Statutory guidance

Serious violence reduction orders: draft statutory guidance (Welsh accessible)

Updated 30 March 2023

Papur iw gyflwyno ger bron y ddau D天 Seneddol am gyfnod o 40 diwrnod. Gall y naill D天 neur llall benderfynu yn ystod y cyfnod hwnnw na ddylid cymeradwyor Canllawiau Drafft.

Cyflwynir ir Senedd yn unol ag Adran 342K Deddf Dedfrydu 2020

Hydref 2022

Crynodeb

Yngl天n 但r canllawiau hyn

1. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 14 Medi ac 8 Tachwedd 2020,[footnote 1] cyflwynwyd Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol (SVRO) yn Neddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu ar Llysoedd 2022[footnote 2] (Deddf PCSC 2022) a chawsant eu mewnosod ir Cod Dedfrydu[footnote 3].

2. Mae adran 342J(1) or Cod Dedfrydu (fel yi mewnosodwyd gan Ddeddf PCSC 2022) yn nodi y gall yr Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi canllawiau i gwnstabliaid, prif swyddogion yr heddlu a Phrif Gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ynghylch arfer eu swyddogaethau mewn perthynas ag SVROs.

3. Mae adran 342J(4) or Cod Dedfrydu (fel yi mewnosodwyd gan Ddeddf PCSC 2022) yn nodi bod yn rhaid ir heddlu ystyried canllawiau or fath wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas ag SVROs.

4. Maer canllawiau hyn yn nodi cefndir SVROs, prosesaur heddlu, ystyriaethau tystiolaethol, gweithdrefnaur llysoedd a gwybodaeth am ddefnyddio SVROs ochr yn ochr 但 gorchmynion ac ymyriadau eraill.

Terminoleg

5. Defnyddir y derminoleg ganlynol drwyr canllawiau hyn:

  • SVRO Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol.

  • Erlyniad Yr awdurdod syn gwneud cais am y SVRO, sef Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS). Dim ond yr erlyniad all wneud ceisiadau am SVRO. Gall y troseddwr neu brif swyddog heddluoedd penodedig neu mewn rhai achosion penodol, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) wneud ceisiadau i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu.

  • Troseddwr Yr unigolyn y gwnaed SVRO mewn perthynas ag ef neu y gwnaed cais am SVRO mewn perthynas ag ef. Dim ond i unigolion 18 oed neun h天n y gellir cyflwyno SVRO.

  • Eitem 但 llafn[footnote 4] eitem y mae adran 139 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 yn gymwys iddi.

  • Niwed yn cynnwys niwed corfforol a seicolegol.

  • Arf Ymosodol [footnote 5] yr un ystyr ag a roddir yn adran 1(4) o Ddeddf Atal Troseddau 1953.

  • Man cyhoeddus unrhyw fan y mae gan y cyhoedd neu unrhyw adran or cyhoedd fynediad iddi, drwy d但l neu fel arall, fel hawl neu drwy rinwedd caniat但d datganedig neu oblygedig, neu unrhyw fan arall y mae gan bobl fynediad parod ati ond nad ywn annedd.

Pennod 1: Beth yw Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol?

Trosolwg

Diben

Mae SVRO yn orchymyn sifil a wneir mewn perthynas 但 throseddwr a gaiff ei euogfarnu o drosedd syn ymwneud ag eitem 但 llafn neu arf ymosodol. Maer gorchymyn yn rhoir p典er ir heddlu chwilio person syn destun SVRO er mwyn canfod a oes ganddo eitem 但 llafn neu arf ymosodol yn ei feddiant, ai gadw at ddiben cynnal y chwiliad hwnnw, ar yr amod bod y person hwnnw mewn man cyhoeddus.

Ymgeiswyr

Yr erlyniad yn unig, naill ain dilyn penderfyniad ganddoi hun neun dilyn cais gan yr heddlu.

Prawf

  • Rhaid ir llys fod yn fodlon, yn 担l pwysau tebygolrwydd, bod y troseddwr wedi defnyddio eitem 但 llafn neu arf ymosodol wrth gyflawnir drosedd neu fod eitem 但 llafn neu arf ymosodol yn ei feddiant ar y pryd; neu fod person arall a gyflawnodd y drosedd wedi defnyddio eitem 但 llafn neu arf ymosodol wrth gyflawnir drosedd neu fod eitem 但 llafn neu arf ymosodol ym meddiant y person hwnnw a bod y troseddwr yn gwybod mai dyna fyddair achos neu y dylai fod wedi gwybod hynny.

  • Rhaid ir llys fod or farn bod angen iddo wneud gorchymyn er mwyn diogelur cyhoedd neu ddiogelu unrhyw aelodau penodol or cyhoedd (gan gynnwys y troseddwr) yng Nghymru a Lloegr rhag y risg o niwed yn deillio o eitem 但 llafn neu arf ymosodol neu er mwyn atal y troseddwr rhag cyflawni trosedd gan ddefnyddio eitem 但 llafn neu arf ymosodol.

Manylion

  • Ar gael i unigolion 18 oed a throsodd.

  • Gall y llys ei gyflwyno os caiff yr amodau uchod eu bodloni.

  • Maer gorchymyn yn rhoir p典er ir heddlu chwilio person syn destun SVRO er mwyn canfod a oes ganddo arf neu eitem 但 llafn yn ei feddiant, ai gadw at ddiben cynnal y chwiliad hwnnw, ar yr amod bod y person hwnnw mewn man cyhoeddus.

  • Yn para rhwng chwe mis a dwy flynedd os caiff y troseddwr ei garcharu, gall y llys orchymyn na fydd y gorchymyn yn weithredol hyd nes y caiff ei ryddhau or ddalfa.

Cosb am Dorri Gorchymyn

  • Bydd y troseddwr yn cyflawni trosedd os bydd yn methu, heb esgus rhesymol, 但 gwneud unrhyw beth syn ofynnol iddo ei wneud gan y gorchymyn neu os bydd yn gwneud unrhyw beth y maer gorchymyn yn ei wahardd rhag gwneud; os bydd yn fwriadol yn rhoi gwybodaeth ffug ir heddlu gan honni ei fod yn cydymffurfio 但r gorchymyn; os bydd yn dweud wrth gwnstabl nad ywn destun gorchymyn, neu os bydd yn fwriadol yn atal cwnstabl rhag arfer p典er stopio a chwilio.

  • Ar hyn o bryd, y gosb am gyflawni trosedd or fath yn dilyn euogfarn ddiannod yw cyfnod o garchar hyd at ddeuddeg mis neu ddirwy (diderfyn) neur ddau.

  • Y gosb yn dilyn euogfarn ar dditiad yw cyfnod o garchar hyd at ddwy flynedd, neu ddirwy (diderfyn) neur ddau.

Diddymu, Amrywio ac Adnewyddu

  • O dan adran 342H, gellir gwneud cais i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu SVRO. Rhaid gwneud cais or fath ir llys priodol.

粥沿棚鉛

  • Gall y troseddwr apelio yn erbyn penderfyniad i wneud gorchymyn fel petair gorchymyn yn ddedfryd a wnaed mewn perthynas 但r troseddwr am drosedd.

  • Gellir cyflwyno apeliadau mewn perthynas 但 chais am orchymyn i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu SVRO ir Llys 粥沿棚鉛 os cyflwynwyd y cais hwnnw i Lys y Goron neu yn unrhyw achos arall, caiff apeliadau am orchymyn i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu SVRO eu cyflwyno i Lys y Goron.

