Accredited official statistics

Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ebrill 2025

Published 18 June 2025

1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2025

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd 贈265,000

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 3.5%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -2.7%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 101.7

Maer amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mai 2025 am 9.30am ddydd Mercher 16 Gorffennaf 2025. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

Yn natganiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU ir cyfnod adolygu arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodir ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.

Cyn hyn, roedd gan Fynegai Prisiau Tai y DU gyfnod cyfeirio o Ionawr 2015. Yn natganiad Chwefror 2025, diweddarwyd cyfnod cyfeirio Mynegai Prisiau Tai y DU i Ionawr 2023, felly erbyn hyn mae mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd bod Ionawr 2023 yn hafal i 100. Mae ailgyfeirio yn sicrhau bod Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu pris eiddo cyfartalog syn cael ei werthu ar hyn o bryd ac yn symud y gyfres lefel prisiau gyfan ar gyfer pob daearyddiaeth a dadansoddiad gan ganran gyson heb effeithio ar gyfraddau chwyddiant. Darllenwch ragor ar flog y Swyddfa Ystadegau Gwladol a datganiad Mynegai Prisiau Tai y DU 19 Chwefror 2025.

2. Datganiad economaidd

3.5% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025, i lawr or amcangyfrif diwygiedig o 7.0% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025.

贈265,000 oedd pris t天 cyfartalog y DU yn Ebrill 2025 (amcangyfrif dros dro), syn 贈9,000 yn uwch na 12 mis yn 担l. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025 yn Lloegr i 贈286,000 (3.0%), cynyddodd yng Nghymru i 贈210,000 (5.3%) a chynyddodd yn yr Alban i 贈191,000 (5.8%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2025 i 贈185,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.5%).

Ar sail heb ei haddasun dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.7% rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025, oi gymharu 但 chynnydd o 0.5% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn 担l. Ar sail wedi ei haddasun dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.8% rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025.

O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 6.4% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025. De Orllewin Lloegr oedd y rhanbarth gydar chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 0.9% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025.

Adroddodd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod gwanhau pellach ar draws y farchnad werthu, gyda gweithgarwch yn symud yn ddyfnach i dir negyddol.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DUCyllid a Thollau EF ar gyfer Ebrill 2025, ar sail wedi ei haddasun dymhorol, mair nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o 贈40,000 neu fwy oedd 65,000. Mae hyn 28.0% yn is na 12 mis yn 担l (Ebrill 2024). Rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025, lleihaodd trafodion y DU gan 63.5% ar sail wedi ei haddasun dymhorol. Ar sail heb ei haddasun dymhorol rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025, adroddodd Cyllid a Thollau EF fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 70.7% yn Lloegr, wedi lleihau gan 60.3% yng Ngogledd Iwerddon, wedi lleihau gan 9.1% yn yr Alban ac wedi lleihau gan 19.1% yng Nghymru. Maen debygol bod y lleihad sydyn yn nifer trafodion y DU yn Ebrill 2025 (yn enwedig yn Lloegr a Gogledd Iwerddon) yn dilyn y cynnydd sydyn ym Mawrth 2025 yn adlewyrchu prynwyr yn rhuthro i gwblhau prynu eiddo cyn y newidiadau i Dreth Dir y Dreth Stamp ar 1 Ebrill 2025.

Adroddodd datganiad fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, syn ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi lleihau am y pedwerydd mis yn olynol, gyda lleihad o 3,100 i 60,500 yn Ebrill 2025.

Adroddodd farchnad werthu dawel lle mae darpar brynwyr yn ansicr ynghylch yr amgylchedd economaidd. Nid ywr cynnydd yn Nhreth Dir y Dreth Stamp o Ebrill wedi cael effaith sylweddol ar amseriad y trafodiad yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn 担l gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

(CSV, 1KB)

3.5% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025, i lawr or amcangyfrif diwygiedig o 7.0% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025.

贈265,000 oedd pris t天 cyfartalog y DU yn Ebrill 2025 (amcangyfrif dros dro), syn 贈9,000 yn uwch na 12 mis yn 担l. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025 yn Lloegr i 贈286,000 (3.0%), cynyddodd yng Nghymru i 贈210,000 (5.3%) a chynyddodd yn yr Alban i 贈191,000 (5.8%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2025 i 贈185,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.5%).

3.2 Pris cyfartalog yn 担l gwlad a rhanbarth swyddfar llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn 担l gwlad a rhanbarth swyddfar llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfar llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru 贈210,077 0.3% 5.3%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 2025) 贈185,037 1.0% 9.5%
Lloegr 贈286,327 -3.7% 3.0%
Yr Alban 贈191,061 2.1% 5.8%
De Ddwyrain Lloegr 贈380,428 -2.0% 3.0%
De Orllewin Lloegr 贈300,633 -3.8% 0.9%
Dwyrain Canolbarth Lloegr 贈236,710 -3.6% 3.8%
Dwyrain Lloegr 贈332,160 -3.8% 2.0%
Gorllewin Canolbarth Lloegr 贈239,533 -4.6% 2.6%
Gogledd Ddwyrain Lloegr 贈156,010 -8.1% 6.4%
Gogledd Orllewin Lloegr 贈204,760 -6.4% 3.1%
Llundain 贈566,614 2.6% 3.3%
Swydd Gaerefrog a Humber 贈199,642 -6.1% 4.0%

(CSV, 1KB)

Newidiadau mewn prisiau yn 担l gwlad a rhanbarth swyddfar llywodraeth

Ar sail heb ei haddasun dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.7% rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025, oi gymharu 但 chynnydd o 0.5% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn 担l. Ar sail wedi ei haddasun dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.8% rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025.

