Beth sy'n gwneud elusen (CC4)
Cyhoeddwyd 1 Medi 2013
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Rhan 1: Am y canllaw hwn
Maer canllaw hwn yn amlinellu beth maer gyfraith yng Nghymru a Lloegr yn ei ddweud syn elusen.
Maer canllaw hwn yn berthnasol i chi os ydych chin ystyried sefydlu neu gofrestru elusen yng Nghymru a Lloegr.
Mae hefyd yn berthnasol i chi os ydych yn ymddiriedolwr elusen syn bod ac rydych am newid diben eich elusen.
Beth maer gyfraith yn ei ddweud syn elusen
Er mwyn bod yn elusen yng Nghymru a Lloegr, maen rhaid ich sefydliad fodlonir diffiniad o elusen yn y
Ddeddf Elusennau (gofyniad cyfreithiol).
Yn 担l y Ddeddf Elusennau mae elusen yn sefydliad sydd
- wedii sefydlu at ddibenion elusennol yn unig (gweler rhan 2 y canllaw hwn) ac
- yn ddarostyngedig i reolaeth awdurdodaeth cyfraith elusennau yr Uchel Lys (gweler rhan 5 y canllaw hwn).
Defnyddio rhaid a dylai
Yn y canllaw hwn, pan ddefnyddiwn rhaid, golygwn ei fod yn ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol syn effeithio ar ymddiriedolwyr neu elusen. Maen rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio 但r gofynion hyn. Er mwyn eich helpu i nodir paragraffau hynny syn cynnwys gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol rydym wedi defnyddior (gofyniad cyfreithiol) wrth ochr y paragraff hwnnw.
Defnyddiwn dylai ar gyfer eitemau rydym nin eu hystyried yn arfer da, ond nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol penodol ar eu cyfer. Dylai ymddiriedolwyr ddilyn y canllawiau arfer da oni bai bod rheswm da dros beidio 但 gwneud hynny.
Cynigiwn gyngor llai ffurfiol hefyd ac argymhellion a allai fod yn ddefnyddiol i ymddiriedolwyr wrth iddynt reoli eu helusen.
Rhan 2: Am ddibenion elusennol
Dibenion
Diben sefydliad ywr hyn y cafodd ei sefydlu iw gyflawni.
Fel arfer caiff diben elusen ei ddatgan yng nghymal amcanion ei dogfen lywodraethol (y ddogfen gyfreithiol syn creur elusen ac syn dweud sut y dylai gael ei rhedeg).
Er mwyn bod yn elusen maen rhaid ich sefydliad gael dibenion elusennol yn unig. Ni all gael rhai dibenion syn elusennol ac eraill sydd heb fod yn elusennol (gofyniad cyfreithiol).
Dibenion elusennol
Er mwyn bod yn ddiben elusennol (yn 担l y diffiniad ohono yn y Ddeddf Elusennau) rhaid iddo (gofyniad cyfreithiol):
- gael ei gynnwys o fewn y disgrifiadau o ddibenion yn y Ddeddf Elusennau (gweler rhan 3 y canllaw hwn) a
- bod er budd y cyhoedd - y gofyniad budd cyhoeddus (gweler rhan 4 y canllaw hwn)
Er mwyn bod yn elusennol, maen rhaid i ddiben fodlonir ddau faen prawf hyn. Maen rhaid ir diben fod yn sicr ac felly, os oes angen, gellid ei orfodi gan y llys (gofyniad cyfreithiol).
