Ffurflen

Cyfarwyddyd: sut i lenwi ffurflen AS1

Diweddarwyd 22 Ebrill 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

1. Cyn ichi lenwi ffurflen AS1

Nid oes gofyniad ar ein rhan ni ichi ddefnyddio cyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol arall i lenwi cais ond os oes morgais yn gysylltiedig ag unrhyw un o deitlau eiddor ymadawedig, gall y rhoddwr benthyg fynnu eich bod yn gwneud hyn. Dylech wybod er bod modd inni roi cymorth wrth lenwi ffurflenni, nid ydym yn rhoi cyngor cyfreithiol.

Pan fydd perchennog tir neu eiddon marw, bydd y Swyddfa Brofiant yn cadarnhau penodiad pobl sydd 但r hawl i ddelio ar ystad. C但nt eu galwn ysgutorion os gadawodd yr ymadawedig ewyllys dilys, neun weinyddwyr os nad oes ewyllys dilys. Bydd tystiolaeth o benodir ysgutorion yn y profiant, ac o benodi gweinyddwyr yn y llythyrau gweinyddu.

Yn ein ffurflen AS1 ar nodiadau hyn, rydym yn defnyddior term torfol cynrychiolydd personol i ddisgrifio naill ai ysgutor neu weinyddwr, ar term trosglwyddai i ddisgrifior buddiolwr. Gelwir trosglwyddiad gan gynrychiolydd personol i fuddiolwr yn gydsyniad.

Darllenwch ragor am ewyllysiau a phrofiant.

1.1 Pryd i ddefnyddio ffurflen AS1

Dylech ddefnyddio ffurflen AS1 i gydsynio, hy trosglwyddo, y cyfan o un neu ragor o deitlau cofrestredig ir buddiolwr neu fuddiolwyr.

Os ydych yn defnyddior ffurflen hon, bydd y berchnogaeth yn newid ar gyfer yr holl dir ac eiddo yn y teitl.

Os nad yw ffurflen AS1 yn addas o dan eich amgylchiadau penodol chi, efallai y bydd angen ichi ddefnyddio un or ffurflenni canlynol:

  • ffurflen AS2: cydsynio i arwystl (morgais) (hy ller oedd yr ymadawedig yn rhoddwr benthyg)

  • ffurflen AS3: cydsynio i ran o un neu ragor o deitlau cofrestredig

  • ffurflen TR1: gwerthur cyfan o un neu ragor o deitlau cofrestredig

  • ffurflen TP1: gwerthu rhan o un neu ragor o deitlau cofrestredig

2. Sut i lenwi ffurflen AS1

Bydd llenwi llawer or paneli yn haws os oes gennych gopi swyddogol or gofrestr.

2.1 Panel 1: rhif teitl

Nodwch rif(au) teitl y tir rydych am ei gydsynio (maer rhif hwn ar frig tudalen gyntaf copi swyddogol or gofrestr). Gallwch ddefnyddior un ffurflen ar gyfer mwy nag un rhif teitl, ar yr amod eu bod o dan yr un berchnogaeth. Os nad ywr tir yn gofrestredig ac rydych yn cofrestrur eiddo am y tro cyntaf, gadewch y panel hwn yn wag.

2.2 Panel 2: eiddo

Rhowch ddisgrifiad byr or tir rydych yn bwriadu ei gydsynio. Os ywr tir yn gofrestredig fe welwch hyn ar ddechraur Gofrestr Eiddo fel yi dangosir ar y copi swyddogol or gofrestr ac fel rheol bydd yn gyfeiriad post (os oes un).

2.3 Panel 3: dyddiad

Nodwch y dyddiad y cyflawnwyd yr aseiniad yn y panel hwn (gweler Panel 12 isod). Peidiwch 但 gwneud hyn nes bydd yr aseiniad wedii gyflawni.

2.4 Panel 4: enwr perchennog ymadawedig

Ysgrifennwch enwau llawn (gan gynnwys pob enw canol) yr unigolyn neur unigolion fu farw yma. Peidiwch 但 chynnwys teitlau fel Mr neu Mrs, ond os oedd ganddynt deitl arall, dylech ei gynnwys.

