Trefniadau Talu Amgen
Diweddarwyd 17 Ionawr 2024
Mae Credyd Cynhwysol yn paratoi hawlwyr ar gyfer byd gwaith lle caiff 75% o weithwyr eu talun fisol. Mae hefyd yn annog hawlwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu materion ariannol eu hunain. Ir perwyl hwnnw, telir Credyd Cynhwysol mewn un swm misol i gartrefi ble y disgwylir iddynt reoli eu cyllidebau eu hunain.
Maen bwysig bod hawlwyr yn gallu gwneud yr un math o benderfyniadau 但r sawl sydd mewn gwaith a datblygur gallu ariannol i wneud hynny. Diben y canllaw hwn yw nodi dull yr adran o roi Trefniadau Talu Amgen (APA) lle y bon briodol i hawlwyr Credyd Cynhwysol syn methu a rheoli eu taliad misol sengl.油
1. 1. Mathau o Drefniadau Talu Amgen (APA)
Mae APA ar gyfer hawlwyr syn methu rheoli eu taliad misol sengl ac mae perygl o niwed ariannol ir hawlydd neu eu teulu.
Bydd y symud i daliad misol sengl ir cartref yn newid sylweddol ir ffordd y caiff y rhan fwyaf o fudd-daliadau eu talu ar hyn o bryd.
珂温艶r APA canlynol ar gael i helpu hawlwyr sydd angen cymorth ychwanegol:
-
talu rhent yn uniongyrchol iw landlord, a elwir yn taliad wedii reoli
-
taliadau mwy aml: dwywaith y mis neu mewn amgylchiadau eithriadol 4 gwaith y mis - yn hytrach nag unwaith y mis
-
taliad o ddyfarniad wedii rannu rhwng partneriaid mewn cwpwl
1.1 Pryd y gellir ystyried APA?
Gellir ystyried APA ar unrhyw bwynt yn ystod y cais Credyd Cynhwysol. Gellir eu nodi or dechrau gan anogwr gwaith, neu reolwr achos, neu unrhyw bryd yn ystod y cais fel pan mae hawlydd yn cael trafferth gydar taliad misol sengl.
Gallant gael eu hysgogi hefyd gan wybodaeth gan yr hawlydd, eu cynrychiolydd neu eu landlord.
Bydd APA yn cael ei ystyried fesul achos. Gall hawlydd gael un neu fwy APA yn seiliedig ar eu hamgylchiadau unigol.
Bydd staff Credyd Cynhwysol yn gwneud y penderfyniad i ddyfarnu APA gan gymryd nifer o ffactorau i ystyriaeth a drwy ddefnyddior canllaw haen 1 a haen 2 fel a nodir yn Atodiad A. 珂温艶r rhain yn cael eu defnyddio fel dangosydd i benderfynu os ywr trefniadau hyn yn addas i unigolyn.
Er engraifft:
-
a ywr hawlydd yn llwyddo i dalu eu biliau ar amser, yn benodol eu rhent, ac a ydynt wedi disgyn i 担l-ddyledion yn y gorffennol, neu a ydynt mewn 担l-ddyledion ar hyn o bryd?
-
a ydynt yn credu y byddant yn gallu reoli cyllideb misol, gan ystyried eu hincwm au gwariant dros fis calendr?
-
os ywr hawlydd yn rhan o gwpl, a ydynt wedi arfer rheoli eu harian gydai gilydd ac a ydynt yn meddwl y gallant reolir taliad Credyd Cynhwysol sengl ir cartref?
-
ydyr hawlydd yn fregus (efallai bod ganddynt broblemau dibyniaeth neu digartrefedd blaenorol)?
Mae ffactorau APA yn cynnwys y canlynol:
-
problemau dibyniaeth
-
担l-ddyledion rhent
-
materion iechyd meddwl
-
anhawsterau dysgu
-
digartrefedd blaenorol
Nid oes angen i hawlydd fod mewn 担l-ddyledion rhent i gael eu hystyried am APA.
1.2 Trefn blaenoriaeth
Caiff APA ei hystyried yn y drefn flaenoriaeth ganlynol:
- Talu costau tai Credyd Cynhwysol ir landlord fydd y flaenoriaeth gyntaf lle maen rhan o ddyfarniad Credyd Cynhwysol, er mwyn diogelu cartref yr hawlydd.
Byddair taliad wedii reoli or elfen costau tai ir landlord bob amser yn cael ei ddidynnu ai dalu gyntaf fel yr APA 但 blaenoriaeth.
-
Yn ail, a lle y bon briodol, bydd staff UC yn ystyried a oes angen taliad mwy aml.
-
Yn drydydd, dylid ond ystyried taliad wedii rannu o ddyfarniad rhwng partneriaid mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft:
-
camddefnydd ariannol lle mae un partner yn camreolir taliad Credyd Cynhwysol
-
lle mae trais domestig yn broblem ac maer cwpwl yn parhau i gyd-fyw, ond dim ond un cais am Gredyd Cynhwysol syn cael ei wneud
Mwy o wybodaeth am daliadau wediu rhannu.
Os bydd yr hawlydd yn bodlonir meini prawf ar gyfer naill ai (2) neu (3) uchod, os ydynt yn atebol am rent, bydd taliad wedii reoli i landlord yn cael ei ystyried. Telir y Credyd Cynhwysol syn weddill fel y bon briodol.
Mewn crynodeb, gallai hawlydd felly gael unrhyw un or cyfuniadau canlynol:
-
taliad wedii reoli yn unig
-
taliadau mwy aml (ar gyfer y sawl nad ywn ddeiliad t天)
-
taliad wedii rannu yn unig
-
taliad wedii reoli a thaliadau mwy aml
-
taliad wedii reoli a thaliadau wediu rhannu
-
taliadau mwy aml a thaliadau wediu rhannu (ar gyfer cyplau nad ydynt yn ddeiliaid tai lle y bon briodol)油油
-
taliad wedii reoli, taliadau mwy aml a thaliadau wediu rhannu
Nod yr uchod yw cefnogir hawlwyr hynny dros amser i ddatblygu eu gallu i gyllidebu ac ar yr un pryd diogelu eu cartref.
2. 2. Taliad wedii reoli i iandlord
Rydym yn disgwyll y bydd y rhan fwyaf o hawlwyr Credyd Cynhwysol yn derbyn taliad misol sengl ac yn cymryd cyfrifoldeb am dalu eu biliau cartref ar amser, yn cynnwys eu rhent.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd rhai hawlwyr angen cefnogaeth ychwanegol i reolir taliad hwn. Felly, mewn rhai achosion gallai taliad wedii reoli fod yn briodol.
2.1 Pryd gellir gwneud cais am daliad wedii reoli
Gellir gwneud taliad wedii reoli pan:
-
mae hawlydd mewn 担l-ddyledion gydau rhent am swm syn cyfateb i, neu syn fwy na, 2 fis ou rhent
-
mae hawlydd heb dalu digon ou rhent yn barhaus am fwy na 2 fis ac maent wedi cronni 担l-ddyled o swm syn cyfateb i, neu syn fwy na un mis o rent
-
mae unrhyw un or factorau APA Haen 1 a Haen 2 yn berthnasol
-
roedd hawlydd yn flaenorol yn cael Budd-dal Tai ac roedd yn cael ei dalu iw landlord, gellir ystyried taliad wedii reoli cyn belled bod yr hawlydd yn parhau i gwrdd a ffactorau APA Haen 1 a Haen 2
Mae hwn yn rhan or sgwrs bydd staff Credyd Cynhwysol yn gael gydar hawlydd ar ddechrau eu cais.
Bydd landlordiaid cymdeithasol syn cael eu penodi o dan y Cynllun Partner dibynadwy, hefyd yn cael sgyrsiau gydau tenantiaid ar ddechrau eu cais Credyd Cynhwysol.
Mae 担l-ddyledion rhent a thaliadau gwasanaeth ar gyfer yr eiddo y maer tenant yn byw ynddo ar hyn o bryd yn cael eu cynnwys yn y rhestr o ddidyniadau y gellir eu gwneud o daliad Credyd Cynhwysol.
Os yw tenant wedi cronni 担l-ddyledion rhent hyd at 2 fis neu fwy o rent, gall eu landlord presennol ofyn am ddidyniad 担l-ddyledion rhent.
2.2 Pwy all wneud cais am daliad wedii reoli i landlor
Gall naill air hawlydd neu eu landlord wneud y cais hwn.
