Statutory guidance

Unauthorised encampments: a summary of available powers (Welsh accessible version)

Updated 14 July 2022

Cyflwynwyd ir Senedd yn unol ag adran 85 Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022

Mehefin 2022

息 Hawlfraint y Goron 2022

Trwyddedir y cyhoeddiad hwn o dan deleraur Drwydded Llywodraeth Agored f3.0 ac eithrio lle nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, ewch i neu ysgrifennwch at y T樽m Polisi Gwybodaeth, Yr Archifau Cenedlaethol, Kew, Llundain TW9 4DU, neu e- bostiwch: psi@nationalarchives.gov.uk.

Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniat但d gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.

Maer cyhoeddiad hwn ar gael yn

Dylid anfon unrhyw ymholiadau yngl天n 但r cyhoeddiad hwn atom yn public.enquiries@homeoffice.gov.uk.

ISBN 978-1-5286-3532-5 E02764577 06/22

Argraffwyd ar bapur syn cynnwys isafswm o 40% o ffibr wedii ailgylchu

Argraffwyd yn y DU ganHH Associates Ltd. ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi

Crynodeb

Y canllawiau hyn

Maer canllawiau statudol hyn yn nodir gyfres o bwerau sydd ar gael ir heddlu ymateb i wersylloedd diawdurdod ac i fynd ir afael ag amrywiaeth o niweidiaun gymesur. Maen cynnwys y pwerau a oedd eisoes gan yr heddlu yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (CJPOA) a phwerau newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022 (Deddf 2022). Maer pwerau newydd yn cyflawni ymrwymiad maniffestor Llywodraeth i fynd ir afael 但 gwersylloedd diawdurdod ar niweidiau a achosir gan dresmaswyr yn gwrthod gadael tir ac yn achosi niwed i gymunedau a thirfeddianwyr.

Rhaid ir Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddir canllawiau hyn o dan adran 62F y CJPOA syn ymwneud ag arfer eu pwerau gan yr heddlu o dan a60C i a62E or CJPOA a rheoliadau a wneir o dan adran 67. Maer pweraun cynnwys trosedd newydd o fyw ar dir heb ganiat但d mewn cerbyd neu gyda cherbyd ag amodau eraill a gyflwynwyd gan Ddeddf 2022. Bwriad y canllawiau hyn yw helpu heddluoedd i arfer y pwerau sydd ar gael iddynt yn y CJPOA, gan gynnwys darpariaethau newydd neu ddiwygiedig a gyflwynwyd gan Ddeddf 2022.

O dan adran 67 or CJPOA, gellir cadw unrhyw gerbydau sydd wediu hatafaelu au symud I ffwrdd gan yr heddlu o dan a62(1), a62C(3), neu a64(4) yn unol 但 rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gwneir Rheoliadaur Heddlu (Cadw a Gwaredu Cerbydau Modur) 1995 o dan yr adran hon.

Maer holl bwerau y cyfeirir atynt yn y canllawiau wediu cynllunio i fod yn gymwys i unrhyw un syn byw ar dir heb ganiat但d ac yn gwrthod gadael syn achosi niwed, yn bodlonir amodau ar gyfer camau gorfodi, waeth beth yw eu hil neu ethnigrwydd. Maer Llywodraeth yn disgwyl ir heddlu gymryd camau lle y bon briodol yn erbyn unrhyw un syn torrir gyfraith. Dylair heddlu hefyd barhau i ystyried eu rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth hawliau dynol, eu Dyletswydd Cydraddoldeb yn y Sector Cyhoeddus a deddfwriaeth cydraddoldebau ehangach.

Maen dal yn wir bod yr ymateb i wersylloedd diawdurdod ac i unigolion nad ydynt yn gadael tir pan ofynnir iddynt wneud hynny, gan achosi niwed yn yr amodau a nodir, yn gofyn am ymateb amlasiantaethol lleol, dan arweiniad awdurdodau lleol ac a gefnogir gan yr heddlu. Bydd cyngor gweithredol i swyddogion syn delio 但 gwersylloedd diawdurdod a gynhyrchir gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) yn cael ei ddiweddaru yn unol 但 newidiadau yn Neddf 2022. Mae hefyd ganllawiau unigol ar gyfer ymdrin 但 gwersylloedd diawdurdod sydd wediu hanelun bennaf at awdurdodau lleol ond y bwriedir iddynt hefyd fod o gymorth i berchnogion neu feddianwyr tir ac eraill yr effeithir arnynt gan wersylloedd diawdurdod neu unigolion syn gwrthod gadael tir ac syn achosi niwed yn yr amodau a ddisgrifir. Maer penderfyniad ynghylch pa bwerau heddlu a ddefnyddir yn parhau i fod yn 担l disgresiwn y swyddog heddlu syn mynychu digwyddiad penodol y maen rhaid iddo, wrth arfer y disgresiwn hwnnw, ystyried y canllawiau hyn o dan adran 62F or CJPOA.

