Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 9: atwrneiaethau a thir cofrestredig

Diweddarwyd 25 Tachwedd 2024

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelun bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 但 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

I weld hanes diweddariadaur cyfarwyddyd ymarfer hwn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 9: hanes diweddariadau.

1. Cyflwyniad

Pan fyddwn yn cofrestru dogfen wedi ei harwyddo gan atwrnai, rhaid i ni fod yn siwr fod y ddogfen yn rhwymor unigolyn neur cwmni y cafodd ei harwyddo ar ei ran. Gwneir hyn trwy sicrhaur canlynol am yr atwrneiaeth:

  • y cafodd ei chyflawnin ddilys fel gweithred
  • yr oedd mewn grym o hyd ar ddyddiad y ddogfen
  • ei bod yn awdurdodir atwrnai i gymryd y camau o dan sylw
  • lle bo angen, iddi gael ei gwneud o dan y ddarpariaeth statudol gywir

Ceir achosion lle, er nad ywr atwrneiaeth yn cwrdd 但r gofynion hyn, y gall yr unigolyn oedd yn dibynnu ar y ddogfen gymryd ir atwrneiaeth gael ei gwneud yn gywir neu ei bod mewn grym o hyd ar yr adeg y cafodd ei defnyddio. Bryd hynny, maen bosibl y bydd angen tystiolaeth gadarnhaol gan yr unigolyn hwnnw.

Pa fo unigolyn yn cyflawni gweithred, rhaid iddo fod yn glir yr arwyddir y ddogfen fel gweithred a rhaid arwyddo ym mhresenoldeb tyst syn ardystior llofnod. Mae cyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd yn ymdrin yn fanwl 但 chyflawni gweithredoedd gan wahanol bersonau cyfreithiol.

Er bod yn rhaid i enwr atwrnai ymddangos yn y cymal gweithredu, nid oes angen iw enw ymddangos yn y panel perthnasol fel trosglwyddwr/prydleswr/morgeisiwr (neu fel trosglwyddai neu brydlesai lle maer rhoddwr yn caffael yr eiddo ac felly ef ywr person sydd 但 hawl i gael ei gofrestru). Felly, er enghraifft, rhaid i enwr rhoddwr ymddangos fel y trosglwyddwr ym mhanel 4 ffurflen TR1.

Bydd tystiolaeth hunaniaeth yr atwrnai yn ofynnol ar gyfer llawer o geisiadau lle defnyddir atwrneiaeth. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth am ragor o wybodaeth.

Nid ywr cyfarwyddyd hwn yn ymdrin 但r materion cysylltiedig cymhlethach pan fo atwrneiaeth yn cael ei rhoi o dan gyfraith awdurdodaeth arall. Mewn achos or fath, maen bosibl y byddwn am gael barn am y materion a nodir uchod gan gyfreithiwr gyda chymwysterau yn yr awdurdodaeth honno. Mae adran 4 o gyfarwyddyd ymarfer 78: cwmn誰au tramor a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig yn cynnwys manylion pellach am y gofynion pan for endid syn rhoir atwrneiaeth yn gwmni tramor. Mae cyflawni o dan atwrneiaeth dramor yn cynnwys manylion y gofynion pan fo unigolyn yn rhoi atwrneiaeth o dan gyfreithiau awdurdodaeth heblaw Cymru a Lloegr.

2. Mathau o atwrneiaethau

2.1 Atwrneiaethau cyffredinol o dan adran 10 o Ddeddf Atwrneiaeth 1971

Mae Deddf Atwrneiaeth 1971 yn darparu ffurf fer o atwrneiaeth gyffredinol y gellir ei defnyddio gan unig berchennog llesiannol tir. Maen gweithredu i roi awdurdod ir atwrnai wneud unrhyw beth y gall y rhoddwr ei wneud yn gyfreithiol trwy atwrnai. Fodd bynnag, nid yw atwrneiaethau yn y ffurf honno wedi eu dyddio cyn 1 Mawrth 2000 fyth yn addas ar gyfer delio 但 thir y maer rhoddwr yn gydberchennog arno. Gellir defnyddior rhai sydd wedi eu dyddio ar 担l 29 Chwefror 2000 gan gydberchennog dim ond os oes gan y rhoddwr fudd llesiannol yn y tir. Bydd marwolaeth, methdaliad neu anallu meddyliol y rhoddwr yn diddymur atwrneiaeth ar unwaith. Gall y rhoddwr ei ddiddymu ar unrhyw adeg hefyd.

2.2 Atwrneiaethau cyffredinol a phenodol eraill

Nid oes yn rhaid i berson sydd am benodi atwrnai ddilyn y ffurf a osodir o dan Ddeddf Atwrneiaeth 1971. Yr unig ofyniad caeth yw bod yn rhaid ir rhoddwr gyflawnir atwrneiaeth fel gweithred. Gall y rhoddwr ddefnyddio unrhyw ffurf ar eiriad, gan roi atwrneiaeth gyffredinol neu atwrneiaethau cyfyngedig ir atwrnai weithredu, er enghraifft mewn cysylltiad 但 thrafodiad arbennig neu ddeliadau ag eiddo penodol. Gellir defnyddio atwrneiaeth nad ywn dilyn unrhyw ffurf statudol ar ran rhoddwr syn gydberchennog o dan yr amodau canlynol yn unig:

  • os yw wedi ei dyddio ar 担l 29 Chwefror 2000
  • os oes gan y rhoddwr fudd llesiannol yn y tir, ac
  • os nad oes awgrym yn yr atwrneiaeth nad oedd y rhoddwr yn bwriadu ir atwrnai weithredu swyddogaethau ymddiriedolwr

Oni bai ei bod yn atwrneiaeth arwystl, gall y rhoddwr ddiddymu atwrneiaeth or fath a bydd marwolaeth, methdaliad neu anallu meddyliol y rhoddwr yn ei diddymu ar unwaith.