Os ywr hawlydd yn gwneud y cais, gall hyn fod trwy:
-
ddefnyddio eu cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein
-
siarad gydau hanogwr gwaith neu reolwr achos
-
ffonio Credyd Cynhwysol ar 0800 328 1744
Darganfyddwch am gostau galwadau
Os ywr landlord yn gwneud y cais, gellir gwneud hyn drwy ddefnyddior syn wasanaeth ar-lein i landlordiaid ofyn am daliadau uniongyrchol o rent neu 担l-ddyledion rhent.
2.3 Beth syn digwydd nesaf
Yn dilyn cais am daliad wedii reoli bydd penderfyniad yn cael ei wneud os yw taliad wedii reoli yn briodol a bydd y landlord ar hawlydd yn cael eu hysbysu or penderfyniad.
Ble mae taliad wedii reoli yn cael ei wrthod, ni fydd yr hysbysiad a anfonir ir landlord yn dweud wrthynt os yw eu tenant yn cael Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd, nac ychwaith yn dweud wrthynt y rheswm pam fod y cais wedi cael ei wrthod.
Mae hyn oherwydd rheolau rhannu data a chyfrinachedd hawlydd.
Mwy o wybodaeth am y Taliad Wedii Reoli i Landlordiaid
3. 3. Taliadau mwy aml
Telir Credyd Cynhwysol yn fisol. Fodd bynnag, mewn achosion lle y nodir bod hawlydd yn ei chael hin anodd cyllidebun fisol, gellir rhannu eu Credyd Cynhwysol dros y mis iw dalun fwy aml - dwywaith y mis neu, mewn amgylchiadau eithriadol, 4 gwaith y mis.
Gall y rhain dim ond dechrau o ddiwedd eu cyfnod asesu cyntaf ac, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, byddent yn hanner eu dyfarniad Credyd Cynhwysol, gydar hanner arall yn cael ei dalu 14 i 15 o ddiwrnodaun ddiweddarach.
Mewn achosion eithriadol iawn gallent gael eu talu 4 gwaith y mis er enghraifft, chwarter ou taliad Credyd Cynhwysol ar 担l diwedd y cyfnod asesu cyntaf ar gweddill iw dalu fesul 7 i 8 diwrnod.
Mewn achosion lle mae eu Credyd Cynhwysol yn cynnwys costau tai, dylai hyn gyd-fynd 但 thaliad wedii reoli er mwyn diogelu eu cartref.
3.1 Pwy all wneud cais am daliad mwy aml
Os ywr hawlydd yn gwneud y cais, gall hyn fod trwy:
-
ddefnyddio eu cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein
-
siarad gydau hanogwr gwaith neu reolwr achos
-
ffonio Credyd Cynhwysol ar 0800 328 1744
Darganfyddwch am gostau galwadau
4. Taliadau wediu rhannu
Mewn amgylchiadau eithriadol iawn, gellir rhannur taliad o Gredyd Cynhwysol rhwng 2 aelod or cartref.
Gelwir hyn yn daliad wedii rannu. Nod taliadau wediu rhannu yw atal yr hawlydd au teulu rhag wynebu caledi. Dim ond mewn rhai amgylchiadau penodol y dylid eu hystyried, fel trais domestig neu lle ceir achos o gam-drin ariannol ac mae un partner yn camreolir taliad Credyd Cynhwysol.
Taliad wedii rannu yw pan fydd dyfarniad Credyd Cynhwysol y cartref (a fyddain cael ei dalu i mewn i gyfrif a enwebwyd fel arfer) yn cael ei rannu rhwng 2 hawlydd yn y cartref.
Gyda thaliad wedii rannu, mae hawlwyr yn cadw eu cyfrifoldeb am eu cais ac am unrhyw weithgaredd cysylltiedig (fel gweithgaredd rhaglen waith).
Gellir talu taliad wedii rannu i ddau aelod ar wah但n or cartref, gydar ganran fwyaf yn cael ei dyrannu ir sawl 但r prif gyfrifoldebau gofalu, mewn geiriau eraill y sawl sydd 但 gofal plant.
Mae hyn er mwyn sicrhau iechyd a lles y mwyafrif or cartref.
Os gwneir taliad wedii rannu, maen rhaid ir swyddog penderfyniadau hefyd ystyried taliad wedii reoli lle mae atebolrwydd rhent.
