Adroddiad blynyddol a chyfrifon yr Awdurdod Glo 2020-21: Adroddiad ar berfformiad
Cyhoeddwyd 15 Gorffennaf 2021
Trosolwg
Maer Awdurdod Glo yn gorff cyhoeddus anadrannol a sefydliad partner ir Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS).
Ein cenhadaeth:
Creu dyfodol gwell i bobl ar amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.
Ein diben:
-
rydym yn cadw pobl yn ddiogel ac yn rhoi tawelwch meddwl
-
rydym yn gwarchod a gwellar amgylchedd
-
rydym yn defnyddio ein gwybodaeth an harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus
-
rydym yn creu gwerth ac yn lleihaur gost i drethdalwyr gymaint 但 phosibl
Rydym yn defnyddio ein sgiliau i ddarparu gwasanaethau i adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth, llywodraethau lleol a phartneriaid masnachol.
Rydym yn cyfrannu at gyflawni strategaethau allweddol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y cynllun deg pwynt ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd, y strategaeth datgarboneiddio diwydiannol ac ymrwymiadau i godir gwastad yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn cyfrannu at flaenoriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach Llywodraethau Cymru, yr Alban ar Deyrnas Unedig. Trwy rannu ein gwybodaeth an harbenigedd, rydym yn eu cynorthwyo nhw, an partneriaid, i greu gwledydd glanach a gwyrddach i bawb ohonom.
Ein trefniadau llywodraethu:
Mae gennym fwrdd annibynnol syn gyfrifol am osod ein cyfeiriad strategol an dal i gyfrif. Maer bwrdd yn sicrhau bod ein dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawnin effeithiol an bod yn gwireddu ein cenhadaeth, ein diben an gwerthoedd.
Mae gan ein cadeirydd ac aelodau ein bwrdd brofiad perthnasol i gefnogi ein gwaith. Mae cyfarwyddwyr anweithredol yn cael eu recriwtio au penodi ir bwrdd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros BEIS. Mae cyfarwyddwyr gweithredol yn cael eu recriwtio iw swyddi gan y bwrdd ac mae rhai ohonynt yn cael eu penodi ir bwrdd wedi hynny, gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros BEIS unwaith eto.
Ein gwerthoedd:
Dibynadwy
-
rydym yn gweithredu gydag uniondeb
-
rydym yn agored ac yn dryloyw
-
rydym yn cyflawni ein hymrwymiadau
Cynhwysol:
-
rydym yn hyrwyddo diwylliant o barchu pawb
-
rydym yn sylweddoli bod ein gwahaniaethaun ein gwneud yn gryfach
-
rydym yn gweithio gydag eraill i gyflawni ein cenhadaeth
Blaengar:
-
rydym yn eangfrydig ac yn arloesol
-
rydym yn sylweddoli bod y gorffennol yn gallu ein helpu i ffurfior dyfodol
-
rydym yn gwrando ac yn dysgu
Y gwaith a wnawn
Yn ystod 2020-21, ar draws y 3 gwlad a wasanaethwn:
Cadw pobl yn ddiogel a rhoi tawelwch meddwl
8,370 o archwiliadau mynedfa pwll glo wediu cynnal
589 o ymchwiliadau i adroddiadau ynghylch perygl arwyneb
212 o hawliadau difrod ymsuddiant wediu hasesu
Defnyddio ein gwybodaeth an harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus
195,371 o adroddiadau mwyngloddio wediu darparu
1,704 o drwyddedau i groestorri glo wediu rhoi
7,599 o ymgynghoriadau cynllunio wedi derbyn ymateb
Gwarchod a gwellar amgylchedd
122 billion o litrau o dd典r wediu trin
32,000馨族 on 350,000m族 o welyau cyrs wediu hamnewid
4,500 o dunelli o solidau haearn wediu hatal rhag mynd i mewn i gyrsiau d典r
Creu gwerth a lleihaur gost i drethdalwyr gymaint 但 phosibl
贈2.4 miliwn wedii arbed trwy ailgylchu deunydd gwelyau cyrs
贈6 miliwn o incwm wedii gynhyrchu trwy ein gwasanaethau cynghori
78% o solidau haearn a dynnwyd ymaith wediu hailgylchu
Rhagair y Cadeirydd
Maen destun balchder i mi gael fy mhenodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yn Gadeirydd yr Awdurdod Glo ac ysgrifennu fy rhagair cyntaf ar gyfer ein Hadroddiad Blynyddol. Yn ystod yr amser yr wyf eisoes wedii dreulio gydar sefydliad, gallaf weld bod ein pwyslais ar wireddu ein cenhadaeth, ein diben an gwerthoedd yn gwneud gwahaniaeth go iawn ir cwsmeriaid ar cymunedau a gefnogwn.
Fel cadeirydd, byddaf yn parhau i sicrhau bod y sefydliad yn canolbwyntion glir ar greu gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, a bod arloesi a chynyddu cyfleoedd ir eithaf yn parhau i fod yn bwysig ochr yn ochr 但n gwaith statudol craidd i warchod bywyd, d典r yfed ar amgylchedd ar gyfer y cymunedau a wasanaethwn. Fem tarwyd gan uchelgais y sefydliad, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gydar 3 llywodraeth a wasanaethwn i helpu Prydain Fawr i ailadeiladu ar 担l y pandemig COVID-19 i fod yn well, yn decach ac yn wyrddach.
Mae ein buddsoddiad mewn ardaloedd meysydd glo an defnydd o gyflenwyr lleol yn cefnogir agenda codir gwastad. Gall y mwyngloddiau hanesyddol sydd o dan 25% o Brydain Fawr ddarparu gwres carbon isel neu ddi-garbon am bris sefydlog i gymunedau ar draws y meysydd glo, ac rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu hyn. Yn ystod 2020-21, rydym wedi datblygu ein cyfundrefn drwyddedu, gweithio gyda phartneriaid a gwneud mwy o waith ymchwil a datblygu i wireddu hyn. O ganlyniad, gweithiodd ein t樽m Ymgynghoriaeth Wres gyda Chyngor Gateshead i ddrilior tyllau turio peilot cyntaf ar gyfer gwres d典r mwynglawdd yn y rhanbarth. Mae ein mapiau gwres mwynglawdd sydd newydd eu cyhoeddi, a ddatblygwyd ar y cyd ag Arolwg Daearegol Prydain, yn creu mwy o ddiddordeb yn y potensial ar gyfer y ffynhonnell hon o ynni adnewyddadwy, a dealltwriaeth ohoni, ledled y Deyrnas Unedig. Bydd y gwaith hwn yn ein helpu ni, BEIS, y llywodraethau datganoledig a phartneriaid i wneud gwahaniaeth ymarferol i gyflawni statws di-garbon net trwy rwydweithiau gwres.
Wrth i ni barhau 但n gwaith i warchod pobl ar amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio, mae ein cynlluniau cynaliadwyedd yn cynyddu ein pwyslais ar helpu i ddatrys yr argyfwng hinsawdd. Byddwn yn lleihau ein h担l troed carbon er mwyn cyrraedd sero-net erbyn 2030 mewn sawl ffordd, gan gynnwys buddsoddi ymhellach mewn ynni adewyddadwy a defnyddio dyluniad a deunyddiau carbon isel yn ein gweithgareddau adeiladu. Bydd heriau hefyd, ond byddwn yn eu hwynebun gadarn a byddwn yn arloesol wrth greu datrysiadau a gweithio gydag eraill a dysgu oddi wrthynt.
Trwy fwyafu a mapior amgylcheddau yn ein hystad a gweithio gydag eraill, fel Rhwydweithiau Adfer Natur, gallwn wella gwerth trwy gynyddu bioamrywiaeth er mwyn cael effaith leol, ranbarthol a chenedlaethol. Mae ein safleoedd eisoes yn creu brithwaith pwysig o gynefinoedd syn denu amrywiaeth eang o rywogaethau. Y llynedd, canfu arolygon o 2 yn unig on safleoedd helaethrwydd o fywyd gwyllt a 12 rhywogaeth adar ar y rhestr o bryder cadwraeth. Yn ystod y pandemig COVID-19, mae mynediad at fyd natur wedi arwain at lawer o fuddion, a bydd caniat叩u ir cyhoedd gael mwy o fynediad in safleoedd yn y dyfodol yn cefnogi lles mewn ardaloedd meysydd glo.
Rwyf wedi gweld yn amlwg pa mor ganolog yw ymateb brys ac ymateb i ddigwyddiadau i waith yr Awdurdod Glo a sut gall cyfnodau hir o law a thywydd eithafol effeithio ar hynny. Maer bwrdd a minnaun croesawur adolygiad y byddwn yn ei gynnal eleni in helpu i weithion agosach fyth 但 phartneriaid ymateb brys a chwmn誰au cyfleustodau i gynyddu ymwybyddiaeth on gallu 24/7 ymhellach, ochr yn ochr 但 gwell dealltwriaeth o beryglon a dangosyddion mwyngloddio etifeddol a allai ein helpu i ddarparu cymorth ac arbenigedd i atal digwyddiadau, lle y bon bosibl, neu ymateb yn fwy effeithiol fyth pan fyddant yn digwydd.
Mae fy meddyliaun troi at bawb y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt. Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau hanfodol syn gwarchod bywyd a lles ac, o ganlyniad i ymrwymiad ein staff, rydym wedi gallu darparur rhan fwyaf on gweithgareddau ar gyfer cwsmeriaid trwy weithio mewn ffyrdd newydd a gwahanol, gyda 90% or sefydliad yn gweithio gartref, ond yn parhau i weithio gydan gilydd fel Un Awdurdod Glo. Ni allaf ddiolch digon in pobl am eu hymroddiad au hymrwymiad parhaus ar hyd y cyfnod heriol hwn. Wrth edrych tuar dyfodol, byddwn yn manteisio ar y pethau cadarnhaol a ddysgwyd o weithio mewn ffyrdd newydd a gwahanol i fod yn sefydliad mwy hyblyg, teg ac ymatebol fyth. Bydd hyn hefyd yn ein helpu i recriwtio a chadw talent fwy amrywiol, clywed gan fwy o leisiau ar draws hyd a lled ein gwaith a bod yn fwy cynrychioliadol fyth or cymunedau a wasanaethwn.
Wrth orffen, maen rhaid i mi ddiolch yn fawr i Stephen Dingle am ei ymroddiad ir sefydliad yn ystod 8 mlynedd fel Cadeirydd a 5 mlynedd ar y bwrdd cyn hynny. Maen anrhydedd ei ddilyn yn y r担l ac edrychaf ymlaen at weithio gyda fy nghydweithwyr bwrdd a gweithredol an pobl wych ar draws y sefydliad cyfan i barhau 但r ddarpariaeth gref y maer Awdurdod Glon enwog amdani.