Os nad ywr wybodaeth a roddir yn y bwlch hwn yn cyd-fynd 但r manylion perchnogaeth syn ymddangos yn y Gofrestr Eiddo ar gyfer y teitl(au) cofrestredig, rhaid ichi roi tystiolaeth i egluro hynny, ee os oedd enwr ymadawedig wedi newid, gallech gynnwys gweithred newid enw neu dystysgrif priodi.

2.5 Panel 5: cynrychiolydd personol y perchennog ymadawedig

Nodwch enwau llawn yr unigolyn(ion) a benodir gan y grant profiant/llythyrau gweinyddu.

Os ywr trosglwyddai yn gwmni, bydd angen ichi gwblhaur cwestiynau ychwanegol yn y panel.

2.6 Panel 6: trosglwyddai

Ysgrifennwch enw llawn y trosglwyddai(eion) (buddiolwr). Yn aml, yr un unigolyn 但r cynrychiolydd personol yw hwn. Nid ywn ofynnol inni sicrhau bod y cynrychiolydd personol yn gweithredun unol ag unrhyw ewyllys. Yn gyfreithiol, rhaid inni gymryd yn ganiataol ei fod yn cyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol.

Os ywr trosglwyddai yn gwmni, bydd angen ichi gwblhaur cwestiynau ychwanegol yn y panel.

2.7 Panel 7: cyfeiriad ar gyfer gohebur trosglwyddai

Mae angen i bob trosglwyddai roi cyfeiriad ar gyfer gohebu inni, a rhaid iddo fod yn gyfeiriad post yn y DU neu dramor. Cofiwch gynnwys unrhyw god post neu god tramor cyfatebol. Gallwch roi hyd at ddau gyfeiriad arall ar gyfer pob trosglwyddai hefyd, a all fod yn gyfeiriad post, ebost, rhif blwch neu gyfeiriad cyfnewid dogfennaur DU.

Maen bwysig cadw eich cyfeiriad yn gyfoes oherwydd gall fod angen inni anfon rhybuddion pwysig atoch a allai effeithio ar eich hawliau.

2.8 Panel 8: cydsyniad

Maer datganiad hwn yn briodol ym mhob achos; peidiwch ag ychwanegu ato, nai newid mewn unrhyw ffordd arall.

2.9 Panel 9: gwarantau teitl

Wrth ddarparur gwarantau hyn, maer trosglwyddwr(wyr), hy y cynrychiolydd(wyr) personol, yn rhoi addewidion rhwymol penodol am y teitl ir tir. Ceir dau fath, er y gellir addasur naill neur llall. Maer gwarantau hyn yn gosod rhwymedigaethau, a fydd yn parhau i rwymor perchennog hyd yn oed ar 担l cyflawnir cydsyniad. Maer maes hwn yn gymhleth ac os oes gennych unrhyw amheuon, rydym yn argymell eich bod yn ceisio cyngor gan gyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol arall. Ni all Cofrestrfa Tir EF roi cyngor cyfreithiol ichi.

Gwarant Teitl Llawn: maer trosglwyddwr(wyr) yn gwarantu, hyd eithaf ei wybodaeth, nad oes arwystlon ariannol/llyffetheiriau (ee morgeisi) na buddion trydydd parti eraill (ee hawliau tramwy/prydlesi) yn effeithio ar y tir heblawr rhai a ddatgelwyd eisoes ir trosglwyddai(eion).

Gwarant Teitl Cyfyngedig: mae gwarant teitl cyfyngedig yn set fwy cyfyngedig o addewidion gan y trosglwyddwr(wyr). Maen gwarantu nad ywr trosglwyddwr(wyr) wedi creu unrhyw arwystl, na galluogi unrhyw arwystl, llyffethair na budd trydydd parti syn bodoli o hyd ar ddyddiad y cydsyniad i gael ei greu.

