Polisi Preifatrwydd Gwasanaeth Diweddaru Ymgeiswyr
Updated 5 July 2018
1. Amdanom ni
1.1. Maer Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn helpu cyflogwyr i wneud penderfyniadau recriwtio diogelach ac atal pobl anaddas rhag gweithio 但 grwpiau bregus, gan gynnwys plant.
1.2. Bob blwyddyn rydym yn cyhoeddi tua phedair miliwn o dystysgrifau datgelu. Rydym hefyd yn rheolir rhestrau gwahardd plant ac oedolion.
1.3. Rydym yn chwilio cofnodion yr heddlu ac, mewn achosion perthnasol, gwybodaeth y Rhestr wahardd ac yna, cyhoeddi tystysgrif DBS ichi.
1.4. Gweler y canllaw gwasanaeth diweddaru ar gyfer ceiswyr am ragor o wybodaeth.
1.5. Nid ywr gwasanaeth diweddaru ar gael i geiswyr sydd 但 gwiriad sylfaenol y DBS. Mae ond ar gael am wiriadau safonol ac uwch.
2. Beth ydw i angen ei wybod?
2.1. Dyma Bolisi Preifatrwydd y gwasanaeth diweddaru, syn dweud wrthych sut byddwn nin defnyddio a diogelu unrhyw wybodaeth rydym yn ei ddal amdanoch chi fel rhan och gwasanaeth diweddaru tanysgrifiad.
2.2. Maer Polisi hefyd yn egluro beth ywch hawliau fel tanysgrifiwr y gwasanaeth diweddaru o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Maen dweud pam rydym angen eich data personol, beth fyddwn yn ei wneud ag ef a beth allwch chi ei ddisgwyl gennym. Mae hefyd yn egluro sut i gael copi o unrhyw ddata personol y gallem ddal amdanoch chi gelwir hyn yn Cais Testun i Weld Gwybodaeth.
2.3. Mae gennym Bolis誰au Preifatrwydd eraill syn cynnwys ein swyddogaethau statudol eraill. Gellid cael mynediad atynt yma.
3. Sut byddwn nin defnyddior wybodaeth rydych chin ei darparu inni?
3.1. Rydym ni yn y DBS yn casgluch data personol er mwyn:
- caniat叩u ichi gofrestru am y gwasanaeth diweddaru
- prosesu taliadau lle bon briodol
- ymgymryd 但 chwilio ffynonellau data
- ystyried a ddylid cynnwys eich enw ar y rhestrau gwahardd
3.2. Gellid defnyddioch gwybodaeth at ddibenion profi. Ymgymerir 但 phrofi i sicrhau bod ein systemau yn gweithio yn unol 但 gofynion penodol. Os nad ywn ymarferol cuddioch data neu ddefnyddio data ffug, byddwn yn profin systemau trwy ddefnyddioch data. Cynhelir y profion hyn ond mewn amgylcheddau syn ddiogel ir un lefel 但n system fyw.
Noder Fe allem ddefnyddio ceisiadau blaenorol rydych wedi eu cyflwyno er mwyn cynorthwyor broses wirio.
4. Pwy ywr rheolwr data?
** 4.1.** Mae rheolwr datan pennur pwrpasau am, a sut mae unrhyw ddata personol iw brosesu.
4.2. Y DBS ywr rheolwr data o wybodaeth a ddelir gan y DBS at ddibenion GDPR. Mae gennym y cyfrifoldeb am ddiogelwch a sicrwydd yr holl ddata rydym yn ei ddal.
5. Pwy ywr proseswyr data?
5.1. Prosesydd data yw unrhyw un (heblaw am gyflogai rheolwr data) syn prosesur data hwnnw ar ran y rheolwr.
5.2. Yn y DBS mae gennym ystod o ddarparwyr syn prosesu data ar ran y DBS fel y diffinnir yn adran 9. Rydym yn gwneud yn si典r bod ein proseswyr datan cydymffurfio 但 phob gofyniad perthnasol o dan y gyfraith diogelu data. Diffinnir hyn yn y trefniadau cytundebol.
