Cyfarwyddyd ymarfer 42: uwchraddio dosbarth teitl
Diweddarwyd 17 Chwefror 2020
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelun bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 但 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Pan fo teitl i ystad gyfreithiol yn cael ei gofrestru gyda Chofrestrfa Tir EF mae 7 math o deitl ar gael. Mae modd cofrestru ystadau rhydd-ddaliol a phrydlesol gydag un ai:
- teitl llwyr
- teitl meddiannol
- teitl amodol
Yn ogystal, mae modd cofrestru ystadau prydlesol gyda theitl prydlesol da. Caiff dosbarth cofrestru teitl ei ddatgan ar ddechraur gofrestr perchnogaeth.
2. Ystyr dosbarthiadau teitl
2.1 Llwyr
Dyma ddosbarth gorau teitlau ar un fydd yn cael ei ddyfarnu ym mwyafrif yr achosion. Fel eithriad, fodd bynnag, efallai na fydd modd gwneud hyn, er enghraifft, lle bydd rhywfaint o dystiolaeth yn ddiffygiol neu nam yn amlwg yn y teitl, gan ei gwneud yn anniogel i Gofrestrfa Tir EF warantur perchennog yn llwyr rhag perygl y bydd rhywun arall yn hawlior tir.
Cyn 19 Mehefin 2006, ni fyddem yn rhoi teitl prydlesol llwyr o dan yr amgylchiadau canlynol ar adeg cofrestrur brydles:
- nid oedd y ceisydd yn gallu cyflwyno cydsyniad prif brydleswr os oedd y brydles iw chofrestru yn is-brydles ac os oedd prydles y prydleswr yn cynnwys cyfyngiad ar aralliad
- nid oedd morgeisair prydleswr wedi rhoi cydsyniad i roir brydles.
Ein harfer fel rheol nawr yw rhoi teitl prydlesol llwyr lle nad ywr cydsyniad gofynnol yn cael ei uwchlwytho ond byddwn yn gwneud cofnod yn y gofrestr i adlewyrchur ffaith hon.
2.2 Prydlesol da
Mae llawer o geisiadau i gofrestru ystadau prydlesol lle na chafodd teitl y landlord i ganiat叩ur brydles syn cael ei chofrestru ei gyflwyno i Gofrestrfa Tir EF. Mewn achosion or fath, ni fyddwn yn gwybod a oedd gan y landlord y p典er llawn a digyfyngiad i wneud y grant neu os oes cyfamodau cyfyngu neu lyffetheiriau eraill yn effeithio ar yr eiddo. Felly, ar yr amod bod y teitl ir ystad brydlesol ei hun yn foddhaol, byddwn yn dyfarnu teitl prydlesol da.
Cyn 19 Medi 2006, byddai teitl prydlesol da hefyd yn cael ei roi lle nad oedd cydsyniad uwch brydleswr neu forgeisain cael ei gyflwyno ller oedd hyn yn ofynnol.
2.3 Meddiannol
Yn nodweddiadol, mae modd dyfarnu teitlau meddiannol lle bor perchennog yn hawlio ei fod wedi caffael y tir trwy feddiant gwrthgefn. Fel arall, gall ddigwydd lle na all y perchennog gyflwyno tystiolaeth ddogfennol o deitl i ystad am ryw reswm. Maer teitlau hyn yn anghyffredin.
2.4 Amodol
Bydd teitlau amodol yn cael eu dyfarnu lle nodwyd rhyw ddiffyg penodol a chaiff hyn ei ddatgan yn y gofrestr. Maer rhain yn fwy anghyffredin na theitlau meddiannol hyd yn oed.
3. Uwchraddio dosbarth teitl
3.1 Pwy syn gallu gwneud cais
O dan adran 62(7) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 dim ond y canlynol sydd 但 hawl i wneud cais i uwchraddio dosbarth teitl israddol i un gwell.
