Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 62A: hawliau i olau neu aer

Cyhoeddwyd 15 Gorffennaf 2024

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelun bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 但 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cefndir

Gall yr hawl i gael golau naturiol trwy agoriad diffiniedig (megis ffenestr neu ffenestr do) fod yn fath o hawddfraint. Fodd bynnag, mae rheolau arbennig yn gysylltiedig 但 hawliau or fath.

Yn aml, rhaid cofnodi:

  • hawddfreintiau i gael golau neu aer
  • cyfamodau cyfyngu yn ymwneud 但 golau neu aer, a/neu
  • osodiadaun ymwneud 但 golau neu aer

Rhaid inni hefyd ystyried ychwanegu, newid neu ddileu cofnodion lle mae part誰on yn cytuno i amrywio neu ryddhau hawliau i olau neu aer.

Maer cyfarwyddyd hwn yn amlinellu sut mae CTEF yn ymdrin 但 cheisiadau or fath. Nid ywn gyfarwyddyd cyffredinol ir gyfraith yn ymwneud 但 hawliau or fath.

I gael rhagor o wybodaeth am fathau eraill o hawddfraint, gweler:

2. Cofrestru hawl i olau neu aer

Fel unrhyw hawddfraint arall, gall hawl i olau godi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • grant datganedig
  • goblygiad
  • presgripsiwn

2.1 Grant datganedig ac ymhlyg

Lle mae gweithred yn rhoi neun neilltuo yn ddatganedig neun ymhlyg hawliau i olau neu aer, byddwn yn trin y rhoi neur neilltuo fel y byddem yn trin rhoi neu neilltuo unrhyw hawddfraint arall. I gael rhagor o fanylion gweler cyfarwyddyd ymarfer 62: hawddfreintiau.

2.2 Hawliau i olau neu aer a hawliwyd trwy bresgripsiwn

Gellir caffael hawl i olau neu aer trwy ddefnydd hir:

  • trwy bresgripsiwn cyfraith gwlad
  • o dan yr athrawiaeth grant modern coll, neu
  • o dan Ddeddf Presgripsiwn 1832

Mae presgripsiwn cyfraith gwlad ar athrawiaeth grant modern coll yn gweithredu ar gyfer hawliau i olau neu aer fel y maent ar gyfer hawddfreintiau eraill. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o geiswyr syn gwneud cais i gofrestru hawliadau i olau trwy bresgripsiwn yn dibynnu ar Ddeddf Presgripsiwn 1832 (gweler Deddf Presgripsiwn 1832). Yn unol 但 hynny, nid ydym yn trafod presgripsiwn cyfraith gwlad nar athrawiaeth grant modern coll ymhellach yn y cyfarwyddyd hwn. I gael rhagor o wybodaeth amdanynt, gweler cyfarwyddyd ymarfer 52: hawddfreintiau a hawliwyd trwy bresgripsiwn.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 52: hawddfreintiau a hawliwyd trwy bresgripsiwn yn nodir ffurfiau priodol o gais i warchod hawddfraint trwy bresgripsiwn a hawliwyd ynghyd 但r dystiolaeth syn ofynnol gyda cheisiadau or fath. Dylech ddarllen y cyfarwyddyd hwnnw ar y cyd 但r canlynol wrth ymdrin 但 hawliadau trwy bresgripsiwn i hawliau i olau neu aer.

2.2.1 Deddf Presgripsiwn 1832

Mae adran 3 o Ddeddf Presgripsiwn 1832 yn cynnwys darpariaethau arbennig syn gymwys i hawliau i olau. Maer rhain yn datgymhwyso rhai or cyfyngiadau sydd fel arall yn gymwys i gaffael hawddfreintiau trwy bresgripsiwn o dan y Ddeddf. Yn benodol:

  • nid oes unrhyw ofyniad bod defnydd fel hawl (Collis v Home and Colonial Stores [1904] A.C. 179). Ar yr amod y gall ceisydd ddangos 20 mlynedd o ddefnydd parhaus cyn ei gais, gall hawl godi o dan Ddeddf Presgripsiwn 1832;
  • rhaid i unrhyw gydsyniad fod yn ysgrifenedig er mwyn atal hawl i olau rhag cronni. Nid yw caniat但d llafar yn atal hawl rhag codi o dan Ddeddf Presgripsiwn 1832 (Plasterers Co v Parish Clerks Co (1851) 6 Exch. 630)
  • nid oes yn rhaid ir mwynhad fod gan neu yn erbyn perchennog rhydd-ddaliol. Yn unol 但 hynny:
    • gall tenant gaffael hawddfraint dros dir arall y mae ei landlord yn berchen arno, ac
    • nid oes gwahaniaeth a oedd y tir syn dwyn baich yn destun tenantiaeth yn ystod y cyfnod perthnasol o 20 mlynedd
  • nid oes yn rhaid cael grantwr galluog i roir hawl

Fodd bynnag, ni fydd unrhyw hawl i olau yn codi o dan Ddeddf Presgripsiwn 1832 lle oedd y tir syn dwyn budd a baich ym meddiant yr un person am y cyfan neu ran or cyfnod perthnasol o 20 mlynedd (Harbidge v Warwick (1849) 3 Exch. 552).

