Canllawiau

Gwneud cais i wneud taliad ar gyfer datganiadau gohiriedig gorddyledus

Defnyddiwch y ffurflen hon er mwyn rhoi gwybodaeth i ni am unrhyw ddatganiadau mewnforio gohiriedig gorddyledus er mwyn i chi allu talu taliadau tollau dyledus.

Cyn i chi wneud cais

  1. Bydd angen i chi wirio a ydych yn gymwys i wneud cais i wneud taliad am ddatganiadau gohiriedig gorddyledus.

  2. Dylech ond cysylltu â ni dros y ffôn er mwyn cadarnhau cymhwystra.

  3. Dylech ond gwneud cais os ydym yn cadarnhau eich bod yn gymwys i wneud hynny.

Os nad ydych wedi cysylltu â CThEM hyd yn hyn, dylech wneud hynny.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Er mwyn cwblhau’r ffurflen, bydd angen y canlynol arnoch:

  • rhif EORI
  • y manylion mewnforio – dylech fod wedi cadw’r rhain yn eich cofnodion eich hun

Os nad oes gennych EORI, gallwch wirio arweiniad ar sut i gofrestru ar gyfer rhif EORI.

Bydd angen i chi gwblhau ffurflen ar wahân ar gyfer pob math o nwyddau rydych yn eu datgan dros gyfnod o 10 diwrnod.

Os ydych wedi rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar y nwyddau rydych yn eu datgan, dylech wirio arweiniad i gael rhagor o wybodaeth.

Sut i wneud cais

  1. Argraffwch a llenwch y ffurflen.

  1. Sganiwch neu tynnwch lun o’r ffurflen a’i e-bostio i: customsaccountingrepayments@hmrc.gov.uk – rhowch ‘C18 – datganiad gohiriedig’ yn y llinell pwnc.

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Cael gwybod pa mor hygyrch yw ein ffurflenni.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Pan fydd eich ffurflen yn dod i law, byddwn yn adolygu unrhyw daliadau sy’n orddyledus ac yn cadarnhau unrhyw falans sy’n weddill ac sy’n ddyledus.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 Tachwedd 2021 show all updates
  1. Information has been added at the end of the notes section in the 'Apply to pay outstanding charges for delayed declarations' form, explaining what to do if you feel you are digitally excluded.

  2. A Welsh translation of this page has been added.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon