Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 39: cywiro ac indemniad

Diweddarwyd 4 Ebrill 2022

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelun bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 但 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

I weld hanes diweddariadaur cyfarwyddyd ymarfer hwn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 39: hanes diweddariadau.

1. Cyflwyniad: y cynllun statudol

Mae yn pennu o dan ba amgylchiadau y mae modd cywiro camgymeriad yn y gofrestr, a phryd nad ywn briodol gwneud hynny. Mae hyn yn gysylltiedig 但 chynllun i ddigolledur rhai syn cael colled oherwydd camgymeriad yn y gofrestr, boed yn cael ei gywiro neu beidio.

1.1 Pryd mae modd newid cofrestr

Maer amgylchiadau pryd y gall cofrestr gael ei newid iw gweld yn Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Mae modd ir llys orchymyn newidiadau neu gall y cofrestrydd beri:

  • bod camgymeriad yn cael ei gywiro
  • bod y gofrestr yn cael ei diweddaru
  • gweithredu unrhyw ystad, hawl gyfreithiol neu fudd nad ywr cofrestriad yn effeithio arni (oherwydd y cofrestrwyd y tir gyda theitl prydlesol da, teitl meddiannol neu deitl amodol)
  • dileu cofnod diangen (dim ond gan y cofrestrydd, nid y llys, y maer p典er hwn

Os bydd y llys yn gwneud gorchymyn or fath, dylid ei gyflwyno ir cofrestrydd trwy wneud cais o dan reol 127 o Reolau Cofrestru Tir 2003 ar ffurflen AP1. Yna rhaid i Gofrestrfa Tir EF ei weithredu.

Maer cyfarwyddyd hwn yn ymwneud 但 math o newid syn cael ei ddosbarthu fel cywiro yn unig.

Yn dilyn cais am newidiad, rhaid ir cofrestrydd gywiror gofrestr oni bai bod amgylchiadau arbennig syn cyfiawnhau peidio 但 gwneud hynny. Nid yw hyn yn golygu y gall ddiystyru gwrthwynebiad i gywiriad arfaethedig gweler Gwrthwynebiadau ac anghydfodau.

Yn yr un modd, rhaid ir llys wneud gorchymyn cywiro os oes ganddo b典er i wneud hynny, oni bai bod amgylchiadau arbennig syn cyfiawnhau iddo beidio 但 gwneud hynny.

1.2 Cywiro

Cywiro camgymeriad syn effeithion niweidiol ar deitl perchennog cofrestredig yw hyn.

Er enghraifft, gall y cywiriad effeithio er gwaeth ar werth y tir neu ar werth arwystl dros y tir. Ni fydd tynnu tir o deitl yn cael ei ystyried yn niweidiol os yw er mwyn dangos y terfyn cyffredinol mewn safle cywirach.

Ni fydd newid syn adlewyrchu budd gor-redol yn cyfrif fel cywiriad. Mae hyn oherwydd bod y buddion hyn, syn cael eu dangos yn Atodlenni 1 a 3 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, yn gyfrwymol ar y perchennog cofrestredig er na ch但nt eu crybwyll yn y gofrestr. Felly, ni fydd effaith andwyol ar deitl os bydd manylion budd gor-redol yn cael eu hychwanegu at y gofrestr.

Dylid cadw mewn cof bod gwahaniaeth rhwng camgymeriad yn y gofrestr a chamgymeriad mewn gweithred a gyflwynir i Gofrestrfa Tir EF iw chofrestru. Maer cyfarwyddyd hwn yn ymwneud dim ond 但 newid camgymeriadau yn y gofrestr. Mae darpariaethau Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn ymwneud 但 newidiadau i gywiro camgymeriad yn y gofrestr. Nid ydynt yn ymwneud 但 chywiro camgymeriad mewn gweithred. Mae hyn yn golygu nad oes camgymeriad yn y gofrestr os ywn adlewyrchun gywir y darpariaethau a gynhwysir mewn gweithred a gyflwynir iw chofrestru, er y gall fod camgymeriad yn y weithred, oherwydd, er enghraifft, nad ywn adlewyrchur cytundeb a wnaed rhwng y 2 barti ir weithred. Nid oes gan y cofrestrydd unrhyw allu o dan Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 i gywiro camgymeriad mewn gweithred. Dim ond gan y llys, neur tribiwnlys o dan adran 108(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, y mae p典er or fath ond dylech nodi bod pweraur tribiwnlys yn ymwneud ag ystod fwy cyfyngedig o ddogfennau nar llys.

1.3 Cyfyngiadau ar y p典er i gywiro

Os ywr perchennog cofrestredig mewn meddiant or tir o dan sylw (gweler Perchennog cofrestredig mewn meddiant), dim ond gydai gytundeb y bydd modd cywiror gofrestr.

Nid ywr cyfyngiad hwn yn berthnasol naill ai:

  • os ywr perchennog cofrestredig wedi achosi neu wedi cyfrannun sylweddol at y camgymeriad oherwydd ei fod naill ai wedi bod yn dwyllodrus neu wedi peidio 但 bod yn ddigon gofalus, neu
  • pe byddain anghyfiawn peidio 但 chywiror camgymeriad

Mae enghreifftiau o amgylchiadau lle y maen bosibl na fydd y cyfyngiad yn gymwys iw gweld yn Atodiad: enghreifftiau. Sylwch fodd bynnag fod amgylchiadau pob achos yn wahanol a byddwn yn ystyried achosion ar eu teilyngdod eu hunain bob tro.

1.4 Perchennog cofrestredig mewn meddiant

Mae adran 131 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn egluro bod hyn yn golygu meddiant corfforol, ai fod yn ymestyn i rywun (heblaw sgwatiwr) sydd 但 hawl iw gofrestru fel perchennog.

Fodd bynnag, ceir 4 math o berthynas lle mae rheolau ychydig yn wahanol yn berthnasol a bod meddiant rhywun arall wedi ei briodoli ir perchennog cofrestredig. Dyma fydd yr achos lle bor:

  • perchennog cofrestredig yn landlord ar sawl mewn meddiant ywr tenant
  • perchennog cofrestredig yn forgeisiwr ar sawl mewn meddiant ywr morgeisai
  • perchennog cofrestredig yn drwyddedwr ar sawl mewn meddiant ywr trwyddedai
  • perchennog cofrestredig yn ymddiriedolwr ar sawl mewn meddiant ywr buddiolwr

Yn yr achosion hyn, nid oes rhaid ir tenant, morgeisai, trwyddedai a buddiolwr fod mewn meddiant corfforol eu hunain. Bydd yn ddigon os ydynt yn cael eu trin fel bod mewn meddiant, er enghraifft os yw tenant wedi isosod.

1.5 Digollediad

Gall camgymeriadau yn y gofrestr beri colledion ir rhai a effeithiwyd ganddynt. Maer cynllun digolledu statudol yn cynnwys pawb syn cael colled oherwydd:

  • cywiror gofrestr gweler Cywiro am esboniad
  • camgymeriad yn y gofrestr y gellid bod wedi ei gywiro ond na wnaed
  • camgymeriad yn y gofrestr cyn ei gywiro.

Cyfeirir at ddigollediad o dan y cynllun statudol a thrwyr cyfarwyddyd hwn i gyd fel indemniad gweler Ceisiadau indemniad i gael rhagor o wybodaeth.

Nid oes angen ichi ddangos mai Cofrestrfa Tir EF achosodd y camgymeriad. Gallwch wneud cais am indemniad hyd yn oed os nad oedd neb ar fai neu os na ellid bod wedi osgoir camgymeriad.

Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i osgoi gwneud camgymeriadau ond pan fyddwn yn gwneud hynny, byddwn yn cydnabod hynny. Yn yr achosion hynny byddwn, os ywn bosibl, yn eich digolledu trwy dalu indemniad o dan y cynllun statudol.

Os na allwch wneud cais am indemniad o dan y cynllun ond rydym wedi achosi problemau ichi oherwydd rhywbeth yr ydym wedi ei wneud yn anghywir, dywedwch wrthym. Byddwn yn ystyried a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i ddatrys y problemau. Weithiau, byddwn yn talu digollediad heblaw hwnnw o dan y cynllun statudol neun gwneud taliad i gefnogin hymddiheuriad am y problemau a achoswyd gennym. Gweler Camweinyddiaeth am ragor o wybodaeth.

2. Gwneud cais am gywiriad

2.1 Y cais

Os nad ydych yn sicr a oes camgymeriad yn y gofrestr, dylech gysylltu 但 Chofrestrfa Tir EF gyda chymaint o wybodaeth ag sydd ar gael i chi ac, os ywn briodol, byddwn yn ymchwilio ir mater ar eich rhan. Byddwn yn dweud wrthych os ydym yn credu ein bod wedi darganfod camgymeriad. Byddwn hefyd yn dweud wrthych pa drefnau y bydd yn rhaid i chi eu dilyn os byddwch am wneud cais i gywiror camgymeriad.

Mae enghreifftiau o gamgymeriadau iw gweld yn Atodiad: enghreifftiau. Sylwch fodd bynnag fod amgylchiadau pob achos yn wahanol a byddwn yn ystyried achosion ar eu teilyngdod eu hunain bob tro.

Hyd at Ionawr 2012, nid pawb oedd 但 hawl i herio camgymeriad posibl yn y gofrestr. Cyn hynny, byddai Cofrestrfa Tir EF yn derbyn ceisiadau i newid y gofrestr (ac mae cywiro yn ffurf o newid) dim ond gan rywun oedd wedi, neu a oedd, yn hawlio budd perthnasol yn y tir. Fodd bynnag, maer polisi hwn wedi newid oherwydd datblygiadau cyfraith achosion ac felly gall unrhyw un wneud cais am newidiad, er nad oes ganddynt hwy eu hunain unrhyw hawl dros y tir nac unrhyw fudd drosto, (yr hyn y maer gyfraith yn ei alwn standing yn Saesneg).

Yn gyffredinol, rhaid cael cais ffurfiol oherwydd pe bai newidiad yn cael ei herio, nid oes gennym y p典er i gywiro camgymeriad heb ddilyn y trefnau gaiff eu crybwyll yn Rhybuddion a Gwrthwynebiadau ac anghydfodau. Dim ond ar 担l gwneud cais ffurfiol y gellir gweithredur trefnau hyn. Dylid nodi lle bo cais yn cael ei herio, rhaid delio 但 hyn cyn y gallwn gywiror gofrestr.

Os gwyddoch fod camgymeriad yn y gofrestr ach bod am wneud cais i gywiror camgymeriad, rhaid i chi lenwi ffurflen AP1 (rheol 13 o Reolau Cofrestru Tir 2003), sydd ar gael trwy ddogfenwyr cyfreithiol neu gallwch ei llwytho i lawr am ddim on gwefan. Anfonwch y ffurflen hon gyda manylion llawn y camgymeriad a pha gywiriad y dymunwch ir cofrestrydd ei wneud a pham in cyfeiriad safonol. Gallwn ofyn am wybodaeth ychwanegol os ystyriwn fod hyn yn briodol.

O dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, mae ffi yn daladwy am unrhyw gais i newid y gofrestr (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff誰oedd Gwasanaethau Cofrestru). Mewn nifer o achosion (er enghraifft os gwnaed y camgymeriad gan Gofrestrfa Tir EF) ad-delir y ffi.

Yn wyneb hyn, mewn achosion addas ni fyddwn yn mynnu ar ffi gychwynnol.

2.2 Rhybuddion

Byddwn bob amser yn cyflwyno rhybudd o gais i gywiror gofrestr i:

  • berchennog cofrestredig unrhyw dir neu arwystl cofrestredig y maer cywiriad arfaethedig yn effeithio arno
  • pawb syn ymddangos 但 hawl i fudd a warchodwyd trwy rybudd, ar yr amod bod gennym eu henwau au cyfeiriadau ar gyfer gohebu ac y byddair cywiriad arfaethedig yn effeithio ar y budd

oni bai ein bod yn fodlon o dan yr amgylchiadau penodol na fyddai rhybudd yn angenrheidiol.

Mae gennym hawl i wneud pa ymholiadau bynnag a ystyriwn syn briodol, syn gallu dadlennu part誰on eraill y gallair cywiriad arfaethedig effeithio arnynt. Yn yr achosion hyn, fel arfer, byddwn yn cyflwyno rhybudd or cais iddynt yn ogystal.

O dan reol 197(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003, mae unrhyw un syn derbyn rhybudd yn cael tan ganol dydd ar y 15fed diwrnod gwaith ar 担l cyflwynor rhybudd i ateb: os nad ydynt yn ymateb o fewn y cyfnod hwn, maen bosibl y caiff y cais ei gwblhau. Os oes angen rhagor o amser ar y cwsmer i ymateb, dylai ofyn am hyn cyn ir cyfnod ddod i ben, gan egluro pam y mae angen yr amser ychwanegol.

2.3 Gwrthwynebiadau ac anghydfodau

Os bydd rhywun yn gwrthwynebur cywiriad arfaethedig, oni bai bod y gwrthwynebiad yn ddi-sail, ni all y cofrestrydd gwblhaur cais i gywiror gofrestr nes bydd y gwrthwynebiad wedi cael ei derfynu. Bydd y ceisydd yn cael ei hysbysu or gwrthwynebiad. Os ywr ceisydd am symud ymlaen gydar cais, byddwn yn gofyn ir holl bart誰on a ydynt yn dymuno cyd-drafod ac a ydynt yn ystyried y gall fod modd cytuno ar y mater. Os felly, bydd y part誰on yn cael cyfnod i weld a allant ddod i gytundeb. Fodd bynnag, cyn gynted ag y dawn amlwg eu bod yn methu gwneud hynny, rhaid i ni gyfeirior mater at y tribiwnlys. Byddwn yn gwneud hyn ar unwaith os nad ywr part誰on am gyd-drafod.

Maer hyn syn digwydd os bydd gwrthwynebiad ac anghydfod yn cael ei drafod yn fanwl yng nghyfarwyddyd ymarfer 37: gwrthwynebiadau ac anghydfodau ymarferiad a threfniadaeth Cofrestrfa Tir EF.

3. Cywiro a thwyll

Maer drefn ar gyfer cywiro camgymeriad a wnaed trwy dwyll yr un fath 但 chydag unrhyw gamgymeriad arall, yn 担l Gwneud cais am gywiriad.

Fodd bynnag, bydd materion ychwanegol iw hystyried yn yr achosion hyn.

3.1 Ffugiadau

3.1.1 Tystiolaeth

Bydd gofyn ir ceisydd brofi hefyd bod y ddogfen o dan sylw yn ffug. O ganlyniad, byddant yn gorfod ystyried yn ofalus iawn pa dystiolaeth or ffugiad all fod ar gael a pha dystiolaeth y gallant ei chael. Mewn llawer achos bydd gofyn cael adroddiad arbenigwr llawysgrifen. Os ydym yn dal y ddogfen wreiddiol, mae modd ei rhyddhau er mwyn paratoi adroddiad. O dan reol 205 o Reolau Cofrestru Tir 2003, gall y cofrestrydd ryddhau unrhyw ddogfen wreiddiol ar ba delerau bynnag y maen ystyried yn briodol. Fodd bynnag, nid oes rhaid i Gofrestrfa Tir EF gadw dogfennau gwreiddiol ac, mewn llawer achos, bydd y rhain yn cael eu dinistrio a chop誰au electronig yn cael eu cadw yn eu lle.

Yn ogystal 但 gwneud cais i Gofrestrfa Tir EF gywiror gofrestr, dylid hysbysur ffugiad honedig ir heddlu. Dylid darparu manylion llawn, gan gynnwys cyfeir-rif y trosedd a manylion cysylltur swyddog mewn gofal, i Gofrestrfa Tir EF oherwydd maen bosibl y byddwn am gysylltu 但r heddlu.

3.1.2 Achosion nas ymleddir

Hyd yn oed mewn achosion lle cyfaddefir y ffugiad, byddwn am weld rhywfaint o dystiolaeth o hyd, fel adroddiad arbenigwr llawysgrifen. Bydd angen darbwyllor cofrestrydd y dylid cywiror gofrestr. Bydd eisiau sicrhau bod hyn yn arfer ei b典er yn briodol, nid lleiaf oherwydd bod hawliad indemniad yn dilyn ceisiadau or fath am gywiriad yn ddi-ffael.

3.2 Amau twyll neu ffugiad

Os bydd rhywun yn amau y bu twyll neu fod twyll ar fin digwydd o ran eu heiddo, dylent gysylltu 但 ni ar unwaith. Mewn llawer achos, ar gais, byddwn yn gallu cofnodi cyfyngiad ar ffurf safonol LL yn y gofrestr, syn galw am dystysgrif trawsgludwr ei fod yn fodlon mai pwy bynnag a gyflawnodd ddogfen a gyflwynwyd iw chofrestru fel gwaredwr ywr perchennog.

Bydd yn ddoeth hefyd cael cyngor cyfreithiol neu broffesiynol arall i geisio lleihau unrhyw golled.

4. Ceisiadau indemniad

4.1 Gwneud cais

4.1.1 Camgymeriadau

Bydd hawl i hawlio indemniad yn codi:

  • os oes camgymeriad yn y gofrestr, ac
  • y byddai cywiror camgymeriad hwnnwn effeithion niweidiol ar deitl perchennog cofrestredig y tir o dan sylw neu arwystl ar y tir hwnnw, neu ei fod eisoes wedi gwneud hynny

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr hawliwr naill ai wedi gwneud cais am gywiriad neu bydd yn un or part誰on a hysbyswyd o gais.

Gall fod indemniad yn daladwy:

  • pan fo cywiro camgymeriad wedi achosi colled. Os cywirwyd camgymeriad yn y gofrestr ar cywiriad wedi effeithio er gwaeth ar y teitl o dan sylw, bydd hawl gan bwy bynnag syn dioddef colled o ganlyniad ir cywiriad hwnnw i hawlio indemniad
  • lle achosodd camgymeriad golled cyn ei gywiro. Os cywirwyd camgymeriad yn y gofrestr ar cywiriad wedi effeithio er gwaeth ar y teitl o dan sylw, bydd gan bwy bynnag a ddioddefodd golled o ganlyniad ir camgymeriad cyn y cywirwyd y gofrestr hawl i hawlio indemniad
  • lle bo camgymeriad na chywirwyd wedi achosi colled. Os penderfynwyd bod camgymeriad ond na chafodd ei gywiro, pe bair cywiriad wedi effeithio er gwaeth ar y teitl o dan sylw, bydd hawl gan bwy bynnag syn dioddef colled o ganlyniad ir cywiriad hwnnw hawlio indemniad

Mae enghreifftiau o gamgymeriadau iw gweld yn Atodiad: enghreifftiau. Sylwch fodd bynnag fod amgylchiadau pob achos yn wahanol a byddwn yn ystyried achosion ar eu teilyngdod eu hunain bob tro.

Ni chaiff camgymeriadau eu cywiro bob amser. Ni fydd cywiron briodol:

  • pan for perchennog cofrestredig mewn meddiant ac nad ywr naill nar llall or eithriadau a grybwyllwyd yn Cyfyngiadau ar y p典er i gywiro yn berthnasol
  • pan fo amgylchiadau arbennig syn cyfiawnhau peidio 但 chywiror gofrestr

4.1.2 Amgylchiadau eraill

Mae modd hawlio trwy lythyr a, lle bor cais yn deillio o gamgymeriad, dylai ddod gydar wybodaeth a thystiolaeth ganlynol:

  • gamgymeriad mewn canlyniad chwiliad swyddogol neu gopi swyddogol a roddodd Cofrestrfa Tir EF
  • camgymeriad mewn copi o ddogfen y cyfeiriwyd ati yn y gofrestr, lle bo copi or ddogfen yn cael ei ddal gan Gofrestrfa Tir EF
  • colli neu ddinistrio dogfen a gyflwynwyd yng Nghofrestrfa Tir EF iw harchwilio neu iw chadwn ddiogel
  • camgymeriad yn y gofrestr rhybuddiadau
  • methiant Cofrestrfa Tir EF i hysbysu arwystlai o dan reol 106 o Reolau Cofrestru Tir 2003 pan fo arwystlon statudol arbennig yn cael eu cofnodi yn y gofrestr

4.2 Sut i hawlio

Mae modd hawlio trwy lythyr a, lle bor cais yn deillio o gamgymeriad, dylai ddod gydar wybodaeth a thystiolaeth ganlynol.

  • manylion y camgymeriad ac unrhyw gywiriad ir camgymeriad hwnnw
  • pa golled a gafwyd
  • esboniad o pam fod y golled o ganlyniad ir camgymeriad neur cywiriad
  • manylion y swm syn cael ei hawlio, os oes modd, a sut y cafodd ei gyfrif
  • os ywr golled yn cynnwys ff誰oedd a/neu filiau a threuliau eraill, tystiolaeth y talwyd y symiau hyn trwy anfonebau neu docynnau a dderbynebwyd, er enghraifft

Mae modd hawlio cyn bod yr holl dystiolaeth ar gael, ond bydd angen i ni weld tystiolaeth ddigonol cyn y gallwn gytuno ar gais.

Os na allwn ddod i gytundeb 但 chi am eich hawl i indemniad neu swm yr indemniad iw dalu, gallwch wneud cais ir llys gweler Hawl i wneud cais ir llys am indemniad.

5. Hawl i wneud cais ir llys am indemniad

Bydd mwyafrif y ceisiadau am indemniad yn cael eu setlo trwy gytundeb rhwng yr hawliwr a Chofrestrfa Tir EF.

Fodd bynnag, gall hawliwr ofyn ir llys benderfynu a oes ganddo hawl i indemniad neu beidio ac, os felly, faint. Maer hawl hon yn cael ei nodi ym mharagraff 7 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Mae modd gwneud cais naill ai ir Llys Sirol neur Uchel Lys fel y bon briodol o dan Reolau Trefniadaeth Sifil 1998.

Mae gan hawliwr 6 blynedd or dyddiad pan ddaw yn ymwybodol oi hawl, neu y dylai fod wedi dod yn ymwybodol oi hawl (paragraff 8 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002), i wneud cais ir llys. Ar 担l y cyfnod hwn maen colli hawl i ofyn ir llys benderfynu a oes ganddo hawl i indemniad ac, os felly, faint.

Os nad ydych wedi gallu setlo materion yn uniongyrchol 但 Chofrestrfa Tir EF ac maer achosion cyfreithiol wedi dechrau, dylid eu hanfon ir Prif Gofrestrydd Tir yn y cyfeiriad canlynol:

Chief Land Registrar

HM Land Registry Litigation and Indemnity Lawyers
PO Box 2079
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR90 9NU

Ni ddylid anfon achosion yn uniongyrchol i swyddfeydd lleol neu ir cyfeiriad cyffredinol ar gyfer ceisiadau. Dylai hawlwyr posibl geisio cyngor cyfreithiol annibynnol cyn cymryd camau. Mae gweithdrefnau cyfreithiol yn y Rheolau Trefniadaeth Sifil syn berthnasol i ymddygiad cyn-gweithredu, a dylid cymryd sylw or rhain.

6. Cyfyngiadau ar hawliadau am indemniad

6.1 Mwynfeydd a mwynau

Nid oes modd hawlio indemniad o ran mwynfeydd neu fwynau os nad oes nodyn yn y gofrestr yn cadarnhau eu bod yn gynwysedig yn y teitl (paragraff 2 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Ni fydd nodiadau or fath yn digwydd ohonynt eu hunain pan fydd tir a all gynnwys mwynfeydd a mwynau yn cael ei gofrestru. Rhaid gwneud cais penodol o dan reol 71 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

6.2 Treigl amser

Fel yr eglurwyd yn Hawl i wneud cais ir llys am indemniad, bydd hawliwr yn colli ei hawl i wneud cais ir llys am indemniad ar 担l 6 blynedd.

6.3 Twyll

Os ei dwyll ei hun a achosodd ran o golled yr hawliwr, maen colli hawl i indemniad (paragraff 5(1)(a) Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). O dan rai amgylchiadau, gall hyn ymestyn i golled a achoswyd trwy dwyll rhagflaenwyr yr hawliwr mewn teitl (paragraff 5(3), Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

6.4 Diffyg gofal priodol

Bydd hawliwr hefyd yn colli hawl i hawlio indemniad os mai ei ddiffyg gofal priodol ei hun achosodd ei golled (paragraff 5(1)(b) Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Fel gyda thwyll, o dan rai amgylchiadau gall hyn ymestyn i golled a achoswyd gan ddiffyg gofal priodol ar ran rhagflaenwyr yr hawliwr mewn teitl (paragraff 5(3) Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

6.5 Esgeulustod cyfrannol

Fe all fod amgylchiadau lle bor hawliwr wedi cyfrannun rhannol at y golled a gafodd trwy ei ddiffyg gofal priodol. Yn yr achosion hyn mae modd gostwng unrhyw indemniad syn daladwy. Dylai unrhyw ostyngiad adlewyrchu cyfran cyfrifoldeb yr hawliwr yn y golled (paragraff 5(2) Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Felly, bydd hyn yn golygu asesu i ba raddaur oedd yr hawliwr a/neu eraill, gan gynnwys Cofrestrfa Tir EF, yn gyfrifol am y golled.

6.6 Camweinyddiaeth

Nid ywr cynllun statudol yn cynnwys hyn a chaiff ei drafod yn Camweinyddiaeth.

7. Asesu indemniad

7.1 Mathau o golled

Caiff costau a threuliau a achoswyd o ganlyniad i gamgymeriad neu gywiriad eu trafod yn Costau a threuliau eraill gan fod rheolau penodol yn ymwneud ag adennill yr eitemau hyn.

Maer adran hon yn cwmpasur holl golledion ariannol eraill. Nid oes modd eu rhestru nau dosbarthu gan y gall unrhyw golled fod yn destun indemniad, ar yr amod ir camgymeriad neur cywiriad ei hachosi. Yn y b担n mater cyfreithiol yw hwn.

Rhai enghreifftiau fyddai:

  • gwerth darn o dir a dynnwyd oddi wrth deitl
  • y gostyngiad yng ngwerth eiddo oherwydd bod hawl tramwy arno yn dilyn cywiriad nad oedd yn effeithio arno cyn hynny
  • maint na all morgeisai ei adennill ar 担l tynnu ymaith ei arwystl or gofrestr oherwydd ei fod yn ffugiad

Mewn llawer achos, bydd angen prisior tir er mwyn mesur y golled.

7.2 Prisiadau

7.2.1 Gwerthoedd uchaf

Ceir terfynau ar faint o indemniad syn daladwy os ywr indemniad yn berthnasol i golli tir, budd mewn tir neu arwystl.

Os achoswyd y golled trwy gywiror gofrestr, yr indemniad uchaf yw gwerth y tir, budd neu arwystl hwnnw yn union cyn cywiro. (Ir dibenion hyn caiff y ffaith bod y gofrestr i gael ei chywiro ei hanwybyddu.)

Os caiff y golled ei hachosi trwy gamgymeriad sydd heb gael ei gywiro, neu gamgymeriad cyn cywiror gofrestr, yr indemniad uchaf yw gwerth y tir, budd neu arwystl pryd y gwnaed y camgymeriad. Gall y swm taladwy fod yn uwch wedi cyfrif llog. Caiff hyn ei drin yn Llog.

7.2.2 Swyddogaeth y Gwasanaethau Prisiwr Dosbarth

Fel arfer, bydd gwahoddiad ir hawliwr awgrymu swm y maen ei ystyried a fydd yn gydnabyddiaeth am gollir tir, budd neu arwystl perthnasol. Maen debygol y bydd angen cyngor syrf谷wr neu brisiwr cymwysedig ar gyfer hyn, gydai gost fel arfer yn adenilladwy fel indemniad. Cyfeiriwch at Costau a threuliau eraill o ran adennill costau a threuliau ac, yn arbennig, yr angen i gael cydsyniad ymlaen llaw.

Os yw Cofrestrfa Tir EF am gadarnhau rhesymoldeb y cais bydd yn gofyn ir Gwasanaethau Prisiwr Dosbarth ddarparu adroddiad, gyda Chofrestrfa Tir EF yn talu amdano. Mewn rhai achosion gall yr hawliwr fod yn barod i ddibynnu ar brisiad y Gwasanaethau Prisiwr Dosbarth heb gael ei brisiad annibynnol ei hun.

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn rhoi manylion llawn hanes trawsgludor mater ir Gwasanaethau Prisiwr Dosbarth ac esboniad o sut y daeth y broblem i fodolaeth. Bydd hyn yn sicrhau bod gan y Gwasanaethau Prisiwr Dosbarth ddealltwriaeth lawn o gefndir y cais.

Mae adroddiad y Gwasanaethau Prisiwr Dosbarth yn gyfrinachol ac nid oes modd ei ddadlennu i neb heblaw Cofrestrfa Tir EF heb ganiat但d y Gwasanaethau Prisiwr Dosbarth fel arfer.

Fel arfer nid oes modd prisio darnau bach o dir, rhan o ardd er enghraifft, ar wah但n. Yn aml bydd yn briodol, felly, ir part誰on gytuno ar brisiad ar sail y gwahaniaeth rhwng gwerth eiddor ceisiwr gydag a heb y tir o dan sylw.

Mewn achosion lle bu camgymeriad ond nad ywr gofrestr i gael ei chywiro (paragraff 1(1)(b) Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002), fel arfer, bydd cais ir Gwasanaethau Prisiwr Dosbarth ddarparu prisiad fel yr oedd ar y dyddiad pan wnaed y camgymeriad a arweiniodd at y golled (paragraff 6(b) Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Yn aml bydd modd dod i gytundeb yng ngoleuni adroddiad y Gwasanaethau Prisiwr Dosbarth er, os oes gwahaniaethau sylweddol rhwng y 2 brisiad, efallai y bydd angen ir Gwasanaethau Prisiwr Dosbarth ddechrau cyd-drafod gyda phrisiwr y ceisiwr. Gan y bydd y Gwasanaethau Prisiwr Dosbarth yn cyd-drafod ar ran Cofrestrfa Tir EF, bydd angen ein caniat但d terfynol i unrhyw gytundeb fydd yn deillio.

Efallai na fydd y cyfanswm sydd iw dalu ir ceisiwr yn adlewyrchun llawn bob amser y prisiad a gytunwyd, gan y bydd angen gostwng y cais efallai yng ngoleuni unrhyw esgeulustod cyfrannol ar ran y ceisiwr gweler Esgeulustod cyfrannol.

Mae rhagor o wybodaeth am y Gwasanaethau Priswyr Dosbarth ar gael ar wefan y Swyddfa Brisio yn 51画鋼.

7.3 Llog

O dan baragraff 9 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 195 o Reolau Cofrestru Tir 2003, mae llog syml yn daladwy ar swm unrhyw indemniad a gytunwyd.

Bydd hyn yn cael ei gyfrif fel a ganlyn.

  • lle bor cyfnod a bennwyd o dan reol 195(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn dechrau ar neu ar 担l 10 Tachwedd 2008, 1 y cant yn uwch na chyfradd1 neu gyfraddau sylfaenol Banc Lloegr syn gymwys
  • lle bor cyfnod a bennwyd o dan reol 195(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn dechrau cyn y dyddiad hwnnw:
    • am y rhan or cyfnod cyn 10 Tachwedd 2008 defnyddir y gyfradd neu gyfraddau cymwys a bennir ar gyfer dyledion dyfarniad y llys, ac
    • am y rhan or cyfnod ar neu ar 担l 10 Tachwedd 2008, 1 y cant yn uwch na chyfradd neu gyfraddau Banc Lloegr syn gymwys

1 Cyfradd sylfaenol Banc Lloegr yw (a) y gyfradd a gyhoeddir o bryd iw gilydd gan Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr fel y gyfradd fasnachu swyddogol, sef y gyfradd lle maer Banc yn fodlon ymrwymo i drafodion i ddarparu hylifedd tymor byr yn y marchnadoedd arian neu (b) lle bo gorchymyn o dan adran 19 o Ddeddf Banc Lloegr 1998 mewn grym, unrhyw gyfradd gyfatebol a bennir gan y Trysorlys o dan yr adran honno.

Fodd bynnag, ni chaiff llog ei dalu o ran cyfnodau pan nad ywr ceisiwr wedi cymryd camau rhesymol i ddilyn y cais neu, pan fon berthnasol, y cais am gywiriad (rheol 195(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

8. Costau a threuliau eraill

8.1 Costau neu dreuliau a dalwyd yn rhesymol

Gall hawliad indemniad gynnwys hawliad am gostau a threuliau a wnaed o ganlyniad ir cais am gywiriad. Rhaid ir costau ar treuliau fod yn rhesymol (paragraff 3(1) Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

8.2 Yr angen am gydsyniad y cofrestrydd

Dim ond costau a threuliau a dalwyd gyda chydsyniad y cofrestrydd syn adenilladwy, oni bai:

  • fod yn rhaid eu talu ar fyrder, ac
  • nad oedd yn ymarferol o fewn rheswm i wneud cais am gydsyniad (paragraff 3(2) Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Nid oes angen caniat但d o dan yr amgylchiadau hyn.

Lle bo angen cydsyniad, dylid ei geisio ymlaen llaw ond mae modd gofyn ir cofrestrydd gymeradwyo wedyn. Fodd bynnag, bydd hawliwr mewn perygl na roddir cymeradwyaeth ac na fydd y costau a threuliau o dan sylw yn adenilladwy.

Felly, rydym yn argymell, heblaw yn yr achosion mwyaf brys, eich bod yn cysylltu 但 Chofrestrfa Tir EF cyn gynted ag y bydd yn ymddangos y gall bod camgymeriad yn y gofrestr a allai arwain at golled ariannol o ryw fath. Bydd hyn yn ein galluogi i ymchwilio ir mater yn gynnar. Bydd hefyd yn ein cynorthwyo i sicrhau bod materion yn cael eu trin yn y ffordd gyflymaf a mwyaf cost-effeithiol, ac osgoi costau diangen.

Os caiff caniat但d ei wrthod, nid oes modd adennill y costau a threuliau hynny fel indemniad. Fodd bynnag, rhaid pwysleisio nad ywr ffaith bod caniat但d yn cael ei roi ohonoi hun yn golygu y bydd modd eu hadennill. Yn ystod y cyfathrebu, gall ffeithiau ddod ir golwg a fydd yn golygu nad ywr cais yn gais am gywiriad ac felly nad oes hawl i indemniad. Maen hanfodol felly pan for hawliwr yn gwneud hawliad am indemniad, ei fod yn dangos bod ganddo hawl i indemniad a bod yr hawliad yn cwrdd 但r meini prawf yn Gwneud cais.

Maer darpariaethau hyn yn berthnasol ir holl gostau a threuliau y bydd hawliwr am i Gofrestrfa Tir EF eu had-dalu, gan gynnwys y rhai a dalwyd yn dilyn y cais am indemniad. Fodd bynnag, nid ydynt yn berthnasol os ywr hawliwr a Chofrestrfa Tir EF yn anghytuno ynghylch hawl yr hawliwr i indemniad neu faint sydd iw dalu, ar hawliwr yn gwneud cais ir llys ddatrys y mater. Yn yr achos hwnnw, nid oes angen caniat但d y cofrestrydd mewn cysylltiad ag unrhyw gostau neu dreuliaun ymwneud 但r achos hwnnw. Bydd yr egwyddorion arferol o ran adennill costau mewn cysylltiad ag achos llys yn berthnasol ac, fel arfer, bydd angen ir parti aflwyddiannus dalu costaur ochr arall.

Dylid cyfeirio hefyd at adrannau 2 a 3 o gyfarwyddyd ymarfer 38: costau mewn ceisiadau cynhennus, syn delion llawnach 但 chydsynio i fynd i gostau.

8.3 Treuliau a dalwyd heb benderfynu bod hawl

Gall y cofrestrydd gytuno i ad-dalu hawliwr aflwyddiannus am unrhyw gostau a threuliau rhesymol a dalwyd yn dilyn yr hawliad aflwyddiannus; er enghraifft, costau a wnaed wrth ddilyn cais am gywiriad syn troi yn y pendrawn fath arall o newidiad megis diweddarur gofrestr. Dylair hawliwr fod wedi cael caniat但d y cofrestrydd cyn talur costau, ond gall y cofrestrydd gytuno i ad-dalur costau os bydd yn eu cymeradwyo wedyn neu ei fod yn ystyried y bun rhaid talur costau neu dreuliau ar fyrder ac nad oedd yn ymarferol o fewn rheswm i wneud cais am ganiat但d.

8.4 Gostwng faint o gostau syn daladwy

Fel gydag unrhyw hawliad am indemniad, gall elfennau fel diffyg gofal priodol neu esgeulustod cyfrannol ar ran yr hawliwr effeithio ar faint o gostau neu dreuliau gaiff eu talu (paragraff 5 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002) gweler Twyll ac Esgeulustod cyfrannol.

8.5 Costau hawliwr yn bersonol

Tra bor rhan fwyaf o hawlwyr yn cyflogi cyfreithiwr neu gynrychiolydd cyfreithiol arall iw cynorthwyo wrth ddelio 但 phroblemaun deillio o gamgymeriad yn y gofrestr, maen well gan eraill ddelio 但r mater eu hunain. Ar yr amod bod yr hawliwr wedi gweithredun rhesymol bydd modd ei ddigolledu fel arfer o ran ei gostau a threuliau parod. Bydd angen manylion llawn, gyda derbynebau ble bynnag y bo modd. Maen ddoeth cadw cofnod gofalus, felly, o unrhyw dreuliau a all ffurfio rhan o hawliad indemniad wedyn.

