Araith i'r Cynulliad Cenedlaethol
Stephen Crabb yn gosod allan rhaglen ddeddfwriaethol gyntaf y Llywodraeth

Cyflwyniad
Diolch yn fawr, Fadam Lywydd.
A gaf fi ddechrau drwy ddweud cymaint o fraint yw hi i fod yma yn adeilad gwych y Senedd ar gyfer y ddadl hon ar raglen ddeddfwriaethol gyntaf Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig - rhaglen Un Genedl syn ceisio cryfhaur Deyrnas Unedig gyfan.
Dyma fy nghyfle cyntaf i gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad, ac rwyn falch o gyfleu dymuniadau da iawn fy nau Is-ysgrifennydd Gwladol yn Swyddfa Cymru - y naill ar llall gynt or parthau hyn, ac a fydd yn gyfarwydd iawn i bawb ohonoch.
Mae hi bron i flwyddyn ers i mi gael fy mhenodin Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Ar y pryd, roedd aelodau Llywodraeth Glymblaid y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, yn enwedig y Prif Weinidog, yn rhan or ymgyrch i annog yr Alban i aros yn y Deyrnas Unedig.
Rwyn sylweddoli nad oedd pob Aelod or lle hwn a aeth i fyny ir Alban i ymgyrchu ar yr un ochr ir ddadl. Ond byddaf yn cofio am byth sefyll yn y Senedd yn Holyrood gyda Ruth Davidson ar un o fy ymweliadau yno ychydig ddyddiau cyn y bleidlais, wrth i grwpiau ysgol gael eu tywys ar deithiau o amgylch y siambr, a myfyrio ar y foment ryfeddol roeddem yn rhan ohoni.
Fem trawodd nad oedd amheuaeth o gwbl y byddai ller Senedd honnon dod yn fwyfwy pwysig ym mywyd cenedl yr Alban beth bynnag fyddai canlyniad y bleidlais y dydd Iau hwnnw, ai bod yn anorfod y byddai awdurdod a r担l y Senedd honno fel corff deddfu ac fel fforwm trafod a dadlau a datrys cenedlaethol yn si典r o dyfu.
A dyna dynged y Cynulliad Cenedlaethol hwn hefyd, mi gredaf.
Bod yn Senedd.
Maer Senedd hon, wedir cyfan, yn fan y mae fy mhlant fy hun yn ymweld 但 hi ar eu tripiau gydar ysgol ar Urdd i ddysgu am ddemocratiaeth yng Nghymru; Dymar fan lle safodd y Prif Weinidog a minnau ochr yn ochr 但 phlant ysgol o Gaerdydd a gwylior arddangosiad rhyfeddol hwnnw yn yr awyr i nodi diwedd uwchgynhadledd NATO fis Medi diwethaf; dymar fan lle daeth aelodau or gymuned Ffrengig ynghyd ag uwch Rabbi Cymru ac Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslimiaid Cymru ddiwrnodau ar 担l erchyllterau terfysgol Charlie Hebdo ym Mharis lle i alaru a sefyll gydan gilydd; ac ir Senedd hon y daw cymunedau o bob rhan o Gymru i brotestio ynghylch newidiadau iw gwasanaethau ysbyty.
Oherwydd go brin fod Senedd heb brotestiadau yn Senedd o gwbl.
Yn gynyddol ac yn ddiamheuol, mae hwn yn fan ymgynnull pwysig: yn lle trafod a gwneud penderfyniadau, yn symbol o fywyd cenedlaethol Cymru.
Ac rwyn sefyll yma brynhawn heddiw yn cydnabod bod y drefn hon rwyn cydymffurfio 但 hi - dod yma i siarad am Araith Rasol Ei Mawrhydi - a ragwelwyd ac y deddfwyd ar ei chyfer yn y dyddiau pan oedd Cynulliad deddfwriaethol cryf i Gymru yn ymddangos yn bell i ffwrdd - yn dipyn o anacroniaeth. Bargod o gyfnod arall.
Madam Lywydd, rwyn gwybod bod hyn yn rhywbeth rydych chi a minnau wedi siarad amdano droeon, ac felly byddwch yn falch o glywed fy mod yn bwriadu diddymur drefn hon fel rhan or Bil Cymru arfaethedig a gyhoeddwyd yn yr Araith Rasol fis diwethaf.
