Ysgrifennydd Cymru yn cyflwyno araith fawr Blwyddyn Newydd ar yr economi
Araith Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb i arweinwyr busnes yng Nghaerdydd

YR ARAITH FEL Y CAFODD EI THRADDODI:
Foneddigion a boneddigesau, Bore da. Blwyddyn newydd dda.
Dewch i mi ddechrau drwy ddymuno blwyddyn newydd dda i chi i gyd, a drwy ddiolch i chi am ddod y bore yma.
Rwyf yn falch iawn fy mod yn sefyll yma yng nghanol ein prifddinas Caerdydd dinas 但 threftadaeth economaidd hynod fel un o darddleoedd y chwyldro diwydiannol ffynhonnell bwerus o dwf economaidd i Brydain or 1800au hyd heddiw
dinas ddynamig 但 dyddiau gwell fyth oi blaen, yn fy marn i.
Or ddinas hon, aeth glo De Cymru i bweru chwyldro diwydiannol Prydain a hefyd iw allforio ledled y byd. Ganrif yn 担l, roedd y dociau yma yng Nghaerdydd yn trin mwy o lo nag unrhyw borthladd arall yn y byd.
Yn wir, cafodd pris rhyngwladol glo ei daro yma yng Nghaerdydd yn adeilad y Gyfnewidfa Lo lle llofnodwyd siec gyntaf y byd am 贈1 miliwn o bunnau, wrth gwrs.
Nid wyf am ir dreftadaeth hon byth gael ei anghofio. Ond rwyf am i bobl weld a deall y pethau cyffrous syn digwydd nawr. Faint o bobl syn gwybod, er enghraifft, bod y dechnoleg lled-ddargludyddion waffer ar gyfer dros hanner ffonau clyfar y byd yn cael ei gweithgynhyrchu rai milltiroedd i lawr y ffordd mewn canolfan o ragoriaeth ac arloesed uwch-dechnoleg?
Caerdydd a De Cymrun helpu i bweru chwyldro economaidd byd-eang arall.
Gallem ddweud rhywbeth tebyg am Ogledd Cymru lle mae ffatri arloesol Airbus ym Mrychdyn nawr yn cynhyrchu adenydd i hanner awyrennau masnachol y byd.
Y dyddiau hyn, er y gall fod y cynhyrchion a gwerth cytundebau wedi newid nid yw gwaith Cymru o helpu i bweru economir DU wedi newid ac ar ddechrau 2015, ni allaf ddychmygu amser pwysicach i mi amlinellu fy ngweledigaeth economaidd i Gymru.
Felly, dewch i mi ddweud wrthych sut yr wyf yn credu y maer dirwedd economaidd yn edrych i Gymru ar ddechrau 2015, beth yw natur yr her hirdymor syn ein hwynebu, a beth yw rhai or risgiau allweddol sydd on blaenau.
Ers datganoli yn 1998, mae rhai pobl wedi ystyried mai swyddogaeth gyfansoddiadol yn unig yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru man canol defnyddiol rhwng San Steffan ar Cynulliad yn gweithredu yn y gilfach gul honno ar hyd ffin y setliad datganoli, gan esmwythor crychion a chynorthwyor gwaith o gynnal llywodraeth ddatganoledig.
Ac fel y dywedais yn y Sefydliad Materion Cymreig yn 担l ym mis Tachwedd, rwyf yn benderfynol on gweld yn cyflawni setliad cyfansoddiadol cryfach, mwy cytbwys a gyda chymaint o gonsensws trawsbleidiol 但 phosibl. Ac mae hwnnwn ddarn pwysig o waith yr ydym yn ei wneud.
Ond nid y cyfansoddiad ywr mater syn diffinio gwleidyddiaeth Cymru.
Pan fydd pobl yn gwneud penderfyniadau am y Llywodraeth yn San Steffan yn 2015 neu am Lywodraeth Cymru yn 2016, ni fyddant yn meddwl a oes angen model cadw pwerau ar Gymru ai peidio byddant yn meddwl am y rhagolygon iddynt hwy au teuluoedd.
Ydy pethaun gwella?
Oes mwy o gyfleoedd am swyddi, ydy busnesaun ffynnu?
Ydyn nin gwneud cynnydd ynteu ydyn nin mynd tuag yn 担l?
A phan fyddwn yn s担n am ansawdd gwasanaethau cyhoeddus rhywbeth syn bwysig iawn i bobl Cymru wel, mae gwasanaethau cyhoeddus cryf yn dibynnu ar economi sylfaenol gref.
Yn y pen draw, caiff unrhyw Lywodraeth ei barnu ar sail yr economi.
Mae cenhadaeth economaidd wrth galon y Llywodraeth Glymblaid hon cenhadaeth i wynebu argyfwng 2010 yn uniongyrchol, sefydlogi ein cyllid cenedlaethol, codir economi oddi ar ei gliniau ac anelu am dwf mwy cytbwys.
Pan ofynnwyd i mi gymryd y swyddogaeth hon fis Gorffennaf diwethaf, ni roddodd y Prif Weinidog unrhyw amheuaeth i mi am yr hyn oedd iw ddisgwyl.
Bydd yn hyrwyddwr dros adferiad economaidd yng Nghymru, meddai.
Ac rwyf yn sicrhau bod hyn yn genhadaeth graidd i fy Adran. Dyma pam yr wyf wedi sefydlu Bwrdd Cynghori Economaidd newydd i Gymru i gyfrannu at fy nhrafodaethau i am t樽m yn Llundain ac yng Nghaerdydd i sicrhau llais busnes cryfach i Gymru wrth galon llywodraeth.
Dyma pam yr hoffwn i heddiw ar ddechraur flwyddyn ddifrifol a phwysig hon i Gymru amlinellur her economaidd sydd o flaen ein cenedl.
Dewch i ni ein hatgoffa ein hunain beth ddigwyddodd yng Nghymru yn 2014.
Roedd yn flwyddyn o adfer ac adnewyddu, lle dangosodd economi Cymru welliant cyson ar draws amrywiaeth o ddangosyddion.
Roedd hefyd yn flwyddyn o uchelgais, i Gymru edrych tuag allan a thuag i fyny ac adennill teimlad o hunanhyder. 2014 oedd y flwyddyn orau i Gymru ers i ddatganoli ddechrau.
Yn y flwyddyn hon, cynhaliwyd Uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd llwyddiant ysgubol a ddaeth 但r byd i Gymru.
Ni ellir gorbwysleisio maint y digwyddiad hwnnw yn syml, hwn oedd y casgliad mwyaf o arweinwyr rhyngwladol i ddod ir DU erioed. Ac ni allai proffil byd-eang Cymru fod wedi bod yn uwch.
Yna, gwnaethom gynnal Uwchgynhadledd Buddsoddir DU ym mis Tachwedd lle daeth dros 150 o fuddsoddwyr byd-eang i Gymru i weld 但u llygaid eu hunain pam mae Cymrun lle mor wych i fuddsoddi ynddo.
Cafodd rhai or newyddbethau technolegol mwyaf arloesol sydd ar gael yn unrhyw le yn y byd eu harddangos i gynulleidfa fyd-eang. Newyddbethau a ddyfeisiwyd yng Nghymru, a ddatblygwyd yng Nghymru ac a gynhyrchwyd yng Nghymru.
Yn y ddwy uwchgynhadledd, safodd llywodraeth y DU a llywodraeth Cymru ochr yn ochr i hyrwyddo Cymru ac economi Cymru.
A dyna beth sydd ei angen ar Gymru y ddwy lywodraeth yn cydweithio.
Ac roedd y cytundeb a wnaethpwyd gennyf fi a fy nh樽m yn Swyddfa Cymru rhwng Llywodraeth Cymru ar Adran Drafnidiaeth ym mis Tachwedd i drydaneiddior brif reilffordd i Abertawe a rheilffyrdd y Cymoedd yn enghraifft arall or hyn y gallwn ei gyflawni drwy gydweithio fel hyn.
Bydd y buddsoddiad hwn yn trawsnewid yr economi a chymdeithas am flynyddoedd lawer i ddod, gan ei gwneud yn haws i gymunedau cymoedd De Cymru fanteisio ar y canolfannau creu swyddi yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe.
Ym mhob un or pethau hyn, gallasom ddangos bod dwy lywodraeth Cymru yn San Steffan ac yng Nghaerdydd yn gallu cydweithion effeithiol er pennaf les Cymru.
Ac mae hyn yn flaenoriaeth bersonol i mi:
Rydym yn genedl fach ac rwyf yn credu y gallwn daron llawer caletach drwy sicrhau cydweithredu a chydweithio effeithiol rhwng gweinyddiaethaur DU a Chymru.
Mae pobl Cymrun hoff o hyn, maen ofynnol ar gyfer busnes, ac mae ei angen ar Gymru.
Hefyd yn ystod 2014, bu gwelliant sylweddol mewn llawer o nodweddion economaidd sylfaenol ein gwlad.
Tyfodd economir DU yn gyflymach nag unrhyw economi fawr ddatblygedig arall.
Aeth y nifer uchaf erioed o bobl allan i weithio.
Ac mae buddsoddiad mewn busnes nawr yn uwch nar brig cyn y dirwasgiad; maer buddsoddiad wedi cynyddu dros 5% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yng Nghymru, bu cynnydd mwy yn nifer y busnesau newydd a ddechreuodd nag yn unman arall yn y DU. Nawr, mae gennym ni 26,000 yn fwy o fusnesau newydd nag yn 2010.
Y llynedd, denodd Cymru ei nifer uchaf o brosiectau mewnfuddsoddi ers bron i chwarter canrif.
Ac mae nifer y bobl syn hawlio budd-daliadau diweithdra ar ei isaf ers chwe mlynedd; creodd y sector preifat 100,000 o swyddi ychwanegol yng Nghymru dros y pedair blynedd ddiwethaf.