Y Ddeddfwriaeth

  • Adran 342A i 342K or Cod Dedfrydu (fel yi mewnosodwyd gan Adran 165 o Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu ar Llysoedd).

Cefndir

Pam cafodd Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol eu cyflwyno?

6. Mae trais difrifol yn cael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr au teuluoedd, yn codi ofn o fewn cymunedau ac yn gostus iawn i gymdeithas. Mae nifer yr achosion o droseddau cyllyll a gofnodwyd wedi cynyddu dros gyfnod o sawl blwyddyn.

7. O ganlyniad, rydym wedi cyflwyno SVROs. Rydym yn gwybod bod yr heddlu or farn bod gweithdrefnau stopio a chwilio yn hanfodol er mwyn mynd ir afael 但 throseddau treisgar ar arfer o gario arfau syn amlwg ymhlith nifer o droseddwyr.

8. Bydd SVROs yn rhoi pwerau ir heddlu weithredu mewn ffordd fwy pendant a rhagweithiol, gan roi hawl awtomatig iddynt chwilior troseddwyr hyn. Y bwriad yw cynyddur risg y c但nt eu canfod ym meddwl yr unigolion hynny syn destun y gorchymyn, gan helpu iw darbwyllo na ddylent gario arfau a rhoi sail gredadwy iddynt dros beidio 但 chario arfau neu droseddu fel arall.

9. Mae defnydd wedii dargedu o weithdrefnau stopio a chwilio, fel rhan o ddull gweithredu ehangach mewn perthynas ag ymyrryd a goruchwylio troseddwyr au hannog i beidio 但 throseddu, yn anelu at helpu i ddiogelu pobl yn y cymdogaethau hynny syn wynebur risg fwyaf.

Pwy all fod yn destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol?

10. Gall y llys wneud SVRO pan gaiff oedolyn (18 oed neu drosodd) ei euogfarnu o drosedd lle defnyddiwyd eitem 但 llafn neu arf ymosodol, hynny yw, unrhyw drosedd yr oedd eitem 但 llafn neu arf ymosodol yn gysylltiedig 但r drosedd honno. Gallai hyn gynnwys cario eitem 但 llafn neu arf ymosodol yn anghyfreithlon, cyflawni lladrad neu ymosod ar berson gan ddefnyddio neu fygwth arf, neu ag arf yn eich meddiant, er enghraifft.

11. Rhaid ir euogfarn fod am drosedd a gyflawnwyd ar y diwrnod cyntaf a bennir gan reoliadau ar gyfer dechraur gorchmynion i unrhyw raddau, neu ar 担l y diwrnod hwnnw. Hynny yw, ar y diwrnod y dechreuwyd y cynllun peilot ar gyfer SVROs, neu ar 担l y diwrnod hwnnw. Nid ywr ddeddfwriaeth yn 担l-weithredol, ni ellir gwneud SVRO mewn perthynas ag euogfarn am drosedd a gyflawnwyd cyn dechraur ddeddfwriaeth gyntaf.

Beth fydd y llys yn ei ystyried wrth roi Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol?

12. Rhaid ir erlyniad wneud cais ir llys er mwyn gwneud SVRO mewn perthynas 但 throseddwr, a bydd gan y llys ddisgresiwn llawn i wneud gorchymyn.

13. Dim ond os bydd y naill neur llall or ddau amod canlynol wediu bodloni y gall y llys wneud gorchymyn. Yr amod cyntaf yw bod yn rhaid ir llys fod yn fodlon yn 担l pwysau tebygolrwydd:

i) bod y troseddwr wedi defnyddio eitem 但 llafn neu arf ymosodol wrth gyflawnir drosedd; neu

ii) bod eitem 但 llafn neu arf ymosodol ym meddiant y troseddwr pan gyflawnwyd y drosedd.

14. Yr ail amod yw bod yn rhaid ir llys fod yn fodlon yn 担l pwysau tebygolrwydd:

iii) bod person arall wedi defnyddio eitem 但 llafn neu arf ymosodol wrth gyflawnir drosedd a bod y troseddwr yn gwybod mai dyna fyddair achos neu y dylai fod wedi gwybod hynny; neu

iv) bod eitem 但 llafn neu arf ymosodol ym meddiant person arall a gyflawnodd y drosedd pan gafodd y drosedd ei chyflawni a bod y troseddwr yn gwybod mai dyna fyddair achos neu y dylai fod wedi gwybod hynny.

15. Mae pwysau tebygolrwydd (safon sifil) yn golygu bod yn rhaid i lys fod yn fodlon ar sail y dystiolaeth ei bod yn fwy tebygol na pheidio bod yr amgylchiadau syn gysylltiedig 但r amod cyntaf neur ail amod wedi digwydd.

16. Maer ail amod yn caniat叩u i SVROs gael eu gwneud lle caiff unigolyn na ddefnyddiodd arf neu nad oedd arf yn ei feddiant ei euogfarnu o drosedd lle roedd eitem 但 llafn neu arf ymosodol yn bresennol. Enghraifft o ymddygiad or fath yw lle caiff person ei euogfarnu o ladrad lle cafodd cyllell ei fygwth gan berson arall, ond bod y person a euogfarnwyd yn bresennol ac y gwnaeth helpu neu annog y troseddu.

17. Os caiff y naill neur llall or ddau amod cyntaf eu bodloni, rhaid ir llys hefyd fod or farn bod angen gwneud SVRO mewn perthynas 但r troseddwr er mwyn:

i) diogelur cyhoedd yng Nghymru a Lloegr rhag y risg o niwed (gan gynnwys niwed corfforol a seicolegol) yn deillio o eitem 但 llafn neu arf ymosodol,

ii) diogelu unrhyw aelodau penodol or cyhoedd yng Nghymru a Lloegr (gan gynnwys y troseddwr) rhag risg or fath, neu

iii) atal y troseddwr rhag cyflawni trosedd gan ddefnyddio eitem 但 llafn neu arf ymosodol.

Pennod 2: Y Broses ar gyfer Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol

Nodi

  • Caiff trosedd ei chyflawni.

  • Bydd yr heddlu yn nodi a oes angen SVRO.

  • Bydd yr heddlu yn defnyddio gwybodaeth (gan gynnwys gan bartneriaethau lleol lle bo angen) a data er mwyn nodi risg, bygythiad neu niwed mewn perthynas 但r troseddwr.

Paratoi

  • Bydd angen ir heddlu baratoi tystiolaeth berthnasol a phriodol ar gyfer SVRO ai chyflwyno ir erlyniad

Gwneud cais

  • Bydd yr erlyniad yn ystyried y dystiolaeth ac yn penderfynu a ddylid gwneud cais ir llys

  • Rhaid cwblhaur dogfennau perthnasol

  • Gall y llys ddyfarnu SVRO pan gaiff y troseddwr ei euogfarnu, os bydd yn fodlon yn 担l pwysau tebygolrwydd.

Stopio a Chwilio

  • Gall swyddog chwilior troseddwr at ddiben canfod a oes ganddo eitem 但 llafn neu arf ymosodol yn ei feddiant.

Cofnodi a Monitro

  • Bydd yr heddlu yn gyfrifol am gofnodi cydymffurfiaeth y troseddwr 但r weithdrefn stopio a chwilio.

