Guidance

Frequently asked questions about registered buildings (Welsh)

Updated 19 May 2021

Applies to England and Wales

Cwestiynau cyffredin gan ymddiriedolwyr neu aelodau or corff llywodraethu ar 担l ir adeilad gael ei gofrestru ar gyfer gweinyddu priodasau rhwng dyn a menyw a/neu gweinyddu priodasau cyplau or un rhyw.

Sut ydw in cael tystysgrif gofrestru newydd?

Gellir cael tystysgrif man cyfarfod newydd ar gyfer addoliad crefyddol gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Ni ellir darparu tystysgrif cofrestrydd arolygu newydd am gofrestru adeilad ar gyfer gweinyddu priodasau. Fodd bynnag, bydd y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ach cofrestrydd arolygu lleol yn gallu cadarnhau manylion cofrestru yr adeilad i unrhyw gorff swyddogol.

Beth ddylwn i ei wneud os oes enw newydd ar fy adeilad?

Bydd angen i chi anfon llythyr at y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn cadarnhau bod enw newydd ar yr adeilad a bod y gynulleidfa wedi aros yr un peth. Rhaid ir llythyr nodi rhifau addoliad a phriodasaur adeilad a chael ei lofnodi gan o leiaf dau ymddiriedolwr neu aelod or corff llywodraethu.

A oes angen i mi ddweud wrth y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol a ywr adeilad wedii newid ers iddo gael ei gofrestru?

Oes, os oes newidiadau strwythurol wedi bod, neu os ywr adeilad wedii ddymchwel ond ei ailadeiladu dros yr un 担l troed ac y bydd yn cael ei ddefnyddio gan yr un gynulleidfa, bydd angen i chi gyflwyno cynllun llawr ac amserlen newydd yn nodir hyn y defnyddir y gwahanol ardaloedd ar ei gyfer erbyn hyn. Fodd bynnag, ni fydd yn effeithio ar gofrestrur adeilad.

Os ywr adeilad wedii ddymchwel ai adeiladu mewn rhan wahanol or lle nar adeilad gwreiddiol, mae angen cofrestrur adeilad yn newydd. Os ywr adeilad gwreiddiol yn wag a bod ceisiadau newydd yn cael eu cyflwyno ar yr un pryd, gellir ail-benodi unrhyw bersonau awdurdoedig ir adeilad newydd yn syth.

Beth ydw in ei ddweud wrth gyplau syn dymuno priodi yn fy adeilad crefyddol?

Gadewch ir cwpl wybod y bydd angen iddynt rhoi hysbysiad o briodas yn bersonol ir cofrestrydd arolygu yn yr ardal lle maent yn byw. Bydd angen ir cwpl gysylltu 但u swyddfa gofrestru leol i drefnu apwyntiad. Argymhellir bod y cwpl yn rhoi rhybudd mewn da bryd cyn y briodas. Rhaid i hyn fod o leiaf 29 diwrnod cyn dyddiad bwriadedig y briodas, ond nid ywn ddoeth ei adael mor hwyr 但 hynny. Gellir rhoi rhybudd hyd at flwddyn cyn dyddiad y briodas ar yr amod bod y lleoliad wedii gytuno a bod yr holl ddogfennau mewn trefn.

Beth ddylwn i ei ddweud wrth gyplau or un rhyw sydd am newid eu partneriaeth sifil i briodas yn fy adeilad crefyddol?

Dim ond mewn adeilad crefyddol y gellir newid partneriaeth sifil i briodas os ywr adeilad wedii gofrestru ar gyfer gweinyddu priodasau cyplau or un rhyw o dan Adran 43A Deddf Priodasau 1949. Rhaid ir cofrestrydd arolygu fynychu llofnodir datganiad newid ac ni ddylai gynnwys unrhyw elfennau crefyddol. Fodd bynnag, rhaid i seremoni grefyddol ddilyn llofnodir datganiad. Dylech gynghorir cwpl i gysylltu 但u cofrestrydd arolygu lleol am ragor o wybodaeth.

A oes rhaid i berson awdurdodedig fod yn bresennol yn yr adeilad pan fydd partneriaeth sifil yn cael ei newid i briodas?

Oes, i gynnal y seremoni grefyddol ar 担l ir newid ddigwydd.

Gan y bydd y cofrestrydd yn bresennol yn y lleoliad ac yn llofnodir datganiad ar gyfer priodas rhwng dyn a menyw/priodas cwpl or un rhyw, ble fydd y cofnod or briodas yn cael ei gadw?

