Supporting male victims (Welsh accessible)
Updated 31 August 2022
Datganiad ar Ddynion syn dioddef troseddau a ystyriwyd yn y Strategaeth ar draws y Llywodraeth ar gyfer Mynd ir Afael 但 Thrais yn erbyn Menywod a Merched ar Cynllun Mynd ir Afael 但 Cham-drin Domestig
1. Rhagair
Maer ddogfen hon yn amlinellu cefnogaeth y Llywodraeth i ddynion syn dioddef troseddau syn dod o fewn y maes trais yn erbyn menywod a merched. Maer ddogfen hon yn cyd-fynd 但 Strategaeth Mynd ir Afael 但 Thrais yn Erbyn Menywod a Merched (VAWG) 2021 a Chynllun Cam-drin Domestig 2022, fel darn o waith cysylltiedig a chefnogol. Maer Strategaeth Mynd ir Afael 但 Thrais yn erbyn Menywod a Merched, ar Cynllun Cam-drin Domestig, yn nodi ein huchelgais i leihau nifer yr achosion o droseddau VAWG, waeth pwy y maent yn effeithio arnynt, ac i gefnogi pob dioddefwr/goroeswr, gan gynnwys dynion a bechgyn.
Gall cyrff statudol, ymarferwyr y sector elusennol, dioddefwyr/goroeswyr, ar cyhoedd ddefnyddior ddogfen hon ochr yn ochr 但r Strategaeth Mynd ir Afael 但 Thrais yn erbyn Menywod a Merched, ar Cynllun Cam-drin Domestig fel: adnodd gwybodaeth ar dirwedd dioddefwyr dynion, gan gynnwys yr heriau penodol y mae dioddefwyr dynion yn eu hwynebu; amlinelliad am waith y gwasanaethau cymorth; a chanllaw i ddatblygu arfer gorau.
Maer term trais yn erbyn menywod a merched yn cyfeirio at weithredoedd o drais neu gamdriniaeth yr ydym yn gwybod syn effeithion anghymesur ar fenywod a merched. Maer troseddau hyn yn cynnwys ac ddim yn gyfyngedig i - treisio, trais rhywiol, cam-drin domestig, stelcian, cam-drin anrhydedd gan gynnwys priodas dan orfod, pornograffi dial, ar niwed syn gysylltiedig 但 gwaith rhyw a phuteindra. Maer troseddau hyn yn cael effeithiau difrifol a pharhaol ar iechyd corfforol a meddyliol unigolyn ac nid oes ganddynt unrhyw le yn ein cymdeithas. Ni all ac ni ddylair defnydd or term hwn negyddu profiadau neu ddarpariaethau ar gyfer dynion syn dioddef y troseddau hyn. Maer Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod holl ddioddefwyr/goroeswyr y troseddau hyn, or holl nodweddion gwarchodedig, yn cael y cymorth y maent yn ei haeddu, ac yn cydnabod ei gyfrifoldebau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus y darperir ar ei gyfer yn Neddf Cydraddoldeb 2010.[footnote 1]
Maer Strategaeth Mynd ir Afael 但 Thrais yn erbyn Menywod a Merched, ar Cynllun Cam-drin Domestig, ill daun glir, er ein bod yn defnyddior term trais yn erbyn menywod a merched yn y ddwy ddogfen, fod hyn yn cyfeirio at unrhyw un syn dioddef unrhyw rai or troseddau hyn.
Er mwyn llywior Strategaeth Mynd ir Afael 但 Thrais yn erbyn Menywod a Merched ar Cynllun Cam-drin Domestig, cynhaliodd y Llywodraeth Alwad gyhoeddus am Dystiolaeth, a gynhaliwyd gan y Swyddfa Gartref mewn dau gam. Yng Ngham 1, gwahoddwyd y cyhoedd i ymateb i arolwg cyhoeddus rhwng 10 Rhagfyr 2020 a 19 Chwefror 2021. Yng Ngham 2, agorwyd yr arolwg cyhoeddus eto gan yr Ysgrifennydd Cartref rhwng 12 Mawrth a 26 Mawrth 2021, yn dilyn trais trasig a llofruddiaeth Sarah Everard.[footnote 2] Derbyniwyd cyfanswm o fwy na 180,000 o ymatebion.
Hyrwyddwyd yr Alwad am Dystiolaeth gan ddefnyddio sianelir wasg, cyfryngau cymdeithasol a rhanddeiliaid y Swyddfa Gartref, ac roedd yn agored i bawb. Cafodd yr arolwg cyhoeddus ei hyrwyddon weithredol i ddynion a bechgyn, gan gynnwys drwy gyfryngau cymdeithasol fel Grwp LADbible. Cynhaliodd y Swyddfa Gartref gr典p ffocws penodol am ddynion a bechgyn gyda rhanddeiliaid yn y sector, a chomisiynodd arolwg a gynrychiolai yn genedlaethol hefyd.[footnote 3] Helpodd sefydliadau syn cefnogi dynion a bechgyn yn benodol i ddosbarthur arolwg i ddioddefwyr er mwyn sicrhau i ni gasglu safbwyntiau dioddefwyr dynion. Maer Llywodraeth wedi ystyried yr adborth a dderbyniwyd or Galwad am Dystiolaeth, ac yn cydnabod yr heriau y gall dynion a bechgyn eu hwynebu.[footnote 4]
Yn y ddogfen hon, rydym yn defnyddio tystiolaethaur dioddefwyr/goroeswyr hynny sydd wedi bod yn ddewr wrth ddisgrifior effaith gall y troseddau hyn eu cael ar unigolion. Ategir y ddogfen gan astudiaethau achos i helpu i ddangos rhywfaint or pwnc a ddisgrifir, ac rydym yn ddiolchgar ir dioddefwyr/goroeswyr am fod yn ddewr wrth rannu eu straeon gyda ni, ac ir sefydliadau a helpodd iw hwyluso. Mae rhai enwau a nodweddion adnabod wediu newid i ddiogelu hunaniaethau. Maer Llywodraeth yn diolch yn galonnog ir holl gyfranwyr ir Alwad am Dystiolaeth am eu cyfraniadau, ac maen ddiolchgar i ddioddefwyr/goroeswyr am rannu eu profiadau, ac am arbenigedd sectorau penodol syn cefnogi dioddefwyr/goroeswyr, academyddion, awdurdodau lleol, a chydweithwyr yn yr heddlu ar System Cyfiawnder Troseddol.
Nodyn am derminoleg
Yn y ddogfen hon, defnyddir termau ymosodiad rhywiol, trosedd rywiol, trais rhywiol a cham-drin rhywiol yn gyfnewidiol ac nid o reidrwydd yn eu diffiniadau technegol neu gyfreithiol.
2. Dioddefwyr dynion: ymchwil a thystiolaeth
Mae pob dioddefwr trosedd VAWG yn cael ei effeithion wahanol gan eu profiadau unigryw. Er ei bod yn bwysig nad yw dioddefwyr dynion yn cael eu hystyried yn un gr典p unigryw, rydym yn cydnabod bod patrymau a thebygrwydd mewn rhai profiadau o ddioddefwyr dynion o droseddau VAWG.
