Canllawiau

Fframwaith y Bwrdd Parôl ar gyfer Gwneud Penderfyniadau

Dyma ganllaw i'r cyhoedd i ddangos y Fframwaith ar gyfer Gwneud Penderfyniadau a ddefnyddir gan aelodau'r Bwrdd Parôl

Dogfennau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch info@paroleboard.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Trosolwg

Mae’r Fframwaith ar gyfer Gwneud Penderfyniadau’n ymagwedd strwythuredig a ddefnyddir gan aelodau’r Bwrdd Parôl wrth wneud penderfyniadau ynghylch parôl. Fe’i cyflwynwyd ym mis Ebrill 2019.

Mae’r Fframwaith yn fynegiad cyson, a rennir o’r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau a ddefnyddir gan aelodau. Wrth ddefnyddio’r Fframwaith, mae aelodau’n ymarfer barn broffesiynol annibynnol.

Nid yw’r Fframwaith yn cyfyngu ar y dystiolaeth na’r materion a ystyrir gan aelodau, nac yn eu hatal mewn unrhyw ffordd rhag ymarfer eu disgresiwn wrth wneud penderfyniad. Nid yw’r themâu a gyflwynir yn y Fframwaith yn gynhwysfawr a gall aelodau roi sylw i unrhyw elfen berthnasol arall. Mae’r Fframwaith yn perthyn i’r broses yn hytrach na sylwedd y penderfyniad.

Mae’r Fframwaith ar gyfer Gwneud Penderfyniadau’n gymwys ar y camau Asesiad Achos Aelod (MCA) a’r Gwrandawiad Llafar, yn ogystal ag unrhyw gam arall lle mae penderfyniadau ynghylch rhyddhau a/neu symud ymlaen i amodau agored yn cael eu gwneud. Mae’r Fframwaith ar gyfer Gwneud Penderfyniadau’n broses ddilyniannol, y mae aelodau’n gweithio trwyddi’n unigol neu fel panel.

Sut y’i gwnaed

Mae’r Fframwaith hwn wedi’i ddatblygu gan RADAR, sef grŵp strategol a arweinir gan aelodau sy’n gyfrifol am adolygu ymagwedd y Bwrdd tuag at wneud penderfyniadau ynghylch risg.

Hoffai RADAR ddweud diolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â datblygu’r Fframwaith ar gyfer Gwneud Penderfyniadau a’r canllawiau hyn.

Dylid anfon adborth ar y fframwaith at: info@paroleboard.gov.uk

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Rhagfyr 2022 show all updates
  1. The latest edition is an updated version of the decision making framework.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon