Cyfarwyddyd ymarfer 7: cofnodi data'r pris a dalwyd neu'r gwerth a ddatganwyd yn y gofrestr
Diweddarwyd 22 Gorffennaf 2024
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelun bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 但 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
I weld hanes diweddariadaur cyfarwyddyd ymarfer hwn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 7: hanes diweddariadau.
1. Cyflwyniad
Maer cyfarwyddyd hwn yn cynnwys gwybodaeth am ymarfer Cofrestrfa Tir EF ar gofnodi gwybodaeth pris a dalwyd neur gwerth yn y gofrestr.
2. Pam y mae Cofrestrfa Tir EF yn cofnodir pris a dalwyd neur gwerth yn y gofrestr
Mae Cofrestrfa Tir EF o dan rwymedigaeth statudol o dan reol 8(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003 i gofnodir pris a dalwyd neur gwerth, pryd bynnag y bon ymarferol, mewn tair sefyllfa.
- Cofrestriad cyntaf ystad gofrestredig, hynny yw, pan fydd eiddo yn cael ei gofrestru am y tro cyntaf.
- Cofrestru prydles am fwy na 7 mlynedd.
- Pan fydd newid perchennog ar gyfer eiddo cofrestredig presennol, boed a ywr perchennog presennol hefyd yn aros yn y gofrestr neu beidio.
Ceir rhai eithriadau i hyn, megis pan fydd cyfnod prydles gofrestredig yn cael ei estyn.
Ni fydd telerau cymal cyfrinachedd yn drech na rhwymedigaeth y cofrestrydd i gofnodir pris a dalwyd yn y gofrestr. Ni fydd y cofrestrydd yn cofrestrur pris a dalwyd os bydd y cofrestrydd yn ei ystyried yn gamarweiniol, megis pan fydd y gwerth a ddatganwyd yn cynrychioli dim ond hanner gwerth yr eiddo. Gweler Absenoldeb cofnod i gael rhagor o wybodaeth am hyn.
3. Pryd y bydd Cofrestrfa Tir EF yn cofnodir pris neur gwerth
Byddwn yn gwneud cofnod yn y gofrestr perchnogaeth pan fydd yn glir bod swm o arian (heblaw rhent o dan brydles) wedi cael ei dalu. Y swm a gofnodir fydd y gwir swm o arian y maer prynwr wedi ei dalu ir gwerthwr. Maen bosibl na fydd y swm hwn yr un fath 但 gwerth marchnadol yr eiddo.
Caiff cofnod ei wneud pan fydd y pris yn cynnwys eiddo arall yn ogystal ag arian.
Os ywr gydnabyddiaeth neur premiwm yn cynnwys elfen TAW, byddwn yn cyfeirio at hyn yn y cofnod pris a dalwyd.
Byddwn yn cofnodir pris a dalwyd neur gwerth a ddatganwyd lle y gellir disgwyl yn rhesymol ir ceisydd gael y wybodaeth hon. Byddwn yn disgwyl ir wybodaeth fod ar gael yn hawdd ir ceisydd lle, er enghraifft:
- y talwyd treth dir y dreth stamp neu dreth trafodiadau tir
- nad ywr pris wedi ei ddatgan yn y trosglwyddiad/prydles ond wedi ei gynnwys mewn dogfen ar wah但n
- cafwyd prisiad profiant
Os ydym yn derbyn cais heb y wybodaeth hon ond byddwn yn disgwyl iddi fod ar gael, byddwn yn gofyn ir ceisydd ddarparur pris a dalwyd neur gwerth. Gallwn ddileur cais os ydym yn credu bod y wybodaeth ar gael yn hawdd ac nid yw wedi ei darparu. Mae hyn oherwydd y rhwymedigaeth statudol sydd ar y cofrestrydd i wneud cofnod.
Ni fyddwn yn gwneud ymholiad am y pris a dalwyd, lle y cyfeirir ato mewn dogfen nad yw wedi ei chyflwyno gyda ni, os ywr trosglwyddiad neu brydles wedi eu dyddio cyn 1 Mai 2013, neu ar ffurf y gofynnir amdanin benodol mewn cytundeb a luniwyd cyn 1 Mai 2013.
Byddwn yn cofnodir pris a dalwyd hyd yn oes os yw mewn arian cyfred heblaw punt sterling, ond nid ydym yn trosir pris.
4. Os na wneir unrhyw daliad neu os nad oes modd cyfrifor pris
Mewn achosion lle na wneir taliad neu lle na ellir cyfrifor pris, byddwn yn gwneud cofnod gwerth a ddatganwyd. Os nad ywr union werth yn hysbys, maen bosibl y gwneir cofnod yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwyd i Gofrestrfa Tir EF ar gyfer asesur ff誰oedd.
Felly, gall y cofnod gyfeirio at fand gwerthoedd syn cynnwys gwerth yr eiddo, megis:
Datgenir bod y gwerth ar [dyddiad y cais] rhwng 贈xxx a 贈yyy.
Neur gwerth isaf neur uchaf or bandiau isaf neu uchaf, megis:
Datgenir bod y gwerth ar [dyddiad y cais] dros 贈xxx.
Fodd bynnag, byddwn yn hepgor y cofnod pe byddain gamarweiniol, er enghraifft, pan fydd y gwerth a ddatganwyd yn cynrychioli dim ond hanner gwerth yr eiddo.
5. Gostyngiadau a chymhelliannau
Yn aml bydd gwerthwyr yn cynnig gostyngiadau a chymhelliannau i ddarpar brynwyr.
Ystyriwn fod gostyngiad yn swm arian parod a ddiddymwyd or pris prynu. Gall gostyngiad hefyd gael ei gyfeirio ato fel gostyngiad ecwiti, rhodd o flaendal, rhodd o ecwiti neu daliad arian-yn-担l.Pan fydd trafodiad eiddo yn cynnwys gostyngiad, byddwn yn didynnu gwerth y gostyngiad or pris gros ac yn cofnodir pris a dalwyd net (is) yn y gofrestr. Os nad ydym yn gwybod y pris net, byddwn yn gofyn amdano. Er enghraifft, os nodir bod gwerthiant ar gyfer 贈300,000 a bod hyn yn cynnwys blaendal o 贈30,000 a dalwyd gan y gwerthwr, byddem yn cofnodir pris a dalwyd fel 贈270,000.
Os yw cydnabyddiaeth yn cynnwys cymhelliant, ein harfer yw cofnodir pris gros. Ystyriwn fod cymhelliant yn rhywbeth megis cymorth gyda chostau symud, y gwerthwr yn talu costau cyfreithiol neu dreth dir y dreth stamp neu dreth trafodiadau tir, darparu carpedi neu nwyddau gwynion, neu uwchraddio ffitiadau cegin ac ystafell ymolchi oherwydd nid ywr rhain yn golygu bod swm yn cael ei ddidynnu or pris gwerthu. Ystyriwn hefyd fod cymorth o dan gynllun Cymorth Prynu (arian a roddir ar fenthyg i brynwr trwy gynlluniau Cymorth Prynu neu Gymorth i Brynu) yn gymhelliant ac nid yn ostyngiad oherwydd maen rhaid iddo gael ei ad-dalu rywbryd yn y dyfodol. Rhaid ichi gofnodir pris a dalwyd yn glir o unrhyw ostyngiad (y gwir swm y maer prynwr wedi ei dalu ir gwerthwr) yn y panel cydnabyddiaeth neu gymal penodedig LR7 o brydles cymalau penodedig wrth baratoi trosglwyddiad neu brydles cymalau penodedig. Gallwch gyfeirio at ostyngiad neu gymhelliant ym mhanel darpariaethau ychwanegol trosglwyddiad neu yng nghorff prydles os oes angen. Yn y cyswllt hwn, sylwch fod Ffurflen Datblygu Cyllid y DU yn offeryn i helpu rhoddwyr benthyg i asesu faint y maent yn barod iw roi ar fenthyg, ac ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn edrych ar hyn i benderfynur cofnod a wneir.
Gweler Atodiad: enghreifftiau o ostyngiadau a chymhelliannau i gael enghreifftiau o ostyngiadau a chymhelliannau.
6. Ffurf y cofnod pan fydd yr union bris neur gwerth yn hysbys
Bydd y ffurfiau cofnod canlynol yn ymddangos mewn cofrestri perchnogaeth.
Datgenir mair pris a dalwyd ar [dyddiad gwarediad] oedd 贈xxx.
Datgenir mair pris, ac eithrior rhenti, a dalwyd wrth roir brydles oedd 贈xxx.
Datgenir mair gwerth ar [dyddiad y cais] oedd 贈xxx.
7. Ffurf y cofnod os asesir y gwerth o lefel y ff誰oedd a dalwyd
Bydd y ffurfiau cofnod canlynol yn ymddangos mewn cofrestri perchnogaeth.
Datgenir bod y gwerth ar [dyddiad y cais] o dan/dros 贈xxx.
Datgenir bod y gwerth ar [dyddiad y cais] rhwng 贈xxx a 贈yyy.
8. Am faint caiff y wybodaeth ei chadw yn y gofrestr
Bydd y wybodaeth yn aros yn y gofrestr hyd nes bydd newid perchnogaeth eto syn arwain at gofnodi pris neur gwerth newydd. Nid ywr cofnod pris a dalwyd neur gwerth a ddatganwyd yn gamarweiniol dim ond am ei fod yn hanesyddol gan fod dyddiad yn cael ei gofnodi hefyd fel rhan or cofnod yn y gofrestr. Ni fydd y cofnod yn gamarweiniol ychwaith dim ond oherwydd bod gwaith adnewyddu, er enghraifft, wedi cynyddu gwerth yr eiddo ers ei werthu.
9. Dibynadwyedd y wybodaeth
Maer cofnod yn seiliedig ar y wybodaeth a roddir inni. Maen bosibl na fydd yn cynrychioli gwerth marchnadol llawn yr eiddo. Maer cofnod yn egluro bod y ffigur a nodir yn seiliedig ar yr hyn a ddywedwyd wrthym. Ni fyddwn yn ei wirio. Mewn rhai achosion, maen bosibl na fydd yn cynrychiolir darlun cyflawn. Er enghraifft, pan fydd y part誰on yn gysylltiedig 但i gilydd gallai fod llawer o resymau pam nad gwerth llawn yr eiddo ywr pris a dalwyd neu pan fydd trosglwyddiad neu brydles yn cyfeirio at ddisgownt neu daliad arian-yn-担l, byddwn yn cofnodir gwerth isaf neur gwerth net.
10. Absenoldeb cofnod
Os cewch gais wedi ei gwblhau yn 担l, a sylwi ar gamgymeriad yn y pris a dalwyd, rhowch wybod inni, gan ddefnyddior ffurflen gysylltu ar-lein yn ddelfrydol, i roi gwybod am gamgymeriad mewn cais wedi ei gwblhau. Os oedd y pris a dalwyd yn anghywir yn y weithred a gyflwynwyd iw chofrestru fodd bynnag, bydd angen ichi wneud cais i newid y gofrestr o dan Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, a thalur ffi briodol. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 68: gweithredoedd newid syn peri gwarediadau tir cofrestredig am ragor o wybodaeth.
Nid ywr ffaith nad ywr cofnod pris a dalwyd iw weld yn y gofrestr o reidrwydd yn golygu y gwnaethpwyd rhodd or eiddo. Gallair wybodaeth pris a dalwyd a ddarparwyd fod yn gamarweiniol (am ryw rheswm yn gysylltiedig 但 natur y trafodiad o dan sylw), neu efallai nad oedd y pris yn hawdd ei ganfod. Mae hefyd yn bosibl bod Cofrestrfa Tir EF wedi derbyn y cais i gofrestrur newid perchnogaeth cyn 1 Ebrill 2000 (sef pryd y dechreuom gofnodir pris a dalwyd yn y gofrestr) neu y byddai rhyw agwedd ar y trafodiad yn gwneud cofnod y gwerth a ddatganwyd yn gamarweiniol.
Enghreifftiau o pryd na fyddwn efallain gwneud cofnod yw:
- trosglwyddiadau o gyfranddaliadau (lle y rhoddir gwerth y cyfranddaliad yn unig)
- trosglwyddiadau syn ddarostyngedig i bridiant
- dim ond rhan or eiddo syn cael ei gaffael ar farwolaeth cydberchennog
- prynu rhydd-ddaliad gan y prydleswr presennol syn gwneud cais i uno ei brydles
- trosglwyddiadau syn cyfeirio yn y panel cydnabyddiaeth at arian prynu heb ei dalu neu rwymedigaethau i dalu symiau pellach
- trosglwyddiadau syn cynnwys mwy na 5 theitl ac nid ywr gydnabyddiaeth wedi cael ei dosrannu
- trosglwyddiad mewn setliad o ddyled, trwy gyfrwng dosbarthiad in specie neu mewn cydnabyddiaeth o gyfranddaliadau
Yn yr achosion hyn, ni fyddwn yn gwneud unrhyw gofnod or newydd or pris a dalwyd neur gwerth a ddatganwyd ond byddwn yn cadw unrhyw gofnod pris a dalwyd neur gwerth a ddatganwyd presennol.
11. Gwybodaeth a gyhoeddir gan Gofrestrfa Tir EF
Mae Cofrestrfa Tir EF yn cyhoeddi gwybodaeth grynswth am brisiau eiddo preswyl. Rydym yn darparu gwybodaeth grynswth hefyd i lefel sector post ac er Chwefror 2012 rydym wedi cyhoeddi data misol ar y pris a dalwyd ar gyfer gwerthiannau eiddo preswyl unigol. Er Hydref 2015 rydym hefyd wedi cyhoeddin fisol y pris a dalwyd am drosglwyddiadau o dan b典er gwerthu/adfeddiannau, prynu-i-werthu (lle y gellir eu hadnabod gan forgais) a throsglwyddiadau i unigolion nad ydynt yn breifat. Nid ydym yn bwriadu cyhoeddi gwybodaeth grynswth yn ymwneud ag eiddo masnachol. Gallwch gael copi o gofrestr eiddo unigol trwy wneud cais am gopi swyddogol or cofrestriad teitl perthnasol.
12. Gwybodaeth gefndir
Cyn 1 Ebrill 2000, roedd Cofrestrfa Tir EF yn cofnodir pris a dalwyd yn y gofrestr ond dim ond pan gafwyd cais i wneud hyn. Yn dilyn ymgynghoriad yn 1997, penderfynodd yr Arglwydd Ganghellor fabwysiadu cynnig i ddiwygior Rheolau Cofrestru Tir fel y dylai pris a dalwyd neur gwerth gael ei gofnodi bob amser yn y gofrestr pan fon ymarferol i wneud hynny.
Ystyriwyd y mater o breifatrwydd yn ofalus iawn. Fodd bynnag, mewn nifer o wledydd, roedd y pris a dalwyd am eiddo arbennig eisoes yn gofnod cyhoeddus, yn fwyaf nodedig yn yr Alban er 1617, ac nid oedd yn ymddangos fod hyn wedi achosi unrhyw broblemau. O dan rai amgylchiadau roedd y pris a dalwyd eisoes yn gyhoeddus trwy ffynonellau eraill, megis lle cafodd yr eiddo ei werthu mewn arwerthiant. Ystyririwyd bod manteision cael y wybodaeth hon yn drech nar dadleuon ynghylch preifatrwydd. Mae cofnodir pris a dalwyd neur gwerth yn y gofrestr yn cydymffurfio 但 deddfwriaeth hawliau dynol a diogelu data.
13. Cael gwybodaeth am y pris a dalwyd ar gyfer eiddo penodol
I gael gwybodaeth am y pris a dalwyd am eiddo, dylech archebu copi swyddogol or gofrestr.
Gweler cyfarwyddyd ymarfer 11: archwiliad a chais am gop誰au swyddogol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais.
14. Atodiad: enghreifftiau o ostyngiadau a chymhelliannau
14.1 Enghraifft 1
Mae panel 9 o ffurflen TP1 yn datgan Maer trosglwyddwr wedi derbyn oddi wrth y trosglwyddai am yr eiddo y swm o 贈403,000 ac maer trosglwyddai wedi derbyn oddi wrth y trosglwyddwr y cymhelliannau.
Maer trosglwyddiad yn datgan bod y cymhelliannau yn 贈1,500 tuag at gostau cyfreithiol a 贈20,000 tuag at y blaendal.
Byddai angen ichi gadarnhau air pris a dalwyd a nodir ym mhanel 9 or ffurflen TP1 o 贈403,000 ywr gwerth gros neur gwerth net a dalwyd. Os mair pris a nodir ywr pris gros, bydd yn rhaid inni ddidynnu 贈20,000, oherwydd ystyrir fod hwn yn ostyngiad. Dylair 贈1,500 tuag at y costau cyfreithiol gael ei gynnwys yn y pris a dalwyd oherwydd ei fod yn gymhelliant.
14.2 Enghraifft 2
Y gydnabyddiaeth yn y trosglwyddiad yw 贈180,000 llair cymhelliannau ariannol y cyfeirir atynt yng nghymal 1.2 or contract ar gyfer gwerthu dyddiedig [ ] ac a waned rhwng y trosglwyddwr ar trosglwyddai.
Maer contract ar gyfer gwerthu yn cyfeirio at gymhelliant ariannol a roddir gan y gwerthwr ir prynwr: blaendal a dalwyd 贈9,050.
Byddwn yn didynnur cymhelliant ariannol hwn or gydnabyddiaeth, gan gofnodi 贈170,950 fel y pris a dalwyd. Yn ein barn ni mae hwn yn ostyngiad mewn gwirionedd. Ni all gwerthwr dalu blaendal iw hunan i bob pwrpas maen lleihau neun diystyrur pris gwerthu er mwyn peidio 但 chynnwys swm a fyddai wedi cael ei dalu fel rheol fel y blaendal.
14.3 Enghraifft 3
Maer premiwm yng nghymal LR7 o brydles yn datgan 贈807,500 syn cynnwys 贈792,500 ar gyfer y fflat a 贈15,000 ar gyfer y dodrefn ar ffitiadau. Nid ywr swm ar gyfer y dodrefn ar ffitiadau yn gymhelliant oherwydd maer tenant yn talu am yr eitemau hyn. Yn seiliedig ar hyn, byddwn yn cofnodir pris a dalwyd fel 贈792,500.
15. Pethau iw cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.