Yn yr adran hon, byddwn yn rhoi trosolwg o nifer yr achosion o droseddau VAWG au category. Mae Arolwg Troseddur Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghymru a Lloegr (CSEW)[footnote 5] ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 ywr data CSEW diweddaraf sydd ar gael ar gyfer troseddau VAWG.[footnote 6]
Bechgyn a phlant
Mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn nodi bod plentyn syn gweld, yn clywed neun profi effeithiau cam-drin domestig, ac syn gysylltiedig 但r person syn cael ei gam-drin neur person syn cyflawnir cam-drin, hefyd yn cael ei ystyried yn ddioddefwr[footnote 7] cam-drin domestig at ddibenion y Ddeddf.[footnote 8]
Gall bechgyn felly ddioddef cam-drin domestig yn eu rhinwedd eu hunain, ac maer Llywodraeth yn cydnabod yr effaith wybyddol, ymddygiadol ac emosiynol tymor byr a thymor hir y gall bechgyn ei dioddef oi ganlyniad. Am rhagor o wybodaeth am effaith cam-drin domestig ar blant, y rhwystrau y gallent eu hwynebu o ran cael mynediad at wasanaethau cymorth, ar angen am gymorth rheng flaen i fabwysiadu dull syn seiliedig ar drawma i gydnabod anghenion penodol plant o wahanol grwpiau oedran neu nodweddion gwarchodedig, gweler Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig.
Yn y Strategaeth Mynd ir Afael 但 Thrais yn erbyn Menywod a Merched, ymrwymodd y Llywodraeth i ddatblygu cymorth ychwanegol i helpu athrawon i gyflwynor cwricwlwm Addysg Perthnasoedd, Rhyw ac Iechyd statudol (RSHE) mewn ysgolion yn effeithiol ac yn hyderus. Mae cwricwlwm RSHE yn cydnabod y gall bechgyn hefyd ddioddef trais rhywiol, ac maen argymell bod pob disgybl yn cael dealltwriaeth o berthnasoedd iach.
Mae yn nodi ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau mynediad at wasanaethau cymorth o ansawdd uchel i bob dioddefwr a goroeswr cam-drin plant yn rhywiol, gan gynnwys dynion a bechgyn, lle bynnag y maent yn byw yn y wlad a phryd bynnag y digwyddodd y cam-drin. Rydym yn gwneud hyn drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau cymorth trais rhywiol arbenigol lleol a chenedlaethol.
Gall dynion a bechgyn wynebu rhwystrau penodol i gael mynediad at rai gwasanaethau cymorth, a gallant brofi gwendidau penodol. Gwyddom, oherwydd nifer o rwystrau systemig, amgylcheddol a diwylliannol, y mae rhai ohonynt wediu nodi yn yr adran nesaf, nad yw llawer ohonynt yn dod ymlaen iw hadrodd.
Cam-drin domestig a dynladdiad domestig
Dengys data CSEW or flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 fod 13.8% o ddynion a 27.6% o fenywod 16 i 74 oed wedi profi ymddygiad cam- drin domestig[footnote 9] ers yn 16 oed, syn cyfateb i amcan o 2.9 miliwn o ddioddefwyr dynion a 5.9 miliwn o ddioddefwyr menywod. Yn y flwyddyn 2019/20, roedd 3.6% o ddynion (757,000) a 7.3% o fenywod (1.6 miliwn) yn ddioddefwyr cam-drin domestig.[footnote 10] Dengys data ar fanylion achosion a drafodwyd mewn Cynadleddau Asesu Risg Amlasiantaethol (MARACs), syn cynrychiolir achosion mwyaf o gam-drin domestig risg, fod gan 6.1% or MARACs a gynhaliwyd rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mai 2021 ddioddefwyr dynion. Roedd y gyfran arall o ddioddefwyr yn fenywod.[footnote 11]
Wrth edrych tuag at wahanol fathau o gam-drin domestig, mae dynion yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi dioddef cam-drin partner (2.4%) na cham-drin teuluol (1.5%) yn y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn dilyn yr un duedd ag ar gyfer dioddefwyr menywod. Profwyd stelcian domestig gan 0.7% o ddynion ac 1.3% o fenywod yn y flwyddyn flaenorol.
Or 362 o ddioddefwyr dynladdiadau domestig yn y flwyddyn o fis Mawrth 2018 i fis Mawrth 2020, roedd 86 o ddioddefwyr yn ddynion (24%).[footnote 12] Mewn ychydig llai na 60% o achosion (51 o ddioddefwyr), roedd yr amheuwr naill ai yn rhiant neu yn aelod arall or teulu. Mewn ychydig mwy na 60% o achosion, roedd yr amheuwr yn ddyn (53 o achosion). Gwelodd Llinell Gyngor i Ddynion Respect ar elusen cefnogi dioddefwyr dynion, Mankind Initiative, gynnydd yn nifer y galwadau yn ystyried hunanladdiad dros gyfnod y pandemig.[footnote 13],[footnote 14] Canfu adolygiad Rhaglen Gwybodaeth ac Ymarfer Agored i Niwed (VKPP) a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) o ddynladdiadau domestig a hunanladdiadau tybiedig ymysg dioddefwyr rhwng mis Mawrth 2020 a 2021 fod 10% (4) or 39 o hunanladdiadau syn gysylltiedig 但 cham- drin domestig a nodwyd yn ddioddefwyr dynion.[footnote 15] [footnote 16]
Ymosodiad rhywiol
Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, amcangyfrifwyd bod 773,000 o oedolion rhwng 16 a 74 oed yn dioddef ymosodiad rhywiol (gan gynnwys ymdrechion), gydag amcangyfrif o 618,000 o fenywod a 155,000 o ddioddefwyr dynion.[footnote 17][footnote 18] Maer Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol yn amcangyfrif bod o leiaf 5% o fechgyn a dynion ifanc yn profi cam- drin rhywiol cyn eu bod yn 16 oed.[footnote 19]
Stelcian
Yn 担l CSEW, amcangyfrifwyd bod 526,000 o ddynion rhwng 16 a 74 oed wedi dioddef stelcian yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 (oi gymharu 但 977,000 o fenywod).[footnote 20]
Cam-drin anrhydedd (HBA), gan gynnwys priodas dan orfod
Mae dynion a bechgyn hefyd yn dioddef cam-drin anrhydedd (HBA). Yn yr un modd 但 menywod syn dioddef o HBA, efallai y byddant yn ei ddioddef am amrywiaeth o resymau. Maer rhain yn cynnwys: cosbi ymddygiad syn cael ei ystyried i fod yn groes i normau cymunedol neu yn peryglu anrhydedd teuluol, i geisio gwella neu guddio hunaniaeth drawsrywiol neu hoyw, neun ychwanegol, yn achos cael ei orfodi i briodi, i gael fisa neu i ddod o hyd i ofalwr ar gyfer unigolyn ag anabledd.
