Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 29: cofrestru arwystlon cyfreithiol a gweithredoedd amrywio arwystl

Diweddarwyd 6 Mai 2025

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelun bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 但 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

I weld hanes diweddariadaur cyfarwyddyd ymarfer hwn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 29: hanes diweddariadau.

1. Cyflwyniad

Mae modd gwneud arwystl ar ffurflen CH1 yn unol 但 rheol 103 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Nid ywr ffurflen hon yn benodedig a gall rhoddwyr benthyg ddefnyddio arwystl wedi ei deilwrio iw gofynion arbennig eu hunain.

2. Ffurfiau arwystl cymeradwy

Gall rhoddwyr benthyg gael eu holl ffurfiau arwystl wedi eu cymeradwyo gan yr Adran Trefniadau Masnachol ym Mhrif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF. Dawr manteision canlynol o gymeradwyo arwystlon.

  • Nid oes angen ffurflen RX1 ar wah但n i gofrestru cyfyngiad safonol y gwneir cais amdano yn yr arwystl
  • Nid oes angen ffurflen CH2 ar wah但n i gofrestru ymrwymiad i roi benthyciadau pellach y gwneir cais amdano yn yr arwystl
  • Byddwn yn creu codau cyfrifiadurol ar gyfer rhoddwyr benthyg sydd 但 ffurfiau arwystl cymeradwy a fydd yn sicrhau bod eu henwau a chyfeiriad(au) ar gyfer gohebu y cytunwyd arnynt a chofnodion cyfyngiadau ac ymrwymiad priodol yn cael eu cofnodin gywir yn y gofrestr bob amser

Gweler cyfarwyddyd ymarfer 30: cymeradwyo dogfennau morgais am fanylion y broses gymeradwyo.

3. Cais i gofrestru arwystl

I wneud cais, dylech gynnwys y trafodiad arwystl neu arwystl o ran yn eich cais ac uwchlwytho copi ardystiedig o ffurflen arwystl y rhoddwr benthyg ei hunan neu ffurflen CH1 wedi ei llenwi.

Os ywr arwystl gan endid tramor, bydd yn rhaid iddo gydymffurfio 但r gofynion yn Neddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodaeth) 2022. I gael gwybodaeth am y Ddeddf hon a thystiolaeth y maen rhaid ei darparu i Gofrestrfa Tir EF, gweler cyfarwyddyd ymarfer 78: endidau tramor.

Rhaid i arwystl o ran gynnwys cynllun yn nodir eiddo, oni bai y gellir ei adnabod yn glir ar gynllun teitl yr arwystlwr, pryd gellir ei ddisgrifio trwy gyfeirio at y cynllun teitl hwnnw. Os ywr arwystl yn cynnwys cynllun, rhaid ir cymerwr benthyg lofnodir cynllun.

Sylwer y diwygiwyd ffurflen CH1 ar 1 Awst 2022 gan Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2022 iw gwneud yn ofynnol i ddarparu rhif adnabod endid tramor wrth wneud cais i gofrestru arwystl cyfreithiol gan endid tramor. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am hyn yng nghyfarwyddyd ymarfer 78 hefyd. Pan fo arwystl ar ffurf arwystl y rhoddwr benthyg ei hunan, rhaid uwchlwytho rhif adnabod endid tramor y cymerwr benthyg gydar cais.

Nid oes angen uwchlwytho unrhyw ddogfennau morgais corfforedig trwy gyfeiriad yn yr arwystl ei hunan (er enghraifft, rheolau cymdeithas adeiladu, amodau morgais, neu gytundeb benthyciad).

Trefn arwystlon cofrestredig, rhyngddynt eu hunain, ywr drefn y c但nt eu cofnodi mewn cofrestr unigol (adran 48(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, rheol 101 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Fodd bynnag, mae hyn yn ddarostyngedig i gofnod yn y gofrestr unigol ir gwrthwyneb. Os ydych am inni wneud cofnod wrth gofrestru arwystl ir perwyl bod gan yr arwystl flaenoriaeth dros arwystl cofrestredig syn bodoli, dylech nodin glir yn y cais trwy ddarparu cadarnhad ysgrifenedig eich bod am wneud cofnod or fath fel rhan or cais. Maer canlynol yn enghraifft pryd y byddech, o bosibl, am wneud cofnod or fath.