Yn 担l yn 2010, roedd economi Cymrun cael ei chymharu 但 gwledydd Dwyrain Ewrop megis Romania a Bwlgaria.
Heddiw, Cymru ywr genedl syn tyfu gyflymaf yn y DU maen tyfun gyflymach na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac maen un or gwledydd syn tyfu gyflymaf yn yr UE maen tyfun gyflymach na Ffrainc ar Almaen.
Roedd 2014 hefyd yn flwyddyn o anelu am y s棚r; bu tri chwmni o Gymrun cydweithio ar y prosiect Ewropeaidd Rosetta a laniodd chwiliedydd ar gomed a oedd yn teithio ar 36,000 milltir yr awr 300 miliwn o filltiroedd oddi wrth y ddaear.
Gwaith ysbrydoledig syn dangos maint yr arloesedd ar potensial sydd gennym yng Nghymru heddiw.
Roedd 2014 yn sicr yn flwyddyn dda iawn i Gymru. Rydym wedi dod yn bell iawn ers 2010. Maer llwybr wedi bod yn un anodd.
Ond maen un syn wirioneddol yn dwyn ffrwyth yn awr i Gymru.
Ond dewch i ni fod yn glir nid yw bod yn gadarnhaol am adferiad Cymrun ein dallu ir heriau ar gwendidau difrifol syn dal i fodoli.
Yn 2014, caeodd purfa olew Murco yn Aberdaugleddau, gan gynhyrchu sioc economaidd y bydd yn cymryd blynyddoedd ir gornel bwysig honno o Gymru ddod drosti. Mae hyn yn ein hatgoffa bod yr adferiad yn fregus a bod Cymrun dal i wynebu rhai risgiau a siociau posibl.
Fodd bynnag, mae bod yn gadarnhaol am economi Cymrun golygu ein bod yn sefyll i herior negeseuon negyddol parhaus gan rai yngl天n 但r hyn syn digwydd yn economi Cymru heddiw.
Mae rhai pobl yn hoff o greu darlun Dickensaidd o d但l isel, gwaith ansefydlog a tymor byr, meistri gormesol ac anghyfrifol yn cynnal gweithleoedd camdriniol
rydym yn clywed hyn bob wythnos gan y rheini syn gwadu bod adferiad go iawn yn digwydd.
Maen gyhuddiad syn cael ei anelun union at y gymuned fusnes.
Ac maen dod gan yr union bobl yng Nghymru a oedd, yn 担l yn 2010/11, yn dadlau yn erbyn pob un cam yr oeddem yn ceisio ei gymryd i adfer sefydlogrwydd ein cyllid cenedlaethol ac ymdrin 但 baich dyled o gwmpas gwddf ein heconomi.
Wel, roeddent yn anghywir wrth ddadlau bod angen mwy o fenthyca a mwy o ddyled ar Gymru ar DU i wellar argyfwng yn 担l yn 2010; roeddent yn anghywir wrth ddadlau bod y sector preifat yng Nghymrun rhy wan i ailgydbwysor economi weithio yma; ac maent yn anghywir am natur yr adferiad economaidd syn digwydd nawr.
Dymar ffeithiau
Maer rhan fwyaf or swyddi newydd sydd wediu creu yng Nghymru wedi bod yn rhai llawn-amser. A pharhaol.
Dros y pedair blynedd ddiwethaf, roedd twf enillion yng Nghymrur ail uchaf o bob rhanbarth yn Lloegr ar cenhedloedd datganoledig.
Bydd y cynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol yn golygu y bydd y gweithwyr 但r t但l isaf yng Nghymrun cael y cynnydd mwyaf ers 2008 yn eu cyflog net.
Ac rydym wedi cymryd camau pendant i wahardd contractau dim oriau cyfyngedig i helpu i ddiogelu hawliau gweithwyr Cymru.
Ar adeg pan fo busnes yng Nghymrun ymdrechun galed iawn i greu a diogelu swyddi o safon, i ennill archebion newydd, i fuddsoddi yn yr economi er budd in cymdeithas gyfan ni wnawn ganiat叩u iw hymdrechion gael eu bychanu gan bobl syn synhwyro mantais wleidyddol o bedlera gwawdlun bras o economi Cymru.
A byddaf yn tynnu sylw at y bobl hyn yn yr wythnosau ar misoedd nesaf.
Ond maen iawn ein bod yn gofyn y cwestiwn pa fath o adferiad economaidd rydyn nin s担n amdano i Gymru?
Oherwydd maen ymddangos i mi bod yr her yn fwy na dim ond rhoi Cymrun 担l yn ei lle yn 2007/08 cyn y chwalfa. Rhaid i ni hefyd sicrhaur amodau ar gyfer twf sefydlog hirdymor syn caur bwlch cyfoeth rhwng Cymru a rhannau eraill or DU.