2.3 Atwrneiaethau arwystl

Atwrneiaeth a fynegir na ellir ei diddymu yw atwrneiaeth arwystl. Fei rhoddir i arwystlo:

  • budd perchnogol yr atwrnai
  • cyflawni rhwymedigaeth syn ddyledus ir atwrnai

Tra bo gan y rhoddwr y budd, neu hyd nes y rhyddheir y rhwymedigaeth, gall y rhoddwr ddiddymur atwrneiaeth gyda chaniat但d yr atwrnai yn unig, ac nid yw marwolaeth, methdaliad neu anallu meddyliol y rhoddwr yn ei diddymu.

2.4 Atwrneiaethau parhaus

Atwrneiaeth barhaus yw un a wneir gan berson o dan Ddeddf Atwrneiaeth 1985. Diddymwyd (adran 66(1)(b) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005) y Ddeddf hon ac maer darpariaethau syn berthnasol i atwrneiaethau parhaus nawr wediu cynnwys yn Atodlen 4 i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Nid oes modd creu atwrneiaethau parhaus newydd ar 担l 30 Medi 2007 er y bydd y rhai a gr谷wyd cyn 1 Hydref 2007 yn parhau mewn grym (adran 66(3) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005). Maen rhaid i atwrneiaeth barhaus fod ar y ffurflen a bennir gan Reoliadau Atwrneiaethau Parhaus (Ffurflenni Penodedig) 1986, 1987, 1990 neu 2005 neur Rheoliadau Atwrneiaethau Parhaus (Ffurflen Benodedig Gymraeg) 2000 fel y bon briodol, yn 担l pryd cyflawnwyd yr atwrneiaeth ac ym mha iaith. Rhaid ir rhoddwr ar atwrnai gyflawnir atwrneiaeth yn y dull penodedig ac maen rhaid iddo gynnwys ar adeg ei chyflawni y wybodaeth eglurhaol benodedig. Ni all atwrneiaeth syn rhoi ir atwrnai hawl i benodi dirprwy neu olynydd fod yn atwrneiaeth barhaus (Atodlen 4, paragraff 2(6) i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005).

Nid yw anallu meddyliol y rhoddwr yn diddymu atwrneiaeth barhaus. Os oes gan yr atwrnai reswm dros gredu bod y rhoddwr yn analluog neun dechrau mynd yn analluog, maen rhaid iddo wneud cais i gofrestrur atwrneiaeth gydar Gwarcheidwad Cyhoeddus; gall hwnnw gofrestrur atwrneiaeth ond, o dan rai amgylchiadau, dim ond trwy gyfarwyddyd y Llys Gwarchod. Ar 担l ir atwrneiaeth gael ei chofrestru ni ellir ei diddymu ond gan y rhoddwr gyda chadarnhad y Llys Gwarchod, neu ar farwolaeth y rhoddwr, methdaliad y rhoddwr neur rhoddai neu gan y Llys Gwarchod. Gellir defnyddio atwrneiaethau parhaus wedi eu dyddio ar 担l 29 Chwefror 2000 ac atwrneiaethau blaenorol a ddefnyddiwyd mewn trafodion dyddiedig ar 担l 28 Chwefror 2000 a wnaed gan un o gydberchnogion dim ond yn yr achosion canlynol:

Neu o ran atwrneiaethau parhaus dyddiedig cyn 1 Mawrth 2000 os ywr atwrneiaeth wedi ei chofrestru gydar Llys Gwarchod yn dilyn cais a wnaed ir llys cyn 1 Mawrth 2001.

Neu, os yw cais a wnaed ir llys ar gyfer cofrestrur atwrneiaeth cyn 1 Mawrth 2001 heb ei wrthod yn derfynol.

Gall atwrnai o dan atwrneiaeth barhaus wneud rhoddion a chyflwyno buddion ar ran y rhoddwr mewn amgylchiadau cyfyngedig yn unig gweler Atodlen 4, paragraffau 3(2) a 3(3) i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Bydd Cofrestrfa Tir EF fel rheol yn gwrthod cofrestru gwarediad yn ymwneud ag elfen o rodd neu fudd (gan gynnwys trafodiad ar werth ymddangosiadol is, neu fenthyciad) syn cael ei gyflawni gan atwrneiaeth barhaus oni bai fod y llys wedi awdurdodir gwarediad o dan Atodlen 4, paragraff 16(2)(e) i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

2.5 Atwrneiaethau Deddf Ymddiriedolwyr

Mae adran 25 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925 yn caniat叩u i ymddiriedolwr roi atwrneiaeth syn dirprwyo ei swyddogaethau fel ymddiriedolwr ir atwrnai.

Mae adran 25 yn rhoi ffurf fer ar atwrneiaeth syn fodd i roddwr unigol ddirprwyo swyddogaethau ymddiriedolwr o dan ymddiried unigol i roddwr unigol. Gall ymddiriedolwyr ddefnyddio ffurfiau eraill. Ni fyddair ffurf fer yn briodol er enghraifft lle byddair rhoddwr yn dymuno dirprwyo swyddogaethau o dan sawl ymddiried i un atwrnai neu pan fon dymuno cyfyngu ystod y swyddogaethau sydd iw dirprwyo.

Gellir rhoi atwrneiaeth Deddf Ymddiriedolwyr 1925 am gyfnod hyd at 12 mis yn unig. Maer cyfnod yn dechrau ar ddyddiad yr atwrneiaeth oni bai ei fod yn nodi dyddiad gwahanol.

Barn Cofrestrfa Tir EF yw y dylid dehongli dyddiad gwahanol fel ar neu ar 担l dyddiad gweithredur atwrneiaeth.

Gellir defnyddio atwrneiaeth Deddf Ymddiriedolwyr 1925, tra bo mewn grym, i gyflawni gwarediadau o dir ar ran rhoddwr syn gydberchennog, os oes gan y rhoddwr fudd llesiannol yn y tir neu beidio. Mae modd rhoi atwrneiaeth or fath i atwrnai sydd hefyd yr unig ymddiriedolwr arall o dan yr ymddiried. Serch hynny, lle nad oes dim ond 2 ymddiriedolwr, byddain ddoeth penodi trydydd parti oherwydd, fel yr eglurir yn Cydberchnogion: derbynebau am arian cyfalaf, ni fydd modd i ymddiriedolwr syn gweithredu fel atwrnai ar ran yr unig gyd-ymddiriedolwr arall roi derbynebau dilys am arian cyfalaf.