Rwyn si典r y dewch o hyd i lawer gwell ddefnydd ar gyfer y sedd hon.
Ond dychwelaf at Fil Cymru yn y man.
Araith y Frenhines
Madam Lywydd, datganiad o fwriad Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig yw helpu pobl syn gweithio, hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ac uno holl bobloedd ein cenedl.
Drwy araith y Frenhines fis diwethaf, cyhoeddom ein rhaglen ddeddfwriaethol i adeiladu ar y gwaith pwysig y bu i ni ddechrau arno bum mlynedd yn 担l i wella bywydau pawb yn ein gwlad, a hoffwn grynhoir hyn rwyn credu y mae hyn yn ei olygu i Gymru.
Araith y Frenhines: Helpu pobl syn gweithio a chyfiawnder cymdeithasol Yn gyntaf, rwyn falch o fod yn rhan o Lywodraeth sydd wedi goruchwylio sawl cwymp nodedig mewn diweithdra ar draws y Deyrnas Unedig ac yn enwedig yma yng Nghymru ers 2010. Rhan gwbl ganolog on rhaglen yn y Senedd hon yw gweld hynnyn parhau, ac felly byddwn yn cyflwyno ein Bil Cyflogaeth Lawn a Budd-daliadau Lles i helpu rhagor o bobl i fanteisio ar y cyfleoedd gwaith a bywyd a ddaw yn sgil gwaith newydd.
Nid oes dim yn bwysicach i mi na gweld Cymrun rhannu ffrwyth adferiad economaidd y Deyrnas Unedig yn llawn.
Ers 2010, mae 34,000 yn llai o blant yng Nghymru yn cael eu magu mewn cartrefi lle nad oes yr un rhiant yn gweithio. Mae hynnyn hollol drawsnewidiol ir bywydau hynny ir unigolion ar teuluoedd hynny syn cael eu magu yn gweld model r担l yn mynd i weithio ac yn dod 但 chyflog adref, gan dorri rhwystrau symudedd cymdeithasol.
Ac felly yn y Senedd hon byddwn yn parhau i ddiwygio lles, annog cyflogaeth drwy gapio budd-daliadau ai gwneud yn ofynnol i bobl ifanc ennill cyflog neu ddysgu.
Byddwn yn parhau i wobrwyo gwaith caled drwy helpu pobl i gadw rhagor or arian maent yn ei ennill. Drwyr Bil Cyllid byddwn yn codi lwfans personol di-dreth i 贈10,600 flwyddyn nesaf ac i 贈12,500 erbyn diwedd y Senedd hon. A gadewch i ni fod yn glir ynghylch yr hyn y mae hynnyn ei olygu. pobl ar yr incwm isaf yn talu llai o dreth: rhagor o arian yn mynd yn 担l at y bobl sydd ei angen fwyaf.
Byddwn hefyd yn deddfu i wneud yn si典r nad ywr bobl hynny syn gweithio 30 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog yn talu unrhyw dreth incwm o gwbl, a byddwn yn pasio deddf i sicrhau nad oes unrhyw godiad mewn cyfraddau treth incwm, TAW nac Yswiriant Gwladol yn ystod cyfnod y Senedd hon.
Rhan allweddol on cynllun i helpu pobl syn gweithio ywr mesurau y byddwn yn eu cyflwyno i gefnogi busnesau yng Nghymru, - sef y crewyr swyddi go iawn a gwir arwyr yr adferiad economaidd hwn.
Mae tua 230,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru heddiw, cynnydd o 26,000 ers 2010, ac rwyf eisiau gweld y ffigur hwnnwn codi ymhell dros chwarter miliwn erbyn 2020, gyda phob busnes newydd yn cyflwyno swyddi newydd, cyfleoedd a chyfoeth newydd in cenedl.
Ac felly drwyr Bil Menter byddwn yn torri 贈10 biliwn oddi ar gostau rheoleiddio i fusnesau, gan helpu cwmn誰au i dyfu a chreu swyddi a sicrhau bod Prydain yn parhau i fod yn un or econom誰au mwyaf cystadleuol lle gellir cynnal busnes.
Araith y Frenhines: Un Genedl
Ar wah但n i fesurau a fydd yn cryfhau ein cefnogaeth i bobl syn gweithio a sicrhau cyfiawnder cymdeithasol drwy dorri cylchoedd dibyniaeth, bydd ein rhaglen ddeddfwriaethol hefyd yn cryfhaur cysylltiadau syn rhwymo gwahanol rannau ein Teyrnas Unedig ynghyd.
