Policy paper

Datganiad polisi ar y cyd ar gyfer y Deyrnas Unedig ar Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith

Published 27 February 2025

Diben y ddogfen

Maer datganiad polisi yma yn cael ei wneud ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Ysgrifennydd Gwladol DEFRA, DAERA yng Ngogledd Iwerddon a Llywodraeth yr Alban (y Pedair Gwlad). Maen ofynnol yn 担l Rheoliadau Pecynwaith 2024[1] ac maen nodi effeithiau amgylcheddol arfaethedig y polisi ynghylch Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith (pEPR) a sut y bwriedir ir polisi gyflawnir effeithiau hynny. Yn benodol, maen ymwneud 但r dogfennau llywodraethu craidd y maen rhaid i Weinyddwr y Cynllun eu cyhoeddi yn 2025; canlyniadau rydyn nin disgwyl i Weinyddwr y Cynllun weithio tuag atynt; ar cyflawniadau y maer Pedair Gwlad yn disgwyl eu gweld yn ei flwyddyn gyntaf o weithredu.

Dogfennau Llywodraethu Gweinyddwr y Cynllun

Ym mlwyddyn gyntaf pEPR, rhaid i Weinyddwr y Cynllun gyhoeddir dogfennau canlynol syn mynegi, ar lefel uchel, ei ddull o gyflawnir canlyniadau ar cyflawniadau a nodir yn y ddogfen yma.

  • Strategaeth (y Strategaeth) erbyn mis Mehefin 2025 fan bellaf yn bodlonir gofynion y manylir arnynt yn Atodlen 7 ir Rheoliadau. Mae hyn yn cynnwys amcanion a swyddogaethau Gweinyddwr y Cynllun, y canlyniadau y maen ceisiou cyflawni, trefniadau llywodraethu, trefniadau cyflawni, sut maer rhain yn ategu canlyniadaur cynllun; sut mae Gweinyddwr y Cynllun yn bwriadu ymwneud 但r rhai sydd 但 diddordeb dilys yn y ffordd y maen cyflawni ei swyddogaethau; a sut maen bwriadu mesur ac adrodd ar gyflawni ei amcanion a chanlyniadaur cynllun.
  • Cynllun gweithredol (y Cynllun Gweithredol) bob blwyddyn erbyn 28 Chwefror fan bellaf gan fodlonir gofynion y manylir arnynt yn Atodlen 7 ir Rheoliadau. Mae hyn yn cynnwys blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod gan ddechrau ar 1 Ebrill (y flwyddyn weithredol), rhagolygon o gostau gwaredur awdurdodau lleol a chostau ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus, ei ddull o gyfrifor ffioedd gwaredu syn daladwy gan y cynhyrchwyr atebol, a gweithgareddau gwybodaeth gyhoeddus a gweithgareddau cyfathrebu eraill y maen bwriadu eu cynnal yn y flwyddyn weithredol.

Bydd y Pedair Gwlad yn gweithio gyda Gweinyddwr y Cynllun dros y cyfnod ymsefydlu a chyflawni cychwynnol yma, gan gynnwys mewn perthynas 但 strategaeth gyntaf Gweinyddwr y Cynllun. Bydd y llywodraethau hefyd yn diweddarur datganiad polisi yn 担l yr angen, er enghraifft, i ystyried datblygiadau yn y dyfodol yngl天n 但 pholisi economi cylchol ar gyfer pecynwaith a r担l Gweinyddwr y Cynllun wrth gyflawni hwnnw.

Crynodeb or canlyniadau arfaethedig

Wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan Reoliadau Pecynwaith 2024, rhaid i Weinyddwr y Cynllun weithredu yn unol 但r angen i hwyluso cyflawnir effeithiau amgylcheddol a nodir yn y datganiad polisi yma[2]. Yr effeithiau amgylcheddol hyn yw:

  • Defnyddio pecynwaith syn gynaliadwy yn amgylcheddol;
  • Atal pecynwaith rhag mynd yn wastraff;
  • Cynnydd mewn ailddefnyddio pecynwaith, ac ym maint ac ansawdd y deunyddiau pecynwaith syn cael eu hailgylchu; a gostyngiad yn y pecynwaith a roddir ar y farchnad.