Jeff Halliwell, Cadeirydd
Adroddiad y Prif Weithredwr
Mae eleni wedi bod yn flwyddyn heb ei thebyg. Rwyn falch o ymrwymiad ac ymroddiad ein pobl a sicrhaodd ein bod yn gallu parhau 但n hymateb brys a chymunedol 24/7 ledled Prydain Fawr a blaenoriaethu gwaith ar ddiogelwch cyhoeddus, diogelu d典r yfed ar amgylchedd.
Roedd ein cwsmeriaid wrth wraidd pob penderfyniad a wnaethom fel y gallem flaenoriaethu gwasanaethau iw cadw nhwn ddiogel a chefnogi adferiad gwyrdd ac economaidd y gwledydd a wasanaethwn. Ochr yn ochr 但 hyn, rydym wedi canolbwyntio ar les ein staff, y maer pandemig COVID-19 wedi amharu ar eu bywydau nhw, fel pawb arall.
Mae ein gwaith gweithredol ar lawr gwlad wedi parhau, gan weithion agos gydan partneriaid ar gadwyn gyflenwi. Rydym wedi cyflawni ein rhaglen gyfalaf fwyaf erioed, syn golygu bod mwy o ddyfrhaenau d典r yfed, afonydd a nentydd yn cael eu diogelu rhag llygredd o dd典r mwynglawdd. Rydym wedi ymateb i 589 o adroddiadau am beryglon arwyneb a 212 o hawliadau difrod ymsuddiant. Sicrhaom fod ein 76 o gynlluniau trin d典r mwynglawdd yn parhau i weithredu, ar yr un pryd 但 gweithio gyda BEIS, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a phartneriaid i ddatblygu blaenraglenni uchelgeisiol ar gyfer gwaith pellach i drin mwyngloddiau glo a metel ledled Prydain Fawr.
Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac amrywiaeth o bartneriaid yng Nghymru, rydym wedi cynnal asesiad cynhwysfawr o domenni pwll glo yng Nghymru a sicrhau bod yr holl safleoedd risg uwch wedi cael eu harchwilio o leiaf ddwywaith, gan wneud y gwaith cynnal a chadw angenrheidiol a defnyddio technoleg arloesol i roi sicrwydd ir cymunedau syn byw oddi tanynt ac ou hamgylch.
Ar 21 Ionawr 2021, yn dilyn cyfnod hir o dywydd gwlyb a glawiad trwm oherwydd Storm Christoph, cafodd 77 o gartrefi/gerddi yn Sgiwen yn ne Cymru eu gorlifo gan dd典r a chwythodd allan o lefel ddraenio mwynglawdd hanesyddol. Aethom ati i helpu partneriaid brys 但r ymateb cychwynnol ac rydym wedi gweithio gydar gymuned, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a phartneriaid eraill i gynorthwyor preswylwyr a rhoi cymorth ymarferol iddynt iw helpu i adfer. Rydym yn adeiladu cynllun rheoli d典r mwynglawdd newydd i roi tawelwch meddwl ar gyfer y dyfodol.
Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn adfer ein gorsafoedd draenio tir a ddifrodwyd gan lifogydd helaeth yn Swydd Efrog y llynedd i sicrhau eu bod yn galluogi cymunedau a ffermwyr i ddefnyddio eu tir.
Mae mwyafrif ein gwasanaethau eraill wedi cael eu darparu trwy weithio gartref. Rwyn parhau i fod yn ddiolchgar iawn in pobl, sydd wedi parhau i wneud eu gorau glas i gynorthwyo ein cwsmeriaid ar yr un pryd 但 wynebu eu hofnau, eu pwysau teuluol au cyfrifoldebau gofalu eu hunain.
Yn ein hadroddiad blynyddol diwethaf, gwneuthum nifer o ymrwymiadau ar gyfer 2020-21, ac rydym wedi gwneud cynnydd clir ar bob un.
-
Rydym wedi parhau i gefnogi llywodraethur tair gwlad a wasanaethwn trwy ddarparun briodol yn ystod cyfyngiadau COVID-19 syn newid a galluogi adferiad economaidd trwy gefnogir farchnad dai, darparu arbenigedd a chyngor i ddarparwyr seilwaith a gweithio gydan cadwyn gyflenwi an partneriaid i gyflawni ein rhaglen adeiladu cyfalaf an prosiectau seilwaith ynni d典r mwynglawdd.
-
Ymrwymodd ein bwrdd i gyflawni statws di-garbon net erbyn 2030 a galluogi cydnerthedd naturiol a mynediad cymdeithasol trwyr cynefinoedd a gr谷wn ar storfeydd gwres ac ynni datgarboneiddiedig y gallwn eu darparu. Eleni, rydym wedi sefydlu sefyllfa sylfaenol ac yn cwblhau cynllun clir ar gyfer cynnydd tuag at 2030 a thu hwnt yn derfynol.
-
Rydym wedi parhau i gyflawni ein dyletswyddau craidd a darparu ymateb i ddigwyddiadau a thawelwch meddwl 24/7 i unrhyw un y mae nwy, ymsuddiant neu beryglon mwyngloddio yn effeithio arno, a gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod tomenni gwastraff pyllau glo yng Nghymru yn cael eu harchwilio ac i lywio ymagwedd yn y dyfodol at reoleiddio a chynnal a chadw.
Yn 2021-22, byddwn yn:
-
datblygu ein cydnerthedd i ymateb i ddigwyddiadau ac achosion brys ymhellach trwy ein strwythur newydd ac ymgyrch i gynyddu ymwybyddiaeth o beryglon mwyngloddiau etifeddol, ein gwaith an hymateb 24/7. Byddwn yn cyflawni hyn trwy hyfforddiant a thrwy ymgysylltu 但 phartneriaid cydnerthedd lleol a chwmn誰au cyfleustodau
-
gwneud mwy o gynnydd clir ar ein taith tuag at gyflawni statws di-garbon net erbyn 2030 a datblygu cyfres o brosiectau gwres mwynglawdd mewn partneriaeth 但 chynghorau a datblygwyr. Ochr yn ochr 但 hynny, byddwn yn gwneud mwy o waith i asesur risg on hasedau mwyngloddio etifeddol, peryglon a risgiau o ystyried y newid yn yr hinsawdd a mwy o dywydd eithafol
-
datblygu ein cynllun busnes tymor hir newydd i osod y cyfeiriad ar gyfer y sefydliad, gan gefnogir tair llywodraeth a wasanaethwn, ar gyfer y 3-5 mlynedd nesaf yn unol ag adolygiad nesaf o wariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig
Ni fyddai hyn yn bosibl heb ein pobl wych. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu or ffyrdd o weithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er mwyn dod yn fwy hyblyg a deinamig fyth. Mae hyn yn cynnwys parhau i ddod yn fwy amrywiol, cynhwysol a gwrth-hiliol i sicrhau ein bod yn berthnasol ir cymunedau a wasanaethwn, a pharhau i ganolbwyntio ar les i sicrhau ein bod yn sefydliad y mae pobl sydd 但 llawer o botensial eisiau gweithio iddo.
Lisa Pinney MBE, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
Astudiaeth achos: Ein gwaith yng Nghymru
Ym mis Chwefror 2020, dioddefodd Cymru effeithiau sylweddol o ganlyniad i Stormydd Ciara a Dennis, a oedd yn cynnwys llithriad tomen lo yr oedd y cyngor yn berchen arni yn Tylorstown. Gofynnodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i ni roi cyngor ac arbenigedd i dasglu a arweinir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod tomenni glo yng Nghymru yn cael eu hamlygu, eu hasesu o ran risgiau, eu harchwilio au nodi ar gyfer gwaith cynnal a chadw er mwyn lleihaur risg or safleoedd hyn ir cymunedau ou hamgylch ac oddi tanynt.
Gweithiom 7 diwrnod yr wythnos ar 担l y digwyddiad i gynorthwyo Cyngor Rhondda Cynon Taf yn Tylorstown, i ddefnyddio ein gwybodaeth i amlygu lleoliadau tomenni, rhoi cyngor ar unwaith i bartneriaid brys a chynnig gwybodaeth a sicrwydd trwyr cyfryngau.
Gan weithio gydag awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan or tasglu, amlygom fwy na 2,000 o domenni glo, ar draws Cymoedd De Cymru yn bennaf. Maer rhain i gyd wedi cael eu dosbarthu o ran risg ac archwiliwyd y tomenni 但r risg fwyaf rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf 2020, ac unwaith eto yn ystod gaeaf 2020-21. Cafodd gwaith cynnal a chadw angenrheidiol ei nodi ai fonitro gan y tasglu.
Yn aml, mae tomenni glo yng Nghymru wediu lleoli ar lethrau serth, ar ochrau bryniau a mynyddoedd.
O dan y gyfraith ar rheoliadau presennol, y tirfeddiannwr syn gyfrifol am reoli tomenni au diogelwch. Maer rhan fwyaf o domenni glo yn nwylo preifat, tra bod eraill dan reolaeth cynghorau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru. Maer Awdurdod Glo yn berchen ar 26 o domenni yng Nghymru. I gael gwybod mwy am sut rydym yn eu rheoli, ewch in gwefan.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Gomisiwn y Gyfraith wneud argymhellion ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol, ac rydym yn cefnogi hyn ac yn cyfrannu at y broses ymgynghori.
I gynorthwyor gymuned a rhoi sicrwydd, rydym yn darparu llinell gymorth 24/7 ar domenni ar 0800 021 9230.
Ein blwyddyn yng Nghymru
602 o archwiliadau mynedfa pwll glo wediu cynnal
107 o ymchwiliadau i adroddiadau ynghylch perygl arwyneb
14,924 o adroddiadau mwyngloddio wediu darparu
1,110 o ymgynghoriadau cynllunio wedi derbyn ymateb
17 biliwn o litrau o dd典r wediu trin
380 o dunelli o solidau haearn wediu hatal rhag mynd i mewn i gyrsiau d典r
Ein perfformiad
Rydym ychydig dros hanner ffordd drwy ein cynllun 5 mlynedd presennol ac wedi gwneud cynnydd da, gan osod y sylfeini i greu sefydliad mwy cynaliadwy a fydd yn gallu cyflawni ein cenhadaeth am flynyddoedd i ddod. Rydym wedi canolbwyntio ar les ein pobl ar hyd COVID-19 ar yr un pryd 但 chyflawnin gryf yn unol 但n diben o gadw pobl yn ddiogel, gwarchod yr amgylchedd, a darparu gwybodaeth o ansawdd da i helpu eraill i wneud penderfyniadau gwybodus a chreu gwerth.
Ein pobl
Drwy gydol y pandemig, blaenoriaethom ein gwaith fel y gallai ein pobl gydbwyso ei gyflawni 但 gofalu am eu lles eu hunain au hanwyliaid. Addasom ein ffyrdd o weithio fel y gallair rhan fwyaf o bobl weithio gartref ac y gallair rhai syn gweithio mewn cymunedau wneud hynnyn hyderus mewn ffordd COVID-ddiogel.
Gweithiom i gynyddur profiad on prosesau au heffeithlonrwydd ir eithaf ar gyfer staff syn gweithio gartref, gan ddefnyddio fideogynadledda a chyfryngau eraill i sicrhau y gellid parhau i weithion effeithiol ar draws y sefydliad a bod pawb yn deall ein blaenoriaethau an cyfeiriad i gynorthwyo ein cwsmeriaid. Roedd hyn yn cynnwys galwadau staff bob pythefnos i rannu arfer gorau, heriau a ffyrdd newydd o feddwl, a oedd yn beth da er mwyn dysgu a chynnal mor但l.
Cyflwynom ddysgu ar-lein diddorol a lansio rhaglen gynefino newydd, i sicrhau bod staff newydd yn cael y dechrau gorau posibl i fywyd yn yr Awdurdod Glo.
Mae gweithio yn y modd hwn wedi gwneud ein sefydliad yn decach, gan fod staff sydd wediu lleoli ledled Prydain Fawr wedi cael llais mwy cyfartal ar draws pob agwedd ar ein gwaith, ac rydym yn canolbwyntio ar sut i gynnwys y pethau cadarnhaol a ddysgwyd yn ein dulliau trefn arferol newydd ar gyfer y dyfodol.
Drwy gydol hyn i gyd, rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys cynnydd pellach ar ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau a gweithio i ddod yn sefydliad syn cymryd camau mwy pendant i fod yn wrth-hiliol. Yn ogystal ag addysgu a thrafod, rydym wedi newid polis誰au a phrosesau craidd, gan gynnwys recriwtio, ar sail arfer da gan eraill ac rydym yn codi a denu lleisiau a safbwyntiau ehangach i lywio ein gwaith.
Mae llawer o hyn wedi ein helpu i wneud cynnydd yn erbyn canfyddiadau ein harolwg pobl yn 2019, ond mae gennym fwy iw wneud a bydd hyn yn parhau i fod yn thema yn ystod 2021-22.
Cwsmeriaid a rhanddeiliaid
Mae cwsmeriaid wedi parhau i fod wrth wraidd ein ffordd o feddwl an penderfyniadau yn ystod 2020-21. Rydym wedi rhoi diweddariadau rheolaidd i grwpiau penodol o gwsmeriaid ac yn agored ar gyfryngau cymdeithasol i bawb, gwella hygyrchedd ein gwasanaethau digidol a rhewi codiadau i daliadau a gynlluniwyd ar gyfer ein holl gynhyrchion a gwasanaethau tan 30 Medi 2021 o leiaf, gan gydnabod yr heriau y mae pawb wediu hwynebu eleni. Bu angen i ni ymestyn yr amserau ymateb ar gyfer ein safonau cwsmeriaid ar adegau, ond mae ein hymrwymiad i ymateb mor gyflym a chyflawn 但 phosibl wedi parhau.
Rydym wedi blaenoriaethu darparu ar lawr gwlad ac ymateb i ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn i warchod bywyd, d典r yfed ar amgylchedd. Rydym yn parhau i ddarparu llinell ymateb i ddigwyddiadau 24/7 (01623 646 333) ac wedi ymateb i 752 o beryglon mwyngloddio fel ymsuddiant, nwy mwynglawdd a chwymp siafft, ac wedi cymryd camau i gynorthwyor rhai yr effeithiwyd arnynt. Rydym wedi cynorthwyo partneriaid brys mewn digwyddiadau syn gysylltiedig 但 thomenni glo ar digwyddiad llifogydd d典r mwynglawdd mawr yn Sgiwen yn Ne Cymru ym mis Ionawr a arweiniodd at wac叩u 100 o gartrefi a 77 achos o lifogydd mewnol a/neu allanol.
Yn dilyn y digwyddiad yn Sgiwen, sefydlom linell gymorth benodol i gwsmeriaid i helpu preswylwyr yr effeithiwyd arnynt ac i ddarparur cymorth y gallem o dan ein polisi ar gyfer Sgiwen, ochr yn ochr 但n cyfrifoldebau craidd i unionir nodweddion mwyngloddio a ddifrodwyd ac adeiladu cynllun rheoli d典r mwynglawdd newydd. Rydym wedi cynnal nifer o gyfarfodydd 但r preswylwyr ac mae gennym swyddog cyswllt 但r gymuned ar y safle erbyn hyn i ddarparu cymorth hyd nes y bydd ein gwaith ar y safle wedii gwblhau. Rydym yn parhau i weithion agos gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot a phartneriaid eraill i sicrhaur ymagwedd fwyaf cydgysylltiedig posibl i gynorthwyor preswylwyr yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad trist hwn.
Rydym wedi parhau i weithio yn rhan o Dasglu Tomenni Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wellar broses o gofnodi, dosbarthu risgiau cyffredin, archwilio a chynnal a chadw tomenni glo ledled Cymru ac i gynorthwyo Comisiwn y Gyfraith i baratoi ei ymgynghoriad ar ddull rheoleiddio ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi gwneud mwy o waith i fynd ir afael 但 llygredd o fwyngloddiau metel yng Nghymru a Lloegr, gan weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd, ac wedi gweithio i leihau llygredd o byllau glo ymhellach trwy adnewyddu asedau presennol a datblygu cynlluniau trin newydd. Oherwydd hyn, rydym wedi cyflawni ein rhaglen gyfalaf fwyaf erioed o 贈11.3 miliwn, syn glod in cadwyn gyflenwi, a ailffurfiodd yn gryf ar 担l y cyfnod clo cyntaf pan osodwyd llawer ou staff ar ffyrlo, ac yn arwydd on hymrwymiad i fentrau Ailadeiladun Well, yn Wyrddach ac yn Decach Llywodraeth y Deyrnas Unedig. I gefnogi hyn ymhellach, rydym wedi darparu 1,704 o drwyddedau a 7,599 o ymgynghoriadau cynllunio yn unol 但n targedau, yn ogystal 但 195,371 o adroddiadau mwyngloddio (96% on disgwyliad cyn COVID-19).
Rydym wedi parhau i weithio gyda gwleidyddion lleol a phartneriaid i ddatblygur cyfle i storio gwres ac ynni o dd典r mwynglawdd, gan gynnwys cynllun newydd yn Gateshead. Gwnaethom ddatblygu a chyhoeddi map gwres mwynglawdd gydag Arolwg Daearegol Prydain syn galluogi cynghorau, datblygwyr ac eraill i weld y lleoliadau gorau i fanteisio ar yr adnodd hwn. Rydym hefyd wedi datblygu ein proses trwyddedu i wellar broses ymgeisio ac wedi parhau i weithio gydar Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Triple Point a rheoleiddwyr eraill i helpu i sicrhau bod prosesau cyllid a phrosesau eraill mor syml 但 phosibl i ymgeiswyr.
Prosesau mewnol
Gweithiom yn gyflym i gefnogi trefniadau gwydn ac effeithiol o weithio gartref ar hyd y pandemig ac i sicrhau bod ein rheolaethau ariannol, llywodraethu a chraidd eraill yn parhau i weithredu ac yn cael eu gwella, fel y bor angen. Asesom unrhyw risgiau newydd a sefydlu hyfforddiant ychwanegol i gadw ein pobl ar Awdurdod Glo yn ddiogel yn enwedig o ran seiberddiogelwch ac amddiffyniadau gwrth-dwyll.
Mae ein prosesau parhad busnes wedi gweithion dda ac wedi cael eu haddasu, fel y bor angen, i sicrhau y gallem flaenoriaethu gwaith a bod yn hyblyg wrth i wahanol gyfyngiadau symud gael eu llacio au tynhau au hamrywio ar draws y 3 gwlad a wasanaethwn. Rhoddodd hyn yr hyder in staff an cadwyn gyflenwi i barhau i ddarparun ddiogel yn ystod amodau a oedd yn newid.
Rydym wedi gwneud cynnydd pellach wrth ymsefydlu ein fframwaith newydd ar gyfer rheoli a sicrhau risg ac wrth feincnodi ein hallyriadau carbon er mwyn sicrhau y gallwn gynllunio i gyflawni ein dyhead o gyrraedd statws di-garbon net erbyn 2030.
Rheoli ein harian
Rydym wedi parhau i weithion agos gydar Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), sef ein hadran noddi, fel eu bod yn deall ein risgiau an cyfleoedd ariannol ac yn helpu i sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhaglenni an gweithgareddau yn unol 但 chyfansymiau rheoli cytunedig trwy gyfnod digynsail.
Cynhyrchom incwm o 贈6.0 miliwn (2019- 20 贈5.3 miliwn) on gwasanaethau cynghori an sgil-gynhyrchion, gan ddefnyddio ein harbenigedd i helpu sefydliadau eraill y llywodraeth i reoli eu risgiau a chreu cyfleoedd on hetifeddiaeth fwyngloddio.
Mae ein rhaglenni Arloesedd ac Ymchwil a Datblygu wedi cynhyrchu arbedion o 贈3.7 miliwn i wrthbwyso ein costau yn ystod y flwyddyn trwy amlygu defnyddiau arloesol ar gyfer ein sgil-gynhyrchion a chynhyrchu arbedion effeithlonrwydd gweithredu.
Rhagolwg ar gyfer 2021-22
Drwy gydol 2021-22, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ein cenhadaeth, sef creu dyfodol gwell i bobl ar amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.
Byddwn yn parhau i gefnogi uchelgeisiaur llywodraethau a wasanaethwn i sicrhau adferiad gwyrdd o COVID-19, i gyflawnir cynllun deg pwynt ar gyfer yr amgylchedd, targedau di-garbon net ar agenda codir gwastad. Byddwn yn datblygu ein meincnod an trywydd ymhellach i gyrraedd statws di-garbon net erbyn 2030 ac yn esblygu ein Strategaeth Gynaliadwyedd i gynyddu cyfleoedd i bobl a bywyd gwyllt ir eithaf on safleoedd, gan gydnabod pwysigrwydd mannau gwyrdd lleol ar gyfer lles ac iechyd meddwl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Rydym wedi gweld nifer gynyddol o ddigwyddiadau mawr yn ymwneud 但 thywydd eithafol ar newid yn yr hinsawdd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Eleni, byddwn yn datblygu ein dulliau an seilwaith ymateb i ddigwyddiadau ymhellach i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn sefydliad ymateb i ddigwyddiadau modern a gwydn syn gweithredu 24/7, syn gweithion agosach fyth gyda phartneriaid yn y gwasanaethau brys i gadw cymunedaun ddiogel. Yn rhan o hynny, byddwn yn cynnal ymgyrch gyda chwmn誰au cyfleustodau a chynghorau i hybu ymwybyddiaeth on gwaith an gwasanaethau ai gwneud yn haws iddynt adrodd am beryglon. Byddwn hefyd yn adolygu ymhellach effaith mwy o dywydd eithafol ar ein hasedau an gwaith ac yn gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol fel y bor angen.
