Welsh translation (HTML)
Updated 7 February 2023
Maer Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried bod y Bil yn cynnwys darpariaethau syn gwneud addasiadau ir gyfraith fel y maen berthnasol i faterion cadwedig ac mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol sail resymol dros gredu y byddai ganddynt effaith andwyol ar weithrediad y gyfraith fel y maen berthnasol i faterion cadwedig. Maer rhesymau dros y gred hon wedi eu nodi yn Rhannau 2. 3 a 4.
Rhan 1: Effaith y Bil
Maer Bil yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004 (Deddf 2004) ar gyfer yr Alban. Bydd y diwygiadau hyn yn newid yn sylweddol sut y gellir rhoi Tystysgrif Cydnabod Rhywedd (GRC) i ymgeiswyr o dan gyfraith yr Alban. Mae pobl yn gallu ymgeisio os ydynt wedi eu cofnodi ar gofrestr geni yn yr Alban neu os ydynt yn preswylio fel arfer yn yr Alban.
Maer diwygiadau a wneir gan y Bil i Ddeddf 2004 yn ei gwneud yn gyflymach ac yn haws i ymgeiswyr or Alban gael GRC llawn, gan ddileu nifer o fesurau mae llywodraeth y DU yn eu hystyried yn drefniadau diogelu pwysig, gan gynnwys:
- dileur gofyn i ymgeisydd gael neu fod wedi cael diagnosis o ddysfforia rhywedd (ac, yn gyfatebol, dileur gofyn i ymgeisydd ddarparu adroddiadau meddygol gydai gais).
- gostyngiad yn yr isafswm oedran o 18 i 16
- gostyngiad yn y cyfnod maen rhaid bod ymgeisydd wedi byw yn ei rywedd/ rhywedd caffaeledig cyn cyflwyno cais, o 2 flynedd i 3 mis (neu 6 mis i ymgeiswyr o dan 18), ochr yn ochr 但 chyflwyno cyfnod myfyrio 3 mis gorfodol
- dileur gofyn i ymgeisydd ddarparu unrhyw dystiolaeth ei fod/bod wedi byw yn ei rywedd/rhywedd caffaeledig wrth gyflwyno cais
- dileur gofyn i Banel fod yn fodlon fod yr ymgeisydd yn bodlonir meini prawf, a cheisiadau yn cael eu gwneud yn hytrach i Gofrestrydd Cyffredinol yr Alban.
Gydai gilydd, maer gwelliannau hyn yn dileu unrhyw ofyn am ddilysu trydydd parti neu dystiolaeth or broses.
Maer Bil hefyd yn diwygio darpariaethau ar gyfer y broses y mae pobl o dramor yn gallu cael GRC o dan gyfraith yr Alban. Mae Adran 1(1)(b) o Ddeddf 2004 yn darparu llwybr tramor symlach syn galluogi person i ymgeisio am GRC os yw ei rywedd/rhywedd caffaeledig wedi cael ei gydnabod yn gyfreithiol mewn gwlad neu diriogaeth a gymeradwywyd. Yn hytrach, maer Bil yn darparu lle mae person wedi cael cydnabyddiaeth rhywedd dramor, bydd y person yn cael ei drin yn awtomatig fel pe byddai Cofrestrydd Cyffredinol yr Alban wedi rhoi GRC llawn ir person, oni bai ei fod yn amlwg yn groes i bolisi cyhoeddus. Nid ywr ddarpariaeth hon yn berthnasol i bobl sydd 但 GRC a roddwyd yng ngweddill y DU o dan Ddeddf 2004, oherwydd bod adran 8M yn darparu ar wah但n eu bod yn cael eu trin fel petaent yn dystysgrifau GRC llawn wedi eu rhoi gan y Cofrestrydd Cyffredinol. Mae gan y Bil eithriad ar gyfer amgylchiadau lle y byddain amlwg yn groes i bolisi cyhoeddus i wneud hynny (er enghraifft, mewn achos lle cafwyd cydnabyddiaeth rhywedd gyfreithiol dramor yn ifanc iawn), er nad ywr Bil yn diffinio fel arall pryd y bydd yr eithriad hwn yn berthnasol.
Effaith ar weithrediad y gyfraith fel y maen berthnasol i faterion cadwedig.
Bydd y Bil yn gwneud addasiadau ir gyfraith fel y maen berthnasol ir materion cadwedig. Mae adrannau 2-6 a 16 y Bil yn gwneud addasiadau i Ddeddf 2004 trwy ddiwygio adrannau 1-8 (ac eithrio a.4(4)) o Ddeddf 2004 a rhoi adrannau 8A i 8E yn eu lle; mae adran 8 yn mewnosod adran 8M newydd; mae adran 16 hefyd yn diwygio adran 25 (syn cynnwys y diffiniadau perthnasol) o Ddeddf 2004. Maer Bil felly yn addasu Deddf 2004.
Y mater cadwedig y maer gyfraith yn berthnasol iddo yw (o leiaf yn gyntaf) cyfleoedd cyfartal.[footnote 1] Maer mater cadwedig yn cael ei ddiffinion benodol i olygu atal, dileu neu reoleiddio gwahaniaethu rhwng personau ar sail rhyw neu statws priodasol, ar sail hiliol, neu ar sail anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, iaith neu darddiad cymdeithasol, neu nodweddion personol eraill, gan gynnwys cred neu farn, megis cred grefyddol neu farn wleidyddol.
Maer gyfraith wedii haddasu (Deddf 2004) yn berthnasol ir mater cadwedig (cyfleoedd cyfartal) trwy ei rhyngberthynas 但 Deddf Cydraddoldeb 2010 (Deddf 2010). Mae Deddf 2010 yn darparu fframwaith gyfreithiol Prydain Fawr i ddiogelu hawliau unigolion a hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb.
Mae Deddf 2010 yn gwneud rhyw yn nodwedd warchodedig ac maen gwneud darpariaethau ynghylch pan fydd ymddygiad yn ymwneud 但r nodwedd warchodedig honno yn anghyfreithlon. Mae Adran 9 o Ddeddf 2004 yn darparu oni bai fod eithriadau yn berthnasol, mai effaith GRC llawn yw y daw rhywr person at bob diben fel y mae wedii ardystio. Fel mater o egwyddor gyffredinol, mae gan GRC llawn yr effaith o newid y rhyw sydd gan berson yn nodwedd warchodedig at ddibenion Deddf 2010.[footnote 2] Mae hyn yn amodol ar sefydlu bwriad ir gwrthwyneb mewn perthynas 但r dehongliad o ddarpariaethau penodol yn Neddf 2010.