Yn gryno, mae arnom angen cynllun am dwf economaidd hirdymor lle mae twf yn dod o weithgarwch cynhyrchiol ar draws yr holl sectorau ac yn digwydd ym mhob cwr on gwlad.
Y gwir yw ein bod, yn 2007/08, ar drywydd trychinebus i Gymru.
Rhwng 1997 a 2008 roeddem yn byw dan gamargraff o dwf a llwyddiant economaidd. Rydym nawr yn gwybod yn union pa mor simsan a gwan oedd sail prif ffiguraur twf hwnnw.
Wrth gwrs, yn y cyfnod hwn y bu un o brif weinidogion y llywodraeth yn s担n am fod yn arbennig o ddidaro os aiff pobl i ddrewi o arian. Hwn oedd cyfnod diwylliant y bonws a helpodd i gymell y math o ymddygiad a arweiniodd at drychinebau RBS, Northern Rock
Hwn oedd y cyfnod pan gafodd llawer o raddedigion peirianneg a gwyddoniaeth disgleiriaf Cymru eu denu or diwydiant i Ddinas Llundain, a phan gafodd statws sgiliau galwedigaethol ei ddibrisio.
Hwn oedd cyfnod mewnfudo digyfyngiad a oedd yn lleihau cyfleoedd am swyddi ac yn tynnur pwysau oddi ar y llywodraeth a busnesau i gynyddu sgiliau ein pobl ifanc ein hunain a dod o hyd i waith iddynt.
A hwn oedd y cyfnod pan gafodd busnes byd-eang ei drawsnewid gan gyfathrebu digidol gan greu chwyldro economaidd newydd, a ddylai fod wedi dechrau oes aur o ran symudedd cymdeithasol a chreu cyfoeth.
Ond mewn gwirionedd, yn y cyfnod hwn, aeth Cymrun dlotach, gan syrthio i waelod y tablau economaidd; aeth mewnfuddsoddin brin; cafodd yr Awdurdod Datblygu Cymru llwyddiannus iawn ei ddiddymu; cafodd sail gweithgynhyrchu Cymru ei herydu, gan ddatsgilio rhannau on gweithlu; a bu twf trychinebus mewn dibyniaeth ar fudd-daliadau yng Nghymru.
Yn bendant, roedd Cymrun un or dioddefwyr mwyaf oherwydd camargraff economaidd y llywodraeth ddiwethaf. Roedd economeg blynyddoedd cynnar y 2000au yn newyddion drwg i Gymru.
Felly, i ni, nid ywr adferiad yn golygu mynd yn 担l ar y trywydd yr oeddem arno wyth mlynedd yn 担l.
Rydym am ailosod ein llwybr economaidd yn sylfaenol yn fyr, ailgydbwysor economi.
Rhaid ir adferiad economaidd hwn gynnwys cynllun hirdymor nid plaster glynu; rhaid i ni sicrhau etifeddiaeth syn para.
Ac rwyf yn ystyried bod hyn yn her i genhedlaeth.
Ond y cynllun yw gobaith gorau Cymru ein gobaith gorau ni o godi o waelod y tabl economaidd.
Maer cynllun economaidd hirdymor hwnnw i Gymrun dechrau drwy ymdrin 但r diffyg.
Mae adfer disgyblaeth yn ein cyllid cenedlaethol wedi golygu gwneud rhai penderfyniadau anodd ac annymunol iawn. Nid oes neb yn mynd i mewn i wleidyddiaeth er mwyn gwneud pethau fel hyn. Ond bydd angen gwneud penderfyniadau tebyg yn y Senedd nesaf er mwyn i ni fyw o fewn ein modd unwaith eto a bod mewn sefyllfa i dalu ein dyledion i lawr.
Bydd angen archwilio pobman lle mae arian trethdalwyr yn cael ei wario i weld a oes posibl gwneud arbedion.
Mae rhai pobl wedi dadlau y dylai fod Cymru wedii diogelu rhag unrhyw doriadau gwario. A ddoe ddiwethaf, clywais un o fy rhagflaenwyr fel Ysgrifennydd Gwladol yn galw am 贈60 biliwn ychwanegol o wario heb ei ariannu ledled y DU. Fel rheol, y rhain hefyd ywr bobl sydd wedi gorliwio i ba raddau y mae toriadau wedi effeithio ar Gymru dros y pedair blynedd ddiwethaf.
Y gwir yw yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn ers 2010 bod hanes y Llywodraeth hon o ran gwario yng Nghymru wedi bod yn gadarnhaol iawn.
Mae Cymru wedii diogelu yn erbyn y toriadau dyfnaf y mae adrannau mawr eraill wedi gorfod eu hysgwyddo Ar adeg pan fo angen gwneud dewisiadau anodd, mae ein hymrwymiadau parhaus i gynyddu cyllid ir GIG ac addysg yn San Steffan wedi helpu i ynysu Cymru ac wedi darparu cyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd angen i unrhyw blaid syn dymuno ennill yr etholiad ym mis Mai ddangos eu bod yn gyfrifol a bod ganddynt gynllun credadwy ar gyfer ein cyllid. Os ydynt yn dewis peidio ag aros ar y llwybr ariannol yr ydym ni wedii bennu, bydd angen iddynt fod yn onest yngl天n ag a ydynt yn bwriadu codi trethi neu fenthyca mwy yn lle hynny.