Byddwn yn gweithio mwy gyda phartneriaid, fel BEIS ar llywodraethau datganoledig, cynghorau lleol a gwleidyddion, y sectorau cyhoeddus a phreifat a phartneriaid cyllid gwyrdd, i annog mwy o dwf o ran prosiectau gwres ac ynni d典r mwynglawdd sydd yn yr arfaeth er mwyn darparu gwres carbon isel, cost effeithiol ar gyfer datblygiadau preswyl, diwydiannol a garddwriaethol, a pharhau i ddatblygu defnyddiau ymarferol ar gyfer ein sgil-gynhyrchion er mwyn cynyddur defnydd ohonynt a lleihaur hyn syn cael ei wastraffu ir eithaf.
Fel sail i hyn, byddwn yn datblygu cynllun ymchwil a datblygu newydd syn cynyddu ein gwaith gyda phartneriaid, gan gynnwys Arolwg Daearegol Prydain ar sector prifysgolion, ac yn cyfunor syniadau y mae arnom eu hangen i gefnogi darpariaeth ymarferol o ran di-garbon net, gwres ac ynni d典r mwynglawdd ac i alluogi arloesedd, effeithlonrwydd a gwelliant parhaus ar draws pob agwedd ar ein gwaith.
Gan ychwanegu at yr hyn a ddysgom or flwyddyn ddiwethaf, byddwn yn creu ffordd hyblyg a chyfunol o weithio ar gyfer y dyfodol syn sicrhau bod pob aelod o staff yn cael ei gynnwys ac yn gallu cydweithion rhwydd ar draws gwahanol dimau ac ardaloedd. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws ymwneud 但 ni fel busnes ac yn cynnwys mwy o wasanaethau digidol a hygyrchedd in cwsmeriaid, gan adeiladu ar adborth a roddwyd ganddynt.
Byddwn yn gwneud mwy o waith gyda sefydliadau ariannol a benthyca a thrawsgludwyr i gynyddu ymwybyddiaeth on r担l a chynnal ffydd yn y farchnad dai ar draws ardaloedd meysydd glo.
Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar les ein pobl a buddsoddi yn eu datblygiad. Byddwn yn ychwanegu at y cynnydd a wnaethom yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth ddod yn sefydliad syn cymryd camau pendant i fod yn fwy gwrth-hiliol a chynhwysol, gan ddatblygu ein dulliau, ein polis誰au an prosesau recriwtio ymhellach, parhau i ganolbwyntio ar addysg a chodi lleisiau a gwahodd her or tu mewn ar tu allan in sefydliad. Bydd hyn yn cynnwys cyflawni ein strategaeth newydd lle gwych i bawb weithio. Darllenwch fwy am ein strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant newydd ar gyfer 2021-2024
Wrth i ni barhau i dyfu ac esblygu, mae ein hymrwymiad i gyflawni ein gwaith hanfodol i warchod bywyd, d典r yfed ar amgylchedd yn parhau yn ddigyfnewid. O gynorthwyo aelwydydd yr effeithiwyd arnynt gan ymsuddiant neu nwy mwynglawdd i warchod d典r yfed, afonydd a thraethau rhag llygredd o fwyngloddiau, mae ein gwaith yn cadw cymunedaun ddiogel ac yn sicrhau bod pobl leol yn gallu mwynhau afonydd, traethau a mannau lleol eraill. Ein gwaith craidd yw hyn a bydd yn parhau ochr yn ochr 但n hymateb 24/7 i ddigwyddiadau i roi sicrwydd i gymunedau ar draws y meysydd glo.
Ein model busnes
Mae ein model busnes yn sail in cynllun busnes. Maer model yn dangos sut byddwn yn darparu gwasanaethau in cwsmeriaid a chreu gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol o fwyngloddiau etifeddol.
Mae ein diben wrth wraidd ein Model Busnes, yn sail ir pedair ystyriaeth allweddol a drafodwyd eisoes yn Ein Perfformiad:
-
Ein pobl
-
Cwsmeriaid a rhanddeiliaid
-
Prosesau mewnol
-
Rheoli ein harian
Trwy wella ein perthynas 但n pobl, ein cwsmeriaid an rhanddeiliaid yn gyson, cryfhau ein prosesau a gwneud hyn i gyd o fewn fframwaith llywodraethu ariannol cadarn, gallwn ddefnyddio ein gwybodaeth an harbenigedd:
-
i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus a
-
chyflawni ein hymrwymiadau i reolir risgiau syn gysylltiedig 但 mwyngloddio
A hynny ar yr un pryd 但 chreu gwerth a lleihaur gost i drethdalwyr gymaint 但 phosibl.
Ein diben:
-
rydym yn cadw pobl yn ddiogel ac yn rhoi tawelwch meddwl
-
rydym yn gwarchod a gwellar amgylchedd
-
rydym yn defnyddio ein gwybodaeth an harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus
-
rydym yn creu gwerth ac yn lleihaur gost i drethdalwyr gymaint 但 phosibl
Ein cynllun busnes
Mae ein cynllun busnes yn gosod ein diben wrth wraidd yr hyn a wnawn. Bydd ein rhaglenni gwella an gweithgareddau creu gwerth yn sicrhau y gallwn barhau i ymgymryd 但r dyletswyddau craidd hyn mor effeithlon ac effeithiol 但 phosibl.
Arwain, cefnogi a datblygu ein pobl:
-
mae ein haddysg an datblygiad yn ysbrydoli, ysgogi a helpu staff i gyflawni eu llawn botensial
-
rydym yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant
-
mae ein staff wediu grymuso ac yn ymgysylltu
-
mae ein system gwobrwyo staff yn gysylltiedig 但 datblygiad
-
rydym yn meddu ar y gallu i gyflawni ein dyletswyddau statudol am byth
Gweithredu strategaeth gwsmeriaid:
-
rydym yn deall ein cwsmeriaid ac yn canolbwyntio ar eu hanghenion
-
mae ein data cwsmeriaid yn cael ei fesur, ei ddeall ai ddefnyddio i ychwanegu gwerth
-
mae ffyrdd o weithio syn dangos arfer gorau yn cael eu hymsefydlu
-
mae ein gwasanaethaun hygyrch ac maen rhwydd cynnal busnes 但 ni
Ceisio cyfleoedd i greu gwerth:
-
rydym yn darparu gwasanaethau cynghori i alluogi sefydliadau eraill i reoli eu risgiau
-
rydym yn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau i greu gwerth on gwybodaeth an data
-
rydym yn creu gwerth on hetifeddiaeth an sgil-gynhyrchion mwyngloddio
Buddsoddi yn ein trefniadau llywodraethu an prosesau:
-
mae trefniadau rheoli risg wediu hailwampio ac maer system adrodd am risgiaun ddynamig
-
mae cynllunio busnes a gwaith rhaglenni effeithiol yn cefnogi blaenoriaethu a chyflawnin effeithiol
-
mae llywodraethun syml ac yn grymuso pobl o fewn fframweithiau
Risgiau strategol
Risg Risg diogelwch cyhoeddus
Er gwaethaf rheolaethaur Awdurdod Glo, mae perygl sylweddol a achoswyd gan gloddio am lo yn y gorffennol neu ddigwyddiad ar safle etifeddol yr Awdurdod Glo yn achosi anaf difrifol neu farwolaeth.
Diweddariad a mesurau lliniaru
Mae gennym brosesau sydd wediu hen sefydlu i reoli ein risgiau, gan gynnwys rhaglenni archwilio a chyfathrebu rhagweithiol a llinell gymorth ymateb wedii brysbennu sydd ar gael 24/7.
Rydym yn defnyddio ymateb cymesur i reolir risg hon, ond ni ellir ei dileu.
Sg担r gymharol
Uchel (sefydlog)
Risg - COVID-19 (lles staff a pharhad busnes)
Mae COVID-19 (neu ddigwyddiad iechyd tebyg) ar cyfyngiadau cysylltiedig yn effeithio ar iechyd, diogelwch neu les staff a gallur Awdurdod Glo i gyflawni ei swyddogaethau craidd.
Diweddariad a mesurau lliniaru
Yn ystod mis Mawrth 2020, cychwynnom ein cynllun parhad busnes ac roedd mwyafrif ein pobl yn gweithio gartref. Roedd uwch d樽m rheoli wedii sefydlu i wneud penderfyniadau amser real a sicrhau bod lles staff yn cael ei warchod a bod ein dulliau cyfathrebun effeithiol. Blaenoriaethwyd gweithgareddau rheng flaen allweddol yn ofalus, a pharhaodd yr holl weithrediadau allweddol drwy gydol y cyfnodau clo. Ar yr adeg cyhoeddi, rydym yn parhau i symud tuag at drefn arferol newydd wrth ir cyfyngiadau lacio.
Sg担r gymharol
Canolig (lleihau)
Risg Effaith ariannol COVID-19
Maer effaith economaidd a achoswyd gan COVID-19 yn effeithio ar incwm yr Awdurdod Glo.
Diweddariad a mesurau lliniaru
Adferodd niferoedd o ran trwyddedau, adroddiadau mwyngloddio a gwybodaeth fwyngloddio ar hyd 2020-21 ar 担l dechrau araf, ac maen nhwn parhau i fod yn gryf ar ddechrau 2021-22.
Sg担r gymharol
Canolig (lleihau)
Risg Amharwyr yn y farchnad wybodaeth
O ganlyniad i adnoddau cyfyngedig a phwyslais ar ddyletswyddau craidd, nid ydym yn gwella ein gwybodaeth nac yn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, gan golli cyfleoedd ir Awdurdod Glo ac eraill greu gwerth on gwybodaeth an data.
Diweddariad a mesurau lliniaru
Rydym wedi llwyddo i ryddhau ein data iw ddefnyddio gan eraill ac agor y farchnad adroddiadau mwyngloddio, gan arwain at gyfran is or farchnad a llai o incwm or farchnad hon, yn 担l y disgwyl.