Mae data or Swyddfa Gartref ac Uned Priodasau dan Orfod (FMU) y Swyddfa Dramor, Gymanwlad a Datblygu yn dangos bod tua un o bob pump or achosion y darparwyd cyngor neu gymorth iddynt yn 2020 yn ymwneud 但 dioddefwyr a goroeswyr dynion (21% yn 2020). Ymddengys fod dynion yn benodol yn cael eu cynrychioli mewn achosion lle maer dioddefwr yn LHDT (63% yn ddynion), neu lle mae ganddynt bryderon galluedd meddyliol (55% yn ddynion).[footnote 21]
Astudiaeth Achos: Uned Priodasau dan Orfod
Roedd Ahmed,[footnote 22] dyn ifanc, o dan bwysau cynyddol gartref i briodi cefnder ym Mhacistan, gyda bygythiadau iw ladd pe na bain cydymffurfio. Yna, anfonwyd Ahmed i Bacistan dan esgus o ymweld 但i deidiau a neiniau.
Rhybuddiodd cariad Ahmed yn y DU Uned Priodasau dan Orfod (FMU), y Swyddfa Dramor, Gymanwlad a Datblygu (FCDO) ac uned y Swyddfa Gartref, syn arwain ar bolisi priodasau dan orfod y Llywodraeth, allgymorth a gwaith achos. Maen gweithredu y tu mewn ir DU (lle darperir cymorth i unrhyw unigolyn) a thramor (lle darperir cymorth consylaidd i wladolion Prydeinig, gan gynnwys gwladolion deuol).
Cynghorodd yr FMU hi i drosglwyddo eu manylion i Ahmed, er mwyn iddo gysylltun uniongyrchol 但 nhw. Cysylltodd Ahmed 但r FMU fis ar 担l iddo gael ei anfon i Bacistan, a dywedodd ei fod wedi cael ei orfodi i ymgysylltu 但i gefnder, ac yn ofni bod y briodas ar fin digwydd. Dywedodd hefyd, er ei fod wedi bod yn byw gydai deidiau ai neiniau ai ewythr tadol ym Mhacistan, fod ei basbort wedii dynnu oddi wrtho, a bod ei ff担n yn cael ei fonitron agos.
Dywedodd cydweithwyr yr FMU o fewn Uchel Gomisiwn Prydain (BHC) yn Islamabad wrtho am aros ller oedd tra bod cynllun ffurfiol wedii ddatblygu iw helpu i ddychwelyd ir DU. Cyn yr oedd yn bosib rhoi cynllun ffurfiol ar waith, aeth Ahmed o gartref y teulu i Uchel Gomisiwn Prydain yn Islamabad heb ei basbort. Cafodd lety mewn gwesty drwy bartneriaid NGO y FMU yn Islamabad.
Mewn cyfathrebiadau cychwynnol, roedd Ahmed wedi nodi nad oedd am iw rieni yn y DU wybod am ei leoliad, ac nid oedd am i FMU gysylltu 但r heddlu am Orchymyn Amddiffyn Priodasau dan Orfod (FMPO) nes ei fod yn ddiogel yn y DU, oherwydd ei fod yn ofni y byddai ei fywyd mewn perygl ym Mhacistan. Fodd bynnag, rhoddodd ganiat但d yn ddiweddarach ir heddlu gael gwybod, yn ogystal 但i ewythr ym Mhacistan.
Yn fuan ar 担l i Ahmed adael Pacistan, cysylltodd aelodau ei deulu 但r BHC ac, ar 担l trafodaethau, a gyda chaniat但d Ahmed, trefnwyd ei basbort ai docyn dychwelyd ai ddod ir BHC. Yna gwnaeth staff BHC drefniadau i hwyluso ei deithiau, gan gynnwys profion COVID-19 cyn hedfan.
Gwnaeth yr FMU drefniadau gydau partner NGO yn y DU i Ahmed gael ei gyfarfod yn y maes awyr wrth gyrraedd, ai letya mewn gwesty diogel. Cyfarfu 但 hwy ynghyd 但r heddlu ai hebrwng ir llety diogel. Yna darparwyd llety dros dro, lwfans cynhaliaeth i Ahmed, a thrafodwyd ei anghenion diogelu parhaus gydar heddlu.
Aflonyddu rhywiol
Yn nata Arolwg Aflonyddu Rhywiol Swyddfa Cydraddoldebaur Llywodraeth yn 2020, defnyddiwyd diffiniad eang, hunanddiffiniedig o aflonyddu rhywiol a chanfuwyd, er ei fod yn fwyaf tebygol o effeithio ar fenywod, bod dynion hefyd yn profi lefelau sylweddol o aflonyddu rhywiol ac ymddygiadau aflonyddu rhywiol, dywedodd 34% o ddynion eu bod wedi profi o leiaf un math o aflonyddu rhywiol yn ystod y 12 mis diwethaf.[footnote 23] Yn y gweithle yn benodol, roedd dynion bron mor debygol o brofi aflonyddu 但 menywod (roedd nifer yr achosion o aflonyddu yn 30% ymhlith menywod a 27% ymhlith dynion).
Demograffeg
Maer Llywodraeth yn cydnabod bod rhai grwpiau mewn mwy o berygl o droseddau penodol. Rydym yn gallu pennu patrymau penodol a nodweddion cyffredin o brofiad, ond nid ywr grwpiau hyn yn unigryw a gallant wynebu heriau syn gorgyffwrdd.
Maer CSEW ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 yn tynnu sylw at y ffaith bod dynion hoyw a deurywiol tua dwywaith yn fwy tebygol o brofi cam-drin domestig 但 dynion heterorywiol; Dywedodd 6% o ddynion hoyw a 7.3% o ddynion deurywiol 16 i 74 oed eu bod wedi profi cam-drin domestig yn y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cymharu 但 3.5% o ddynion heterorywiol.[footnote 24]
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddata cynrychioliadol cenedlaethol ar nifer yr achosion o gam-drin domestig mewn pobl drawsryweddol.[footnote 25] Yn 担l y CSEW, roedd pobl drawsryweddol yn llawer mwy tebygol o fod wedi dioddef pob trosedd, gan gynnwys troseddau a ystyriwyd yn drais yn erbyn menywod a merched (ac eithrio twyll).[footnote 26] Roedd mwy nag 1 o bob 4 person trawsryweddol (28%) wedi profi trosedd o gymharu 但 14% o [footnote 27] bobl nad ydynt yn drawsrywiol.[footnote 28] Canfu Arolwg Cenedlaethol LHDT Swyddfa Cydraddoldebaur Llywodraeth fod ymatebwyr trawsryweddol yn benodol yn fwy tebygol o fod wedi profir rhan fwyaf o fathau o ddigwyddiadau (48%) yn cynnwys rhywun yr oeddent yn byw gydag ef nag ymatebwyr eraill (28%). Roedd dynion trawsryweddol yn fwy tebygol o adrodd digwyddiadau fel aflonyddu geiriol, ymddygiad rheoli neu orfodi, ac aflonyddu corfforol neu drais na dynion nad ydynt yn drawsrywiol.[footnote 29]
Gall dynion HDTC+ hefyd fod yn ddioddefwyr therapi trosi honedig, mae hyn yn gam-drin sydd 但r nod o newid neu wella hunaniaethau LHDT, a gallant fod ar ffurf cam-drin geiriol, seicolegol, corfforol a rhywiol.[footnote 30]
Yn 2020-2021, nododd 1 o bob 3 o alwyr ir Llinell Gymorth i Ddynion - y llinell gymorth genedlaethol ar gyfer dynion syn dioddef cam-drin domestig a redir gan Respect - eu bod yn dod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. Or dioddefwyr hynny, dywedodd 1 o bob 3 arall eu bod wedi profi achosion o ymddygiad rheoli neu orfodi ar 5 achlysur neu fwy.