Cafodd Deddf 2010 yn ei chyfanrwydd ei drafftio yng ngoleuni, a chan adlewyrchu, terfynau penodol Deddf 2004 Act ar anhawster cymharol y gallai person ei gael wrth newid ei ryw/rhyw yn gyfreithiol at bob diben (ar gyfer adran 9), gan gynnwys Deddf 2010 ei hun. Maer Bil yn newid y cydbwysedd gofalus hwnnw.
Mae gan y Bil ganlyniadau ymarferol hefyd ar weithrediad y gyfraith fel y maen berthnasol i faterion cadwedig eraill. Yr enghreifftiau mwyaf nodedig ywr weinyddiaeth o dreth, budd-d但l a phensiynau Gwladwriaeth a reolir gan systemau integredig ar draws y DU syn rhychwantu swyddogaethau cadwedig a datganoledig. Y materion cadwedig y maer gyfraith yn berthnasol iddynt yw polisi ariannol a nawdd cymdeithasol.[footnote 3]
Maer Ysgrifennydd Gwladol yn credu y byddair addasiadau i Ddeddf 2004 fel y maen berthnasol i faterion cadwedig yn cael effaith andwyol ar weithredur gyfraith fel y maen berthnasol i faterion cadwedig.
Maer effeithiau andwyol hyn yn gallu cael eu grwpio i 3 maes pryder cyffredinol a nodir yn adrannau canlynol y ddogfen hon:
Rhan 2: Yr effeithiau o greu 2 drefn gyfochrog a gwahanol iawn ar gyfer rhoi a dehongli GRC o fewn y DU.
Rhan 3: Yr effeithiau y gallai dileu trefniadau diogelu eu cael ar ddiogelwch, yn enwedig i fenywod a merched, o ystyried y potensial sylweddol gynyddol i geisiadau twyllodrus fod yn llwyddiannus.
Rhan 4: Yr effeithiau ar weithredu Deddf Cydraddoldeb 2010 syn deillio or ffaith fod GRC yn newid nodwedd warchodedig rhyw person at ddibenion Deddf 2010, ac yn ehangur garfan o bobl syn gallu cael GRC. Mae hyn yn cynnwys (a) gwaethygu materion syn bodoli eisoes o dan y drefn GRC bresennol, a (b) creu rhai newydd.
Rhan 2: Effeithiau andwyol trefniadau GRC gwahanol ar draws y DU
Maer categori cyntaf o effeithiau andwyol a gr谷ir gan y Bil yn dod or addasiadau sylweddol maen eu gwneud ir sail y gellir cael GRC arni, ac fellyn gwahanu cyfraith yr Alban oddi wrth gyfraith gweddill y DU, hynny yw, maen creu 2 drefn gyfochrog a gwahanol iawn ar gyfer rhoi a dehongli GRC.
Nid ywr Bil yn honni y byddai gofyn na fyddai gan GRC a roddir yn yr Alban o dan ei thelerau unrhyw effaith gyfreithiol ac eithrio yng nghyfraith yr Alban; ni allai, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, fod wedi gwneud hynny. Maen broblemus iawn mewn egwyddor yn ogystal ag yn ymarferol pe bai gan un o ddinasyddion y DU rywedd gwahanol, a rhyw cyfreithiol (gan gynnwys at ddibenion Deddf 2010), yn dibynnu ar ble maen digwydd byw o fewn y DU, a pha system gyfreithiol syn berthnasol iddo/iddi. Maen annymunol yn ymarferol ac yn gyfreithiol i bawb, gan gynnwys deiliad unigol y GRC yn benodol, y bydd gan berson un rhyw cyfreithiol yn yr Alban ac un gwahanol yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Cydnabur cynnig cydsyniad deddfwriaethol a gafodd ei basio gan Senedd yr Alban ochr yn ochr 但 GRC 2004, ar y pryd, ddymunoldeb cael un drefn gydlynol ar gyfer cael GRC a oedd yn berthnasol yn yr un modd ledled y DU. Nid ywr dymunoldeb hwnnw wedi newid.
Maen glir fod nifer o effeithiau andwyol penodol a achosir gan system ddeuol, fel yr amlinellir isod, yn ogystal 但r effaith andwyol gyffredinol a gr谷ir gan ddiffyg eglurder cyffredinol ar gyfer deiliaid GRC yn ogystal 但 darparwyr gwasanaeth, cyflogwyr ac ati y gall fod yn aneglur iddynt pa statws sydd gan GRC Albanaidd neu un ir DU gyfan mewn cyd-destunau gwahanol, ac i ba raddau ac o dan ba amgylchiadau y bydd y cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth (am statws neu hanes GRC rhywun) a osodir gan adran 22 o Ddeddf 2004 yn berthnasol.
Maer effeithiau andwyol hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig ir rhain, yr enghreifftiau o effeithiau ar weithrediad Deddf Cydraddoldeb 2010 a nodir yn fanylach isod, gan gynnwys:
- clybiau neu gymdeithasau un rhyw: gallai fod gan glwb neu gymdeithas un rhyw ledled y DU aelodaeth wahanol mewn rhannau gwahanol or DU
- dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus (PSED): byddain rhaid i awdurdod cyhoeddus trawsffiniol wneud cais i ddefnyddior PSED yn wahanol yn yr Alban i Gymru a Lloegr
- t但l cyfartal: byddai gan gyflogwr ledled y DU gyflogeion na fyddain gallu defnyddio cydweithiwr yn gymharydd mewn hawliad t但l cyfartal pe byddain cael ei gyflwyno yn yr Alban, ond gallai wneud hynny yn Lloegr (ar gwrthwyneb)
Byddai defnyddior Bil yng nghyd-destun adran 22 o Ddeddf 2004 yn debygol o waethygu pryderon cynyddol cyflogwyr a darparwyr syn codi or garfan newydd: maer niferoedd cynyddol o ddeiliaid GRC yn golygu y bydda pobl yn dod ar draws y materion ar cyfyngiadau hyn yn amlach; a bod ystyriaethau ychwanegol ar gyfer deiliaid GRC 16 a 17 oed nad oeddent wedi eu rhagweld pan gafodd Deddf 2004 ei dyfeisio. Mae adran 22 yn ei gwneud yn drosedd i rywun sydd wedi derbyn gwybodaeth warchodedig yn rhinwedd ei swydd ddatgelur wybodaeth i rywun arall. Mae hon yn ddarostyngedig i eithriadau, gan gynnwys lle maer person yn cydsynio ir datgeliad. Gwybodaeth warchodedig yw ffaith am gais person am GRC a chyn gynted ag y bydd wedi newid ei ryw/rhyw yn gyfreithiol, gwybodaeth fod ganddo/ganddi GRC, neu wybodaeth yn ymwneud 但i ryw/rhyw biolegol ( ac felly hunaniaeth flaenorol). Mae cwmpas adran 22 yn un eang. Maen ei gwneud yn anodd gofyn neu gofnodi rhyw cyfreithiol unigolyn mewn cyd-destun proffesiynol, gan y gallai newidiadau mewn cofnodion rhyw cyfreithiol rhywun dros amser ddatgelu bod ganddo/ganddi GRC, syn wybodaeth warchodedig.