  • Mae arwystl A yn cael ei greu cyn arwystl B (felly mae gan arwystl A flaenoriaeth dros arwystl B, fel y cyntaf o ran amser adran 28(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
  • Caiff rhybudd ei gofnodi yn y gofrestr o ran arwystl A.
  • Wedi hynny, y mae arwystl B yn cael ei gwblhau trwy gofrestriad bryd hyn, effaith nodi arwystl A yw bod ei flaenoriaeth yn cael ei gwarchod fel pe bai yn erbyn arwystl B (adran 29(2)(a)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
  • Yn hwyrach, mae arwystl A hefyd yn cael ei gwblhau trwy gofrestriad.

Gellir dadlau bod cadwr rhybudd o ran arwystl A gyfwerth 但 chofnod yn y gofrestr unigol ir gwrthwyneb ac fellyn caniat叩u i arwystl A gadw ei flaenoriaeth dros arwystl B. Ond efallai yr hoffech hefyd, wrth wneud cais i gofrestru arwystl A, wneud cais am gofnod syn darparun benodol i arwystl A gael blaenoriaeth dros arwystl B. Maen debygol y byddwn yn anfon rhybudd o wrthwynebiad ar berchennog arwystl B cyn gwneud cofnod or fath.

Ni fyddwn yn tynnu ymaith y rhybudd o ran arwystl yn awtomatig wrth gwblhau grant yr arwystl hwnnw trwy gofrestriad wedi hynny, ond byddain ddoeth, wrth wneud cais i gofrestrur arwystl, i nodin glir bod y rhybudd i barhau yn y gofrestr, er mwyn i hyn ddigwydd; gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a chofnodi buddion trydydd parti yn y gofrestr.

Os gwneir cais unigol i gofrestru dau arwystl neu ragor ar yr un pryd, iw cofrestru gyda threfn flaenoriaeth syn wahanol iw dyddiadau creu, sicrhewch eich bod yn nodi trefn y flaenoriaeth yn glir wrth wneud y cais. Mewn achosion or fath, bydd ein systemau gwaith cais yn gosod arwystlon yn nhrefn dyddiad, a chaiff trefn y flaenoriaeth ei hadlewyrchu gan y nodiadau syn cael eu hychwanegu at gofnodion yr arwystl i gadarnhaur drefn maer arwystlon yn graddio rhyngddynt eu hunain (yn unol 但 rheol 101 Rheolau Cofrestru Tir 2003).

4. Arwystlon gan gwmn誰au a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig yn y Deyrnas Unedig

I wneud cais, dylech gynnwys y trafodiad arwystl neu arwystl o ran yn eich cais ac uwchlwytho copi ardystiedig o ffurflen arwystl y rhoddwr benthyg ei hunan neu ffurflen CH1 wedi ei llenwi. Ni ddylid golygur weithred arwystl mewn unrhyw ffordd.

Ar gyfer arwystlon a gr谷wyd gan gwmn誰au a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig yn y Deyrnas Unedig ar neu ar 担l 6 Ebrill 2013, a lle y cyflwynir y cais gan drawsgludwr, rhaid ichi uwchlwythor canlynol hefyd:

  1. Copi or dystysgrif gofrestru a gyhoeddwyd gan D天r Cwmn誰au, a

  2. Cadarnhad ysgrifenedig neu dystysgrif gan y cwmni, rhoddwr benthyg neu drawsgludwr bod yr arwystl a gyflwynwyd iw gofrestru yn:

  • gopi ardystiedig or arwystl gwreiddiol, or hwn y ffeiliwyd copi ohono (neu gopi golygedig o dan adran 859G o Ddeddf Cwmn誰au 2006) yn Nh天r Cwmn誰au
  • copi ardystiedig or arwystl y maer dystysgrif cofrestru a amgaewyd yn berthnasol iddo

Os ydych yn cyflwynor cais ir Gwasanaeth Cofrestru Digidol, maer dystiolaeth ym mhwynt 2 uchod yn cael ei chadarnhau fel rhan or broses ymgeisio.