Mae CSEW yn canfod, yn yr un modd 但 thueddiadau cyffredinol mewn cam- drin domestig, fod dynion o grwpiau ethnig cymysg neu eraill yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi dioddef cam-drin domestig. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, canfu CSEW fod 6.1% or rhai mewn grwpiau ethnig eraill a 5.9% or rhai mewn gr典p ethnig cymysg wedi adrodd profi cam- drin domestig yn y flwyddyn flaenorol. Roedd nifer yr achosion o ddynion yn 3.6%.[footnote 31]
Maer Llywodraeth yn cydnabod y risg gynyddol o erledigaeth troseddau VAWG a wynebir gan bobl fudol, gan gynnwys dynion mudol. Fel y nodwyd yn y Strategaeth Mynd ir Afael 但 Thrais yn Erbyn Menywod a Merched, maer Swyddfa Gartref yn cynnal cynllun peilot Cymorth i Ddioddefwyr Mudol i ddarparu cymorth cofleidiol i ddioddefwyr mudol cam-drin domestig nad oes ganddynt fynediad at arian cyhoeddus, a bydd adroddiad gwerthuso yn cael ei gyhoeddi yn yr haf.
Dengys data CSEW fod pobl anabl yn fwy tebygol o ddioddef cam-drin domestig. Mae hyn yn wir am ddynion a menywod, gyda dynion anabl dros ddwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn profi cam-drin domestig (7.5%) na dynion nad ydynt yn anabl (3.2%), yn y flwyddyn flaenorol.[footnote 32] Yn y tair blynedd a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018, roedd dynion anabl 16-59 oed (1.1%) yn fwy tebygol o fod wedi dioddef ymosodiad rhywiol ac ymdrech ymosodiad rhywiol na dynion nad ydynt yn anabl or un oedran (0.8%).[footnote 33] Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, roedd dynion anabl (7.5%) fwy na dwywaith yn fwy tebygol o fod wedi profi cam-drin domestig na dynion nad ydynt yn anabl (3.2%).[footnote 34]
Gall y sefyllfa i ddynion syn dioddef cam-drin domestig a rhai troseddau eraill yng nghategori VAWG fod yn llawer anoddach a chymhleth lle mae ganddynt gyfrifoldebau rhieni. Mae ffigurau Arolwg Troseddu SYG ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 yn dangos bod 34.1% o ddioddefwyr dynion syn dioddef cam-drin domestig yn byw mewn cartref gyda dau oedolyn ac o leiaf un plentyn, ac mae 1.4% arall o ddioddefwyr dynion yn byw mewn cartref gydag un oedolyn ac o leiaf un plentyn.[footnote 35] Ymhlith dioddefwyr cam-drin partner a ddywedodd fod plant yn y cartref, gwelodd plant y drosedd mewn 20.5% o achosion.[footnote 36]
3. Adnabod ac adrodd
Gall stereoteipio niweidiol, ynghyd 但 mythau a chamdybiaethau poblogaidd yngl天n 但 dioddefwyr dynion, fod yn rhwystrau ychwanegol o ran adrodd a cheisio cymorth. Er enghraifft, gall stereoteipiau ynghylch gwrywdod fod yn ffactor sylweddol ym mhrofiad dioddefwr dyn o gam-drin domestig. Gall dioddefwyr dynion fod yn llai tebygol o ddatgelu eu bod yn cael eu cam-drin neu efallai na fyddant yn cydnabod eu bod yn dioddef cam-drin domestig gan y gallant gredu fod y term cam-drin domestig ond yn berthnasol i fenywod.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018, dangosodd CSEW mai dim ond ychydig dros hanner y dynion a ddioddefodd gam-drin partner (50.8%) a ddywedodd wrth unrhyw un yn bersonol am gamdriniaeth a gafwyd yn y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cymharu 但r 81.3% o ddioddefwyr benywaidd.[footnote 37] Gall dynion a bechgyn wynebu heriau penodol o ran datgelu camdriniaeth oherwydd stereoteipiau ac ofn peidio 但 chael eu credu. Gall pob dioddefwr brofi rhwystrau i adrodd y troseddau hyn, a cheisio cymorth gan wasanaethau arbenigol, waeth beth fou rhyw. Gall y rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: ofn peidio 但 chael eu credu; diffyg ffydd yn y system cyfiawnder troseddol; teimladau o gywilydd, euogrwydd neu embaras; ddim yn cydnabod bod y sefyllfan gam-drin; heb fod yn ymwybodol o sut i adrodd troseddau; ofn colli cysylltiad 但 phlant; statws mewnfudo; ofn datgelu eu rhywioldeb; bygythiadau o niwed gan y cyflawnwr; a phwysau gan deulu a ffrindiau i aros mewn perthynas.[footnote 38] Gall dioddefwyr dynion 但 nodweddion gwarchodedig fod mewn mwy o berygl o wynebu rhwystrau i adrodd a cheisio cymorth.
Gall mythau a chamsyniadau poblogaidd am ddynion syn dioddef troseddau fel cam-drin domestig a rhywiol fod yn arbennig o niweidiol a gweithredu fel rhwystr pellach i adrodd a cheisio cymorth.