Nid ywr darpariaethau gwersylloedd diawdurdod wediu targedu at bobl syn cysgu ar y stryd, nac at y rhai syn dymuno cael mynediad i gefn gwlad ar gyfer hamdden, megis cerddwyr a grwpiau eraill. Bydd y darpariaethau yn gymwys i unrhyw un syn gwerthod gadael tir ac syn achosi niwed, gan fodloni amodaur pwerau yn y canllawiau hyn.

Yn y cyd-destun uchod, nod y canllawiau hyn yw:

  • cyflwynor holl bwerau newydd yn Neddf 2022 ar pwerau presennol yn y CJPOA (a60C i 62E a rheoliadau a wneir o dan adran 67) sydd ar gael ir heddlu i fynd ir afael 但 gwersylloedd diawdurdod.
  • egluro ystyr termau allweddol o fewn Deddf 2022.
  • helpur heddlu i benderfynu ar gamau cymesur.

Nid yw manylion y canllawiau hyn yn cynnwys digwyddiadau lle mae unigolion yn prynu tir ac yn ei feddiannu, gyda chaniat但d cynllunio neu beidio. Bydd camau gweithredu yn erbyn datblygiad anawdurdodedig yn parhau i gael eu harwain gan yr awdurdod cynllunio lleol.

Beth sydd wedii gyflwyno yn Neddf 2022?

Mae a60C i a60E or CJPOA yn nodir drosedd syn ymwneud 但 phreswylio ar dir heb ganiat但d, mewn cerbyd neu gyda cherbyd, a phwerau atafaelu a fforffedu cysylltiedig. Mae rhai pwerau presennol yn y CJPOA hefyd wediu diwygio i gryfhaur dapariaethau.

Beth sydd wedi newid ir pwerau presennol?

Maer pwerau presennol, sydd mewn rhai achosion wediu cryfhau gan Ddeddf 2022, wediu nodi yn adran 61 i a62E or CJPOA. Mae rheoliadau a wneir o dan a67 yn ymwneud 但 cherbydau a atafaelir o dan adran 62(1) neu a62C(3).

Maer darpariaethau presennol, fel y cryfhawyd, wediu cynllunio i sicrhau y gellir ymateb I lefelau is o niwed neu aflonyddwch a gyflawnir gan y rhai syn gwrthod gadael tir, nar rhai ar gyfer y drosedd newydd, gyda chamau gorfodi cymesur. Lle y bon bosibl, dylair heddlu gysylltu ag awdurdodau lleol wrth asesu pob achos unigol a dibynnu ar y dystiolaeth ym mhob achos i benderfynu ar y pwerau priodol iw defnyddio.

Y drosedd newydd

Maer drosedd newydd o dan a60C i a60E or CJPOA fel a ganlyn:

Trosedd syn ymwneud 但 phreswylio ar dir heb ganiat但d mewn cerbyd neu gyda cherbyd, fel y cyflwynwyd gan Ddeddf 2022

Prif amodaur drosedd- a60C(1)

Trosedd syn ymwneud 但 phreswylio ar dir heb ganiat但d mewn cerbyd neu gyda cherbyd yn gymwys:

  • a) pan for person yn 18 oed neun h天n;
  • b) os ywr person yn byw, neu yn bwriadu byw, ar dir heb ganiat但d meddiannydd y tir;
  • c) os oes gan berson o leiaf un cerbyd gyda nhw ar y tir neu os ywn bwriadu gwneud hynny;
  • d) os bodlonir un neu ragor o amodau yn is-adran 60C(4); a
  • e) pan wneir cais ir person adael a/neu symud ei eiddo gan y meddiannydd, cynrychiolydd y meddiannydd neu gwnstabl.

Cyflwynwyd y drosedd hon gan Ddeddf 2022.

Amodau pellach y drosedd - a60C (2)

Cyflawnir trosedd pan fydd person yn bodlonir holl amodau yn a60C (1) ac hefyd un or canlynol:

  • a) lle mae person yn methu 但 chydymffurfio 但r cais i adael cyn gynted ag syn rhesymol yn ymarferol; neu
  • b) os bydd person yn dychwelyd ir tir neu yn mynd ar y tir gydar bwriad o fyw yno heb gael caniat但d ac sydd, neun bwriadu cael cerbyd gyda nhw, o fewn 12 mis ir cais gael ei wneud.

Amodau penodol syn gysylltiedig 但 niwed - a60C (4)

Bydd person yn cael ei gyhuddo o gyflawnir drosedd hon os yw wedi achosi, neun debygol o achosi, difrod, aflonyddwch neu ofid sylweddol ac wedi bodlonir amodau eraill yn adran 60C(1) a (2).

Rhaid i gwnstabl ystyried a ywr person wedi achosi neun debygol o achosi difrod, aflonyddwch neu ofid sylweddol. Am ddiffiniad o beth a olygir fel difrod, aflonyddwch a gofid sylweddol, gweler pennawd sylweddol isod.

O dan a60C(4), gall person gyflawnir drosedd os nad yw ar y tir eto ac os ywn debygol o achosi difrod, aflonyddwch neu ofid sylweddol. Gellir gweld rhagor o fanylion yn yr is-adran tebygol o achosi ymhellach ymlaen yn y canllawiau hyn.

Os bydd person yn cyflawni difrod, aflonyddwch neu ofid sylweddol ac ynan gadael ymhellach ir cais gan y meddiannydd/ei gynrychiolydd/cwnstabl, ni fydd y drosedd a60C yn gymwys oni bai ei fod yn dychwelyd ir tir o fewn y cyfnod gwaharddedig o 12 mis. Fodd bynnag, maen bosib y gallai troseddau eraill syn ymwneud 但 difrod wediu cyflawni a dylid archwilio opsiynau lle y bon briodol.

P典er cysylltiedig i atafaelu a chadw cerbydau/eiddo arall - a60D

Bydd yr heddlu yn gallu arfer pwerau arestio ac atafaelu yn gysylltiedig 但r drosedd. Mae p典er atafaelu yn cynnwys p典er i atafaelu cerbyd ond nid ywn gyfyngedig i hyn.

Os yw cwnstabl yn amaun rhesymol bod trosedd wedii chyflawni o dan adran 60C, gall y cwnstabl atafaelu a symud i ffwrdd unrhyw eiddo perthnasol y maen ymddangos ir cwnstabl:

  • a) i berthyn ir person syn cael ei amau o fod wedi cyflawnir drosedd;
  • b) i fod gan y person; neu
  • c) i fod o dan reolaeth y person

Mae a60D(2)(a) yn darparu y gellir atafaelu cerbyd ble bynnag yi lleolir os ywr cwnstabl yn amau bod y person wedi cyflawnir drosedd o dan a60C neun bwriadu gwneud hynny. I atafaelu eiddo arall, rhaid iddo fod ar y tir a oedd yn ddarostyngedig ir cais i adael, fel y darperir gan adran 60D(2)(b).

Mae a60D(10) yn galluogi person i adfer eiddo os ywn bodlonir prif swyddog bod yr eiddon perthyn ir person ar y pryd ac yn perthyn iddynt ar adeg y drosedd dybiedig o dan a60C.

Mae a60D(11) yn atal person arall rhag adfer y cerbyd sydd wedii atafael pan fo prif swyddog yr heddlu yn credun rhesymol fod y cerbyd ym meddiant neu reolaeth y troseddwr gyda chaniat但d y person hwnnw ar adeg y drosedd.

Caiff prif swyddog perthnasol yr heddlu gadw unrhyw eiddo sydd wedii atafaelu o dan is-adran (1) tan ddiwedd y cyfnod o dri mis syn dechrau ar ddiwrnod yr atafaeliad neu, os cychwynnir achos troseddol, hyd nes y dawr achos hwnnw i ben.

Os penderfynir peidio 但 chyhuddor person, rhaid dychwelyd yr eiddo ir person y credir syn berchennog cyn gynted ag y bon ymarferol.

Os na all prif swyddog heddlu, ar 担l ymchwiliad rhesymol, adnabod perchennog y cerbyd:

  • a) rhaid ir prif swyddog wneud cais i lys ynadon am gyfarwyddiadau, a
  • b) rhaid ir llys wneud gorchymyn am sut i ymdrin 但r eiddo.

P典er cysylltiedig ar gyfer fforffedu - a60E

Os caiff person ei gollfarnu or drosedd o dan a60C, caiff y llys orchymyn i unrhyw gerbyd/eiddo arall sydd wedii atafaelu o dan a60D ai gadw gan yr heddlu gael ei fforffedu.

Cosbau

Y gosb uchaf am y drosedd fydd tri mis o garchar neu ddirwy nad ywn fwy na lefel 4 (贈2,500) ar y raddfa safonol, neur ddau.

Esgus rhesymol

Ni fydd person yn cael ei gyhuddo o gyflawnir drosedd os gall ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros fethu 但 chydymffurfio 但 chais i adael cyn gynted ag y bon rhesymol ymarferol a symud ei eiddo neu, ar 担l cael y cais, mynd ar y tir (neu ddychwelyd iddo) gydar bwriad o fyw yno heb ganiat但d o fewn 12 mis ir cais.

泰霞鉛敬艶糸糸看鉛

Bydd amgylchiadau ffeithiol pob achos yn penderfynu a yw lefel sylweddol o ddifrod, aflonyddwch neu ofid wedii achosi neun debygol o gael ei achosi a mater ir heddlu ar llysoedd fydd asesu hyn.

Bydd yr asesu hyn yn dibynnu ar ffeithiau unigol pob achos; maen bwysig cofio bod yn rhaid i achos o ddifrod, aflonyddwch neu ofid sylweddol gael ei achosi neun debygol o gael ei achosi gan ymddygiad neu breswyliad y person ar y tir. Gallai niwed, aflonyddwch neu ofid or fath gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • a) cymunedau lleol yn cael eu hatal rhag cael mynediad i gyfleusterau neu eu defnyddio, megis meysydd chwaraeon ysgol, parciau a meysydd parcio.
  • b) mae eiddo ar y tir wedii ddifrodi neu lle maer tir ei hun wedii ddifrodi, gan gynnwys tir amaethyddol.
  • c) mae gorfodi mynediad ir tir wedi achosi difrod i osodiadau neu ffitiadau.
  • d) maer amgylchedd wedii ddifrodi, gan gynnwys taflu gormod o sbwriel, tipio anghyfreithlon, s典n gormodol ac arogleuon o wastraff neu fwg oherwydd coelcerthi.
  • e) ymyrryd 但 chyflenwadau d典r, ynni neu danwydd.
  • f) effeithio ar allu gweithwyr neu gwsmeriaid i gael mynediad i ganolfannau siopa, busnesau neu dir amaethyddol, os yw hyn yn arwain at golli defnydd cyfreithlon or tir.
  • g) gofid a achosir gan ymddygiad sarhaus fel cam-drin geiriol ac ymddygiad bygythiol. Gall hyn gynnwys elfen o ofid syn newid ymddygiad.