- y perchennog cofrestredig
- rhywun sydd 但 hawl iw gofrestru fel perchennog, fel cynrychiolydd personol lle bu farwr perchennog cofrestredig neu rywun sydd newydd gwblhau prynu ystad gofrestredig
- perchennog unrhyw arwystl cofrestredig syn effeithio ar yr ystad
- rhywun 但 budd mewn ystad gofrestredig syn deillio or ystad gofrestredig sydd i gael ei huwchraddio
3.2 Pryd i wneud cais
Ar wah但n i deitlau meddiannol y cyfeirir atynt yn Teitlau meddiannol wedi treigl amser gallwch wneud cais i uwchraddio dosbarth teitl ar unrhyw adeg ar 担l cofrestrur tir gyntaf ar yr amod y gallwch fodloni Cofrestrfa Tir EF bod y rhesymau dros ddyfarnu dosbarth teitl israddol wedi cael eu cywiro. Mae manylion o sut i wneud cais gan ddefnyddio ffurflen UT1 iw gweld yn Sut i wneud cais.
3.2.1 Teitlau meddiannol wedi treigl amser
Lle bo teitl i ystad mewn tir yn un meddiannol, pa un ain rhydd-ddaliol neu brydlesol, gallwch wneud cais i uwchraddior teitl naill ai i deitl rhydd-ddaliol llwyr neu brydlesol da unwaith ir teitl meddiannol fod wedi ei gofrestru ers 12 mlynedd (adran 62(4) a (5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Caiff y dyddiad pryd y cofrestrwyd y teitl gyntaf ei ddatgan yn y gofrestr eiddo, wedi ei gymryd fel y dyddiad y cofrestrwyd y perchennog cyntaf.
Defnyddiwch banel 10(C) ffurflen UT1 i ddweud wrthym pwy syn meddiannur eiddo yn gorfforol. Os nad y perchennog cofrestredig yw hyn, rhaid i chi allu dangos perthynas y ceisydd 但r sawl syn meddiannu sydd, at ddibenion adran 131 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, yn golygu ei fod i gael ei drin fel yn meddiannu.
Enghraifft fyddai lle bo landlord yn berchennog cofrestredig ond bod ei denant mewn gwirionedd yn meddiannur eiddo.
3.2.2 Teitlau meddiannol mewn sefyllfaoedd eraill a theitlau amodol
Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg ar 担l cofrestru i uwchraddio teitl meddiannol neu amodol mewn tir, neu rent-d但l meddiannol neu amodol, trwy gyflwyno tystiolaeth ychwanegol o deitl i Gofrestrfa Tir EF fyddain cywiror rheswm dros ddyfarnu teitl meddiannol neu deitl amodol yn y lle cyntaf.
Un enghraifft yw lle daeth gweithredoedd a gollwyd ir amlwg.
3.2.3 Prydlesol da
Gallwch wneud cais i uwchraddio teitl prydlesol da i brydlesol llwyr os gallwch gyflwynor dystiolaeth ganlynol i Gofrestrfa Tir EF:
- teitl y prydleswr a, lle nad ef ywr rhydd-ddeiliad, teitl i unrhyw deitlau rifersiwn eraill hyd at ac yn cynnwys y rhydd-ddeiliad
- y teitlau rifersiwn wedi eu cofrestru gyda theitl llwyr
Lle rhoddwyd teitl prydlesol da cyn 19 Mehefin 2006 am na chyflwynwyd cydsyniad morgeisair prydleswr neu gydsyniad prydleswr y prydleswr i roir brydles, gallwch wneud cais i uwchraddio i deitl prydlesol llwyr os gallwch gyflwynor cydsyniad sydd ei angen. Fel arall, a lle bor cydsyniad ar goll o hyd, gallwch wneud cais i uwchraddio i deitl llwyr trwy amg叩u llythyr eglurhaol gydach cais yn gofyn am uwchraddio ar sail arfer gyfredol Cofrestrfa Tir EF. Gwneir y cofnod/cofnodion canlynol yn y gofrestr lle na chaiff y cydsyniad ei uwchlwytho:
- lle na chafodd cydsyniad yr uwch brydleswr ei uwchlwytho:
Nid ywr cofrestrydd wedi gweld unrhyw gydsyniadi roir is-brydles hon y gallai fod ei angen yn 担l yr uwch brydles y rhoddwyd yr is-brydles ohoni,
a/neu
- lle na chafodd cydsyniad arwystlair prydleswr ei uwchlwytho:
Yn ystod bodolaeth yr arwystl dyddiedig o blaid syn effeithio ar deitl y prydleswr (ac, ir graddau y maer gyfraith yn caniat叩u hynny, unrhyw arwystl syn disodli neu yn amrywior arwystl hwn neu unrhyw arwystl pellach o ran y swm cyfan neu ran or swm a warantwyd gan yr arwystl hwn), mae teitl ir brydles yn ddarostyngedig i unrhyw hawliau a all fod wedi codi o ganlyniad i absenoldeb cydsyniad arwystlai, oni bai fod y brydles wedii hawdurdodi gan adran 99 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925.