Gall mythau syn ymwneud 但 dynion syn dioddef cam-drin rhywiol gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: bydd goroeswyr dynion sydd wedi cael eu cam- drin yn rhywiol yn mynd ymlaen i gam-drin eraill; mae dynion/bechgyn sydd yn cael eu cam-drin yn rhywiol gan ddynion/bechgyn eraill yn unig; mae cyffro corfforol yn ystod gweithredoedd cam-drin rhywiol troseddol yn dynodi caniat但d.[footnote 39] Yn eu hymchwil genedlaethol, daeth asiantaeth ymbar辿l arbenigol y sector gwirfoddol, Partneriaeth ar gyfer Goroeswyr Dynion, ir casgliad bod 20% or dynion a oedd yn rhan or arolwg wedi cymryd dros 31 mlynedd i ddatgelu eu bod yn cael eu cam-drin yn rhywiol.[footnote 40]
Nododd astudiaeth gan Brifysgol Durham a oedd yn archwilio profiad dynion syn dioddef cam-drin domestig yn ystod COVID-19 a gynhaliwyd mewn cydweithrediad 但r llinell Cymorth i Ddynion, a gynhaliwyd gan yr elusen cam- drin domestig Respect - fod rhai ou galwyr yn disgrifio sut roedd eu syniadau am yr hyn y maen ei olygu i fod yn ddyn, yn golygu eu bod yn ei chael hin anodd credu eu bod wedi dioddef camdriniaeth.[footnote 41] Gall hyn hefyd effeithio ar y ffyrdd y caiff dioddefwyr dynion eu cam-drin, er enghraifft, gan ddefnyddio inswlin penodol fel rhan o batrwm o ymddygiad rheoli neu orfodi. Nododd yr astudiaeth fod dioddefwyr dynion wedi cael eu gwatwar gan eu cyflawnwyr am nad oeddent yn ddigon gwrywol.[footnote 42]
4. Mynediad at wasanaethau cymorth
Mae pob dioddefwr/goroeswyr yn haeddu cael mynediad at gymorth amserol a phriodol. Tanlinellwyd pwysigrwydd o gael mynediad at wasanaethau priodol yng nghyd-destun pandemig COVID-19. Maer Gronfa Cymorth Trais Rhywiol, a ddarperir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, wedii hymestyn tan fis Mawrth 2023, i sicrhau bod gan wasanaethau cymorth y sefydlogrwydd ariannu sydd ei angen arnynt i ateb y galw. Maer cyllid craidd ar gyfer canolfannau cymorth trais rhywiol drwyr gronfa hon wedi cynyddu 50% yn y flwyddyn ariannol hon (21/22), o 贈8m i 贈12m y flwyddyn.
Ar gyfartaledd, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, cafodd yr elusen ManKind Initiative 23% yn fwy o alwadau iw llinell gymorth bob mis a 61% yn fwy o ymwelwyr 但u gwefan bob mis nar flwyddyn flaenorol.[footnote 43] Mae rhai gwasanaethau cymorth - fel y Llinell Gymorth i Ddynion, y llinell gymorth genedlaethol ar gyfer dynion syn dioddef cam-drin domestig, syn cael eu rhedeg gan Respect - hefyd yn cynnig gwasanaethau ar y we syn caniat叩u ir defnyddiwr ymateb ar unwaith ac yn ddi-oed gan staff. O 2019-2022, maer Llywodraeth wedi dyrannu 贈168,000 y flwyddyn ar gyfer y llinell gymorth. Yn ogystal 但r swm hwn, darparodd y Llywodraeth gynnydd ariannol o 贈151,000 arall yn 2020/21 i gefnogir gwaith o barhau i redeg y gwasanaeth yn ystod pandemig COVID-19. Yn 2021/22, darparodd y Llywodraeth gynnydd ariannol arall o 贈64,500 i ariannu gweithgarwch ychwanegol.
Astudiaeth Achos: Safer Futures Cernyw
Pan oedd ei bartner wedi gadael am waith, penderfynodd Joe1 (30) ffonio llinell gymorth Safer Futures. Roedd Joe wedi cwrdd 但i bartner 18 mis yn 担l ar noson allan. Ar 担l rhamant chwilboeth, roedd Joe wedi symud mewn i fflat ei bartner. Roedd hyn yn dda i Joe; roedd wedi treulior misoedd blaenorol rhwng tai ffrindiau ar 担l colli ei swydd a dioddef gydai iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19.
Ar y dechrau, roedd y berthynas yn ymddangos fel pe bain berffaith. Fodd bynnag, daeth patrymau rheoli gorfodi ir amlwg yn fuan, a dechreuodd Joe ofni iw bartner ddychwelyd oi waith. Aeth hunan-barch Joe yn isel iawn a dechreuodd yfed mwy a mwy.
Ni fyddai Joe erioed wedi disgrifio ei sefyllfa fel cam-drin domestig, nid oedd ei bartner byth yn ei frifon gorfforol. Fodd bynnag, pan ddechreuodd Joe ystyried hunanladdiad, cysylltodd 但 ffrind. Roedd ei ffrind wedi bod yn poeni am berthynas Joe ac awgrymodd ei fod yn ffonio llinell gymorth Safer Futures.
Mae Safer Futures yn ddarparwr gwasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol integredig, syn cael ei redeg gan First Light a Barnardos, a gomisiynwyd gan Gernyw a Chyd-gr典p Comisiynu Ynysoedd Scilly. Maen cynnig amrywiaeth o raglenni ymyrraeth gynnar, atal, therapi ac adfer syn seiliedig ar ryw i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae pob rhan or gwasanaeth yn rhad ac am ddim a gellir eu cysylltu 但 nhw drwy ffonior llinell gymorth Un Pwynt Mynediad (SPA).
Yn debyg i wasanaethau cam-drin domestig eraill, mae wedi gweld cynnydd sydyn mewn atgyfeiriadau ers dechrau pandemig COVID-19 ym mis Mawrth 2020. I ddynion, maer cynnydd hwn wedi bod tua 15%; mae wedi bod tua 40% i fenywod. Mae menywod a dynion yn darparu cymorth ar y llinell gymorth er bod mwy o fenywod ar gael i ateb y galw, ac mae gan y cleient ddewis o bwy maen nhwn siarad 但 nhw.
Mae Safer Futures yn darparu gwasanaethau cymorth wediu teilwra i anghenion yr unigolyn. Wrth ffonior llinell gymorth SPA, gall arbenigwyr gynnal asesiad risg DASH
- neu gam-drin domestig, stelcian a thrais er anrhydedd - a chreu llwybr cymorth wedii deilwra. Yn achos Joe, nid oedd asesiad risg DASH a barn broffesiynol yr arbenigwr yn dangos risg uniongyrchol o niwed i Joe. Felly, nid oedd angen Eiriolwr Trais Domestig Annibynnol (IDVA) - syn delio ag ymyrraeth argyfwng risg uchel - ar Joe ond roedd angen cymorth parhaus arno. Trefnwyd iddo gael cymorth DASA (cynghorydd diogelwch cam-drin domestig) ar gyfer cyfarfodydd un-i-un yn y gymuned. Roedd y DASA yn gallu cefnogi Joe i ddod o hyd i lety diogel, ymuno 但 gr典p cymorth cymheiriaid dynion a chael mynediad at gymorth iechyd meddwl, alcohol ac wrth chwilio am swydd.
Maer Llywodraeth hefyd yn cydnabod y rhwystrau ychwanegol i adrodd y gallai dioddefwyr dynion 但 nodweddion gwarchodedig eu profi, ac y gallai fod gan ddioddefwyr dynion anghenion arbenigol. Mae rhai rhwystrau i adrodd a cheisio cymorth yn ymarferol ac yn cynnwys argaeledd gwasanaethau.