2.6 Atwrneiaeth a roddwyd gan yr holl ymddiriedolwyr i fuddiolwr o dan adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996

Gall holl ymddiriedolwyr ymddiried tir gydai gilydd benodi buddiolwr neur buddiolwyr i weithredu eu swyddogaethau yngl天n 但r tir. Ond ni all yr atwrnai roi derbynneb am yr arian cyfalaf, felly byddain rhaid ir ymddiriedolwyr ymuno ag unrhyw warediad or tir pan fyddai angen derbynneb or fath. Maen annhebygol felly cael y math hwn o atwrneiaeth yng nghyd-destun gwarediadau o dir cofrestredig. Gellir ei defnyddion effeithiol dim ond pan nad oes arian cyfalaf yn codi, er enghraifft wrth roi prydles am grogrent. Lle defnyddir y math hwn o atwrneiaeth ar gyfer gwarediad cofrestredig, gall y cofrestrydd fynnu tystiolaeth o dan reol 63 o Reolau Cofrestru Tir 2003 bod y person(au) yn delio 但r atwrnai:

  • wedi gweithredun ddidwyll
  • heb wybod ar adeg cwblhaur trafodiad nad oedd yr atwrnai yn berson y gellid dirprwyo iddo swyddogaethaur ymddiriedolwyr yngl天n 但r tir y maer cais yn cyfeirio ato o dan adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996

Ar yr achlysuron prin pan for cofrestrydd yn mynnur dystiolaeth hon, rhaid ei darparu ar ffurflen 3 (gweler Atodiad C) gan fod naill ain ddatganiad statudol neun ddatganiad o wirionedd gan y person syn delio 但r atwrnai neu yn dystysgrif a roddwyd gan drawsgludwr y person. Os ywr cofrestrydd hefyd yn mynnu tystiolaeth nad yw wedi ei diddymu (gweler Atwrneiaethau syn h天n na 12 mis oed: tystiolaeth nad ywr atwrneiaeth wedi ei diddymu) rhaid defnyddio ffurflen 2.

2.7 Atwrneiaethau arhosol

Mae atwrneiaethau arhosol wedi disodli atwrneiaethau parhaus fel y prif ddull o ddewis rhywun i wneud penderfyniadau os yw unigolyn yn mynd yn analluog. Gall rhoddwr benodi atwrnai i wneud penderfyniadau ynghylch ei les bersonol, yn ogystal 但i eiddo a materion ariannol, ar gyfer amser pan na fydd yn gallu gwneud y fath benderfyniadau ei hun.

Gellir defnyddio atwrneiaethau arhosol mewn perthynas ag eiddo a materion ariannol cyn ac ar 担l ir rhoddwr fynd yn analluog, yn dibynnu ar eu dymuniadau. Os ywr rhoddwr wedi nodi yn yr atwrneiaeth arhosol mai dim ond ar 担l iddo golli galluedd y gall yr atwrnai weithredu, ar gyfer unrhyw warediad gan yr atwrnai, mae angen cadarnhad ysgrifenedig arnom gan feddyg neu ymarferydd arbenigol iechyd meddwl bod y rhoddwr wedi colli ei alluedd. Ymhob achos, maen rhaid cofrestru atwrneiaeth arhosol gyda Swyddfar Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn y gellir ei defnyddio. Rhaid ir sawl syn gwneud cais i gofrestrur atwrneiaeth gyflwyno rhybudd yn gyntaf. Wrth weithredu o dan atwrneiaeth arhosol, rhaid i atwrneiod gymhwysor egwyddorion o dan God Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a, lle bon briodol, rhaid iddynt weithredu er lles goraur unigolyn syn analluog wrth wneud penderfyniad penodol.

Maen rhaid i roddwr atwrneiaeth arhosol yn berthnasol i eiddo a materion ariannol fod dros 18 oed a rhaid ei fod yn gallu cyflawni atwrneiaeth arhosol. Rhaid ir rhoddai fod dros 18 oed a heb fod yn fethdalwr neun gorfforaeth ymddiried. Mae modd penodi atwrneiod ar y cyd i weithredu ar y cyd, ar y cyd ac unigol, neu ar y cyd o ran materion penodol ac ar y cyd ac yn unigol o ran materion eraill. Gall atwrneiaeth arhosol enwebu dirprwy roddai i weithredu o dan amgylchiadau penodol syn terfynu penodiad y rhoddai gwreiddiol, (adran 10(8) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005), ond ni all rhoddai benodi dirprwy roddai (adran 10(8)(a)).

Os cofrestrwyd atwrneiaeth arhosol ond na chr谷wyd atwrneiaeth arhosol mewn gwirionedd, bydd trafodiad rhwng y rhoddai a rhywun arall yr un mor ddilys o blaid y person hwnnw 但 phe byddair atwrneiaeth wedi bodoli, oni bai ir person hwnnw wybod ar adeg y trafodiad bod atwrneiaeth arhosol heb ei chreu, neu ei fod yn ymwybodol o amgylchiadau a fyddai wedi terfynu awdurdod y rhoddai i weithredu pe byddai atwrneiaeth arhosol wedi ei chreu (adran 14(3) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005).

Mae rhagdybiaeth derfynol o blaid prynwr, y mae ei fudd yn dibynnu ar ddilysrwydd y trafodiad hwnnw yn rhinwedd yr adran honno, bod y trafodiad yn ddilys naill ai os cwblhawyd y trafodiad o fewn 12 mis o gofrestrur atwrneiaeth, neu os ywr prynwr yn gwneud datganiad statudol, cyn neu o fewn tri mis ar 担l cwblhaur pryniant, nad oedd ganddo/ganddi unrhyw reswm ar adeg y trafodiad dros amau nad oedd gan y rhoddair awdurdod i waredur eiddo a oedd yn destun y trafodiad (adran 14(4) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005). At ddibenion cofrestru tir o dan reol 62 o Reolau Cofrestru Tir 2003, gall y datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd fod ar ffurflen 2 Atodlen 3 i Reolau Cofrestru Tir 2003 (gweler Atodiad B).