Efallai na fydd diben yn sicr:
- oherwydd maer geiriad a ddefnyddir i fynegir diben yn y ddogfen lywodraethol yn aneglur neu
- oherwydd nid yw cwmpas ac ystyr y diben hwnnw yn glir
Os ywr diben ei hun heb fod yn sicr ni all fod yn elusennol oherwydd ni fydd yn glir ei fod:
- wedii gynnwys o fewn un neu ragor or disgrifiadau o ddibenion neu
- er budd y cyhoedd
Dibenion na allant fod yn ddibenion elusennol
Ni all diben eich sefydliad fod yn ddiben elusennol os:
- nad yw wedii gynnwys o fewn y disgrifiadau o ddibenion ac nid yw er budd y cyhoedd, gan gynnwys os ywn:
- ddiben gwleidyddol - gweler Atodiad 2
- o yn anghyfreithlon neun groes i bolisi cyhoeddus
- yn bwriadu gwasanaethu diben anelusennol
Sut maer gyfraith yn penderfynu beth syn ddiben elusennol
I gael canllawiau pellach ar sut maer gyfraith yn penderfynu beth yw diben elusennol, gweler Atodiad 3.
Elusennau syn cyflawni dibenion yn rhyngwladol
Ni all elusen gael dibenion syn anghyfreithiol o dan gyfraith Cymru a Lloegr (gofyniad cyfreithiol).
Nid yw cyfraith Cymru a Lloegr yn gymwys yn fyd-eang a bydd cyfreithiau gwledydd eraill yn wahanol. Mae hyn yn golygu y gallai rhai elusennau sydd wediu cofrestru yng Nghymru a Lloegr gael dibenion nad ydynt yn ddilys yn gyfreithiol mewn gwlad arall.
Y safle cyffredinol yw, pe byddai diben yn elusennol oi gyflawni yng Nghymru a Lloegr, bydd hefyd yn cael ei ystyried yn elusennol os yw elusen sydd wedii chofrestru yng Nghymru a Lloegr yn bwriadu cyflawnir diben hwnnw mewn gwledydd eraill.
Yn yr un modd, os yw diben yn cael ei ystyried yn anfanteisiol neun niweidiol os ywn cael ei gyflawni gan elusen yng Nghymru a Lloegr, bydd yn cael ei ystyried yn anfanteisiol neun niweidiol hefyd os ywn cael ei gyflawni mewn gweledydd eraill gan elusen sydd wedii chofrestru yng Nghymru a Lloegr.
Rhan 3: Am y disgrifiadau o ddibenion
Maer Ddeddf Elusennau yn rhestru 13 disgrifiad o ddibenion.
Maer disgrifiadau o ddibenion yn rhestr o benawdau cyffredinol y maen rhaid i ddiben gael ei gynnwys ynddynt er mwyn bod yn ddiben elusennol (gofyniad cyfreithiol).
Mae pob disgrifiad yn bennawd cyffredinol ac mae dibenion elusennol gwahanol wediu cynnwys o dan y penawdau hyn.
Maer rhestr o ddisgrifiadau o ddibenion, ou cymryd gydar ystod o ddibenion sydd wediu cynnwys o dan bob disgrifiad, yn cwmpasu popeth a gydnabyddir, neu y gellid ei gydnabod, yn elusennol yng Nghymru a Lloegr.
Y 13 disgrifiad o ddibenion
Yr 13 disgrifiad o ddibenion a restrir yn y Ddeddf Elusennau yw:
- a.atal neu leddfu tlodi
- b.hyrwyddo addysg
- c.hyrwyddo crefydd
- (ch) ch.hyrwyddo iechyd neu achub bywydau
- d.hyrwyddo dinasyddiaeth neu ddatblygiad cymunedol
- (dd) dd. hyrwyddor celfyddydau, diwylliant, treftadaeth neu wyddoniaeth
- e.hyrwyddo chwaraeon amatur
- f.hyrwyddo hawliau dynol, datrys anghydfodau neu gymodi neu hybu cytgord crefyddol neu hiliol neu gydraddoldeb ac amrywiaeth
- (ff) ff.hyrwyddo gwarchod neu wellar amgylchedd
- g.cynorthwyor rhai sydd mewn angen ar sail ieuenctid, oedran, salwch, anabledd, caledi ariannol neu anfantais arall
- (ng) ng.hyrwyddo lles anifeiliaid
- h.hybu effeithlonrwydd lluoedd arfog y Goron, neu effeithlonrwydd yr heddlu, y gwasanaethau t但n ac achub neur gwasanaethau ambiwlans
- i.unrhyw ddibenion eraill a gydnabyddir fel rhai elusennol ar hyn o bryd neu y gellid eu cydnabod fel rhai elusennol drwy gyfatebiaeth, neu o fewn ysbryd y dibenion sydd wediu cynnwys o fewn (a) i (h) neu unrhyw ddiben arall a gydnabyddir fel un elusennol o dan gyfraith Cymru a Lloegr
Nid ywr Ddeddf Elusennau yn diffinio beth yw ystyr pob un or disgrifiadau o ddibenion hyn. Fodd bynnag, maen darparu rhai diffiniadau, neu ddiffiniadau rhannol, ar gyfer rhai or disgrifiadau. Amlinellir y rhain yn Atodiad 4.