Ni fydd hawl gan hawliwr sydd heb gyflogi cynrychiolydd cyfreithiol i unrhyw gostau o ran ei amser ei hun, am nad ywr rhain yn gostau neu dreuliau a dalwyd gan yr hawliwr o ran y mater (paragraff 3(1) Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Fodd bynnag, efallai y gall hawlio indemniad am unrhyw golled ariannol syn deillio o ddefnyddio ei amser ei hun wrth ddelio 但r camgymeriad a/neur cais am indemniad.

Maer gofyniad am ganiat但d y cofrestrydd yn berthnasol i unrhyw hawliad am gostau a threuliau parod a gall fod yn berthnasol i hawliad am golled ariannol. Felly, os yw hawliwr yn meddwl y bydd yn gwneud cais or fath, dylai ofyn ir cofrestrydd am ganiat但d mor fuan ag y bo modd.

8.6 Treth ar werth

Os ywr hawliwr yn gofrestredig fel rhywun llawn drethadwy, ac y darparwyd y costau a threuliau y mae am eu hadennill at ddibenion ei fusnes, bydd yn gallu cael credyd mewnbwn am elfen Treth ar werth (TAW) y costau a threuliau hynny. Felly, bydd unrhyw indemniad yn 担l y costau a dalwyd heb gynnwys TAW. Pan fon debygol bod yr hawliwr yn gofrestredig at ddibenion TAW bydd Cofrestrfa Tir EF, fel arfer, yn holi ynghylch y sefyllfa cyn y caiff unrhyw indemniad ei gytuno.

Bydd y gwasanaethau, at ddibenion TAW, wedi eu rhoi ir hawliwr bob amser. Felly, rhaid i unrhyw anfoneb neu fil syn ffurfio rhan or hawliad indemniad, fod wedi eu cyfeirio at yr hawliwr, hyd yn oed os yw Cofrestrfa Tir EF wedi cytuno iw dalu.

9. Heb ymrwymiad a setliad llawn a therfynol

9.1 Heb ymrwymiad

Efallai y gwelwch, os bydd Cofrestrfa Tir EF yn cynnig indemniad i chi neun ysgrifennu atoch i drafod sail cytuno ar indemniad, y bydd y pennawd heb ymrwymiad ar ei llythyrau. Mae hyn yn golygu bod yr ohebiaeth hon yn cael ei hysgrifennu gydar nod o ddod i gytundeb ar faint o indemniad syn daladwy. Os methwn ddod i gytundeb, gall yr hawliwr benderfynu dechrau achos llys, pryd na fydd naill air hawliwr na Chofrestrfa Tir EF wedi eu rhwymo gan y farn a fynegwyd yn yr ohebiaeth heb ymrwymiad. Gallant, os dymunant, gynnig dadl wahanol yn yr achos llys ac ni fydd y barnwr yn ymwybodol o unrhyw gyfaddawd a gynigiwyd yn flaenorol.

9.2 Setliad llawn a therfynol

Fel y bydd cyd-drafodaethau o ran indemniad, gan gynnwys unrhyw gostau a threuliau, yn tynnu tuar terfyn bydd Cofrestrfa Tir EF yn gofyn ir hawliwr gadarnhau y bydd y swm a gytunwyd yn cael ei dderbyn fel setliad llawn a therfynol or cais.

10. Hawliau digolledu

O dan baragraff 10 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, lle bo indemniad yn cael ei dalu i hawliwr am golled, mae hawl gan y cofrestrydd i adennill y swm a dalwyd oddi wrth unrhyw un sydd wedi achosi neu wedi cyfrannun sylweddol at y golled trwy ei dwyll.

Gall y cofrestrydd hefyd orfodi unrhyw hawl i weithredu y byddai hawliwr 但 hawl iw orfodi pe bair indemniad heb ei dalu neu y gallai rhywun y cywirwyd y gofrestr oi blaid fod wedi ei orfodi pe na bair gofrestr wedi cael ei chywiro.

Ceir darpariaethau penodol hefyd o dan y Deddfau Tai ar gyfer hawl digolledu yn erbyn awdurdod lleol os caiff indemniad ei dalu lle cofrestrwyd tir gan ddibynnu ar gywirdeb tystysgrif teitl a bod camgymeriad yn y dystysgrif honno. Bydd hawliau tebyg yn codi mewn achosion ller ymddiriedwyd mewn tystysgrif a roddwyd gan ymddiried gweithredu ar dai.

Mewn rhai achosion, bydd iawndal yn cael ei hawlio gan hawliwr sydd 但 dulliau adennill eraill. Er enghraifft, gall prynwr fod 但 hawl cytundebol i indemniad oddi wrth ei werthwr am dor-cytundeb. Mewn achosion or fath ni fydd gofyn i hawliwr ddechrau achos yn erbyn trydydd parti er mwyn lliniaru eu colled. Fel arfer, bydd Cofrestrfa Tir EF yn derbyn bod gan y ceisiwr hawl ir indemniad ac mai Cofrestrfa Tir EF sydd i fynd ar 担l hawliaur ceisydd o dan baragraff 10 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Bydd y sefyllfan wahanol os bydd y ceisydd yn derbyn iawndal oddi wrth drydydd parti, a fydd fel arfer o ganlyniad i achos llys. Bydd y swm a dderbyniwyd yn gostwng colled y ceisydd ac, felly, faint sydd iw dalu fel indemniad.

Weithiau gall fod yn briodol i Gofrestrfa Tir EF gynnwys pob parti perthnasol mewn cyd-drafodaethau cyn talu unrhyw indemniad. Os bydd taliad yn cael ei wneud i hawliwr, efallai y bydd Cofrestrfa Tir EF am gael ei addewid yn gyntaf y bydd yn cydweithredu 但 Chofrestrfa Tir EF i orfodi ei hawliau.

Gall achosion godi lle bydd pwy bynnag sydd 但 hawliau indemniad yn eu herbyn yn derbyn ei atebolrwydd i ad-dalu Cofrestrfa Tir EF, ond nad oes ganddo ddigon o arian i wneud hynny. Mewn achosion or fath gall fod yn briodol ir arian gael ei dalu bob yn dipyn neu i unrhyw eiddo y maen berchennog arno gael ei arwystlo o blaid y cofrestrydd i warantur arian sydd arno.