6. Cysylltu 但r Swyddog Diogelu Data
6.1. Gellir cysylltu 但 Swyddog Diogelu Data y DBS, dros y ff担n ar 0151 676 1154, drwy e-bost yn dbsdataprotection@dbs.gov.uk neu drwy ysgrifennu at:
Swyddog Diogelu Data y DBS
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
BP 165
Lerpwl
L69 3JD
7. Beth ywr sail gyfreithiol am brosesu fy ngwybodaeth?
7.1. Mae Adran 116A o Ran V o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn cynnwys y swyddogaethau datgelur DBS yn benodol mewn perthynas 但r gwasanaeth diweddaru ac maen nynnu bod y DBS yn darparu tystysgrif DBS ddiweddar ar gais.
7.2. Yn ychwanegol at yr uchod, fe allwn ni rannu gwybodaeth 但 thrydd part誰on at ddibenion eraill lle caniateir innin gyfreithiol wneud hynny.
8. Pam fyddair DBS yn dal fy nata personol?
8.1. Byddwn ond yn dal eich data os yr ydych:
- wedi defnyddior Gwasanaeth Datgelu yn y gorffennol neu yr ydych yn ei ddefnyddio
- wedich atgyfeirio at y DBS am ystyriaeth o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (SVGA) neu Orchymyn Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2007
- wedich rhybuddio neuch collfarnu am drosedd berthnasol (syn gwahardd yn awtomatig) syn arwain ir DBS eich ystyried am gael eich cynnwys ar un neur ddwy restr
Byddwn yn gwirio cudd-wybodaeth yr heddlu lleol o bryd iw gilydd ac os caiff gwybodaeth am droseddau perthnasol ei rhyddhau gan yr heddlu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ystyried a ddylech chi gael eich cynnwys mewn un neur ddwy restr.
8.2. Pan fyddwn yn gofyn ichi am ddata personol, byddwn yn:
- gwneud yn si典r eich bod yn gwybod pam rydym angen yr wybodaeth hon
- ond yn gofyn am yr wybodaeth rydym ei hangen
- sicrhau mai ond y rhai syn briodol yn cael mynediad ati
- storioch gwybodaeth yn ddiogel
- eich hysbysu os rhennir yr wybodaeth 但 thrydydd parti
- gofyn ichi gydsynio inni rannuch gwybodaeth pan mae gennych ddewis gweler Polisi Cydsyniad
- ond yn cadwch gwybodaeth cyhyd ag y bo angen gweler Polisi Cadw
- yn peidio 但i wneud ar gael at ddefnydd masnachol (fel marchnata) heb eich caniat但d
- yn sicrhau y darperir chi 但 chopi or data rydym yn ei ddal arnoch chi, ar gais gelwir hyn yn Gais Testun am Weld Gwybodaeth
- yn sicrhau bod gweithdrefnau mewn lle ar gyfer delion brydlon ag unrhyw anghydfod neu 乙典霞稼
Noder: Byddwn yn rhannu gwybodaeth gydag awdurdodau perthnasol fel yr heddlu, adrannaur llywodraeth etc o dan Ddeddf Diogelu Data Atal a Darganfod Troseddau (Atl2, Rhan 1 Paragraff 2) y DU.
Byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data y DU (Atl2 Rhan 2 Paragraff 5(2)) lle maen ofynnol datgelu o dan y gyfraith neu mewn cysylltiad ag achos llys.
8.3. Yn gyfnewid am hyn, byddwn yn gofyn ichi:
- roi gwybodaeth gywir inni
- ddweud wrthym cyn gynted 但 phosibl a oes unrhyw newidiadau ich manylion, fel cyfeiriad newydd
8.4. Mae hyn yn helpu cadwch gwybodaeth yn ddibynadwy, cyfredol a diogel. Bydd yn berthnasol a ydym yn dal eich data ar ffurf bapur neu electronig.
9. Sefydliadau a gynhwysir yn y Gwasanaeth Datgelu
9.1. Bydd eich data personol yn cael ei drosglwyddo i sefydliadau a ffynonellau data a gynhwysir 但r DBS lle caniateir yn gyfreithiol i wneud hynny, er mwyn gweithredur gwasanaeth diweddaru. Mae hyn yn cynnwys:
- Trydydd part誰on sydd 但ch cydsyniad chi, i wirio os oes rhywbeth wedi newid ar eich tystysgrif
- Canadian Global Information (CGI)
- Hinduja Global Solutions UK (HGS)
- Heddluoedd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, ac Ynysoedd y Sianel. Gwneir chwiliadau ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) a gall data ei basio ymlaen at luoedd lleol or heddlu. Defnyddir y data i ddiweddaru unrhyw ddata personol maer heddlu yn ei ddal arnoch ar hyn o bryd
- Swyddfa Cofnodion Troseddol ACRO maen rheoli gwybodaeth cofnodion troseddol ac yn gwella cyfnewid cofnodion troseddol a gwybodaeth fiometrig
- Ffynonellau data eraill fel Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Heddlur Lluoedd a Heddlur Weinyddiaeth Amddiffyn. Gwneir chwiliadau trwy ddefnyddio bas-data mewnol. Lle ceir cyfatebiaeth, rhennir yr wybodaeth i sicrhau mai chi yw cyfatebiaeth y cofnod
- Disclosure Scotland os ydych wedi treulio unrhyw amser yn yr Alban, gall eich manylion eu hatgyfeirio at Disclosure Scotland
- Garda os yw gwybodaeth a ddelir gan Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (PNSI) yn nodi bod gwybodaeth yn bodoli yng Ngweriniaeth Iwerddon gall eich manylion eu hatgyfeirio at Garda
- Access Northern Ireland os ydych wedi treulio unrhyw amser yng Ngogledd Iwerddon gall eich manylion eu hatgyfeirio atynt ar DBS i ystyried gwybodaeth wahardd o dan SVGO
- Monitor Annibynnol (MA) i gynnal adolygiadau o wybodaeth leol (cudd-wybodaeth a gymeradwyir) a ryddheir gan heddluoedd lleol
- Adolygydd Cwynion Annibynnol (ACA) rhan ou r担l yw archwilio cwynion sydd wedi mynd drwy brosesau adolygu mewnol
- Awdurdod Canolog y Deyrnas Unedig ar gyfer cyfnewid cofnodion troseddol 但 gwledydd eraill yr UE
- Canolfan Camfanteisio ar Blant au Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) syn rhan or Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA)
- DXC Technology ein darparwr o storio yn y cwmwl
- National Identity Services (NIS) yn cynorthwyo gyda lanlwytho hen gofnodion troseddol o ficroffish i Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC)
10. Lle storir fy nata?
10.1. Delir eich gwybodaeth ar ffeiliau papur a chyfrifiadurol diogel. Mae mynediad cyfyngedig ir rhain. Lle delir eich data ar ffurf bapur mae gennym storfa ddiogel a phrosesau ar gyfer hyn. Mewn rhai achosion, fel allem ddefnyddio storfa ddiogel all-safle. Mae gennym fesurau wedi eu cymeradwyo ar waith i atal mynediad a datgelu anghyfreithlon. Mae pob un on systemau TG yn ddarostyngedig i achrediad ffurfiol yn unol 但 pholisi Llywodraeth ei Mawrhydi (HMG). Maent hefyd yn cydymffurfio 但r diogelwch sydd ei angen oddi mewn i GDPR i wneud yn si典r y prosesir data personol mewn ffordd syn sicrhau bod y diogelwch priodol or data gan gynnwys diogelwch rhag prosesu anawdurdodedig neu anghyfreithlon.
11. Pa mor hir fydd y DBS yn cadw fy ngwybodaeth?
11.1. Rydym yn gweithredu Polisi Cadw Data i sicrhau na chedwir datan hwy nac sydd angen. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae cyfyngiad ar ddinistrio gwybodaeth oherwydd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol syn mynd rhagddo. Yng ngoleuni hyn, maer DBS ar hyn o bryd yn ail-asesur gofynion cadw.
11.2. Bydd unrhyw ddata rydym yn adnabod a all gall ei alw amdano gan yr ymchwiliad yn cael ei gadw hyd at ddiwedd yr ymchwiliad. Y pryd hynny, bydd yr wybodaeth yn cael ei dinistrion ddiogel cyn gynted ag y maen ymarferol.
12. Beth yw fy hawliau? Sut bydd y DBS yn eu diogelu?
12.1. Rydym wedi ymrwymo i ddiogeluch hawliau o dan GDPR.
12.1.1. Eich hawl i gael eich hysbysu
Maer ddogfen hon yn rhoi ichir wybodaeth mewn perthynas 但 sut y prosesir eich data fel tanysgrifiwr y gwasanaeth diweddaru. Mae hyn yn sicrhau ein bod nin dryloyw 但 chi mewn perthynas 但 beth fyddwn yn ei wneud 但r wybodaeth rydych yn ei darparu inni fel rhan och tanysgrifiad gwasanaeth diweddaru.
12.1.2. Eich hawl i gael mynediad at eich data personol a ddelir gan y DBS - a adnabyddir fel Cais Testun i Weld Gwybodaeth
Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi or wybodaeth rydym yn ei dal amdanoch chi.
Ar dderbyn cais dilys, byddwn yn dweud wrthych a ydym yn dal unrhyw ddata amdanoch a darparu chi 但 chopi. Gellir canfod rhagor o wybodaeth ar sut i geisio yma.
12.1.3. Eich hawl i ofyn bod yr wybodaeth a ddelir yn gywir. Gallaf i ei diweddaru?
Maen rhaid ich manylion personol gyfateb y rhai ar eich ffurflen gais, neu dystysgrif y DBS, rydych yn ei defnyddio i ymuno 但r gwasanaeth diweddaru.
Os ydych yn credu bod yr wybodaeth a ddelir gennym yn y DBS yn anghywir, mae gennych yr hawl i ofyn iddi gael ei chywiro. Os ydych yn herio cywirdeb data a ddarparwyd inni gan drydydd parti byddwn yn anfon eich cais am gywiro at y parti hwnnw am eu hystyriaeth.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr wybodaeth rydych chi wedi ei chyflwyno ar eich cais tanysgrifio ir gwasanaeth diweddarun gywir.
Unwaith rydych wedi tanysgrifio ir gwasanaeth diweddaru, gallwch wneud y newidiadau canlynol:
- cyfeiriad gohebiaeth
- rhif ff担n symudol
- cyfeiriad ebost
Os ydych yn newid eich enw, fe fydd angen gwiriad newydd gan y DBS ac oddi mewn ir cais hwn, dylai enwau blaenorol gyfateb 但r wybodaeth tanysgrifio a gyflwynwyd eisoes.
Gall ceiswyr hefyd ychwanegu neu ddileu tystysgrifau oddi mewn iw cyfrif tanysgrifio ir gwasanaeth diweddaru.
12.1.4. Eich hawl i ofyn am ddileuch data personol
O dan rai amgylchiadau, mae gennych yr hawl i ddata personol a ddelir amdanoch chi gael ei ddileu. Yn y DBS, rydym ond yn gwneud hyn os cydymffurfir 但 rhai meini prawf arbennig. Mae rhai amgylchiadau lle ni ellir gwneud hyn felly rydym yn eich cynghori y dylech geisio cyngor annibynnol cyn cyflwyno cais inni.
Bydd unrhyw geisiadau am ddinistrio gwybodaeth yn cael ei ystyried ar sail achos fesul achos.
Mae rhai amgylchiadau penodol lle nad ywr hawl i ddileun berthnasol ac fe allwn wrthod eich cais.
12.1.5. Eich hawl i atal y DBS rhag prosesu gwybodaeth syn debygol o achosi niwed/ofid ichi
Mae gennych yr hawl i ofyn am gyfyngu prosesu lle mae wedi ei sefydlu bod un or canlynol yn berthnasol:
- yn ystod y cyfnod cywiro, pe herir cywirdeb data personol
- mae prosesun angyhyfreithlon
- mae unigolyn wedi gofyn ir wybodaeth gael ei chadw iw alluogi i sefydlu, arfer neu amddiffyn ceisiadau cyfreithiol
- wrth ddisgwyl am gadarnhad y canlyniad yr Hawl i wrthwynebu
- lle mae prosesu wedi ei gyfyngu
Gall cwsmeriaid y DBS ofyn am gyfyngu ar brosesu am unrhyw un or rhesymau uchod hyd nes yu datrysir. Pe dymunech gyfyngu prosesu, bydd angen ichi alw llinell gymorth y DBS ar 03000 200 190. Ystyrir unrhyw geisiadau i atal prosesu ar sail achos fesul achos.
12.1.6. Hawl i dderbyn copi electronig o unrhyw wybodaeth rydych wedi cydsynio iw darparu inni sydd hefyd yn cael ei adnabod fel data y gellir ei gludo
Mae gennych yr hawl, lle mae hyn yn bosibl yn dechnegol, i dderbyn yn electronig unrhyw ddata personol rydych wedi darparu ir DBS iw brosesu ar sail cydsyniad.
Noder: Prosesir tystysgrifau sylfaenol, safonol ac uwch o dan ein goblygiad statudol, o dan Ran V o Ddeddf yr Heddlu 1997, a phrosesir gwybodaeth wahardd o dan y Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006. Gan hynny, maer wybodaeth hon yn disgyn tu allan ir hawl i gludadwyedd data.
Bydd pob cais am ddata y gellir ei gludo yn cael ei ystyried ar sail cais fesul cais.
12.1.7. Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesuch gwybodaeth
Pe dymunech ddod 但ch tanysgrifiad ir gwasanaeth diweddaru i ben, gallwch wneud hyn drwy fewngofnodi ich cyfrif gwasanaeth diweddaru, a dewis Canslo tanysgrifiad oddi mewn ir sgr樽n Ceisiadau a Thystysgrifau.
12.1.8. Mae gennych hawliau mewn perthynas 但 phenderfyniadau awtomatig yn cael eu gwneud amdanoch chi
Nid yw Gwasanaeth Ddiweddarun cynnwys penderfyniadau awtomatig.
Nid ywr DBS yn ymgymryd ag unrhyw weithgareddau proffilio.
12.1.9. Mae gennych yr hawl i wneud cwyn wrth y DBS ar ICO
Os dymunwch wneud cwyn atom mewn perthynas 但r ffordd yr ydym wedi prosesuch data personol gallwch gwyno wrth y Swyddog Diogelu Data trwyr manylion cyswllt a osodir allan yn Adran 6.1 Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon gydar ymateb a dderbyniwyd, mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn gyda Swyddfar Comisiynydd Gwybodaeth yn y cyfeiriad canlynol:
Swyddfar Comisiynydd Gwybodaeth
T天 Wycliffe
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
13. Trosglwyddo data tu allan ir Ardal Economaidd Ewropeaidd
13.1. Os ydych wedi treulio amser yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, maen debygol bydd eich data wedi ei basio i heddluoedd yn yr ardal honno. Os yw unrhyw ran och data wedi ei drosglwyddo tu allan ir Deyrnas Unedig, bydd y DBS yn sicrhau y rhoddir lefel ddigonol o ddiogelwch ar waith.
14. Ein staff an systemau
14.1. Mae ein holl staff, darparwyr a chontractwyr wedi eu fetion gan Uned Ddiogelwch y Swyddfa Gartref cyn dechrau gweithio. Mae pob aelod or staff wedi eu hyfforddi mewn diogelwch data ac yn ymwybodol ou cyfrifoldebau mewn perthynas 但 diogelwch data ac adnewyddir hyn yn flynyddol. Mae pob gwiriad ir safon a osodir allan gan Swyddfar Comisiynydd Gwybodaeth. Yn ychwanegol, cynhelir gwiriadau diogelwch parhaus ar ein systemau TG.
15. Hysbysiad o newidiadau
15.1. Os yr ydym yn penderfynu newid ein polisi preifatrwydd, byddwn yn ychwanegu fersiwn newydd in safle gwe.