Mae manylion llawn y gofynion mewn perthynas 但 pharatoi a chofrestru atwrneiaethau arhosol iw gweld yn Rheoliadau Atwrneiaethau Arhosol, Atwrneiaethau Parhaus ar Gwarcheidwad Cyhoeddus 2007 fel yu newidiwyd gan Reoliadau Atwrneiaethau Arhosol, Atwrneiaethau Parhaus ar Gwarcheidwad Cyhoeddus 2007 (Newidiad) 2009 a Rheoliadau Atwrneiaethau Arhosol, Atwrneiaethau Parhaus ar Gwarcheidwad Cyhoeddus 2015.

Nid yw atwrneiaeth arhosol syn ymwneud ag eiddo a materion ariannol yn awdurdodir atwrnai i wneud rhoddion o eiddor rhoddwr ac eithrio ir graddau y cyfeirir at y mater yn adran 12(2) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu a awdurdodwyd gan y Llys Gwarchod o dan adran 23(4) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Mae hyn yn caniat叩u ir atwrnai wneud rhoddion o dan yr un amgylchiadau 但r rhai a amlinellwyd yn Atwrneiaethau parhaus. Fodd bynnag, bydd rhodd o eiddor rhoddwr y tu allan i gwmpas adran 12(2) a heb sancsiwn y Llys Gwarchod yn ddi-rym (gweler Chandler v Lombardi [2022] EWHC 22 (Ch.)).

3. Atwrneiod ar y cyd ar gyfer unig berchennog (sydd wedi goroesi) lle ceir cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr

Lle ceir unig berchennog cofrestredig neu unig berchennog cofrestredig sydd wedi goroesi a cheir cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr a chaiff trosglwyddiad ei gyflawni gan ei atwrneiod ar y cyd, er bod 2 (neu ragor) o atwrneiod wedi cyflawnir trosglwyddiad, maent yn atwrneiod ar gyfer un perchennog ac nid ydynt yn ymddiriedolwyr yr ystad gyfreithiol neu 但 hawl i gael eu cofrestru fel perchnogion. O ganlyniad, maer trosglwyddiad i bob pwrpas gan unig berchennog a chaiff ei ddal gan gyfyngiad Ffurf A, ac nid yw darpariaethau gorgyrhaeddol Deddf Cyfraith Eiddo 1925 yn cael eu bodloni.

Maen bosibl penodi ymddiriedolwr newydd i weithredu gydar atwrneiod er mwyn gorgyrraedd y buddion llesiannol a chaniat叩u ir cyfyngiad gael ei ddileu yn awtomatig. Fel arall, efallai y bydd modd gwneud cais i ddileur cyfyngiad, er enghraifft os ywr perchennog unigol (sydd wedi goroesi) wedi meddu ar yr eiddon gyfreithiol a llesiannol ac unigol. Gweler adran 6.2 o gyfarwyddyd ymarfer 24 am ragor o wybodaeth am y dystiolaeth syn ofynnol i gael gwared ar gyfyngiad Ffurf A.

Gan ei bod yn ymddangos bod yr unig berchennog cofrestredig neur unig berchennog cofrestredig syn goroesi yn ymddiriedolwr (oherwydd ceir cyfyngiad Ffurf A) mae adran 1(1) o Ddeddf Dirprwyo Ymddiriedolwyr 1999 yn gymwys gweler Cydberchnogion: tystiolaeth y bu gan roddwr atwrneiaeth fudd llesiannol.

4. Cydberchnogion: derbynebau am arian cyfalaf

Ar gyfer gwarediadau wedi eu dyddio ar 担l 29 Chwefror 2000, mae adran 7 o Ddeddf Dirprwyo Ymddiriedolwyr 1999 yn darparu y bydd y dderbynneb am arian cyfalaf yn gorgyrraedd buddion llesiannol dim ond os yw atwrnai yn gweithredu gydag o leiaf un person arall. Mae hyn yn golygu nad yw cymal derbynneb mewn gwarediad gan gydberchnogion yn dderbyniol os ywr gwarediad yn cael ei gyflwyno gan un person yn unig fel perchennog ac atwrnai ar gyfer y perchennog/perchnogion eraill, neu gan un person fel atwrnai ar gyfer yr holl berchnogion.

Gall dirprwyo gan 2 neu ragor o ymddiriedolwyr (gan weithredu ar y cyd trwy gyflawnir un offeryn) i asiant unigol fel atwrnai (dirprwyo cyfunol o dan adran 11 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000) fod yn effeithiol at ddibenion cofrestru, er mwyn i warediad a gyflawnwyd gan atwrnai unigol ar ran y cydberchnogion gael ei gofrestru. Ni all atwrneiaeth at y diben fod yn atwrneiaeth barhaus neu arhosol (adran 9(6) o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996, a ddiwygiwyd gan adran 67(1) ac Atodlen 6 paragraff 42(1), (2) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005). Fodd bynnag, os oes cyfyngiad Ffurf A, B, J, K, II neu JJ yn y gofrestr, bydd yn rhaid ystyried gorgyrraedd er mwyn penderfynu a oes unrhyw fuddion llesiannol wedi gorgyrraedd ai peidio a bod modd tynnur cyfyngiad ymaith ar gofrestriad y gwarediad.

Lle ceir 2 neu ragor o berchnogion a chyfyngiad yn y gofrestr perchnogaeth syn awgrymu bodolaeth posibl budd llesiannol er enghraifft, ar ffurf safonol Ffurf A, B, J, K, II neu JJ a gwarediad lle y mae arian cyfalaf yn codi yn cael ei gyflawni gan un person, naill ai (i) fel atwrnai ar gyfer yr holl berchnogion neu (ii) fel un or perchnogion ac fel atwrnai ar gyfer y perchennog (perchnogion) syn weddill, byddwn yn dychwelyd y ddogfen iw chyflawni gan roddwr yr atwrneiaeth. Fodd bynnag, ni fydd rhoddwr atwrneiaeth arhosol neu barhaus yn gallu cyflawni dogfen os ydynt yn analluog. (O dan yr amgylchiadau hyn gall atwrnai arall gyflawnir ddogfen ar ran y rhoddwr, wrth gwrs, os penodwyd un ar y cyd ac yn unigol neu, lle y cofrestrwyd atwrneiaeth, gan ymddiriedolwr ychwanegol a benodwyd naill ai gan y cydberchennog arall neu gan yr atwrnai o dan adran 8 o Ddeddf Dirprwyo Ymddiriedolwyr 1999.)