Nid oes unrhyw gwestiwn mai un o heriau gwleidyddol strategol allweddol ein gwaith, ochr yn ochr 但r angen i ailadeiladu ein cyllid cenedlaethol a lleihaur diffyg, ywr cyfansoddiad, a sut rydym yn cyd-fyw fel teulu o genhedloedd.
Ac felly, amcan hollol greiddiol gan y Llywodraeth yn San Steffan yw ceisio cryfhaur Deyrnas Unedig yn Un Genedl.
Mae hynnyn golygu ymateb i her cenedlaetholdeb yn uniongyrchol, oherwydd ein bod yn credun gryf yn yr Undeb - ar gyfer yr holl fudd a chyfuno risg ar cyfle maen ei gynnig i bawb ohonom - ac rydym yn gwybod nad yw hi wedi darfod ar y Deyrnas Unedig hon.
Datganoli
Ond mae hefyd yn golygu cyflawni ar ddatganoli, nid am ein bod yn meddwl y dylem gwrdd 但 chenedlaetholwyr hanner ffordd, ond oherwydd mai rhan greiddiol on hathroniaeth yw cydnabod, yn enwedig yn yr 21ain ganrif, wrth i rymoedd globaleiddio lunio ac ail-lunio ein byd, mair hyn fydd yn allweddol i lwyddiant economaidd ar gyfer cenhedloedd datblygedig fydd gwthio p典er am i lawr a datganoli.
Maen golygu cydnabod nad ywr model hen ffasiwn o wladwriaeth genedl Fictoraidd, wedi ei chanolin helaeth iawn, yn darparur modd i wasgaru grym a gwneud penderfyniadau sydd ei angen mewn oes pan fo gwybodaeth, deallusrwydd a chyfalaf yn symud ar garlam.
Ynghyd 但 hynny mae rhagor o gydnabyddiaeth, a fu ers degawdau bellach, na allwn barhau ag economir Deyrnas Unedig yn dod yn gynyddol unochrog, gyda Llundain a de ddwyrain Lloegr yn brif gynhyrchydd cyfoeth a thwf ar gyfer y Deyrnas Unedig ar ardal honnon edrych yn gynyddol fel dinas-wladwriaeth ynddii hunan.
Fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i ymateb ir angen ymarferol ar frys i adfer cydbwysedd ein heconomi, fel bod cyfoeth yn cael ei greu ai ddosbarthu yn llawer mwy cyfartal a theg ar draws y Deyrnas Unedig
Bil Cymru
Ac felly byddwn yn anrhydeddur ymrwymiadau a wnaethom i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y Senedd ddiwethaf. Yn yr Alban, byddwn yn cadw at ein haddewidion i ddatganoli rhagor o bwerau sylweddol i Senedd yr Alban yn unol ag argymhellion Comisiwn Smith. Yng Ngogledd Iwerddon, byddwn yn bwrw ymlaen 但 Chytundeb T天 Stormont er mwyn helpu i greu dyfodol mwy llewyrchus, sefydlog a diogel ar gyfer pobl yno.
Ac yn hollbwysig ar gyfer siambr hon, byddwn yn gweithredu Cytundeb Dydd G典yl Dewi i fynd ati i ail-ysgrifennur setliad datganoli ar gyfer Cymru yn sylfaenol, iw wneud yn gliriach, yn gryfach ac yn decach. Roedd hwn yn ymrwymiad clir yn ein maniffesto ac yn un y byddwn yn ei gyflawni - yn llawn.
Yn 担l ym mis Hydref, pan ofynnodd y Prif Weinidog i mi yn ystod yr oriau ar 担l y refferendwm yr Alban i edrych eto ar setliad datganoli Cymru, rwyn gwybod bod rhai yn y siambr hon a oedd yn amau lle byddai proses Dydd G典yl Dewi yn arwain.