Os oes ystyr arbennig gan unrhyw un or termau a ddefnyddir yn y disgrifiadau o ddibenion yng nghyfraith elusennau Cymru a Lloegr, maen rhaid ir term gael ei gymryd fel un sydd 但r un ystyr os ywn ymddangos yn y disgrifiadau o ddibenion (gofyniad cyfreithiol).
I gael gwybod rhagor am ystyr pob un or disgrifiadau hyn, ar mathau o ddibenion sydd wediu cynnwys ynddynt, gweler:
Defnyddior geiriad or disgrifiadau fel dibenion elusennol
Gall fod modd ich elusen fabwysiadu fel ei diben y geiriad a ddefnyddir yn un or disgrifiadau o ddibenion os ywr geiriad hwnnw yn egluro:
- bod yr hyn syn cael ei hyrwyddo yn amlwg yn ddiben a gydnabyddir fel un elusennol er budd y cyhoedd
- sut y bwriedir cyflawnir diben hwnnw (megis lleddfu tlodi drwy )
Mewn rhai achosion, gall y geiriad a ddefnyddir yn y disgrifiadau o ddibenion gael mwy nag un ystyr, ac nid ywr holl ystyron hynny yn ddibenion y maer gyfraith wediu cydnabod fel rhai elusennol neu rai a all fod er budd y cyhoedd.
Os mai dyma ywr achos byddwn yn rhoi gwybod i chi a oes modd defnyddior geiriad fel diben yr elusen ac a oes angen iddo fod yn gliriach.
Penderfynu a ywch diben wedii gynnwys o fewn y rhestr o ddisgrifiadau o ddibenion
Maer Comisiwn yn penderfynu a ywch diben wedii gynnwys o fewn un or disgrifiadau o ddibenion drwy ystyried:
- a ywch diben yn rhywbeth y maer llysoedd neur Comisiwn Elusennau yn ei gydnabod fel rhywbeth sydd wedii gynnwys o fewn:
- y gyfraith achosion berthnasol neu egwyddorion syn deillio o gyfraith achosion berthnasol
- unrhyw ddiffiniad or disgrifiad syn ymddangos yn y Ddeddf Elusennau
Dibenion newydd
Weithiau nid ywn amlwg a yw diben wedii gynnwys neu beidio yn y disgrifiadau o ddibenion, er enghraifft a yw diben yn newydd neun unigryw.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi fel y bon briodol os yw hyn yn broblem gyda diben eich sefydliad chi.
Rhan 4: Am y gofyniad budd cyhoeddus
Y gofyniad budd cyhoeddus ywr gofyniad yn y Ddeddf Elusennau syn datgan bod rhaid i ddiben fod er bydd y cyhoedd er mwyn bod yn ddiben elusennol (gofyniad cyfreithiol).
Mae dwy agwedd ar fudd cyhoeddus:
- yr agwedd budd
- yr agwedd cyhoeddus
Yr agwedd budd
Maer agwedd budd ar fudd cyhoeddus yn ymwneud 但r diben ac a ywn fuddiol.
