Canllawiau

Gwneud cais i ffeilio gyda Thŷ'r Cwmnïau gan ddefnyddio meddalwedd

Bydd angen i chi wneud cais am gyfrif i ffeilio gan ddefnyddio meddalwedd. Bydd y cyfrif sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar a ydych chi'n ffeilio cyfrifon cwmni a dogfennau sydd â ffi.

Defnyddio meddalwedd ar gyfer ffeilio sydd â ffi

Mae angen cyfrif credyd Tŷ’r Cwmnïau arnoch i ffeilio dogfennau sydd â ffi ffeilio. Er enghraifft, corffori cwmnïau a datganiadau cadarnhau.

Byddwch hefyd yn gallu ffeilio cyfrifon a dogfennau heb ffi gan ddefnyddio’r cyfrif hwn.

Gwnewch gais am gyfrif credyd Tŷ’r Cwmnïau i ffeilio gan ddefnyddio meddalwedd.

Defnyddio meddalwedd ar gyfer ffeilio heb ffi

Os oes angen i chi ffeilio cyfrifon cwmni yn unig, a dogfennau heb ffi ffeilio, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wneud cais am gyfrif cyflwynydd.

Beth fydd ei angen arnoch

Bydd angen i chi:

  • fewngofnodi neu greu cyfrif
  • cofnodi enw a chyfeiriad gohebiaeth ar gyfer y cyfrif
  • cofnodi enw, neu rif cwmni y busnes rydych chi’n gweithio iddo

Mae’n cymryd tua 5 munud i wneud cais.

Mae’r gwasanaeth hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

. Er enghraifft, newid y cefndir, lliw neu faint y testun.

Beth i wneud os ydych wedi colli manylion eich cyfrif cyflwynydd

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gyflwyno cais. Byddwn yn anfon manylion cyfrif newydd atoch.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cyfrif.

Ffeilio dogfennau arwystl (morgais)

Os oes angen i chi ffeilio dogfennau arwystl (morgais) ar gyfer cwmnïau eraill, mae’n rhaid i chi gofrestru fel benthyciwr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 Gorffennaf 2025 show all updates
  1. Redrafted guidance. The account you need will depend on whether you’re filing company accounts and documents that have a fee.

  2. Wording added to summary for clarity. You can only use this service to apply for a presenter account to file documents that do not have a filing fee.

  3. Service is now available in Welsh.

  4. New content added to the service. Users need to give the name of the business or the company number if registered with Companies House.

  5. First published.

Argraffu'r dudalen hon