4.1 Pryd y caiff taliadau wediu rhannu eu hystyried
Fel arfer, caiff taliadau wediu rhannu eu hystyried er mwyn atal yr hawlydd au teulu wynebu caledi, er enghraifft os nad ywr hawlydd Credyd Cynhwysol yn rheoli eu materion ariannol ac nad ydynt yn diwallu anghenion eu teulu o ddydd i ddydd.
Dylid ystyried taliadau wediu rhannu pan mae:
-
y naill aelod neur llall or cartref yn hysbysu DWP am achos o gamreoli ariannol neu gamddefnydd ariannol
-
y naill aelod neur llall or cartref yn hysbysu DWP bod problemau trais domestig
-
y naill aelod neur llall or cartref yn methu neun gwrthod cylliedbu ar gyfer eu hangenion eu hunain neur teulu o ddydd i ddydd
4.2 Pwy all wneud cais am daliad wedii rannu
Gall y naill aelod neur llall or cartref wneud cais am daliad wedii rannu.
Gall hyn naill ai fod trwy:
-
ddefnyddio eu cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein
-
siarad gydau hanogwr gwaith neu reolwr achos
-
ffonio Credyd Cynhwysol ar 0800 328 1744
Darganfyddwch am gostau galwadau
4.3 Hawlydd yn apelio yn erbyn Trefniant Talu Amgen
Gwneir y penderfyniad i ddyfarnu APA ar ddisgresiwn gan Asiant Credyd Cynhwysol, swyddog penderfyniadau, anogwr gwaith neu rheolwr achos syn gweithredu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.
Nid oes hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, ond gall gael ei adolygu gan yr un asiant Credyd Cynhwysol neu un arall os bydd mwy o wybodaeth yn cael ei ddarparu.
4.4 Adolygiadau Trefniant Talu Amgen
Caiff APA eu hadolygu i ystyried amgylchiadau a nodweddion newidiol hawlydd.
Bydd staff Credyd Cynhwysol yn penderfynu ar y cyfnod adolygu a bydd pob achos yn amrywio oherwydd bydd gan hawlwyr y dyfernir APA iddynt nodweddion gwahanol, ac felly nid ystyrir bod un dull syn addas i bawb yn briodol.
Defnyddir disgresiwn i benderfynu ar y cyfnod adolygu gorau iw osod gan ddefnyddio gwybodaeth a ddarparwyd gan yr hawlydd, eu cynrychiolydd neu landlord, er mwyn helpu i lywior cyfnod adolygu APA.
Fel canllaw, rydym yn disgwyl y caiff adolygiadau eu trefnu ar gyfer cyfnodau o 3, 6, 9, 12, 15, 18 a 24 mis.
Os bydd gan hawlydd fwy nag un APA mewn lle, gall y cyfnod adolygu fod ychydig yn fwy na phe bai ganddynt dim ond un.
Ar gyfer rhai hawlwyr syn arbennig o fregus, fel y rhai sydd 但 chyflwr iechyd meddwl hirdymor heb neb iw cefnogi, gall fod yn fwy priodol cael cyfnod adolygu hirach.
4.5 Ffactorau allweddol ar gyfer adolygu Trefniant Talu Amgen
Yn yr adolygiad, bydd staff Credyd Cynhwysol yn penderfynu a ywr hawlydd bellach yn gallu rheolir taliad misol sengl.
Byddant yn ystyried os ywr hawlydd bellach yn teimlo bod ganddynt y gallu ariannol i reoli eu Credyd Cynhwysol heb yr angen am APA.
Os oes gan yr hawlydd 2 APA neu fwy, gall fod yn briodol ystyried symud yn raddol ir taliad misol sengl er enghraifft rheoli taliadau misol i ddechrau, wedii ddilyn gan dalu eu rhent yn ddiweddarach.
Nod y dull fesul cam hwn yw helpu i wneud y broses o drosglwyddo ir taliad misol sengl yn haws. Bydd canlyniad yr adolygiad yn cael ei gofnodi yng nghyfrif ar-lein yr hawlydd os penderfynir y dylair APA barhau a bydd dyddiad adolygiad newydd yn cael ei osod.
4.6 Adolygu taliad wedii reoli oherwydd newid mewn amgylchiadau
Os ywr hawlydd yn rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau, fel newid cyfeiriad neu newid mewn incwm, bydd staff Credyd Cynhwysol yn penderfynu os y dylair taliad wedii reoli barhau.