Er mwyn bodlonir agwedd budd ar fudd cyhoeddus (gofyniad cyfreithiol):
- rhaid i ddiben fod yn fuddiol
- ni all unrhyw golled neu niwed syn deillio or diben fod yn fwy nar budd
Yr agwedd cyhoeddus
Maer agwedd cyhoeddus ar fudd cyhoeddus yn ymwneud 但 phwy syn cael budd or dibenion.
Er mwyn bodlonir agwedd cyhoeddus ar fudd cyhoeddus maen rhaid ir diben (gofyniad cyfreithiol):
- roi budd ir cyhoedd yn gyffredinol, neu ran ddigonol or cyhoedd
- nid ywn creu mwy na budd personol damweiniol
Canllawiau ar y gofyniad budd cyhoeddus
Yn gyffredinol, er mwyn i ddiben fod er budd y cyhoedd maen rhaid iddo fodlonir agweddau budd a chyhoeddus (gofyniad cyfreithiol).
Fodd bynnag, os mair diben yw lleddfu neu atal tlodi, mae rheolau gwahanol yn gymwys.
I gael canllawiau ar y gofyniad budd cyhoeddus (gan gynnwys y gwahanol reolau ar gyfer elusennau tlodi) gweler:
Rhan 5: Awdurdodaeth cyfraith elusennau yr Uchel Lys
I fod yn elusen maen rhaid ich sefydliad fod yn ddarostyngedig i awdurdodaeth cyfraith elusennaur Uchel Lys (gofyniad cyfreithiol).
Mae hynnyn golygu bod rhaid ir llys gael y pw er i wneud penderfyniadau am weinyddu a dibenion eich sefydliad fel elusen.
Ni all eich sefydliad fod yn elusen yng Nghymru a Lloegr os ywn ddarostyngedig i awdurdodaeth gwlad arall, gan gynnwys yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel.
Os nad yw dogfen lywodraethol eich sefydliad yn egluro ei fod wedii gynnwys o fewn awdurdodaeth cyfraith elusennaur Uchel Lys, byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Gall y ffactorau canlynol ddangos bod eich sefydliad wedii gynnwys o fewn awdurdodaeth cyfraith elusennaur Uchel Lys:
- mae eich dogfen lywodraethol yn mabwysiadu cyfraith Cymru a Lloegr iw lywodraethu
- maer rhan fwyaf och ymddiriedolwyr yn byw yng Nghymru a Lloegr
- maer rhan fwyaf o eiddoch sefydliad yng Nghymru a Lloegr
- mae canolfan weinyddol eich sefydliad yng Nghymru a Lloegr
Annibynnol ar reolaeth allanol
I fod yn elusen, maen rhaid i sefydliad fod yn annibynnol ar reolaeth allanol mewn ffordd a fyddain ei atal rhag bod yn ddarostyngedig i reolaeth yr Uchel Lys (gofyniad cyfreithiol).
Rhan 6: Gwybodaeth bellach
Maer rhan hon yn rhoi dolenni i ganllawiau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi mewn perthynas 但r canllaw hwn.
Maer canlynol wedii gynnwys yn ein cyfres o ganllawiau budd cyhoeddus:
- Budd cyhoeddus: y gofyniad budd cyhoeddus (PB1) (gofyniad cyfreithiol)
Maer canllaw hwn yn esbonior gofyniad cyfreithiol syn datgan bod rhaid i ddiben elusen fod er budd y cyhoedd. Gelwir hyn y gofyniad budd cyhoeddus.
- Budd cyhoeddus: rhedeg elusen (PB2) (gofyniad cyfreithiol)
Maer canllaw hwn yn esbonio budd cyhoeddus yng nghyd-destun rhedeg elusen.
- Budd cyhoeddus: adrodd (PB3) (gofyniad cyfreithiol)
Maer canllaw hwn yn esbonio dyletswydd ymddiriedolwyr i adrodd yn eu Hadroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr ar sut y maent wedi cyflawni dibenion eu helusen er budd y cyhoedd.
