Coronafeirws (COVID-19): Cylchlythyr Cysylltu Landlordiaid Credyd Cynhwysol
Diweddarwyd 20 Ionawr 2025
Maer cylchlythyr Credyd Cynhwysol hwn yn bwriadu darparu gwybodaeth i landlordiaid sectorau prefat a chymdeithasol ar Goronafeirws (COVID-19) a Chredyd Cynhwysol. Dewch yn 担l yn rheolaidd i wirio am ddiweddariadau.
1. Gwybodaeth benodol i DWP am Goronafeirws (COVID-19) a gwneud ceisiadau am fudd-daliadau
Rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth benodol i DWP ar goronafeirws a gwneud ceisiadau am fudd-daliadau ar ein gwefan Understanding Universal Credit. Bydd y tudalen hwn yn cael ei ddiweddaru os bydd unrhyw newidiadau, felly dewch yn 担l yn rheolaidd i wirio.
Rhagor o wybodaeth:
1.1 Newidiadau i gyfarfodydd yn y Ganolfan Gwaith
Nid oes rhaid i bobl syn cael budd-daliadau fynd i gyfarfodydd yn y ganolfan gwaith am dri mis, gan ddechrau o ddydd Iau 19 Mawrth 2020.
Bydd pobl yn parhau i gael eu budd-daliadau yn 担l yr arfer, ond maer gofyn iddynt fynd ir ganolfan gwaith yn bersonol wedi ei atal dros dro. Gall pobl ddal i wneud ceisiadau am fudd-daliadau ar-lein os bydd hawl ganddynt.
Rhagor o wybodaeth:
2. Coronafeirws (COVID-19) a Rhent (Cymru, Lloegr, ar Alban)
2.1 Gwybodaeth am Goronafeirws (COVID-19) a Landlordiaid yn Lloegr
Gwnaethpwyd datganiad gan y Weinyddiaeth Dai a Chymunedau am gynlluniau dros ddeddfwriaeth argyfwng i atal troi tenantiaid allan o llety rhent y sectorau prefat a chymdeithasol.
Ceir rhagor o wybodaeth am y datganiad yma:
Complete ban on evictions and additional protection for renters
2.2 Gwybodaeth am Goronafeirws (COVID-19) a Landlordiaid yn yr Alban
Maer Gweinidog dros Dai, Llywodraeth Leol, a Chynllunio wedi cyhoeddi cyfathrebiad i bob landlord ac asiantaeth gosod tai yn yr Alban ar 18 Mawrth 2020.
Ceir rhagor o wybodaeth am y datganiad yma:
2.3 Gwybodaeth am Goronafeirws (COVID-19) a Landlordiaid yng Nghymru
Datblygir deddfwriaeth argyfwng i atal troi tenantiad allan dros dro o lety rhent sectorau preifat a chymdeithasol. Mae gweinidogion Llywodraeth y DU ar Gweinyddiaethau Datganoledig yn parhau i ystyried pa gymorth arall sydd angen ei ddarparu i rentwyr.
Ceir rhagor o wybodaeth am y datganiad yma:
Complete ban on evictions and additional protection for renters
3. Gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol i Landlordiaid
Ceir gwybodaeth a chanllawiau i landlordiaid ynghylch Credyd Cynhwysol ar 51画鋼. Mae gwybodaeth hefyd iw chael ar .
Rhagor o wybodaeth:
3.1 Gwneud cais am daliad wedii reoli ir landlord
Ceir gwybodaeth a chanllawiau ar sut i wneud cais am daliad wedii reoli ir landlord ar 51画鋼.
Rhagor o wybodaeth:
Universal Credit: Alternative Payment Arrangements
4. Defnyddwyr Porth Landlordiaid
Os ydych chin landlord sector cymdeithasol ac yn defnyddio porth landlordiaid, byddwn yn cyhoeddi unrhyw newidiadau ir proses hwn ar dudalenau porth y landlordiaid ar wefan Understanding Universal Credit. Gwiriwch am unrhyd ddiweddariadau yn rheolaidd.
Rhagor o wybodaeth:
5. Llawlyfr Rhaglenni Tydydd Parti
Amcan y llawlyfr hwn yw darparu trosolwg o sut maer Rhaglen Didyniadau Trydydd Parti yn gweithio i sefydliadau ac unigolion (cyfeirir atynt fel credydwyr neu gyflenwyr) syn derbyn taliadau trydydd parti.
Noder: Oherwydd effeithiaur Coronafeirws (COVID 19), mae adnoddau DWP dan bwysau trwm ac mae Gwasanaethau Talu wedi gorfod blaenoriaethu gweithgareddau allweddol er mwyn sicrhau bod taliadau yn cael eu cynnal in hawlwyr au landlordiaid.
O ganlyniad, ni allwn weithredu unrhyw ofyn i newid dull cyflenwi rhaglenni taliadau i fformat electronig hyd nes y ceir rhybudd pellach.
Universal Credit: Third party payments creditor and supplier handbook
6. Gwybodaeth gyffredinol am Goronafeirws (COVID-19)
Ceir gwybodaeth gyffredinol am Goronafeirws (COVID-19) ar 51画鋼. Gwiriwch am ddiweddariadau ar y wefan yn rheolaidd.
Rhagor o wybodaeth:
Coronavirus (COVID-19): what you need to do
7. Sefydlu diweddariadau dros ebost
Mae diweddariadau dros ebost yn ffordd dda iawn o gael gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol (UC) sydd wedi ei diweddaru ar 51画鋼.
Cofrestrwch am ddiweddariadau dros ebost ac ychwaneguch cyfeiriad ebost a phenderfynu pa mor aml yr hoffech gael y diweddariadau.
Os ydych yn hoffir cylchlythyr hwn ac rydych am allu dod o hyd iddo eton hawdd, gan ddibynnu pa wefan porwr rydych yn ei defnyddio, ychwanegwch hi at eich ffefrynnau neuch nodau tudalen.
Nid ydym yn cadw rhestr cylchredeg ar wah但n ar gyfer y cylchlythyr hwn.