Gwasanaeth Dal Tir y Ceidwad Swyddogol i Elusennau
Cyhoeddwyd 1 Medi 2004
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
1. Am beth maer canllaw hwn?
Maer canllaw hwn yn disgrifion fyr wasanaethaur Ceidwad Swyddogol i Elusennau o ran tir elusennau.
2. Pwy ywr Ceidwad Swyddogol?
Maer Ceidwad Swyddogol yn gorfforaeth sydd wedii chreu gan statud i ddal tir ar ran elusennau; yn ymarferol maen aelod o staff y Comisiwn Elusennau a benodir ir r担l hon. Os yw tir yn cael ei ddal gan y Ceidwad Swyddogol maen rhaid iddo gael ei freinio ynddo/ynddi.
3. Ystyr geiriau a ddefnyddir
Deddf Elusennau yw Deddf Elusennau 2011.
Tir yw tir yng Nghymru a Lloegr gyda neu heb adeiladau, ac maen cynnwys unrhyw ystad neu fudd mewn tir, megis prydles, hawl tramwy, hawddfraint, neu rent-dal. Yn y cyd-destun hwn nid ywn cynnwys budd mewn tir trwy gyfrwng morgais neu warant arall yn benodol.
Ymddiriedolwyr yw ymddiriedolwyr elusen. Ymddiriedolwyr elusen ywr bobl syn gyfrifol o dan y ddogfen lywodraethol am reoli gweinyddiad yr elusen. Yn y ddogfen lywodraethol gallant gael eu galwn aelodau pwyllgor, yn llywodraethwyr, yn gyfarwyddwyr, neu gall fod rhyw deitl arall ganddynt. Weithiau bydd ymddiriedolwyr gwarchod neu ymddiriedolwyr daliannol gan elusen hefyd, ac mae eu r担l wedii chyfyngu i ddal ei heiddo. Nid oes gan ymddiriedolwyr gwarchodaeth neu ymddiriedolwyr daliannol unrhyw bw er i wneud penderfyniadau rheoli a rhaid iddynt weithredu ar gyfarwyddyd cyfreithlon yr ymddiriedolwyr elusen.
Maer gair rhaid yn cael ei ddefnyddio pan fydd gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol y maen rhaid i chi gydymffurfio ag ef. Mae dylai yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y canllawiau arfer da lleiaf y dylech eu dilyn oni bai bod rheswm da dros beidio 但 gwneud hynny.
4. Cyn y gellir breinio tir yn y Ceidwad Swyddogol
Rhaid ir teitl ir tir gael ei ddal gan yr elusen eisoes cyn y gellir ei freinio yn y Ceidwad Swyddogol. Hyd yn oed pan fydd y ddwy weithred o brynu tir a breinior tir wedi hynny yn y Ceidwad Swyddogol yn cael eu hystyried yn rhan o un broses, dylid eu cyflawni trwy ddwy ddogfen gyfreithiol ar wah但n. Ni all y Ceidwad Swyddogol fod yn barti a enwir mewn unrhyw drawsgludiad, trosglwyddiad, prydles neu weithred arall syn prynu tir.
5. Sut mae tir yn cael ei freinio yn y Ceidwad Swyddogol
Gall tir gael ei freinio yn y Ceidwad Swyddogol gan Orchymyn syn cael ei baratoi gan y Llys neu, yn fwy arferol, gan y Comisiwn, gan ddefnyddior darpariaethau yn y Ddeddf Elusennau. Gallwch wneud cais i freinio tir elusen yn y Ceidwad Swyddogol drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Cewch gopi or gorchymyn.
Mae tir elusennau a oedd, cyn 1 Ionawr 1961, wedii freinio yn Ymddiriedolwr Swyddogol Tir Elusennau, yn cael ei freinion awtomatig ar y dyddiad hwnnw yn y Ceidwad Swyddogol.
6. Cofrestru tir
Ar 担l i ni freinior tir yn y Ceidwad Swyddogol, gall ymddiriedolwyr yr elusen wneud cais ir Gofrestrfa Tir i gofrestru eu teitl yn enwr Ceidwad Swyddogol. Os nad ywr tir wedii gofrestru, byddem yn annog ymddiriedolwyr i ystyried manteision cofrestru tir cyn breinio, megis sicrhau prawf teitl - cysylltwch 但r Gofrestrfa Tir am fanylion (gweler ei gwefan /government/organisations/land- registry neu edrychwch yn y cyfeirlyfr ff担n o dan Land Registry i gael hyd ich swyddfa leol).
7. Manteision breinio tir yn y Ceidwad Swyddogol
Nid oes gan elusennau syn anghorfforedig, megis ymddiriedolaethau neu gymdeithasau, hunaniaeth gyfreithiol ac ni allant ddal eiddo (gan gynnwys tir) yn eu henw eu hunain. Yn lle hynny maen rhaid iddo gael ei ddal ar ran yr elusen gan unigolion enwebedig (a elwir yn ymddiriedolwyr daliannol, ac yn aml mewn un neu ragor or ymddiriedolwyr elusen) neu gorfforaeth gorfforedig (gweler isod). Yn achos unigolion, bydd yr unigolion hyn yn newid o bryd iw gilydd (e.e. oherwydd eu bod yn ymddeol neun marw), a bydd gweithredoedd newydd yn ofynnol i drosglwyddor eiddo iw holynydd. Fodd bynnag, mae breinio tir elusen yn y Ceidwad Swyddogol yn osgoir angen i wneud hyn. Mae dwy fantais i hyn:
- maer elusen yn arbed y gost o baratoir gweithredoedd newydd syn ofynnol pan fydd ei hymddiriedolwyr daliannol yn newid
- nid oes unrhyw berygl y bydd tir elusen yn aros wedii freinio mewn pobl nad ydynt yn ymwneud 但r elusen mwyach ac y gall fod yn anodd iw holrhain
Os ywr elusen yn gwmni neun gorfforaeth gorfforedig arall mae ganddi ei hunaniaeth gyfreithiol ei hun a gall ddal eiddo (gan gynnwys tir) yn ei henw ei hun. Felly nid oes angen breinior tir yn y Ceidwad Swyddogol oherwydd nid yw hyn yn cynnig unrhyw fanteision ychwanegol. Mae hyn yn gymwys i elusennau anghorfforedig sydd o dan ymddiriedolaeth corfforaeth gorfforedig hefyd (er enghraifft os ywr ymddiriedolwyr wedi corffori eu hunain o dan y Ddeddf Elusennau). Yn yr achos hwn gall yr ymddiriedolwr corfforedig ddal y tir ar ran yr elusen, heb ystyried unrhyw newid yn yr unigolion syn ffurfior corff ymddiriedolwyr.
Os yw tir elusennau wedii freinio mewn pobl sydd heb gysylltiad mwyach 但r elusen ac yn enwedig os ywr holl bobl y breiniwyd y tir ynddynt wedi marw neu nid oes modd eu holrhain, maen bosib mai Gorchymyn gan y Comisiwn syn breinior tir yn y Ceidwad Swyddogol ywr ffordd orau o sicrhau bod yr elusen yn gallu dangos ei bod yn berchen ar y tir.
Mae breinio yn y Ceidwad Swyddogol yn symleiddio perchnogaeth tir elusen a gall olygu bod delio 但r tir (megis gwerthu neu ei roi ar brydles) yn llai trafferthus a chostus. Er enghraifft, yn achos tir anghofrestredig bydd nifer y gweithredoedd y mae angen ei gynhyrchu yn cael ei leihau ac ni fydd angen profi bod yr ymddiriedolwyr blaenorol wedi marw.
At hynny, mae gwasanaethaur Ceidwad Swyddogol yn rhad ac am ddim.
8. Rheolir tir
Ni all y Ceidwad Swyddogol gymryd rhan wrth reolir tir a freiniwyd ynddo/ynddi. Mae ymddiriedolwyr elusen yn cadwr holl bwerau a dyletswyddau rheoli. Er enghraifft, bydd rhaid iddynt barhau i wneud y canlynol:
- penderfynu sut y dylid gosod y tir (os yw dogfen lywodraethol yr elusen yn datgan y gall y tir gael ei osod neu fod rhaid ir tir gael ei osod)
- gwneud trefniadau ar gyfer casglu rhent
- sicrhau os ywr tir yn cael ei ddal ar ymddiriedolaeth at ddiben arbennig ei fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y diben hwnnw ac nid rhyw ddiben arall
- gwarchod y tir, er enghraifft, trwy sicrhau bod ei ffiniau wediu diffinion glir a thrwy archwilio cyflwr y tir o dro i dro er mwyn gwneud yn siw r nad ywn cael ei gamddefnyddio
- gwneud trefniadau ar gyfer cynnal a chadw a gwellar tir, os oes angen
Nid yw breinio tir elusen yn y Ceidwad Swyddogol yn newid unrhyw bwerau ymddiriedolwyr elusen i werthur tir. Efallai fod cyfyngiadau ar werthur tir ond fel arfer byddant yn codi or canlynol:
- telerau dogfen lywodraethol yr elusen
- y Ddeddf Elusennau
- Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985 yn achos elusen a gofrestrwyd fel cymdeithas tai
Maer cyfyngiadau hyn yn gymwys os ywr tir wedii freinio yn y Ceidwad Swyddogol neu beidio.
9. Beth sydd angen ei wneud pan fydd tir a freiniwyd yn y Ceidwad Swyddogol yn cael ei werthu?
Maen rhaid ir Ceidwad Swyddogol fod yn barti i unrhyw drawsgludiad, trosglwyddiad, prydles neu weithred arall syn ymwneud 但 gwerthu tir a freiniwyd ynddo/ynddi.
Nid oes angen ir Ceidwad Swyddogol roi ei s棚l ar y weithred heblaw yn yr achos a nodwyd isod. Yn lle hynny, bydd y weithred yn cael ei harwyddo yn enw ac ar ran y Ceidwad Swyddogol gan ymddiriedolwyr yr elusen. Bydd rhaid i bob un or ymddiriedolwyr elusen arwyddor weithred oni bai bod dau neu ragor ohonynt wedi cael eu hawdurdodi i wneud hynny o dan y Ddeddf Elusennau.
Mae achos lle maen rhaid ir Ceidwad Swyddogol roi ei s棚l ar unrhyw weithred syn ymwneud 但 gwerthur tir a freiniwyd ynddo/ynddi yn codi:
- os cafodd y tir dan sylw ei freinio yn y Ceidwad Swyddogol trwy Orchymyn a wnaed o dan adran 76 o Ddeddf Elusennau 2011 (adran 18 o Ddeddf Elusennau 1993 cyn hyn), syn rhoir pw er i ni weithredu er mwyn gwarchod elusennau
- os nad ywr tir syn cael ei werthu wedii awdurdodi trwy Orchymyn gan y Llys neu gan y Comisiwn
- Yn yr achosion hyn mae angen anfon drafft or weithred atom iw gymeradwyo. Os ydym yn cymeradwyor drafft bydd y Ceidwad Swyddogol yn rhoi ei s棚l ar y weithred ar gais yr ymddiriedolwyr elusen, ar yr amod nad ywn golygu tor-ymddiriedaeth ac nid ywn gosod unrhyw atebolrwydd personol ar y Ceidwad Swyddogol
Yn achos tir cofrestredig, dylair ymddiriedolwyr hefyd hysbysur Gofrestrfa Tir am y trafodiad er mwyn ir Gofrestrfa allu newid ei chofnodion yn unol 但 hynny.
Am wybodaeth ynglyn 但 phryd mae angen awdurdod y Llys neur Comisiwn er mwyn gwerthu tir elusen, edrychwch ar ein canllaw Gwerthiannau, prydlesi, trosglwyddiadau neu forgeisiau: Yr hyn y mae angen i ymddiriedolwyr wybod am waredu tir elusennau (CC28).
10. Y gweithredoedd eiddo
Fel arfer bydd y Ceidwad Swyddogol yn caniat叩u i ymddiriedolwyr elusen gadw neu gael rheolaeth ar y dystysgrif tir neur gweithredoedd eiddo ir tir a freiniwyd ynddo/ynddi.
11. Pryd na ellir breinio tir yn y Ceidwad Swyddogol
Fel rheol ni fyddwn yn gwneud Gorchymyn yn breinio tir elusennau yn y Ceidwad Swyddogol os cafodd y tir ei drawsgludo i ymddiriedolwyr:
- o dan ddarpariaethau arbennig Deddf Safleoedd Ysgolion 1841, Deddf Sefydliadau Gwyddonol a Llenyddol 1854 neu Ddeddf Safleoedd Addoli 1873
- ar y telerau penodol y dylair tir gael ei ddychwelyd ir rhoddwr neu ei etifeddion os ywn peidio 但 chael ei ddefnyddio at y diben y rhoddwyd y tir ar ei gyfer
Y rheswm am hyn yw y gallair Ceidwad Swyddogol yn yr achosion uchod fod yn ymddiriedolwr y tir at ddibenion anelusennol, a gall ef/hi ddal tir a ddelir ar ymddiriedolaethau elusennol yn unig.