3.3 Pris cyfartalog yn 担l math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn 担l math o eiddo

Math o eiddo Ebrill 2025 Ebrill 2024 Gwahaniaeth
T天 sengl 贈436,480 贈415,853 5.0%
T天 p但r 贈269,417 贈256,304 5.1%
T天 teras 贈219,831 贈213,888 2.8%
Fflat neu fflat deulawr 贈195,017 贈193,853 0.6%
Holl 贈265,497 贈256,478 3.5%

(CSV, 1KB)

4. Nifer y gwerthiannau

Yn 2024, roedd Cofrestrfa Tir EF wedi dychwelyd yn llwyddiannus i brosesu dros 40% or amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU (y targed a bennwyd yn y cyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU). Mae amcangyfrifon nifer y gwerthiannau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer cyfnodau cynharach ac eiddo a adeiledir or newydd yn parhaun is nar cyfartaleddau hanesyddol, ond yn gwella o hyd. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag yn hanesyddol a dylent nodir ansicrwydd uwch ynghylch prisiau eiddo a adeiledir or newydd.

Maer Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi bod yn adolygu methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU, gydar nod o leihau diwygiadau yn amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU. Maer Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi nodi gwelliant methodoleg ar gyfer cyfrifiadau misol Prydain Fawr, sydd wedi ei gytuno ar y cyd. Bwriadwn weithredur gwelliant hwn ym Mynegai Prisiau Tai y DU dros y misoedd nesaf. Darllenwch ragor ym mhapur dulliau cyfrifo misol Mynegai Prisiau Tai y DU.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn 担l gwlad

Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ebrill 2025 yn seiliedig ar oddeutu 16,200 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 6,100 ar gyfer yr Alban, a 1,700 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 44% or amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Ebrill 2025, fel y manylir yn ei gyhoeddiad Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth 贈40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol 但rpolisi diwygiadaua gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.

Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad ansawddCyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihaur gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle maer prynwr neur gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neun fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond wedi cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.

Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygiadau, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.

Gan gymharur amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol 但r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Chwefror 2025 Chwefror 2024
Lloegr 40,745 47,183
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 2025) 1,822 1,616
Yr Alban 6,100 5,541
Cymru 2,045 2,541

Sylwer: Gan gymharur amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol 但r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.

(CSV, 1KB)

Sylwer: Maer golofn Gwahaniaeth wedi cael ei symud ymaith or tabl hwn oherwydd nid yw datar mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadauam ragor o wybodaeth.

Gan gymharur amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2024 但r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 103.7% yn Lloegr, gan 11.3% yn yr Alban a chan 78.3% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 20.6% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2025.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DUa gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (syn wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasun dymhorol, yn y 12 mis hyd at Chwefror 2025, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 27.2% yn Lloegr, wedi cynyddu gan 10.6% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 21.3% yng Nghymru, ac wedi cynyddu gan 28.9% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2020 i 2024 yn 担l gwlad: Ionawr

(CSV, 1KB)

Sylwer: Maer golofn Gwahaniaeth wedi cael ei symud ymaith or tabl hwn oherwydd nid yw datar mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadauam ragor o wybodaeth.

Gan gymharur amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2024但r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2025, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 80.2%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DUa gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (syn wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasun dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF ar gyfer y DU wedi cynyddu gan 25.7% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2025.

Tai a adeiledir or newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Chwefror 2025 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir or newydd 贈406,407 11.1% 25.7%
Eiddo presennol a ailwerthwyd 贈261,953 0.1% 4.2%

(CSV, 1KB)

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau in model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn iw gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Ebrill 2025 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf 贈223,452 -3.6% 3.1%
Cyn berchen-feddiannydd 贈328,300 -1.7% 3.9%

(CSV, 1KB)

6. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Ebrill 2025 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod 贈252,296 -3.0% 2.7%
Morgais 贈274,913 -2.7% 3.8%

(CSV, 1KB)

7. Cyrchur data

Mae modd llwythor data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gydan .

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

8. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, , ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

Un or prif ffactorau syn penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddior dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.

Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio or model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, maer eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Maer gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

9. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd T樽m Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ff担n 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ff担n 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ff担n 028 90 336035

Anne MacDonald, Rheolwr T樽m Data Tir ac Eiddo, Cofrestrir Alban

Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk

Ff担n 0131 378 4991