Ond or eiliad y sychodd yr inc ar y ddogfen Pwerau at Bwrpas a gyhoeddom ar gyfer Dydd G典yl Dewi, cynullais d樽m o swyddogion yn Swyddfa Cymru i ddechrau drafftior ddeddfwriaeth newydd. Ac felly rwyn bwriadu cyhoeddi Bil Cymru ar ffurf drafft yn ystod yr hydref eleni ar gyfer craffu cyn y broses ddeddfu, cyn ei gyflwyno ir Senedd yn gynnar y flwyddyn nesaf. Bydd yn rhywbeth a alwn yn Fil parhad y bydd angen cwblhau ei daith yn ystod ail flwyddyn y Senedd hon, a chael Cydsyniad Brenhinol erbyn dechrau 2017.
Ac ir lleisiau hynny syn mynegi pryder nad yw Bil Cymru yn symud mor gyflym 但 deddfwriaeth yr Alban - gadewch i ni fod yn gwbl glir ynghylch graddfar hyn rydym yn ei wneud yma. Nid atodiad ir trefniadau presennol ar gyfer Cymru yw hwn, na rhyw fath o ategyn ychwanegol maer hyn rydym yn dechrau arno yn golygu ail-ysgrifennur setliad datganoli ar raddfa sylfaenol, y pecyn mwyaf pellgyrhaeddol ac arwyddocaol o bwerau a ddatganolwyd i Gymru erioed. Ac rwyf wedi bod yn glir or diwrnod cyntaf y byddaf yn cymryd yr amser sydd ei angen i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn iawn.
Oherwydd pan fyddwn yn s担n am fodel cliriach, cryfach a thecach o ddatganoli - sydd wrth wraidd ein pecyn Dydd G典yl Dewi - rydym yn golygu cliriach o ran egluro cyfrifoldebau drwy fodel cadw pwerau newydd; cryfach, drwy ddarparu pwerau a chymwyseddau newydd ir lle hwn ac ir Gweinidogion; ac, yn hollbwysig, yn decach, drwy fwrw ymlaen 但n hymrwymiad cyllido teg a mynd ir afael 但r gwendidau o ran sut mae fformiwla Barnett yn gweithredu ar gyfer Cymru.
Madam Lywydd, rwyn falch mai fi yw Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru i fynd ir Trysorlys, i ddadlaur achos dros gyllid teg i Gymru a sicrhaur ymrwymiad hanesyddol hwnnw i arian gwaelodol - fel y cynigiwyd yng Nghomisiwn Holtham.
Ond rwyn credu ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru ddangos ei hymrwymiad ei hun ir pecyn cyfan drwy wneud cynnydd ar y pwerau codi treth incwm sydd ar gael iddin barod.
Nid oes Senedd arall yn y byd nad ywn gyfrifol am godi arian yn ogystal 但i wario.
Ym 1773 chwalodd y Meibion Rhyddid y llongau te yn Harbwr Boston gydar alwad i uno Dim trethiant heb gynrychiolaeth. Wel, yma yng Nghymru mae gennym sefyllfa o chwith, braidd: cynrychiolaeth a phwerau deddfu llawn ond heb gyfrifoldeb ar gyfer trethiant arwyddocaol. Rhan greiddiol o ymddangosiad democratiaeth oedd perthynas gyfunedig rhwng deddfu a chodi arian i ategur ddeddfwriaeth honno rhywbeth canolog i atebolrwydd democrataidd.
Madam Lywydd, mae hwn yn becyn o ddatganoli i Gymru. Ac os oes unrhyw un yma yn meddwl y gellir datgymalur pecyn hwn rywsut, neu y gellir chwarae gemau gwleidyddol gydag unrhyw ran ohono, yna maent mewn perygl o gamddeall yn ddybryd yr hyn rydym yn ceisio ei gyflawni yma, a beth ywr cyfle i ni yng Nghymru.
Maer cyfle i sefydlu setliad datganoli, na fydd yn mynd mor bell ag y byddai Plaid Cymru neu rai pobl eraill yn ei hoffi, efallai, ond sydd, yn fy marn i, yn adlewyrchu lle mae barn gyhoeddus Cymru ar hyn o bryd i gyflawni canlyniad ein Refferendwm ein hunain yn 2011 pan - drwy fwyafrif o ddwy i Un y dywedodd pobl Cymru ie i Gynulliad deddfu llawn. Ond gan gydnabod hefyd bod cefnogaeth ar gyfer annibyniaeth a chwalur Undeb ar lefel is nag erioed, bron 但 bod, yng Nghymru.