Nid oes atebion hawdd, a dylai busnesau Cymru fynnu eglurder yngl天n 但 bwriadaur pleidiau.
Rwyf yn credu bod gennym hanes o wneud penderfyniadau anodd a phennu llwybr, ond mewn ffordd gyfrifol a chymedrol syn diogelu Cymru ac yn ei hyrwyddo. Mae gennym y cynllun credadwy hwnnw.
Ond nid dim ond mater o arbed arian ywr cynllun mae hefyd yn fater o gefnogi busnesau, gan helpur sector preifat i ffynnu hyd yn oed mewn cyfnod o gyfyngiadau ar gyllid a risg economaidd.
Maen fater o sicrhau fframwaith ar gyfer twf economaidd a llwyddiant yn y dyfodol. Mae hynnyn golygu creu amgylchedd mwy cystadleuol ar gyfer treth a rheoleiddio i fusnesau Cymru un o fanteision allweddol bod yn rhan o Deyrnas Unedig gref.
A dyna pam y byddwn elenin gweld prif gyfradd y Dreth Gorfforaeth yn gostwng i fod yr isaf yn y G20.
Dyna pam mae Cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi cael eu lleihau ar gyfer busnesau syn dymuno cymryd mwy o staff a thyfu.
A pham mae ein Lwfans Cyflogaeth wedi golygu bod 35,000 o fusnesau yng Nghymru wedi cael hyd at 贈2,000 yr un o arian yn 担l am greu swyddi.
Ac rydym hefyd yn torri drwyr t但p coch syn atal twf, yn enwedig i fusnesau bach. Drwy ddiddymu neu addasu dros dair mil o reoliadau, rydym yn arbed dros wyth cant a hanner o filiynau o bunnau i fusnesau bob blwyddyn.
Ac maer cynllun yn golygu mwy na gadael i fusnesau barhau 但u gwaith. Mae angen ir llywodraeth ymyrryd er mwyn cyflawni economi fwy cytbwys o safbwynt daearyddol fel mai nid dim ond Llundain a De Ddwyrain Lloegr fydd yn parhau i elwa o dwf ac adnewyddu economaidd.
Y gwir yw bod Prydain, dan Lywodraethau blaenorol, wedi dioddef o economi beryglus o unochrog wedii dominyddu gan Lundain a De Ddwyrain Lloegr ardal a ddaeth yn un or mwyaf cynhyrchiol a dynamig yn fyd-eang, ond un a sugnodd dalent a buddsoddiadau i mewn ar draul mannau eraill.
Ond rydym yn benderfynol o ailgydbwysor economi. Aethom ag Uwchgynhadledd G8 i Ogledd Iwerddon, cafwyd uwchgynhadledd NATO ar uwchgynhadledd fuddsoddi yng Nghymru a bydd ein buddsoddiad yn HS2 yn creu cysylltiadau gwell rhwng pob rhan or Deyrnas Unedig i greu twf ym mhob ardal.
Ar Canghellor hwn a feddyliodd am weledigaeth Pwerdyr Gogledd adfywio pwysigrwydd economaidd a dinesig dinasoedd mawr Gogledd Lloegr gweledigaeth a oedd yn cynnwys gwyddoniaeth, buddsoddi, seilwaith a datganoli oddi wrth Lundain a De Ddwyrain Lloegr.
Nid ywr Pwerdyr Gogledd hwn yn gyfyngedig i Loegr yn unig.
Maen fater o unor rhanbarthau Gogleddol, gan gynnwys Gogledd Cymru, i fasnachu, tyfu, denu buddsoddiad preifat ar bobl orau.
Ac mae system drafnidiaeth fodern ac integredig wrth wraidd hyn ffyrdd a rheilffyrdd o safon fyd-eang.
Felly, mae Swyddfa Cymrun cynnal uwchgynhadledd drafnidiaeth yng Ngogledd Cymrun ddiweddarach y mis hwn i archwilior holl gyfleoedd sydd ar gael cyfleoedd i wneud yn si典r bod y rhanbarth hwn yn elwa or twf yr ydym yn ei weld ledled gweddill y wlad ac i archwilio sut y gall Cymru elwa o fuddsoddiad gogleddol, gan gynnwys HS2.
Gan wneud Gogledd Cymrun ein Pwerdyr Gogledd ein hunain ar gyfer economi Cymru.
Mae perygl y gall Cymru ller ydym yn dal i weithio ar sail syniad or ugeinfed ganrif o ddatganoli lithro ar ei h担l hi os bydd datganoli i lefel dinasoedd yn gweithredu fel sbardun i dwf economaidd ac adnewyddu dinesig.