Efallai y bydd dioddefwyr a goroeswyr LHDT yn llai tebygol o geisio cymorth oherwydd gall fod diffyg eglurder ynghylch a yw gwasanaethaun croesawgar i bobl LHDT.[footnote 44] Nododd y sefydliad cymorth Galop fod pobl LHDT yn profi amrywiaeth o rwystrau strwythurol, diwylliannol, unigol a rhyngbersonol wrth gael mynediad at wasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y DU.[footnote 45]
Efallai y bydd dioddefwyr/goroeswyr dynion mewn yst但d y carchardai yn ei chael hin anodd cael gafael ar wasanaethau cymorth perthnasol. Yn 担l ffigurau a gafwyd mewn astudiaeth yn y DU gan Gynghrair Howard ar gyfer Diwygio Cosbau (2014), pan gynyddodd gorlenwi mewn carchardai dynion, cododd nifer yr ymosodiadau rhywiol a gofnodwyd gan garcharorion dynion. Gallai gostyngiadau yn yr amser cyswllt rhwng swyddogion a charcharorion o ganlyniad i COVID-19 ei gwneud yn anoddach i staff nodi carcharorion sydd mewn perygl o ymosodiad rhywiol, neu atal neu ganfod ymosodiadau rhywiol yn y carchar.[footnote 46] Yn 2020, cofnododd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi 239 o ymosodiadau rhywiol mewn sefydliadau diogel i ddynion gan gynnwys carchardai, Sefydliadau Troseddwyr Ifanc a Chanolfannau Symud Mewnfudo a reolir gan HMPPS - yng Nghymru a Lloegr.[footnote 47]
Maen hanfodol bod gwasanaethau cymorth:
- yn glir am y cymorth syn cael ei gynnig ac i bwy
- ystyried anghenion dioddefwyr/goroeswyr
- deall effaith stereoteipio niweidiol, ynghyd 但 mythau a chamdybiaethau am ddioddefwyr dynion a all fod yn rhwystrau i ddynion ymygysylltu 但 nhw.
Wrth gomisiynu gwasanaethau cymorth, dylai ardaloedd lleol gyfeirio at y Datganiad Cenedlaethol o Ddisgwyliadau ar Pecyn Cymorth Comisiynu cysylltiedig, syn rhoi arweiniad ar sut i gomisiynu gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr i ddiwallu anghenion yn effeithiol a sicrhau bod yr ymateb lleol yn gydweithredol, yn gynhwysol, yn gadarn ac yn effeithiol.[footnote 48]
Rydym yn ymwybodol or adnoddau rhagorol sydd eisoes ar waith a ddatblygwyd gan arbenigwyr sector syn cefnogi comisiynwyr a darparwyr i ddatblygu a darparur gwasanaethau gorau i ddioddefwyr/goroeswyr dynion. Maer isod yn dangos rhai enghreifftiau o arfer gorau:
- Pecyn Cymorth Respect ar gyfer Dioddefwyr Dynion[footnote 49]
- Astudiaeth Mapio Darpariaeth Gwasanaeth Cam-drin Domestig LHDT+[footnote 50]
- Comisiynu ar gyfer Cynhwysiant: darparu gwasanaethau ar gyfer goroeswyr LHDT+ o gam-drin domestig[footnote 51]
- Rhwydwaith Cam-drin Domestig Dynion: Safonau Ansawdd ar gyfer Gwasanaethau Cefnogi Dioddefwyr Dynion/Goroeswyr Cam-drin Domestig[footnote 52]
- Partneriaeth Goroeswyr Dynion: Safonau Gwasanaethau Dynion ar gyfer sefydliadau syn gweithio gyda dynion a bechgyn sydd wediu heffeithio gan gam-drin rhywiol, trais rhywiol a chamfanteisio rhywiol[footnote 53]
Astudiaeth Achos: Therapi Siarad Yn Blaen Ar Lafar yn yst但d y carchar, gwasanaeth Goroeswyr Manceinion
Mae model gwasanaeth Therapi Siarad Yn Blaen Ar Lafar yn seiliedig ar flynyddoedd o brofiad Goroeswyr Manceinion o weithio gyda dioddefwyr dynion/goroeswyr cam- drin rhywiol, trais rhywiol a chamfanteisio rhywiol yn y gymuned ac maen adlewyrchu llawer or gwasanaethau y maent eisoes yn eu rhedeg, wediu haddasu i weithio mewn yst但d y carchardai. Maer holl wasanaethau a gweithgareddau yn seiliedig ar drawma ac yn canolbwyntio ar ddioddefwyr/goroeswyr maent yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau lle mae camau gweithredu a phenderfyniadau yn seiliedig ar ddealltwriaeth or sail dystiolaeth o weithio gyda thrawma; tra hefyd yn addasur ddarpariaeth i ddiwallu anghenion penodol a nodwyd dioddefwyr/goroeswyr dynion or adborth parhaus.
Mae Goroeswyr Manceinion yn sail iw gwaith gyda fframwaith Trawma ac Adferiad (1992) a gydnabyddir gan Judith Herman ledled y byd. Maer model tri cham hwn yn dilyn proses o: 1. Sefydlogi; 2. Prosesu; 3. Integreiddio. Maer model yn dechrau gyda helpur cleient i ddod yn gadarn drwy ddefnyddio ystod o sgiliau therapiwtig a datblygu perthynas therapiwtig. Unwaith y bydd sefydlogrwydd, gall y cleient wedyn ddechrau prosesu ei brofiadau a gadwyd yn 担l, gan alarun aml gydag ymdeimlad o golled, cydnabod ofn a dicter, a rhyddhaur emosiwn a gadwyd yn 担l. Maer amser hwn wedyn yn galluogir unigolyn i integreiddior profiad hwn yn weithredol iw stori bywyd, gan dynnur emosiwn syn anablu or gorffennol i gydnabod y bywyd presennol. Nid ywn ymwneud ag anghofio neu gaur trawma, maen ymwneud 但 symud y trawma o deimlo ei fod yma o hyd iw roi yn 担l lle maen perthyn, sef yn y gorffennol.
Cymerodd Michael[footnote 55] rhan mewn therapi siarad OUT Spoken 1:1 ar gr典p cymorth dan arweiniad cyfoedion. Mae gan Michael ddedfryd o 6 blynedd; dyma ei drydedd ddedfryd o garchar. Aeth yr help a gafodd gan Survivors Manchester y tu hwnt iw anghenion oherwydd y gamdriniaeth a ddioddefodd. Roedd hefyd yn ei helpu i ddeall pam ei fod yn defnyddio ac yn brifo eraill. Gwnaeth ei helpu i ddeall bod yr holl ddicter a oedd ganddo wedii gamosod ai gamgyfeirio. Heddiw maen teimlo bod ganddo ddyfodol i edrych ymlaen ato ac i gynllunio ar ei gyfer, heb faich y gorffennol ar ei ysgwyddau.