Os nad ydych yn cyflwynor dystysgrif cofrestru briodol yn Nh天r Cwmn誰au ar cadarnhad ysgrifenedig neu dystysgrif ychwanegol, byddwn yn gwneud nodyn ir cofnod yn y gofrestr yn datgan bod yr arwystl yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 859A o Ddeddf Cwmn誰au 2006 (rheol 111 o Reolau Cofrestru Tir 2003). I gael gwared ar y nodyn, bydd angen cais arnom wedi ei gefnogi gan gopi o orchymyn y llys yn estyn yr amser ar gyfer y cofrestriad lle nad oedd y cofrestriad yn Nh天r Cwmn誰au o fewn 21 diwrnod (ar gyfer arwystlon dyddiedig cyn 6 Mehefin 2020 neu ar neu ar 担l 5 Ebrill 2021) neu 31 diwrnod (ar gyfer arwystlon a gr谷wyd ar neu ar 担l 6 Mehefin 2020 a hyd at 4 Ebrill 2021) o ddyddiad yr arwystl.

Os nad yw trawsgludwr yn cyflwynor cais, bydd angen copi or arwystl a gynhyrchwyd gan D天r Cwmn誰au arnom hefyd, gydar cod adnabod unigryw ar gyfer yr arwystl arno, a ddylai gyfateb 但r cod ar y dystysgrif cofrestru.

4.1 Arwystlon syn cynnwys cynlluniau

Os ywr arwystl yn cynnwys cynllun, dim ond cynllun o faint A4 y bydd T天r Cwmn誰au yn ei dderbyn iw ffeilion electronig. Lle y maer cynllun yn fwy, bydd yn rhaid ichi leihau maint y cynllun a atodwyd at y copi or arwystl a ffeiliwyd yn Nh天r Cwmn誰au. O dan yr amgylchiadau hyn, gallwch newid eich datganiad ysgrifenedig neu dystysgrif i ddweud mair arwystl a gyflwynwyd iw gofrestru ywr:

  • arwystl gwreiddiol or hwn y mae copi (neu gopi golygedig o dan adran 859G o Ddeddf Cwmn誰au 2006) wedi ei ffeilio yn Nh天r Cwmn誰au, ac eithrio bod y cynllun a ffeiliwyd wedi ei leihau mewn maint i gwrdd 但 gofynion ffeilio T天r Cwmn誰au
  • arwystl ir hwn y maer dystysgrif cofrestru a amgaewyd yn gysylltiedig

4.2 Arwystlon sydd wedi eu heithrio rhag cofrestriad yn Nh天r Cwmn誰au

Nid ywr gofyniad i gofrestru yn Nh天r Cwmn誰au yn gymwys i:

  • arwystl o blaid landlord ar flaendal ariannol a roddir fel sicrwydd ar brydles tir
  • arwystl a gr谷wyd gan aelod o Lloyds (o fewn ystyr Deddf Lloyds 1982) i sicrhau ei ymrwymiadau mewn perthynas 但i fusnes yswiriant yn Lloyds
  • arwystl na chafodd ei gynnwys yng nghais adran 859A o Ddeddf Cwmn誰au 2006 neu o dan unrhyw Ddeddf arall

(Sylwer: Nid oes yn rhaid cofrestru arwystlon a gr谷wyd gan gwmn誰au tramor ar neu ar 担l 1 Hydref 2011 yn Nh天r Cwmn誰au ac ni fydd darpariaethau rheol 111A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn gymwys chwaith.)

5. Cais i gofnodi cyfyngiad

Rhaid gwneud cais am gyfyngiad ar ffurflen RX1 oni bai fod y cais am ffurf safonol o gyfyngiad ac yn cael ei wneud ym mhanel 8 ffurflen CH1, neu ei fod am ffurf safonol o gyfyngiad ar ffurf arwystl cymeradwy (rheol 92 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Nid oes ffi yn daladwy o ran y cyfyngiad os cyflwynir y cais iw gofnodi gydar cais i gofrestrur arwystl y maen berthnasol iddo.

Yn gyffredinol, bydd unrhyw gofnod cyfyngiad syn ymwneud yn benodol 但r arwystl syn cael ei ryddhau gennych yn cael ei ddileun awtomatig pan gaiff yr arwystl ei ryddhau. Fodd bynnag, os nad yw cyfyngiad o blaid y rhoddwr benthyg yn cyfeirion benodol at yr arwystl syn cael ei ryddhau, rhaid tynnur cyfyngiad hwnnwn 担l ar wah但n ar ffurflen RX4 gydar cais i gofrestrur rhyddhad. Os na chyflwynir ffurflen RX4, bydd y cyfyngiad yn aros yn y gofrestr.

Gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr.

6. Cais i nodi yn y gofrestr ymrwymiad rhoddwr benthyg i roi benthyciadau pellach

Rhaid gwneud cais i nodi ymrwymiad i roi benthyciadau pellach mewn arwystl nad ywn gymeradwy neu nad yw ar ffurflen CH1 ar ffurflen CH2 neu banel 8 o ffurflen (rheol 108 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Rhaid ir rhoddwr benthyg neu ei drawsgludwr wneud y cais. Nid oes ffi yn daladwy os cyflwynir y cais i nodi ymrwymiad rhoddwr benthyg gyda chais i gofrestrur arwystl y maen berthnasol iddo.

Os na chyflwynir y cais ochr yn ochr 但r arwystl cysylltiedig, gwnewch gais trwy gynnwys y trafodiad rhwymedigaeth i wneud blaenswm pellach yn eich cais ac uwchlwytho ffurflen CH2. Bydd ffi sefydlog yn ddyledus yn unol ag Atodlen 3, Rhan 1(1)(d) y Gorchymyn Ffi.

7. Cais i nodir swm uchaf a gytunwyd mewn arwystl

O dan reol 109 o Reolau Cofrestru Tir 2003, gallwch wneud cais i nodi cytundeb yn y gofrestr am y swm uchaf a gytunwyd mewn arwystl.

Hyd yn oed os caiff swm or fath ei ddatgan yn yr arwystl ei hun, heb ystyried a gafodd yr arwystl ei gymeradwyon flaenorol gennym ni, neu mewn gweithred amrywio ddilynol, rhaid ichi wneud cais i nodir swm uchaf ar ffurflen CH3. I wneud cais, dylech gynnwys y trafodiad uchafswm gwarant y cytunwyd arno yn eich cais ac uwchlwytho ffurflen CH3.

Os yw cytundeb diweddarach yn cael ei wneud i newid y swm uchaf a nodwyd yn y gofrestr, gallwch gyflwyno cais pellach ar ffurflen CH3, ynghyd 但r ffi briodol. Byddwn yn gwneud cofnod ychwanegol yn y gofrestr o ran y swm newydd, ond bydd y cofnod gwreiddiol yn aros ar y gofrestr.

8. Cydgrynhoi arwystl

Os yw arwystl yn cynnwys hawl cydgrynhoi gydag arwystl penodol arall, ni fyddwn yn gwneud cofnod ar y gofrestr, oni bai eich bod yn gwneud cais penodol gan ddefnyddio ffurflen CC yn unol 但 rheol 110 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

I wneud cais, dylid cynnwys y trafodiad cyfuno arwystl yn eich cais ac uwchlwytho ffurflen CC.

9. 酷韓誰看艶糸糸

Mae ffi yn daladwy yn 担l y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: 酷韓誰看艶糸糸 Gwasanaethau Cofrestru).

Nid oes dim iw dalu os caiff yr arwystl ei gyflwyno ar yr un pryd neu cyn cwblhau rhai mathau o geisiadau lle talwyd eisoes. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir.

10. Dogfennau a gyhoeddir wrth gwblhau

Yr unig ddogfennau y byddwn yn eu cyhoeddi wedi cwblhau cais i gofrestru arwystl yw:

  • copi swyddogol or gofrestr yn dangos y cofnodion sydd yn y gofrestr wrth gwblhau eich cais
  • taflen cwblhaur gofrestr syn cadarnhau y cwblhawyd eich cais ac syn egluro pwysigrwydd cadw gwybodaeth y gofrestr yn gyfredol

11. Gohiriad arwystl

I wneud cais i gofrestru gohiriad arwystl, dylech gynnwys y trafodiad arwystl gohirio yn eich cais ac uwchlwytho copi ardystiedig or llythyr neu weithred ohirio.

11.1 Gohirio trwy lythyr

Rhaid ir llythyr gohirio fod:

  • ar bapur pennawd y rhoddwr benthyg syn gohirio ei arwystl
  • wedi ei lofnodi gan y rhoddwr benthyg syn gohirio ei arwystl
  • wedi ei gyfeirio at naill ai Cofrestrfa Tir EF neu at y rhoddwr benthyg y mae ei arwystl yn ennill blaenoriaeth.

Nid oes yn rhaid ir llythyr gael ei lofnodi naill ai gan y rhoddwr benthyg y mae ei arwystl yn ennill blaenoriaeth neu berchennog cofrestredig y tir.

Gweler isod am lofnodwyr derbyniol.

Rhoddwr benthyg Llofnodwyr derbyniol
Banc neu gymdeithas adeiladu Dylair llofnodwr roi ei statws neu safle a ddylai fod yn gyfarwyddwr, ysgrifennydd, cyfreithiwr neu reolwr. Byddwn hefyd yn derbyn y llythyr os ywr llofnodwr yn cadarnhau ei fod yn llofnodwr awdurdodedig.
Cwmni Dylair llofnodwr fod yn ysgrifennydd y cwmni, cyfarwyddwr neu gyfreithiwr y cwmni.
Y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol Dylair llofnodwr fod yn berson syn dal safle, neu safle gyfwerth 但 Gradd 7 neu uwch y Gwasanaeth Sifil.
Awdurdod lleol Y Prif Weithredwr ddylai lofnodi, neu gyfreithiwr neu rywun syn cadarnhau bod ganddo awdurdod wedi ei ddirprwyo i lofnodi o dan benderfyniad gan yr awdurdod lleol a dyddiad yr awdurdod a ddirprwywyd.

11.2 Gohirio trwy weithred

Rhaid ir weithred gael ei chyflawnin ddilys gan y rhoddwr benthyg y mae ei arwystl yn cael ei ohirio. Nid oes yn rhaid iddo gael ei gyflawni gan y rhoddwr benthyg y mae ei arwystl yn ennill blaenoriaeth neu berchennog cofrestredig y tir.

11.3 Ffioedd

Mae ffi sefydlog yn daladwy o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir oni bai bod y gohiriad yn cael ei gyflwyno ar yr un pryd 但 chais y talwyd ffi ar raddfa neu ffi sefydlog ar ei gyfer (gweler Cofrestrfa Tir EF: 酷韓誰看艶糸糸 Gwasanaethau Cofrestru).

11.4 Cydsynio i gyfyngiad

Os oes cyfyngiad Ffurf P yn y gofrestr o blaid y rhoddwr benthyg syn gohirio, nid oes angen caniat但d ar wah但n i gofrestru:

  • y gohiriad ei hun
  • cofrestriad arwystl newydd syn cymryd blaenoriaeth yr arwystl syn cael ei ohirio.

Mae caniat但d yn cael ei ymhlygu trwy lofnodi neu weithredur gohiriad. Maer rhan fwyaf o gyfyngiadau arwystlai ar Ffurf P.