Nid oes modd caffael hawliau i olau o dan Ddeddf Presgripsiwn 1832 dros dir y Goron (Perry v Eames [1891] 1 Ch. 658).

2.2.2 Rhybuddion rhwystr i olau

Maen bosibl peri i atal cyfnod y presgripsiwn rhag rhedeg trwy gael tystysgrif gan yr Uwch Dribiwnlys a chofrestru rhybudd rhwystr i olau fel pridiant tir lleol, yn unol 但 Deddf Hawliau Goleuni 1959. Mae rhybudd or fath, ar 担l ei gofrestru, yn gweithredu fel rhwystr tybiannol i gael defnydd i olau ir adeilad trech ar draws y tir caeth ac yn atal amser rhag rhedeg at ddibenion hawliad hawddfraint trwy bresgripsiwn:

  • hyd nes y caiff y cofrestriad ei ddileu
  • am y cyfnod o flwyddyn syn dechrau gydar dyddiad cofrestru, neu
  • tan y dyddiad dod i ben (yn achos tystysgrif dros dro a gyhoeddwyd o dan adran 2(3)(b) o Ddeddf 1959)

Yn unol 但 hynny, yn ychwanegol at y dystiolaeth y cyfeirir ati yng nghyfarwyddyd ymarfer 52: hawddfreintiau a hawliwyd trwy bresgripsiwn, pan fyddwch yn gwneud cais i:

  • gofrestru hawl i olau neu aer trwy bresgripsiwn, neu
  • gofnodi rhybudd a gytunwyd o hawl or fath pan nad yw perchennog y tir syn dwyn baich yn cydsynio iddo gael ei gofnodi

rhaid ichi ddarparu chwiliad pridiannau tir lleol syn dangos naill ai:

  • nid yw unrhyw rybudd rhwystr i olau yn effeithio ar yr eiddo, neu
  • lle mae rhybudd or fath yn effeithio ar yr eiddo:
    • daeth y rhybudd i rym ar 担l ir hawl trwy bresgripsiwn godi (yn achos hawliad o dan yr athrawiaeth grant modern coll), neu
    • yn achos hawliad o dan Ddeddf Presgripsiwn 1832, bod y rhybudd wedi cael ei gofrestru llai na blwyddyn cyn dyddiad eich cais a mwy nag 19 mlynedd ac 1 diwrnod ar 担l ir defnydd ddechrau

I gael rhagor o fanylion am rybuddion rhwystr i olau, eu cofrestru, eu dileu au hamrywio, lle mai Cofrestrfa Tir EF ywr awdurdod cofrestru ar gyfer yr ardal awdurdod lleol perthnasol, gweler cyfarwyddyd ymarfer 79: pridiannau tir lleol.

3. Cyfamodau cyfyngu syn gysylltiedig 但 golau neu aer

Weithiau, bydd gweithredoedd yn cynnwys cyfamodau cyfyngu syn gysylltiedig 但 golau neu aer. Enghraifft fyddai cyfamod i beidio 但 rhwystro llif golau neu aer ir ffenestri yn yr adeiladau sydd eisoes ar dir y gwerthwr. Rydym yn trin y rhain fel y byddem yn trin unrhyw gyfamod arall.

3.1 Cyfamodau cyfyngu mewn prydlesi

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw gofnod mewn perthynas 但 chyfamodau cyfyngu a roddwyd gan denant iw landlord yn gysylltiedig 但r tir a brydleswyd (adran 33(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Lle mae landlord yn rhoi cyfamodau cyfyngu mewn prydles, gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig.

3.2 Cyfamodau cyfyngu mewn gweithredoedd eraill tir syn dwyn baich wedi ei gofrestru

Lle maer cyfamodau cyfyngu yn effeithio ar ystad gofrestredig ac mewn gweithred syn cael ei chofrestru, megis trosglwyddiad neu weithred hawddfraint, nid oes yn rhaid ichi wneud cais ar wah但n i nodir cyfamodau yng nghofrestr(i) y tir yr effeithir arno ar yr amod bod yr holl rifau teitl yr effeithir arnynt wedi eu cynnwys yn y cais.

Lle mae gweithred gyfamod annibynnol neu lle nad ywr cyfamodau wedi eu cofrestru fel arall ac maer tir syn dwyn baich yn gofrestredig, bydd yn rhaid ichi wneud cais iw nodi yn erbyn teitl y tir syn dwyn baich. Gallwch wneud cais am:

Mae cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn cynnwys manylion pellach am sut i wneud cais.

Os ywch cais i nodir cyfamodau cyfyngu yn llwyddiannus, byddwn naill ai yn:

  • nodir cyfamodau yn y gofrestr (weithiau byddwn yn defnyddio atodlen at y dibenion hyn), neun
  • ychwanegu cofnod at y gofrestr yn datgan bod y weithred yn cynnwys cyfamodau cyfyngu ac yn ffeilio copi or weithred

Ni allwn wneud unrhyw gofnod yn y gofrestr syn dangos bod eiddo yn cael budd o gyfamod cyfyngu.

3.3 Cyfamodau cyfyngu mewn gweithredoedd eraill yr ystad syn dwyn baich yn ddigofrestredig

Lle maer ystad syn ddarostyngedig ir cyfamodau cyfyngu yn ddigofrestredig, dylech gofrestru pridiant tir dosbarth D(ii) yn erbyn enw(au) perchnogion yr ystad. Mae cyfarwyddyd ymarfer 63: y cofrestri pridiannau tir ar gofrestr credydau amaethyddol: cofrestru, chwiliad swyddogol, copi swyddfa a dileu yn cynnwys gwybodaeth bellach am hyn.

Gallwch hefyd gofrestru rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf mewn perthynas 但r ystad yr effeithir arni. Nid yw rhybuddiad or fath yn gwarchod y cyfamodau ond bydd yn sicrhau eich bod yn cael rhybudd am unrhyw gais am gofrestriad cyntaf yr ystad yr effeithir arni. Mae cyfarwyddyd ymarfer 3: rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf yn cynnwys manylion pellach.

Ni allwn wneud unrhyw gofnod yn y gofrestr syn dangos bod eiddo yn cael budd o gyfamod cyfyngu.

4. Gosodiadau ynghylch golau neu aer

Mae gweithredoedd yn aml yn cynnwys gosodiadau sydd 但r nod o atal eiddo rhag caffael hawliau i olau neu aer yn y dyfodol, er enghraifft, datganiad syn nodi bod gan y defnydd i olau neu aer ir eiddo ganiat但d trosglwyddwr. O dan reolau 36 (ar gofrestriad cyntaf) a 76 (mewn achosion eraill) o Reolau Cofrestru Tir 2003, gallwn wneud nodyn o hyn yn y gofrestr eiddo ar gyfer y tir yr effeithir arno.

4.1 Gosodiadau mewn prydlesi

Nid ydym yn gwneud unrhyw gofnod yn y gofrestr o osodiadau sydd wedi eu cynnwys mewn prydlesi. Mae hyn oherwydd bod y brydles wedi ei hymgorffori yn y gofrestr ac yn dod yn rhan ohoni (R (on the application of HCP (Hendon) Ltd) v Chief Land Registrar [2020] EWHC 1278 (Admin)). Fodd bynnag, fel arfer rydym yn cadw copi or brydles, fel y gall y rhai sydd 但 budd weld y gosodiad.

Lle maer teitl y rhoddir y brydles ohono yn ddarostyngedig i gofnod mewn perthynas 但 gosodiad or fath, gallwn ddyblygur cofnod hwnnw ar y teitl ar gyfer y brydles newydd.

4.2 Cofrestriad cyntaf

Lle rydym yn gweld bod eiddo rhydd-ddaliol yn ddarostyngedig i osodiad yn ymwneud 但 golau neu aer ar gofrestriad cyntaf, fel arfer byddwn naill ai yn:

  • nodir gosodiad yn y gofrestr (weithiau byddwn yn defnyddio atodlen at y dibenion hyn), neun
  • ychwanegu cofnod at y gofrestr yn datgan bod y weithred yn cynnwys gosodiadau ac yn ffeilio copi or weithred

Fodd bynnag, lle maer gosodiad wedi ei gymysgu 但 chyfamodau cyfyngu eraill neu hawliau sydd wedi eu rhoi neu eu neilltuo rydym yn eu nodi yn y gofrestr, byddwn yn cynnwys y gosodiad gyda nhw ac ni fyddwn yn gwneud unrhyw gofnod ar wah但n yn y gofrestr eiddo.

4.3 Gwarediadau a deliadau eraill 但 thir cofrestredig

Lle maer gosodiad mewn gweithred (ac eithrio prydles) syn cael ei chofrestru, megis trosglwyddiad, nid oes yn rhaid ichi wneud cais ar wah但n i gofnodir gosodiad yng nghofrestr(i) y tir yr effeithir arno ar yr amod bod yr holl rifau teitl yr effeithir arnynt wedi eu cynnwys yn y cais.

Lle nad ywr weithred syn cynnwys y gosodiad yn cael ei gofrestru, gallwch wneud cais i gofnodir gosodiad. Gwnewch yn siwr fod y cais yn cynnwys trafodiad Gosodiadau, a:

  • chopi gwreiddiol neu gopi ardystiedig or weithred berthnasol
  • y ffi berthnasol

Os ywr cais yn gywir, fel arfer byddwn naill ai yn:

  • nodir gosodiad yn y gofrestr (weithiau byddwn yn defnyddio atodlen at y dibenion hyn), neun
  • ychwanegu cofnod at y gofrestr yn datgan bod y weithred yn cynnwys cyfamodau cyfyngu ac yn ffeilio copi or weithred

Fodd bynnag, lle maer gosodiad wedi ei ymgorffori gyda chyfamodau cyfyngu eraill neu hawliau wedi eu rhoi neu eu neilltuo rydym yn eu nodi yn y gofrestr, byddwn yn cynnwys y gosodiad gyda nhw ac ni fyddwn yn gwneud unrhyw gofnod ar wah但n yn y gofrestr eiddo.

4.4 Y teitl syn cael budd y gosodiad

Yn flaenorol, roedd rheol 197 o Reolau Cofrestru Tir 1925 yn caniat叩u inni wneud cofnod ar y gofrestr ar gyfer y teitl oedd yn cael budd y gosodiad. Nid oes unrhyw beth cyfatebol yn Rheolau Cofrestru Tir 2003. Yn unol 但 hynny, nid ydym yn gwneud cofnod or fath mwyach.

Lle rydym yn dod ar draws cofnod a wnaed o dan Reolau Cofrestru Tir 1925, ni fyddwn yn ei ddileu. Fodd bynnag, ni fyddwn yn ei gario ymlaen i unrhyw deitl newydd syn cael ei roi or teitl buddiol (er enghraifft wrth drosglwyddo rhan neu brydles).

5. Rhyddhau hawliau i olau neu aer

Gall hawliau i olau neu aer ddod i ben fel unrhyw hawddfraint arall. Mae cyfarwyddyd ymarfer 62: hawddfreintiau yn cynnwys manylion pellach am ddulliau amrywiol a sut i adlewyrchu hyn ar y gofrestr. Wrth geisio cofrestru gweithred rhyddhau hawliau i olau neu aer, dylech ddarllen y cyfarwyddyd hwnnw ar y cyd 但r canlynol.

5.1 Rhyddhad neu amrywiad o hawliau i olau neu aer wedi eu rhoi neu eu neilltuo mewn prydles

Lle bor rhyddhad neur amrywiad yn effeithio ar hawliau wedi eu rhoi neu eu neilltuo mewn prydles, ar yr amod bod y cais yn gywir, byddwn yn adlewyrchur amrywiad yn nheitlaur landlord ar tenant. Mae cyfarwyddyd ymarfer 68: gweithredoedd newid syn peri gwarediadau tir cofrestredig yn rhoi manylion pellach am sut rydym yn trin gweithredoedd syn newid prydlesi cofrestredig.

5.2 Rhyddhad llwyr ac maer hawl yn ymddangos ar y gofrestr

Lle maer weithred yn rhyddhaun llwyr unrhyw hawl i olau ac maer hawl yn ymddangos ar y gofrestr, byddwn naill ai yn:

  • dileu unrhyw gyfeiriad at yr hawl or gofrestr, neun
  • ychwanegu cofnod at y gofrestr berthnasol gan ddefnyddior geiriad canlynol:

Trwy weithred ddyddiedig [DYDDIAD] a wnaed rhwng [PARTON] maer [DISGRIFIAD OR HAWL] y cyfeirir ati uchod wedi cael ei diddymu.

NODYN: Copi yn y ffeil.

Fel rheol, byddwn yn dewis yr opsiwn olaf lle maer cofnod neur ddogfen berthnasol yn cynnwys hawddfreintiau eraill nad ydynt wedi cael eu rhyddhau.