Os yw ceisydd yn dymuno bwrw ymlaen 但i gais heb ailgyflawni, byddwn yn cwblhau cofrestriad y trosglwyddiad ac yn gadael unrhyw gyfyngiadau perthnasol syn bodoli yn ymwneud 但 buddion llesiannol yn y gofrestr.

5. Cydberchnogion: tystiolaeth y bu gan roddwr atwrneiaeth fudd llesiannol

Mae pob cydberchennog yn dal yr ystad gyfreithiol gofrestredig fel ymddiriedolwr. Efallai bydd rhai unig berchenogion hefyd yn dal yr ystad gyfreithiol gofrestredig fel ymddiriedolwr (gellir nodi hyn gan gyfyngiad Ffurf A, B, J, K, II neu JJ). Gellir defnyddio atwrneiaeth gyffredinol, barhaus neu arhosol wedi ei dyddio ar 担l 29 Chwefror 2000 mewn perthynas ag eiddo ymddiried ar yr amod bod gan roddwr yr atwrneiaeth fudd llesiannol yn yr eiddo hwnnw ar adeg defnyddior atwrneiaeth, oni bai fod bwriad ir gwrthwyneb yn amlwg or atwrneiaeth (adran 1(1) o Ddeddf Dirprwyo Ymddiriedolwyr 1999).

Mae datganiad ysgrifenedig gan yr atwrnai a roddwyd o fewn tri mis i ddyddiad y ddogfen yn cadarnhau y bu gan y rhoddwr fudd llesiannol yn yr eiddo, yn dystiolaeth gadarnhaol o blaid prynwr y gellid defnyddior atwrneiaeth (adran 2 (2) o Ddeddf Dirprwyo Ymddiriedolwyr 1999).

Y lle mwyaf cyfleus ir atwrnai wneud y datganiad ysgrifenedig hwn yw yn y gwarediad ei hunan. Gall yr atwrnai gynnwys datganiad tebyg ir canlynol ym mhanel darpariaethau ychwanegol ffurflen TR1 neu ffurflen benodedig arall, neu yng nghorff prydles neu arwystl:

Mae (enwr atwrnai) yn cadarnhau bod gan (rhoddwr yr atwrneiaeth) fudd llesiannol yn yr eiddo ar ddyddiad y (trosglwyddiad, arwystl ac ati) hwn)

Fel arall, gall yr atwrnai addasur cymal ardystio fel a ganlyn:

Arwyddwyd fel gweithred gan (enw rhoddwr yr atwrneiaeth), sydd 但 budd llesiannol yn yr eiddo ar ddyddiad y (trosglwyddiad, arwystl ac ati) hwn, yn gweithredu trwy ei (h)atwrnai (enwr atwrnai) ym mhresenoldeb

Neu gall yr atwrnai ehangu geiriaur arwyddo fel a ganlyn:

John Smith trwy ei atwrnai Jane Brown syn cadarnhau fod gan y rhoddwr fudd llesiannol yn yr eiddo ar y dyddiad hwn.

Gellir gwneud y datganiad ysgrifenedig ar wah但n os yw wedi ei ddyddio o fewn tri mis i ddyddiad y ddogfen.

Os na all ceisydd am gofrestriad gyflwyno datganiad or fath, byddwn yn ystyried tystiolaeth arall y bu gan y rhoddwr fudd llesiannol ar yr adeg berthnasol. Bydd datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd (gweler cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd) ynghylch hyn gan berson cyfrifol sydd 但 gwybodaeth lawn or ffeithiau yn dderbyniol mewn rhai achosion. Ond os na fydd y ceisydd yn cyflwyno tystiolaeth ddigonol am hawl lesiannol y rhoddwr, bydd yn rhaid i roddwr yr atwrneiaeth gyflawnir ddogfen.

6. Atwrneiaethau syn h天n na 12 mis: tystiolaeth nad ywr atwrneiaeth wedi ei diddymu

Mae hawl gan brynwr oddi wrth berson sydd wedi delio ag atwrnai gymryd nad yw atwrneiaeth yr atwrnai wedi ei ddiddymu os gwnaed y trafodiad o dan sylw o fewn 12 mis ir dyddiad y daeth yr atwrneiaeth i rym.

Er, o dan reol 62 o Reolau Cofrestru Tir 2003 y gall Cofrestrfa Tir EF fynnu tystiolaeth nad ywr atwrneiaeth wedi ei diddymu os ywr atwrneiaeth yn h天n na 12 mis, o dan amgylchiadau arferol NI FYDD angen tystiolaeth or fath.

Ar yr achlysuron prin pan fydd y cofrestrydd yn mynnu tystiolaeth nad ywr atwrneiaeth wedi ei diddymu, rhaid iddi fod ar ffurflen 2 (gweler Atodiad B), sef naill ai:

  • datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd gan y person fun delio 但r atwrnai, er enghraifft prynwr oddi wrth yr atwrnai
  • tystysgrif gan drawsgludwr y person hwnnw

Oherwydd mai am 12 mis yn unig y gall atwrneiaethau Deddf Ymddiriedolwyr 1925 weithredu, ni fydd angen tystiolaeth nad ywr atwrneiaethau hyn wedi eu diddymu arnom fyth.