Yn aml, nid ywr cynrychiolydd personol yn gallu rhoi mwy na gwarant teitl cyfyngedig gan ei fod yn anoddach iddo wybod pa fuddion a gr谷wyd gan yr ymadawedig.

2.10 Panel 10: datganiad o ymddiried

Dylid llenwir panel hwn os oes mwy nag un trosglwyddai.

Mae cydberchnogaeth yn faes anodd or gyfraith. Gall arwain at anghydfodau pan fo cydberchennog yn marw neu pan for berthynas rhwng cydberchnogion yn torri. Maen bosibl y bydd cofnodi bwriadaur cydberchnogion ym mhanel 10 y trosglwyddiad neu ar ffurflen JO ar wah但n yn cynorthwyo i osgoi anghydfodau or fath yn hwyrach. Fodd bynnag, dim ond man cychwyn yw hyn, oherwydd gall bwriadaur cydberchnogion newid gydag amser.

Os oes mwy nag un trosglwyddai, fel cydberchnogion byddant yn dal yr eiddo ar ymddiried tir yn awtomatig iw hunain a/neu rywun arall sydd 但 budd llesiannol yn y tir.

Gall cydberchnogion ddal eu budd llesiannol yn y tir fel cyd-denantiaid neu denantiaid cydradd.

Nid yw cyd-denantiaid llesiannol yn berchen ar gyfrannau penodedig yn yr eiddo. Os yw un ohonynt yn marw, mae eu budd yn trosglwyddon awtomatig ir cyd-denant(iaid) llesiannol syn goroesi hyd yn oed os yw wedi gwneud ewyllys yn ei adael i rywun arall.

Mae tenantiaid cydradd llesiannol yn berchen ar gyfrannau yn yr eiddo, a all fod yn gyfartal neun anghyfartal a gallant adael eu cyfran i rywun arall yn eu hewyllys.

Oni bai ei fod yn glir, ar adeg caffael, bod y cydberchnogion yn bwriadu dal y budd llesiannol ar ymddiried iw hunain yn unig fel cyd-denantiaid, mae gennym ddyletswydd i gofnodi cyfyngiad ar Ffurf A ar y gofrestr. Effaith y cyfyngiad hwn yw na fyddwn yn cofrestru gweithred na morgais or eiddo oni bai bod o leiaf dau berchennog cofrestredig, fel ymddiriedolwyr i dderbyn arian y gwerthiant neu forgais ar y cyd. Mae hyn yn golygu nad oes hawl gan oroeswr olaf y tenantiaid cydradd werthur eiddo heb brofi bod yr ymddiried wedi dod i ben neu benodi cyd-ymddiriedolwr newydd.

Os ywr cyd-drosglwyddeion yn bwriadu dal yr eiddo ar ymddiried iw hunain yn unig fel cyd-denantiaid, dylent roi X yn y blwch cyntaf. Fel arall, os ydynt yn bwriadu dal y budd llesiannol fel tenantiaid cydradd mewn cyfrannau cyfartal, dylent roi X yn yr ail flwch. Dylent roi X yn y trydydd blwch os ydynt yn bwriadu ei ddal mewn cyfrannau anghyfartal, neu ar eu cyfer eu hunain ac eraill (boed mewn cyfrannau cyfartal neu anghyfartal), neu o dan delerau gweithred ymddiried neu ewyllys syn bodoli ar wah但n, ac ymhob achos dylent ychwanegur manylion perthnasol hefyd.

Fel dewis arall i gwblhaur panel hwn gallwch ddefnyddior ffurflen gwybodaeth ymddiried JO sydd ar gael iw llwytho i lawr on gwefan. Mae ffurflen JO yn cynnwys yr un dewisiadau 但 phanel 10 ond mae wedi ei llunio fel ffurflen ar wah但n i gynorthwyo i ddarparur wybodaeth berthnasol a sicrhau bod pob cyd-drosglwyddain arwyddo datganiad o ymddiried (gweler panel 12 isod). Os yw datganiad yr ymddiried ar yr hyn y bydd y trosglwyddeion yn dal yr eiddo eisoes wedi ei gynnwys mewn gweithred neu ewyllys ar wah但n, gall trawsgludwr gynnwys manylion amdano yn ffurflen JO ai harwyddo yn ller trosglwyddeion.