5. Erlyniad
Canfur CSEW ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018 mai ond 14.7% o ddynion a ddioddefodd gam-drin gan bartner oedd wedi dweud wrth yr heddlu am gael eu cam-drin, oi gymharu 但 18.4% o fenywod.[footnote 55]
Er bod y Llywodraeth yn cydnabod yn llawn yr ystod o rwystrau y mae llawer o ddioddefwyr dynion yn eu hwynebu, rydym yn annog pob dioddefwr/goroeswyr i roi gwybod ir heddlu am ddigwyddiadau, fel y gellir dod 但 chyflawnwyr i gyfiawnder. Maer Llywodraeth yn cydnabod y gall y troseddau hyn gael effaith barhaol ar ddioddefwyr/goroeswyr a bydd yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws llywodraeth leol a chenedlaethol, yr heddlu, ar sector gwirfoddol a chymunedol i gefnogi dioddefwyr/goroeswyr dynion.
Rydym yn cydnabod bod cael swyddogion heddlu 但r sgiliau cywir yn hanfodol i sicrhau bod achosion yn cael eu datblygu au rheolin effeithiol. Rydym yn cefnogir heddlu i wneud hyn drwy ariannu Ymgyrch Soteria, syn gweithio i wella ymateb yr heddlu i achosion o drais rhywiol, ar Rhaglen Gwybodaeth ac Ymarfer Agored i Niwed (syn cael ei rhedeg gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, syn sbarduno gwelliant yn ymateb plismona i bob trosedd diogelu, gan gynnwys troseddau rhywiol oedolion). Rydym hefyd yn cefnogir broses o recriwtio 20,000 o swyddogion yr heddlu, a phenodi DCC Maggie Blyth yn Arweinydd Plismona Cenedlaethol llawn amser ar Drais yn Erbyn Menywod a Merched. Mae DCC Blyth yn cydnabod bod dioddefwyr ar draws yr holl droseddau a gasglwyd yn ardal VAWG, gan gynnwys dynion a bechgyn, a bydd ei chynlluniaun ceisio defnyddio gwelliannau i bob dioddefwr waeth beth fou rhyw.
Cofnodwyd 84,734 o droseddau syn ymwneud 但 cham-drin domestig yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, ac roedd ychydig dros chwarter (26.9%) or rhain yn cynnwys dioddefwyr dynion.[footnote 56] Er gwaethaf y cynnydd mewn troseddau cam-drin domestig a gofnodwyd gan yr heddlu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y cyflawnwyr cam-drin domestig a gyhuddwyd, a erlynwyd ac a gollfarnwyd wedi bod yn gostwng. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, cafodd ond 8% or troseddau cam-drin domestig a gofnodwyd ganlyniad ir t但l neu eu galw yn yr un flwyddyn.[footnote 57] Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, roedd 13.6% o ddioddefwyr yn ddynion mewn erlyniadau domestig.[footnote 58]
Yn 2017 cyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ddatganiad cyhoeddus ar ddioddefwyr troseddau dynion a ystyriwyd yn eu strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched (VAWG), a oedd yn amlinellu cefnogaeth y CPS i ddioddefwyr dynion/goroeswyr camdriniaeth ac yn ailddatgan eu hymrwymiadau iddynt. Roedd y datganiad yn cydnabod y niferoedd sylweddol o ddynion a bechgyn yr effeithiwyd arnynt gan y troseddau hyn ac yn gwneud sawl ymrwymiad. Roedd hyn yn cynnwys ymrwymiadau i ddarparu gwybodaeth i erlynwyr i helpu i herio mythau a stereoteipiau, deall profiad dioddefwyr dynion o fewn y System Cyfiawnder Troseddol, a darparu manylion gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr dynion.
6. Ymrwymiadau
Mae Atodiad A or Strategaeth Mynd ir Afael 但 Thrais yn erbyn Menywod a Merched yn cynnwys manylion llawn am gynnydd y Llywodraeth yn erbyn y camau a gymerwyd yn Natganiad Sefyllfa Dioddefwyr Dynion 2019.
Bydd y Llywodraeth yn parhau i adeiladu ar ein gwaith gydar sector i gefnogi dioddefwyr/goroeswyr dynion or troseddau hyn a sicrhau bod cymorth priodol amserol o ansawdd uchel ar gael iddynt. Yn ogystal, byddwn yn:
- Parhau i gynnwys grwpiau dynion cenedlaethol amrywiol wrth ymgysylltu 但 rhanddeiliaid ar faterion syn ymwneud 但 VAWG.
- Er ein bod yn cydnabod natur anghymesur VAWG, sicrhau bod ymgyrchoedd cyfathrebu VAWG y Llywodraeth yn cynnwys dioddefwyr dynion i godi ymwybyddiaeth, herio mythau cymdeithasol niweidiol am wrywdod, ac annog dioddefwyr a goroeswyr dynion i adrodd camdriniaeth.
- Parhau i ddefnyddio tystiolaeth or Llywodraeth ar brofiadau dynion o droseddau VAWG i lywio polis誰au perthnasol y Llywodraeth yn y dyfodol. Er enghraifft, mae VAWG gynhwysfawr wedii chyhoeddi ar Gov.uk. Mae hyn yn cynnwys ffynonellau o bob rhan or llywodraeth, y byd academaidd ar sector gwirfoddol ac maen cynnwys data ar brofiadau dynion o droseddau VAWG.
- Yn ystod 2021-22, ymrwymodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder dros 贈1.4 miliwn ir Gronfa Treisio Dynion. Bydd 贈1.4 miliwn arall yn cael ei neilltuo yn 2022-23.
- Drwyr Weinyddiaeth Gyfiawnder, parhau i ariannu llinell gymorth dreisio genedlaethol Safeline i ddynion a gwe-sgwrs SurvivorsUK tan fis Mawrth 2023.
- Tynnu sylwn benodol at y ffaith bod gwaith y Gweinidog Diogelu yn cynnwys cyfrifoldeb am ddynion syn dioddef troseddau VAWG.
- Gweithion agos gyda Swyddfar Comisiynydd Cam-drin Domestig (DAC), gan ddefnyddior wybodaeth a ddarparwyd drwy arolwg goroeswr DAC[footnote 59] syn cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd ar 担l ir arolwg gau ar 31 Ionawr 2022 - i lywio meysydd ymchwil posibl yn y dyfodol.
- Bydd gwaith i ddatblygu fframwaith i gydgysylltu a chysoni cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr ar draws y Llywodraeth yn cael ei weithredu drwy Strategaeth Ariannu Dioddefwyr arfaethedig y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
- Cyflwyno Cyfraith Dioddefwyr cyn gynted 但 phosibl, i sicrhau bod dioddefwyr wrth wraidd y system cyfiawnder troseddol. Drwy gydol y broses ymgynghori ddiweddar, rydym wedi ymgysylltun uniongyrchol 但 dioddefwyr, gan gynnwys dioddefwyr dynion ar gwasanaethau arbenigol syn gweithio iw cefnogi i glywed eu profiadau eu hunain, ar heriau penodol y maent yn eu hwynebu.
- Cynyddu cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a thystion, i 贈185 miliwn erbyn 2024-25. Dros dair blynedd, bydd 贈47.1m yn cael ei glustnodi ar gyfer gwasanaethau yn y gymuned syn cefnogi dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol, mae hyn yn cynnwys dioddefwyr/goroeswyr dynion.
- Ymgymryd 但 gwaith pellach gan y Llywodraeth drwyr Adolygiad o Wariant, a thrwy adolygiad tirwedd or ddarpariaeth o wasanaethau cymorth trais rhywiol.
- Maer Llywodraeth wedi ymrwymo i lansio Gwasanaeth Cymorth i Ddioddefwyr cyntaf y byd a ariennir gan y Llywodraeth syn benodol i Therapi Trosi. Bydd y gwasanaeth hwn yn darparu cymorth bugeiliol cychwynnol a chyfeiriad i wasanaethau arbenigol, megis cwnsela a thai brys. Bydd hefyd yn gweithredu fel adnodd gwybodaeth ar y niwed y mae arferion therapi trosi yn ei achosi, ei statws cyfreithiol, a chysylltiadau 但 chymorth arbenigol. Bydd y llinell gymorth hon yn agored i unrhyw un syn teimlo eu bod wedi cael profiad therapi trosi, yn ogystal 但 theulu, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol pryderus mewn rolau diogelu.
- Gweithio i godi ymwybyddiaeth or ddogfen hon ar draws adrannaur Llywodraeth, awdurdodau lleol, heddluoedd a chyrff statudol eraill.
https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/methodologies/userguidetocrimestatisticsforenglandandwales) am ddiffiniadau llawn.
-
Galwad am Dystiolaeth - Trais yn erbyn Menywod a Merched (VAWG) - 51画鋼 (www.gov.uk).油
-
Roedd hyn yn rhan o ymgynghoriad 2,000 o oedolion 16-65 oed yng Nghymru a Lloegr rhwng 12 a 18 Ionawr 2021. Roedd y sampl wedii chynrychioli yn genedlaethol, gyda chwot但u wediu gosod ar oedran, rhyw a rhanbarth, ac mae pwysoliad wedii gymhwyso ar y newidynnau hyn i adlewyrchu proffiliau cenedlaethol.油
-
](https:/www.gov.uk/government/publications/tackling-violence-against-women-and-girls-strategy))油
-
Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW) yn arolwg erledigaeth gynrychiolydd cenedlaethol, fel arfer wyneb yn wyneb, lle gofynnir i bobl syn byw mewn cartrefi yng Nghymru a Lloegr am eu profiadau o amrywiaeth o droseddau yn y 12 mis cyn y cyfweliad. Ar gyfer y mathau o droseddau ar boblogaeth y maen eu cynnwys, maer CSEW yn rhoi gwell adlewyrchiad o wir raddaur troseddau a brofir gan y boblogaeth nag ystadegau a gofnodwyd gan yr heddlu, oherwydd maer arolwg yn cynnwys troseddau nad ydynt yn cael eu hadrodd ir heddlu neu a gofnodir ganddynt.油
-
Nid oedd Yr Arolwg Troseddau Ff担n ar gyfer Cymru a Lloegr 2021, a lansiwyd yn benodol iw ddefnyddio yn ystod pandemig COVID-19, yn cynnwys cwestiynau ar droseddau rhywiol a cham-drin domestig (roedd cwestiynau or fath wediu cynnwys yn y CSEW or blaen mewn modiwl hunan-gwblhau ac ni ofynnwyd y cwestiynau gan gyfwelydd o ystyried natur sensitif y cwestiynau).油
-
Yn unol 但r Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Trosedd yng Nghymru a Lloegr, y diffiniad o ddioddefwr yw: person sydd wedi dioddef niwed, gan gynnwys niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol neu golled economaidd a achoswyd yn uniongyrchol gan drosedd; perthynas agos (neu lefarydd teulu enwebedig) person yr achoswyd ei farwolaeth yn uniongyrchol gan drosedd: 油
-
Mae hyn yn cynnwys cam-drin partner neu deulu nad ywn gorfforol, bygythiadau, grym, ymosodiad rhywiol, neu stelcian. Gweler 油
-
Bates, L., Hoeger, K., Stoneman, M.J., Whitaker, A. 2021. Y Swyddfa Gartref.油
-
DS: Mae hyn yn debygol o fod yn danamcangyfrif or holl hunanladdiadau ymhlith dioddefwyr sydd 但 hanes o gam-drin domestig, gan y bydd yn eithrior hunanladdiadau hynny lle nad oedd yr heddlun gwybod am hanes blaenorol o gam-drin domestig.油
-
Mae ymosodiadau rhywiol, a fesurir gan y CSEW, yn golygu trais rhywiol (gan gynnwys ymdrechion), ymosodiad drwy dreiddio (gan gynnwys ymdrechion), amlygiad anweddus a chyffwrdd rhywiol diangen a brofir gan bobl dros 16 oed.油
-
Ystadegau Unedau Priodasau dan Orfod Ystadegau Unedau Priodasau dan Orfod 2020.油
-
Mae rhai enwau a nodweddion adnabod wediu newid i ddiogelu hunaniaethau.油
-
Swyddfa Cydraddoldebaur Llywodraeth, Arolwg Aflonyddu Rhywiol 2020. Noder bod y dull o fesur aflonyddu rhywiol a gymerir yn yr arolwg hwn yn newydd, ac felly mae ei ganlyniadaun arbrofol. Dylai darllenwyr drin y data hwn yn ofalus a chyfeirio at yr adroddiad llawn yn y ddolen uchod.油
-
Maer CSEW yn gofyn am hunaniaeth rhywedd ymatebwyr, ond mae nifer y dioddefwyr trawsryweddol o gam-drin domestig yn rhy isel iw cyhoeddi. Ni chyhoeddir ffigurau ar gyfer amcangyfrifon CSEW yn seiliedig ar lain a 50 o ymatebwyr.油
-
Defnyddir yn y ddogfen hon i gyfeirio at bobl y mae eu hunaniaeth o ran rhywedd yn cyfateb iw rhyw a neilltuwyd adeg eu geni pobl nad ydynt yn drawsrywiol.油
-
Adroddwyd am resymau or fath ar gyfer dioddefwyr sydd wediu cam-drin gan bartner (gweler ONS. : Y flwyddyn ddata a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018) ac ymatebion or galwad gan VAWG am dystiolaeth.油
-
Mythau a Ffeithiau - MSP Partneriaeth ar gyfer Goroeswyr Dynion油
-
Diogelwch yn y ddalfa bob chwarter: diweddariad hyd at Rhagfyr 2020 - 51画鋼 (www.gov.uk)油
-
ONS. Y flwyddyn ddata a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018油油2