7. Tystiolaeth or atwrneiaeth

Bydd yn rhaid i Gofrestrfa Tir EF weld un or canlynol:

Byddwn yn cadwr dystiolaeth a gyflwynir yn ein ffeiliau. Mae Adran 3 o Ddeddf Atwrneiaeth 1971 yn nodi dull caeth o brofi cynnwys atwrneiaeth. Er mwyn dilyn y drefn hon, rhaid i roddwr yr atwrneiaeth, cyfreithiwr, notari cyhoeddus neu frocer stoc neu (o 18 Tachwedd 2023) swyddog gweithredol cyfreithiol siartredig ardystio:

  • tudalen olaf y copi or atwrneiaeth ei fod yn gopi gwir a chyflawn or gwreiddiol
  • ar bob tudalen or llungopi, os ywr atwrneiaeth yn cynnwys mwy nag un dudalen, fod y dudalen yn gopi gwir a chyflawn o dudalen gyfatebol y gwreiddiol

Yn ymarferol, byddwn fel rheol yn derbyn copi sydd wedi ei ardystio gan drawsgludwr neu gan swyddog gweithredol cyfreithiol siartredig i fod yn gopi gwir or atwrneiaeth wreiddiol. Byddwn yn derbyn un ardystiad syn cwmpasur ddogfen gyfan hefyd.

Wrth lanlwytho dogfennau, byddwch yn gallu ardystio unrhyw ddogfennau wedi eu sganio trwy gadarnhau eu bod yn gopi gwir or gwreiddiol gan ddefnyddior datganiadau ardystio sydd ar gael.

Fodd bynnag, mewn unrhyw achos o amheuaeth, byddem yn gofyn ichi gyflwynor gwreiddiol neur copi wedi ei ardystio mwy ffurfiol y cyfeirir ato uchod.

7.1 Taflen grynodeb a gynhyrchir gan wasanaeth Defnyddio/Gweld atwrneiaeth arhosol Swyddfar Gwarcheidwad Cyhoeddus

Lle cafwyd y cod mynediad cyn 4 Gorffennaf 2023, dim ond pan nad ywr atwrneiaeth arhosol yn cynnwys unrhyw gyfarwyddiadau y gellir lanlwythor daflen grynodeb. Ar gyfer codau mynediad a gafwyd ar neu ar 担l 4 Gorffennaf 2023, bydd y daflen grynodeb yn cynnwys unrhyw gyfarwyddiadau, a gellir eu lanlwytho. Rhaid ir daflen grynodeb fod mewn lliw, a rhaid i drawsgludwr wneud y cais.

Os yw crynodeb yr atwrneiaeth arhosol rhwng 2 a 12 mis oed ar ddyddiad y gwarediad, rhaid cynnwys tystysgrif gan drawsgludwr yn nodi na hysbyswyd Swyddfar Gwarcheidwad Cyhoeddus am unrhyw newidiadau ers y dyddiad ar grynodeb yr atwrneiaeth arhosol a fyddain effeithio ar awdurdod yr atwrnai(atwrneiod) a enwir yn y gwarediad.

Rydym yn cadwr hawl i alw am gopi or atwrneiaeth arhosol lawn hyd yn oed lle lanlwythir crynodeb. Gellir gweld rhagor o wybodaeth yn Gweld atwrneiaeth arhosol.

8. Cyflawni o dan atwrneiaeth dramor

Gall atwrnai gael ei benodi gan atwrneiaeth a gr谷wyd ac a lywodraethir gan gyfraith awdurdodaeth heblaw am Gymru a Lloegr. Gall atwrneiaethau or fath ganiat叩u ir rhoddai gyflawni dogfennau ar ran y rhoddwr.

Gweler adran 10.5 o gyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd ar gyfer cymalau cyflawni addas iw defnyddio pan fo atwrnain cyflawni dogfen ar ran unigolyn o dan atwrneiaeth (gan gynnwys atwrneiaeth dramor).

Lle caiff unrhyw ddogfen ei chyflawnin unol ag atwrneiaeth dramor, rhaid ir ceisydd ddarparu:

  • copi ardystiedig or atwrneiaeth (ynghyd 但 chyfieithiad wedi ei ddilysu or atwrneiaeth os nad yw yn Gymraeg neu Saesneg), a
  • barn gyfreithiol fel y nodir isod

Lle caiff unrhyw ddogfen ei chyflawnin unol ag atwrneiaeth dramor, rhaid ir ceisydd ddarparu barn gyfreithiol gan gyfreithiwr syn gymwys i ymarfer yn y diriogaeth honno yn cadarnhau:

  • y caniateir cyflawni gan atwrnai gan gyfreithiaur awdurdodaeth berthnasol
  • bod gan y rhoddwr y gallu cyfreithiol i benodi atwrnai
  • bod y rhoddwr wedi cydymffurfio ag unrhyw ffurfioldebau syn llywodraethu penodi atwrnai yn yr awdurdodaeth berthnasol ai fod yn rhwym ir atwrneiaeth
  • bod yr atwrienaeth yn awdurdodir derbynnydd i gyflawnir ddogfen berthnasol ar ran y rhoddwr, a
  • bod yr atwrneiaeth wedi parhaun ddilys ar adeg ei chyflawni

Ni ddylai unrhyw farn gyfreithiol fod yn amodol. Os yw mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, rhaid ir ceisydd ddarparu cyfieithiad ardystiedig ohono.

9. Rhestrau gwirio

Gobeithiwn y bydd y rhestrau gwirio canlynol o gymorth ichi, ar gyfer y materion yr ymdrinnir 但 hwy, er mwyn cyflwynor dogfennau ar dystiolaeth cywir gydach ceisiadau. Oni bai y gallwch ateb yn gadarnhaol ir holl gwestiynau syn gymwys, bydd yn rhaid i roddwr yr atwrneiaeth gyflawnir ddogfen yn bersonol cyn i ni allu ei chofrestru.

9.1 Atwrneiaeth a roddwyd gan unig berchennog (nad ywn ymddiriedolwr)

  • ydych chin gallu cyflwyno ffurflen 1 neur gwreiddiol neu gopi wedi ai ardystio or atwrneiaeth?
  • ydyr atwrneiaeth wedi ei chyflawnin ddilys fel gweithred?
  • ydyr atwrneiaeth yn ddigon eang i ganiat叩ur hyn y maer atwrnai wedi ei wneud?