  • Dylid cofnodi data am y weithdrefn a chynnal proses graffu allanol ar y data hynny

Dulliau adnabod

18. Dylai heddluoedd helpur erlyniad i gyflwyno ceisiadau am SVROs mewn perthynas 但r troseddwyr hynny syn peri risg o niwed yn deillio o eitem 但 llafn neu arf ymosodol, neu risg o gyflawni trosedd bellach gan ddefnyddio eitem 但 llafn neu arf ymosodol, yn eu cymunedau lleol.

19. Y bwriad yw y bydd SVRO yn atal unigolion rhag cario arfau drwy gynyddur risg y c但nt eu canfod yn cario arfau. Mater ir erlyniad fydd penderfynu a ddylid gwneud cais am SVRO, ac mae gan y llysoedd ddisgresiwn llawn i benderfynu a oes angen gwneud SVRO.

20. Dylai heddluoedd ystyried pob achos cymwys ar gyfer SVRO. Dylair penderfyniad i wneud cais am SVRO fod yn seiliedig ar wybodaeth syn hysbys am yr achos, y troseddwr, yr amgylchiadau ehangach a ffactorau risg a throseddu lleol.

21. Dylai heddluoedd ystyried gwybodaeth a data syn bodoli eisoes am droseddwyr. Dim ond ar 担l euogfarn y mae SVROs ar gael gan mai dim ond ar 担l cyflawni trosedd y dylid gwneud ystyriaethau or fath.

22. Maen bosibl y bydd yr heddlu am drafod 但 phartneriaethau amlasiantaeth lleol (fel y rheini 但 chynrychiolwyr o awdurdodau lleol, y gwasanaeth prawf, gwasanaethau cymdeithasol; ac ati) yr unigolion hynny syn cyflwynor risg fwyaf a pha becyn ymyriadau ehangach sydd fwyaf perthnasol a phriodol ar gyfer troseddwr, ochr yn ochr 但 SVRO gallai hyn fod ar ffurf gorchymyn arall gan y llys fel Gorchymyn Atal Troseddau Cyllyll, Gwaharddeb Gangiau neu ymyriadau gwirfoddol eraill.

23. Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i amgylchiadau unigol pob achos, a dylid teilwra unrhyw ymyriadau a gaiff eu hystyried ochr yn ochr 但r SVRO at yr achos unigol.

Trefniadaur heddlu ar gyfer paratoi tystiolaeth ir erlyniad

24. Dylair heddlu baratoir dystiolaeth iw chyflwyno ir erlyniad er mwyn gwneud cais am SVRO.

25. Dylair heddlu sicrhau bod y dystiolaeth hon wedii chynnwys gydar ffeil a gaiff ei hanfon at yr erlyniad ar gyfer y gwrandawiad cyntaf. Lle gwneir cais am SVRO ar gyfer achos a gyflwynwyd ir erlyniad am awdurdodiad cyn-cyhuddo (PCA), dylair heddlu nodi ar y cais am PCA y bydd yn gwneud cais am y gorchymyn ac y bydd y dystiolaeth yn y ffeil.

26. Wrth baratoir achos, dylid sicrhau bod y dystiolaeth a gyflwynir yn berthnasol ac yn briodol. Gall hyn gynnwys:

  • Gwybodaeth yn crynhoi hanes troseddur troseddwr a gwybodaeth gefndir a gynhwyswyd fel rhan o ffeil yr achos

  • Adroddiadau gan dimau rheoli troseddwyr lleol ac asiantaethau perthnasol eraill (e.e. gwasanaethau cymdeithasol, partneriaethau diogelwch cymunedol ac ati)

  • Amrywiaeth o dystiolaeth ategol (a gasglwyd yn ystod y cam adnabod) yn esbonio pam mae angen y SVRO er mwyn diogelur cyhoedd yng Nghymru a Lloegr rhag y risg o niwed yn deillio o eitem 但 llafn neu arf ymosodol, amddiffyn unrhyw aelodau penodol or cyhoedd (gan gynnwys y troseddwr) rhag risg or fath, neu atal y troseddwr rhag cyflawni trosedd arall gan ddefnyddio eitem 但 llafn neu arf ymosodol

27. Bydd angen sicrhau bod dogfennau perthnasol hefyd ar gael. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Ffurflen gais gan gynnwys crynodeb o hanes troseddur troseddwr a gwybodaeth gefndir

Gofynion hysbysu a rhyngweithio gan yr heddlu

28. Lle caiff gorchymyn ei gyflwyno, dylid hysbysur heddlu drwyr canlyniad llys a diweddarur dudalen wybodaeth gorchmynion a gweithredu ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC).

29. Maen bosibl y bydd yr heddlu am fanteisio ar y cyfle hwn i ymgysylltu 但r troseddwr ac egluro effeithiau SVRO, hynny yw, esbonio gofynion ac effeithiau SVRO a pha drosedd y gallai fod yn eu cyflawni os bydd yn torrir gorchymyn ir troseddwr mewn iaith gyffredin. Bydd y troseddwr yn cyflawni trosedd os bydd yn fwriadol yn rhoi gwybodaeth ffug ir heddlu gan honni ei fod yn cydymffurfio 但r gorchymyn (gweler yr adran ar Torri SVRO i gael rhagor o fanylion).

30. Rhaid ir troseddwr roir wybodaeth ganlynol ir heddlu o fewn tri diwrnod yn dechrau ar y diwrnod y dawr gorchymyn yn weithredol;

i) Ei enw, neu enwau, ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad ac os ywr troseddwr yn defnyddio un neu fwy o enwau eraill ar y diwrnod hwnnw, pob un or enwau hynny;

ii) Ei gyfeiriad cartref ar y diwrnod hwnnw ac unrhyw gyfeiriad arall lle maen preswylio neun aros yn rheolaidd, ar y diwrnod hwnnw.

31. Lle nad oes ffotograff or troseddwr yn bodoli eisoes, lle na chymerwyd ffotograff or troseddwr ers iddo gael ei euogfarnu neu lle nad ywr ffotograff or troseddwr yn ddigonol, h.y. maen aneglur, yn anghyflawn neu nid ywn cynnig cynrychiolaeth gywir or person mwyach, maen bosibl y bydd yr heddlu am ystyried cymryd ffotograff cyfredol or troseddwr er mwyn helpu i atal neu ganfod troseddau. Gellid ei ddefnyddio, ochr yn ochr 但 disgrifiad cyfredol, er mwyn helpu iw adnabod yn y dyfodol wrth ymgymryd 但 gweithdrefnau stopio a chwilio. Rhaid cael awdurdod gan arolygydd i gymryd ffotograff cyfredol. Gweler adran 64A o

32. Rhaid ir troseddwr hefyd hysbysur heddlu os bydd yn defnyddio enw na roddwyd gwybod ir heddlu amdano yn flaenorol, os bydd yn newid ei gyfeiriad cartref neu os bydd yn penderfynu byw am gyfnod o fis neu fwy mewn cyfeiriad na roddwyd gwybod ir heddlu amdano yn flaenorol. Rhaid rhoir wybodaeth hon ir heddlu o fewn tri diwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod y defnyddiwyd yr enw hwnnw, y newidiwyd cyfeiriad cartref neu y penderfynwyd byw yn yr eiddo hwnnw.

33. Rhaid ir troseddwr roir wybodaeth sydd ei hangen yn bersonol drwy fynd i orsaf yr heddlu yn ardal yr heddlu y maer troseddwr yn byw ynddi a thrwy roi hysbysiad llafar i un o swyddogion yr heddlu, neu unrhyw berson a awdurdodwyd gan y swyddog syn gyfrifol am yr orsaf.