Felly, mae arnom angen dinas-ranbarthau llwyddiannus yng Nghymru er mwyn i Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd ar ardaloedd ou cwmpas allu cystadlu 但 dinasoedd ffyniannus Bryste, Birmingham a Manceinion.
Dylai ailgydbwyso hefyd olygu nad ydym yn dibynnun ormodol ar unrhyw un sector or economi ond bod gennym sylfaen economaidd eang.
Yng nghyfnod y Llywodraeth ddiwethaf, cafodd dros 80,000 o swyddi eu colli yn y sector gweithgynhyrchu.
Yn y pedair blynedd ddiwethaf, mae dros 20,000 o swyddi gweithgynhyrchu newydd wedi cael eu creu.
Swyddi gweithgynhyrchu newydd yn Raytheon yng ngogledd Cymru yn eu cyfleuster ymchwil a datblygu awyrofod newydd, a welais yn ddiweddar, er enghraifft. A swyddi newydd yn Meritor yng Nghwmbr但n yn gweithgynhyrchu darnau ar gyfer sector modurol y DU syn tyfu.
I ategur gwaith hwn o ailgydbwyso gweithgarwch economaidd, rydym yn benderfynol hefyd o drawsnewid ansawdd a statws ymddangosiadol addysg alwedigaethol. Rydym wedi gweld dwy filiwn yn fwy o brentisiaethau ers 2010 ond prentisiaethau o safon uwch hefyd.
Roedd y targed enwog o anfon 50% o bobl ifanc i gael gradd o brifysgol yn drychineb i lawer o bobl ifanc Cymru a chyfrannodd at ddatsgilio rhai on cymunedau.
Dri mis yn 担l, gofynnwyd i mi siarad yn seremoni raddio gr典p o brentisiaid yn un o safleoedd peirianneg mwyaf Cymru cwmni byd-eang syn darparu hyfforddiant or radd flaenaf. Wrth siarad 但r prentisiaid wedyn, cefais fy nharo gan y ffaith bod o leiaf ddau ohonynt yn eu 20au hwyr.
Dywedodd y rhain wrthyf eu bod wedi mynd i ffwrdd i brifysgol yn 18 oed, wedi cael gradd nad oedd yn eu cyfarparu ar gyfer dim byd yn eu barn hwy, ac wediu cael eu hunain yn 担l gartref yn byw gyda Mam a Dad ac yn ddi-waith. Yn ddiweddarach, cawsant ail gyfle i ddechrau arni, drwy wneud prentisiaeth 4 mlynedd yn y cwmni hwn sydd wedi trawsnewid eu lefelau sgiliau, eu hyder, eu potensial i ennill cyflog au rhagolygon ir dyfodol.
I mi, mae hyn yn crynhoi popeth a oedd oi le 但 sut yr oedd llywodraethau blaenorol yn gostwng gwerth y llwybr galwedigaethol a pha mor iawn ydyw ein bod yn mynd atin ddiflino i hyrwyddo a dyrchafur llwybr hwnnw.
Hoffwn iddi fod yr un mor debygol y bydd arweinwyr busnes Cymru yn y dyfodol wedi dod o lawr y ffatri ag o ddarlithfa mewn prifysgol.
Ond mae arnaf ofn bod cenhedlaeth o bobl wedii cholli sydd heb y sgiliau technegol, peirianyddol a galwedigaethol eraill or safon uchaf sydd eu hangen arnom. Ac efallai mair genhedlaeth goll hon ywr rheswm pam mae cynifer o arweinwyr busnes Cymrun s担n wrthyf am brinderau sgiliau syn effeithio ar eu cwmn誰au.
Mae arweinwyr busnes hefyd yn siarad 但 mi am seilwaith. Ac rwyf yn credu bod ar Gymru angen gweledigaeth hirdymor i fuddsoddi mewn seilwaith o safon fyd-eang trafnidiaeth, ynni, seilwaith digidol hefyd. Ni ddylair weledigaeth hon ddibynnu ar ba blaid benodol sydd mewn grym yn San Steffan na Chaerdydd er mwyn cael ei gwireddu.
Yn union fel yr wyf yn ceisio cael gwared ar lawer o wleidyddiaeth plaid o ddatganoli, rwyf yn credu bod gennym y potensial i weld gweledigaeth unedig hirdymor ar gyfer y seilwaith sydd ei angen ar Gymru ac i wleidyddion, busnesau a grwpiau eraill uno o gwmpas y weledigaeth hon.
Ond rwyf yn credu mai busnesau yng Nghymru ddylai fod yn berchen ar y weledigaeth hirdymor hon ai hyrwyddo. Hwy ddylai sicrhau bod llywodraethaun gweithredu ar y weledigaeth ac yn ei gwireddu.