Mae nifer o feysydd hefyd lle caiff creu system ddeuol ganlyniadau andwyol difrifol (ac mewn rhai achosion rhai nad oes modd eu rheoli o bosibl) ar weithrediad y gyfraith fel y maen berthnasol i faterion cadwedig eraill. Yr enghraifft fwyaf nodedig yw gweinyddiaeth treth, budd-daliadau a phensiynaur Wladwriaeth syn cael eu rheoli gan systemau integredig ledled y DU ac syn cwmpasu swyddogaethau cadwedig a datganoledig, yn gweithredu ar gyfer llywodraethaur DU yn ogystal 但r Alban. Mae seilwaith TG presennol yn caniat叩u un rhyw cyfreithiol yn unig ar unrhyw gofnod ac nid ywn gallu newid y dynodwr ar gyfer pobl 16 i 17 oed. Maer rheini syn gyfrifol am y systemau hyn yn ystyried, hyd yn oed ag amser a chost sylweddol,[footnote 4] y gall fod yn amhosibl rheolir gwaith ou hadeiladu gallu system i reoli hunaniaeth ddeuol ar gyfer yr un unigolyn os gallai rhyw cyfreithiol rhywun fod yn wahanol yng nghyfraith yr Alban ar gyfraith ar gyfer Lloegr a Chymru.
Maer Bil hefyd yn creu system wahanol i ddinasyddion tramor gael tystysgrifau GRC rhwng tystysgrifau a gydnabyddir yn yr Alban ac yng ngweddill y DU. Gan y bydd y broses yn yr Alban yn caniat叩u i unrhyw ddeiliad GRC tramor gael GRC Albanaidd yn awtomatig (oni bai ei bod yn amlwg groes i bolisi cyhoeddus), gallai hyn arwain o bosibl at ddinasyddion tramor yn y DU (o wledydd neu diriogaethau nad ydynt ar y rhestr gymeradwy) yn ffafrio ymgeisio am dystysgrifau GRC yr Alban er mwyn osgoir broses fwy trwyadl o ymgeisio ir Panel ar lwybr safonol y DU. Lle dibynnir ar y tystysgrifau GRC hyn mewn perthynas 但 meysydd materion cadwedig - gan gynnwys o dan Ddeddf 2010 - byddant yn agwedd ychwanegol ar effaith anghydlynol y Bil ar weithredur gyfraith fel y maen berthnasol i faterion cadwedig.
Rhan 3: Effeithiau andwyol syn deillio o risg gynyddol ceisiadau twyllodrus
Bydd y gwelliannau a wneir gan y Bil i Ddeddf 2004 yn dileu nifer o fesurau y mae llywodraeth y DU yn eu hystyried yn drefniadau diogelu pwysig, fel yr amlinellir ym mharagraff 3 uchod. Gydai gilydd, maer addasiadau hyn yn tynnu unrhyw ofyniad am ddilysu trydydd parti neu dystiolaeth or broses.
Maer Bil yn creu trosedd o wneud datganiad statudol ffug neu wneud cais ffug am gydnabyddiaeth rhywedd, 但 chosbau o hyd at 2 flynedd o garchar a dirwy anghyfyngedig.
Maer Bil hefyd yn gofyn i Brif Gwnstabl Heddlur Alban hysbysu Cofrestrydd Cyffredinol yr Alban os bydd yn gwneud cais ir llys am orchymyn atal niwed rhywiol neu orchymyn atal troseddau rhywiol, fyddain cael yr effaith o atal person rhag gwneud cais am GRC.
Maer trothwy newydd ar gyfer ceisiadau yn newid y garfan o bobl sydd 但 GRC mewn 2 ffordd sylweddol: maen newid natur y bobl syn gymwys i ymgeisio ac wrth wneud hynny, maen debygol o gynyddun sylweddol nifer y bobl syn gallu gwneud hynnyl.[footnote 5] Ar hyn o bryd, maer gofyn am ddiagnosis dysfforia rhywedd, yn ogystal 但 thystiolaeth o 2 flynedd o fyw yn y rhywedd caffaeledig, yn golygu bod terfynau clir ar bwy syn gymwys i ymgeisio. Trwy ddileur angen am unrhyw ddilysu trydydd parti gan gynnwys y cyfnod gofynnol o fyw yn y rhywedd caffaeledig, a lleihaur cyfnod hwnnw i 3 mis (6 mis ir rheini syn 16 i 17 oed),[footnote 6] maer trothwy wedii newid: o un syn anodd iawn iw fodloni ac syn gofyn am ddilysu trydydd parti; i un syn llawer mwy dibynnol ar farn personol ymgeisydd. Maen eglur fod hyn yn newid y garfan o bobl a allai felly fod yn dal GRC, a thrwy hynnyr categori o bobl syn berthnasol i/syn elwa o ddarpariaethau rhyw penodol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bydd lefel y sicrwydd yngl天n 但r tebygolrwydd y bydd yr unigolyn yn parhaun ymrwymedig i fyw yn ei rywedd caffaeledig hefyd dipyn yn llai oherwydd y cyfnod dechreuol byrrach gofynnol, gan gynyddur tebygolrwydd o unigolion yn amrywio neun terfynun llwyr yr ymrwymiad hwn gan ei fod/bod wedi newid ei ryw/rhyw cyfreithiol. Maer newidiadau hyn felly yn agor y posibilrwydd ar gyfer heterogenedd arwyddocaol helaethach yn y garfan.