Pan fydd trawsgludwr wedi cyflawnir safon uwch o gadarnhau hunaniaeth a ddisgrifir yng nhyfarwyddyd ymarfer 81: annog y defnydd o dechnoleg ddigidol wrth gadarnhau hunaniaeth, ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn mynd ar drywydd hawl ddigolledu yn sgil cofrestru trafodiad twyllodrus ar y sail bod gwiriadau hunaniaeth yn annigonol.

11. Camweinyddiaeth

Mae Adolygydd Cwynion Annibynnol Cofrestrfa Tir EF wedi disgrifio camweinyddiaeth fel methiant i gynnal gweithdrefnau priodol neu i fodloni safonau ansawdd gwasanaeth cyhoeddedig.

Pan fyddwn yn gwneud pethaun anghywir, rydym yn ceisio sicrhau nad ywn achosi anghyfiawnder. Gallwn wneud hyn weithiau trwy dalu digollediad o dan y cynllun indemniad statudol. Gweler Digollediad am ragor o wybodaeth.

Mewn achosion eraill, efallai na fyddwn yn gallu gwneud iawn am yr anghyfiawnder trwy dalu indemniad statudol ond gallwn wneud taliad dewisol yn lle hynny. Os ydym wedi achosi gofid neu anghyfleustra, maen bosibl y byddwn yn gwneud taliad cysurol os na fydd ein hymddiheuriad yn unig yn ddigon i ddangos bod yn ddrwg gennym.

Os bydd angen, efallai byddwn yn talu iawndal i rywun syn gallu profi ei fod wedi dioddef colled yn uniongyrchol oherwydd ein camweinyddu er na fydd modd inni dalu indemniad statudol.

12. Atodiad: enghreifftiau

Maer enghreifftiau hyn at ddibenion eglurhaol yn unig. Caiff pob achos ei ystyried ar ei ffeithiau ai deilyngdod ei hun.

12.1 Camgymeriad yn y gofrestr

Gall yr enghreifftiau canlynol arwain at gamgymeriad yn y gofrestr (ond nid bob tro).

  • hepgor cofnod am hawl tramwy or gofrestr
  • cynnwys gormod o dir mewn teitl cofrestredig
  • cynnwys tir mewn mwy nag un teitl cofrestredig (cofrestriad dwbl)
  • hepgor cyfamod cyfyngu or gofrestr
  • sylwch na fydd pob camgymeriad tebyg yn arwain at hawl i indemniad

12.2 Newid neu gywiro enghreifftiau

Mae teitl AB1234 wedi cael ei fapio i gynnwys t天, garej a gardd sylweddol. Dawn hysbys wedi hynny ir rhan fwyaf or ardd gael ei gwerthu fel llain adeiladu, ond na chofnodwyd memorandwm or gwerthiant yn y gweithredoedd a gyflwynwyd ar gofrestriad cyntaf. Maen debygol y bydd tynnu ymaith y tir yn arwain at gywiro am ei fod yn niweidiol ir perchennog cofrestredig oherwydd ei fod yn amddifadur perchennog cofrestredig o dir a freiniwyd ynddo yn rhinwedd cofrestru.

Fodd bynnag, os yw perchennog y llain adeiladu (neu eu holynwyr mewn teitl) mewn meddiant or llain adeiladu yn hytrach na pherchennog cofrestredig teitl AB1234, ni fydd tynnu ymaith y tir yn niweidiol a bydd unionir camgymeriad yn arwain at newid, nid cywiro.

Mae teitl CD5678 wedi cael ei fapio 但 therfyn crwm ar hyd blaen yr heol yn hytrach na therfyn syth fel bod darn o dir si但p D nad oes gan y perchennog deitl dogfennol iddo yn syrthio o fewn yr ymylu coch ar y cynllun teitl. Ni fyddai newid ir cynllun teitl i ddangos terfyn syth yn cael ei ystyried yn niweidiol oherwydd ei fod yn dangos y terfyn cyffredinol mewn safle mwy cywir yn unig. Ymdrinnir 但r diwygio hyn fel newidiadau.

12.3 Enghreifftiau pan nad yw cyfyngu ar y p典er i gywiron gymwys

12.3.1 Ddim yn arfer gofal digonol

Os yw cyfreithiwr syn ymgymryd 但 chyflwyno cais am gofrestriad cyntaf yn camarwain Cofrestrfa Tir EF trwy fethu 但 chyflwynor holl ddogfennau yn eu meddiant, gan achosi neu gyfrannu at gofrestriad anghywir, gall hyn arwain at ddiffyg gofal priodol fel bod posibilrwydd o gywiriad yn digwydd yn erbyn perchennog cofrestredig mewn meddiant.

12.3.2 Anghyfiawn i beidio ag unioni camgymeriad

Maer llys or farn y byddain anghyfiawn peidio 但 chywiro i adfer X yn berchennog cofrestredig yn lle Y lle yr oedd Y wedi ei gofrestrun unol 但 chais ADV1 lle na chafwyd gwrthwynebiad gan X; yn dilyn hynny, gwnaeth X gais i gywiro, gan ddangos nad oedd Y mewn gwirionedd yn bodlonir meini prawf am gais ADV1.

12.4 Enghreifftiau lle y gallai indemniad fod yn daladwy am gamgymeriad

12.4.1 Indemniad lle y mae unioni camgymeriad wedi achosi colled

Lle y mae camgymeriad yn y gofrestr wedi cael ei unioni, maen bosibl bod y part誰on cysylltiedig wedi dioddef colled o hyd oherwydd mynd i gostau cyfreithiol neu am fod yn rhaid iddynt dalu i symud ffens.

12.4.2 Indemniad lle y mae camgymeriad wedi achosi colled cyn unioniad camgymeriad

Maen bosibl y bydd indemniad yn daladwy lle y mae gwerthiant eiddo yn mynd ir gwellt oherwydd camgymeriad yn y gofrestr a bod y perchennog cofrestredig/gwerthwr yn dioddef colled o ganlyniad, megis costau gwerthiant aflwyddiannus.

12.4.3 Indemniad lle y mae camgymeriad nad ywn cael ei unionin achosi colled

Lle y mae arwystl yn cael ei dynnu ymaith or gofrestr trwy gamgymeriad ac maer eiddon cael ei werthu wedi hynny heb ir arwystl gael ei ad-dalu, maen bosibl y bydd indemniad yn daladwy ir rhoddwr benthyg lle y maer symiau syn daladwy o dan yr arwystl yn parhau heb eu talu.

13. Pethau iw cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.