Gan fy mod yn credun gryf bod y cyhoedd yng Nghymru yn dyheu i ni symud ymlaen fel cenedl ac ir lle hwn - y Cynulliad Cenedlaethol hwn, y Senedd hon - ddod yn fforwm go iawn ar gyfer trafod, datrys ac ymdeimlad o bwrpas a gweithredu, yn fynegiant on huchelgais cenedlaethol ar gyfer twf economaidd, creu cyfoeth, cyflawniadau addysgol, canlyniadau iechyd or radd flaenaf er mwyn iddo ddarparu atebion ar yr holl faterion syn wirioneddol bwysig ir bobl y maen eu gwasanaethu, nid yn gyfrwng ar gyfer sgwrs ddiddiwedd am ragor o bwerau, neu gynhyrchu consensws diflas syn bodloni ar gyffredinedd, lle mae cyllid yn cael ei ddefnyddio bob amser fel yr esgus cenedlaethol mawr dros beidio 但 chyflawni ein potensial.
Efallai y bydd yn peri tipyn o syndod i chi, Madam Lywydd, na holwyd fi unwaith ar yr un garreg drws ledled Cymru ynghylch rhagor o bwerau neu ddatganoli yn ystod yr ymgyrch etholiadol diweddar.
Mewn gwirionedd, mae pawb ohonom yn gwybod yr hyn roedd y pleidleiswyr yn dymuno ei drafod.
Ac maer datgysylltiad ar gagendor rhwng eu pryderon ar hyn y mae sylwebyddion Cymru yn canolbwyntio arno bob dydd yn enfawr.
Lleoliaeth
Ac oherwydd ein bod ni yng Nghymru yn treulior holl amser yn siarad am ddatganoli rhagor o bwerau ir Cynulliad, rydym mewn perygl o gollir cyfleoedd cyffrous syn trawsnewid rhagolygon economaidd a chymdeithasol rhannau eraill or Deyrnas Unedig.
Rydym ni yng Nghymru mewn perygl o gael ein hongian ar hen fodel o ddatganoli or 20fed ganrif. Ar yr un pryd, rydym yn gweld lleoliaeth a datganoli, datganoli is-genedlaethol, yn ffynnu ar draws gweddill y Deyrnas Unedig mewn ffyrdd na fyddai llawer iawn o bobl wedi gallu ei ragweld yn cael ei ddarparu o Whitehall. A bydd ein Bil Datganoli a Lleoliaeth newydd a gyhoeddwyd yn yr Araith Rasol yn mynd 但r dull radical hwnnw i lefel newydd.
Madam Lywydd, pan fyddaf yn gweld cynghorau cryf dan ofal Llafur yn taro bargeinion gyda Changhellor y Trysorlys ar Trysorlys mewn lleoedd fel Manceinion a Newcastle, neu yn Glasgow - yr holl ardaloedd metro hynny sydd 但 phoblogaethau nad ydynt yn annhebyg i Gymru, gan ddatgloi eu potensial i sbarduno arloesi, twf a chynhyrchiant newydd ar gyfer eu rhanbarthau, nid wyf eisiau gweld Cymru yn cael ei gadael ar 担l.
Oherwydd dylair un synnwyr hwnnw o ddatganoli, grymuso a gwthio pwerau i lawr i gymunedau fod yn nodweddiadol or lle hwn hefyd.
Ac felly bydd Bargen Dinas Caerdydd yn brawf litmws o ddau beth i ni wleidyddion o Gymru: Bydd yn datgelu a ydym ni yng Nghymru yn deall yr agenda ddatganoli ar cyfleoedd cyffrous y maen eu cyflwyno o ran adnewyddiad economaidd a dinesig yma yng Nghymru. Ac yn hanfodol, bydd hefyd yn brawf on pragmatiaeth wleidyddol.
Rydym yn genedl fach ac rwyn credu bod gennym rym mwy nan maint ni pan fyddwn yn cydweithio. Nid wyf yn credu bod rhyfela llwythol hen ffasiwn gwleidyddiaeth Cymru wedi bod o fudd mawr i Gymru dros y blynyddoedd, ac nid wyf yn credu mai dyna beth maer rhan fwyaf o bobl Cymru yn dymuno ei gael gan eu gwleidyddion mewn gwirionedd yn sicr, dynar neges a glywaf yn uchel ac yn glir gan y gymuned fusnes sydd eisiau gweld pragmatiaeth a chydweithio yn dod yn rai o nodweddion gwleidyddiaeth Cymru. Ac maer dull hwnnwn sicr yn un rwyn ceisio ei gyflawni yn ystod fy nghyfnod fel Ysgrifennydd Cymru.