Nid ywr canlynol wedii gynnwys yn ein cyfres o ganllawiau budd cyhoeddus:
Maer canllaw hwn yn rhoi trosolwg o ganllawiau budd cyhoeddus y Comisiwn Elusennau. Maen esbonio:
- sut y bydd deall budd cyhoeddus yn helpu ymddiriedolwyr elusen
- dyletswydd ymddiriedolwyr i roi sylw in canllawiau budd cyhoeddus
- rhai pwyntiau allweddol iw gwybod am y gyfraith syn ymwneud 但 budd cyhoeddus
-
Dadansoddiad or gyfraith mewn perthynas 但 budd cyhoeddus
Gall y dadansoddiad hwn or gyfraith fod o ddiddordeb i ymddiriedolwyr elusen a hoffai wybod mwy am sail gyfreithiol ein canllawiau.
Canllawiau cyffredinol ar sefydlu a chofrestru elusen newydd.
-
Dweud eich dweud - Canllaw ar Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9) (gofyniad cyfreithiol)
Maer cyhoeddiad hwn yn cynnig arweiniad ar y fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol i elusennau a hoffai ymgyrchu ac ymgymryd 但 gweithgareddau gwleidyddol.
Atodiad 1: Termau technegol
Maer termau canlynol yn cael eu defnyddio yn y canllaw hwn, a dylid deall bod ganddynt yr ystyron penodol fel y nodir isod:
Deddf Elusennau: Deddf Elusennau 2011.
Ymddiriedolwyr elusen: y bobl syn gwasanaethu ar gorff llywodraethu elusen. Gallant gael eu galwn ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neun aelodau pwyllgor. Mae ymddiriedolwyr elusen yn gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol.
Dogfen lywodraethol: dogfen gyfreithiol syn pennu dibenion elusen ac, fel arfer, sut y caiff ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, erthyglau cymdeithasu, ewyllys, trawsgludiad, Siarter Frenhinol, cynllun y Comisiwn Elusennau neun ddogfen ffurfiol arall.
Uchel Lys: prif lys sifil awdurdodaeth sifil anghyfyngedig yng Nghymru a Lloegr. Maen cynnwys tair is-adran: Mainc y Brenin, y Siawnsri ar Adran Teulu.
Amcanion: Amcanion elusen yw datganiad oi ddibenion. Fel arfer feu gwelir yng nghymal amcanion dogfen lywodraethol yr elusen. Fodd bynnag, nid oes gan bob elusen ddogfen lywodraethol gyda chymal amcanion.
Fel arfer mae cymal amcanion elusen yn golygur un peth 但i dibenion, ond weithiau maen nhw ychydig yn wahanol, e.e.:
- pan nad ywr cymal amcanion yn mynegi dibenion y sefydliad yn ddigonol neun gyflawn
- maer cymal yn cynnwys mwy na dim ond yr amcanion, megis pwerau
Y gofyniad budd cyhoeddus: y gofyniad cyfreithiol syn datgan, er mwyn bod yn elusen, rhaid i ddibenion sefydliad fod er budd y cyhoedd (gofyniad cyfreithiol).
Diben(ion) a diben(ion) elusennol: defnyddiwn y term diben(ion) i olygu diben(ion) sefydliad unigol.
Mae diben elusen yn amlinellur hyn y cafodd ei sefydlu iw gyflawni.
I fod yn ddiben elusennol maen rhaid i ddiben gael ei gynnwys o fewn un or disgrifiadau o ddibenion yn y Ddeddf Elusennau a bod er budd y cyhoedd. Rhaid bod modd dangos hyn ym mhob achos (gofyniad cyfreithiol).
Y llysoedd: defnyddiwn y term hwn i olygu, gydai gilydd, y Tribiwnlys, yr Uwch Dribiwnlys ar llysoedd.
Y Tribiwnlys: y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Elusen) yw lefel gyntaf apelio yn erbyn penderfyniadaur Comisiwn Elusennau a amlinellwyd yn Atodlen 6 or Ddeddf Elusennau.