Os nad yw panel 10 y trosglwyddiad neu ffurflen JO yn cael eu cwblhau au cyflwyno gydar cais i gofrestru trosglwyddiad i gyd-drosglwyddeion, byddwn yn cofnodi cyfyngiad Ffurf A yn ddiofyn.

Os oes gennych unrhyw amheuon am yr hyn sydd ei angen, dylech geisio cyngor proffesiynol cyn parhau.

2.11 Panel 11: darpariaethau ychwanegol

Weithiau ceir cyfamodau neu gytundebau rhwng y trosglwyddwr(wyr) ar trosglwyddai(eion). Dyma lle dylech nodir manylion. Efallai y byddwch am geisio cyngor cyfreithiol gan fod cyfamodau neu gytundebau or fath yn rhwymol ar yr unigolyn(ion) syn eu rhoi, hyd yn oed ar 担l cwblhaur trosglwyddiad.

Os ydych yn drawsgludwr, gallwch hefyd gynnwys y dystysgrif ganlynol yn lle amg叩ur grant profiant neu lythyrau gweinyddu, neu orchymyn llys yn penodir cynrychiolwyr personol:

Fi yw trawsgludwr y ceisydd ac rwyn ardystio fy mod yn dal y gwreiddiol neu gopi ardystiedig neu swyddfa or grant profiant, llythyrau gweinyddu neu orchymyn llys. Rwyn cadarnhau y rhoddwyd y grant profiant, llythyrau gweinyddu neu orchymyn llys yn y Deyrnas Unedig.

2.12 Panel 12: cyflawni

Rhaid ir holl gynrychiolwyr personol gyflawni (llofnodin gyfreithiol) y cydsyniad, gan ddefnyddior geiriau canlynol:

Llofnodwyd {fel gweithred} gan ___ (enw llawn y cynrychiolydd personol) ____ (llofnod) ___ Ym mhresenoldeb : _____ (llofnod tyst) ____ (enw a chyfeiriad y tyst) _____

Sylwer: Gellir hepgor y geiriau fel gweithred.

Os cwblhawyd paneli 10 neu 11, rhaid ir trosglwyddeion lofnodi hefyd.

Dylair tyst fod yn annibynnol, ac yn ddelfrydol, yn rhywun syn eich adnabod yn dda ac syn gallu cadarnhau ichi lofnodir cydsyniad, os oes angen. Gall un unigolyn dystio i fwy nag un llofnod, ond rhaid iddo lofnodi a chwblhaur manylion islaw pob llofnod a dystiwyd.

Ceir gofynion gwahanol os caiff y cydsyniad ei lofnodi gan atwrnai neu gwmni, neu o dan gyfarwyddyd y trosglwyddwr. Cysylltwch 但 ni i gael y geiriad o dan yr amgylchiadau hynny.

3. Treth Dir y Dreth Stamp

Nid oes yn rhaid darparu tystiolaeth o Dreth Dir y Dreth Stamp (SDLT) fel rheol. Fodd bynnag, os ywr unigolyn syn caffael yr eiddon rhoi cydnabyddiaeth o 贈40,000 neu ragor ar ei gyfer, ac eithrio lle y maen cymryd cyfrifoldeb am ddyled sicredig, bydd angen tystysgrif Dychweleb Trafodiad Tir ar ffurflen SDLT5 arnom.

Os nad ydych yn sicr a oes angen tystysgrif Dychweleb Trafodiad Tir ar eich trosglwyddiad, cysylltwch 但 Chyllid a Thollau EF.

4. Ble i anfon eich cais

Ar 担l llenwi ffurflen AS1, llenwch ffurflen gais AP1 neu FR1 fel syn briodol.

Anfonwch eich ffurflenni wedi eu llenwi a chopi swyddogol or profiant/llythyrau gweinyddu i gyfeiriad Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau. Nid oes angen anfon llythyr eglurhaol.