Os ywr weithred hefyd yn cynnwys gosodiad syn atal hawliau i olau neu aer rhag codi yn y dyfodol (fel y maer rhan fwyaf), byddwn hefyd yn gweithredu fel y nodir yn Gosodiadau ynghylch golau neu aer.

5.3 Rhyddhad rhannol ac maer hawl yn ymddangos ar y gofrestr

Yn aml, bydd gweithred yn rhyddhau hawliau i olau neu aer yn rhannol yn unig. Enghraifft gyffredin yw rhyddhau hawliau i olau neu aer ir graddau syn angenrheidiol i gyflawni datblygiad penodol.

Lle daw gweithred or fath ac maer hawliau yn ymddangos ar y gofrestr, fel arfer byddwn yn ychwanegu nodyn i adlewyrchur amrywiad a berir gan y weithred ac yn cadw copi or weithred. Os ywr weithred hefyd yn cynnwys gosodiad syn atal hawliau i olau neu aer rhag codi yn y dyfodol (fel y maer rhan fwyaf), byddwn hefyd yn gweithredu fel y nodir yn Gosodiadau ynghylch golau neu aer.

5.4 Rhyddhad llwyr ac nid ywr hawl yn ymddangos ar y gofrestr

Os ywr weithred yn rhyddhaun llwyr unrhyw hawliau i olau a allai fod gan eiddo ond nid ywr hawliau hynny yn ymddangos ar y gofrestr, ni fyddwn yn gwneud unrhyw nodyn or rhyddhad ar y gofrestr.

Fodd bynnag, os ywr weithred yn cynnwys gosodiad syn atal hawliau i olau neu aer rhag codi yn y dyfodol (fel y maer rhan fwyaf), byddwn yn gweithredu fel y nodir yn Gosodiadau ynghylch golau neu aer. Os nad ywn cynnwys gosodiad or fath, byddwn yn dileu unrhyw gais i gofrestrur weithred.

Fel y nodir yn Rhyddhad llwyr ac maer hawl yn ymddangos ar y gofrestr, ein harfer lle mae hawl i olau neu aer yn cael ei ryddhau yw naill ai:

Mae hyn yn gyson 但n harfer ar gyfer mathau eraill o hawddfreintiau (gweler cyfarwyddyd ymarfer 62: hawddfreintiau). Fodd bynnag, nid ywr un or opsiynau hyn yn bosibl lle nad oes cofnod presennol syn gysylltiedig 但r hawl yn y gofrestr.

5.5 Rhyddhad rhannol ac nid ywr hawl yn ymddangos ar y gofrestr

Os ywr weithred yn rhyddhaur hawliau i olau neu aer yn rhannol ac nid ywr hawliau hynny yn ymddangos ar y gofrestr, ni fyddwn yn gwneud unrhyw nodyn or rhyddhad ar y gofrestr. Mae hyn am y rhesymau a nodir yn Rhyddhad llwyr ac nid ywr hawl yn ymddangos ar y gofrestr. Fodd bynnag, gallwch wneud cais i gofrestru unrhyw hawliau syn weddill yn y ffordd arferol (gweler Cofrestru hawl i olau neu aer). Dylech gynnwys copi gwreiddiol neu gopi ardystiedig or weithred ryddhau gydar cais hwnnw. Yna byddwn naill ain newid y cofnod hawddfraint neun ychwanegu cofnod ychwanegol at y gofrestr i adlewyrchur rhyddhad rhannol.

Waeth beth am yr uchod, os ywr weithred yn cynnwys gosodiad syn atal hawliau i olau neu aer rhag codi yn y dyfodol (fel y maer rhan fwyaf), byddwn yn gweithredu fel y nodir yn Gosodiadau ynghylch golau neu aer. Os nad ywr weithred yn cynnwys gosodiad or fath, byddwn yn dileu unrhyw gais i gofrestrur weithred.

5.6 Cofnodion lle nad ywn glir a ywr hawl wedi cael ei diddymun gywir

Os nad ywn glir bod yr hawl i olau neu aer wedi cael ei diddymu ac y byddem fel arall yn dileu cofnod neun gwneud cofnod yn nodi bod yr hawl wedi cael ei rhyddhau, gallwn wneud cofnod ar hyd y llinellau canlynol:

Trwy weithred ddyddiedig [DYDDIAD] a wnaed rhwng [PARTON] mynegwyd bod [DISGRIFIAD OR HAWL AR WEITHRED SYDD WEDI EI GYNNWYS YNDDI] iw ryddhau ond nid yw dilysrwydd y rhyddhad wedi ei bennu.

NODYN: Copi yn y ffeil.

6. Pethau iw cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd am ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.