Maer Pedair Gwlad or farn bod cyflawnir canlyniadau hyn, gan gynnwys trwy Weinyddwr y Cynllun, yn ganolog i gefnogir newid i economi cylchol, ac ar yr un pryd cynyddur arbedion carbon syn gysylltiedig 但 chylch bywyd pecynwaith ir eithaf.

Y mesurau polisi allweddol cyflawniadau Blwyddyn 1

Ffioedd sylfaenol y cynhyrchwyr a modiwleiddio

Maer polisi ynghylch pEPR yn cyflwyno rhwymedigaeth ir cynhyrchwyr dalu am gostau casglu a gwaredu eu pecynwaith cartref pan ddawn wastraff. Mae hyn yn cysoni cyfrifoldeb y cynhyrchwyr dros becynwaith 但r egwyddor mair llygrwr syn talu. Wrth bennu ffioedd y cynhyrchwyr, dylai Gweinyddwr y Cynllun gyflawnir amcanion perthnasol ar canlyniadau a ddymunir yn y polisi.

Dylai Gweinyddwr y Cynllun gyhoeddi ffioedd sylfaenol terfynol ar gyfer y flwyddyn 2025/26 erbyn mis Mehefin 2025 fan bellaf, ar y sail y bydd digon o ddata cynhyrchwyr yn cael ei gyflwynon brydlon ar 担l iddo gael ei roi i wasanaeth digidol pEPR (Rhoi Gwybod am Ddata Pecynwaith), gan ganiat叩u gwiriadau rheoleiddio boddhaol. Bydd cyflwyno ffioedd sylfaenol yn cymell cynhyrchwyr i wella dyluniadau a gosod llai o ddeunydd ar y farchnad, gan arwain at atal pecynwaith rhag mynd yn wastraff. Rhaid i Weinyddwr y Cynllun ddefnyddio dull modiwleiddio ffioedd o 2026/27 ymlaen i gymell y cynhyrchwyr i symud i becynwaith a all gael ei ailgylchu ai ailddefnyddio.

Maer Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i Weinyddwr y Cynllun gyhoeddi datganiad polisi ar fodiwleiddio cyn gynted ag y bon ymarferol ar 担l iddo gael ei sefydlu ac yna adolygur polisi hwnnw o leiaf bob tair blynedd wedyn. Maer Pedair Gwlad yn disgwyl ir datganiad polisi cyntaf hwn gael ei gyhoeddi ochr yn ochr 但 Strategaeth Gweinyddwr y Cynllun, erbyn mis Mehefin 2025 fan bellaf. Dylair datganiad polisi cyntaf ar fodiwleiddio geisio:

  • Gyrrur cynhyrchwyr i ddefnyddio pecynwaith cartref syn haws iw ailgylchu neu iw ailddefnyddio,
  • Dosrannur ffioedd i grwpiau o ddeunyddiau mewn ffordd syn helpu i gyflawni canlyniadau arfaethedig y cynllun, gan ystyried costau gwaredu a gwell canlyniadau amgylcheddol, gan gynnwys yr effaith ar garbon pan fon ymarferol,
  • Mynegi sut y bydd modiwleiddio yn benodol yn rhoi hwb i ddefnyddio pecynwaith syn haws iw ailgylchu a symud at ddewisiadau amgen a all gael eu hailddefnyddio, a hefyd
  • Mynegi sut y bydd y ffioedd yn helpu ailgylchu ar raddfa fawr.

Maer Pedair Gwlad hefyd yn disgwyl i Weinyddwr y Cynllun fynd ir afael 但 chynaliadwyedd yn ehangach wrth ddatblygu ei Strategaeth. Disgwylir i Weinyddwr y Cynllun ystyried sut y gall helpu i leihau effeithiau amgylcheddol cynhyrchu, cludo a defnyddior pecynwaith, yn ogystal ag effaith amgylcheddol y pecynwaith pan ddawn wastraff. Disgwylir hefyd iddo gyfrannun llawn at gyflawni rhwymedigaethau rhyngwladol a domestig i ddatgarboneiddio.[3]

Methodoleg asesu ailgylchadwyedd

I helpur cynhyrchwyr i wneud y trawsnewidiad hwn mewn pecynwaith, rhaid i Weinyddwr y Cynllun ddatblygu a chynnal methodoleg asesu ailgylchadwyedd a dylai gyhoeddi hon cyn gynted 但 phosibl ar 担l cael ei sefydlu[4]. Bydd y fethodoleg yn darparu dull safonol i gynhyrchwyr asesu ailgylchadwyedd pecynwaith a bydd yn llywior broses o fodiwleiddio ffioedd y cynhyrchwyr. Dylid diweddarur fethodoleg yn flynyddol yn unol 但 chylchoedd adrodd pEPR.

Rheoli gwastraff pecynwaith yn effeithlon ac effeithiol gan yr awdurdodau lleol

Rhaid i Weinyddwr y Cynllun gyfrifo a dosbarthu taliadau ir awdurdodau lleol am gasglu a gwaredu gwastraff pecynwaith cartref yn effeithlon. Dylair taliadau alluogi gwasanaethaur awdurdodau lleol i gyflawnir amcanion a nodir yn y datganiad yma a bodlonir polis誰au domestig perthnasol ym mhob gwlad[5].油油

Wrth wneud asesiad o gostau gwaredu effeithlon, bydd Gweinyddwr y Cynllun yn ystyried y costau gwaredu y byddair awdurdod lleol yn eu talu pe bain darparu gwasanaeth rheoli gwastraff effeithlon, sef gwasanaeth lle maer costau mor isel ag syn rhesymol bosibl, gan ystyried unrhyw ffactorau eraill syn benodol ir awdurdod hwnnw, gan ategu canlyniadau gofynnol y cynllun yr un pryd.

Rhaid i Weinyddwr y Cynllun lunio canllawiau ar y fethodoleg ar weithdrefn y bydd yn eu defnyddio a, lle bon berthnasol, y ffactorau y bydd yn eu hystyried wrth asesu effeithlonrwydd cyn gynted ag y bon ymarferol ar 担l cael ei sefydlu. Maer Pedair Gwlad yn disgwyl ir canllawiau hyn ffurfio rhan or Cynllun Gweithredol. Rhaid rhoi amcangyfrif ir awdurdodau lleol or taliadau a wneir iddyn nhw cyn gynted ag y bon rhesymol ymarferol ar gyfer blwyddyn asesu 2025. Ar gyfer y blynyddoedd dilynol, rhaid i Weinyddwr y Cynllun ddarparu amcangyfrif or taliadau erbyn 1 Tachwedd fan bellaf cyn y flwyddyn asesu honno[6].

O dan Reoliadau Pecynwaith 2024, o 2028 ymlaen rhaid i Weinyddwr y Cynllun asesu i ba raddau y mae pob awdurdod perthnasol yn darparu gwasanaeth rheoli gwastraff effeithiol mewn perthynas 但 gwastraff pecynwaith cartref. Er hynny, maer Pedair Gwlad yn disgwyl i Weinyddwr y Cynllun gychwyn yr asesiadau hyn cyn hyn pan fon fodlon bod ganddo ddigon o ddata i wneud yr asesiadau hynny. Y rheswm am hyn yw er mwyn sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn cael cefnogaeth a chymorth cynnar i wella perfformiad lle bo modd.

Cafodd y metrigau cychwynnol arfaethedig ar gyfer asesu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd costau gwaredur awdurdodau lleol eu cynnwys wrth hysbysu taliadau dangosol ir awdurdodau lleol ar 28 Tachwedd 2024. Dylai Gweinyddwr y Cynllun adolygu o leiaf bob blwyddyn y dull ar fethodoleg ar gyfer asesu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol, er mwyn cyflawni canlyniadau amgylcheddol y cynllun, ac yn y pen draw, cadw deunyddiau o ansawdd uchel mewn defnydd am fwy o amser. Yn ei strategaeth, dylai Gweinyddwr y Cynllun nodi sut maen bwriadu datblygur asesiad yma wrth i ddata am gostau a pherfformiad wella dros amser.

Ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus

Rhaid i Weinyddwr y Cynllun ddarparu ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus i roi gwybodaeth i ddefnyddwyr a busnesau am sut i ailgylchu, ailddefnyddio a gwaredu pecynwaith, ac atal pecynwaith rhag dod yn sbwriel. Wrth ddatblygu ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus, dylai gweinyddwr y cynllun ystyried sut y bydd y rhain yn ategu ymgyrchoedd a ddarperir ar y lefel leol a chenedlaethol ochr yn ochr 但r wybodaeth sydd ar gael ar draws yr ecosystem rheoli gwastraff er mwyn galluogi defnyddwyr a busnesau i chwarae eu rhan, cynyddu ansawdd y deunydd ar gyfer ailgylchu ac ailddefnyddio, a lleihau sbwriel a gwaredu pecynwaith gweddilliol diangen.

Dylai Gweinyddwr y Cynllun nodi ei gynlluniau ar gyfer ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus yn ei Strategaeth a nodir ymgyrchoedd ar gweithgareddau cyfathrebu penodol y maen bwriadu eu cynnal ar gyfer y flwyddyn nesaf yn ei Gynllun Gweithredol, gan gynnwys sut y bydd y rhain yn cael eu targedu i wella perfformiad ailgylchu ac ailddefnyddio deunyddiau pecynwaith penodol a sut y bydd y rhain yn cael eu teilwra i fynd ir afael 但r cyd-destun ym mhob gwlad. Dylair Strategaeth hefyd amlinellu sut y bydd strwythurau llywodraethu ffurfiol yn goruchwylio ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus a gweithgareddau cyfathrebu.

Mesur cynnydd ac adrodd arno

Yn ei Strategaeth, maen ofynnol i Weinyddwr y Cynllun nodi sut y bydd yn mesur ac yn adrodd ar gyflawni ei amcanion ai ganlyniadau. Bydd y dangosyddion perfformiad allweddol y bydd yn eu defnyddio yn cael eu nodi yn ei Gynllun Gweithredol blynyddol.

Yn ychwanegol, maer Pedair Gwlad yn disgwyl i Weinyddwr y Cynllun ddefnyddior Strategaeth ar Cynllun Gweithredol i osod amcanion, nodau a safonau perfformiad ymestynnol syn ystyried disgwyliadau a nodir yn y datganiad polisi yma a chyflawni canlyniadaur cynllun a gwasanaeth o safon i fusnesau ac awdurdodau lleol syn rhyngweithio 但 Gweinyddwr y Cynllun.

Bydd y Pedair Gwlad yn monitro perfformiad Gweinyddwr y Cynllun, gan gynnwys drwy adroddiad blynyddol Gweinyddwr y Cynllun, a disgwylir yr adroddiad cyntaf erbyn 30 Medi 2026 ar gyfer blwyddyn 1 pEPR a phob blwyddyn wedyn.

Os bydd Gweinyddwr y Cynllun yn methu 但 gosod amcanion, nodau neu ddangosyddion perfformiad syn briodol o ymestynnol, neun methu eu cyflawni, bydd y Pedair Gwlad yn ystyried a ywn briodol dibynnu ar eu pwerau yn rheoliad 59 o Reoliadau Pecynwaith 2024 i gyfarwyddo Gweinyddwr y Cynllun yn ffurfiol i gymryd camau neu i beidio 但 chymryd camau penodedig er mwyn gwella perfformiad.


[1] Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Pecynwaith a Phecynwaith) 2024.

[2] Rheoliadau Pecynwaith 2024, rheoliad 127

[3] Rheoliadau Pecynwaith 2024, rheoliad 64(7)

[4] Rheoliadau Pecynwaith 2024, Atodlen 7(7)

[5] Rheoliadau Pecynwaith 2024, rheoliad 73, paragraff 1(c)(v)

[6] Rheoliadau Pecynwaith 2024, rheoliad 74