Maer newid mewn sut mae GRC yn gallu cael ei gaffael o dan y Bil yn effeithio ar yr amgylchiadau lle mae person yn gallu newid ei nodwedd warchodedig o ryw o dan Ddeddf 2010. Maen ehangur categori o bobl fydd yn cael eu hystyried yn fenywod[footnote 7] o dan Ddeddf 2010. Bellach nid benyw fiolegol fydd na benyw 18 oed neu drosodd sydd 但 GRC o ganlyniad i gyflwr meddygol wedii ddiagnosio ac sydd 但 2 flynedd o brofiad byw; bydd, yng nghyfraith yr Alban, yn fenyw fiolegol neun berson 16 oed neu drosodd sydd wedi hunanadnabod yn fenyw am 6 (neu 9 mis).[footnote 8] Mae hwn yn newid sylweddol ir hyn yw dyn neu fenyw at ddibenion Deddf 2010.
Nid ywr Ysgrifennydd Gwladol yn credu bod y Bil yn cadw nac yn creu trefniadau diogelu digonol i liniarur risg o geisiadau twyllodrus a/neu faleisus ac maen credu y bydd y system ddiwygiedig yn agored i gamddefnydd a gweithredwyr maleisus. Er enghraifft, fel y nodwyd eisoes, nid ywr cyfnod gofynnol ar gyfer byw yn y rhywedd caffaeledig yn cynnwys unrhyw dystiolaeth. Byddai hyn yn tanseilio gweithrediad dynodiad y BIl o ryw ai ryngberthynas 但 rhyw yn nodwedd warchodedig yn Neddf 2010, gan erydu hyder yn yr ail yn fframwaith credadwy i ddiogelu hawliaur unigolion a hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb. Mae pwyntiau tebyg wedi cael eu nodi gan Adroddwr Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Drais yn erbyn Menywod a Merched.[footnote 9]
Mae effeithiau andwyol a nodwyd o bryder arbennig mewn perthynas 但 gweithredu darpariaethau Deddf 2010 yn ymwneud 但 mannau wediu gwahanu o ran rhyw, gwasanaethau, chwaraeon cystadleuol a gofynion galwedigaethol. Maer rhain yn caniat叩u ar gyfer eithrio pobl sydd 但r nodweddion gwarchodedig ailbennu rhywedd, gan gynnwys y rheini sydd 但 GRC, lle gellir cyfiawnhaun wrthrychol eu heithrio. O ystyried y posibilrwydd sylweddol gynyddol y gall rhywun sydd 但 bwriad maleisus gael GRC a chan y bydd y risg hon yn hysbys yn eang, mae risg berthynol o bobl ddim yn teimlon ddiogel mwyach mewn unrhyw leoliad wedii wahanu o ran rhyw ac yn hunaneithrio or lleoliadau hyn er y gallent gael budd sylweddol oddi wrthynt.
Rhan 4: Effeithiau andwyol mewn perthynas 但 gweithrediad Deddf Cydraddoldeb 2010.
(a) Gwaethygu materion presennol gyda gweithredu Deddf Cydraddoideb 2010.
Bydd y gwelliannau a wneir gan y Bil i Ddeddf 2004 yn caniat叩u i gategori newydd a sylweddol ehangach o bobl, nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu cael GRC llawn, wneud hynny. Maer gr典p hwn (y garfan newydd) yn cynnwys:
- ymgeiswyr 16 i 17 oed
- ymgeiswyr sydd 但 diagnosis o ddysfforia rhywedd
- ymgeiswyr nad ydynt yn byw ers 2 flynedd yn eu rhywedd caffaeledig
Mae llywodraeth y DU wedi asesu y byddai creur garfan newydd a gwahanol iawn hon o ymgeiswyr cymwys yn effeithion andwyol ar weithredu Deddf 2010, gan nodi 4 prif faes:
- clybiau a chymdeithasau (lle mae eithriadau yn gymwys mewn perthynas 但 rhyw ond nid mewn perthynas ag ailbennu rhywedd)
- gweithredur PSED
- t但l cyfartal
- darpariaethau lle mae eithriadau yn berthnasol ar gyfer ailbennu rhyw yn ogystal 但 rhywedd
Clybiau a chymdeithasau (lle mae eithriadau yn gymwys mewn perthynas 但 rhyw ond nid mewn perthynas ag ailbennu rhywedd)
Maer darpariaethau yn Neddf 2010 yn ymwneud 但 chymdeithasau sydd 但 25 neu ragor o aelodau (Rhan 7) yn golygu bod cymdeithasau yn gallu cyfyngu aelodaeth i bobl syn rhannu nodwedd warchodedig, felly gallent gyfyngu aelodaeth i ddynion neu i fenywod. Bydd sawl math o grwpiau a chlybiau menywod, gan gynnwys unrhyw grwpiau cymorth seiliedig ar aelodaeth[footnote 10] i fenywod agored i niwed neu fenywod sydd wedi dioddef treisio neu drais rhywiol, neur rheini sydd wediu cynllunio i feithrin cyfranogiad menywod a merched mewn gweithgareddau neilltuol neu chwaraeon, wedi eu cynnwys mewn perthynas 但 chymdeithasau sydd wedi rheoleiddiou haelodaeth i fod yn fenywod yn unig. Lle mae unigolyn wedi newid ei ryw/rhyw at ddibenion Deddf 2010 trwy gael GRC llawn, nid ywr gymdeithas felly yn gallu gwrthod aelodaeth ar sail ei ryw/rhyw blaenorol. Nid ydynt chwaith yn gallu cyfyngu aelodaeth i bobl nad ydynt wedi eu cynnwys gan y nodwedd ailbennu rhywedd oherwydd bod aelodaeth cymdeithas yn gallu cael ei seilio ar nodwedd warchodedig a rennir yn unig ac nid ei habsenoldeb.