Bydd y datganiad ar gyfer y newid yn cael ei lofnodi gan gofrestrydd or swyddfa gofrestru leol. Bydd y cofrestriad yn cael ei ychwanegu at y gofrestr priodasau electronig syn cael ei chadw yn y swyddfa gofrestru leol.

Gan fod y datganiad yn cael ei lofnodi ai gofrestru gan gofrestrydd, beth fyddant yn ei wneud?

Fel arfer, bydd y cofrestrydd yn cyrraedd 15 munud cyn bod disgwyl ir digwyddiad ddechrau gan fod angen iddynt weld y dau syn gwpl (ar wah但n os oes angen) yn breifat ymlaen llaw. Bydd angen i chi sicrhau bod trefniadau addas mewn lle i alluogi hyn i ddigwydd. Argymhellir eich bod yn trafod trefniadau penodol megis c担d gwisg neu hyd y seremoni gyda eich cofrestrydd arolygu lleol.

Sut ydw in penodi person awdurdodedig ar gyfer priodasau rhwng dyn a menyw a/neu briodasau cyplau or un rhyw?

Gellir penodi person awdurdodedig ar gyfer priodasau rhwng dyn a menyw ar 担l i adeilad crefyddol gael ei gofrestru ar gyfer gweinyddu priodasau rhwng dyn a menyw am flwyddyn. Rhaid i ffurflen benodi gael ei llenwi ai llofnodi gan o leiaf ddau ymddiriedolwr neu aelod or corff llywodraethu ai hanfon ir Swyddfa Gofrestru Gyffredinol er mwyn ir manylion gael eu cofnodi. Ni ddylair person awdurdodedig gychwyn eu dyletswyddau hyd nes y bydd yn cael cadarnhad gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol bod y penodiad wedii gofnodi. Sylwer na ddylai personau awdurdodedig a benodir ar hyn o bryd i fynychu priodasau a llofnodir amserlen briodasau rhwng dyn a menyw fynychu unrhyw briodas na llofnodi amserlen briodas cwpl or un rhyw hyd nes y bydd yr adeilad wedii gofrestru ar gyfer y diben hwnnw au bod hefyd wediu penodi gan yr ymddiriedolwyr i wneud hynny.

Gellir penodi person awdurdodedig ar gyfer priodasau cyplau or un rhyw ar 担l i adeilad crefyddol gael ei gofrestru ar gyfer gweinyddu priodasau cyplau or un rhyw am flwyddyn. Rhaid i ffurflen benodi gael ei llenwi ai llofnodi gan o leiaf ddau ymddiriedolwr neu aelod or corff llywodraethu ai hanfon at y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol er mwyn ir manylion gael eu cofnodi. Ni ddylair person awdurdodedig gychwyn ei ddyletswyddau hyd nes y bydd yn cael cadarnhad gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol bod y penodiad wedii gofnodi.

Pa rolau a chyfrifoldebau sydd gan berson awdurdodedig?

Maer Swyddfa Gofrestru Gyffredinol wedi cyhoeddi llyfryn or enw Canllaw i bersonau awdurdodedig sydd ar gael iw lawrlwytho or wefan Guide for authorised persons. Gallwch hefyd ofyn am gopi drwy anfon e-bost at: GROCasework@gro.gov.uk.

Oes rhaid i mi gofrestru priodasau yn llyfr y gofrestr briodasau?

O 4 Mai 2021, nid ywr cwpl bellach yn gorfod llofnodi llyfr cofrestr priodasau. Bydd y cwpl yn llofnodi amserlen briodas ar 担l eu seremoni briodas, syn cynnwys manylion eu priodas. Rhaid ir tystion ar person awdurdodedig hefyd lofnodir amserlen briodasau.

Darperir yr amserlen briodasau gan y swyddfa gofrestru a chaiff ei dychwelyd iddynt, wedii chwblhau, ar 担l y seremoni briodas er mwyn ir manylion gael eu cofrestru ar y gofrestr priodasau electronig yn y swyddfa gofrestru.

A oes rhaid i mi gyhoeddi tystysgrif priodas ar 担l i mi weinyddu priodas?

Nid yw dyletswyddau person awdurdodedig yn cynnwys rhoi tystysgrifau ar gyfer priodasau y maent yn eu gweinyddu nac ar gyfer priodasau sydd eisoes wedi digwydd yn yr adeilad cofrestredig. O 4 Mai 2021, bydd y swyddfa gofrestru leol neur GRO ond yn gallu cyhoeddi tystysgrifau.

Faint o bobl awdurdoedig y gellir eu penodi i adeilad crefyddol?