Os oes cyfyngiad yn y gofrestr o blaid y rhoddwr benthyg syn gohirio ar Ffurf N neu Ffurf T:

  • lle y maer cyfyngiad yn gofyn am ganiat但d ysgrifenedig unigolyn penodol (ysgrifennydd neu drawsgludwr yr arwystlai fel arfer), mae gohiriad wedi ei gyflawni neu wedi ei lofnodi gan yr unigolyn hwnnwn dderbyniol fel tystiolaeth o ganiat但d. Os ywr gohiriad yn cael ei gyflawni neu ei lofnodi gan unigolyn gwahanol, mae angen caniat但d ar wah但n
  • lle y maer cyfyngiad wedi ei eirio fel ei fod yn gofyn am ganiat但d ysgrifenedig wedi ei lofnodi gan [enwr cwmni] o [cyfeiriad] nid oes angen caniat但d ar wah但n os ywr cwmni a enwyd yn y cyfyngiad wedi cyflawni neu lofnodir gohiriad.

11.5 Cofnodion y gofrestr

12.5.1 Gohirio un arwystl cofrestredig i un arall

Mae blaenoriaethaur arwystlon dyddiedig [dyddiad] [o blaid ] a [dyddiad] [o blaid ..] y cyfeirir atynt uchod wedi cael eu newid gan [llythyr/gweithred] dyddiedig [dyddiad].

12.5.2 Gohirio arwystl a gytunwyd neu arwystl unochrog syn gwarchod budd ariannol i arwystl cofrestredig dilynol

Maer blaenoriaethau rhwng yr arwystl cofrestredig dyddiedig [dyddiad] [o blaid .] y cyfeirir ato uchod ar [math o fudd, er enghraifft arwystl ecwit誰ol] o blaid [enwr buddiolwr] syn cael eu gwarchod gan y rhybudd y cyfeirir at uchod hefyd wedi cael eu newid gan [llythyr/gweithred] dyddiedig [dyddiad].

12.5.3 Gohirio Gweithred Blaenoriaeth Cymorth Prynu

Maer blaenoriaethau rhwng yr arwystlon dyddiedig [dyddiad] [o blaid .] a [dyddiad] [o blaid ] y cyfeirir atynt uchod wedi cael eu newid gan [llythyr/gweithred] dyddiedig [dyddiad] a ysgogwyd gan femorandwm cais dyddiedig [dyddiad].

12.5.4 Gohirio arwystl disgownt

Maer blaenoriaethau rhwng yr arwystl disgownt y cyfeirir ato uchod ar arwystl dyddiedig [dyddiad] [o blaid ] y cyfeirir ato uchod wedi cael eu newid gan [llythyr/gweithred] dyddiedig [dyddiad].

12. Gweithredoedd amrywio arwystl cofrestredig

12.1 Cyffredinol

Dylech wneud cais i gofrestru gweithred amrywio gan gynnwys y trafodiad amrywio arwystl ac uwchlwytho copi ardystiedig or weithred.

Bydd ein Hadran Trefniadau Masnachol ym Mhrif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF yn cymeradwyo gweithredoedd amrywio ar gais. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 30: cymeradwyo dogfennau morgais i gael rhagor o wybodaeth.

Ni allwch wneud cais am gyfyngiad nac am gofnod i ddangos bod ymrwymiad ar roddwr benthyg i roi benthyciadau pellach mewn gweithred amrywio. Os oes angen y cofnodion hyn arnoch, rhaid ichi wneud ceisiadau ar wah但n ar ffurflen RX1 a ffurflen CH2 yn 担l eu trefn.

12.2 Cyflawni

Er bod yn rhaid ir cymerwr benthyg gyflawnir weithred amrywio, nid oes unrhyw ofyniad bod y rhoddwr benthyg yn gwneud yr un fath. Byddwn yn derbyn y bydd y rhoddwr benthyg yn rhwym o dan deleraur amrywiad os yw naill air rhoddwr benthyg neu ymarferydd yn gweithredu ar ran y rhoddwr benthyg yn cyflwynor weithred.

Maen ofynnol o dan reol 113 o Reolau Cofrestru Tir 2003 eich bod yn gwneud cais i gofrestru gweithred amrywio gyda chaniat但d perchennog unrhyw arwystl cofrestredig (a pherchennog unrhyw is-arwystl syn deillion uniongyrchol neun anuniongyrchol or arwystl) o flaenoriaeth gyfartal neu is nar arwystl syn cael ei amrywio, os yw teleraur amrywiad yn effeithion niweidiol ar y rhoddwr benthyg arall, oni bai fod y perchennog hwnnw wedi cyflawnir weithred eu hunan neu os nad oes angen y caniat但d o dan delerau ei arwystl neu is-arwystl.

Ein barn yw nad yw newidiadau ir mathau canlynol yn effeithion niweidiol ar arwystl (ar is-arwystl ohono) sydd 但 blaenoriaeth gyfartal neu is.

  • gostyngiad yn y gyfradd log
  • gostyngiad yn y ddyled gyfalaf

Fodd bynnag, ystyriwn fod unrhyw newidiadau sydd naill ain:

  • cynyddur gyfradd log
  • cynyddur cyfalaf
  • ymestyn cyfnod yr arwystl ac unrhyw is-arwystl ohono cynharach
  • creu ymrwymiad i roi benthyciadau pellach, o fath all effeithio er gwaeth ar unrhyw arwystl (ac unrhyw is-arwystl ohono) gyda blaenoriaeth gyfartal neu is

O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i berchennog unrhyw arwystl (ac is-arwystl) syn cael ei effeithio er gwaeth gyflawnir weithred; neu roi caniat但d ysgrifenedig i gofrestrur weithred amrywio. Rhaid ichi gyflwynor caniat但d, neu dystysgrif trawsgludwr ei fod yn dal y caniat但d gofynnol, gydar cais am weithred amrywio.

Fel arall, gall perchennog unrhyw arwystl or fath gadarnhau nad ywn ystyried bod teleraur amrywiad yn effeithio er gwaeth ar ei arwystl neu is-arwystl ac, o ganlyniad, ei fod yn teimlo nad oes angen iddo gyflawnir weithred na chyflwyno caniat但d.. Fodd bynnag, yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth, ni fyddwn yn gwneud ymholiad. Yn lle hynny, byddwn yn gwneud cofnod heb warant yn y gofrestr fel a ganlyn:

Mae gweithred ddyddiedig __ a wnaed rhwng __ yn mynegi newid teleraur Arwystl dyddiedig __ y cyfeiriwyd ato uchod.

NODYN: Copi yn y ffeil.

12.3 酷韓誰看艶糸糸

Mae ffi yn daladwy yn 担l y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: 酷韓誰看艶糸糸 Gwasanaethau Cofrestru).

13. Morgeisi digidol

Gweithred morgais sydd wedi ei chreu, ei llofnodi ai dyddion electronig gan ddefnyddio gwasanaeth morgais digidol Cofrestrfa Tir EF, syn rhan o rwydwaith Cofrestrfa Tir EF o dan adran 92 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, yw morgais digidol. Gwneir y morgais digidol o dan adran 91 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, a (chyn 6 Ebrill 2018) o dan Reolau Cofrestru Tir (Trawsgludo Electronig) 2008. Ar 6 Ebrill 2018 ac ar 担l hynny, di-rymir y Rheolau hynny, a bydd rheolau 54A i D o Reolau Cofrestru Tir 2003 (fel yu diwygiwyd) yn berthnasol. Mae hyn yn golygu y bydd y morgeisi digidol a gr谷ir trwyr gwasanaeth morgais digidol yn cael eu hystyried ar gyfer pob diben deddfwriaethol fel gweithredoedd.

Ni fydd angen tystio morgeisi digidol, gan fod y broses llofnod electronig, i bob pwrpas, yn gweithredu fel system notar誰ol ar-lein. Caiff hunaniaeth y cymerwr benthyg ei gwirio cyn ei llofnodi a chaiff y llofnod ei ardystio.

Er bod y weithred morgais digidol yn gwbl electronig, bydd modd cael cop誰au swyddogol or weithred ar ffurf PDF, unwaith y bydd wedi ei chofrestru. Mae gweithred morgais ddigidol yn wahanol i weithred morgais ar bapur mewn sawl ffordd:

  • mae ganddir pennawd Digital Mortgage Deed
  • maen cynnwys y datganiad: This charge takes effect when the registrar receives notification from [enwr trawsgludwr] that the charge is to take effect ar dyddiad y daeth y weithred i rym
  • maen cynnwys cynrychiolaeth deipograffyddol o lofnod digidol y cymerwr benthyg, megis: Signed by Jane Louise Smith

13.1 Y gwasanaeth morgais digidol

Maer gwasanaeth morgais digidol yn wasanaeth syn galluogi trawsgludwr i greu gweithred morgais ddigidol. Gellir ei ddefnyddio i greu ail-forgeisi ar eiddo syn bodoli cymerwr benthyg yn unig.

Bydd cymerwr benthyg yn gallu cael gafael ar ei weithred morgais digidol gan ddefnyddio gwefan Sign Your Mortgage Deed. Bydd angen ir cymerwr benthyg brofi ei hunaniaeth gan ddefnyddio 51画鋼 Verify. Unwaith y bydd hunaniaeth y cymerwr benthyg wedi ei chadarnhau, bydd yn gallu llofnodi ei weithred yn electronig. Mae hyn yn cynnwys cadarnhau ei fod yn llofnodi ei weithred trwy gofnodi cod sydd wedi ei anfon at ei ff担n symudol. Unwaith y bydd y cymerwr benthyg wedi llofnodir weithred, gall y trawsgludwr gwblhaur trafodiad a gwneud cais i gofrestru.

Mae defnyddio 51画鋼 Verify yn wiriad hunaniaeth ychwanegol ar adeg llofnodi. Nid yw defnyddior gwasanaeth yn newid y gofynion i drawsgludwr ymgymryd 但u gwiriadau hunaniaeth eu hunain yn unol 但 chyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth.

13.2 Sut i ddefnyddior gwasanaeth morgais digidol

Rhaid i drawsgludwyr fod wedi cofrestru i ddefnyddio Business Gateway ac wedi llofnodi Cytundeb Mynediad ir Rhwydwaith Cofrestrfa Tir EF er mwyn defnyddior gwasanaeth. Bydd angen iddynt hefyd fod wedi datblygur gallu TG perthnasol i ddefnyddior gwasanaeth.

Bydd rhoddwr benthyg syn ymgymryd 但i drawsgludon fewnol yn gallu defnyddior gwasanaeth hefyd. Er mwyn defnyddior gwasanaeth, bydd angen cymeradwyo gweithred morgais ddigidol y rhoddwr benthyg ymlaen llaw, a chael cyfeirnod e-MD.

14. Pethau iw cofio

Gwnewch yn siwr:

  • bod yr arwystl ar ffurf syn gymeradwy inni
  • os nad yw, ac os nad ywr arwystl ar ffurflen CH1:
    • dylai eich cais gynnwys ffurflen RX1 i gofnodi cyfyngiad hefyd
    • dylai eich cais gynnwys ffurflen CH2 i nodi ymrwymiad i roi benthyciadau pellach hefyd
  • os mai endid tramor ywr cymerwr benthyg, eich bod wedi cydymffurfio 但r gofynion yn Neddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodaeth) 2022
  • eich bod wedi uwchlwytho ffurflen CH3 os oes angen cofnod yn y gofrestr i nodir swm uchaf a gytunwyd mewn arwystl
  • os yw eich cais yn cynnwys gweithred amrywio, bod yr holl bart誰on gofynnol wedi cyflawnir weithred ach bod wedi cynnwys y caniat但d angenrheidiol

Sylwer, efallai na fydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu prosesu ceisiadau syn anghyflawn neun ddiffygiol, a bydd eich cais mewn perygl o golli ei flaenoriaeth os byddwn yn gorfod ei ddychwelyd atoch gweler cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru am ragor o wybodaeth.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.