Bydd y garfan newydd 但r gallu i newid eu rhyw cyfreithiol a gr谷ir gan y Bil yn newid yn sylweddol broffil a nifer yr unigolion na fydd cymdeithasau yn gallu eu eithrio o aelodaeth ar sail rhyw yn arwyddocaol.
Mae mesurau Deddf 2010 mewn perthynas 但 chymdeithasau yn eu hatal rhag gwrthod aelodaeth i gr典p bach o bobl sydd wediu diffinion fanwl ac sydd wedi newid eu rhyw cyfreithiol o dan Ddeddf 2004 fel y maen berthnasol ar hyn o bryd. Hwn oedd y cyd-destun y cafodd Deddf 2010 ei deddfu ynddo.
Bydd y Bil yn effeithion andwyol ar weithrediad Deddf 2010 trwy newid effaith ei gofynion ar gymdeithasau un rhyw, y bydd gofyn iddynt dderbyn, heb wahaniaethu, aelodau o garfan newydd, fwy a gwahanol, na fyddai wedi ateb y gofynion a amlinellir ar hyn o bryd yn Neddf 2004.
Tra bo derbynwyr presennol GRC wedi sefydlu hunaniaeth rhywedd sefydlog am o leiaf 2 flynedd, gall derbynwyr o dan y Bil fod wedi gwneud hynny am 6 mis yn unig[footnote 11] ac mewn modd sydd wedii hunanddiffinio. Lle roedd gan gymdeithas reswm i eithrior rhyw arall, maen rhesymol i ragdybio y bydd ystwythor broses ar gyfer newid rhyw cyfreithiol yn creu heriau, problemau neu bryderon newydd. Gall cymwysiadau, addasiadau a chyfaddawdau a all fod wedi cael eu darparun rhesymol ar sail eithriad, beidio 但 bod yn bosibl i nifer fwy. Gall darpariaethau a allai wedi bod yn briodol i unigolion a fyddai wedi byw yn eu rhywedd caffaeledig dros gyfnod sylweddol o amser beidio 但 bod yn addas pan nad yw hi felly.
Maer Bil felly yn newid natur a lefel disgwyliadau cymdeithasau un rhyw oi gymharu 但r rheini a nodir gan Ddeddf 2010 pan gaiff ei ddeddfu. Wrth wneud hynny, gall arwain at berygl uwch y gwelir bod cymdeithasau, gan gynnwys cymdeithasau hirsefydlog, yn gweithredun anghyfreithlon (trwy eithrio menywod trawsryweddol, er enghraifft) neu wneud penderfyniadau i beidio 但 gweithredu oherwydd y risgiau canfyddedig. Yn yr un modd ni all sefydlwyr posibl y fath gymdeithasau newydd symud ymlaen oherwydd pryderon cyfatebol. Gallair newidiadau hyn arwain at gollir ddarpariaeth hon, gan danseilio ymdrechion i feithrin cyfranogiad helaethach menywod mewn gweithgarwch neilltuol, neu at hunaneithrio menywod sydd, oherwydd cred grefyddol, athronyddol neu resymau eraill, ond yn teimlo eu bod yn gallu mynychu cymdeithas os ydynt yn deall eu bod wediu gwahanu fesul rhyw biolegol ac syn fwy tebygol o gredu, o ystyried y cynnydd ar ehangu ar y garfan os dawr Bil yn ddeddf, fod hyn yn annhebygol.
Gweithrediad Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED)
Mae ehangu carfan deiliaid GRC yn broblem sylweddol hefyd i weithrediad y PSED (adran 149). Mae hyn yn gofyn i awdurdodau cyhoeddus ar rheini syn cyflawni swyddogaethau cyhoeddus roi sylw dyledus ir angen i hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion syn rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu ymhlith mesurau eraill.
Fel y sefydlwyd uchod, effaith meddu ar GRC lawn yw newid yn gyffredinol y rhyw sydd gan berson yn nodwedd warchodedig at ddibenion Deddf 2010. O ganlyniad, wrth ystyried yr angen i hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng personau syn rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu, ni fydd llunwyr penderfyniadau bob amser yn ystyried yr effaith ar fenywod biolegol yn gr典p clir o dan anfantais oi chymharu 但r effaith ar ddynion biolegol, fel y rhai gwarchodedig.
Nid yw nodwedd rhyw yn gyfyngedig i fenywod biolegol.[footnote 12] Bydd y Bil, os caiff ei ddeddfu, yn gwaethygun sylweddol broblem syn bodoli eisoes oherwydd nifer ac amrediad cynyddol deiliaid GRC, a goblygiadau sylweddol ar gyfer darpariaethau cydraddoldeb ar sail grwpiau. Or herwydd, maen bosibl y bydd ehangu carfan y bobl syn meddu ar GRC yn cael effaith uniongyrchol ar gymhwysor adran hon o Ddeddf 2010. Bydd hefyd yn mynd yn anos monitro anghydraddoldebau ledled y DU rhwng menywod a dynion cyfreithiol, neu bobl drawsryweddol ac annhrawsryweddol, os yw aelodaeth or grwpiau hyn yn gwahaniaethu rhwng yr Alban a gweddill y DU ai bod yn newid yn gyflymach yn yr Alban nac yn Lloegr. Bydd newid aelodaeth y grwpiau hyn yn cael effaith neilltuol ar gyd-destunau mwy lleol a gweithredol lle mae niferoedd y bobl dan sylw yn gallu bod yn eithaf cyfyngedig ac y gallai effaith hyd yn oed nifer fach iawn o ddeiliaid GRC fod yn sylweddol.
Nodir hefyd fod dimensiwn rhyw yn berthnasol yng nghyd-destun pob nodwedd warchodedig arall a gall dealltwriaeth o effeithiau cydraddoldebau ar gyfer mater penodol ofyn am ystyriaeth o gyfuniadau o nodweddion gwarchodedig - er enghraifft, yr effaith ar fenywod lleiafrifoedd ethnig. Bydd yr hwylustod helaethach y gall pobl yn yr Alban newid eu rhyw cyfreithiol trwyddo yn ei gwneud yn anos asesu effeithiaur polisi yn glir mewn perthynas 但 phob nodwedd warchodedig, ac felly bydd yn anos defnyddio PSED, o ganlyniad ir Bil
DylaI asesiadau effaith cydraddoldeb ddefnyddior data ar dystiolaeth sydd ar gael. Yn y cyd-destun hwnnw, nodir y gall cynnwys hyd yn oed niferoedd bach o bobl drawsryweddol mewn dadansoddiad gael effaith anghymesur, gan ei bod yn annhebygol y bydd pobl drawsryweddol yn cael eu dosbarthun gyfartal yn y rhyngdoriad 但 nodweddion gwarchodedig eraill a/neu eu lleoliad. Bydd edrych ar sut yr effeithir ar grwpiau mewn sefyllfaoedd penodol, yn hytrach nac ar raddfa genedlaethol, yn golygu y gallai cynnwys pobl drawsryweddol o fewn grwpiau wediu gwahanu o ran rhyw gael effaith anghymesur ar ddehongliad y data.
