Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar Blaladdwyr 2025
Mae’r cynllun hwn yn nodi blaenoriaethau pedair llywodraeth y DU ar gyfer rheoli plâu, chwyn a chlefydau yn gynaliadwy. Mae’n ceisio lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio plaladdwyr ac effaith hynny ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl, gan gefnogi cynhyrchiant amaethyddol ar yr un pryd.
Dogfennau
Manylion
Mae Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar Blaladdwyr 2025 wedi’i fframio yn erbyn ein rhwymedigaethau statudol i reoleiddio plaladdwyr. Fe’i datblygwyd mewn partneriaeth rhwng Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ac mae’n berthnasol i’r Deyrnas Unedig i gyd.
Mae’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol yn nodi’r strategaeth ar gyfer rheoli’r defnydd o blaladdwyr a lleihau’r risg. Mae’n adlewyrchu blaenoriaethau ac uchelgeisiau pob un o’r 4 llywodraeth, a’i nod yw hyrwyddo defnydd cynaliadwy o blaladdwyr i leihau’r effeithiau ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl, gan gefnogi diogelwch bwyd a rheoli plâu ac ymwrthedd i blaladdwyr yn effeithiol.
Mae’r cynllun yn cynnwys camau gweithredu sydd wedi’u strwythuro o amgylch 3 amcan:
-
annog pobl i ddefnyddio dulliau rheoli plâu yn integredig (IPM)
-
pennu amserlenni a thargedau ar gyfer lleihau’r defnydd o blaladdwyrr
-
cryfhau cydymffurfiaeth i sicrhau diogelwch a chanlyniadau amgylcheddol gwell
Mae dwy ddogfen ar y dudalen hon:
-
Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar Blaladdwyr 2025.
-
‘Esbonio targed y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol’, sy’n esbonio’n fanylach y targed lleihau domestig ar gyfer plaladdwyr yn y DU a sut bydd y targed yn cael ei gyflawni.
Updates to this page
-
We have updated the 'NAP target explainer: a detailed explanation of the Pesticides NAP target and how it will be achieved' HTML document. An error was identified in the UK Pesticide Load Indicator (UK PLI). The metrics for predatory mites and parasitic wasps have been corrected in Figure 1, Figure 2, and Table 1.
-
Added translation