Yr Uwch Dribiwnlys: Yr Uwch Dribiwnlys (y Siambr Dreth a Siawnsri) yw ail lefel apelio yn erbyn penderfyniadaur Comisiwn a amlinellwyd yn Atodlen 6 or Ddeddf Elusennau.
Atodiad 2: Am ddibenion gwleidyddol
Ni all diben syn wleidyddol fod yn ddiben elusennol
Yn 担l y gyfraith elusennau, ni all diben gwleidyddol fod yn ddiben elusennol. Mae hynnyn golygu na all sefydliad fod yn elusen os oes diben gwleidyddol ganddo (gofyniad cyfreithiol).
Fodd bynnag, gall elusen gyflawni gweithgaredd gwleidyddol os ywn hwyluso neun cefnogir gwaith o gyflawni ei dibenion elusennol.
Gall ymgymryd 但 gweithgareddau ymgyrchu heb fod yn wleidyddol hefyd os ywn amlwg yn ffordd o hyrwyddo ei ddibenion elusennol.
I gael rhagor o wybodaeth am hyn gweler:
Beth syn gwneud diben yn ddiben gwleidyddol
Yn 担l y gyfraith elusennau, mae diben gwleidyddol yn fwy na dim ond diben syn ymwneud 但 gwleidyddiaeth plaid.
Pan ddefnyddiwn y term diben gwleidyddol golygwn yr hyn y maer gyfraith elusennau yn ystyried yn ddiben gwleidyddol. Mae hynnyn golygu unrhyw ddiben, boed yn y wlad hon neu dramor, sydd wedii anelu at:
- hyrwyddo buddiannau plaid wleidyddol arbennig
- diogelu neu wrthwynebu unrhyw newid yn y gyfraith, boed yn y wlad hon neu dramor
- sicrhau, neu wrthwynebu, unrhyw newid ym mholisi neu benderfyniadaur llywodraeth ganol neur awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill, boed yn y wlad hon neu dramor
Nid yw rhai sefydliadau syn ceisio cofrestru fel elusennau yn ystyried eu bod yn sefydliadau gwleidyddol, ond gall fod diben ganddynt y maer gyfraith elusennau yn ystyried ei fod yn wleidyddol.
Penderfynu a yw diben sefydliad yn wleidyddol
Nid ywr broses ar gyfer penderfynu a oes gan sefydliad ddiben gwleidyddol yn wahanol ir broses a ddefnyddir yn gyffredinol i benderfynu a oes gan sefydliad ddibenion elusennol neu beidio.
Dawr ateb drwy benderfynu:
- beth yw dibenion sefydliad
- y rheswm pam maer gweithgaredd gwleidyddol yn digwydd.
Nid ywn fater syml o asesu faint o weithgareddau gwleidyddol y maer sefydliad yn eu cyflawni.
Maen rhaid i ni ystyried ystod o nodweddion wrth benderfynu a yw sefydliad yn cyflawni gweithgaredd gwleidyddol neu beidio i hyrwyddo diben elusennol, neu a oes ganddo ddiben gwleidyddol.
Byddwn yn ystyried hyn os ywr gweithgaredd gwleidyddol y mae sefydliad yn ei gyflawni yn:
- rhan annatod o waith y sefydliad
- o leiaf rhan or rheswm dros fodolaeth y sefydliad
- yn ddiben annibynnol, diben ynddoi hun, heb unrhyw gysylltiad uniongyrchol 但 gwaith y sefydliad wrth gyflawni ei ddibenion elusennol
- yr unig weithgaredd, neu weithgaredd parhaus, y sefydliad
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes problem a bod angen trafod a oes gan eich sefydliad ddiben gwleidyddol.
Pam na all dibenion gwleidyddol fod yn ddibenion elusennol
Rhaid i ddiben elusennol fod er budd y cyhoedd (gofyniad cyfreithiol).