Wrth gofrestru prydles 但 theitl prydlesol da yn y gorffennol, nid oedd Cofrestrfa Tir EF yn gwarantu y cafodd unrhyw hawddfreintiau a gynhwyswyd ynddi eu rhoi yn ddilys. Felly, ni fyddair gofrestr ar gyfer teitl or fath yn adlewyrchu unrhyw gyfyngiadau ar yr hawddfreintiau hynny, os oedd eu hangen. Pan fyddwn yn derbyn cais i uwchraddio teitl prydlesol da i deitl llwyr byddwn, fel mater o arfer, yn archwilior hawddfreintiau ac yn newid y gofrestr yn unol 但 hynny os ydym yn dod o hyd i unrhyw hawddfreintiau na ellir eu gwarantu (er enghraifft, os nad yw teitl caeth yn cynnwys cofnod darostyngedig cyfatebol yn y gofrestr).
Er mwyn gwarantu cofnod hawddfraint cyfyngedig wedi hynny, byddai angen cais i nodir hawddfraint yn erbyn y teitl(au) caeth tramgwyddus, ynghyd 但 thystiolaeth o gydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau a fyddai fel arall yn atal yr hawddfraint rhag cael ei nodi. Os ydych wedi canfod nad yw teitl caeth yn ddarostyngedig i hawddfraint y cyfeirir ati yng nghofrestr y teitl yr ydych am ei huwchraddio cyn cyflwyno ffurflen UT1 (gweler Sut i wneud cais), gellir gwneud y cais ar yr un pryd 但r cais i uwchraddio. Yn y naill achos neur llall, mae ffi yn daladwy o dan Atodlen 3, Rhan 1(1) ac maen bosibl y bydd yn rhaid cyflwyno rhybudd ir perchennog(perchnogion) cofrestredig a/neu berchennog(perchnogion) unrhyw arwystlon cofrestredig.
3.3 Sut i wneud cais
I wneud cais, dylech gynnwys trafodiad uwchraddio dosbarth teitl yn eich cais ac uwchlwytho ffurflen UT1 (rheol 124 o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Defnyddiwch banel 8 i ddweud wrthym y dosbarth teitl yr ydych yn gwneud cais i uwchraddio iddo. Er enghraifft, gyda theitl prydesol meddiannol neu amodol efallai eich bod am i ni ystyried ei uwchraddio i brydlesol da neu, fel arall, os gallwch fodlonir gofynion yn Prydlesol da, i brydlesol llwyr. Bydd rhydd-ddaliadau meddiannol ac amodol bob amser yn cael eu hystyried ar gyfer uwchraddio i rydd-ddaliol llwyr.
Rhaid i chi ddweud wrthym ym mhanel 9 pa gymhwystra sydd gan y ceisydd i wneud cais i uwchraddior teitl. Os nad y ceisydd ywr perchennog cofrestredig na chwaith yn arwystlai cofrestredig, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth oi hawl i wneud cais a dylai hyn ddod gydar ffurflen gais. Os ywr cais i uwchraddio teitl meddiannol ar sail bod 12 mlynedd wedi mynd heibio ers y cofrestriad cyntaf rhaid i chi gwblhau panel 10 y ffurflen.