Dyma rai or ffactorau y gallair heddlu eu hystyried wrth asesu a yw difrod, aflonyddwch neu ofid yn sylweddol. Os ywr heddlu or farn nad ywr niwed yn sylweddol, yna ni fyddair drosedd o dan adran 60C yn berthnasol. Fodd bynnag, gellid defnyddio pwerau o dan a61 ac a62A o CJPOA 1994 o hyd, ond rhaid bod yr amodaun cael eu bodloni.

Gallai rhai or ffactorau y bydd angen ir heddlu eu hystyried gan feddwl am ymateb gorfodi priodol hefyd gynnwys:

  • Sut mae deiliaid y tir a defnyddwyr y tir yn cael eu heffeithio? Os nad ywn bosib i dimau chwaraeon lleol ddefnyddior cyfleusterau oherwydd difrod a achosir gan bobl syn byw neu yn bwriadu byw ar dir, neu oherwydd bod tir wedii rwystro, yna gellid ystyried bod hyn yn ddifrod neu amharu sylweddol. Mae maint a graddfar tir a feddiannir/difrod a achosir yn berthnasol wrth ystyried sut bydd meddiannydd a defnyddwyr tir yn cael eu heffeithio.

  • Pa mor aml ydyr tir yn cael ei ddefnyddio? Gallai pobl syn byw neun bwriadu byw ar ystad ddiwydiannol neu faes parcio canolfan siopa amharun sylweddol ar allu pobl i fynd o gwmpas eu busnes cyfreithlon a chael effaith ar fasnach. Fodd bynnag, os bydd gwersyll diawdurdod yng nghornel cae neu barc lleol, yna efallai na fydd yn achosi aflonyddwch sylweddol.

  • Pa difrod syn digwydd ir amgylchedd? Ni fydd y llysoedd or farn bod ychydig o sbwriel yn gyfystyr 但 difrod sylweddol ir tir. Fodd bynnag, gall yr heddlu/llysoedd ystyried bod arogleuon gormodol, s典n, coelcerthi a mwy o sbwriel yn sylweddol.

Ni ddylid ystyried yr uchod yn rhestr gynhwysfawr. Efallai y bydd posibiliadau wediu rhestru uchod y gallai llys eu hystyried i fodlonir trothwy sylweddol mewn rhai amgylchiadau. Bydd disgwyl ir heddlu ddelio 但 phob achos yn unigol a phenderfynu drwy gasglu tystiolaeth a ywr trothwy i fod yn sylweddol wedii fodloni. Os nad ywr trothwy wedii fodloni, yna gellir defnyddio pwerau CJPOA eraill.

Pwerau presennol a phwerau cryfach i symud tresmaswyr oddi ar dir

Pwerau presennol i symud tresmaswyr oddi ar dir fel y cyflwynwyd yn y CJPOA ac a ddiwygiwyd gan Ddeddf 2022

P典er i symud tresmaswyr sydd 但 phwrpas cyffredin o fyw ar dir

Mewn achosion lle nad oes unrhyw niwed sylweddol wedii gyflawni gan dresmaswyr, gall yr heddlu benderfynu cymryd camau gorfodi eraill gan ddefnyddio a61 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, ond rhaid bod yr amodau ar gyfer hyn yn cael eu bodloni.

Mae a61yn rhoi pwerau ir heddlu gyfarwyddo tresmaswyr ar dir sydd 但 phwrpas cyffredin o fyw yno am unrhyw gyfnod.

Maer p典er hwn yn gymwys pan fydd uwch swyddog yn credun rhesymol fod dau neu fwy o bobl yn tresmasu ar dir gydar diben o fyw yno, bod y meddiannydd wedi cymryd camau rhesymol i ofyn iddynt adael, ac mae unrhyw un or canlynol wedi digwydd:

  • a) mae unrhyw un or tresmaswyr wedi achosi difrod, aflonyddwch, neu ofid neu
  • b) bod gan y tresmaswyr chwe cherbyd neu fwy ar y tir.

Maer amodau y gellir eu dal gan y p典er i gyfarwyddo o dan 61(1) (a) wediu hymestyn o dan Ddeddf 2022. Maer rhain yn dyblygur difrod, aflonyddwch ar gofid sydd wediu cynnwys yn y drosedd newydd, ond nid oes angen iddynt fod yn sylweddol.

Mae methu 但 chydymffurfio 但r cyfarwyddyd, drwy wrthod gadael y tir cyn gynted ag y bon rhesymol yn ymarferol a heb esgus rhesymol, yn drosedd.