5. 5. Cymorth arall
5.1 Help i Hawlio
Ar gyfer hawlwyr sydd angen help i sefydlu eu cais Credyd Cynhwysol, maer gwasanaeth yn cynnig cymorth ymarferol wedii deilwra i helpu pobl i wneud cais Credyd Cynhwysol a derbyn eu taliad llawn cyntaf ar amser.
5.2 Cefnogaeth ariannol arall
Pan gytunir ar APA, efallai y gofynnir i hawlydd hefyd gymryd camau i helpu i reoli eu harian, fel cael cyllidebu neu gyngor ariannol.
Gall pobl sydd mewn trafferthion ariannol, gael help a chyngor gan y llywodraeth, cynghorau lleol, a sefydliadau eraill, fel .
Efallai y bydd hawlwyr Credyd Cynhwysol hefyd yn gallu cael cymorth ariannol arall油yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.
6. Atodiad A - ffactorau iw hystyried ar gyfer Trefniadau Talu Amgen
6.1 Ffactorau Haen 1 Angen tebygol iawn neu debygol am Drefniadau Talu Amgen
1.1 Problemau cyffuriau, alcohol neu broblemau dibyniaeth eraill, fel gamblo
-
maer hawlydd yn datgan, neu wedi datgan ar gais blaenorol, problem gyda camddefnyddio sylweddau
-
maer hawlydd yn ystyried eu bod yn gaeth i neu yn ddefnyddiwr rheolaidd
-
mae camddefnyddio sylweddau yn cynnwys problemau gydag alcohol, unrhyw fath o gyffur anghyfreithlon neu ddefnydd amhriodol o sylweddau nad ydynt yn anghyfreithlon fel glud
-
dylid hefyd ystyried adborth gan drydydd part誰on ynghylch dibyniaeth yr unigolyn, fel staff asiantaeth cymorth
1.2 Anawsterau dysgu yn cynnwys problemau 但 llythrennedd neu rifedd
-
maer hawlydd yn cael anhawster darllen, ysgrifennu neu gyflawni tasgau mathemategol syml
-
gall cyflawniad addysgol isel neu ddim cyflawniad addysgol fod yn arwydd o hyn
-
gall hefyd fod yn gysylltiedig 但 chyflwr meddygol (er enghraifft awtistiaeth, Syndrom Down)
1.3 Problemau dyledion difrifol neu luosog
-
ni all hawlwyr fodloni ymrwymiadau credyd or incwm sydd ar gael, o ystyried yr isafswm gwariant syn angenrheidiol. Gall hyn gynnwys benthyciadau personol, ad-daliadau morgais, 担l-ddyledion cyfleustodau a dyledion eraill
-
gallai arwydd o broblemau dyledion difrifol gael eu gweld trwy ddyledion lluosog neu beidio 但 thalu dyledion lluosog dros gyfnod o ddau fis neu fwy, ac efallai defnydd helaeth or cynlluniau cymorth lles lleol newydd
-
y prif ffactor yw nad ywr hawlydd wedi gwneud cynllun ad-dalu neu nad ydynt yn glynu at delerau cynllun ad-dalu ac maent yn ddi-drefn iawn wrth reoli ei arian
1.4 Mewn llety dros dro
-
ar gyfer achosion llety dros dro gweddilliol syn dal i gael eu talu gan Credyd Cynhwysol oherwydd na fu unrhyw newid mewn atebolrwydd rhent ers 11 Ebrill 2018
-
ystyried dim ond os yw statws yr hawlwyr yn y llety hwn yn rhwystro eu gallu i reoli eu materion ariannol yn effeithiol gan y bydd rhai mathau o lety yn arhosiad byr, ond bydd gan eraill leoliadau hirach o 2 flynedd neu fwy a bydd llawer o hawlwyr yn gallu rheolir taliad misol Credyd Cynhwysol sengl.