9.2 Atwrneiaeth a roddwyd gan un o gydberchnogion wedi ei dyddio ar 担l 29 Chwefror 2000

  • ydych chin gallu cyflwyno ffurflen 1 neur gwreiddiol neu gopi wedi ei ardystio or atwrneiaeth?
  • ydyr atwrneiaeth wedi ei chyflawnin ddilys fel gweithred?
  • ydyr atwrneiaeth wedi ei gwneud o dan Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925? (Gweler adran 25 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925)

neu

9.3 Atwrneiaeth a roddwyd i fuddiolwyr gan holl gydberchnogion y tir

10. Atodiad A

Ffurf 1: tystysgrif ynghylch cyflawni atwrneiaeth (rheol 61)

Dyddiad yr atwrneiaeth

Rhoddwr yr atwrneiaeth

Rhoddai yr atwrneiaeth

Yr wyf i/Rydym ni [enw(au)] o [cyfeiriad/cyfeiriadau]

yn tystio:

  • bod yr atwrneiaeth mewn bodolaeth [ac wedi ei wneud a, lle bo angen, wedi ei chofrestru o dan (nodwch o dan ba ddarpariaeth statudol y gwneir yr atwrneiaeth, os ywn berthnasol)]
  • bod yr atwrneiaeth yn ddyddiedig (rhowch y dyddiad)
  • Yr wyf i/yr ydym ni yn fodlon y cyflawnwyd yr atwrneiaeth yn ddilys fel gweithred ai bod yn awdurdodir atwrnai i gyflawnir ddogfen ar ran rhoddwr yr atwrneiaeth hwnnw, ac
  • Yr wyf i/yr ydym ni yn dal [yr offeryn syn creur yr atwrneiaeth] neu [gopi or atwrneiaeth trwyr hwn y bydd modd profi ei chynnwys o dan adran 3 o Ddeddf Atwrneiaeth 1971] neu [ddogfen sydd, o dan adran 4 o Ddeddf Tystiolaeth ac Atwrneiaethau 1940, paragraff 16 Rhan 2 Atodlen 1, neu baragraff 15 (3) Rhan 5 Atodlen 4 i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 yn dystiolaeth ddigonol o gynnwys yr atwrneiaeth]

Llofnod y trawsgludwr [llofnod] Dyddiad [dyddiad]

11. Atodiad B

Ffurf 2: datganiad statudol/tystysgrif/datganiad o wirionedd bod atwrneiaethau heb eu diddymu ar gyfer atwrneiaethau syn h天n na 12 mis oed ar ddyddiad y gwarediad y c但nt eu defnyddio ar ei gyfer (rheol 62)

Dyddiad yr atwrneiaeth

Rhoddwr yr atwrneiaeth

Yr wyf i [enw] o [cyfeiriad]

yn ddifrifol ac yn ddiffuant yn [datgan] neu [n ardystio] nad oedd ar adeg cwblhaur

i mi/fy nghleient, gennyf fi/gennym ni/gan fy nghleient wybodaeth ynghylch:

  • diddymiad yr atwrneiaeth, neu
  • marwolaeth neu fethdaliad y rhoddwr, neu os ywr rhoddwr yn gorff corfforaethol, ei ddirwyn i ben neu ei derfynu, neu
  • unrhyw anallur rhoddwr lle nad ywr atwrneiaeth yn atwrneiaeth arhosol neu barhaus dilys, neu

Lle maer atwrneiaeth ar y ffurf a benodwyd ar gyfer atwrneiaeth arhosol:

  • na chr谷wyd atwrneiaeth arhosol, neu
  • am amgylchiadau a fyddai wedi terfynu awdurdod yr atwrnai i weithredu fel atwrnai, pe byddair atwrneiaeth arhosol wedi ei chreu, neu

Lle maer atwrneiaeth ar ffurf a benodwyd ar gyfer atwrneiaeth barhaus:

  • nad oedd yr atwrneiaeth mewn gwirionedd yn atwrneiaeth barhaus dilys, neu
  • gorchymyn neu gyfarwyddyd y Llys Gwarchod a ddiddymodd yr atwrneiaeth, neu
  • methdaliad yr atwrnai, neu

Lle rhoddwyd yr atwrneiaeth o dan adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996:

  • penodiad ymddiriedolwr arall or tir o dan sylw, neu
  • unrhyw ddigwyddiad arall a fyddai wedi arwain at ddiddymur atwrneiaeth, neu
  • unrhyw ddiffyg didwylledd ar ran y person(au) a ymdriniodd 但r atwrnai, neu
  • nad oedd yr atwrnai yn berson y gellid fod wedi dirprwyo swyddogaethaur ymddiriedolwyr iddo o dan adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996, neu

Lle maer atwrneiaeth wedi ei mynegi iw rhoi fel arwystl:

  • na roddwyd yr atwrneiaeth mewn gwirionedd fel arwystl, neu
  • unrhyw ddiddymiad or atwrneiaeth gyda chaniat但d yr atwrnai, neu
  • unrhyw ddigwyddiad arall a fyddai wedi arwain at ddiddymur atwrneiaeth

Lle rhoddir tystysgrif:

Llofnod y trawsgludwr [llofnod] Dyddiad [dyddiad]

Enw mewn prif lythrennau

Enwr cwmni neu gyflogwr (os oes un)

Swyddogaeth (er enghraifft yn gweithredu ar ran) neu

Lle gwneir Datganiad Statudol:

Ac yr wyf fin gwneud y datganiad dwys hwn gan gredun gydwybodol ei fod yn wir ac yn rhinwedd darpariaethau Deddf Datganiadau Statudol 1835.

Llofnod y Datganwr(wyr) [llofnod(ion)] Dyddiad [dyddiad ]

DATGANWYD yn ger fy mron i, person sydd 但r hawl i weinyddu llwon.

Enw

Cyfeiriad

Cymhwyster

Llofnod

Lle gwneir datganiad o wirionedd:

Credaf fod y ffeithiau ar materion yn y datganiad hwn yn wir.