T但l cyfartal
Gall y materion hyn godin anaml ond gallent fod yn arwyddocaol mewn achosion penodol - maer effaith andwyol fellyn ansoddol yn hytrach na meintiol. Mae Deddf 2010 yn darparu pan fydd hawlydd yn cyflwyno hawliadau o dan Bennod 3 Rhan 5, maen rhaid iddo/iddi ddangos ei fod/bod wedi cael llai o d但l na pherson or rhyw arall a gyflogir ar waith cydradd (cymharydd).
Mae gan GRC lawn yr effaith o newid y rhyw sydd gan berson fel nodwedd warchodedig at ddibenion Deddf 2010, syn golygu bod menywod trawsryweddol 但 GRC yn cael eu hystyried yn gyfreithiol yn hawlwyr a chynharwyr benywaidd, a dynion trawsryweddol fel hawlwyr a chymharwyr gwrywaidd.
Lle cyflwynir hawliad t但l cyfartal gan hawlydd 但 GRC, neu fod cymharydd 但 GRC yn cael ei ddefnyddio yn yr hawliad, gall person fod wedi cael ei drin fel y gwrthwyneb iw ryw/rhyw cyfreithiol presennol am gyfran sylweddol oi yrfa/gyrfa 但 thelerau gwell neu waeth yn ystod yr amser hwn nar cymharydd neu hawlydd yn eu tro. Gall hyn arwain at y prawf cymharydd yn adnabod mater t但l cyfartal lle nad oes un yn bodolin gywir, neu yn wir gan fethu ag adnabod y fath fater oherwydd statws unigolyn yn ddeiliad y GRC.
Lle gall hawlydd farnu mai cydweithiwr yw cymharydd mwyaf priodol y rhyw arall, ond fod y cydweithiwr hwnnw wedyn yn derbyn GRC, ni fyddai Deddf 2010 yn ei alluogi/galluogi i gael ei enwi/henwi yn gymharydd yn yr hawliad. Gallai hyn atal y prawf cymharydd rhag nodin gywir beth a allai fod wedi ei farnun anghyfreithlon fel arall.
Gan fod y meini prawf ar gyfer derbyn GRC o dan Ddeddf 2004 ar hyn o bryd yn golygu na ellir rhoi GRC ond i gr典p bach sydd wedi byw yn eu rhywedd caffaeledig am o leiaf 2 flynedd, mae effaith hyn ar ddarpariaethau t但l cyfartal wedii gyfyngun sylweddol.
Fodd bynnag, bydd y Bil yn caniat叩u i gategori newydd a sylweddol ehangach o bobl i newid eu rhyw cyfreithiol. A rhagor o unigolion yn gymwys i newid eu rhyw cyfreithiol, maer effaith andwyol ar weithrediad darpariaethau t但l cyfartal Deddf 2010 yn tyfu. Yn neilltuol, byddai gallu unigolyn i ennill GRC lawn ar 担l byw yn ei rywedd/rhywedd caffaeledig am 6 i 9 mis yn cynyddur tebygolrwydd o hawliadau t但l cyfartal yn ymwneud ag unigolion oedd wedi dechrau a chwblhaur broses cydnabod rhywedd yn gymharol ddiweddar yn unig neu oedd wedi cael GRC tra bydd hawliad yn mynd rhagddo.
Mewn egwyddor, gall yr un materion godi yng nghyd-destun hawliad gwahaniaethu uniongyrchol yn seiliedig ar ryw. Fodd bynnag, yn y fath hawliadau gellir dibynnu ar gymharydd damcaniaethol, a bydd y posibilrwydd hwnnw yn golygu y bydd sefyllfa lle mae effaith andwyol yn codi o ganlyniad ir Bil yn brin. Nid yw cymharwyr damcaniaethol yn cael eu defnyddion gyffredinol mewn hawliadau t但l cyfartal.
Darpariaethau lle mae eithriadau yn berthnasol ar gyfer ailbennu rhyw yn ogystal 但 rhywedd
Mae darpariaethau Deddf 2010 ar gyfer gwasanaethau wediu gwahanu o ran rhyw, chwaraeon cystadleuol a gofynion galwedigaethol yn caniat叩u eithrio pobl sydd 但 nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd, lle gellir cyfiawnhaun wrthrychol eu heithrio. Byddai unrhyw un syn dal GRC yn cael ei ddiogelu gan nodwedd ailbennu rhywedd, ond nid yw hyn yn ddibynnol ar feddu ar GRC.
Mae bodolaeth y system bresennol o gydnabod rhywedd cyfreithiol yn golygu bod problemaun ymwneud 但r darpariaethau hyn yn bodoli eisoes. Yn gyntaf, byddai rhywun syn drawsryweddol (hynny yw, mae ganddo/ganddi nodwedd ailbennu rhywedd) ond nad oes ganddo/ganddi GRC yn destun gwaharddiad cyffredinol rhag y gwasanaethau hyn, lleoliadau a rolau hyn ar sail ei ryw/rhyw cyfreithiol; tra nad yw rhywun syn drawsryweddol 但 GRC ddim yn gallu cael ei eithrio/heithrio ar sail ei ryw/rhyw cyfreithiol, ond gall gael ei eithrio/heithrio ar sail ailbennu rhywedd os oes cyfiawnhad gwrthrychol dros wneud hynny. Byddai ehangur garfan o ddeiliaId GRC fellyn arwain at wneud rhagor o benderfyniadau fesul achos. Gall darparwyr hefyd ei chael yn anos cyfiawnhau eithrio niferoedd cynyddol o bobl 但 GRC neu boeni am risg gynyddol o heriau gweithredol a/neu gyfreithiol. Gallai hyn arwain at gynnydd yn nifer y bobl drawsryweddol syn manteisio ar wasanaethau, mannau a rolau un rhyw, ac effaith oeri bosibl ar ddarparwyr presennol a rhai posibl, gan leihaur cymhelliant dros y ddarpariaeth hon mewn gwirionedd.
Mae cynnydd yn nifer deiliaid GRC yn golygu y bydd canfyddiad pobl o a yw lleoliad yn debygol o fod wedii wahanu o ran rhyw yn newid, a gallant fod yn fwy tebygol o hunaneithrio o ganlyniad iw canfyddiad fod pobl or rhyw biolegol arall yn fwy tebygol o fod yn bresennol. Ymhellach, mae natur y garfan newydd a gwahanol iawn o ddeiliaid GRC yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd pobl yn cyfarfod eraill nad ydynt yn cydymffurfio 但u disgwyliadau o rywun y byddent yn disgwyl ei ganfod/chanfod mewn gwasanaeth, man neu r担l un rhyw, a allai arwain atynt yn teimlon anghyfforddus, neu hyd yn oed wediu trawmateiddio, ac yn tanseilior pwrpas o wneud y rhain wediu gwahanu o ran rhyw. Maer Bil yn gwaethygur mater hwn a bydd yn debygol o achosi effaith oeri a allai fod yr un mor niweidiol yn ymarferol ag effaith gyfreithiol.
(b) Materion newydd
Er bod nifer or effeithiau andwyol syn codi or Bil yn cynyddu arwyddoc但d problemau syn bodoli eisoes gyda gweithrediad Deddf 2010, maer effaith ar weithrediad Deddf 2010 yngl天n ag ysgolion o arwyddoc但d arbennig yn yr ystyr ei fod yn creu anhawster na fun rhaid i ysgolion yn gyffredinol ymwneud ag ef or blaen.
Maer darpariaethau yn Neddf 2010 ynghylch ysgolion (yn Rhan 6) wediu heithrio o ddarpariaethau gwahaniaethau ar sail rhyw Deddf 2010 at ddibenion derbyniadau i ysgol un rhyw. Mae ysgolion un rhyw felly yn gallu rhoi polis誰au cyfreithlon mewn grym syn gwahaniaethu ar sail rhyw darpar ddisgyblion. Nid oes eithriad cyfatebol ar gyfer gwahaniaethu ailbennu rhywedd uniongyrchol. Lle mae unigolyn wedi newid ei ryw/rhyw cyfreithiol at ddibenion Deddf 2010 trwy gael GRC lawn, byddai gwrthodiad ysgol i dderbyn plentyn oherwydd ailbennui r(h)ywedd yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail ailbennu rhywedd.
Gan fod Deddf 2004 yn amlinellu isafswm oedran ymgeisio yn 18, nid ywn bosibl ir mwyafrif llethol o ddisgyblion ysgol newid eu statws cyfreithiol cyn gadael yr ysgol. Nid yw Adran Addysg y DU, syn gyfrifol am y system ysgolion yn Lloegr, yn ymwybodol o unrhyw enghreifftiau yn ymarferol naill ai yn Lloegr nac unrhyw le yn y DU. Hwn oedd y cyd-destun y cafodd Deddf 2010 ei deddfu ynddo. Felly, gellir rhagdybio ar hyn o bryd i raddau helaeth bod ysgolion un rhyw yn darparu ar gyfer rhyw biolegol unigol. Os ywr Bil yn cael ei weithredu ac y ceisiodd yr ysgolion hyn eithrio o fynediad y rheini o fewn y garfan newydd oedd wedi newid eu rhyw cyfreithiol fel nad oedd yn cyfateb mwyach i ddarpariaeth yr ysgol, byddai hyn yn anghyfreithlon.
Nid yw Deddf 2010 yn caniat叩u[footnote 13] i ysgolion un rhyw dderbyn disgyblion trwy eithriad or rhyw arall na derbyn nifer gymharol fach o ddisgyblion or rhyw arall a chyfyngur disgyblion hynny i ddosbarthiadau neu gyrsiau neilltuol. Rhoddir felly ar hyn o bryd i ysgolion un rhyw yn ymarferol lefel disgresiwn o dan y Ddeddf mewn perthynas 但 phenderfyniadau derbyniadau maent yn gallu eu defnyddio i ddisgyblion trawsryweddol, y bydd eu rhyw cyfreithiol (ym mhob enghraifft bron) heb newid.
Bydd y Bil yn effeithion andwyol ar weithrediad Deddf 2010 trwy gwtogi ar y disgresiwn maen ei roi i ysgolion yn yr Alban: bydd galluogi carfan newydd o ddisgyblion trawsryweddol 16 i 17 oed i newid eu rhyw cyfreithiol yn yr Alban yn golygu na fydd ysgolion un rhyw yn gallu gwrthod derbyniad iddynt ar sail eu rhyw. Pe byddai ysgol un rhyw yn yr Alban yn gwrthod derbyniad ar sail ailbennu rhywedd disgybl (yn hytrach nai ryw), gallai fod yn wahaniaethu anghyfreithlon uniongyrchol ar sail ailbennu rhywedd. Gyda dim ond nifer fach iawn o ysgolion un rhyw yn yr Alban, mae darpariaeth un rhyw yn gyfyngedig iawn eisoes. Byddai darparwyr syn sefydlu ysgolion un rhyw newydd i ateb unrhyw gynnydd mewn galw ir dyfodol yn cael eu gwahardd yn yr un modd rhag gwrthod derbyniad i ddisgyblion or garfan newydd o ddisgyblion trawsryweddol 16 i 17 oed oherwydd eu bod wedi newid eu rhyw cyfreithiol. Maen bosibl y gallair fath gyfyngiadau yn codi or Bil ar ysgolion un rhyw yn yr Alban gyfrannu at ysgolion unigol yn penderfynu dod yn gydaddysgol. Byddai hynnyn cael effaith andwyol i rieni a myfyrwyr presennol ac ir dyfodol y byddain well ganddynt ysgol un rhyw, efallai yn benodol lle maent yn ystyried bod y fath leoliad yn llai tebygol nac ysgol gydaddysgol o greu problemau o ran aflonyddu rhywiol.
