Gwneud cais am drosglwyddo rhif cofrestru TAW
Gallwch ofyn i CThEF drosglwyddo manylion cofrestru ar gyfer TAW o gwmni sy’n newid ei berchnogaeth drwy gwblhau’r broses o gofrestru ar gyfer TAW a llenwi ffurflen VAT68.
Dogfennau
Manylion
Gallwch wneud cais i drosglwyddo rhif cofrestru TAW os yw’r canlynol yn wir:
- rydych yn cymryd busnes drosodd a rydych yn dymuno defnyddio rhif cofrestru TAW y perchennog blaenorol
- rydych yn newid statws eich busnes (er enghraifft o berchnogaeth unigol i fod yn gwmni cyfyngedig)
Gallwch ofyn i CThEF drosglwyddo manylion cofrestru ar gyfer TAW o gwmni sy’n newid ei berchnogaeth drwy ddilyn y camau canlynol:
- gwneud cais i gofrestru ar gyfer TAW
- llenwi ffurflen VAT68
I ble y dylid anfon y ffurflen
Gallwch anfon ffurflenni VAT68 wedi’u llenwi:
- drwy e-bost btc.changeoflegalentity@gov.uk, gan ddefnyddio cyfeirnod y gwasanaeth cofrestru TAW (VRS) yn llinell pwnc y neges
- at y cyfeiriad post sydd ar y ffurflen