Dim ond un person awdurdoedig Cyfrifol all fod a fydd yn fan cyswllt y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Fodd bynnag, nid oes terfyn ar y nifer o personau awdurdoedig ychwanegol a benodir ym mhob adeilad i fynychu priodasau rhwng dyn a menyw a / neu briodasau cyplau or un rhyw a llofnodir amserlen briodasau. Rhaid i chi roi gwybod ir Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn syth am unrhyw newidiadau i Bobl awdurdoedig yn eich adeilad.

Pam bod angen ir cyhoedd gael mynediad im hadeilad?

Rhaid ir cyhoedd gael mynediad rhydd ir adeilad cofrestredig yn ystod unrhyw seremoni briodas rhag ofn bod ganddynt wrthwynebiad cyfreithiol.

A all priodas sydd 但 gwahanol ddefodau a seremon誰au ir gynulleidfa arferol ddigwydd yn yr adeilad?

Gall priodas unrhyw enwad nad ywn cydymffurfio rhwng dyn a menyw ddigwydd mewn adeilad sydd wedii gofrestru ar gyfer gweinyddu priodasau oni bai bod caniat但d wedii roi gan ymddiriedolwr, y corff llywodraethu, perchennog yr adeilad, ac ati. Gall priodas unrhyw enwad anghydffurfiol rhwng cwpl or un rhyw ddigwydd mewn adeilad sydd wedii gofrestru ar gyfer gweinyddu priodasau cyplau or un rhyw oni bai bod caniat但d wedii roi gan yr awdurdod llywodraethu perthnasol.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i eisiau rhannu fy adeilad gydag enwad arall?

Gellir ffurfio rhannu cytundeb rhwng dau neu fwy o enwadau nad ydynt yn cydymffurfio syn defnyddior un adeilad. Nid oes angen cofrestrur adeilad yn unigol gan bob enwad ond, ar gyfer priodasau cyplau or un rhyw, rhaid i chi gael caniat但d ysgrifenedig pob enwad ir adeilad syn cael ei ddefnyddio ar gyfer y diben hwn. Ymddiriedolwyr yr adeilad syn penderfynu pwy fydd y person awdurdodedig Cyfrifol. Dylai fod gan bob enwad arall o leiaf un person awdurdodedig ychwanegol syn cytuno i fynychu priodasau a llofnodir amserlen briodasau. Gellir gwneud cytundeb rhannu ffurfiol hefyd rhwng un neu fwy o enwadau anghydffurfiol ac eglwys neu gapel Eglwys Lloegr yn unol 但 Deddf Rhannu Adeiladau Eglwysig 1969. Ar gyfer priodasau cyplau or un rhyw, rhaid i chi gael caniat但d ysgrifenedig pob enwad ir adeilad syn cael ei ddefnyddio ar gyfer y diben hwn. Rhaid cyflwyno copi o unrhyw rannu gytundeb gydach cais.

Beth ddylwn i ei wneud os nad wyf am i briodasau cwpl or un rhyw gael eu gweinyddu yn yr adeilad bellach?

ae Hysbysiad Canslo Cofrestru Adeilad ar gyfer Gweinyddu Priodasau Cyplau or Un Rhyw (Ffurflen 77A) ar gael och swyddfa gofrestru leol a dylai gael ei gwblhau gan berchennog ar ymddiriedolwr yr adeilad. Dylid cyflwynor ffurflen ich chofrestrydd arolygu lleol.

Yna bydd y cofrestrydd arolygu yn trefnu i benodiadau unrhyw bersonau awdurdoedig yn yr adeilad gael eu canlso ac ni fyddant bellach yn cael eu hawdurdodi i fynychu priodasau cyplau or un rhyw.

Beth ddylwn i ei wneud os bydd addoli yn dod i ben yn yr adeilad?

Os na fydd y gynulleidfa yn defnyddior adeilad bellach, mae rhwymedigaeth gyfreithiol i roi gwybod ir Cofrestrydd Cyffredinol. Mae Hysbysiad Man Cyfarfod Ardystiedig Gwag ar gyfer Addoliad Crefyddol (Ffurflen 77) ar gael och swyddfa gofrestru leol neu or wefan . Gall y ffurflen gael ei llenwi gan unrhyw berson syn cynrychiolir gynulleidfa. Dylid cyflwynor ffurflen ich cofrestrydd arolygu lleol. Bydd penodiadau unrhyw bersonau awdurdodedig yn yr adeilad yn cael eu canslo ac ni fyddant bellach yn cael eu hawdurdodi i fynychu priodasau rhwng dyn a menyw a/neu briodasau cyplau or un rhyw.

Bydd adeilad gwag yn cael ei hysbysebu mewn papur newydd lleol ac yn y London Gazette.