Gwybodaeth am ffermdai ac eiddo amaethyddol, a charafanau preswyl a chartrefi parc (holiadur)
Cwblhewch yr holiadur a’i ddychwelyd i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) os yw’r VOA wedi gofyn i chi am eich ffermdy ac eiddo amaethyddol, neu garafán breswyl neu gartref parc yng Nghymru. Gallwch gwblhau’r holiadur ar-lein.
Yn berthnasol i Gymru
Dogfennau
Manylion
Mae’r VOA yn gofyn am wybodaeth eiddo am ffermydd gweithiol, carafanau domestig a chartrefi parc.
Gallwch gwblhau’r holiadur hwn ar-lein.
hwn os yw eich eiddo domestig yn ffermdy neu ar eiddo amaethyddol.
hwn os yw eich eiddo domestig yn garafán breswyl neu’n gartref parc
Rhoddir yr holiadur hwn i ffermdai ac eiddo amaethyddol a charafanau preswyl a chartrefi parc yng Nghymru yn unig. Nid oes angen i chi lenwi’r holiadur hwn os yw eich eiddo domestig yn Lloegr.
Pam fod eich gwybodaeth yn bwysig
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i’r VOA ddechrau paratoi i gynnal ailbrisiad o holl eiddo domestig Cymru. Bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio yn y dyfodol i sefydlu’r band Dreth Gyngor cywir ar gyfer eich eiddo, os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau i ddiwygio’r Dreth Gyngor. Gallwch gysylltu â Llywodraeth Cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau am ei chynlluniau.
Mae angen i chi gwblhau’r holiadur hwn o fewn 21 diwrnod o’r dyddiad yr ysgrifennodd Asiantaeth y Swyddfa Brisio atoch yn gofyn am yr wybodaeth hon.
Ble i anfon y ffurflen hon
Ar ôl ei chwblhau, arbedwch y ffurflen, atodwch hi at e-bost a’i hanfon at ctrwquestionnaire@voa.gov.uk
Gallwch hefyd anfon ffurflen wedi’i chwblhau drwy’r post at:
Valuation Officer
Wycliffe House
Green Lane
Durham
DH1 3UW