Papur polisi

Diogelu yn GLlTEF

Diweddarwyd 26 Tachwedd 2024

Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland

1. Yngl天n 但r ddogfen hon

珂温艶r polisi ar canllawiau hyn yn nodi dull GLlTEF ar gyfer diogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion syn agored i niwed.

Rydym wedi datblygur polisi ar canllawiau hyn i fod mor syml 但 phosibl iw defnyddio.

Rydym wedi darparu hyperddolenni i esboniadau manylach or wybodaeth gyfreithiol. Bydd yr hyperddolenni yn ymddangos wediu tanlinellu ac mewn lliw glas.

2. Beth yw diogelu?

Mae GLlTEF eisiau sicrhau bod gan staff a defnyddwyr gwasanaeth amgylchedd diogel ac addas i weithio ynddo neu ymweld ag ef. Weithiau rydyn nin gweld pobl mewn sefyllfaoedd lle gallen nhw fod mewn perygl o niwed. Mae llawer o wahanol ffyrdd y gall rhywun brofi camdriniaeth neu esgeulustod.

Ni allwn ddatrys pob sefyllfa, ond gallwn ni helpu. Mae diogelu yn golygu gwneud rhywbeth i amddiffyn grwpiau bregus o bobl rhag camdriniaeth ac esgeulustod sydd yn mynd y tu hwnt i ymateb brys.

Efallai y bydd angen i ni gyfeirio rhywun at wybodaeth neu gefnogaeth a fydd yn helpu iw diogelu.

Mae unrhyw un dan 18 oed yn blentyn yn gyfreithiol ac mae pob plentyn yn cael ei ystyried yn fregus. Mae oedolyn yn cael ei ddiffinio fel oedolyn syn agored i niwed os ywn bodlonir tri maen prawf yn yr adran Pwy ydym nin ei ddiogelu.

I ddod dan y categori diogelu rhaid i oedolyn hefyd fod angen help gydag un neu fwy or 6 categori eang canlynol:

  • gofal iechyd
  • gofal personol
  • gwaith cymdeithasol
  • arian parod, biliau a/neu siopa
  • rheoli eu materion eu hunain
  • defnyddio cludiant lle maer drafnidiaeth honnon cael ei ddarparu oherwydd eu hoedran, iechyd neu anabledd.

Mae camdriniaeth ac esgeulustod yn groes i hawliau dynol a sifil unigolyn ac yn yr achosion gwaethaf gall arwain at farwolaeth.

Rhaid glynu wrth bolis誰au cyfrinachedd yn unol 但 Deddf Diogelu Data 2018, GDPR a Deddf Hawliau Dynol 1998. Yn 担l y gyfraith, ni allwn rannu unrhyw wybodaeth y dywedir wrthym heb ganiat但d yr unigolyn syn dweud yr wybodaeth honno wrthym oni bai ei fod yn fesur angenrheidiol a chymesur i ddiogelur unigolyn (Canllaw ir Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), 2018).

Mae hynnyn golygu ei bod hin bwysig gofyn am ganiat但d i rannu gwybodaeth am rywun. Ond os nad ydyn nhwn rhoi caniat但d i ni, gallwn dorri amodau cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth amdanynt er mwyn i ni eu diogelu. Rydyn nin gofyn am ganiat但d oherwydd bod hyn yn grymusor dioddefwr, yn rhoi ymdeimlad o reolaeth iddyn nhw ac yn ein hatgoffa y dylai diogelu ganolbwyntio ar yr hyn y maer unigolyn yr ydym yn poeni amdano ei eisiau, ei angen ac yn ei feddwl.

Nid yw bob amser yn gymhleth i ddiogelu rhywun. Efallai y byddwn yn eu cyfeirio at wybodaeth ddefnyddiol fel y gall pobl fregus ddod o hyd i help eu hunain. Gallai diogelu hefyd olygu bod yn gyfrifol am rannu gwybodaeth briodol gydag unrhyw ymgynghorwyr, contractwyr, is-gontractwyr, partneriaid a gwirfoddolwyr syn gweithio gydan defnyddwyr an staff.

Pa bynnag gamau sydd eu hangen, mae cyfrifoldeb arnom ni oll i ddiogelu pobl fregus. Maen well riportio pryder diogelu na pheidio gwneud. Hyd yn oed os canfyddir nad ywn fater diogelu. Gallai unrhyw weithredoedd achub bywyd rhywun felly peidiwch ag oedi.

珂温艶r yn rhoi llawer o wybodaeth am ddiogelu.