Yn yr un modd, maen drosedd i dresmaswr sydd wedi gadael y tir yn unol 但 chyfarwyddyd iw ddychwelyd fel tresmaswr o fewn 12 mis ir cyfarwyddyd gael ei roi. Maer cyfnod dychwelyd gwaharddedig wedii ymestyn o 3 mis i 12 mis o dan Ddeddf 2022. Os bydd yr amod yn cael ei dorri, heb esgus rhesymol, bydd yr heddlu yn gallu arfer pwerau arestio ac atafaelu.

Os bydd cwnstabl yn amaun rhesymol bod person wedi methu 但 symud ei gerbyd fel y gofynnwyd iddo, heb esgus rhesymol, neu wedi dychwelyd ir tir fel tresmaswr o fewn 12 mis or cyfarwyddyd yn cael ei roi i adael, bydd cwnstabl yn gallu atafaelu a symud y cerbyd hwnnw o dan a62 or CJPOA.

Fel y cyflwynwyd gan Ddeddf 2022, gellir rhoi cyfarwyddyd o dan a61 i dresmaswyr ar dir syn rhan o briffordd lle bodlonir yr amodau eraill.

Os nad oes unrhyw niwed sylweddol wedii gyflawni, yna gall yr heddlu ddefnyddio pwerau a61 a gall awdurdodau lleol ddefnyddio pwerau eraill sydd eisoes ar gael iddynt.

Pweraur Heddlu i gyfeirio tresmaswyr i safle arall

Mae gan yr heddlu bwerau o dan a62A or CJPOA i gyfarwyddo tresmaswyr i adael tir a symud unrhyw gerbyd ac eiddo or tir lle mae cae addas ar gael ar safle carafannau mewn mannau eraill yn ardal yr awdurdod lleol, ar yr amod bod o leiaf un tresmaswr gydar diben o fyw yno, un cerbyd syn bresennol ar y tir ac mae meddiannydd neu berson syn gweithredu ar ei ran wedi gofyn ir heddlu symud y tresmaswyr.

Mae methu 但 chydymffurfio 但r cyfarwyddyd, drwy wrthod gadael y tir cyn gynted ag y bon rhesymol yn ymarferol, heb esgus rhesymol, yn drosedd o dan a62B. Yn yr un modd, mae person yn cyflawni trosedd os ywn mynd i mewn i unrhyw dir yn ardal yr awdurdod lleol perthnasol fel tresmaswr gydar bwriad o fyw yno o fewn 12 mis or cyfarwyddyd yn cael ei roi.

Yn unol ag a62C, os bydd cyfarwyddyd o dan a62A(1) yn cael ei dorri, heb esgus rhesymol, bydd yr heddlun gallu arfer pwerau arestio ac atafaelu.

Rheoliadaur Heddlu (Cadw a Gwaredu Cerbydau) 1995/723

O dan a67 or CJPOA, gellir cadw unrhyw gerbydau sydd wediu hatafaelu au symud gan yr heddlu o dan a62(1), 62C(3), neu 64(4) yn unol 但 rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gwneir Rheoliadaur Heddlu (Cadw a Gwaredu Cerbydau) 1995/723 o dan yr adran hon.

Maer rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cadw, diogelu, gwaredu a dinistrio cerbydau a atafaelir o dan y pwerau hynny, gan yr heddlu neu bersonau a awdurdodwyd gan brif swyddog yr heddlu perthnasol.

O dan Rheoliad 4, maen ofynnol ir awdurdod syn cadwr cerbyd dan glo gymryd camau i roi hysbysiad ir person yr atafaelwyd y cerbyd ganddo yn ei gwneud yn ofynnol iddynt hawlior cerbyd o fewn 21 diwrnod or diwrnod y rhoddir hysbysiad. Rhaid ir hysbysiad ddatgan, oni bai bod y cerbyd yn cael ei hawlio ar neu cyn y dyddiad hwnnw, bod yr awdurdod yn bwriadu ei ddinistrio neu ei waredu. Rhaid ir hysbysiad hefyd nodi y gallai fod rhaid ir person hwnnw dalu ffioedd ac y gellir cadwr cerbyd hyd nes bod y ffioedd yn cael eu talu.

Nodir lefel y ffioedd yn Rheoliad 9.

Os nad ywr awdurdod yn gallu cyflwyno hysbysiad i berchennog y cerbyd, neu os ywr person hwnnw yn gwrthod symud y cerbyd, caiff yr awdurdod waredu neu ddinistrior cerbyd yn unol 但 Rheoliad 6.

Mae rheoliad 6(5)(a) yn darparu, yn ddarostyngedig i Rheoliadau 6(5)(b) neu (c), na chaniateir ir cerbyd gael ei waredu/ei ddinistrio cyn 3 mis or dyddiad atafael

Mae rheoliad 8 yn darparu, pan werthir cerbyd, bod yr enillion net o werthu yn daladwy i berchennog cerbyd, os bydd, o fewn blwyddyn ir gwerthiant, yn bodlonir awdurdod mai nhw oedd perchennog y cerbyd.

Digolledu i ddioddefwyr trosedd

Pan fydd troseddwr (syn cynnwys oedolyn neu sefydliad) yn cael ei gollfarnu o drosedd, mae a133 ac a134 Deddf Dedfrydu 2020 yn rhoir p典er ir llysoedd troseddol yng Nghymru a Lloegr osod gorchymyn digolledu. Mae gorchymyn digolledu yn ei gwneud yn ofynnol ir troseddwr dalu am unrhyw anaf, colled neu ddifrod personol syn deillio or drosedd. Rhaid ir llys roi rhesymau os ywn penderfynu peidio 但 gwneud gorchymyn lle mae un ar gael.

Gellir gosod gorchymyn digolledu fel dedfryd yn ei hun, neu fel gorchymyn atodol ochr yn ochr 但 dedfryd arall megis dirwy neu orchymyn cymunedol.

Mae a135 Deddf Dedfrydu 2020 yn darparu bod rhaid i orchymyn digolledu bennur swm sydd iw dalu, a bod yn rhaid ir swm fod yn briodol yn 担l y llys wrth ystyried unrhyw dystiolaeth, gan gynnwys unrhyw sylwadau a wneir gan y troseddwr neur erlynydd. Nid oes terfyn statudol ar swm y digolledu y gellir ei osod ar gyfer troseddwr syn 18 oed neun h天n. Fodd bynnag, wrth benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn digolledu, ac wrth benderfynu ar y swm sydd iw dalu o dan orchymyn or fath, rhaid ir llys ystyried dull talur troseddwr.

Mae a137(4) Deddf Dedfrydu 2020 yn ei gwneud yn glir y gellir dyfarnu digolledu mewn perthynas 但 chostau penodol syn gysylltiedig 但 throseddau penodol syn ymwneud 但 gwastraff, a byddair rhain yn gyfystyr 但 cholled neu ddifrod at ddibenion gwneud gorchymyn digolledu. Gellir gwneud gorchymyn iawndal o blaid awdurdod lleol.

Defnyddior canllawiau

Wrth benderfynu ar y camau gorfodi priodol iw cymryd mewn perthynas 但r drosedd newydd a phwerau gorfodi presennol CJPOA, dylair heddlu barhau i ystyried holl ffeithiau pob achos yn unigol. Bydd cyngor gweithredol NPCC ar gyfer mynd ir afael 但 gwersylloedd diawdurdod a chanllawiau unigol yr heddlu yn darparu arferion gorau gweithredol a gellir eu defnyddio ochr yn ochr 但r canllawiau statudol hyn.

Maer darpariaeth tebygol o achosi difrod, aflonyddwch neu ofid yn berthnasol ir drosedd ac nid ir darpariaethau presennol yn a61 neu a62.

Mae ystyriaethau posibl ir heddlu yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) lefelaur niwed canlynol a achoswyd ac, ar gyfer y drosedd newydd yn unig, lefelaur niwed y mae person yn debygol oi achosi:

  • a) niwed sydd wedii achosi gan y person.
  • b) pa ymyrraeth y mae person wedii achosi i adnoddau lleol megis cyflenwadau nwy a thrydan drwy eu presenoldeb, eu presenoldeb tebygol neu eu hymddygiad ar y tir.
  • c) niwed sydd wedii achosi gan y person ir amgylchedd lleol, megis s典n neu arogleuon gormodol drwy ei bresenoldeb, ei bresenoldeb tebygol neu ei ymddygiad ar y tir.
  • d) ymyrryd 但 gallu pobl i gael mynediad ir tir neu ei ddefnyddio drwy bresenoldeb, presenoldeb tebygol neu ymddygiad y person ar y tir.
  • e) ymyrraeth bosibl 但 mwynhad heddychlon tai cyfagos.
  • f) niwed i gysylltiadau cymunedol da.
  • g) gofid a achosir gan ymddygiad camdriniol a/neu iaith neu ysgrifen neu arwyddion bygythiol, camdriniol neu sarhaus.
  • h) risg o anhrefn cyhoeddus neu ddiogelwch y cyhoedd.

Maer drosedd a60C ond yn berthnasol ir unigolion hynny syn cyflawni neu syn debygol o gyflawni difrod, aflonyddwch neu ofid sylweddol.

Gwrthod gadael

Gellir gwneud cyfarwyddyd a61 i adael yn erbyn pob tresmaswr hyd yn oed os mai un aelod or gwersyll yn unig syn achosir difrod, yr aflonyddwch neur gofid, ond rhaid bod dau dresmaswr neu fwy ar y tir gydar bwriad o fyw yno. Gellir hefyd gwneud cyfarwyddyd i adael yn erbyn pob tresmaswr os na achosir unrhyw ddifrod, aflonyddwch na gofid ond mae chwech neu fwy o gerbydau ar y tir hwnnw. Mae a61 yn dibynnu ar gamau rhesymol yn cael eu cymryd gan y meddiannydd, neu ar ei ran, i ofyn ir tresmaswyr adael ym mhob achos cyn y gellir defnyddio pweraur heddlu.