Byddwn yn parhau i weithion agos gydar Comisiwn Geo-ofodol, ei gyrff partner, a sefydliadau eraill i amlygu cyfleoedd i rannu ein data an gwybodaeth, gan ddarparu gwasanaethau rhagorol i helpu ein cwsmeriaid i wneud penderfyniadau gwybodus.
Sg担r gymharol
Uchel (sefydlog)
Risg Defnydd o wasanaethaur llywodraeth
O ganlyniad i bwysau cyllido allanol ac ansicrwydd economaidd, mae cyfleoedd i ddarparu gwasanaethau i sefydliadaur llywodraeth yn datblygun arafach, gan arwain at gollir cyfle iw helpu i reoli eu risgiau neu greu gwerth o etifeddiaeth fwyngloddio a cholli cyfraniad ariannol.
Diweddariad a mesurau lliniaru
Rydym yn parhau i wella ein proffil a chryfhau perthnasoedd allweddol. Rydym yn parhau i weithio gydan partneriaid, gan gynnwys Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli gwaith adfer d典r mwynglawdd, ac rydym wedi sefydlu t樽m ymateb i ddigwyddiadau tomenni ar ran Llywodraeth Cymru.
Sg担r gymharol
Canolig (lleihau)
Risg Arloesedd
O ganlyniad i gyfyngiadau cyllido ar risg gynhenid syn gysylltiedig ag arloesedd, gallai cynnydd wrth ddatblygu technoleg, prosesau a chynhyrchion newydd gymryd mwy o amser nag a gynlluniwyd, gan arwain at oedi wrth greu gwerth ac arbed costau.
Diweddariad a mesurau lliniaru
Goruchwylir y rhaglen hon gan ein bwrdd arloesedd. Mae camau a gymerwyd yn ystod y cyfnod adolygu gwariant aml-flwyddyn diwethaf wedi lleihau costau gweithredu trin d典r mwynglawdd gan 贈3.7 miliwn yn 2020-21, ac rydym yn parhau i wneud gwaith ymchwil a datblygu, datblygu ein prosesau trwyddedu a gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer cynlluniau ynni d典r mwynglawdd. Byddwn yn parhau i gydweithio 但n hadran noddi, sef BEIS, Arolwg Daearegol Prydain a sefydliadau eraill i gynyddu ein llwyddiant ir eithaf.
Sg担r gymharol
Canolig (sefydlog)
Risg Datganoli
Mae gwahaniaethau polisin parhau i dyfu rhwng Llywodraethaur Deyrnas Unedig, yr Alban a Chymru mewn meysydd syn berthnasol in gwaith, gan achosi aneffeithlonrwydd, ansicrwydd neu risg i enw da.
Diweddariad a mesurau lliniaru
Maer tair gwlad a wasanaethwn wedi datblygu polis誰au gwahanol yn ystod COVID-19 sydd wedi achosi gwaith ychwanegol ac, ar adegau, canllawiau a dulliau gwahanol ar gyfer ein pobl an gweithrediadau ym mhob gwlad.
Maen bosibl y gallair gwahaniaethau polisi rhwng y gwledydd barhau i gynyddu. Byddwn yn parhau i weithion agos gydar gwledydd wrth wneud ein gwaith i sicrhau bod canlyniadau ar gyfer y Deyrnas Unedig a chanlyniadau cenedlaethol yn cael eu cyflawni ir eithaf.
Sg担r gymharol
Canolig (cynyddu)
Risg Ymadael 但r Undeb Ewropeaidd
Gallai ansicrwydd yngl天n 但 natur yr ymadawiad 但r Undeb Ewropeaidd gael effaith ar gyllid a pholisir Awdurdod Glo ai bartneriaid ac amhariad tymor byr.
Diweddariad a mesurau lliniaru
Cyn ymadael 但r Undeb Ewropeaidd, adolygom yr elfennau on busnes y gallair ymadawiad 但r Undeb Ewropeaidd effeithio arnynt yn y tymor byr, er enghraifft cyflenwi cemegau in gweithfeydd trin d典r mwynglawdd, ac mae gennym gynlluniau ar waith i reolir rhain.
Nid ywr ymadawiad 但r Undeb Ewropeaidd wedi effeithio ar ein gweithgareddau, ond byddwn yn parhau i fonitror sefyllfan ofalus.
Sg担r gymharol
Isel (lleihau)
Risg Newid yn yr hinsawdd
Methiant i ystyried, monitro a rheoli effeithiau tebygol y newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol ar ein hasedau an gallu i gyflawni ein cylch gwaith.
Diweddariad a lliniaru
Mae ein rhaglenni adeiladu ac adnewyddu sylweddol ag arian cyfalaf wediu dylunio i sicrhau bod ein cynlluniaun lliniaru ac atal llygredd a llifogydd.
Bydd ein rhaglen gynaliadwyedd yn ystyried effeithiaur newid yn yr hinsawdd ymhellach ar asedau gweithredol presennol ac yn y dyfodol.
Sg担r gymhrol
Canolig (cynyddu)
Astudiaeth achos: Ein gwaith yn yr Alban
Ym mis Awst 2020, ymchwiliodd cyngor lleol i holltau mewn ffordd yn Coatbridge, Gogledd Swydd Lanark. Fe ganfuon nhw wagle mawr o dan arwyneb y ffordd ac fe ofynnon nhw i ni ymchwilio a gweithredu i gadw pobl yn ddiogel a datrys y broblem ir gymuned.
Dangosodd ein hymchwiliadau fod dwy siafft pwll glo dros 200 mlwydd oed wediu cofnodi yn yr ardal leol gyda dyfnderoedd cofnodedig o oddeutu 330 metr. Canfu ymchwiliadau pellach ir ddaear fod un or siafftiau pwll glo a gofnodwyd wedi cwympo, gan achosi ir gwagle ymddangos o dan arwyneb y ffordd. Roedd y siafft 22 metr o dan lefel y tir ac roedd y deunydd rhwng y siafft ar ffordd, sef graean meddal, tywodlyd, yn anodd gweithio gydag ef, yn enwedig mewn amodau gwlyb.
Digwyddodd y gwymp mewn ystad dai breswyl ac fe weithion ni gydar preswylwyr, y Cyngor Plwyf, Cyngor Gogledd Swydd Lanark a phartneriaid eraill i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o beth oedd wedi digwydd, sut byddain cael ei atgyweirio ar raddfa amser ar gyfer y gwaith. Cadw pobl yn ddiogel a thawelu meddwl y gymuned oedd ein blaenoriaeth drwy gydol y gwaith.
Fe weithion ni gydan contractwyr i osod platfform 36 metr o led ar draws y siafft ar ardal oi hamgylch. Roedd hyn wedi caniat叩u ir gwaith gael ei wneud yn ddiogel ac wedi lleihau perygl cwymp bellach gymaint 但 phosibl. Trwsiwyd y siafft pwll glo trwy chwistrellu 716 o dunelli o growt sment a sefydlogwyd y deunydd graean tywodlyd uwch ei phen ac oi hamgylch gyda 3,850 o litrau o resin a sment. Bydd hyn yn sicrhau bod yr ardal yn ddiogel ac yn sefydlog am flynyddoedd i ddod.
Ystadegau allweddol
-
Siafft 330 metr dros 200 mlynedd oed
-
3,850 o litrau o resin a sment wediu defnyddio iw sefydlogi
-
716 o dunelli o growt sment wediu chwistrellu
Ein blwyddyn yn yr Alban
6 o archwiliadau mynedfa pwll glo wediu cynnal
158 o ymchwiliadau i adroddiadau ynghylch perygl arwyneb
54,366 o adroddiadau mwyngloddio wediu darparu
964 o ymgynghoriadau cynllunio wedi derbyn ymateb
34 biliwn o litrau o dd典r wediu trin
960 o dunelli o solidau haearn wediu hatal rhag mynd i mewn i gyrsiau d典r
Adolygiad ariannol
Rydym wedi cyflawnin gryf yn ystod y flwyddyn er gwaethaf cyfyngiadau COVID-19. Mae ein gwaith ymateb i ddigwyddiadau a diogelwch cyhoeddus wedi parhau i gadw pobl yn ddiogel a rhoi tawelwch meddwl, a bydd buddsoddiad parhaus yn ein cynlluniau yn ein galluogi i drin d典r mwynglawdd a gwarchod yr amgylchedd yn y dyfodol. Rydym wedi cynyddu ein hincwm gwasanaethau cynghori wrth i ni helpu ein partneriaid i ddeall a rheoli eu risgiau, ac wedi darparu gwybodaeth a gwasanaethau i helpur farchnad dai drwy gydol y cyfnod.
Yn ystod blwyddyn ansicr, rydym wedi gweithion agos gyda BEIS i gyfleur risgiau ar sensitifrwydd syn gysylltiedig 但n gofynion cyllido ac wedi cyflawni yn unol 但n rhagolygon. Derbyniwyd 贈44.1 miliwn o gymorth grant gan BEIS yn ystod y flwyddyn (2019-20: 贈34.8 miliwn), syn adlewyrchu cynnydd yng nghost net ein gweithrediadau. Dangosir hyn yn y graffig isod. (Sylwer y darparwyd ar gyfer cyfran sylweddol or gost hon mewn blynyddoedd blaenorol, fel yr esbonnir yn nodyn 13 ir datganiadau ariannol, ac nad ywn cael ei chodin uniongyrchol ar y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr yn y flwyddyn).
Sut y defnyddiom ein harian yn 2020-21
Dangosir ffigurau 2019-20 mewn cromfachau.
Ein gwariant oedd 贈60.2 miliwn (yn 2019-20 - 贈54.1 miliwn)
-
Gweithrediadau Diogelwch cyhoeddus 贈13.3 miliwn (yn 2019-20 - 贈12.0 miliwn)
-
Gweithrediadau Cynlluniau trin d典r mwynglawdd 贈14.4 miliwn (yn 2019-20 - 贈12.6 miliwn)
-
Gweithrediadau Gorsafoedd pwmpio ymsuddiant 贈1.0 miliwn (yn 2019-20 - 贈1.6 miliwn)
-
Datblygu Cynllunio, trwyddedu, caniat但d ac eiddo 贈4.1 miliwn (yn 2019-20 - 贈3.2 miliwn)
-
Data a gwybodaeth 贈3.9 miliwn (yn 2019-20 - 贈4.2 miliwn)
-
Masnachol 贈8.9 miliwn (yn 2019-20 - 贈9.1 miliwn)
-
Arloesedd 贈0.9 miliwn (yn 2019-20 - 贈0.9 miliwn)
-
Cynlluniau trin d典r mwynglawdd (CYFALAF) 贈10.9 miliwn (yn 2019-20 - 贈8.2 miliwn)
-
Gorsafoedd pwmpio ymsuddiant (CYFALAF) 贈0.4 miliwn (yn 2019-20 - 贈1.3 miliwn)
-
Arall (CYFALAF) 贈2.4 miliwn (yn 2019-20 - 贈1.0 miliwn)
Ein hincwm oedd 贈60.2 miliwn (yn 2019-20 - 贈54.1 miliwn)
-
Cymorth grant (BEIS) 贈44.1 miliwn (yn 2019-20 - 贈34.8 miliwn)
-
Adroddiadau mwyngloddio 贈7.9 miliwn (yn 2019-20 - 贈9.5 miliwn)
-
Cynghori a thechnegol贈6.0 miliwn (yn 2019-20 - 贈5.3 miliwn)
-
Sgil-gynhyrchion ac arloesedd masnachol arall 贈0.2 miliwn (yn 2019-20 - 贈0.1 miliwn)
-
Trwyddedu/caniat但d gweithredwyr 贈0.8 miliwn (yn 2019-20 - 贈0.8 miliwn)
-
Trwyddedu data 贈1.2 miliwn (yn 2019-20 - 贈1.0 miliwn)
-
Cysylltiedig ag eiddo 贈0.7 miliwn (yn 2019-20 - 贈1.4 miliwn)
-
Ffi rheoli diogelwch cyhoeddus ac arall 贈0.1 miliwn (yn 2019-20 - 贈0.2 miliwn)
-
Symudiad cyfalaf gweithio -贈0.8 miliwn (yn 2019-20 - 贈1.0 miliwn)
Yr incwm o 贈16.9 miliwn a ddangosir yn y Datganiad o wariant net cynhwysfawr yw cyfanswm y ffigurau Incwm uchod heb gynnwys cymorth grant a symudiad cyfalaf gweithio.
Er gwaethaf saib yn ein rhaglenni cyfalaf oherwydd cyfyngiadau cychwynnol COVID-19, cyflawnom ein rhaglen gyfalaf flynyddol fwyaf erioed, gydan partneriaid, i warchod cyrsiau d典r a dyfrhaenau yfed trwy ailflaenoriaethu ein gwaith a mabwysiadu arferion gwaith COVID-ddiogel. Gwnaethom hefyd gynyddu gwariant i sicrhau bod nifer gynyddol o gynlluniau pwmpio d典r mwynglawdd ac ymsuddiant syn heneiddio yn gweithredun effeithiol. Bydd ein rhaglenni adnewyddu ac arloesi cyfalaf parhaus yn lleihau cost cynnal y cynlluniau hyn yn y dyfodol ir eithaf, ac yn ystod y flwyddyn arbedon ni 贈3.7 miliwn trwy ddefnyddio ein sgil-gynhyrchion mewn ffyrdd defnyddiol a chynhyrchu arbedion effeithlonrwydd gweithredol eraill.
Cynyddodd ein gwariant ar ddiogelwch cyhoeddus yn ystod y cyfnod, syn adlewyrchu nifer o hawliadau a digwyddiadau arwyddocaol, gan gynnwys ein cefnogaeth ir ymateb brys ar gwaith parhaus i unionir nodwedd lofaol yn Sgiwen yn ne Cymru. Mae gwariant ein t樽m Datblygu wedi cynyddu oherwydd gwaith yn Clipstone, Swydd Nottingham, ller ydym yn trin y siafftiau pwll glo mewn safle etifeddol er mwyn iddo allu cael ei ailddatblygun ddiogel ar gyfer y gymuned.
Gostyngodd ein hincwm o adroddiadau mwyngloddio o flwyddyn i flwyddyn, yn bennaf o ganlyniad i ostyngiad mawr mewn incwm ar ddechraur cyfyngiadau COVID ac yna adferiad cryf yn 担l ir lefelau disgwyliedig erbyn diwedd y cyfnod. Cynhyrchodd ein gwaith gwasanaethau cynghori incwm o 贈6.0 miliwn (cynnydd sylweddol or 贈5.3 miliwn yn 2019-20). Mae hyn yn adlewyrchu llwyddiant wrth gyflawni gyda sefydliadau eraill llywodraethau, gan gynnwys cynlluniau d典r mwynglawdd ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn Lloegr a Cyfoeth Naturiol Cymru, a chynorthwyo Llywodraeth Cymru i reoli tomennin ddiogel.
Datganiadau ariannol
Mae ein cyfrifon wediu dominyddu gan ein balans darpariaethau o 贈2,529.0 miliwn. Dangosir y sail resymegol ar fethodoleg ar gyfer cyfrifo hyn yn nodyn 13 ir cyfrifon. Yn yr un modd 但 blynyddoedd blaenorol ac yn unol 但n polisi cyfrifyddu, adolygwyd y ddarpariaeth hon ar gyfer datrys effeithiau cloddio am lo yn y gorffennol ar ddiwedd y flwyddyn (2020-21). Maer balans hwn wedi cynyddu 贈223.0 miliwn (2019-20: cynnydd o 贈9.0 miliwn), yn bennaf o ganlyniad i gynnwys dau gynllun ataliol newydd a phwysau parhaus ar gost gweithredu ein cynlluniau. Yn unol ag arferion cyfrifyddu, rydym yn addasu ein llifoedd arian parod i adlewyrchu gwerth amser arian yn seiliedig ar dybiaethau a chyfraddau gostyngiad a ddarperir gan Drysorlys EM. Roedd y cyfraddau hyn yn gymharol sefydlog eleni, gan arwain at ostyngiad o 贈15.0 miliwn yn unig yn y balans darpariaethau (2019-20: gostyngiad o 贈96.0 miliwn).
Datganiad o wariant net cynhwysfawr
Y gwariant net cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2021 oedd 贈260.9 miliwn, o gymharu 但 贈48.0 miliwn yn 2019-20. Y symudiadau mewn darpariaethau a amlinellir uchod syn gyfrifol am y gwahaniaeth mawr rhwng y ddwy flynedd. Heblaw am y symudiadau darpariaethau hyn, y gwariant net cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn oedd 贈16.9 miliwn (2019-20: 贈20.6 miliwn), sef 贈3.7 miliwn yn llai.
Amlinellir y rhesymau dros y symudiad hwn isod.
Cyfanswm incwm gweithredu:
Cyfanswm yr incwm gweithredu, nad ywn cynnwys cymorth grant, oedd 贈16.9 miliwn (2019-20: 贈18.3 miliwn) syn adlewyrchu ein strategaethau parhaus i weithio ar y cyd 但 sefydliadau llywodraethau iw helpu i reoli eu risgiau ar yr un pryd 但 hybu cystadleuaeth yn y farchnad adroddiadau mwyngloddio a galluogi eraill i ddefnyddio ein gwybodaeth i wneud penderfyniadau gwybodus.
Rydym bellach ymhell on sefyllfa wreiddiol, ller oedd gennym fonopoli ar adroddiadau mwyngloddio i bob pwrpas, gyda chyfran o oddeutu 50% or farchnad, syn dangos llwyddiant agor y farchnad yn ystod y 6 blynedd diwethaf. Mae colli cyfran gymharol fach or farchnad yn ystod y flwyddyn, ynghyd ag effaith gychwynnol COVID-19 ar y farchnad dai a marchnadoedd cysylltiedig, wedi achosi in refeniw o adroddiadau mwyngloddio ostwng 贈1.6 miliwn i 贈7.9 miliwn, wedii wrthbwyso gan ff誰oedd uwch o 贈0.2 filiwn o werthu ein data i gyrff allanol i ehangur farchnad.
Mae ein hincwm o wasanaethau cynghori a thechnegol, fodd bynnag, wedi cynyddu 贈0.7 miliwn i 贈6.0 miliwn, wedii sbardunon bennaf gan ein gwaith gydan partneriaid yng Nghymru i reoli tomenni glon ddiogel gan roi tawelwch meddwl i gymunedau lleol.
Y gwahaniaeth mawr arall o 2019-20 ywr gostyngiad mewn incwm adfachu o werthu adeiladau yr oedd yr Awdurdod Glo yn berchen arnynt yn flaenorol - 贈0.6 miliwn o gymharu ag 贈1.1 filiwn yn 2019-20. Maer incwm hwn yn anrhagweladwy ac maer amseriad y tu allan in rheolaeth i raddau helaeth.
Gwariant:
Roedd costau staff, sef 贈15.8 miliwn, 贈0.7 miliwn yn fwy nar flwyddyn flaenorol oherwydd i ni gynyddu nifer ein staff i gyflawni ein gwasanaethau rheng flaen. Estynnwyd nifer fach o gontractau staff asiantaeth yn 2020-21 hefyd i ddarparu cydnerthedd yn ein timau wrth i COVID-19 a chyfnodau clo cysylltiedig llywodraethau ddechrau effeithio ar ein gwaith an pobl.
Gostyngodd cost prynu nwyddau a gwasanaethau (heb gynnwys costau a ddarparwyd yn flaenorol) 贈0.5 miliwn i 贈8.45 miliwn, gan gynnwys arbed 贈0.3 miliwn trwy lai o deithio yn ystod cyfnodau clo COVID-19.
Maen werth crybwyll eto, wrth fynd heibio, ein hymrwymiad i ymateb i ddigwyddiadau. Er y bu gwariant sylweddol ar nifer o ymatebion i ddigwyddiadau, nid ywr gwariant hwn wedi cael ei gofnodi yn y Datganiad o wariant net cynhwysfawr, er ei fod yn cael effaith ar ein llifoedd arian parod, gan ei fod wedii gynnwys mewn darpariaethau a godwyd yn flaenorol yn erbyn cost rheoli etifeddiaeth cloddio am lo yn y dyfodol. Gweler yr adran isod ar lif arian parod i gael rhagor o wybodaeth.
Y ffigur dibrisiant, ailbrisio a thaliadau amhariad yw 贈9.4 miliwn eleni. Roedd y taliad yn 2019-20, sef 贈15.0 miliwn, yn anarferol o uchel o ganlyniad i gwblhau dau gynllun mawr a amharwyd yn syth i werth llyfr net o ddim yn unol 但n polisi cyfrifyddu. Bydd buddsoddiad cyfalaf sylweddol yn ystod y ddwy flynedd yn lleihau costau cynnal a chadw a gweithredu cynlluniau yn y dyfodol.
Datganiad or sefyllfa ariannol
Roedd y rhwymedigaethau net, sef 贈2,519.9 miliwn, wedi cynyddu 贈216.9 miliwn o gymharu 但 ffigur 2019-20, sef 贈2,303.0 miliwn. Dyma oedd y ffactorau allweddol:
Cynyddodd darpariaethau yn erbyn rhwymedigaethau yn y dyfodol 贈223.0 miliwn o ganlyniad ir adolygiad o ddarpariaethau a amlinellir uchod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nodyn 13 ir cyfrifon.
Maer cynnydd 贈3.9 miliwn mewn balansau eiddo, peiriannau ac offer i 贈13.0 miliwn wedii sbardunon bennaf gan brynu tir ar gyfer cynlluniau d典r mwynglawdd (贈2.4 miliwn) a gwariant parhaus ar gynlluniau o fewn ein balans asedau syn cael eu hadeiladu (贈1.1 filiwn), yn ogystal 但 gwariant o 贈0.6 miliwn i adnewyddu adeiladaur Brif Swyddfa.
Mae asedau anniriaethol wedi cynyddu ychydig gan 贈0.3 miliwn, syn adlewyrchu buddsoddiad parhaus yn ein technoleg gwybodaeth an systemau.
Arweiniodd pwyslais parhaus ar waredu eiddo dros ben at ostyngiad 贈0.4 miliwn yng ngwerth cyfunol adeiladau a ddaliwyd iw buddsoddi ar rhai hynny a ddaliwyd iw gwerthu ar 担l gwerthu tir dros ben yng ngogledd-ddwyrain Lloegr.
Er bod ein balans symiau derbyniadwy sylfaenol wedi aros yn gymharol gyson o flwyddyn i flwyddyn, maer balans cario wedi codi 贈0.4 miliwn, gan gynnwys dileu darpariaethau penodol yn erbyn drwgddyledion (colledion credyd disgwyliedig) pan oedd gwell dealltwriaeth or ansicrwydd economaidd llai a oedd yn gysylltiedig 但r pandemig COVID-19 in cwsmeriaid.
Y ffigur arian parod ar hyn syn cyfateb i arian parod yw 贈10.8 miliwn (2019-20: 贈5.1 miliwn): gweler yr adran isod ar lif arian parod i gael manylion symudiadau.
Mae masnach a symiau taladwy eraill wedi gweld cynnydd sylweddol o 贈3.8 miliwn, a sbardunwyd yn bennaf gan ddau beth: cynnydd mewn croniadau o 贈4.8 miliwn ar gyfer gwariant diogelwch cyhoeddus a gwariant cyfalaf ar gynlluniau d典r mwynglawdd, wedii wrthbwyso gan ostyngiad 贈1.0 filiwn yn y balansau sicrhad a gariwyd i ryddhau rhwymedigaethau yn ymwneud 但 hawliadau gan y diwydiant.
Llif arian parod
Bu cynnydd net o 贈5.7 miliwn mewn arian parod yn ystod y flwyddyn. Rhannau cyfansawdd y symudiad hwn oedd:
Derbyn 贈44.1 miliwn o gymorth grant gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) (2019-20: 贈34.8 miliwn). Y cynnydd, sef y symudiad mawr yn ein balans arian parod o flwyddyn i flwyddyn, ywr swm a dynnwyd i lawr i dalu am gyfalaf gweithio yn ymwneud 但 dau brif faes: unioni digwyddiadau diogelwch cyhoeddus an rhaglenni cyfalaf, yn unol 但r sylwadau ar groniadau uchod.
All-lif arian parod net o weithgareddau gweithredu o 贈27.9 miliwn (2019-20: 贈25.1 miliwn). Rydym wedi gwario mwy ar ein gweithrediadau eleni, yn enwedig yr ymateb brys yn Sgiwen yn ne Cymru, ond hefyd mewn digwyddiadau yn yr Alban a De Swydd Efrog ac ar setlo ein hymrwymiad etifeddol ym Mhwll Glo Clipstone.
All-lif arian parod net o weithgareddau buddsoddi o 贈10.5 miliwn (2019-20: 贈10.6 miliwn). Mae hyn yn ymwneud 但 phrynu eiddo, peiriannau ac offer yn rhan on rhaglen barhaus i ddatblygu ac adeiladu cynlluniau trin d典r mwynglawdd a gorsafoedd pwmpio ymsuddiant, ar buddsoddiad parhaus yn ein technoleg gwybodaeth an systemau. Maer buddsoddiad uwch wedii wrthbwyson rhannol gan 贈0.9 miliwn o dderbyniadau (2018-19: 贈1.1 filiwn) o werthu adeiladau a oedd ym mherchenogaeth yr Awdurdod Glo.
Ar 31 Mawrth 2021, roeddem yn dal 贈10.8 miliwn o arian parod (2019: 贈5.1 miliwn). Mae hyn yn cynnwys 贈2.2 miliwn (2019: 贈2.9 miliwn) o gronfeydd wediu clustnodi mewn perthynas 但 sicrhad a alwyd i mewn o weithredwyr mwyngloddio sydd wedi cael eu diddymu. Defnyddir y symudiad mewn sicrhad a alwyd i mewn i ryddhaur rhwymedigaethau hawliadau diwydiant hyn yn rhan on gweithgareddau gweithredu.
Busnes gweithredol
Ir graddau nad ydynt yn cael eu bodloni on ffynonellau incwm eraill, gellir bodloni ein rhwymedigaethau dim ond trwy grantiau neu gymorth grant yn y dyfodol gan ein hadran noddi, sef BEIS. Y rheswm am hyn yw, o dan y confensiynau arferol syn berthnasol i reolaeth seneddol dros incwm a gwariant, ni chaiff y cyfryw grantiau gael eu rhoi cyn ir angen amdanynt godi.
Mae paragraff 14(1) Atodlen 1 Deddf y Diwydiant Glo 1994 yn datgan: Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol, mewn perthynas 但 phob blwyddyn gyfrifyddu, yn talu ir Awdurdod Glo y cyfryw swm ag y mae ef neu hi yn penderfynu ei fod yn ofynnol ir Awdurdod Glo gyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon yn ystod y flwyddyn honno.
Ar y sail honno, maer bwrdd yn disgwyl yn rhesymol y byddwn yn parhau i dderbyn cyllid fel y gallwn fodloni ein rhwymedigaethau. Felly, rydym wedi paratoi ein cyfrifon ar sail busnes gweithredol.
Ein pobl
Maer flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd, yn heriol ac, ar adegau, yn dorcalonnus i bawb. Mae ein pwyslais ar les wedi caniat叩u i gydweithwyr gydbwyso cyflawni eu dyletswyddau 但 gofalu am eu hanwyliaid a, thrwy flaenoriaethu gwaith, rydym wedi gwarchod y gwasanaethau syn cael yr effaith fwyaf ar fywydau, iechyd a lles ein cwsmeriaid.
Mae ymroddiad ein pobl wedi bod yn amlwg ar hyd y flwyddyn. Mae llawer on gwaith ymateb i ddigwyddiadau 24/7 yn gofyn i ni fod yn bresennol mewn cymunedau a chynorthwyo pobl wyneb yn wyneb, ac mae ymrwymiad ein staff wedi galluogi hyn i ddigwydd yn ddiogel ac wedi caniat叩u i ni ddarparu cymorth ychwanegol ir rhai hynny y bu angen iddynt adael eu cartref neu ei werthu i ni yn ystod y pandemig.
Adasom ein ffyrdd o weithion gyflym fel y gallair rhan fwyaf o bobl weithio gartref ac y gallair rhai a oedd yn gweithio mewn cymunedau wneud hynnyn hyderus mewn ffordd ddiogel o ran COVID-19. Cydnabuom hefyd nad yw pawb yn teimlon ddiogel yn gweithio gartref nac yn gallu gwneud hynny, felly cr谷wyd amgylchedd gweithio diogel o ran COVID-19 yn y swyddfa ir rhai yr oedd yn well ganddynt weithio yno. Blaenoriaethom ymgysylltu 但 staff i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn deall ein cyfeiriad an blaenoriaethau, ac anogom gydweithwyr i rannu pethau a oedd yn eu helpu i ymdopi ac yn eu gwneud yn hapus ochr yn ochr 但 chydweithio i gyflawni ar gyfer ein cwsmeriaid.
Yn dilyn uwchraddio TG yn 2019-20, roedd gennym liniaduron ac offer TG dros ben a fyddai wedi cael eu hailgylchu neu eu gwaredu ar 担l ir holl wybodaeth gael ei dileun ddiogel. Rhoddom y rhan fwyaf or rhain i ymgyrch elusennol leol, #makingITpossible, syn helpu i fynd ir afael 但r rhaniad digidol trwy ddosbarthu offer TG wediu hadnewyddu i blant a phobl ifanc yn ardal Mansfield ac Ashfield. Gwnaethom hefyd fenthyca 20 or gliniaduron hyn i gydweithwyr yr oedd eu hoffer TG gartref yn annigonol i gefnogi ymrwymiadau addysgu gartref.
Gwnaethom hefyd alluogi rhai aelodau staff i wirfoddoli ar gyfer y GIG / elusennau lleol i gefnogi eu cymunedau yn ystod y pandemig.
Rydym wedi dysgu llawer o weithion wahanol ac rydym bellach yn datblygu cynllun ar gyfer ein trefn arferol newydd o weithio a fydd yn fwy hyblyg a chyfunol nag or blaen. Bydd hyn yn ein helpu i gyflogi mwy o bobl ar draws ardaloedd meysydd glo, a gobeithiwn y bydd yn caniat叩u i ni ddenu talent fwy amrywiol a bod yn fwy cynrychioliadol or ystod o gymunedau a wasanaethwn.
Rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn datblygu ein pobl ac wedi datblygu platfform ar-lein i gefnogi hyn, gan gynnwys pynciau fel iechyd a lles, cydraddoldeb ac amrywiaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth. Lansiom raglen ymgynefino ar-lein newydd i gynorthwyo aelodau staff newydd ac rydym wedi cael adborth gwych gan y rhai sydd wedi ymuno 但 ni.
Rydym wedi parhau i wneud cynnydd ar y camau gweithredu a amlygwyd yn arolwg pobl 2019, ond bu angen i ni flaenoriaethu rhai meysydd i gyflawnir newidiadau brys a grybwyllwyd yn flaenorol. Mae ein hymrwymiad yn parhau a bydd mwy o waith yn cael ei wneud eleni, gan gynnwys datblygu ein cynllun busnes tymor hir nesaf i roi mwy o gyfeiriad corfforaethol a chyflwyno mwy o fframweithiau cymhwysedd technegol.
Gwnaethom gefnogir Wythnos Wrthfwlio ym mis Tachwedd 2020 ac rydym yn parhau i atgyfnerthu pwysigrwydd urddas a pharch yn y gwaith i bawb.
Mae ein Gr典p Ymgysylltu 但 Staff an nifer gynyddol o grwpiau a rhwydweithiau amrywiaeth, cynhwysiant a lles yn creu ystod o fannau diogel i bobl fynegi pryderon neu syniadau a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
Mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant wedi parhau. Bellach, mae gennym gr典p llywio amrywiaeth a chynhwysiant i gefnogi ein rhwydweithiau a sbarduno cynnydd o ran ein cynllun an blaenoriaethau. Rydym wedi cyflawni gwelliannau amlwg, fel dull newydd o recriwtio, polis誰au mwy cynhwysol wrth iddynt gael eu hadolygu a rhannu safbwyntiau a myfyrdodau rheolaidd ar wrth-hiliaeth. Rydym wedi gweithio gyda sefydliadau eraill fel HS2, y Swyddfa Eiddo Deallusol, D典r Bryste a chyrff cyhoeddus eraill trwyr Gymdeithas Prif Weithredwyr i rannur hyn a ddysgwyd a cheisio arfer gorau. Yn ddiweddar, daethom yn aelod o Fenter Amrywiaeth Gynaliadwy IEMA ac edrychwn ymlaen at weithio gydag eraill i sbarduno cynnydd ar amrywiaeth a chynhwysiant, yn enwedig o ran hil, ar draws y sector amgylcheddol.
Dangosodd ein hadroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2019-20 fod ein bylchau cyflog cymedrig a chanolrifol rhwng y rhywiau wedi lleihau 1.94% a 5%, yn y drefn honno. Mae mwy o fenywod wedi ymuno 但r sefydliad ar raddau uwch ac mae mwy o fenywod yn cael eu dyrchafu trwy ein proses fewnol, syn awgrymu bod y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud ar recriwtio dienw a mentora, hyfforddi a datblygu arweinyddiaeth yn dechrau gweithio. Rydym yn gwybod bod y bwlch (cymedrig 19.97%, canolrifol 26.49%) yn rhy uchel o hyd a bod gennym lawer mwy iw wneud.
Iechyd, diogelwch a lles
Rydym bob amser wedi rhoi iechyd, diogelwch a lles ein pobl, ein cwsmeriaid, ein partneriaid an cadwyn gyflenwi wrth wraidd yr hyn a wnawn, ac nid yw hyn erioed wedi bod yn fwy amlwg nag yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Rydym wedi s担n mewn man arall yn yr adroddiad hwn am ein newid i weithio gartref a sut rydym yn cefnogi iechyd meddwl a lles ein pobl. Ategwyd hyn gan fwy o hyfforddiant ar gyfarpar sgrin arddangos a thrwy fynediad at weminarau cydnerthedd a lles, sesiynau hyfforddi gr典p a chwnsela preifat iddyn nhw au teuluoedd trwy ein rhaglen cymorth i gyflogeion. Chwaraeodd ein swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl r担l bwysig hefyd.
Yn fuan cyn y cyfnod clo cyntaf yn 2020, roeddem wedi dechrau amnewid y systemau gwresogi ac aerdymheru yn ein swyddfa ym Mansfield. Ailaseswyd ac addaswyd y prosiect yn gyflym i fanteisio ir eithaf ar opsiynau gweithio hyblyg a chynnwys mesurau diogelwch COVID-19 ychwanegol.
Ar 担l y cyfnod clo cyntaf, pan fun rhaid i lawer on contractwyr roi staff ar ffyrlo, gweithiom gydan cadwyn gyflenwi i sicrhau bod pawb wedi cael eu hyfforddi ac yn barod i ddychwelyd ir safle, a datblygom restr wirio COVID ar gyfer pob safle. Mae arsylwadau iechyd, diogelwch a lles wediu lleihau gan fod llai o bobl wedi bod ar y safle, ond rydym wedi parhau i gynnal ymchwiliadau ac archwiliadau allweddol i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel, ac rydym wedi adolygu ein proses adrodd am ddamweiniau a damweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd i wella trefniadau uwchgyfeirio a dysgu.
Yn 2021-22, byddwn yn cyhoeddi ein Cynllun Iechyd a Diogelwch newydd (i ategu ein Cynllun Lles presennol) ac yn datblygu system newydd a gwell o adrodd ar ein data iechyd, diogelwch a lles ai gyfathrebu.
Mesur | 2020-21 | 2019-20 |
---|---|---|
Arsylwadau iechyd, diogelwch a lles gweithredoedd anniogel (staff a chontractwyr) | 959 | 3,051 |
Arsylwadau iechyd, diogelwch a lles enghreifftiau o arfer da (staff a chontractwyr) | 320 | 324 |
Arolygiadau iechyd, diogelwch a lles (staff) | 140 | 412 |
Damweiniau dim amser wedii golli (staff) | 6 | 5 |
Damweiniau amser wedii golli (staff) | 0 | 0 |
Digwyddiadau Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR) | 0 | 2 |
Cynaliadwyedd ar amgylchedd
Rydym wedi sefydlur sefyllfa sylfaenol ar gyfer ein hamcanion symlach o adnabod allyriadau ac rydym yn gweithio ar y rhai mwy cymhleth fel y gallwn gwblhau cynllun clir i ni gyflawni statws di-garbon net erbyn 2030.
Rydym wedi amlygur meysydd lle y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf ar agweddau y mae angen i ni wneud mwy o ymchwil arnynt i wneud cynnydd arwyddocaol. Rydym yn ymsefydlu cynaliadwyedd ym mhob agwedd ar wneud penderfyniadau ac yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd a Gwasanaethau Hafren Trent, ac ar draws ein cadwyn gyflenwi i ddysgu a rhannu arfer gorau mewn meysydd fel adeiladu, pwmpio a defnyddio cemegion a d典r. Rydym yn gwybod bod angen i ni gynyddu faint o b典er adnewyddadwy a gynhyrchwn yn sylweddol, a byddwn yn datblygu cynllun penodol ar gyfer hynny eleni.
Byddwn yn esblygu ein Cynllun Cynaliadwyedd i sicrhaur canlyniadau gorau posibl i bobl a bywyd gwyllt on safleoedd. Eleni, rydym wedi cynnal asesiadau desg or fioamrywiaeth ym mhob un on safleoedd a bydd hyn yn cael ei brofi trwy werthusiadau ar y safle yn ystod 2021-22.
Byddwn yn defnyddior hyn a ddysgwyd o weithion wahanol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i lywio ein dulliau yn y dyfodol. Mae gennym lawer mwy iw wneud, ond rydym wedi ymrwymo i gyflawni cynnydd go iawn yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Sbardunwyr cynaliadwyedd | 2020-21 | 2019-20 |
---|---|---|
Allyriadau carbon o weithrediadau d典r mwynglawdd CO2e (tunelli) | 2,858 | 3,753 |
Allyriadau carbon or brif swyddfa CO2e (tunelli) | 97 | 216 |
Dwysedd carbon teithio busnes (tCO2e/100,000km) | 17.2 | 15.8 |
Defnydd o dd典r m3 | 478 | 1,145 |
Mae ein datan dangos ein bod wedi parhau i wneud cynnydd yn unol 但n sbardunwyr cynaliadwyedd, er bod y pandemig COVID-19 wedi newid y ffordd rydym yn gwneud ein gwaith hanfodol. Mae gweithio gartref wedi lleihau allyriadau carbon a defnydd o dd典r yn ein prif swyddfa yn sylweddol. Fodd bynnag, mae ein hallyriadau carbon trwy deithiau busnes wedi cynyddu ychydig oherwydd y bu angen gwneud mwy o deithiau mewn ceir, syn ddwysach o ran carbon, na theithio ar drenau yn ystod y pandemig. Trwy ein Cynllun Cynaliadwyedd newydd, byddwn yn canolbwyntio ein sbardunwyr an hadroddiadau cynaliadwyedd ar fesur cynnydd yn erbyn ein targedau newydd.
Astudiaeth achos: Ein gwaith yn Lloegr
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo bywyd gwyllt ffyniannus a natur gydnerth ar draws ein safleoedd ac i ddarparu mynediad diogel at ein mannau gwyrdd i bobl leol, pryd bynnag y gallwn. Rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid trwyr Rhwydwaith Adfer Natur yn Lloegr i wella ein dealltwriaeth or cynefinoedd ar draws ein hystad au gwella.
Gan weithio gyda myfyrwyr o Brifysgol Hull, rydym wedi edrych ar yr adar amrywiol syn ymweld 但 dau on safleoedd trin d典r mwynglawdd. Dangosodd y gwaith hwn fod y cynlluniau trin d典r mwynglawdd hyn yn creu brithwaith pwysig o gynefinoedd, gan gynnwys glaswelltiroedd, gwelyau cyrs a gwern, d典r agored, coetir a phrysgwydd. Yn ystod yr arolygon hyn, canfuwyd deuddeg rhywogaeth syn ymddangos ar restr Ymddiriedolaeth Adareg Prydain o Adar o Bryder Cadwraeth. Mae hyn yn dangos y gallai ein safleoedd trin d典r mwynglawdd gynnig llawer mwy o fuddion amgylcheddol na d典r gl但n yn unig.
Maer hyn a ddysgwyd or ymarfer hwn yn cael ei ddefnyddio ar draws ein rhwydwaith o safleoedd, nid yn unig yn Lloegr ond ledled gweddill Prydain Fawr hefyd. Mae ein hystad yn cynnwys 290 o hectarau o safleoedd trin d典r mwynglawdd a 690 o hectarau o domenni glo segur. Bydd gwybodaeth fanwl am gynefinoedd a rhywogaethau hefyd yn helpu i ddangos ble y gallwn wneud newidiadau i wella bioamrywiaeth ymhellach, fel newid gweithgareddau torri gwair i annog mwy o flodau gwyllt a darparu mwy o ffynonellau bwyd ar gyfer gwenyn, ieir bach yr haf a chwilod. Bydd y ddealltwriaeth ddyfnach hon hefyd yn ein helpu i ddylunio cynlluniaun well yn y dyfodol i flaenoriaethu mynediad cymunedol a natur ochr yn ochr ag ynni adnewyddadwy a diogelu d典r yfed, afonydd ac amgylcheddau morol.
Ein blwyddyn yn Lloegr
7,762 o archwiliadau mynedfa pwll glo wediu cynnal
324 o ymchwiliadau i adroddiadau ynghylch perygl arwyneb
126,081 o adroddiadau mwyngloddio wediu darparu
5,525 o ymgynghoriadau cynllunio wedi derbyn ymateb
71 biliwn o litrau o dd典r wediu trin
3,200 o dunelli o solidau haearn wediu hatal rhag mynd i mewn i gyrsiau d典r
Maer adroddiad hwn ar berfformiad wedi cael ei gymeradwyo gan y prif weithredwr ar swyddog cyfrifyddu.
Lisa Pinney MBE, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu, 1 Gorffennaf 2021