyddfan ymdrechu i fodelur ymddygiadau ar gwerthoedd syn sail ir Nodau Datblygu Cynaliadwy wrth fynd ati i gyflawni ei busnes. Maer Swyddfan cyfrannu at ddau amcan ar gyfer y Llywodraeth gyfan:

i. Sicrhau ein bod yn gallu cyflawni ein hymrwymiadau gwyrdd a pharhau i fonitro ac olrhain eu cyflawniad
ii. Parhau i sicrhau bod ein hystad, ein gweithgareddau an polis誰aun gynaliadwy ac yn cefnogir gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo

Mae ymrwymiadau gwyrdd y Llywodraeth yn mynnu bod adrannaun gweithredu i leihaur effaith ar yr amgylchedd yn sylweddol. Darllen mwy am yr ymrwymiadau hyn.

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder syn rheoli ymrwymiad lleihau carbon y Swyddfa. Maer Swyddfa wedi ymrwymo i leihau ei heffaith ar yr amgylchedd drwy:

a. cynyddur amrywiaeth o eitemau y gellir eu casglu iw hailgylchu yn ein dau adeilad
b. newid peiriannau argraffu am fodelau syn defnyddio ynnin fwy effeithlon
c. lle bon bosibl, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na cheir pan fon rhaid teithio i gyfarfodydd

Lle maer Swyddfan defnyddio gwasanaethau a gyflenwir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder neu dan gontract iddi, mae ein cyfraniad i ymrwymiadaur Llywodraeth ar effaith ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn cael ei fodloni o fewn y fframweithiau ehangach hynny.

Mae symud ein swyddfa yng Nghaerdydd i Ganolfan newydd Llywodraeth y DU, gydai chyfleusterau diweddaraf, yn darparu ystad syn llawer mwy gwyrdd ir Swyddfa. Byddem yn disgwyl i fesurau cynaliadwyedd yn y dyfodol ar gyfer ein Swyddfa yng Nghaerdydd fod yn drawsadrannol, gan gynnwys yr holl adrannau sydd wediu lleoli yn y Ganolfan newydd.

Cymerodd Asiantaeth Eiddor Llywodraeth gyfrifoldeb dros ein Swyddfa yn Llundain (T天 Gwydyr) ym mis Ebrill. Er bod y cyfle i addasur adeilad iw wneud yn fwy cynaliadwy wedii gyfyngu gan ei statws rhestredig Gradd II, Asiantaeth Eiddor Llywodraeth syn gyfrifol am unrhyw addasiadau syn digwydd.

4.1 Allyriadau nwyon t天 gwydr

Blwyddyn Cyfanswm allyriadau CO2 (tunnell)
2019-20 88.06
2018-19 93.21
2017-18 103.87

Ffynhonnell: Adroddiadau blynyddol Ymrwymiadaur Llywodraeth Werdd / Amserlen ryddhau: blynyddol

E. Ein Hamcanion Cydraddoldeb

Rydym wedi gosod amcanion in helpu i hyrwyddo cydraddoldeb. Sef:

  1. Cefnogi uchelgais y Llywodraeth gyfan, sef erbyn 2022 bod 50% or holl benodiadau cyhoeddus yn ferched a bod 14% or penodiadau cyhoeddus a wneir yn dod o leiafrifoedd ethnig.
  2. Cyfrannu at gyflawni targed Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, o ran r担l y Swyddfa fel adran arweiniol ar gyfer y Gymraeg yn Llywodraeth y DU a chyflawni rhywfaint o waith y Swyddfan ddwyieithog. Ar hyn o bryd mae 15% o staff y Swyddfa yn siarad Cymraeg.
  1. Mae Gr典p Llywodraethur DU yn cynnwys y Gr典p Cyfansoddiad a Chyfarwyddiaeth yr Undeb yn Swyddfar Cabinet; Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol yr Alban (Swyddfar Alban); Swyddfar Adfocad Cyffredinol (OAG); a Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru (Swyddfa Cymru).油

  2. Nid yw Swyddfa Cymru yn gyflogwr ynddoi hun. Cyflogir y rhan fwyaf o staff Swyddfa Cymru gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.油

  3. Mae Cynghorwyr Cyfreithiol Swyddfa Cymru yn rhoi cyngor a chymorth cyfreithiol ir adran, ond maen nhwn rhan o Adran Gyfreithiol y Llywodraeth.油