Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mawrth 2025
Published 21 May 2025
1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2025
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd 贈271,000
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 6.4%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.1%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 104.0
Maer amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2025 am 9.30am ddydd Mercher 18 Mehefin 2025. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
Yn natganiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU ir cyfnod adolygu arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodir ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.
Cyn hyn, roedd gan Fynegai Prisiau Tai y DU gyfnod cyfeirio o Ionawr 2015. Yn natganiad Chwefror 2025, diweddarwyd cyfnod cyfeirio Mynegai Prisiau Tai y DU i Ionawr 2023, felly erbyn hyn mae mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd bod Ionawr 2023 yn hafal i 100. Mae ailgyfeirio yn sicrhau bod Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu pris eiddo cyfartalog syn cael ei werthu ar hyn o bryd ac yn symud y gyfres lefel prisiau gyfan ar gyfer pob daearyddiaeth a dadansoddiad gan ganran gyson heb effeithio ar gyfraddau chwyddiant. Darllenwch ragor ar flog y Swyddfa Ystadegau Gwladol a datganiad Mynegai Prisiau Tai y DU 19 Chwefror 2025.
2. Datganiad economaidd
6.4% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025, i fyny or amcangyfrif diwygiedig o 5.5% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2025.
贈271,000 oedd pris t天 cyfartalog y DU ym Mawrth 2025 (amcangyfrif dros dro), syn 贈16,000 yn uwch na 12 mis yn 担l. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025 yn Lloegr i 贈296,000 (6.7%), cynyddodd yng Nghymru i 贈208,000 (3.6%) a chynyddodd yn yr Alban i 贈186,000 (4.6%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2025 i 贈185,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.5%).
Ar sail heb ei haddasun dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.1% rhwng Chwefror 2025 a Mawrth 2025, oi gymharu 但 chynnydd o 0.2% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn 担l. Ar sail wedi ei haddasun dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.4% rhwng Chwefror 2025 a Mawrth 2025.
O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 14.3% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025. Llundain oedd y rhanbarth gydar chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 0.8% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025.
Adroddodd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod dangosyddion ymholiadau gan brynwyr a gwerthiannau a gytunwyd wedi symud yn ddyfnach i dir negyddol. Adroddodd RICS hefyd fod prisiau tai yn lefelu i raddau helaeth dros y misoedd diwethaf ar draws y rhan fwyaf o rannaur DU, er bod yr Alban a Gogledd Iwerddon yn parhau i ddangos tuedd ar i fyny fwy gwydn.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DUCyllid a Thollau EF ar gyfer Mawrth 2025, ar sail wedi ei haddasun dymhorol, mair nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o 贈40,000 neu fwy oedd 177,000. Mae hyn 104.3% yn uwch na 12 mis yn 担l (Mawrth 2024). Rhwng Chwefror 2025 a Mawrth 2025, cynyddodd trafodion y DU gan 61.7% ar sail wedi ei haddasun dymhorol. Ar sail heb ei haddasun dymhorol, adroddodd Cyllid a Thollau EF fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 89% a 47% yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn y drefn honno, tra bod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 15% ac 19% yn unig yn yr Alban a Chymru, yn y drefn honno. Maer cynnydd sydyn yn nifer trafodion y DU ym Mawrth 2025 (yn enwedig yn Lloegr a Gogledd Iwerddon) i lefelau nas welwyd er 2021 (pan gafwyd newidiadau blaenorol ir Dreth Stamp), yn debygol o adlewyrchu prynwyr yn rhuthro i gwblhau prynu eiddo cyn y newidiadau ir Dreth Stamp ar 1 Ebrill 2025 yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Adroddodd datganiad fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, syn ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi lleihau am y trydydd mis yn olynol, gyda lleihad o 800 i 64,300 ym Mawrth 2025.
粥糸姻看糸糸看糸糸油 farchnad werthu dawel lle mae darpar brynwyr yn ansicr ynghylch yr amgylchedd economaidd. Nid ywr cynnydd yn Nhreth Tir y Dreth Stamp o Ebrill wedi cael effaith sylweddol ar amseriad y trafodiad yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn 担l gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf
(CSV, 1KB)
6.4% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025, i fyny or amcangyfrif diwygiedig o 5.5% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2025.
贈271,000 oedd pris t天 cyfartalog y DU ym Mawrth 2025 (amcangyfrif dros dro), syn 贈16,000 yn uwch na 12 mis yn 担l. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025 yn Lloegr i 贈296,000 (6.7%), cynyddodd yng Nghymru i 贈208,000 (3.6%) a chynyddodd yn yr Alban i 贈186,000 (4.6%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2025 i 贈185,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.5%).
3.2 Pris cyfartalog yn 担l gwlad a rhanbarth swyddfar llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn 担l gwlad a rhanbarth swyddfar llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfar llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | 贈208,093 | 0.2% | 3.6% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 2025) | 贈185,037 | 1.0% | 9.5% |
Lloegr | 贈295,654 | 1.3% | 6.7% |
Yr Alban | 贈185,939 | 0.4% | 4.6% |
De Ddwyrain Lloegr | 贈386,316 | 0.4% | 5.3% |
De Orllewin Lloegr | 贈310,837 | 0.7% | 5.3% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 贈243,973 | 0.7% | 7.1% |
Dwyrain Lloegr | 贈343,876 | 1.4% | 6.5% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 贈250,015 | 1.2% | 7.8% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 贈168,227 | 4.2% | 14.3% |
Gogledd Orllewin Lloegr | 贈217,063 | 2.5% | 9.4% |
Llundain | 贈552,073 | -0.3% | 0.8% |
Swydd Gaerefrog a Humber | 贈211,155 | 2.3% | 9.5% |
(CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn 担l gwlad a rhanbarth swyddfar llywodraeth

Ar sail heb ei haddasun dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.1% rhwng Chwefror 2025 a Mawrth 2025, oi gymharu 但 chynnydd o 0.2% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn 担l. Ar sail wedi ei haddasun dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.4% rhwng Chwefror 2025 a Mawrth 2025.
3.3 Pris cyfartalog yn 担l math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn 担l math o eiddo
Math o eiddo | Mawrth 2025 | Mawrth 2024 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
T天 sengl | 贈437,325 | 贈416,298 | 5.1% |
T天 p但r | 贈275,162 | 贈254,265 | 8.2% |
T天 teras | 贈228,968 | 贈211,943 | 8.0% |
Fflat neu fflat deulawr | 贈199,520 | 贈193,000 | 3.4% |
Holl | 贈271,415 | 贈255,082 | 6.4% |
(CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Yn 2024, roedd Cofrestrfa Tir EF wedi dychwelyd yn llwyddiannus i brosesu dros 40% or amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU (y targed a bennwyd yn y cyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU). Mae amcangyfrifon nifer y gwerthiannau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer cyfnodau cynharach ac eiddo a adeiledir or newydd yn parhaun is nar cyfartaleddau hanesyddol, ond yn gwella o hyd. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag yn hanesyddol a dylent nodir ansicrwydd uwch ynghylch prisiau eiddo a adeiledir or newydd.
Mae gwelliannau posibl ir fethodoleg yn cael eu harchwilio, gydar nod o leihau diwygiadau yn amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU. Darllenwch ragor ym gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn 担l gwlad
Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mawrth 2025 yn seiliedig ar oddeutu 58,600 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 6,400 ar gyfer yr Alban, a 1,800 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 41% or amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Mawrth 2025, fel y manylir yn ei gyhoeddiad Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth 贈40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol 但rpolisi diwygiadaua gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.
Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad ansawddCyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihaur gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle maer prynwr neur gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neun fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond yn cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.
Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygiadau, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Gan gymharur amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol 但r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Gwlad | Ionawr 2025 | Ionawr 2024 |
---|---|---|
Lloegr | 36,265 | 41,790 |
Gogledd Iwerddon | 1,822 | 1,616 |
Yr Alban | 6,813 | 6,139 |
Cymru | 1,874 | 2,082 |
Sylwer: Gan gymharur amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol 但r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.
(CSV, 1KB)
Sylwer: Maer golofn Gwahaniaeth wedi cael ei symud ymaith or tabl hwn oherwydd nid yw datar mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2025 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadauam ragor o wybodaeth.
Gan gymharur amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2024 但r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 87.3% yn Lloegr, gan 12.7% yn yr Alban, a chan 80.0% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 20.6% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2025.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DUa gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (syn wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasun dymhorol, yn y 12 mis hyd at Ionawr 2025, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 23.0% yn Lloegr, gan 12.9% yn yr Alban, gan 22.2% yng Nghymru, a chan 19.5% yng Ngogledd Iwerddon.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2020 i 2024 yn 担l gwlad: Ionawr
(CSV, 1KB)
Sylwer: Maer golofn Gwahaniaeth wedi cael ei symud ymaith or tabl hwn oherwydd nid yw datar mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadauam ragor o wybodaeth.
Gan gymharur amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2024但r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2025, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 67.3%.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DUa gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (syn wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasun dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF ar gyfer y DU wedi cynyddu gan 22.0% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2025.
Tai a adeiledir or newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog Ionawr 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir or newydd | 贈381,055 | -0.7% | 17.1% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | 贈261,959 | 0.2% | 3.7% |
(CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau in model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn iw gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog Mawrth 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | 贈230,857 | 1.7% | 7.1% |
Cyn berchen-feddiannydd | 贈331,844 | 0.4% | 5.4% |
(CSV, 1KB)
6. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
Statws cyllido | Pris cyfartalog Mawrth 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | 贈258,369 | 1.1% | 5.5% |
Morgais | 贈281,080 | 1.1% | 6.7% |
(CSV, 1KB)
7. Cyrchur data
Mae modd llwythor data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gydan .
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
8.油禽看壊恢温姻岳鞄庄温糸温顎 trafodion tai
Rhwng Hydref a Rhagfyr 2024, cafwyd 190,576 o werthiannau eiddo.
Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:
- Lloegr oedd 贈225,000 i 贈249,999 prynwyd 9,975 o eiddo
- Yr Alban oedd 贈125,000 i 贈149,999 prynwyd 2,590 o eiddo
- Cymru oedd 贈150,000 i 贈174,999 prynwyd 1,019 o eiddo
- Gogledd Iwerddon oedd 贈175,000 i 贈199,999 prynwyd 872 o eiddo
Maer siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2024 ar gyfer gwledydd y DU. Maer data ar gyfer Prydain Fawr mewn bandiau o 贈25,000 hyd at 贈10 miliwn, ac yna band mwy am dros 贈10 miliwn. Cyflwynir data ar gyfer Gogledd Iwerddon mewn bandiau o 贈25,000 i 贈500,000, ac yna band mwy am dros 贈500,000.
Yn unol 但pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, , ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
Un or prif ffactorau syn penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddior dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.
Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio or model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, maer eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Maer gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd T樽m Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ff担n 0300 006 5288
Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost aimee.north@ons
Ff担n 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ff担n 028 90 336035
Anne MacDonald, Rheolwr T樽m Data Tir ac Eiddo, Cofrestrir Alban
Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk
Ff担n 0131 378 4991