34. Bydd yr heddlu lle y rhoddir yr hysbysiad neu lle y bydd y troseddwr yn rhoi gwybod am newid enw neu gyfeiriad yn gyfrifol am gofnodir wybodaeth hon ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu ac am ychwanegu marciwr gwybodaeth gweithredol.

35. Pan fydd troseddwr yn symud allan o ardal un heddlu i ardal heddlu arall, dylair heddlu ystyried rhannu gwybodaeth berthnasol am y SVRO 但r heddlu yn yr ardal breswylio newydd. Dylair heddlu hefyd ystyried rhannu gwybodaeth am unigolion syn destun SVRO 但 rhanddeiliaid plismona allweddol gan gynnwys lluoedd tiriogaethol ac arbennig eraill, lle ceir risg o droseddoldeb teithiol.

Trefniadaur heddlu ar gyfer cyfathrebu 但 chymunedau lleol

36. Fel syn ofynnol gan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) Cod A, maen ofynnol i gynrychiolwyr cymunedol graffu ar gofnodion stopio a chwilio heddluoedd ac iddynt allu esbonior defnydd ou pwerau yn lleol.

37. Dylair heddlu gyfleur ffaith eu bod yn defnyddio SVROs yn yr ardal leol neu eu bod yn bwriadu eu defnyddio, a pham hynny. Gall cyfleur wybodaeth hon gynyddu hyder y cyhoedd bod gweithdrefnau stopio a chwilio yn cael eu defnyddio mewn ffordd deg ac effeithiol o fewn cymunedau ac yn yr ymateb lleol i drais difrifol a throseddau cyllyll. Gall hefyd atal person rhag dewis cymryd rhan mewn ymddygiad troseddol or fath.

38. Dylid cyfleur defnydd o SVROs ar meini prawf a ystyrir gan y llys wrth benderfynu pwy syn destun gorchymyn drwy grwpiau cymunedol, fforymau ffydd, grwpiau addysgol, Paneli Cynghori Annibynnol neu unrhyw gyfrwng priodol arall.

39. Cyfeiriwch at Ganllawiaur Coleg Plismona ar Ymgysylltu 但 Chymunedau.

Defnydd yr heddlu or p典er stopio a chwilio

40. Mae Adran 342E or Cod Dedfrydu (fel yi mewnosodwyd gan Ddeddf PCSC 2022) yn rhoir p典er ir heddlu chwilio person syn destun SVRO, ai gadw at ddiben cynnal y chwiliad hwnnw, ar yr amod bod y person hwnnw mewn man cyhoeddus.

41. Diben y p典er hwn yw cadarnhau a oes gan y person eitem 但 llafn neu arf ymosodol yn ei feddiant. Rhaid cynnal chwiliadau mewn man cyhoeddus. Nid ywr p典er yn rhoi unrhyw sail i swyddogion dros chwilio unrhyw un arall sydd yng nghwmnir person hwnnw. Nid ywr p典er yn rhoir sail i swyddogion chwilio cerbydau. Ni ddylid chwilio person sydd yng nghwmni unigolyn syn destun SVRO oni fydd gan gwnstabl sail resymol berthnasol dros amheuaeth.

42. Ni fydd SVROs yn disodli pwerau stopio a chwilio presennol, ond yn hytrach, byddant yn adeiladu arnynt. Bwriedir iddynt ei gwneud hin haws ir heddlu chwilior rhai hynny a euogfarnwyd o drosedd yn defnyddio eitem 但 llafn neu arf ymosodol gydar nod o atal y rhai hynny syn destun gorchymyn rhag parhau i droseddu.

43. Gellir defnyddio pwerau SVRO yn ychwanegol at bwerau stopio a chwilio eraill megis adran 1 o PACE ac eraill a restrir yn Atodiad A o God A PACE (Stopio a Chwilio). Er enghraifft, gellid chwilio cerbydau gan ddefnyddio adran 1 o PACE, os caiff yr amodau gofynnol ar gyfer arfer y p典er hwnnw eu bodloni.

44. Bydd yr heddlu wedi cael manylion y troseddwr yn ystod y cam hysbysu (gweler yr adran ar gofynion hysbysu a rhyngweithio gan yr heddlu) a dylent sicrhau mai dim ond at droseddwyr syn destun SVRO y caiff unrhyw weithdrefnau stopio a chwilio o dan y p典er eu hanelu. Dylid cofnodi manylion troseddwyr syn destun SVRO ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu.

45. Yn y rhan fwyaf o achosion, disgwylir y bydd troseddwyr syn destun SVRO yn hysbys ir heddlu a bydd swyddogion yn gallu adnabod y troseddwr cyn cynnal chwiliad.

46. Os bydd swyddog yn ansicr pwy yw troseddwr, dylai geisio cadarnhau pwy ydyw ac a ywn destun SVRO. Efallai y bydd swyddogion am gadarnhau bod y gorchymyn ar waith drwy Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu.

47. Mae hyn yn golygu, oni all swyddogion gadarnhau bod yr unigolyn yn destun SVRO, na ellir defnyddior p典er a byddain anghyfreithlon chwilio unigolyn heb SVRO, onid oes pwerau stopio a chwilio eraill yn gymwys.

48. Maen drosedd i droseddwr ddweud wrth un o gwnstabliaid yr heddlu nad ywn destun SVRO os ydyw. Gweler yr adran ar Torri SVRO.

49. Gall swyddog yr heddlu atafaelu, yn unol 但 Rheoliadau Cod Dedfrydu 2020 (Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol) (Cadw a Gwaredu Eitemau a Atafaelwyd) 2022, eitemau a ganfyddir wrth gynnal y chwiliad y maen amaun rhesymol eu bod yn eitemau 但 llafn neun arfau ymosodol, au cadw.

50. Wrth arfer y p典er stopio a chwilio, bydd darpariaethau adran 2 a 3 o PACE yn gymwys wrth gynnal a chofnodir chwiliad. C但nt eu hadlewyrchu yng Nghod A PACE, sef y cod ymarfer statudol syn llywodraethur defnydd o bwerau stopio a chwilio.

51. Gallai methu 但 chydymffurfio 但r Cod arwain at sefyllfa lle bydd tystiolaeth a geir yn ystod y chwiliad yn cael ei heithrio o achosion troseddol dilynol yn deillio or chwiliad. Gallai hefyd gefnogi achosion troseddol a/neu sifil eraill yn erbyn yr heddlu am ymosod ar unigolyn/cadw unigolyn yn anghyfreithlon.

52. Mae Cod A PACE hefyd yn ei gwneud hin ofynnol i bwerau stopio a chwilio gael eu defnyddion deg ac yn gyfrifol, gan barchur bobl syn cael eu chwilio a heb wahaniaethun anghyfreithlon. Dim ond pan fetho popeth arall y gellir defnyddio grym i gynnal chwiliad neu gadw person. Rhaid i swyddogion gynnal y safonau ymddygiad proffesiynol uchaf ac maen rhaid bod sail wrthrychol a rhesymol dros stopio a chwilio bob amser. Yn yr amgylchiadau hyn, mae hyn yn seiliedig ar y ffaith bod SVRO mewn grym. Gweler: .

53. Fodd bynnag, mae defnyddior p典er stopio a chwilio o dan SVRO hefyd yn ddewisol, a disgwylir i swyddogion yr heddlu arfer eu barn broffesiynol wrth benderfynu ym mha amgylchiadau a sawl gwaith y dylid stopio a chwilio unigolyn syn destun SVRO. Felly dylai swyddogion ystyried yr holl amgylchiadau syn ymddangos yn berthnasol ir penderfyniad hwnnw gan fod swyddogion yn parhaun atebol am ddefnyddior p典er. Er enghraifft, y lleoliad penodol mewn man cyhoeddus, pa mor agos ywr lleoliad hwnnw at gartref y troseddwr ac aelodau eraill or teulu, yn ogystal 但 lleoliadau ac unigolion eraill y gwyddys eu bod yn gysylltiedig 但i hanes troseddu.

54. Ar 担l stopio a chwilio unigolyn, rhaid ir heddlu gofnodir chwiliad a rhoi copi or cofnod ir troseddwr yn unol ag adran 4 o God A PACE. Lle bo hynny ar gael, dylair swyddog syn chwilio ddefnyddio camera wedii wisgo ar y corff wrth gynnal gweithdrefn stopio a chwilio o dan SVRO, yn unol 但 chanllawiau gweithredol y prif swyddog.

55. Cyfeiriwch at Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona ar Stopio a Chwilio. [footnote 6]

Hyd SVRO

56. Dawr SVRO yn weithredol ar y diwrnod y caiff ei wneud. Mae adran 342D(3) a (4) or Cod Dedfrydu (fel yu mewnosodwyd gan Ddeddf PCSC 2022) yn nodi pan fydd troseddwr wedii gadw yn y ddalfa neu wedii anfon ir ddalfa neu pan fydd dedfryd o garchar wedii rhoi, neu fod y troseddwr yn bwrw dedfryd or fath neun destun dedfryd or fath fel arall, y gall y llys benderfynu na fydd y gorchymyn yn dod yn weithredol hyd nes y caiff y troseddwr ei ryddhau or ddalfa neu na fydd yn destun dedfryd o garchar mwyach.

57. Rhaid i SVRO gynnwys dyddiad dechrau a bydd am gyfnod penodol o chwe mis o leiaf hyd at uchafswm o ddwy flynedd, gydar llys yn penderfynu ar y cyfnod o fewn yr ystod hwn.

58. Pan gaiff cais ei wneud, maen bosibl y bydd yr heddlu am roi gwybodaeth berthnasol er mwyn helpur erlyniad wrth wneud argymhellion ar hyd SVRO ir llys. Y llys fydd yn penderfynu ar hyd terfynol y gorchymyn.

Torri SVRO

59. Os canfyddir bod gan berson syn destun SVRO eitem 但 llafn neu arf ymosodol yn ei feddiant, gellir ystyried troseddau syn bodoli eisoes mewn perthynas 但 meddu ar eitem 但 llafn neu arf ymosodol. Lle caiff y troseddwr ei euogfarnu o drosedd a ailadroddir am feddu ar eitem 但 llafn neu arf ymosodol o dan y ddeddfwriaeth dau gyfle bresennol yn adran 315 or Cod Dedfrydu, gallai ddisgwyl cael dedfryd o garchar.

60. Yn ogystal, mae adran 342G(1) or Cod Dedfrydu (fel yi mewnosodwyd gan Ddeddf PCSC 2022) yn nodi bod person syn destun SVRO yn cyflawni trosedd os bydd yn gwneud y canlynol:

  • Methu, heb esgus rhesymol, 但 gwneud unrhyw beth y maen ofynnol iddo ei wneud gan y gorchymyn;

  • Heb esgus rhesymol, gwneud unrhyw beth y mae wedii wahardd rhag gwneud gan y gorchymyn;

  • Hysbysur heddlu, gan honni ei fod yn cydymffurfio 但r gorchymyn, am unrhyw wybodaeth y maen gwybod ei bod yn ffug;

  • Dweud wrth un o gwnstabliaid yr heddlu nad ywn destun SVRO; neu

  • Atal un o gwnstabliaid yr heddlu, yn fwriadol, rhag arfer unrhyw b典er a roddwyd o dan adran 342E.

61. Bydd yr heddlu yn gyfrifol am unrhyw waith monitro ac unrhyw gamau iw cymryd os caiff trosedd ei chyflawni.

62. Y gosb am dorri gorchymyn yn dilyn euogfarn ddiannod yw cyfnod o garchar hyd at ddeuddeg mis neu ddirwy (diderfyn) neur ddau.

63. Y gosb yn dilyn euogfarn ar dditiad yw cyfnod o garchar hyd at ddwy flynedd, neu ddirwy (diderfyn) neur ddau.

Sut y gellir monitro SVROs, casglu data amdanynt a chraffu arnynt yn effeithiol?

Monitror p典er stopio a chwilio

64. Rhaid monitror p典er i stopio a chwilio o dan SVRO, a rhaid i swyddogion yr heddlu ystyried Cod A PACE, sef y cod ymarfer statudol syn llywodraethur defnydd o bwerau stopio a chwilio.

65. Rhaid i swyddogion yr heddlu gofnodir chwiliad yn unol ag adran 4 o God A PACE, gan nodi ei fod wedii gynnal o dan b典er SVRO, drwy gofnodir dyddiad y gwnaed y SVRO ac y daeth yn weithredol ar llys a wnaeth y gorchymyn. Wedyn, caiff y data hyn eu rhannu 但r Swyddfa Gartref au cyhoeddi drwyr Gofyniad Data Blynyddol, ochr yn ochr 但 data eraill ar stopio a chwilio.

66. Fel syn ofynnol gan God A PACE, rhaid ir cofnod o chwiliad bob amser gynnwys y wybodaeth ganlynol: (a) Nodyn o ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig y person a chwiliwyd ac, os ywn wahanol, canfyddiad y swyddog a gynhaliodd y chwiliad oi ethnigrwydd; (b) Y dyddiad ar amser y cafodd y person ei chwilio ar lleoliad; (c) Gwrthrych y chwiliad yn nhermaur eitem neur eitemau y mae p典er i chwilio amdani/amdanynt. Yn achos SVRO, eitem 但 llafn neu arf ymosodol fydd yr eitem hon.

67. Er mwyn hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y defnydd o bwerau SVRO, rhaid i heddluoedd, gan ymgynghori 但 chomisiynwyr yr heddlu a throseddu, wneud trefniadau i gynrychiolwyr or gymuned graffu ar y cofnodion a gwybodaeth a data cysylltiedig, yn enwedig y rhai hynny yr ystyrir bod y defnydd o bweraur heddlu wedi cael effaith anghymesur arnynt neu lle y digwyddodd hynny, ac egluror defnydd or pwerau ar lefel leol, er enghraifft drwy baneli craffu cymunedol.

68. Mae angen trefniadau craffu effeithiol er mwyn sicrhau bod cymunedau yn deall bod yr heddlu yn defnyddio pwerau SVRO yn briodol. Gall proses graffu gymunedol gadarn rymuso a rhoi hyder ir heddlu fynd ir afael 但 throseddau yn fwy effeithiol, rhoi sicrwydd a deall y cymunedau a wasanaethir ganddynt yn well, a galluogir heddlu i ganolbwyntio eu hymdrechion mewn ffordd gyfreithlon a chymesur wedii thargedun briodol.

69. Mae adran 5 o God A PACE hefyd yn nodi bod yn rhaid i uwch-swyddogion 但 chyfrifoldebau am ardal neu heddlu cyfan fonitror defnydd ehangach o bwerau stopio a chwilio a, lle y bo angen, gymryd camau ar y lefel berthnasol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys defnyddio pwerau stopio a chwilio o dan SVROs.