Yn Lloegr ar Alban, maer eisiau i ni feddwl am chwe gwerth wrth ddiogelu. Dyma nhw:

  • grymuso
  • atal
  • cymesuredd
  • amddiffyn
  • partneriaeth
  • atebolrwydd.

Mae gwerthoedd tebyg yng Nghymru yn :

  • mwy o ymgysylltu 但 dinasyddion a sicrhau llais a rheolaeth i bobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth
  • atal ac ymyrraeth gynnar
  • hyrwyddo llesiant
  • cyd-gynhyrchu dinasyddion a gweithwyr proffesiynol yn rhannu p典er a chydweithio fel partneriaid cyfartal
  • gweithio a chydweithredu amlasiantaethol.

Mae (MCA) yn helpu i ystyried a yw unigolyn yn gallu gwneud penderfyniad sydd er eu lles eu hunain. Y peth pwysicaf yw sicrhau bod gan y sawl dan sylw ddealltwriaeth glir or hyn a allai ddigwydd oherwydd eu penderfyniad (y canlyniadau). Gall pun a all rhywun wneud hyn gael ei effeithio gan bethau fel:

  • cyflwr iechyd syn gysylltiedig ag oedran
  • cyflwr niwroamrywiol megis dyslecsia, dyspracsia, ADHD neu gyflwr sbectrwm awtistig
  • cyflwr niwrolegol, megis clefyd Parkinson, dementia, clefyd motor niwron, sglerosis ymledol (MS), anabledd dysgu neu barlys yr ymennydd
  • anaf caffaeledig ir ymennydd
  • nam ar y lleferydd
  • anhawster symudedd
  • bod yn fyddar neun drwm eich clyw
  • bod yn ddall neun rhannol ddall
  • anghenion iechyd meddwl
  • cyflwr meddygol hirsefydlog fel canser, HIV, diabetes, clefyd cronig y galon neu epilepsi
  • methu gwneud eu penderfyniadau eu hunain ac angen gofal a chymorth angenrheidiol
  • bod yn oedolyn ifanc, dros 18 oed, sydd ag anghenion gofal a chymorth ac sydd yn trosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion
  • bod yn ofalwr (gofalu am unigolyn arall sydd ag anghenion gofal a chymorth).

Nid ywr rhestr hon yn cynnwys pawb. Gallai oedolion eraill fod yn oedolion sydd mewn perygl hefyd. Gallai diffyg galluedd meddyliol fod yn rhywbeth dros dro neun gysylltiedig 但r digwyddiad diogelu.

3. Pam fod angen i ni ddiogelu staff a defnyddwyr sydd mewn perygl?

Mae GLlTEF eisiau creu a chynnal amgylchedd diogel a chadarnhaol i bawb. Hoffem:

  • ddiogelur cydweithwyr ar defnyddwyr sydd yn y grwpiau a grybwyllir uchod
  • gwneud popeth o fewn ein gallu i ganfod risg diogelu yn gynnar a chymryd y camau cywir
  • bod cydweithwyr a defnyddwyr yn ddiogel ac yn teimlo y gallant ymddiried ynom
  • cyflawni ein cyfrifoldeb cyfreithiol i ddiogelu pobl sydd mewn perygl, er enghraifft o dan .

Ond yn bwysicach na dim, dymar peth iawn iw wneud.

4. Pwy ydym nin ei ddiogelu?

Mae 2014 yn egluro y dylen ni fod yn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl.

Mae bod mewn perygl yn golygu staff neu ddefnyddwyr sydd angen gofal a chymorth i fywn annibynnol yn ddiogel. Gall gofal a chefnogaeth gynnwys cymorth ymarferol, ariannol ac emosiynol.

Mae hynnyn golygu, er efallai na fydd y polisi hwn yn berthnasol i lawer o bobl, mae angen i ni ddiogelu unrhyw un yn y grwpiau hyn:

  • staff a defnyddwyr oedolion sydd mewn perygl (oherwydd oedran, iechyd meddwl, anabledd syn effeithio ar eu gallu i amddiffyn eu hunain rhag niwed neu ecsploetiaeth)
  • staff a defnyddwyr syn blant syn dod drwy ein system llysoedd a thribiwnlysoedd.

Efallai y byddwn nin meddwl eu bod nhw mewn perygl pe bai oedolyn:

Heb alluedd meddyliol i ddeall eu bod mewn perygl o gamdriniaeth new esguelustod oherwydd eu hanghenion gofal a chymorth Hefo anghenion gofal a chymorth Yn profi neu mewn perygl o brofi camdriniaeth new esguelustod

Byddai angen i ni riportio pryder diogelu os ywr oedolyn sydd mewn perygl yn cael ei gynnwys yn y tri maen prawf yn y tabl uchod.

Mae yna lawer o wahanol fathau o gamdriniaeth ac esgeulustod syn cael eu hesbonio yn y ddogfen hon.

Does dim angen prawf o anghenion gofal unigolyn i weithredu ar bryder diogelu Mae hyn yn rhan or gwaith amddiffyn sydd ynghlwm 但 diogelu.

5. Pwy sydd angen defnyddior wybodaeth hon?

珂温艶r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn disgwyl safonau uchel o ymddygiad ym mhopeth a wnawn, gan gynnwys diogelwch staff a defnyddwyr.

Rydym ni wedi datblygur polisi hwn a rhai canllawiau i helpu staff GLlTEF:

  • deall beth mae diogelu yn ei olygu
  • deall pwy ddylen ni fod yn eu diogelu
  • disgrifio pam bod diogelu yn bwysig yn GLlTEF
  • adnabod pryd y gallai rhywun fod mewn perygl
  • egluro rolau a chyfrifoldebaur holl weithwyr, partneriaid, darparwyr gwasanaethau dan gontract, eu hisgontractwyr a deiliaid swyddi barnwrol
  • cyfeirio at y polis誰au, gweithdrefnau ar cymorth cysylltiedig sydd ar gael
  • delio gyda phryder diogelu, ei riportio ai gyfeirio at yr unigolyn perthnasol.

珂温艶r canllawiau hyn ar gyfer pawb yn GLlTEF, gan gynnwys staff asiantaeth. Os oes gennych chi bryder am ddiogelwch neu les rhywun sydd mewn perygl, maen bwysig gwneud rhywbeth am y peth. Cyfrifoldeb pawb yw diogelu. Rhaid i staff beidio cymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn gwneud rhywbeth yn ei gylch. Pe bai pawb yn gwneud hynny, efallai na fydd y sawl sydd mewn perygl byth yn cael yr help maen nhw ei angen. Maen bwysig nad ydych yn teimlon ofnus wrth godi pryder.

Mae dyletswydd ar bob un ohonom i riportio pryderon diogelu ir asiantaethau cywir. Mae GLlTEF wedi datblygur polisi ar canllawiau hyn fel bod pob aelod o staff yn ymwybodol or gweithdrefnau diogelu ac yn gwybod beth iw wneud os oes ganddynt bryder

Byddwn yn rhannu ein polisi gydag ymgynghorwyr, contractwyr, darparwyr gwasanaethau dan gontract, partneriaid, gwirfoddolwyr a gweithwyr asiantaeth syn darparu gwasanaethau ar ein rhan. Mae hyn yn caniat叩u in partneriaid sicrhau nad yw ein polisi yn ymyrryd ag unrhyw fesurau sydd ganddynt eisoes ar waith, a chodi unrhyw broblemau gyda GLlTEF.

Ar gyfer sefydliadau partner y mae gan eu staff gysylltiad personol 但n defnyddwyr, byddwn angen cop誰au ou polisi diogelu neu fregusrwydd. Bydd angen i sefydliadau partner eraill sicrhau bod y polis誰au hyn ar waith. Rydym yn argymell i bob sefydliad wneud eu hasesiadau risg eu hunain wrth weithio gydan defnyddwyr ac adrodd i GLlTEF am unrhyw bryderon syn codi or asesiad. Bydd GLlTEF yn ystyried a oes angen rhoi mesurau diogelu ar waith ai peidio.

Rydym eisiau gwneud pob ymdrech i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl syn dod i gysylltiad 但 GLlTEF. Felly, byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i rannu gwybodaeth berthnasol fel y gallwn weithio gydan gilydd i ddiogelu ein defnyddwyr an staff Mae hyn yn rhan or bartneriaeth diogelu 珂温艶r bobl y gallem weithio gyda nhw yn cynnwys, ond nid ywn gyfyngedig ir canlynol

  • Adnoddau Dynol
  • Cynghreiriaid Iechyd Meddwl
  • Y Farnwriaeth
  • Cyfryngwyr
  • Cyfieithwyr ar y Pryd
  • Swyddogion dociau a staff dalfar llys
  • Gwasanaeth Hebrwng Carcharorion
  • Gwasanaethau Diogelwch Blaen T天
  • Cofnodwyr yn y llys a stenograffyddion
  • Y Gwasanaeth Prawf
  • Staff cymorth tystion
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Awdurdodau lleol
  • Timau Troseddwyr Ifanc
  • Asiantau Gorfodi Cymeradwy (AEAs)
  • Ymarferwyr yr amddiffyniad.

Rydym eisiau bod yn agored am y ffordd rydym yn helpu pobl a allai fod mewn perygl a sicrhau bod ein rhanddeiliaid yn ein helpu.

Efallai y bydd trefniadau lleol ar waith i ymdrin 但 materion diogelu ond maen bwysig bod pob gweithiwr yn defnyddior polisi ar canllaw hwn, fel eich bod yn deall eich cyfrifoldebau diogelu.

Bydd GLlTEF yn penodi Arweinydd Diogelu a Dirprwy Arweinydd Diogelu ar gyfer pob safle Gweithredol a phob adran yn y pencadlys. Bydd Arweinwyr Diogelu a Dirprwy Arweinwyr Diogelu yn wirfoddolwyr o bob rhan or busnes. Bydd y rhwydwaith hwn o Arweinwyr Diogelu a Dirprwy Arweinwyr Diogelu yn cyflawni mwy o waith addysgu manwl i gefnogir r担l hon.

6. Beth mae esgeulustod a chamdriniaeth yn ei olygu?

Mae esgeulustod yn golygu bod rhywun syn gyfrifol am roi gofal a chymorth i rywun arall ddim yn rhoir gofal corfforol neu seicolegol sylfaenol i rywun maen nhwn gofalu amdano. Hunan-esgeuluso yw pan nad yw unigolyn yn gofalu amdanoi hun.

Camdriniaeth yw pan fod rhywun syn rhoi gofal a chefnogaeth i rywun sydd mewn perygl yn defnyddio p典er neu reolaeth mewn ffordd na ddylen nhw wneud. Mae hunan-niweidio a hunanladdiad hefyd yn fathau o gam-drin.

Gall unrhyw un gyflawni camdriniaeth neu esgeulustod. Maen fwy tebygol y bydd camdriniaeth yn cael ei gyflawni gan rywun maer unigolyn syn cael ei gam-drin yn gyfarwydd ag ef, yn enwedig os ydyn nhwn ymddiried ynddyn nhw. Gall pobl syn cyflawni camdriniaeth neu esgeulustod gynnwys:

  • Priod / partner
  • Aelodau eraill or teulu
  • Cymdogion
  • Ffrindiau
  • Rhywun syn adnabod yr unigolyn
  • Trigolion lleol

Ymhlith y bobl eraill syn gallu cam-drin ac esgeuluso rhywun maen nhwn gofalu amdano yw:

  • pobl syn manteision fwriadol ar oedolion maen nhwn eu hystyried fel rhai bregus
  • staff neu weithwyr proffesiynol cyflogedig fel nyrsys, meddygon a gofalwyr
  • gwirfoddolwyr syn gwneud pethau i ni a ddim yn disgwyl unrhyw beth yn 担l
  • dieithriaid syn bobl nad ydym yn eu hadnabod.

Os ydyn nin meddwl bod rhywun yn cael ei effeithio gan achosion o gam-drin neu esgeulustod, mae angen i ni wneud rhywbeth am y peth. Nid oes angen i ni benderfynu a gafodd y camdriniaeth neur esgeulustod ei wneud ar bwrpas.

Gallai fod angen gofal a chefnogaeth arbenigol i fywn annibynnol roi rhywun mewn mwy o berygl o gamdriniaeth neu esgeulustoh ywr gwahanol fathau o gamdriniaeth ac esgeulustod?

Mae sawl math o gamdriniaeth ac esgeulustod ac yn cynnwys unrhyw fath o ymddygiad tuag at unigolyn bregus syn achosi niwed iddynt yn fwriadol neun anfwriadol. Y rhain yw:

Cam-drin corfforol Cam-drin rhywiol Cam-drin domestig Aflonyddu a stelcio
Anffurfio organau cenhedlu benywod Cam-drin ar sail anrhydedd Plant syn dyst i gam-drin domestig Cam-drin seicolegol
Cam-drin ariannol neu gam-drin adnoddau Caethwasiaeth fodern Priodas dan orfod Esgeuluso a gweithredoedd hepgor
Rheoli drwy orfodaeth Anffafriaeth Sefydliadol Cam-fanteisio rhywiol ar blant
Troseddau m棚t Camdriniaeth ysbrydol

Gall camdriniaeth ac esgeulustod ddigwydd yn unrhyw le. Y llefydd mwyaf cyffredin y gall ddigwydd yw:

  • Eich cartref
  • Canolfannau dydd neu breswyl
  • Tai 但 chefnogaeth
  • Sefydliadau addysgol
  • Cartrefi Nyrsio
  • Clinigau
  • Ysbytai