Byddai creu carfan newydd dan y Bil o bobl ifanc 16 i 17 oed yn yr Alban sydd 但r gallu i newid eu tystysgrif geni ac felly eu rhyw cyfreithiol hefyd yn effeithion andwyol ar weithrediad Deddf 2010 mewn ysgolion yn Lloegr, yn enwedig y rheini syn agos at y ffin sydd 但 chanran uwch o fyfyrwyr wediu geni neun byw yn yr Alban. Gallai hyn greu amheuon ynghylch a ellid dibynnu ar dystysgrifau geni a roddir gan Gofresrydd Cyffredinol yr Alban yn dystiolaeth ddogfennol o ryw cyfreithiol person yng Nghymru a Lloegr i rai 16 i 17 oed. Byddai hyn yn gadael ysgolion yn ansicr ynghylch sut i gadarnhau rhyw cyfreithiol person trwy gyfeirio at y ddogfennaeth hon pe byddent wediu geni neun byw yn yr Alban a thros 16 oed.
Gydar fath amheuon am sut i gadarnhau rhyw cyfreithiol rhywun, os dawn ddeddf gallair Bil ei gwneud yn anos i rai ysgolion un rhyw yn Lloegr weithredu. Gallai ansicrwydd neu ddiffyg ymwybyddiaeth o statws trawsryweddol disgybl (rhywbeth syn debygol o godin amlach oherwydd maint cynyddol y garfan yn yr Alban) hefyd olygu nad oes gan ysgolion yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i asesu risgiau diogelu, gan gynnwys sut i gynorthwyo disgyblion trawsryweddol orau.
-
For Women Scotland Ltd v Lord Advocate 2022 CSOH 90 - sylwer bod y Deisebwyr yn ceisio caniat但d i apelio油
-
Pe byddair Bil yn cael ei droin ddeddf, byddai angen i Gyllid a Thollau ei Fawrhydi archwilio a fyddai newidiadau dilyniannol i seilwaith TG yn bosibl. Gall newidiadau i TG Cyllid a Thollau ei Fawrhydi gael effeithiau dilyniannol ar adrannau eraill oherwydd systemau integredig.油
-
Mae Llywodraeth yr Alban yn disgwyl i nifer yr ymgeiswyr blynyddol gynyddu i 250 i 300 (yn seiliedig ar ddata o Iwerddon a gyflwynodd drefn debyg i boblogaeth o faint tebyg, er 但 gwahaniaethau diwylliannol) o linell sylfaen o tua 30 y flwyddyn (yn 担l Cofnodion Cenedlaethol yr Alban mewn perthynas 但r rheini a gafodd eu geni yn yr Alban yn unig) - syn awgrymu cynnydd deng ngwaith. Mae amcangyfrifon Llywodraeth yr Alban fodd bynnag yn agored i ansicrwydd sylweddol. Maen nhwn seiliedig ar ddata hanesyddol o wledydd Ewropeaidd eraill sydd heb systemau cyfatebol. Maer system agosaf or fath mewn gwlad sydd 但 phoblogaeth debyg ir Alban wedi gweld cyfartaledd o 550 o geisiadau y flwyddyn, yn sylweddol fwy nac amcangyfrif Llywodraeth yr Alban. Ni chafodd fframwaith rhesymu ei roi yn ystod yr ymgynghoriad na hynt y Bil ar gyfer amcangyfrifon cymharol isel Llywodraeth yr Alban ou cymharu 但r boblogaeth amcangyfrifedig or gymuned draws. Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban, Shona Robinson, wrth gyflwynor Bil ar 3 Mawrth 2022: Mae tua 25,000 o bobl yn y gymuned draws yn yr Alban ond dim ond tua 600 ohonynt sydd 但 thystysgrif cydnabod rhyweddbyddai llawer rhagor or 25,000 hynny wedi dymuno cael tystysgrif cydnabod rhywedd. Ffynonellau ar gyfer fframweithiau rhyngwladol: , . Ffynonellau ar gyfer data/amcangyfrifon Llywodraeth yr Alban: , .油
-
Maer Bil yn gofyn am gyfnod myfyrio 3 mis ychwanegol cyn i GRC gael ei rhoi.油
-
Maer ffocws ar fenywod trawsryweddol er hwylustod iaith ac oherwydd, fel y maer datganiad hwn yn esbonio, hwn ywr cyd-destun ar gyfer y pryderon ymarferol arwyddocaol a nodwyd; ni ddylid cymryd bod hyn yn eithrior posibilrwydd o faterion posibl neu gyfatebol yn codi mewn perthynas a phobl syn ddynion trwy rinwedd meddu ar GRC.油
-
Y 3 neu 6 mis gofynnol ar adeg ymgeisio a 3 mis ychwanegol o gyfnod myfyrio cyn i GRC gael ei rhoi.油
-
Llythyr gan Adroddwr Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar drais yn erbyn menywod a merched, 29 Tachwedd 2022 油
-
os nad yw gweithgareddau tebyg yn cael eu trefnun ffurfiol ar sail aelodaeth, maen debygol y byddent yn cael eu hystyried yn wasanaethau a byddai darparwyr yn gallu cymhwysor eithriad ailbennu rhywedd lle byddai cyfiawnhad.油
-
Y 3 neu 6 mis gofynnol ar adeg ymgeisio a 3 mis ychwanegol o gyfnod myfyrio cyn i GRC gael ei rhoi.油
-
Gall rhai gwneuthurwyr penderfyniadau beidio 但 bod yn ymwybodol ar hyn o bryd or gwahaniaeth rhwng rhyw biolegol a chyfreithiol ond, lle maent, maer ystyriaethau hyn yn annhebygol o fod yn rhan arferol o asesiadau PSED ar hyn o bryd: gall y data ar dystiolaeth sydd ar gael gyfyngu ar ba ddadansoddi syn bosibl; a/neu gall natur y penderfyniad dan sylw olygu nad yw gwahaniaethu rhwng rhyw cyfreithiol a biolegol yn berthnasol.油
-
Cafodd y ddarpariaeth hon ei datblygu yn Neddf 2010 i hwyluso blaenoriaethu plant staff ysgol, or naill ryw neur llall, mewn derbyniadau i unrhyw ysgol neilltuol; ni chafodd ei chynllunio ag ystyriaeth o ddisgyblion trawsryweddol.油