70. Mae unrhyw gamddefnydd o bwerau stopio a chwilio yn debygol o fod yn niweidiol i blismona ac arwain at ddiffyg ymddiriedaeth yn yr heddlu ymhlith y gymuned leol ar cyhoedd yn gyffredinol. Lle ceir cwynion am y ffordd y defnyddiodd swyddog b典er stopio a chwilio o dan SVRO, dylid dilyn yr arferion perthnasol ar gyfer cofnodi achosion or fath ac ymdrin 但 nhw. Maen bwysig bod swyddogion yn cymryd camau amserol a phriodol i ymdrin 但 chwynion. Cyfeiriwch at y

Goruchwylio unigolion syn destun SVRO

71. Dylid sicrhau bod troseddwyr yn ymwybodol y caiff eu cydymffurfiaeth 但r gorchymyn ei monitro (e.e. drwy ofynion adrodd) ac y bydd yr heddlu yn gyfrifol am unrhyw gamau iw cymryd os byddant yn torrir gorchymyn.

72. Bydd yr heddlu yn defnyddio p典er SVRO i reolir risg syn gysylltiedig 但r troseddwr, a gall hyn fwydo i mewn i strategaethau ehangach ar gyfer rheoli troseddwyr.

73. Dylai swyddogion syn rhyngweithio 但 throseddwyr syn destun SVRO eu hannog i ymgysylltu 但 gwasanaethau cymorth ychwanegol fel addysg, cyflogaeth a thriniaeth am broblemau cyffuriau fel y bon briodol.

Pennod 3: Ystyriaethau Tystiolaethol

Rheolau tystiolaeth sifil

74. Gwneir ceisiadau am SVROs o dan y rheolau tystiolaeth sifil. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, maer rheolau tystiolaeth yr un peth 但r rheolau ar gyfer llysoedd troseddol. Fodd bynnag, y prawf ywr safon prawf sifil, yn 担l pwysau tebygolrwydd. Yn arbennig, maer rheolau ar gyfer tystiolaeth achlust yn wahanol.

Tystiolaeth achlust

75. Caiff tystiolaeth achlust ei llywodraethu gan Ddeddf Tystiolaeth Sifil 1995 (CEA) a Rheolau Llysoedd Ynadon (Tystiolaeth Achlust mewn Achosion Sifil) 1999.

76. Ystyr achlust yw a statement made otherwise than by a person while giving oral evidence in the proceedings which is tendered as evidence of the matters stated (adran 1(2) Deddf Tystiolaeth Sifil 1995). [footnote 7]

77. Lle bynnag y bon bosibl, dylid cyflwynor hysbysiad achlust ar yr un pryd 但r hysbysiad o fwriad i wneud cais am SVRO, ac yn unrhyw achos o leiaf 21 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad. Rhaid i ffurf yr hysbysiad achlust gydymffurfio 但 Rheol 2 or Rheolau Achlust. Gall y diffynnydd wneud cais am ir person a wnaeth y datganiad gael ei alw i roi tystiolaeth yn bersonol.

78. Os caiff tystiolaeth achlust ei chyflwynon hwyr ir diffyniad (h.y. o leiaf 21 diwrnod cyn y gwrandawiad), mae perygl na wnaiff y llys ganiat叩u ir dystiolaeth gael ei chyflwyno. Mae gan y llys y p典er i lacior terfyn amser, ond dim ond lle na fyddai hynnyn rhagfarnur diffynnydd. Os bydd y llys yn gwrthod llacior terfyn amser, gall wrandor cais ond wrthod derbyn y dystiolaeth o gwbl. Fel arall, gall ohirior gwrandawiad er mwyn rhoi mwy o amser ir diffynnydd ystyried y dystiolaeth. Mewn achos or fath, gall orchymyn y ceisydd i dalur costau a fydd yn gysylltiedig 但 gohirior achos. Felly, mae bob amser yn well cyflwynor dystiolaeth gydar cais.

79. Lle na chaiff euogfarnau blaenorol eu derbyn (h.y. ar 担l ystyried yr argraffiad o Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu), gellir eu profi drwy gyflwyno rhan o gofrestr y llys (bydd ffi yn daladwy) o dan adran 73 o PACE 1984.

Pennod 4: Gweithdrefn y Llys

Cyfrifoldebaur Llys

80. Gall unrhyw lys syn ymdrin 但r troseddwr (e.e. Llys y Goron, neu Lys yr Ynadon) wneud SVRO.

81. Dim ond fel rhan or ymarfer dedfrydu yn dilyn euogfarn ar gais yr erlyniad y gellir gwneud SVRO. Fodd bynnag, gall y llys ohirior cais am SVRO hyd yn oed ar 担l dedfrydur troseddwr. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd pan fydd y diffynnydd yn gwrthwynebu gwneud y gorchymyn, gan olygu bod angen mwy o amser ir llys.

82. Gall y llys glywed tystiolaeth gan y troseddwr ar erlyniad wrth ystyried a ddylid gwneud SVRO.

83. Gall y llys ystyried tystiolaeth (mewn perthynas 但 phun a ddylid gwneud SVRO ai peidio) na fyddai wedi gallu ei derbyn fel rhan or achos lle cafodd y troseddwr ei euogfarnu.

84. Rhaid ir llys benderfynu yn gyntaf a oes sail dros wneud y gorchymyn. Os bydd y llys yn fodlon bod yr erlyniad, yn 担l pwysau tebygolrwydd, wedi profi bod yr amodau wediu bodloni a bod angen y gorchymyn, bydd yn penderfynu a ddylid gwneud gorchymyn. Os gwneir gorchymyn, rhaid esbonio ei ffeithiau mewn iaith gyffredin.

85. Gweler pennod 1 am fanylion ar ystyriaethaur llys cyn gwneud gorchymyn.

Amrywio, adnewyddu a diddymu

86. O dan adran 342H, gellir gwneud cais i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu SVRO. Rhaid gwneud cais or fath ir llys priodol naill ai gan:

(i) y troseddwr;

(ii) prif swyddog heddlu ar gyfer yr ardal heddlu y maer troseddwr yn byw ynddi;

(iii) prif swyddog heddlu ar gyfer yr ardal heddlu lle cyflawnodd y troseddwr y drosedd y gwnaed SVRO mewn perthynas 但 hi;

(iv) prif swyddog heddlu sydd or farn bod y troseddwr yn ardal y prif swyddog neu ei fod yn bwriadu dod ir ardal honno; neu

(v) prif gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig lle maer drosedd y gwnaed SVRO mewn perthynas 但 hi yn drosedd a gyflawnwyd mewn man, neu mewn perthynas 但 man o fewn adran 31(1)(a) i (f) o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2002 (awdurdodaeth yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig) neun gysylltiedig fel arall 但 rheilffordd o fewn yr ystyr a roddir gan adran 67 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith 1992 neu dramffordd o fewn ystyr yr adran honno.

87. Rhaid gwneud y cais yn uniongyrchol ir llys priodol yn hytrach nag ir erlyniad.

88. Ystyr y llys priodol yw:

(i) Llys y Goron lle gwnaed y SVRO yn Llys y Goron neur Llys 粥沿棚鉛;

(ii) lle gwnaed y SVRO gan lys ynadon ac y caiff y cais i amrywio, adnewyddu neu ryddhau ei wneud gan y troseddwr neu brif gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, y llys ynadon hwnnw, neu lys ynadon ar gyfer yr ardal y maer troseddwr yn byw ynddi;

(iii) lle gwnaed y SVRO gan lys ynadon ac y caiff y cais i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu ei wneud gan brif swyddog yr heddlu, y llys ynadon hwnnw, llys ynadon ar gyfer yr ardal y maer troseddwr yn byw ynddi, neu lys ynadon syn gweithredu ar gyfer ardal cyfiawnder leol syn cynnwys unrhyw ran o ardal heddlur prif swyddog.