Defnyddiwch banel 10 i ddangos sail y cais. Er enghraifft, efallai eich bod erbyn hyn yn gallu cyflwyno rhagor o dystiolaeth o deitl. Nid yw Panel 10 yn cynnwys dewis ar gyfer uwchraddio teitl prydlesol meddiannol neu amodol yn seiliedig ar dystiolaeth bellach o deitl. Mewn amgylchiadau or fath, dylai ceiswyr ddefnyddio ffurflen CS i barhau panel 10 fel y nodir yn y nodiadau esboniadol i ffurflen UT1.
Mae panel 11 yn gadarnhad na wnaed unrhyw gais gwrthwynebus ir teitl yn rhinwedd ystad, hawl neu fudd syn aros yn orfodadwy o ganlyniad ir cofnod syn bodoli ynghylch y dosbarth teitl. Os ywr ffurflen yn cael ei llofnodi gan drawsgludwr y ceisydd, gellir disodlir geiriau Rwyn cadarnhau gyda Maer ceisydd yn cadarnhau.
Cofiwch uwchlwytho unrhyw dystiolaeth ddogfennol angenrheidiol.
4. Cofrestrfa Tir EF yn archwilio tystiolaeth
Unwaith y caiff y cais ei wneud, byddwn yn archwilior dystiolaeth gefnogol a uwchlwythwyd. Os yw hyn yn ddigon i gywiror rheswm y dyfarnwyd y teitl israddol, bydd y teitl yn cael ei uwchraddio. Maen arbennig o bwysig dangos teitl i deitl unrhyw landlord os ywr uwchraddio i fod i brydlesol llwyr. Mae hyn yn berthnasol hefyd i deitl unrhyw landlord uwch os nad yw teitl y landlord uniongyrchol wedi ei gofrestru gyda theitl llwyr.
5. Teitl meddiannol a gofrestrwyd cyn Ionawr 1909
Pan wneir cais i uwchraddio teitl meddiannol a gofrestrwyd yn wreiddiol cyn Ionawr 1909, dylid cyflwyno copi ardystiedig or trawsgludiad neu aseiniad ir perchennog cofrestredig cyntaf, os oes modd.
6. 酷韓誰看艶糸糸
Fel rheol mae ffi benodol yn daladwy i uwchraddio dosbarth teitl. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ffi iw thalu os ywr cais i uwchraddio:
- yn dod 但 chais y mae ffi ar raddfa yn daladwy amdano
- yn cynnwys llythyr eglurhaol yn datgan bod y cais yn cael ei wneud dim ond ar y sail bod teitl prydlesol da wedii roi am na chyflwynwyd cydsyniad yr uwch brydleswr a/neu forgeisair prydleswr ar adeg cofrestrur brydles.
Os ydych yn gwneud cais i uwchraddior teitl ar yr un pryd 但 chais am ffi ar raddfa, rhaid uwchlwytho ffurflen UT1 gydar cais yn ogystal ag unrhyw ffurflen ar gyfer y cais honno. Gellir gwneud ymholiadau am y ff誰oedd sydd iw talu o dan y in Cymorth i Gwsmeriaid (gweler
7. Pethau iw cofio
Er mwyn osgoi anfon ymholiadau, cyn cyflwynoch cais inni, gwnewch yn siwr eich bod yn gwneud y canlynol:
- llenwi ac uwchlwytho ffurflen UT1 ar gyfer pob rhan syn gymwys
- uwchlwythor dystiolaeth angenrheidiol a allai alluogi uwchraddio, megis gweithredoedd teitl
- uwchlwythor dystiolaeth o hawl y ceisydd i wneud cais lle nad y ceisydd ywr perchennog cofrestredig neu berchennog arwystl cofrestredig
Sylwer, efallai na fydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu prosesu ceisiadau syn anghyflawn neun ddiffygiol, a bydd eich cais mewn perygl o golli ei flaenoriaeth os byddwn yn gorfod ei ddychwelyd atoch gweler Cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru am ragor o wybodaeth.
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.