1.5 Digartref
-
yn unol 但 Deddf Tai (Cymru) 2014 a Deddf Tai (Yr Alban) 1987, mae hawlydd yn ddigartref os nad oes ganddynt unrhyw lety syn ddiogel neun rhesymol iddynt ei feddiannu, neu os disgwylir iddynt beidio 但 gallu cael llety o fewn 28 diwrnod
-
yn ymarferol, mae hyn yn cynnwys pobl syn cysgu ar y stryd, pobl syn syrffio soffa gyda ffrindiau neu berthnasau, pobl mewn hosteli, pobl sydd ar fin cael eu troi allan a phobl mewn llety anniogel ac anaddas fel sgwatiau
1.6 Trais a cham-drin domestig
-
hawlwyr syn dioddef camdriniaeth domestig ar hyn o bryd, neu sydd wedi dioddef camdriniaeth
-
mae hyn yn cynnwys unrhyw achos o ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth (seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol neu emosiynol) rhwng oedolion sydd yn, neu sydd wedi bod yn, bartneriaid agos neu aelodau o deulu waeth beth fou rhyw nau rhywioldeb. Gall hyn hefyd gynnwys priodas dan orfod a throseddau er anrhydedd fel yu gelwir
-
camdriniaeth syn ffurfio patrwm o ymddygiad syn gorfodi a rheoli, fel rheolir unigolyn arall drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ariannol
1.7 Cyflwr iechyd meddwl
-
mae gan yr hawlydd gyflwr iechyd meddwl (fel ffobia, anhwylder deubegynnol, iselder a phryder) syn amharu ar eu gallu i reoli eu materion ei hunan yn effeithiol
-
dylid ystyried adborth gan drydydd parti ynghylch y symptomau sydd gan yr unigolyn, yn cynnwys unrhyw dystiolaeth o wybodaeth a etifeddwyd
1.8 Ar hyn o bryd mewn 担l-ddyledion rhent nei o dan fygythiad o gael eu troi allan neu adfeddiannu
-
mae gan yr hawlydd 担l-ddyledion rhent ar hyn o bryd am swm syn cyfateb i 2 fis neu fwy o rent
-
maer hawlydd wedi tan-dalu eu rhent yn barhaus dros gyfnod o fwy na 2 fis, ac wedi cronni 担l-ddyledion syn cyfateb i un mis o rent neu fwy
-
maer hawlydd wedi cael eu troi allan oherwydd eu h担l-ddyledion rhent o fewn y 12 mis diwethaf
-
maer hawlydd yn destun i gael neu wedi cael bygwth eu troi allan neu adfeddiannu
1.9 珂温艶r hawlydd yn berson ifanc 16/17 oed neun gadael gofal
-
pobl ifanc 16/17 oed ni fydd gan lawer ohonynt lawer o allu ariannol os o gwbl ac er mwyn gwneud cais Credyd Cynhwysol bydd angen iddynt fod yn wynebu rhyw fath o galedi yn barod (fel wedi gwahanu oddi wrth eu rhieni, gyda phlentyn, bod yn s但l neu anabl)
-
pobl syn gadael gofal hawlwyr sydd wedi derbyn gofal awdurdod lleol yn ddiweddar ac yn cynnwys y sawl sydd dros 17 oed. 珂温艶r rhan fwyaf o hawlwyr yn gadael gofal pan fyddant yn 18 oed, ond bydd rhai yn gadael mor gynnar 但 16 oed
1.10 Teuluoedd ag anghenion cymhleth a lluosog
-
maer hawlydd yn rhan o deulu syn rhan or Rhaglen Teuluoedd Cythryblus
-
gallai teuluoedd eraill sydd ag anghenion lluosog a chymhleth gynnwys cyfuniad o ymddygiad troseddol parhaus, ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus, problemau iechyd meddwl, problemau cyffuriau ac alcohol, trais domestig, problemau diogelwch a dyledion
-
dylid ystyried adborth gan drydydd part誰on, fel gweithiwr achos ymyriad teuluol, ynghylch natur gymhleth syn gorgyffwrdd problemau yn nheulur hawlydd
7. Ffactorau Haen 2 Angen llai tebygol o bosib angen Trefniadau Talu Amgen油
2.1 Didyniadau trydydd parti mewn lle (fel ar gyfer dirwyon neu 担l-ddyledion cyfleustodau)
- maer hawlydd ar hyn o bryd yn gwneud taliadau ou budd-daliadau er mwyn ad-dalu 担l-ddyledion cyfleustodau (fel nwy, d典r, trydan)
2.2 珂温艶r hawlydd yn ffoadur neun geisiwr lloches
-
maer diffiniad hwn yn berthnasol ir hawlwyr hynny sydd wedi cael statws ffoadur, gyda chaniat但d amhenodol i aros a chaniat但d i dderbyn arian cyhoeddus o fewn y 12 mis diwethaf
-