89. Gall y llys amrywio, adnewyddu neu ddiddymu gorchymyn fel y gw棚l yn briodol. Gall y llys adnewyddu gorchymyn, neu amrywio gorchymyn er mwyn cynyddu hyd y gorchymyn at yr uchafswm cyfnod o ddwy flynedd, dim ond os bydd or farn bod angen gwneud hynny er mwyn diogelur cyhoedd neu unrhyw aelod penodol or cyhoedd yng Nghymru a Lloegr rhag y risg o niwed yn deillio o eitem 但 llafn neu arf ymosodol, neu er mwyn atal y troseddwr rhag cyflawni trosedd gan ddefnyddio eitem 但 llafn neu arf ymosodol.

90. Gall fod amgylchiadau lle y byddai angen adnewyddur SVRO am gyfnod arall o rhwng 6 mis a 2 flynedd. Dylair heddlu ystyried amgylchiadau unigol yn ofalus, gan gynnwys a gafodd gorchymyn ei adnewyddu eisoes, wrth benderfynu gwneud cais ir llys. Bydd y llys yn penderfynu a fyddai adnewyddur gorchymyn yn gymesur ac yn angenrheidiol.

91. Rhaid ir llys esbonio effaith amrywio neu adnewyddur gorchymyn ar pwerau sydd gan gwnstabliaid yr heddlu o dan y p典er stopio a chwilio yn adran 342E or Cod Dedfrydu ir troseddwr mewn iaith gyffredin.

Apeliadau

92. Lle gwneir SVRO, gall y troseddwr apelio yn erbyn y penderfyniad i wneud y gorchymyn fel petair gorchymyn yn ddedfryd a wnaed mewn perthynas 但r troseddwr am y drosedd.

93. Lle gwneir cais i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu gorchymyn:

(i) Gall y person a wnaeth y cais apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod gwneud gorchymyn;

(ii) Gall y troseddwr apelio yn erbyn y penderfyniad i wneud gorchymyn a wnaed yn dilyn cais gan un o brif swyddogion yr heddlu neu brif gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig;

(iii) gall un o brif swyddogion yr heddlu apelio yn erbyn penderfyniad i wneud gorchymyn a wnaed ar gais y troseddwr; neu

(iv) lle maer drosedd y gwnaed y gorchymyn mewn perthynas 但 hi yn drosedd a gyflawnwyd mewn man neu mewn perthynas 但 man o dan awdurdodaeth yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig neu lle bor drosedd yn ymwneud fel arall 但 rheilffordd neu dramffordd, gall prif gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig apelio yn erbyn y penderfyniad i wneud gorchymyn a wnaed ar gais y troseddwr.

94. Gellir apelio yn erbyn penderfyniad i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu gorchymyn, neu benderfyniad i wrthod gwneud hynny, ir Llys 粥沿棚鉛 lle gwnaed y cais i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu i Lys y Goron, neu i Lys y Goron mewn unrhyw achos arall (h.y. lle mai llys ynadon glywodd yr achos).

95. Wrth wneud penderfyniad ar ap棚l, gall Llys y Goron wneud y cyfryw orchmynion ag sydd eu hangen i roi ei benderfyniad ar yr ap棚l ar waith ar cyfryw orchmynion cysylltiedig a chanlyniadol ag yr ymddengys eu bod yn briodol.

Pennod 5: Rhyngweithio 但 gorchmynion ac ymyriadau eraill

A ellir defnyddio Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol ochr yn ochr 但 gorchymyn arall?

96. Dylid defnyddio SVROs fel rhan o ddull ehangach ar gyfer atal troseddau er mwyn ymyrryd 但 gweithgarwch troseddwyr au goruchwylio, iw hannog i beidio 但 throseddu.

97. Er mwyn helpur erlyniad i wneud cais am SVRO, maen bosibl y bydd yr heddlu am drafod 但r erlyniad pun a fyddain briodol gwneud cais hefyd am orchymyn arall, ochr yn ochr 但 SVRO, ar gyfer yr un troseddwr.

98. Gallai SVRO ategu gorchymyn arall gan lys lle y bon berthnasol ac yn angenrheidiol a byddai gan y llys yr hawl i benderfynu gwneud SVRO a gorchymyn arall, er enghraifft, Gorchymyn Atal Troseddau Cyllyll (KCPO), Gorchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO) neu Waharddeb Gangiau, ar gyfer yr un unigolyn (gweler rhagor o fanylion am orchmynion ychwanegol yn Atodiad A).

99. Byddai angen ir llys fod yn fodlon bod hyn yn briodol ac yn angenrheidiol o dan yr holl amgylchiadau ac nad ywr amrywiol ofynion yn gwrthdaro 但i gilydd.

100. Maen bosibl y bydd yr heddlu am ymgynghori 但 phartneriaid ehangach yn lleol ar ymyriadau ychwanegol i hwylusor broses o oruchwylio troseddwyr au hannog i beidio 但 throseddu.

Pennod 6: Cynllun Peilot

101. Mae adran 141 o Ddeddf PCSC 2022 yn nodi dau amod y maen rhaid eu bodloni cyn y gellir gweithredur darpariaethau syn gysylltiedig 但 SVROs ledled Cymru a Lloegr gyfan at bob diben.

102. Yn gyntaf, rhaid cynnal cynllun peilot mewn un ardal neu fwy yng Nghymru a Lloegr at un diben penodedig neu fwy; ac yn ail, rhaid ir Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno adroddiad ger bron Senedd y DU ar weithrediad y cynllun peilot. Cynhelir cynlluniau peilot o SVROs yn ardaloedd heddlu Glannau Mersi, Thames Valley, Sussex a Gorllewin Canolbarth Lloegr.

103. Dim ond yn y pedair ardal heddlu beilot y gellir gwneud SVROs; fodd bynnag, gall cwnstabliaid yr heddlu ddefnyddio pwerau stopio a chwilio ledled Cymru a Lloegr. Y nod yw cefnogi ymateb gweithredol ar draws awdurdodaethau, gan alluogi cwnstabliaid o heddluoedd nad ydynt yn rhan or cynllun peilot stopio a chwilio unigolion syn destun SVRO.

104. Diben cynnal cynllun peilot o SVROs yw meithrin dealltwriaeth ou heffaith au heffeithiolrwydd, a phrofi a llywior prosesau ar gyfer eu cyflwyno ar sail ehangach.

105. Bydd y cynllun peilot yn profi effaith SVROs, ymatebion cymunedau i SVROs, gan gynnwys unrhyw faterion o ran anghymesuredd, ar canlyniadau i droseddwyr syn destun SVRO. Er mwyn llywior asesiad hwn, caiff data eu casglu am nifer o fesurau, gan gynnwys oedran, rhyw ac ethnigrwydd pobl syn destun SVRO.

106. Pan ddawr cynllun peilot i ben, caiff adroddiad ei lunio ai gyflwyno ger bron Senedd y DU.

107. Caiff y canllawiau hyn eu hadolygu yn sgil canfyddiadaur cynllun peilot ar gwersi a ddysgir, au diweddaru cyn cyflwyno SVROs ledled Cymru a Lloegr.