O dan a61, os bydd person yn methu 但 chydymffurfio 但r cais i adael cyn gynted ag y bon ymarferol (a fydd yn dibynnu ar ffeithiaur achos), neu os ywn dychwelyd fel tresmaswr ir lleoliad o fewn 12 mis ir cyfarwyddyd, heb esgus rhesymol, yna maen cyflawni trosedd a61.

Beth ywr diffiniad o esgus rhesymol?

Gall person ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros wrthod gadael y tir cyn gynted ag y bon rhesymol yn ymarferol neu am ddychwelyd eto o fewn y cyfnod gwaharddedig.

Bydd disgwyl ir heddlu ystyried beth yw esgus rhesymol yn dibynnu ar amgylchiadau ffeithiol pob achos unigol.

Maen annhebygol y bydd yr enghreifftiau canlynol yn cael eu hystyried i fod yn esgusodion resymol:

  • a) maer cerbyd wedi torri i lawr; maer ddeddfwriaeth yn datgan bod cerbyd yn unrhyw gerbyd, pun a yw mewn cyflwr addas iw ddefnyddio ar ffyrdd ai peidio ac yn cynnwys unrhyw ffr但m neu gorff cerbyd, gyda neu heb olwynion;
  • b) mynychu digwyddiadau;
  • c) mynychu apwyntiad, oni bai bod yr heddlu ar llysoedd, am resymau meddygol, yn barnu bod esgus rhesymol dros fyw ar dir heb ganiat但d yn gymwys.

Materion lles

Dylair heddlu sicrhau, yn unol 但u rhwymedigaethau ehangach o ran cydraddoldeb a hawliau dynol, y cynhelir ymholiadau lles priodol i benderfynu a oes anghenion brys yn cael eu cyflwyno gan y rhai ar wersylloedd diawdurdod ac, lle bo angen, bod yr asiantaethau priodol (gan gynnwys Awdurdodau Lleol) yn cael eu cynnwys cyn gynted 但 phosibl.

Dylair heddlu ymdrin 但 phob achos yn unigol. Mae hyn yn cynnwys ystyried yr effaith bosibl y gallai rhoi cyfarwyddyd i adael, arestio person, neu ymafael mewn cerbyd ei chael ar y teuluoedd dan sylw ac ar y rhai syn agored i niwed, cyn gwneud penderfyniad gorfodi.

Os oes angen, gellid gohirio cymryd camau gorfodi yn erbyn y rhai ar y gwersyll diawdurdod tra bod anghenion lles brys yn cael sylw.

Mae gan yr heddlu bwerau i weithredu lle mae niwed sylweddol wedii achosi. Mater ir heddlu yw penderfynu ar gamau gorfodi cymesur yn seiliedig ar amgylchiadau a thystiolaeth pob achos.

Cydraddoldeb

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn anghyfreithlon i drin 但 rhywun yn llai ffafriol nag eraill oherwydd ei nodwedd warchodedig, gan gynnwys hil (syn cynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol a chenedligrwydd unigolyn).

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, o dan a149 Deddf Cydraddoldeb 2010, yn gymwys ir heddlu (fel awdurdod cyhoeddus) ac yn gosod dyletswydd ar yr heddlu i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol grwpiau hiliol.

Cydnabyddir bod Sipsiwn, Roma a Theithwyr Gwyddelig, pob un yn gr典p hiliol penodol, yn rhannu nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae dilyn ffordd nomadaidd o fyw yn gyfreithlon. Mae gan y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr ffordd unigryw o fyw ac efallai y bydd angen iw ffordd o fyw gael ei ystyried yn wahanol i gymunedau eraill neur gymdeithas ehangach.

Mae gan aelodau or gymuned Sipsiwn, Roma, Teithwyr, fel pob aelod or cyhoedd, yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol o dan Erthygl 8 Deddf Hawliau Dynol 1998.

Maer Llys Ewropeaidd wedi cydnabod bod ffordd nomadaidd o fyw yn ganolog i hunaniaeth Sipsiwn a Theithwyr.

Fodd bynnag, ni ddylair heddlu, ochr yn ochr 但 chyrff cyhoeddus eraill, roi gormod o bwysau ar ddeddfwriaeth hawliau dynol a chydraddoldeb. Mae gan yr heddlu bwerau cryf i ddelio 但 gwersylloedd diawdurdod ac wrth benderfynu pa gamau iw cymryd, dylent ystyried y niwed a achosir gan y gwersyll diawdurdod (gan gynnwys y rhai a restrir ar dudalen 5 a 6) ac y gallai unigolyn gael ei amddifadu oi eiddo lle darperir ar gyfer hyn yn 担l y gyfraith a lle mae cyfiawnhad dros wneud hynny er budd y cyhoedd.

Nid yw deddfwriaeth hawliau dynol yn atal gweithredu i ddiogelu adnoddau lleol ar amgylchedd lleol; i gynnal trefn a diogelwch y cyhoedd; a diogelu iechyd y cyhoedd.

Maer cydbwysedd angenrheidiol rhwng buddiannau a hawliau teithwyr a phreswylwyr sefydlog yn adlewyrchur sefyllfa o ran hawliau cymwys yn Neddf Hawliau Dynol 1998/Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) ar angen i gynnal cysylltiadau cymunedol da o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Tebygol o achosi

Mewn perthynas 但r drosedd newydd o dan a60C yn unig, bydd person yn cyflawni trosedd os yw wedi achosi, neun debygol o achosi, difrod, aflonyddwch neu ofid sylweddol tran byw yno neun bwriadu byw yno. Mae hyn yn galluogir heddlu i atal niwed sylweddol pellach, yn hytrach nag aros nes bod difrod wedi digwydd eto, mewn lleoliad arall neur un lleoliad cyn gweithredu. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn pan fydd rhai syn achosi difrod, yn gadael ac yn symud i ardal arall nad ywn bell i ffwrdd neun dychwelyd, heb gael caniat但d y meddiannydd.

Fel y mae gyda throseddau eraill, bydd angen ir heddlu gasglu tystiolaeth i ffurfio sail resymol dros amau bod person wedi cyflawnir drosedd a bydd y drosedd ond wedi cael ei chyflawni lle mae amodau penodol wediu bodloni.

Bwriadu byw

Fel y mae gyda tebygol o achosi, bydd angen ir heddlu asesu pob achos yn unigol ac ystyried a oes bwriad i fyw yno. Un enghraifft o hyn yw lle na fyddai person ar y tir eto ond ei fod mewn cerbyd yn agos iawn ir tir ac mae eisoes wedi gosod nifer oi feddiannau ar y tir, gan awgrymu bwriad posibl i fyw yno.

Atal gwersyll diawdurdod rhag dychwelyd

Dilyn camau gorfodi

Pan fydd tresmaswr neu wersyll diawdurdod yn dychwelyd o dan yr amodau a bennir a lle maer heddlu wedi defnyddio eu pwerau o dan CJPOA fel y diwygiwyd gan Ddeddf 2022 iw dileu, dylair heddlu ystyried cymryd camau gorfodi pellach.

Dymar amgylchiadau lle dylair heddlu ystyried camau gorfodi pellach:

  • trosedd a60C - pan fydd person yn dychwelyd gydar bwriad o fyw yno mewn cerbyd neu gyda cherbyd o fewn 12 mis i gael ei gyfarwyddo i adael, heb esgus rhesymol.
  • trosedd a61 pan fydd person wedi gadael y tir ar 担l cael cyfarwyddyd i adael, yn dychwelyd ir tir eto fel tresmaswr o fewn cyfnod o 12 mis heb esgus rhesymol.

Dylai fod gan yr heddlu systemau wediu sefydlu i gofnodi data fel y gallant wybod a yw tresmaswr neu wersyll yn dychwelyd ir un lleoliad neun symud i leoliad arall i gyflawni (neu mewn rhai achosion yn debygol o gyflawni) trosedd er mwyn gwneud y defnydd gorau ou pwerau gorfodi.

Ffynonellau ychwanegol o wybodaeth

Gallair heddlu hefyd gyfeirio at y dogfennau canllawiau ar adnoddau canlynol: Dealing with illegal and unauthorised encampments - 51画鋼 (www.gov.uk)

Rhestr termau

Priffordd: Gellir dehongli hyn yn fras. Ym Mwrdeistref Southwark yn Llundain ac Un arall v. Trafnidiaeth Llundain [2018] UKSC 63, roedd y Goruchaf Lys or farn bod priffordd yn ffordd lle mae gan y cyhoedd hawliau tramwy, boed ar droed, ar gefn ceffyl neu mewn (neu ar) cerbydau.

Deddf Hawliau Dynol 1998: Deddf a basiwyd ym 1998, ac a ddaeth i rym ym mis Hydref 2000, syn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus weithredu yn unol 但r hawliau ar rhwymedigaethau a nodir yn y Ddeddf.

Tir: Nid ywn cynnwys adeiladau ac eithrio (a) adeiladau amaethyddol o fewn ystyr paragraff 3 i 8 o Atodlen 5 i yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, neu (b) henebion cofrestredig o fewn ystyr Deddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979.

Cymesuredd: Y syniad na ddylai camau gorfodi fynd ymhellach nar angen i atal neu fynd ir afael 但r niwed a gyflawnwyd neu syn debygol o gael ei gyflawni ac y dylid sicrhau cydbwysedd teg rhwng hawliaur unigolyn a buddiannaur gymuned.

Meddiannydd: Y person sydd 但 hawl i feddiannur tir yn rhinwedd yst但d neu fuddiant a ddelir gan y person, gan gynnwys person syn rhentur tir.

Eiddo perthnasol:

  • cerbyd y maer heddlun amau bod y person wedi neun bwriadu ei gael gydag ef at ddibenion y drosedd o dan adran 60C neu
  • unrhyw eiddo arall ar y tir a oedd yn rhan or cais i adael.
Cerbyd: Mae cerbyd yn cynnwys unrhyw gerbyd, pun a yw mewn cyflwr addas iw ddefnyddio ar ffyrdd ai peidio, ac maen cynnwys unrhyw ffram neu gorff cerbyd, gyda neu heb olwynion. Mae carafannau disymud y gellir eu symud wediu cynnwys.