Rwyf yn meddwl am Brosiect Crossrail a fydd, ynghyd 但 thrydaneiddio yn y dyfodol agos yn cysylltu Caerdydd 但 Canary Wharf mewn dim ond 2 awr. Yn 担l ar ddiwedd y 90au pan f短m yn gweithio yn Siambr Fasnach Llundain, busnes oedd yr unig gr典p a oedd yn galw am y buddsoddiad strategol hwn. Ac roedd hynnyn waith caled. Ond yr unig reswm pam maer prosiect hwnnwn cael ei gyflawni nawr yw bod busnes wedi cadwr fflam yn fyw. Ac mae angen yr agwedd honno arnom yng Nghymru.
Ond ni ddylai hirdymor olygu siarad am yr un prosiect am ddegawdau (gallwn s担n am brosiect ffyrdd penodol yn Ne Cymru), ond sicrhau bod cynllun ar waith syn uchelgeisiol ac yn realistig. Mae ein cytundebau ar yr M4, ar drydaneiddio, Wylfa a Charchar Wrecsam, ymysg eraill, yn dangos ein bod yn llywodraeth syn deall seilwaith ac yn dymuno i Gymru gael ei chyfran deg.
Ond rwyf yn benderfynol on gweld yn mynd ymhellach. Oherwydd mae llwyddiant yn yr 21ain ganrif yn perthyn ir econom誰au hynny syn gallu harneisio technoleg ac arloesedd. Y rhai syn anelu am y s棚r ac syn hyderus yn eu gallu eu hunain.
Yn ystod y dyddiau hynod hynny ym mis Tachwedd pan laniodd chwiliedydd gofod Philae ar y gomed, roeddwn wedi fy syfrdanu wrth wylior delweddau anhygoel hynnyn cyrraedd ein setiau teledu ac yn gobeithio bod miloedd o blant ledled Cymrun gwylio hefyd, ac yn cael eu hysbrydoli gan ryfeddodau a chyraeddiadau gwyddoniaeth ac arloesedd au hysbrydoli i gredu y gallant hwythau gyflawni unrhyw beth.
Oherwydd beth yw ein cenhadaeth yma?
Nid yw dim o hyn twf CMC, lefelau buddsoddi, cynhyrchiant yn amcan ynddoi hun.
Rhaid i weledigaeth economaidd i Gymru olygu mwy nar pethau hyn.
Mae adnewyddu economaidd, i mi, hefyd yn fater o gydlyniant ac adnewyddu cymdeithasol.
Yma yng Nghymru, rydym yn deall rhwymau cryf teulu a chymuned syn cyfoethogi ac yn cryfhau ein ffabrig cymdeithasol ac yn rhoi ei chyfalaf cymdeithasol unigryw i Gymru.
Rwyf yn credu mai un or nodweddion syn diffinio cymdeithas yng Nghymru yw ymdeimlad cryf o gyfiawnder cymdeithasol, or hyn syn deg, or hyn syn dda ac yn ddrwg.
Yng Nghymru, mae cysylltiad cryf rhwng materion economaidd a chwestiynau pwysig am werthoedd, moesoldeb a da a drwg.
Felly, i mi, iechyd economaidd ywr llwybr at adnewyddu cymdeithasol. Maen hanfodol er mwyn tanategu cydlyniant cymunedol. Mae diffyg twf economaidd yn gwagio cymunedau, ac mae diweithdran creu cylch cythreulig o ddibyniaeth syn effeithio ar fwy nag un genhedlaeth; maen effeithio ar genedlaethaur dyfodol hefyd.
Rydym wedi gweld hyn 但n llygaid ein hunain mewn gormod on trefi yng Nghymru.
Cymunedau ller ydym wedi gweld dros draean yr oedolion yn ddi-waith ac yn dibynnu ar fudd-daliadau.
Felly, beth mae adferiad economaidd yn ei olygu i gymunedau yng Nghymru?
Maen golygu bod degau o filoedd yn fwy o blant Cymrun tyfu i weld mam neu dad yn mynd allan i weithio am y tro cyntaf.
Nawr, mae gennym 39,000 yn fwy o blant yn gweld eu Mam neu Dad yn mynd allan i weithio am y tro cyntaf ers 2010.
Rwyf yn gwybod yn iawn pa mor bwysig ydyw i blentyn syn tyfu mewn cartref lle mae pethaun anodd i weld rhiant yn mynd allan i weithio ac yn dod 但 chyflog rheolaidd adref, gan roi ysbrydoliaeth, delfryd ymddwyn, rhywun syn dangos y gallwch chi oresgyn rhwystrau syn atal symudedd cymdeithasol.
Felly rwyf yn dweud nad oes dim byd gofalgar na thrugarog am osgoi her adnewyddu economaidd, diwygio lles a sicrhau bod Cymrun dechrau gweithio eto.
Mae ein gweledigaeth economaidd yn golygu ail-greu ymdeimlad o falchder dinesig wrth i gymunedau sydd wedi cael eu taron galed ddod o hyd i ganolfannau economaidd newydd i ffynnu ou cwmpas.
Ac maen golygu gwneud y dewis moesol a moesegol i wynebur ddyled yr ydym ni fel Teyrnas Unedig wedii chreu gydan gilydd yn hytrach na gorfodi cenedlaethaur dyfodol iw hwynebu.
Mae ein hymdeimlad o degwch hefyd yn golygu ein bod yn credu ei bod yn annerbyniol bod rhai busnesau mawr yn osgoi eu cyfrifoldeb i dalu treth ar yr enillion y maent yn eu cynhyrchu yn y DU. Felly rydym yn caur bylchau hyn y methodd llywodraethau blaenorol eu cau.
Mae ein hymdeimlad o degwch hefyd yn golygu rhoi pwysau ar y cwmn誰au olew ac ynni, fel yr ydym yn ei wneud etor wythnos yma, i ostwng eu prisiau i gwsmeriaid wrth i bris olew crai ar farchnadoedd y byd ostwng i hanner ei bris gyfnod byr yn 担l.
Yma yng Nghymru, mae tua 250,000 o aelwydydd yn dibynnu ar olew gwresogi a thanwyddau eraill oddi ar y grid i gadw eu cartrefin gynnes. Felly nawr yng nghanol y gaeaf ywr amser ir cwmn誰au ynni drosglwyddor gostyngiad ym mhrisiau ynnir byd.
Yn 2008, yn Sancl棚r, Sir Gaerfyrddin, cafodd cerflun gan yr artist Simon Hedger ei ddadorchuddio.
Mae wedii gerfio o bren o Gymru, ac maen dangos tri ffigwr 但 bwyeill yn torri g但t i lawr.
Maen coff叩u Terfysgoedd Rebecca yn 1839 pan gododd rhannau o gymuned wledig Cymru yn erbyn tollbyrth afresymol a oedd yn trethu eu masnach a symudiad rhydd pobl rhwng pentrefi a marchnadoedd.
Maer arysgrif canlynol ar y cerflun: Cyfiawnder A Charwyr Cyfiawnder Ydym Ni oll.
Roedd Merched Becca yn dangos yr ymdeimlad cryf o gyfiawnder economaidd a chymdeithasol syn rhan annatod o feddylfryd y Cymry.
Fflam Gymreig yw fflam cyfiawnder economaidd a chymdeithasol, ac maen llosgi ynof fi hefyd.
Ac maen diffinio sut yr wyf yn ceisio gwneud fy ngwaith fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Foneddigion a boneddigesau, mae llawer o waith iw wneud i wireddur math o weledigaeth yr wyf wedii hamlinellu heddiw ar gyfer economi Cymru.
Ond maer gwaith wedi dechrau. Ac maen dwyn ffrwyth i Gymru.
Maer weledigaeth wedii hategu gan gynllun hirdymor y gallwn ei gyflawni.
Maer llwybr wedii bennu. Ac rwyf yn credu mai hwn ywr llwybr cywir i Gymru. Un syn rhoir cyfle gorau posibl i Gymru i gaur bwlch economaidd a chodi oddi ar waelod y tabl.
Felly, mae yna ddewis syml, ond hollbwysig, i Gymru yn 2015.
Dewis o naill ai lynu at y cynllun hirdymor hwn sydd
- yn helpu mwy o bobl i ennill cyflog a darparu ar gyfer eu teuluoedd
- yn ysbrydoli pobl ifanc o bob cefndir i anelu am y s棚r
- yn gynllun syn rhoi Cymru ar y llwyfan byd-eang fel canolfan rhagoriaeth a buddsoddi
.. neu rydym yn dewis cefnu ar y cynllun a dewis rhywbeth arall rhywbeth heb ei ddiffinio, syn tarfu ar y cynllun sydd wedii lunion ofalus i leihaur diffyg ac yn cynyddu risgiau ariannol.
Mae amryw o risgiau economaidd eisoes yn bodoli i Gymru ar DU diffyg twf yn rhanbarth yr Ewro, tensiynau geowleidyddol, prisiau anwadal ynni byd-eang, gallwn fynd yn fy mlaen.
Y peth olaf sydd ei angen ar Gymru, yn fy marn i, yw ychwanegu mwy o risg gwleidyddol ac economaidd a mwy o ansefydlogrwydd ariannol. Hwn ywr perygl yr wyf yn ei weld yn y rhethreg ar addewidion sydd eisoes yn cael eu gwneud ar ddechraur flwyddyn etholiad bwysig hon.
Glynu at y cynllun hirdymor ywr peth gorau i Gymru.
Felly rwyf yn credu bod y dewis a gaiff Cymru ymhen rhai misoedd yn ddewis clir iawn. Nid ywn amser i wneud dewisiadau ideolegol, llwythol, sentimental na phrotest.
Maen foment i benderfynun ddifrifol gan weld yn glir er budd cenedlaethol Cymru i barhau 但r gwaith yr ydym wedii ddechrau i drwsio ein heconomi,
sicrhau twf mwy cytbwys,
a helpu i greur genedl gref, hyderus, lwyddiannus syn edrych tuag allan yr wyf yn credu y gall Cymru fod.
DIWEDD