Ac felly, ar 担l i Fil Cymru gael ei basio, bydd y baich yn disgyn ar y lle hwn i fwrw ymlaen 但r agenda leoliaeth ddeinamig syn trawsnewid rhagolygon economaidd dinasoedd, rhanbarthau a siroedd yn Lloegr.
Ond gallaf gyhoeddi heddiw, fel cam cyntaf, y byddwn yn datganolir broses o wneud penderfyniadau ar geisiadau am bob fferm wynt ar y tir - waeth beth ywr capasiti cynhyrchu - i lawr ir lefel leol drwyr Bil Ynni ar ddeddfwriaeth gysylltiedig gan gynnwys yma yng Nghymru.
Bydd y newid hwn yn rhoi rhagor o lais i bobl leol ynghylch a ddylid adeiladu ffermydd gwynt yn eu hardaloedd. Ac yn unol 但 naws Cytundeb Dydd G典yl Dewi, mater ir Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru fydd penderfynu sut dylid ymdrin 但r ceisiadau hyn yn y dyfodol ac a ddylent aros ar y lefel leol.
Casgliad
Credaf fod pob un ohonom yn y Siambr hon yn rhannu gweledigaeth gyffredin ar gyfer Cymru: Cymru syn hyderus, yn allblyg ac yn fwy o rym nag y byddai ei maint yn ei awgrymu yn yr economi fyd-eang.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dechrau ar raglen ddeddfwriaethol gyffrous i helpu i wireddur dyhead hwnnw, ond er mwyn i Gymru lwyddo o ddifri, rhaid i hon fod yn fenter ar y cyd ar y naill ben ar llall ir M4.
Nid wyf eisiau gweld Cymru ar ei h担l hi. Ac felly rwyf yn dod yma heddiw i ddweud ei bod yn bryd i ni roi terfyn ar y drafodaeth ddi-baid am ragor o bwerau sydd wedi nodweddu gwleidyddiaeth Cymru am yr 16 mlynedd ddiwethaf.
Rwyn gwrthod y syniad bod datganoli yn daith ddiddiwedd o ryw fath. Mae pobl Cymru wedi gwrthod annibyniaeth ac maent yn blino ar y diffyg cysylltiad gwleidyddol maent yn ei weld rhwng y materion syn bwysig iddynt hwy ar ddadl am ddatganoli syn ymddangos fel pe bai hin ddiddiwedd y maent yn ein gweld nin ymwneud 但 hi.
A bydd yr hyn fydd yn atgyfnerthu r担l y Cynulliad hwn ym mywyd cenedlaethol Cymru yn fwy na dim ond newid ei enw i Senedd (y bydd gennych y p典er iw wneud yn y dyfodol); yn fwy nag unrhyw becyn o gymwyseddau datganoledig newydd o Lundain i Gaerdydd; yn fwy na galluogi pobl 16 a 17 oed i bleidleisio yng Nghymru (unwaith eto, y bydd gennych y p典er iw wneud yn y dyfodol), ac yn fwy hyd yn oed na rhoi terfyn ar yr Ysgrifennydd Gwladol yn dod yma bob blwyddyn i drafod araith y Frenhines; bydd yn digwydd pan fydd pobl ym mhob rhan o Gymru - yn enwedig y rhai syn teimlo fwyaf pell o Gaerdydd, yn y gogledd ac yn y gorllewin, yn cydnabod bod y Cynulliad hwn yn gwbl hanfodol i fynd ir afael 但r materion canolog sydd o bwys iw bywydau - nid dim ond fforwm ar gyfer cwyno, ond talwrn penderfynu a gweithredu.
Madam Lywydd, rwyn credu y bydd Bil newydd Cymru, a gyhoeddwyd yn araith Ei Mawrhydi fis diwethaf, wedi ei hategu gan gyllid teg a phwerau trethu newydd, yn cynnig y cyfle i Gymru symud ymlaen or ddadl am bwerau ac edrych tuag allan ac at i fyny.
Diolch i chi am y cyfle hwn i siarad heddiw.