maer hawlydd yn geisiwr lloches syn gymwys i wneud cais am fudd-daliadau DWP tra bydd eu cais yn cael ei brosesu
-
mae eu statws yn amharu ar eu gallu i reoli eu materion ariannol eu hunain yn effeithiol
2.3 Hanes o 担l-ddyledion rhent
-
nid oes gan yr hawlydd 担l-ddyledion ond maen bosibl eu bod wedi cael 担l-ddyledion yn ystod y 12 mis diwethaf ac wedi bod yn destun i, neu wedi cael bygwth gyda eu troi allan neu adfeddiannu
-
dylid ystyried y ffaith y gall fod gan yr hawlydd nawr y gallu ariannol ac y gallant reoli eu materion ariannol eu hunain yn effeithiol
2.4 Yn flaenorol yn ddigartref neu mewn llety dros dro neu lety 但 chymorth:
-
roedd yr hawlydd yn ddigartref (fel y diffiniwyd uchod) o fewn y 12 mis diwethaf ond maent nawr mewn llety addas
-
maer hawlydd wedi symud o lety dros dro neu lety 但 chymorth i lety annibynnol o fewn y 12 mis diwethaf
-
dylid ystyried y ffaith y gall fod gan yr hawlydd nawr y gallu ariannol ac y gallant reoli eu materion ariannol eu hunain yn effeithiol
2.5 Anabledd arall (fel anabledd corfforol neu nam ar y synhwyrau)
- mae gan yr hawlydd anabledd/nam nad ywr adran cyflwr iechyd meddwl yn ei gwmpasu syn amharu ar eu gallu i reoli eu materion ariannol eu hunain yn effeithiol
2.6 珂温艶r hawlydd newydd adael y carchar
-
maer hawlydd wedi gadael y carchar o fewn 3 mis i wneud eu cais am Gredyd Cynhwysol
-
dylid ei ystyried ond os bydd eu statws yn amharu ar eu gallu i reoli eu materion ariannol mewn perthynas 但 Chredyd Cynhwysol yn effeithiol efallai mai cymorth cyllidebu ywr ateb yn hytrach na APA
2.7 珂温艶r hawlydd newydd adael yr ysbyty
-
maer hawlydd wedi gadael yr ysbyty o fewn 3 mis i wneud cais am Credyd Cynhwysol
-
dylid ei ystyried dim ond os bydd eu statws yn amharu ar eu gallu i reoli eu materion ariannol mewn perthynas 但 Chredyd Cynhwysol yn effeithiol efallai mai cymorth cyllidebu ywr ateb yn hytrach na APA
2.8 Newydd gael profedigaeth
-
maer hawlydd wedi colli aelod agos or teulu (fel y disgrifir yng nghanllawiaur gronfa gymdeithasol) o fewn y tri mis diwethaf
-
dylid ei ystyried ond os bydd eu statws yn amharu ar eu gallu i reoli eu materion ariannol mewn perthynas 但 Chredyd Cynhwysol yn effeithiol efallai mai cymorth cyllidebu ywr ateb yn hytrach na APA油
2.9 Sgiliau iaith (y Gymraeg nar Saesneg ddim yn cael eu siarad fel yr iaith gyntaf)
-
nid ywr hawlydd yn siarad neu ddeall Cymraeg na Saesneg neu nid ydynt yn siarad neu ddeall Cymraeg na Saesneg fel ei iaith gyntaf
-
dylid ei ystyried dim ond os bydd eu statws yn amharu ar eu gallu i reoli eu materion ariannol mewn perthynas 但 Chredyd Cynhwysol yn effeithiol efallai mai cymorth cyllidebu ywr ateb yn hytrach na APA
2.10 Cyn-filwr
-
roedd yr hawlydd yn aelod o Luoedd EF ac maent wedi gadael o fewn y 18 mis diwethaf. Nid yw hyn yn cynnwys swyddi sifil gyda Lluoedd EF nac unrhyw sefydliadau gwarchod fel y Fyddin Diriogaethol
-
dylid ei ystyried ond os bydd eu statws yn amharu ar eu gallu i reoli eu materion ariannol mewn perthynas 但 Chredyd Cynhwysol yn effeithiol efallai mai cymorth cyllidebu ywr ateb yn hytrach na APA
2.11 Person sydd Ddim mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant (NEET)
-
maer hawlydd rhwng 18 a 24 oed a ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
-
dylid ei ystyried dim ond os bydd eu statws yn amharu ar eu gallu i reoli eu materion ariannol mewn perthynas 但 Chredyd Cynhwysol yn effeithiol efallai mai cymorth cyllidebu ywr ateb yn hytrach na APA
8. Atodiad B - enghreifftiau o astudiaethau achos
珂温艶r enghreifftiau canlynol o astudiaethau achos yn dangos sut mae sawl un or ffactorau uchod yn berthnasol wrth ystyried APA.