Pennod 7: Ystyriaethau eraill

Cwmpas tiriogaethol

108. Cwmpas tiriogaethol SVROs yng Nghymru a Lloegr.

109. Bydd y SVRO yn parhaun weithredol am y cyfnod a ddynodir yn y gorchymyn ac os bydd y troseddwr wedi symud y tu allan i Gymru a Lloegr, bydd yn ofynnol iddo gydymffurfio 但r gofynion ar gwaharddiadau syn gysylltiedig 但r gorchymyn, os bydd y person hwnnw yn dychwelyd i Gymru neu Loegr o rywle arall.

Ystyried dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a hawliau dynol

110. Wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas 但 SVROs, maen ofynnol i gwnstabliaid, prif swyddogion yr heddlu a phrif gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, yn unol ag adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, roi ystyriaeth briodol ir angen i ddileu achosion o wahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth, ac annog cyfle cyfartal ni waeth unrhyw ffactorau fel oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd neu gred neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae hefyd yn ofynnol i gwnstabliaid, prif swyddogion yr heddlu a phrif gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, yn 担l adran 6 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998, weithredu mewn ffordd syn gydnaws 但 hawliaur Confensiwn fel yu nodir yn Atodlen 1 ir Ddeddf honno.

Canllawiau ac Adnoddau Defnyddiol

111. Maen bosibl y bydd yr heddlu hefyd am gyfeirio at y dogfennau canllaw ar adnoddau canlynol:

Atodiad A

Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll (KCPOs)

Cyflwynwyd Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll (KCPOs) o dan Ddeddf Arfau Ymosodol 2019. Maer gorchmynion sifil ataliol newydd hyn yn adnodd ychwanegol y bydd yr heddlu yn gallu eu defnyddio i weithio gyda phobl ifanc ac eraill er mwyn helpu iw hatal rhag cyflawni troseddau cyllyll a thrais difrifol gan ddefnyddio gofynion cadarnhaol i ymdrin 但 ffactorau yn eu bywydau a all gynyddur tebygolrwydd y byddant yn troseddu, ochr yn ochr 但 mesurau i wahardd rhai gweithgareddau penodol er mwyn helpu iw hatal rhag troseddu yn y dyfodol.

Gellir gwneud KCPOs naill ai pan geir euogfarn, neu fel arall.

KCPO a wneir pan geir euogfarn

Gall unrhyw lys syn ymdrin 但r diffynnydd (e.e. Llys y Goron, llys ynadon neu lys ieuenctid) wneud KCPO pan geir euogfarn.

Mae adran 19 o Ddeddf Arfau Ymosodol 2019 yn nodir amodau y maen rhaid eu bodloni er mwyn ir llys wneud KCPO pan geir euogfarn.

KCPO a wneir fel arall

Mae gan y llysoedd hefyd y p典er i wneud KCPOs yn dilyn cwyn gan yr heddlu. Gellir gwneud KCPO mewn perthynas ag unrhyw berson dros 12 oed.

Mae adran 14 o Ddeddf Arfau Ymosodol 2019 yn nodir amodau y gellir gwneud KCPO oddi tanynt yn dilyn cais gan yr heddlu.

Pwy all fod yn destun KCPO?

Gellir gwneud cais am KCPO ar gyfer unrhyw unigolyn 12 oed neu drosodd. Y nod yn hyn o beth yw atal yr unigolion hynny syn wynebur risg fwyaf neu sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys, lle y bon briodol, plant rhag meddu ar gyllyll a rhag dod yn gysylltiedig 但 throseddau cyllyll.

Mae torri KCPO heb esgus rhesymol yn drosedd y gellir ei rhoi ar brawf naill ai mewn llys ynadon neu yn Llys y Goron. Mewn llys ynadon, yr uchafswm dedfryd ar hyn o bryd yw 6 mis o garchar a/neu ddirwy; yn Llys y Goron, yr uchafswm dedfryd ar hyn o bryd yw 2 flynedd o garchar a/neu ddirwy.

Cynhelir cynllun peilot o KCPOs ar hyn o bryd yn ardal yr Heddlu Metropolitanaidd. I gael rhagor o wybodaeth am Orchmynion Atal Troseddau Cyllyll, gweler: Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll (KCPOs) 51画鋼 (www.gov.uk)

Gorchmynion Ymddygiad Troseddol (CBO)

Gellir gwneud Gorchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO) pan gaiff unigolyn ei euogfarnu am unrhyw drosedd mewn unrhyw lys troseddol. Gall y llys wneud CBO ar yr amod y bydd y llys yn pennu dedfryd mewn perthynas 但r drosedd neun rhyddhaur troseddwr ag amodau iw bodloni. Er mwyn gwneud CBO, rhaid ir llys fod yn fodlon bod y troseddwr wedi ymddwyn mewn ffordd a achosodd, neu a oedd yn debygol o achosi, achos o aflonyddu, braw neu drallod i unrhyw berson ac y bydd gwneud y gorchymyn yn helpu i atal y troseddwr rhag ymddwyn yn y fath fodd. Maer gorchymyn yn anelu at fynd ir afael 但r troseddwyr mwyaf difrifol a rheolaidd pan fydd eu hymddygiad wedi eu dwyn ger bron llys troseddol.

Dim ond yn dilyn cais gan yr erlyniad y gall y llys wneud CBO. Gall yr erlyniad wneud cais or fath naill ain dilyn penderfyniad ganddoi hun neun dilyn cais gan gyngor neur heddlu. Bydd gwrandawiad y CBO yn digwydd ar 担l y gwrandawiad dedfrydu ar gyfer yr euogfarn droseddol, neu ar yr un pryd 但r gwrandawiad hwnnw.

Gellir defnyddior CBO i ymdrin ag amrywiaeth eang o fathau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar 担l i unigolyn gael ei euogfarnu am drosedd; er enghraifft, bygwth eraill yn y gymuned, bod yn feddw ac yn ymosodol yn rheolaidd yn gyhoeddus, neu er mwyn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol syn gysylltiedig ag euogfarn fwy difrifol, ar gyfer bwrgleriaeth neu ladrad ar y stryd, er enghraifft. Gellir defnyddior CBO i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gan aelodau o gangiau, er enghraifft iw hatal rhag ymwneud ag unigolion penodol neu iw gwneud yn ofynnol iddynt fynychu cwrs parodrwydd i weithio iw helpu i ddod o hyd i swydd.

Rhaid i deleraur CBO gynnwys hyd y gorchymyn. Ar gyfer oedolion, isafswm o ddwy flynedd hyd at gyfnod amhenodol. Ar gyfer unigolion o dan 18 oed, rhaid ir gorchymyn fod am gyfnod o rhwng blwyddyn a thair blynedd.

Maen drosedd i droseddwr fethu 但 chydymffurfio naill ai 但 gofynion neu waharddiadaur CBO heb esgus rhesymol. Dylid rhoi gwybod ir heddlu am achos o fethu 但 chydymffurfio 但 gwaharddiad neu ofyniad. Mae gan y llys y p典er i orfodi cosbau difrifol pan gaiff unigolyn ei euogfarnu, gan gynnwys: yn dilyn euogfarn ddiannod yn y llys ynadon: uchafswm o chwe mis o garchar neu ddirwy neur ddau; yn dilyn euogfarn ar dditiad yn Llys y Goron: uchafswm o bum mlynedd o garchar neu ddirwy neur ddau.

I gael rhagor o wybodaeth am Orchmynion Ymddygiad Troseddol, gweler: