Cael mynediad at wasanaethau ar-lein CThEF gan ddefnyddio 51²è¹Ý One Login
Cael gwybod sut y bydd 51²è¹Ý One Login yn berthnasol i chi, a phryd y gallwch ddisgwyl dechrau ei ddefnyddio.
Beth yw 51²è¹Ý One Login
Ffordd newydd o fewngofnodi i wasanaethau’r Llywodraeth (yn Saesneg) yw 51²è¹Ý One Login. Mae’n cynnig ffordd syml i chi fewngofnodi a phrofi pwy ydych gan ddefnyddio e-bost a chyfrinair.Â
Yn y pen draw, bydd 51²è¹Ý One Login yn disodli’r holl ffyrdd eraill o fewngofnodi, gan gynnwys Porth y Llywodraeth — sef y ffordd y mae sawl cwsmer a busnes yn mewngofnodi ar hyn o bryd. Â
Yr hyn y mae’n ei olygu i chi Â
Gofynnir i chi greu cyfrif 51²è¹Ý One Login yn awtomatig. Ni fydd hyn yn digwydd i bawb ar yr un pryd, a does dim angen i chi wneud unrhyw beth oni bai ein bod yn gofyn i chi wneud hynny.Â
Bydd y cwsmeriaid hynny sydd heb fanylion mewngofnodi presennol ar gyfer CThEF ar-lein ymhlith y cyntaf i greu cyfrif 51²è¹Ý One Login.Â
Ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth yn wahanol er mwyn cael mynediad at wasanaethau ar-lein CThEF, hyd nes y byddwn yn gofyn i chi.Â
Pan ofynnir i chi greu cyfrif 51²è¹Ý One Login, mae’n bosibl y bydd angen i chi fodloni proses newydd o awdurdodi a phrofi pwy ydych (yn Saesneg), felly sicrhewch fod gennych ddogfennau adnabod wrth law, megis pasbort neu drwydded yrru. Â
Os ydych yn asiant treth neu’n sefydliad â chyfrif treth busnes, byddwch yn parhau i fewngofnodi gan ddefnyddio Porth y Llywodraeth hyd nes y gofynnir i chi greu cyfrif 51²è¹Ý One Login.