Dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru (cyfarwyddyd ymarfer 49)
Diweddarwyd 27 Awst 2024
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelun bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 但 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
I weld hanes diweddariadaur cyfarwyddyd ymarfer hwn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 49: hanes diweddariadau.
1. Cyflwyniad
Maer cyfarwyddyd hwn yn rhoi cyngor ar sut i osgoi gwrthod ceisiadau i newid y gofrestr. Maen rhoi enghreifftiau o ddiffygion rydym yn ystyried eu bod yn ddigon difrifol i wrthod y cais a dychwelyd y papurau.
Rydym wedi adolygun polisi gwrthod fel y byddwn, fel rheol, yn gwrthod dim ond ceisiadau nad oes disgwyl iddynt lwyddo (gweler Enghreifftiau o geisiadau nad oes disgwyl iddynt gael eu cymeradwyo); neu rai a ddil谷wyd yn flaenorol ac syn cael eu hailgyflwyno heb ddelio 但r pwyntiau dileu. Rydym hefyd yn gwrthod ceisiadau a gyflwynir yn electronig na ch但nt eu cyflwyno gan y cwsmer a enwir ym mhanel 7 yr AP1, eAP1 neu gyfwerth, oherwydd dim ond y cwsmer syn cyflwyno sydd wedi cytuno i gael ei rwymo gan amodau defnyddior porthol.
Lle y gallwn adnabod diffygion sylweddol yn y cais, byddwn hefyd yn egluro pa gamau y maen rhaid eu cymryd i osgoi gwrthod pan gaiff y cais ei ailgyflwyno.
Caiff pob pwynt arall a fyddai (o dan ein polisi gwrthod blaenorol) wedi peri ir cais gael ei wrthod, ei godi bellach fel ymholiadau.
Am wybodaeth gyffredinol am ymholiadau ac awgrymiadau ar sut iw hosgoi gweler cyfarwyddyd ymarfer 50: trefnau ymholi a dileu.
2. Ystyr gwrthod
Yn 担l rheol 16(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003, gallwn wrthod cais ar 担l ei dderbyn neu ei ddileu ar unrhyw bryd lle maen ymddangos i ni ei fod yn sylweddol ddiffygiol. Yn y cyfarwyddyd hwn rydym yn defnyddior term gwrthod ar gyfer pob enghraifft lle bo rheol 16(3) yn briodol.
Gallwn wrthod ceisiadau lle y maer diffygion ynddynt yn parhau heb eu datrys yn dilyn trafodaethau rhyngom ni ar ceisydd.
Os cymerir y camau hyn yn eithriadol, caiff rhybudd ei anfon yn nodir diffygion a fydd yn arwain at y gwrthod ar cyfnod y bydd y gwrthod yn gymwys.
Pan fyddwn yn gwrthod cais, byddwn yn dychwelyd yr holl bapurau a dogfennau a gyflwynwyd yn wreiddiol at yr anfonwr. Byddwn hefyd yn datgan y rheswm dros y gwrthodiad fel bod modd datrys hyn cyn ei ailgyflwyno. Mae cais a wrthodwyd yn colli ei flaenoriaeth. Bydd unrhyw daliad a anfonwyd gydar cais yn cael ei ddychwelyd neu ei ad-dalu oni bai y cyflwynwyd y cais ar bapur ai fod yn cael ei wrthod ar 担l inni ddechrau ei brosesu. Os felly, byddwn yn cadwr taliad a naill ain ei gredydu i gais newydd neun rhoi ad-daliad ar gais.
3. Terfyn amser ar wrthod
Ein nod yw canfod unrhyw ddiffygion a gwrthod cais ar ddiwrnod ei dderbyn. Ni fyddwn, fel rheol, yn gwrthod cais sydd wedi bod gyda ni am 5 niwrnod gwaith ond byddwn yn gwneud hynny o dan rai amgylchiadau, gan gynnwys:
- lle nad oes gan y cais obaith o lwyddo
- lle cyflwynir y cais heb ffi
- lle bor cais i ryddhau arwystl
Lle na fydd cais yn cael ei wrthod, bydd yn cadw ei flaenoriaeth a byddwn yn delio 但r mater trwy ymholiad.
4. Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau
Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf.
Hyd at Hydref 2024, gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail cop誰au ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr derbyn cop誰au ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.
Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond cop誰au ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio or dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chop誰au ardystiedig.
Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gop誰au gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.
Wrth lanlwytho dogfennau, byddwch yn gallu ardystio unrhyw ddogfennau wedi eu sganio trwy gadarnhau eu bod yn gopi gwir or gwreiddiol gan ddefnyddior datganiadau ardystio sydd ar gael.
Mae hyn yn golygu os yw eich cais yn cael ei ddychwelyd atoch, cop誰au or dogfennau a sganiwyd a anfonir atoch.
5. Enghreifftiau o geisiadau nad oes disgwyl iddynt gael eu cymeradwyo
5.1 Buddion na ellir eu cofrestru
Mae buddion na ellir eu cofrestrun cynnwys:
- mathau penodol o brydlesi a roddir am ddim hirach na 7 mlynedd
- gwarediadau buddion ecwit誰ol
- prydles a ddylai fod, ond nad yw, yn brydles cymalau penodedig
5.2 Nid oes hawl gan y ceisydd wneud cais oherwydd nid ywr ystad gyfreithiol wedi ei breinio ynddo
Er enghraifft buddiolwr o dan ewyllys nad ywr ystad gyfreithiol wedi ei breinio ynddo.
5.3 Ceisiadau i gofnodi cyfyngiadau
Lle y maer canlynol yn wir am gais i gofnodi cyfyngiad:
- nid oes hawl o dan adran 42 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002
- mae warchod dyled heb ei gwarantu
- mae am gyfyngiad Ffurf A lle y mae cyfyngiad or fath eisoes yn y gofrestr
5.4 Meddiant gwrthgefn
Cais am feddiant gwrthgefn lle:
- y cyflwynir y math anghywir o gais, fel FR1 pan for tir yn gofrestredig
- y mae amser annigonol yn cael ei hawlio i arwain at feddiant gwrthgefn
- y maer dystiolaeth o feddiant yn annigonol
5.5 Rhybuddion
Rhybuddion lle:
- nad oes budd wedi ei ddangos
- y maer budd o dan ymddiried
- y maer budd mewn prydles tymor byr
6. Rhestr adolygu ceisiadau: osgoi gwrthod ceisiadau i gofrestru
Maer wybodaeth isod yn dangos ein meini prawf, gan roi awgrymiadau ar sut i osgoi gwrthodiad. Oherwydd natur hynod amrywiol y ceisiadau a dderbyniwn, nid ywr rhestr yn cynnwys popeth. Fe all fod enghreifftiau prin lle bo gan gais ddiffyg sylweddol nad ywn cael sylw yn y cyfarwyddyd hwn.
Gweler hefyd cyfarwyddyd ymarfer 50: trefnau ymholi a dileu am awgrymiadau ar osgoi ymholiadau.
6.1 Cynlluniau i weithredoedd gyda deliadau 但 rhan a phrydlesi
Mae pob un or gofynion hyn yr un mor berthnasol i gynlluniau syn dod gyda chwiliadau trwy ffurflen OS2 neu ffurflen OS3.
Rydym yn gwrthod
Rydym yn gwrthod ceisiadau lle y maen amhosibl nodi maint y tir syn destun y cais, megis:
- lle bor weithred yn cyfeirio at gynllun ond nad yw ynghlwm
- lle nad oes modd cyfateb y maint ar y cynllun i fap yr Arolwg Ordnans
- lle nad ywr maint ar y cynllun wedi ei ddiffinion eglur, megis trwy ymylu, lliwio neu linellu
- y maer cynllun wedi ei wyrdroin sylweddol i atal nodir maint
Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod
- rhaid amg叩u cynllun gyda throsglwyddiadau, arwystlon a phrydlesi o ran oni bai fod modd dynodir rhan yn eglur naill ai:
- tu hwnt i amheuaeth ar gynllun teitl y prydleswr neu werthwr or disgrifiad yn nhestun y weithred
- trwy gyfeirio at union liwiad ar gynllun teitl y prydleswr neu werthwr, er enghraifft dangoswyd wedi ei liwion las ar gynllun teitl rhif teitl . Rhaid iddo beidio 但 chyfeirio at gynllun ystad cymeradwy
- sicrhewch nad yw unrhyw ymylon yn rhy drwchus ac yn cuddio unrhyw fanylyn arall ar y cynllun. Ar gynllun ar raddfa fechan gall llinellau trwchus fod yn amryw fetrau ar draws yn y maes. Os na allwn benderfynur union faint, gallwn wrthod y cais
- byddwn yn derbyn ymwadiad syn ymddangos ar gynlluniau gweithredoedd a gr谷wyd gan National Grid Gas ccc (Rhif Cofrestru Cwmni 2006000) (Transco ccc gynt) lle bor ymwadiad yn berthnasol i leoliad a/neu fodolaeth pibelli, offer ac ati
- dylid paratoi unrhyw gynllun ar gyfer gweithred neu gais newydd gyda golwg ar y canllawiau canlynol. Mae rhagor o wybodaeth iw chael yng nghyfarwyddyd ymarfer 40: Cynlluniau Cofrestrfa Tir EF: trosolwg.
- tynnu a dangos ar ei wir raddfa
- dangos ei ogwydd (ee gogledd)
- defnyddio graddfeydd ffafriedig o 1/1250 1/500 ar gyfer eiddo trefol
- defnyddio graddfeydd ffafriedig o 1/2500 ar gyfer eiddo gwledig (caeau a ffermydd ac ati)
- peidio 但 seilio ar raddfa o fesuriad imperial (er enghraifft, 16 troedfedd i 1 fodfedd)
- peidio 但 gostwng y raddfa (gweler cyfarwyddyd ymarfer 40: Cynlluniau Cofrestrfa Tir EF: trosolwg
- peidio 但 nodi na chyfeirio ato fel bod at ddiben dynodin unig
- peidio 但 dangos datganiadau ymwadiad syn cael eu defnyddio o dan Ddeddf Camddisgrifiadau Eiddo 1991
- dangos manylion digonol iw adnabod ar fap yr Arolwg Ordnans
- dangos ei leoliad cyffredinol trwy ddangos ffyrdd, cyffyrdd neu dirnodau eraill
- dangos tir yr eiddo, gan gynnwys tir unrhyw fodurdy neu ardd
- dangos adeiladau yn eu lle cywir (neu arfaethedig
- dangos mynedfeydd neu lwybrau os ydynt yn ffurfio rhan o derfynaur eiddo
- dangos y tir ar eiddon eglur (er enghraifft, trwy ymylu, lliwio neu linellu)
- bod ag ymylon o drwch nad ydynt yn cuddio unrhyw fanylion eraill
- dangos rhannau ar wah但n trwy farciau addas ar y cynllun (t天, man parcio, lle biniau)
- nodi gwahanol lefelau lloriau (pan fon briodol)
- dangos terfynau cymhleth gyda chynllun ar raddfa fwy neu gynllun mewnosod
- dangos mesuriadau mewn unedau metrig yn unig, i 2 le degol
- dangos terfynau amhenodol yn gywir a, lle bo angen, trwy gyfeirio at fesuriadau
- dangos mesuriadau syn cyfateb, cyn belled ag y bo modd, i fesuriadau graddedig
6.2 Cynlluniau i weithredoedd gyda chofrestriadau cyntaf
Rydym yn gwrthod
- lle bor weithred neu ffurflen FR1 yn cyfeirio at gynllun ond nad yw ynghlwm
- lle nad oes unrhyw gynllun a bod disgrifiad y tir iw gofrestru yn annigonol
- lle nad oes modd cysylltur stent ar y cynllun 但 map yr Arolwg Ordnans
6.3 Gwneud cais am gofrestriad cyntaf
Rydym yn gwrthod ceisiadau:
- lle cyflwynir ffurflen gais AP1 yn lle ffurflen gais FR1
- lle nad yw panel 3 y ffurflen FR1 wedi ei gwblhau (stent y tir iw gofrestru)
- lle nad yw panel 5 y ffurflen FR1 wedi ei gwblhau na ffi wedi ei chyflwyno (gwerth y tir ar ffi a dalwyd) (ni chynhwysir ceisiadau syn cynnwys datganiadau statudol yn ymwneud 但 meddiant gwrthgefn neu weithredoedd coll yn y pwynt gwrthod hwn)
- lle nad yw panel 12 y ffurflen FR1 wedi ei gwblhau (tystysgrif teitl)
6.4 Cofrestru prydlesi newydd
6.3.1 A roddwyd ar neu ar 担l 13 Hydref 2003 allan o dir cofrestredig
Maer adran hon yn berthnasol i brydlesi a roddwyd allan o dir a gofrestrwyd eisoes ar ddyddiad y grant. Os cofrestrwyd y teitl rifersiwn ar 担l dyddiad y grant, yna mae A roddwyd ar neu ar 担l 13 Hydref 2003 allan o dir digofrestredig yn berthnasol.
Rydym yn gwrthod
- ceisiadau i gofrestru prydlesi a roddwyd am gyfnod o 7 mlynedd neu lai o ddyddiad y grant oni bai:
- y gwnaed y brydles yn unol 但 Rhan 5 neu adran 171A o Ddeddf Tai 1985, heb ystyried y cyfnod
- ei bod yn brydles amharhaol, heb ystyried y cyfnod
- ei bod yn brydles a roddwyd allan o ystad syn rhyddfraint neu faenor heb ystyried y cyfnod
- ei bod yn brydles rifersiwn sydd naill ai:
- yn brydles syn dod i rym 但 meddiant ar 担l diwedd cyfnod o fwy na thri mis o ddyddiad y grant, heb ystyried y cyfnod
- yn brydles sydd i ddod i rym o fewn mis i ddiwedd prydles gyfredol 但 meddiant, or un tir, ir un person, ond bod cyfnodaur 2 brydles syn weddill gydai gilydd yn dod i fwy na 7 mlynedd ar y dyddiad cofrestru
- ceisiadau i gofrestru prydlesi lle nad oes dyddiad dechrau sicr ir brydles
- ceisiadau i gofrestru prydlesi lle bor prydleswr ar prydlesai yr un person oni bai y daw llythyr gydar cais i egluro pam nad yw Rye yn erbyn Rye [1962] A C 496 yn berthnasol
- ceisiadau i gofrestru prydlesi (sydd 但 rhent neu bremiwm yn daladwy arnynt) lle bor cyfnod yn dechrau dros 21 mlynedd o ddyddiad y brydles
- ceisiadau i gofrestru prydlesi partneriaeth gyhoeddus-breifat
- bydd ceisiadau i gofrestru prydlesi a roddwyd ar neu ar 担l 19 Mehefin 2006 syn gorfod cynnwys y cymalau penodedig yn 担l Atodlen 1A i Reolau Cofrestru Tir 2003 yn rhinwedd rheol 58A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn cael eu gwrthod naill ai lle:
- nad ydynt yn cynnwys y cymalau penodedig
- na chwblhawyd unrhyw un o gymalau LR4
Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod
- maen ofynnol i chi gofrestru prydles a roddwyd am gyfnod o fwy na 7 mlynedd o ddyddiad y grant, hyd yn oed os oes 7 mlynedd neu lai or cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar y dyddiad cofrestru
- rhaid cyflwyno ceisiadau i gofrestrur prydlesi syn dod o dan yr adran hon trwy ddewis prydles newydd oni bai ei bod yn brydles rifersiwn syn dod i rym o fewn un mis i ddiwedd prydles gyfredol 但 meddiant, or un tir, ir un person. Nid oes modd cofrestru prydlesi or fath ond trwy gais gwirfoddol ar ffurflen FR1, lle bo cyfnodaur 2 brydles syn weddill gydai gilydd yn dod i fwy na 7 mlynedd ar y dyddiad cofrestru
- enghreifftiau o brydles amharhaol yw cyfnodrannu a phrydlesi marchnad (hawl i fasnachu ar ddiwrnodau arbennig or wythnos am gyfnod o flynyddoedd)
- mae modd nodi prydles nad oes modd ei chofrestru ei hunan, neu nad oes angen ei chofrestru, ar gyfer teitl y prydleswr gweler Nodi prydlesi, ac opsiynau a hawddfreintiau mewn prydlesi, ar gyfer teitl y prydleswr.
- fodd bynnag gall prydles nad oes modd ei chofrestru ei hunan gynnwys budd y mae modd ei nodi ar gyfer teitl y prydleswr gweler Nodi prydlesi, ac opsiynau a hawddfreintiau mewn prydlesi, ar gyfer teitl y prydleswr
- gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig i gael rhagor o wybodaeth am ofynion prydlesi cymalau penodedig ac i gael manylion y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cwblhau pob cymal a roddwyd ar neu ar 担l 13 Hydref 2003 allan o dir digofrestredig
6.3.2 A roddwyd ar neu ar 担l 13 Hydref 2003 allan o dir digofrestredig
Maer adran hon yn berthnasol i brydlesi a roddwyd allan o dir oedd yn ddigofrestredig ar ddyddiad y grant, heb ystyried a ywr teitl rifersiwn wedi ei gofrestru ar y dyddiad cofrestru.
Rydym yn gwrthod
- ceisiadau i gofrestru prydlesi a roddwyd am gyfnod o 7 mlynedd neu lai o ddyddiad y grant oni bai:
- y gwnaed y brydles yn unol 但 Rhan 5 neu adran 171A o Ddeddf Tai 1985, heb ystyried y cyfnod
- ei bod yn brydles amharhaol, heb ystyried y cyfnod
- ei bod yn brydles a roddwyd allan o ystad syn rhyddfraint neu faenor heb ystyried y cyfnod
- ei bod yn brydles rifersiwn sydd naill ain:
- ystad rydd-ddaliol ddigofrestredig
- ystad brydlesol ddigofrestredig oedd, ar ddyddiad rhoir brydles rifersiwn, 但 mwy na 7 mlynedd oi chyfnod gwreiddiol heb ddarfod, syn dod i rym 但 meddiant ar 担l diwedd cyfnod o fwy na thri mis o ddyddiad y grant, heb ystyried y cyfnod
- yn brydles sydd i ddod i rym o fewn un mis i ddiwedd prydles gyfredol 但 meddiant, or un tir, ir un person, ond bod cyfnodaur 2 brydles syn weddill gydai gilydd yn dod i fwy na 7 mlynedd ar y dyddiad cofrestru
- ceisiadau i gofrestru prydlesi lle nad oes dyddiad dechrau sicr ir brydles
- ceisiadau i gofrestru prydlesi lle bor prydleswr ar prydlesai yr un person oni bai y daw llythyr gydar cais syn egluro pam nad yw Rye yn erbyn Rye [1962] A C 496 yn berthnasol
- ceisiadau i gofrestru prydlesi (sydd 但 rhent neu bremiwm yn daladwy arnynt) lle bor cyfnod yn dechrau dros 21 mlynedd o ddyddiad y brydles
- ceisiadau i gofrestru prydlesi partneriaeth gyhoeddus-breifat
Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod
- maen ofynnol i chi gofrestru prydles a roddwyd am gyfnod o fwy na 7 mlynedd o ddyddiad y grant, hyd yn oed os oes 7 mlynedd neu lai or cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar adeg cofrestru
- rhaid cyflwyno ceisiadau i gofrestrur prydlesi syn dod o dan yr adran hon fel naill ai cofrestriad cyntaf gorfodol neu wirfoddol ar ffurflen FR1. I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cyfarwyddyd ar sut i wneud ceisiadau i Gofrestrfa Tir EM, gweler cyfarwyddyd ymarfer 25: prydlesi: pryd i gofrestru
- enghreifftiau o brydles amharhaol yw cyfnodrannu a phrydlesi marchnad (hawl i fasnachu ar ddiwrnodau arbennig or wythnos am gyfnod o flynyddoedd
- mae modd nodi prydles nad oes modd ei chofrestru ei hunan, neu nad oes angen ei chofrestru, ar gyfer teitl y prydleswr gweler Nodi prydlesi, ac opsiynau a hawddfreintiau mewn prydlesi, ar gyfer teitl y prydleswr
- fodd bynnag gall prydles nad oes modd ei chofrestru ei hunan gynnwys budd y mae modd ei nodi ar gyfer teitl y prydleswr gweler Nodi prydlesi, ac opsiynau a hawddfreintiau mewn prydlesi, ar gyfer teitl y prydleswr
6.5 Cofrestriad cyntaf ystad brydlesol bresennol a roddwyd cyn 13 Hydref 2003
Maer adran hon yn berthnasol:
- i ystadau prydlesol a roddwyd allan o naill ai dir cofrestredig neu ddigofrestredig
- lle na fu digwyddiad i beri cofrestriad gorfodol
Os bu digwyddiad peri cofrestriad (fel trosglwyddiad trwy werthu), mae Trosglwyddiadau, aseiniadau a morgeisi cyfreithiol cyntaf gwarchodedig dyddiedig ar neu ar 担l 13 Hydref 2003 o ystad brydlesol ddigofrestredig yn berthnasol.
Rydym yn gwrthod
- ceisiadau i gofrestru prydlesi lle bo 7 mlynedd neu lai or cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar y dyddiad cofrestru, am nad oes modd eu cofrestru, oni bai naill ai:
- y gwnaed y brydles yn unol 但 Rhan 5 neu adran 171A o Ddeddf Tai 1985, heb ystyried y cyfnod
- ei bod yn brydles amharhaol, heb ystyried y cyfnod
- ei bod yn brydles rifersiwn sydd i ddod i rym o fewn un mis i ddiwedd prydles gyfredol 但 meddiant, or un tir, ir un person, ond bod cyfnodaur 2 brydles syn weddill gydai gilydd yn dod i fwy na 7 mlynedd ar y dyddiad cofrestru
- ceisiadau i gofrestru prydlesi lle nad oes dyddiad dechrau sicr ir brydles
- ceisiadau i gofrestru prydlesi lle bor prydleswr ar prydlesai yr un person oni bai y daw llythyr gydar cais syn egluro pam nad yw Rye yn erbyn Rye [1962] A C 496 yn berthnasol
- ceisiadau i gofrestru prydlesi (sydd 但 rhent neu bremiwm yn daladwy arnynt) lle bor cyfnod yn dechrau dros 21 mlynedd o ddyddiad y brydles
- ceisiadau i gofrestru prydlesi partneriaeth gyhoeddus-breifat
Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod
- rhaid cyflwyno ceisiadau i gofrestru prydlesi syn dod o dan yr adran hon, a roddwyd am gyfnod o 21 mlynedd neu lai allan o naill ai dir cofrestredig neu ddigofrestredig, fel cofrestriad cyntaf gwirfoddol ar ffurflen FR1. I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cyfarwyddyd ar sut i wneud ceisiadau i Gofrestrfa Tir EF gweler cyfarwyddyd ymarfer 25: prydlesi: pryd i gofrestru
- rhaid cyflwyno ceisiadau i gofrestru prydlesi syn dod o dan yr adran hon a roddwyd am gyfnod o fwy nag 21 mlynedd (hy syn gallu cael eu cofrestru ar adeg y grant) allan o dir cofrestredig trwy ddewis prydles newydd a lanlwytho copi ardystiedig or brydles wreiddiol
- rhaid cyflwyno ceisiadau i gofrestru prydlesi syn dod o dan yr adran hon a roddwyd am gyfnod o fwy nag 21 mlynedd (hy syn gallu cael eu cofrestru ar adeg y grant) allan o dir digofrestredig fel cofrestriad cyntaf gorfodol ar ffurflen FR1
- enghreifftiau o brydles amharhaol yw cyfnodrannu a phrydlesi marchnad (hawl i fasnachu ar ddiwrnodau arbennig or wythnos am gyfnod o flynyddoedd
- mae modd nodi prydles nad oes modd ei chofrestru ei hunan, neu nad oes angen ei chofrestru, ar gyfer teitl cofrestredig y prydleswr gweler Nodi prydlesi, ac opsiynau a hawddfreintiau mewn prydlesi, ar gyfer teitl y prydleswr
- fodd bynnag gall prydles nad oes modd ei chofrestru ei hunan gynnwys budd y mae modd ei nodi ar gyfer teitl cofrestredig y prydleswr gweler Nodi prydlesi, ac opsiynau a hawddfreintiau mewn prydlesi, ar gyfer teitl y prydleswr
6.6 Trosglwyddiadau, aseiniadau a morgeisi cyfreithiol cyntaf gwarchodedig, dyddiedig ar neu ar 担l 13 Hydref 2003, o ystad brydlesol ddigofrestredig
Rydym yn gwrthod
- ceisiadau i gofrestru aseiniadau, trosglwyddiadau neu gydsyniadau, gan gynnwys cydsyniadau breinio (trwy werthu, trwy rodd neu trwy orchymyn y llys), ystad brydlesol ddigofrestredig 但 7 mlynedd neu lai or cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar ddyddiad y trosglwyddiad neu aseiniad yn peri cofrestriad, am nad oes modd eu cofrestru, oni bai ei fod naill ai:
- yn drosglwyddiad, aseiniad neu gydsyniad o brydles amharhaol ddigofrestredig, heb ystyried y cyfnod, neu
- yn drosglwyddiad o brydles ddigofrestredig a wnaed yn unol ag adran 171A o Ddeddf Tai 1985, heb ystyried y cyfnod
- ceisiadau i gofrestru morgais cyfreithiol cyntaf gwarchodedig o ystad brydlesol ddigofrestredig 但 7 mlynedd neu lai or cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar ddyddiad y morgais yn peri cofrestriad, am nad oes modd eu cofrestru
Morgais cyfreithiol cyntaf yw morgais cyfreithiol sydd 但 blaenoriaeth dros holl forgeisi eraill syn effeithio ar eiddo gweler adran 4(8)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
Morgais gwarchodedig yw morgais syn cael ei warchod trwy adneuo dogfennau perthnasol ir ystad a forgeisiwyd, er enghraifft gweithredoedd cyn-gofrestru a dogfennau teitl.
Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod
- Maen ofynnol i chi gofrestru aseiniadau, trosglwyddiadau neu gydsyniadau, gan gynnwys cydsyniadau breinio, trwy werthu, trwy rodd neu trwy orchymyn y llys, ystad brydlesol ddigofrestredig lle bo mwy na 7 mlynedd or cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar ddyddiad y trosglwyddiad neu aseiniad yn peri cofrestriad (ond gweler Sylwer isod). Rhaid cyflwynor ceisiadau hyn fel cofrestriad cyntaf gorfodol ar ffurflen FR1
Sylwer: Maer trosglwyddiadau/aseiniadau canlynol wedi eu heithrio o gofrestru gorfodol, ond gall fod modd cofrestrur ystad brydlesol ddigofrestredig ei hun yn wirfoddol gweler Cofrestriad cyntaf ystad brydlesol bresennol a roddwyd cyn 13 Hydref 2003.
- trosglwyddiad trwy weithredur gyfraith, er enghraifft pan fo eiddo rhywun ymadawedig yn breinio yn eu hysgutor gweler adran 4(4)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002
- aseiniadau o gyfnod morgais, hy morgais trwy brydles gweler adran 4(4)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002
-
aseinio neu ildio prydles ir rifersiynydd uniongyrchol lle bor cyfnod i ymdoddi ir cyfryw rifersiwn gweler 4(4)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
- maen ofynnol i chi gofrestru naill ai:
- trosglwyddiad neu aseiniad o brydles amharhaol ddigofrestredig
- drosglwyddiad o brydles ddigofrestredig a wnaed yn unol ag adran 171A o Ddeddf Tai 1985 heb ystyried y cyfnod. Rhaid cyflwynor ceisiadau hyn fel cofrestriad cyntaf gorfodol ar ffurflen FR1.
- maen ofynnol i chi gofrestru morgais cyfreithiol cyntaf gwarchodedig o ystad brydlesol ddigofrestredig ller oedd mwy na 7 mlynedd or cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar ddyddiad y morgais yn peri cofrestriad. Rhaid cyflwynor ceisiadau hyn fel cofrestriad cyntaf gorfodol ar ffurflen FR1
Sylwer: Mae morgeisi eraill wedi eu heithrio o gofrestru gorfodol, ond gall fod modd cofrestrur ystad brydlesol ddigofrestredig ei hun gweler Cofrestriad cyntaf ystad brydlesol bresennol a roddwyd cyn 13 Hydref 2003
- i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cyfarwyddyd ar sut i wneud ceisiadau i Gofrestrfa Tir EF gweler cyfarwyddyd ymarfer 25: prydlesi: pryd i gofrestru.
6.7 Nodi prydlesi, ac opsiynau a hawddfreintiau mewn prydlesi, ar gyfer teitl y prydleswr
Rydym yn gwrthod
- ceisiadau i nodi prydlesi a roddwyd am gyfnod o dair blynedd neu lai o ddyddiad y grant, ac nad oes angen eu cofrestru yn safonol
Sylwer: Mae hyn yn berthnasol i unrhyw brydlesi amharhaol nad ywn orfodol eu cofrestru, a lle bo cyfanswm y cyfnod yn dair blynedd neu lai.
- ceisiadau i nodi prydlesi partneriaeth gyhoeddus-breifat
Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod
- gallwch wneud cais penodol i nodi prydles (gweler adrannau 32, 33 a 34 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ar yr amod:
- ei bod yn cael ei rhoi am gyfnod o fwy na 3 blynedd o ddyddiad y grant
- nad oes angen ei chofrestru
- nad ywn berthnasol i ymddiried o dir neu setliad o dan Ddeddf Tir Setledig 1925
Sylwer 1: Pan fydd cais yn cael ei gyflwyno i gofrestru prydles a roddwyd ar neu ar 担l 13 Hydref 2003 allan o deitl (deitlau) cofrestredig, y mae angen ei chofrestru, byddwn yn ddiofyn yn nodir brydles yn unol ag adran 38 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
Sylwer 2: Wrth roi teitl prydlesol llwyr ar gofrestriad cyntaf, byddwn yn ddiofyn yn nodir brydles (ond bod uwch-deitl y prydleswr wedi ei gofrestru ac na nodwyd y brydles eisoes), yn amodol ar gyflwyno rhybudd ir prydleswr. Os lanlwythwyd cydsyniad y prydleswr eisoes gydar cais, ni fydd angen i ni gyflwyno rhybudd ir prydleswr gweler rheol 37 o Reolau Cofrestru Tir 2003.
Sylwer 3: Os nad yw cofrestriad cyntaf teitl prydlesol wedi ei gwblhau gyda theitl llwyr, ni fyddwn yn gwneud cofnod yn nheitl y prydleswr, heb gais penodol i gofnodi rhybudd.
- i gael rhagor o wybodaeth am nodi prydlesi, gan gynnwys sut i wneud ceisiadau i Gofrestrfa Tir EF, gweler cyfarwyddyd ymarfer 25: prydlesi: pryd i gofrestru
- gallwch wneud cais i nodi dewis mewn prydles ddigofrestredig (er enghraifft, dewis i brynur rifersiwn). I gael rhagor o fanylion, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr
- gallwch wneud cais i nodi hawddfreintiau a roddwyd er lles prydles ddigofrestredig. I gael rhagor o fanylion, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr
6.8 Trosglwyddo cyfran
Rydym yn gwrthod
- trosglwyddiadau sydd wedi eu llunion anghywir. Er enghraifft, os A a B ywr perchnogion cofrestredig, nid oes modd cofrestru trosglwyddiad cyfran B gan ymddiriedolwr mewn methdaliad A a B
Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod
- fel arfer rhaid ir holl berchnogion cofrestredig fod yn drosglwyddwyr, hyd yn oed lle bo un (neu fwy) ohonynt hefyd yn drosglwyddai, er enghraifft A, B ac C yn trosglwyddo i A ac C
- lle bo cyfyngiad cydberchnogaeth yn Ffurf A yn y gofrestr, rhaid bod o leiaf 2 drosglwyddwr ar unrhyw drosglwyddiad am werth (mae modd penodi ymddiriedolwr newydd ir diben)
Sylwer: Nid ywr uchod yn berthnasol lle bor perchennog syn weddill yn gorfforaeth ymddiried.
- mae cyfarwyddyd ymarfer 6: disgyniad ar farwolaeth perchennog cofrestredig yn rhoi rhagor o wybodaeth
6.9 Terfynau a bennwyd
Rydym yn gwrthod
- ceisiadau heb ddim cynllun wedi ei gyflwyno
- cynlluniau nad oes modd gweld y berthynas rhyngddynt a map yr Arolwg Ordnans
- ceisiadau lle na chyflwynwyd tystiolaeth o deitl ir tir hyd at y terfyn
6.10 Ceisiadaun ymwneud ag endidau tramor
Rydym yn gwrthod
- ceisiadau i gofrestru endid tramor yn berchennog ystad gofrestredig a gyflwynir heb rif adnabod yr endid tramor a ddyroddir gan D天r Cwmn誰au. Rydym hefyd yn gwrthod ceisiadau i gofrestru gwarediad gan endid tramor (lle mae Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodaeth) 2022 yn effeithio arno) a gyflwynir heb rif adnabod yr endid tramor neur dystiolaeth sydd ei hangen i gydymffurfio 但 chyfyngiad yn y gofrestr lle bo hyn yn ofynnol
Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod
- gweler ein cyfarwyddyd ymarfer 78: endidau tramor i gael gwybodaeth am y ceisiadau y mae Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 yn effeithio arnynt ar dystiolaeth sydd ei hangen arnom
Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod
- rhaid defnyddio ffurflen DB
6.11 Ceisiadau a ddil谷wyd syn aros yn ddiffygiol
Rydym yn gwrthod
- ceisiadau a ddil谷wyd neu a wrthodwyd yn flaenorol lle bor diffygion gwreiddiol heb eu datrys
- ceisiadau a ddil谷wyd neu a wrthodwyd yn flaenorol lle bo angen ffurflen gais ac na ddefnyddiwyd un
Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod
- pan fyddwn yn dileu neun gwrthod cais rhown y rhesymaun ysgrifenedig. Os cafodd cais ei ddileu neu ei wrthod yn flaenorol, cofiwch sicrhau bod y diffygion a nodwyd gennym wedi cael eu cywiro cyn ei ailgyflwyno
7. Pethau iw cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.