Ym marn y llysoedd nid ydynt mewn sefyllfa i farnu a yw diben gwleidyddol er budd y cyhoedd neu beidio (ac felly a ywn elusennol) oherwydd:
- nid oes gan y llysoedd unrhyw ffordd o benderfynu a fydd newid arfaethedig yn y gyfraith, neu ym mholis誰au plaid wleidyddol, neu bolisi neu benderfyniad y llywodraeth, awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill, o fudd ir cyhoedd neu beidio
- mater ir Senedd, ac nid y llysoedd, fydd penderfynu ar faterion o bolisi cyhoeddus a newidiadau yn y gyfraith
- yn achos diben i newid y gyfraith neu bolisi dramor, ni ddylair llysoedd liwio cysylltiadau rhwng y DU a gwladwriaethau dramor drwy lunio barn ynghylch eu cyfreithiau neu eu polis誰au ac a ddylid eu newid neu eu cadw
Atodiad 3: Sut maer gyfraith yn penderfynu beth syn ddiben elusennol
Gweler y
Atodiad 4: Diffiniadau yn y Ddeddf Elusennau
Rhan 1
Ystyr elusen a diben elusennol
PENNOD 1:
Cyffredinol
3 (1)
- (i) unrhyw ddibenion eraill -
- (i) sydd heb eu cynnwys o fewn paragraffau (a) i (h) ond feu cydnabyddir fel dibenion elusennol drwy rinwedd adran 5 (ymddiriedolaethau adloniadol ac ymddiriedolaethau tebyg, ac ati) neu o dan yr hen gyfraith,
- (ii) y gellir yn rhesymol eu hystyried fel rhai syn cyfateb 但, neu sydd o fewn ysbryd, unrhyw ddibenion sydd wediu cynnwys o fewn unrhyw baragraffau (a) i (h) neu is-baragraff (i), neu
- (iii) y gellir yn rhesymol eu hystyried fel rhai syn cyfateb 但, neu yn dod o fewn ysbryd, unrhyw ddibenion sydd wedi cael eu cydnabod, o dan y gyfraith syn gysylltiedig ag elusennau yng Nghymru a Lloegr, fel rhai sydd wediu cynnwys o fewn is-baragraff (ii) neur is-baragraff hwn.
3 (2)Yn is-adran (1)-
- (a) ym mharagraff (c), mae crefydd yn cynnwys-
- (i) crefydd syn cynnwys cred mewn mwy nag un duw, a
- (ii) crefydd nad ywn cynnwys cred yn nuw,
- (b) ym mharagraff (ch), mae hyrwyddo iechyd yn cynnwys atal lleddfu salwch, clefyd neu ddioddefaint dynol.
- (c) mae paragraff (d) yn cynnwys-
- (i) adfywio trefol neu wledig, a
- (ii) hyrwyddo cyfrifoldeb dinesig, gwirfoddoli, y sector gwirfoddol neu effeithiolrwydd neu effeithlonrwydd elusennau,
- (ch) ym mharagraff (e), ystyr chwaraeon yw chwaraeon neu gemau syn hyrwyddo iechyd drwy gynnwys sgiliau neu ymdrech corfforol neu feddyliol,
- (d) mae paragraff (g) yn cynnwys lleddfu drwy ddarparu llety neu ofal ir unigolion a nodir yn y paragraff hwnnw, a
- (dd) ym mharagraff (h), ystyr gwasanaethau t但n ac achub ywr gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdodau t但n ac achub o dan Ran 2 or Ddeddf Gwasanaethau T但n ac Achub 2004.
(3) Os yw unrhyw dermau a ddefnyddir yn unrhyw baragraffau (a) i (i) o is-adran (1), neu yn is-adran (2), ag ystyr arbennig o dan y gyfraith syn ymwneud ag elusennau yng Nghymru a Lloegr, mae gan y term yr un ystyr ag fel y maen ymddangos yn y ddarpariaeth honno.
(4) Yn is-adran (1)(i)(i), ystyr yr hen gyfraith ywr gyfraith syn ymwneud ag elusennau yng Nghymru a Lloegr sydd mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2008.