8.1 Enghraifft 1
Mae Lucy yn 26 oed ac maen gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ac ar 担l cael sgwrs gydai hanogwr gwaith, daw ir amlwg bod ganddi broblem dibyniaeth ar gyffuriau. Maen defnyddio canabis yn rheolaidd ar hyn o bryd ac nid ywn cael triniaeth (dywed mai dim ond defnyddwyr dosbarth A y gall ei gwasanaeth cymorth lleol eu trin ar hyn o bryd), ond mae am gael triniaeth a dywed na all roir gorau i ddefnyddio hebddo.
Felly, caiff ei hystyried ar gyfer APA gan ei bod mewn perygl o wario cyfran fawr oi hincwm Credyd Cynhwysol ar gyffuriau. Gwneir penderfyniad i dalu ei rhent yn uniongyrchol iw landlord ac iddi gael ei thalun amlach nag unwaith y mis. Caiff ei chyfeirio am driniaeth. Caiff ei hamgylchiadau eu hadolygu ymhen 9 mis.
8.2 Enghraifft 2
Mae Gary yn 22 oed ac nid yw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac maen gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Ar 担l sgwrs gydai reolwr achos, daw ir amlwg fod ganddo ddyslecsia, ai fod yn cael trafferth darllen: nid ywn deall dogfennau ysgrifenedig sylfaenol ac maen cael trafferth rheoli ei arian.
Yn ystod y sgwrs, rydym yn canfod bod ganddo ddyledion hefyd. Er bod ganddo rhai cytundebau mewn lle i ad-dalu ei 担l-ddyledion, nid ywn glynu wrth y telerau ac felly mae mewn perygl o wynebu camau pellach os bydd yn parhau i fethu 但 thalu.
Mae hefyd mewn dyled i aelodaur teulu ac maen talu symiau bach mewn ffyrdd afreolus sydd yn llawer llai nar hyn y cytunwyd arno.油
Maen parhau i fenthyca mwy o arian gan ffrindiau er mwyn ymdopi 但 thaliadau ei ddyledion. Mae hyn yn peri cryn bryder iddo.
Cytunir i dalu costau tai ei Gredyd Cynhwysol fel taliad wedii reoli. Caiff ei amgylchiadau eu hadolygu ymhen 6 mis.
8.3 Enghraifft 3
Mae Naveed yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar 担l cael ei ryddhau or ysbyty ar 担l cyfnod hir yno.
Er bod ei iechyd yn wael mae bellach yn gwella. Yn ystod ei gyfnod yn yr ysbyty aeth i rywfaint o ddyled ac nid yw ei Saesneg yn dda iawn.
Yn ystod y cyfweliad 但 Naveed ai weithiwr iechyd, daw ir amlwg ei fod yn ystyried bod ganddo allu ariannol, maen egluro bod ganddo gyfrif banc gweithredol gyda chyfleusterau debyd uniongyrchol, ond y byddain croesawu cael cymorth i roi trefn ar y dyledion sydd ganddo.
Felly, nid ystyrir bod APA yn briodol ac maen cael ei Gredyd Cynhwysol drwyr taliad misol sengl.
8.4 Enghraifft 4
Mae Susan yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ac yn ystod ei chyfarfod gydai hanogwr gwaith daw ir amlwg bod ganddi dros 2 fis o 担l-ddyledion rhent. 珂温艶r anogwr gwaith yn penderfynu bod angen taliad wedii reoli o ddechraur cais.
Mae Susan yn croesawu hyn oherwydd bydd yn ei helpu i reoli beth maen ei thalu allan tra mae hin chwilio am swydd arall.
珂温艶r anogwr gwaith yn penderfynu bydd ei APA yn cael ei adolygu mewn 12 mis.