Llofnod [llofnod] Dyddiad [dyddiad]

Enw mewn prif lythrennau

Enwr cwmni neu gyflogwr (os oes un) neu unrhyw drawsgludwr syn arwyddo

Swyddogaeth (er enghraifft yn gweithredu ar ran) neu

RHYBUDD

  1. Os ydych yn rhoi gwybodaeth mewn modd anonest neun gwneud datganiad y gwyddoch ei fod, neu a allai fod yn anwir neun gamarweiniol, ac yn bwriadu, trwy wneud hynny, gynnig mantais i chi neu rywun arall, neu achosi colled neur risg o golled i rywun arall, gallech fod yn cyflawnir trosedd o dwyll o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, ar uchafgosb ar gyfer hyn yw carchar o 10 mlynedd neu ddirwy ddiderfyn, neur 2.

  2. Os nad ydych yn llenwir ffurflen hon gydar gofal priodol gall diogelwch o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 gael ei golli os yw camgymeriad yn cael ei wneud yn y gofrestr o ganlyniad i hyn.

  3. O dan adran 66 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 maer rhan fwyaf o ddogfennau (gan gynnwys y ffurflen hon) a gedwir gan y cofrestrydd syn ymwneud 但 chais a gyflwynir ir cofrestrydd neu y cyfeirir ato yn y gofrestr ar gael ir cyhoedd eu harchwilio au cop誰o. Os ydych yn credu bod dogfen yn cynnwys gwybodaeth niweidiol, gallwch wneud cais ir rhan honno or ddogfen gael ei heithrio trwy ddefnyddio Ffurflen EX1, o dan reol 136 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

12. Atodiad C

Ffurf 3: datganiad statudol/tystysgrif /datganiad o wirionedd yn cefnogi atwrneiaeth dirprwyo swyddogaethaur ymddiriedolwyr i fuddiolwr (rheol 633)

Dyddiad yr atwrneiaeth

Rhoddwr yr atwrneiaeth

Yr wyf i [enw] o [cyfeiriad]

yn ddifrifol ac yn ddiffuant yn [datgan] neu [n ardystio] nad oedd ar adeg cwblhaur

i mi/fy nghleient, gennyf fi/gan fy nghleient wybodaeth ynghylch

  • unrhyw ddiffyg didwylledd ar ran y person(au) a ymdriniodd 但r atwrnai, neu
  • nad oedd yr atwrnai yn berson y gellid fod wedi dirprwyo swyddogaethaur ymddiriedolwyr iddo o dan adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996.

Lle rhoddir tystysgrif:

Llofnod y trawsgludwr [llofnod] Dyddiad [dyddiad]

Enw mewn prif lythrennau

Enwr cwmni neu gyflogwr (os oes un)

Swyddogaeth (er enghraifft yn gweithredu ar ran); neu

Lle gwneir Datganiad Statudol:

Ac yr wyf fin gwneud y datganiad dwys hwn gan gredun gydwybodol ei fod yn wir ac yn rhinwedd darpariaethau Deddf Datganiadau Statudol 1835.

Llofnod y Datganwr(wyr) [llofnod] Dyddiad [dyddiad]

DATGANWYD yn [lleoliad] ger fy mron i, person sydd 但r hawl i weinyddu llwon.

Enw

Cyfeiriad

Cymhwyster

Llofnod neu

Lle gwneir datganiad o wirionedd:

Credaf fod y ffeithiau ar materion yn y datganiad hwn yn wir.

Llofnod [llofnod] Dyddiad [dyddiad]

Enw mewn prif lythrennau

Enwr cwmni neu gyflogwr (os oes un) neu unrhyw drawsgludwr syn arwyddo

Swyddogaeth (er enghraifft yn gweithredu ar ran)

RHYBUDD

  1. Os ydych yn rhoi gwybodaeth mewn modd anonest neun gwneud datganiad y gwyddoch ei fod, neu a allai fod yn anwir neun gamarweiniol, ac yn bwriadu, trwy wneud hynny, gynnig mantais i chi neu rywun arall, neu achosi colled neur risg o golled i rywun arall, gallech fod yn cyflawnir trosedd o dwyll o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, ar uchafgosb ar gyfer hyn yw carchar o 10 mlynedd neu ddirwy ddiderfyn, neur 2.

  2. Os nad ydych yn llenwir ffurflen hon gydar gofal priodol gall diogelwch o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 gael ei golli os yw camgymeriad yn cael ei wneud yn y gofrestr o ganlyniad i hyn.

  3. O dan adran 66 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 maer rhan fwyaf o ddogfennau (gan gynnwys y ffurflen hon) a gedwir gan y cofrestrydd syn ymwneud 但 chais a gyflwynir ir cofrestrydd neu y cyfeirir ato yn y gofrestr ar gael ir cyhoedd eu harchwilio au cop誰o. Os ydych yn credu bod dogfen yn cynnwys gwybodaeth niweidiol, gallwch wneud cais ir rhan honno or ddogfen gael ei heithrio trwy ddefnyddio Ffurflen EX1, o dan reol 136 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

13. Pethau iw cofio

Er mwyn osgoi gorfod anfon ymholiadau, cyn cyflwyno eich cais inni, gwnewch yn siwr:

  • bod copi ardystiedig or atwrneiaeth yn cael ei lanlwytho gydar cais
  • bod yr atwrneiaeth:
    • wedi ei dyddio cyn y weithred
    • yn dod i ben ar 担l dyddiad y weithred, ac
    • yn datgan yr atwrnai wrth ei enw yn yr atodlen atwrneiod
  • bod yr atwrneiaeth wedi ei gweithredun ddilys
  • lle bor atwrneiaeth ei hunan yn cael ei chyflawni gan atwrnai, bod copi ardystiedig or atwrneiaeth gynharach yn cael ei lanlwytho
  • bod tystiolaeth hunaniaeth briodol yn cael ei darparu ar gyfer unrhyw atwrnai gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth

Mae rhagor o wybodaeth ac awgrymiadau ar gyfer osgoi ymholiadau ar gael ar Hyb Hyfforddi Cofrestrfa Tir EF.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.