Canllawiau

Gwirio gohebiaeth ddilys CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu

Gwiriwch gysylltiadau diweddar gan CThEF i’ch helpu i benderfynu a allai e-bost, galwad ffôn, neges destun neu lythyr amheus fod yn sgam.

Weithiau mae CThEF yn defnyddio mwy nag un ffordd o gysylltu. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi drwy lythyr yn gyntaf cyn dilyn hwn i fyny gydag e-bost, galwad neu neges destun. Mae hyn oherwydd:

  • mae’n gallu darparu lefel ychwanegol o ddiogelwch
  • mae’n gallu helpu i baratoi cwsmeriaid ar gyfer yr ohebiaeth ddilynol
  • rhain yw’r manylion cyswllt sydd gan CThEF ar eich cyfer

Gall pob gohebiaeth gan CThEF a restrir ar y dudalen hon ddefnyddio mwy nag un dull cyfathrebu.

Arolwg ar gyfer asiantau, busnesau bach a busnesau o faint canolig

O 14 Gorffennaf 2025 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2026, mae’n bosibl y byddwch yn cael e-bost, llythyr neu alwad ffôn oddi wrth IFF Research.

Mae CThEF yn gweithio gydag IFF Research i ddeall argraffau a phrofiadau defnyddwyr o gyfathrebu â CThEF.

Bydd yr ymchwil yn helpu i lywio’r ffordd y bydd CThEF yn delio â busnesau yn y dyfodol.

Mae’n bosibl y bydd IFF Research yn cysylltu â chi i’ch gwahodd i lenwi arolwg ar-lein os ydych yn un o’r canlynol:

  • busnes bach
  • busnes o faint canolig
  • asiant

Os bydd IFF Research yn cysylltu â chi, mae’n bosibl y bydd gofyn i chi wneud y canlynol:

  • cymryd rhan mewn arolwg
  • cymryd rhan mewn cyfweliad
  • helpu gyda phrofi datrysiadau posibl

Ni fydd angen i chi roi unrhyw fanylion am eich materion treth.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Bydd yr holl wybodaeth a roddir:

  • yn gyfrinachol

  • yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Asiantau — paratoi ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

O 19 Mai 2025 hyd at a chan gynnwys 12 Medi 2025, mae’n bosibl y byddwch yn cael e-bost, galwad ffôn neu lythyr oddi wrth Verian.

Mae CThEF yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil annibynnol, Verian, i ddeall pa mor barod yw asiantau ar gyfer y gofynion o ran Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os ydych yn asiant, mae’n bosibl y bydd Verian yn cysylltu â chi.

Os bydd rhywun yn cysylltu â chi, efallai y bydd yn gofyn i chi gymryd rhan yn y canlynol:

  • arolwg

  • cyfweliad dilynol

Ni ofynnir i chi am unrhyw wybodaeth ariannol na gwybodaeth am eich materion treth.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Bydd yr holl wybodaeth a roddir:

  • yn gyfrinachol

  • yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Ymchwil i’r Gwasanaeth Cais i Gymryd Camau

O 21 Gorffennaf 2025 hyd at a chan gynnwys 8 Medi 2025, mae’n bosibl y byddwch yn cael e-bost, llythyr neu alwad ffôn oddi wrth Ipsos.

Bydd CThEF yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil annibynnol, Ipsos, i gynnal ymchwil i’r sawl sydd â hawliau eiddo deallusol er mwyn deall eu hymwybyddiaeth o Gais i Gymryd Camau CThEF, a sut y maent yn ei ddefnyddio.

Bydd yr ymchwil hon yn helpu CThEF i wneud y canlynol:

  • gwella effeithiolrwydd y Cais i Gymryd Camau

  • rhoi cymorth gwell i fusnesau

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Bydd yr holl wybodaeth a roddir:

  • yn ddienw

  • yn gyfrinachol

  • yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Ymchwil i gostau a buddsoddiadau busnes

O 1 Awst 2025 hyd at a chan gynnwys 30 Tachwedd 2025, mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr, galwad ffôn neu e-bost oddi wrth Ipsos.

Mae CThEF yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil Ipsos i archwilio profiadau o fuddsoddiadau busnes ac i gasglu gwybodaeth am y costau sydd ynghlwm wrth brosiectau buddsoddiad busnes.

Os cewch eich gwahodd i gymryd rhan yn yr ymchwil hon, mae gwneud hynny’n gwbl wirfoddol. Bydd yr holl fanylion ac ymatebion a rowch:

  • yn gyfrinachol
  • yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Ni fydd modd i CThEF adnabod y sawl sy’n cymryd rhan.

Newidiadau i’ch cod treth 

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost neu neges destun.

Os ydym o’r farn eich bod wedi cael cod treth anghywir ar ôl dechrau swydd newydd, mae’n bosibl y byddwch yn cael e-bost neu neges destun yn egluro y bydd eich cod treth yn newid.

Ni ofynnir i chi am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol, na gwybodaeth am y busnes.

Mae’n bosibl y byddwn yn eich cyfeirio at:

Hawliadau am TAW a ordalwyd ar incwm o beiriannau hapchwarae — hawliadau tenant o gwmni tafarn

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr neu dros y ffôn.

Rydym yn cysylltu â thenantiaid o gwmnïau tafarn sydd wedi gwneud hawliadau ar ran eu tenantiaid am TAW a ordalwyd ar incwm o beiriannau hapchwarae.

Os byddwn yn cysylltu â chi, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i chi pa gwmni tafarn wnaeth yr hawliad ar eich rhan

  • gofyn i chi a ydych am barhau â’r hawliad

Os ydych eisiau gwneud hawliad, byddwn yn gofyn i chi am fanylion eich cyfrif banc os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW mwyach.

Perthynas rhwng y cleient a’r ymgynghorydd treth

O 20 Mai 2025 hyd at a chan gynnwys 26 Medi 2025, mae’n bosibl y byddwch yn cael e-bost, galwad ffôn neu lythyr oddi wrth Ipsos UK.

Mae CThEF yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil annibynnol, Ipsos UK, i archwilio’r berthynas rhwng cleientiaid a’u hymgynghorwyr treth.

Mae’n bosibl y bydd Ipsos UK yn cysylltu â chi os ydych wedi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad, Treth Gorfforaeth neu TAW ac wedi awdurdodi ymgynghorydd treth i ddelio â CThEF ar eich rhan.

Os bydd rhywun yn cysylltu â chi, efallai y bydd yn gofyn i chi gymryd rhan yn y canlynol:

  • arolwg ar-lein

  • arolwg dros y ffôn

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Bydd yr holl wybodaeth a roddir:

  • yn gyfrinachol

  • yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Treth Gorfforaeth — gwaith ymchwil i’r amser rhwng ymgorffori a chyflwyno am y tro cyntaf

O 31 Gorffennaf 2025 hyd at a chan gynnwys 21 Awst 2025, efallai y byddwch yn cael e-bost neu alwad ffôn oddi wrth People for Research.

Mae CThEF yn gweithio gyda’r asiantaeth ymchwil annibynnol, People for Research, i ddeall profiadau busnesau o’r amser rhwng ymgorffori a chyflwyno Ffurflen Treth Gorfforaeth am y tro cyntaf.

Os bydd rhywun yn cysylltu â chi, efallai y bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn cyfweliad.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Bydd yr holl wybodaeth a roddir:

  • yn gyfrinachol

  • yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Treth Gorfforaeth — deall busnesau bach sy’n cyflwyno cyfrifon y cwmni neu Ffurflenni Treth

O 7 Gorffennaf 2025 hyd at a chan gynnwys 20 Hydref 2025, mae’n bosibl y byddwch yn cael e-bost, llythyr neu alwad ffôn oddi wrth Ipsos.

Mae CThEF yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil annibynnol Ipsos i ddeall profiadau busnesau bach sy’n delio â Threth Gorfforaeth wrth gyflwyno cyfrifon y cwmni a Ffurflenni Treth gyda CThEF.

Nod yr ymchwil hon yw gwella’r profiadau o berchnogion busnesau bach.

Os bydd rhywun yn cysylltu â chi, mae’n bosibl y bydd gofyn i chi wneud y canlynol:

  • cymryd rhan mewn cyfweliad
  • cwblhau arolwg

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Bydd yr holl wybodaeth a roddir:

  • yn gyfrinachol
  • yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Hysbysiad i ddeiliaid data

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr, drwy e-bost neu dros y ffôn.

Os ydych wedi cael naill ai hysbysiad ffurfiol neu hysbysiad ffurfiol o asesiadau drwy lythyr, efallai y bydd Canolfan Caffael a Chyfnewid Data CThEF yn cysylltu â chi neu’ch cynrychiolwyr i drafod hyn â chi.

Efallai y byddwch yn cael galwad ffôn neu e-bost i’ch helpu i ddilyn deddfwriaeth casglu data CThEF.

Goruchwyliaeth troseddau economaidd

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr, e-bost, neges destun neu dros y ffôn.

Diben goruchwyliaeth troseddau economaidd yw gwneud y canlynol:

  • amddiffyn y DU rhag y risg o wyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth

  • helpu busnesau i ddeall eu risgiau a’u hymrwymiadau

  • atal diffyg cydymffurfio

  • dod o hyd i fusnesau sydd heb eu cofrestru a mynd i’r afael â nhw

  • cynnal ymyriadau effeithiol ar sail risg a gwybodaeth

Er mwyn gwneud hyn, bydd CThEF yn:

  • cysylltu â busnesau drwy lythyr a thros y ffôn

  • cynnal ymweliadau cydymffurfio

  • anfon hysbysiadau drwy e-bost a thrwy negeseuon testun

  • cynnig addysg ar-lein i sicrhau bod busnesau’n bodloni rheoliadau gwyngalchu arian

Cymorth i Gynilo — cais i ddiweddaru’ch manylion banc

Efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr, drwy e-bost neu dros y ffôn.

Efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi ynghylch yr arian yn eich cyfrif Cymorth i Gynilo nad ydym yn gallu ei dalu i chi gan fod gennym y manylion banc anghywir.

Byddwn yn gofyn i chi ddiweddaru’ch manylion banc yn eich cyfrif Cymorth i Gynilo. Unwaith y bydd eich manylion banc yn gywir, byddwn yn talu unrhyw daliadau sy’n ddyledus yn awtomatig.

Gallwch ffonio’r linell ar gyfer Cymorth i Gynilo (yn agor tudalen Saesneg) i gadarnhau bod y cais i ddiweddaru’ch manylion banc yn ddilys.

Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel — gwirio a oes angen i chi dalu’r tâl

O 21 Gorffennaf 2025 hyd at a chan gynnwys 1 Medi 2025, efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr neu neges destun.

Byddwn yn gofyn i chi wirio a oes angen i chi dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024.

Os oes angen i chi dalu’r tâl, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad erbyn 30 Medi 2025.

Os byddwn yn cysylltu â chi, ni fyddwn yn cynnwys nac yn gofyn am unrhyw un o’r canlynol:

  • manylion personol
  • gwybodaeth ariannol

Arolwg CThEF ynghylch gwiriadau cydymffurfio

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost neu lythyr ar ôl i wiriad cydymffurfio, gwiriad Isafswm Cyflog Cenedlaethol, neu wiriad gwarantau gael ei gau.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi yn dilyn gwiriad cydymffurfio, gwiriad Isafswm Cyflog Cenedlaethol, neu wiriad gwarantau, er mwyn cwblhau arolwg byr ynghylch eich profiad yn ystod y gwiriad. Bydd yr arolwg yn galluogi CThEF i ddysgu a oes angen i ni wella’r ffordd rydym yn cynnal gwiriadau.

Mae’r arolwg yn wirfoddol ac ni fydd yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r gweithiwr achos a ddeliodd â’ch gwiriad.

Ymchwil i lythyrau cwsmeriaid oddi wrth CThEF

O 1 Mai 2025 hyd at a chan gynnwys 30 Medi 2025, efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy e-bost i’ch gwahodd i arolwg dros y ffôn.

Bydd yr arolwg yn galluogi chi i rannu’ch profiadau o gael llythyrau oddi wrth CThEF.

Bydd eich adborth chi yn cael ei ddefnyddio i’n helpu ni gyda gwella ein gwasanaethau i gwsmeriaid.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Bydd yr holl wybodaeth a roddir:

  • yn gyfrinachol
  • yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Ymchwil CThEF er mwyn deall gwahaniaethau o ran sut y mae’r gyfraith treth yn cael ei dehongli

O 12 Mai 2025 hyd at a chan gynnwys 30 Medi 2025, mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr gan CThEF. Yna, bydd e-bost neu alwad ffôn i ddilyn gan y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen).

Mae CThEF yn gweithio ar y cyd â NatCen, sy’n asiantaeth ymchwil annibynnol, er mwyn archwilio’r gwahaniaethau o ran dehongliadau cyfreithiol y gyfraith treth.

Bydd yr ymchwil yn helpu CThEF i wella ei wasanaethau.

Os bydd rhywun yn cysylltu â chi, efallai y bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn cyfweliad ar-lein neu dros y ffôn.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw un o’ch profiadau o ran delio â CThEF ar hyn o bryd nac yn y dyfodol. Bydd yr holl wybodaeth a roddir:

  • yn gyfrinachol

  • yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Ymchwil i ohirio cosbau CThEF

O 17 Mawrth 2025 hyd at a chan gynnwys 31 Awst 2025, efallai y byddwch yn cael llythyr oddi wrth CThEF, wedi’i ddilyn gan e-bost neu alwad ffôn gan Verian.

Mae CThEF yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil annibynnol, Verian, i archwilio safbwyntiau trethdalwyr ar gosbau a gohirio cosbau.

Bydd yr ymchwil yn helpu CThEF gyda deall effaith cosbau a gohirio cosbau ar drethdalwyr, a bydd hyn yn cael ei ddefnyddio er mwyn llywio penderfyniadau o ran polisïau.

Os bydd rhywun yn cysylltu â chi, efallai y bydd gofyn i chi gymryd rhan yn y canlynol:

  • cyfweliad
  • arolwg

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Bydd yr holl wybodaeth a roddir:

  • yn gyfrinachol
  • yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Effeithiau’r newidiadau i lwfansau a rhyddhadau treth Ymchwil a Datblygu (R&D)

O 1 Gorffennaf 2025 hyd at a chan gynnwys 31 Hydref 2025, mae’n bosibl y byddwch yn cael e-bost, llythyr neu alwad ffôn oddi wrth Ipsos.

Mae CThEF yn gweithio gyda’r asiantaeth ymchwil annibynnol, Ipsos, i ddeall profiadau ac agweddau busnesau tuag at y canlynol:

  • hawlio rhyddhadau treth Ymchwil a Datblygu

  • hawlio lwfansau Ymchwil a Datblygu (RDA)

  • defnyddio’r gwasanaeth sicrwydd ymlaen llaw

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Bydd yr holl wybodaeth a roddir:

  • yn ddienw

  • yn gyfrinachol

  • yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Tîm Ymgysylltu wedi’i Reoli ar y Cyd (JMET) — ymholiad am gyflogres CThEF

Efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi dros y ffôn, drwy anfon llythyr neu drwy e-bost.

Efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chyflogwyr neu drydydd parti i gadarnhau gwybodaeth am y gyflogres sydd wedi’i chyflwyno drwy ddefnyddio Gwybodaeth Amser Real (RTI).

Os bydd rhywun yn cysylltu â chi dros y ffôn:

  • cewch wybod bod gennym ymholiad am gyflogres
  • bydd gofyn i chi ateb cwestiynau diogelwch safonol
  • bydd gofyn am ddadansoddiad o gyflog a didyniadau ar gyfer unigolyn

Os bydd rhywun yn cysylltu â chi drwy e-bost:

  • cewch wybod bod gennym ymholiad am gyflogres
  • bydd gofyn i chi gysylltu â CThEF dros y ffôn
  • bydd gofyn am ddadansoddiad o gyflog a didyniadau ar gyfer unigolyn — os cewch e-bost ar ôl siarad â rhywun dros alwad ffôn

Os bydd rhywun yn cysylltu â chi drwy anfon llythyr:

  • cewch wybod bod gennym ymholiad am gyflogres
  • bydd gofyn am ddadansoddiad o gyflog a didyniadau ar gyfer unigolyn

Landlordiaid ac unig fasnachwyr — paratoadau ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm  

O 7 Gorffennaf 2025 hyd at a chan gynnwys 19 Medi 2025, mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr neu alwad ffôn oddi wrth Verian.

Mae CThEF yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil annibynnol, Verian, i ddeall paratoadau landlordiaid ac unig fasnachwyr ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Mae’n bosibl y bydd Verian yn cysylltu â chi os ydych wedi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Os bydd rhywun yn cysylltu â chi, efallai y bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn arolwg byr dros y ffôn.

Bydd eich adborth chi yn cael ei ddefnyddio i’n helpu ni i wella ein gwasanaethau i unig fasnachwyr a landlordiaid.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Bydd yr holl wybodaeth a roddir:

  • yn gyfrinachol

  • yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Arolwg o Fusnesau Mawr

O 6 Awst 2025 hyd at a chan gynnwys 26 Mawrth 2026, efallai y cewch chi lythyr, e-bost neu alwad ffôn oddi wrth IFF Research.

Mae CThEF yn gweithio gydag IFF Research, sef asiantaeth ymchwil annibynnol, i archwilio profiadau cwsmeriaid sy’n fusnesau mawr o ddelio â CThEF.

Bydd yr ymchwil yn helpu CThEF gyda deall blaenoriaethau ac anghenion busnesau mawr a bydd hyn yn cael ei ddefnyddio er mwyn llywio penderfyniadau o ran polisïau.

Os bydd rhywun yn cysylltu â chi, efallai y bydd gofyn i chi gymryd rhan yn y canlynol:

  • arolwg
  • cyfweliad

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Bydd yr holl wybodaeth a roddir:

  • yn gyfrinachol
  • yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Mewngofnodi i’ch cyfrif treth CThEF

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy neges destun neu alwad llais awtomataidd.

Mae dilysu aml-ffactor yn nodwedd ddiogelwch ychwanegol sy’n disodli dilysu 2-gam. Mae’n helpu i rwystro rhywun arall rhag cael mynediad at eich cyfrif digidol, hyd yn oed os yw’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair yn ei feddiant.

Bydd CThEF yn anfon cod mynediad drwy neges destun neu alwad llais i’r rhif ffôn symudol neu linell dir a ddewiswyd gennych i gychwyn y camau dilysu aml-ffactor. Bydd angen y cod hwn arnoch i gwblhau’r broses o gael mynediad.

Ni fydd y negeseuon testun na’r galwadau llais hyn byth yn gofyn i chi roi gwybodaeth bersonol nac ariannol.

Os ydych wedi cychwyn camau dilysu aml-ffactor, byddwch ond yn gallu cael mynediad at y cyfrif drwy ddefnyddio’r canlynol:

  • eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth

  • y ddyfais symudol neu linell dir yr ydych wedi’i chofrestru

Isafswm Cyflog Cenedlaethol a chyflogaeth

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr, e-bost neu dros y ffôn.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chyflogeion i drafod manylion eu cyflogaeth bresennol neu flaenorol.

Os byddwn yn eich ffonio, byddwn yn:

  • rhoi gwybod i chi fod ein hymholiad yn ymwneud â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol

  • gofyn cwestiynau sylfaenol i chi am eich gwaith presennol neu am eich profiadau mewn swyddi blaenorol

  • cwblhau rhai cwestiynau diogelwch safonol

Ni fyddwn, ar unrhyw adeg, yn gofyn am wybodaeth ariannol bersonol, megis manylion banc, heb ysgrifennu atoch yn gyntaf.

Gallwch ofyn i ni beidio â rhoi gwybod i’ch cyflogwr presennol neu flaenorol am yr alwad.

Bydd CThEF hefyd yn cysylltu â chyflogwyr mewn perthynas ag ymholiadau ynghylch yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Os ydych wedi cael llythyr, e-bost, neges destun neu alwad ffôn gan swyddfa arall yn CThEF, gallwch ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i wirio bod yr ohebiaeth hon yn ddilys.

Gwallau cyffredin o ran yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost neu lythyr.

Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chyflogwyr neu drydydd partïon i rannu gwybodaeth am wallau cyffredin gyda’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol. Bydd yr e-bost yn darparu cysylltiadau i ragor o wybodaeth a chymorth.

Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chyflogeion drwy lythyr i ddarparu gwybodaeth am wallau cyffredin i gadw llygad amdanynt yn eu cyflog.

Bydd y llythyr yn esbonio sut i wneud cwyn am yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ac yn cynnwys cysylltiadau i ragor o wybodaeth a chymorth.

Gwiriad cydymffurfio marchnad ar-lein

O 30 Mehefin 2025 hyd at a chan gynnwys 30 Rhagfyr 2025, efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr, e-bost neu dros y ffôn.

Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â marchnadoedd ar-lein drwy lythyr i wirio eu bod:

  • yn casglu TAW yn gywir ar gyfer gwerthiannau a gwneir gan werthwyr o dramor
  • yn cyflawni gwiriadau diwydrwydd dyladwy

Bydd gofyn i chi wneud y canlynol:

  • rhoi gwybodaeth
  • llenwi holiadur

Bydd angen i chi gofrestru eich marchnad ar-lein ar gyfer TAW, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.

Os ydych o’r farn nad ydych yn farchnad ar-lein, dylech e-bostio neu ffonio CThEF gydag eglurhad.

Os na fyddwn yn clywed gennych, byddwn yn cysylltu â chi drwy lythyr, e-bost neu dros y ffôn.

Busnesau tramor sy’n gwerthu gwasanaethau digidol i ddefnyddwyr yn y DU

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost a llythyr.

Os oes gennych fusnes tramor a’ch bod yn gwerthu gwasanaethau digidol i ddefnyddwyr yn y DU, efallai y byddwn yn cysylltu â chi ynghylch eich rhwymedigaethau TAW yn y DU drwy e-bost a llythyr.

Bydd y llythyr a’r e-bost yn esbonio pam rydym yn cysylltu â chi, ac yn gofyn i chi gysylltu â ni. Ni fyddwn yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol, na gwybodaeth am y busnes.

Busnesau tramor sy’n gwerthu nwyddau ar farchnadoedd ar-lein i ddefnyddwyr yn y DU

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost a llythyr.

Os ydych wedi’ch lleoli dramor ac yn masnachu ar farchnadoedd ar-lein, efallai y byddwn yn cysylltu â chi i gyflwyno asesiadau TAW.

Byddwn yn anfon:

  • hysbysiad ffurfiol o asesiadau drwy lythyr

  • e-bost i roi gwybod i chi fod y llythyr hwn wedi cael ei anfon

Bydd yr e-bost yn:

  • peidio â gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol, na gwybodaeth am y busnes

  • gofyn i chi dalu eich asesiad drwy fynd i www.gov.uk a chwilio am ‘pay your VAT bill’

  • cynnwys cysylltiad i’r dudalen we hon, er mwyn i chi allu gweld bod CThEF yn defnyddio e-bost at y diben hwn

Hunanasesiad — Ffurflen Dreth sydd ar goll

O 22 Medi 2025 hyd at a chan gynnwys 10 Tachwedd 2025, mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr neu neges destun gan CThEF.

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi os nad ydym yn siŵr a wnaethoch chi gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2024.

Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi wneud y canlynol:

  • gwirio os oes angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2024
  • cyflwyno Ffurflen Dreth sy’n hwyr
  • rhoi gwybod i ni os nad oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad mwyach

Bydd y neges yn wneud y canlynol:

Ni fyddwn yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol.

Hunanasesiad — cais i apelio yn erbyn cosb am dalu’n hwyr neu gosb am gyflwyno’n hwyr

O 24 Mehefin 2025 ymlaen, gall CThEF gysylltu â chi drwy e-bost neu neges destun.

Gall CThEF gysylltu â chi drwy e-bost neu neges destun pan fyddwch yn cyflwyno apêl yn erbyn cosb dalu’n hwyr neu gosb am gyflwyno’n hwyr. Bydd y negeseuon hyn yn:

  • cael ei anfon yn awtomatig pan fyddwch yn cyflwyno’ch apêl
  • rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd eich apêl

Os byddwn yn anfon e-bost atoch, bydd y llinell bwnc yn un o’r canlynol:

  • mae’ch apêl yn erbyn cosb Hunanasesiad wedi dod i law
  • diweddariad ar y gosb Hunanasesiad a godwyd arnoch
  • diweddariad ar eich cosb a’ch cais i adael Hunanasesiad
  • rydym wedi canslo’ch cosb Hunanasesiad

Ni ofynnir i chi am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol.

Hunanasesiad — cais i adael

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost neu neges destun.

Gall CThEF gysylltu â chi drwy e-bost neu neges destun os ydych yn rhoi gwybod iddynt:

  • rydych am adael Hunanasesiad
  • nad ydych yn hunangyflogedig mwyach

Bydd CThEF yn cysylltu â chi gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost neu’r rhif ffôn rydych wedi’i roi. Teitl yr e-bost fydd ‘Eich cais i adael Hunanasesiad’.

Ni ofynnir i chi am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol.

Hysbysiadau statudol yn gofyn am wybodaeth

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr, e-bost neu dros y ffôn.

Mae Canolfan Caffael a Chyfnewid Data CThEF yn anfon hysbysiadau statudol yn rheolaidd at y rheiny sy’n cadw mathau penodol o wybodaeth, yn gofyn iddynt roi manylion perthnasol i CThEF. Mae gan y rheiny sy’n cadw’r wybodaeth ymrwymiad cyfreithiol i ddarparu’r data y gofynnir amdanynt.

Gellir anfon yr hysbysiadau sy’n gofyn am wybodaeth drwy’r post neu drwy e-bost.

Bydd hysbysiadau a anfonir drwy e-bost yn cynnwys cysylltiad i’r dudalen we hon, er mwyn i chi allu gweld bod CThEF yn defnyddio e-bost at y diben hwn.

Anweithgarwch o ran y gofrestr TAW

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy e-bost.

Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi os ydym o’r farn nad oes angen i chi feddu ar rif cofrestru TAW mwyach, oherwydd anweithgarwch diweddar ar eich cyfrif TAW. Efallai y byddwch yn cael galwad ffôn neu e-bost, a bydd yr e-bost yn cyfeirio at anweithgarwch o ran y gofrestr TAW.

Bydd y galwadau ffôn neu’r e-byst yn gofyn i chi gadarnhau a oes angen i chi fod wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW o hyd, ac yn gofyn i chi roi rhywfaint o wybodaeth sylfaenol am ble yr ydych yn masnachu.

Ni fydd y galwadau na’r e-byst yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol.

Ymweliadau ac archwiliadau TAW

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy lythyr.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ymweliadau ac archwiliadau TAW (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd e-bost yn dweud wrthych ein bod wedi ceisio cysylltu â chi gan ofyn i chi ein ffonio’n ôl.

Bydd yr alwad ffôn yn:

  • gofyn i chi drefnu ymweliad

  • cadarnhau’r wybodaeth yr hoffem ei gweld

Bydd llythyr yn:

  • gofyn i chi ein ffonio i drefnu ymweliad

  • cadarnhau’r wybodaeth yr hoffem ei gweld

Byddwn bob amser yn ceisio cysylltu â chi dros y ffôn yn gyntaf, os nad ydym yn cael gafael arnoch, byddwn yn anfon llythyr neu e-bost atoch.

Bydd gennym eich enw ac enw’ch busnes yn barod pan fyddwn yn cysylltu â chi. Ni fyddwn yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol, megis eich manylion banc.

Os nad ydych yn siŵr os yw’r alwad, yr e-bost neu’r llythyr gan CThEF, gallwch gysylltu â’r llinell gymorth Gymraeg ar gyfer Ymholiadau TAW.

Gwaith ymchwil i gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol

O 4 Awst 2025 hyd at a chan gynnwys 17 Hydref 2025, efallai y cewch chi e-bost, llythyr neu alwad ffôn oddi wrth Ipsos UK neu ei recriwtiwr, Paton Williamson Consultancy.

Mae CThEF yn gweithio gydag Ipsos UK a’i recriwtiwr, Paton Williamson Consultancy, i wneud gwaith ymchwil i brofiadau cwsmeriaid wrth wneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol.

Os bydd rhywun yn cysylltu â chi, efallai y bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn cyfweliad.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Bydd yr holl wybodaeth a roddir:

  • yn gyfrinachol
  • yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Awst 2025 show all updates
  1. Section 'Research and Development (R&D) tax relief' has been removed, as this information is covered in section 'Impacts of changes to Research and Development (R&D) tax reliefs and allowances'.

  2. Information about 'Claims for overpaid VAT on gaming machine income — pub company tenant claims' has been added.

  3. Information about 'Large Business Survey' has been added.

  4. Information about 'Voluntary National Insurance contributions research' has been added.

  5. Information added to the 'Impacts of changes to Research and Development (R&D) tax reliefs and allowances' section to include 'claiming R&D allowance (RDA)'.

  6. Information on 'Corporation Tax — research about the time between incorporation and first filing' has been added.

  7. Information about ‘Business investment and costs research’ has been added.

  8. Information about 'Self Assessment — missing tax return' has been added.

  9. 'Offshore interests — customer experience research' has been changed to 'Offshore income — customer experience research'.

  10. Information about the 'Agents, small and mid-sized business survey' has been added.

  11. Information about 'High Income Child Benefit Charge — check if you need to pay the charge' has been added.

  12. Information about 'Corporation Tax — Understanding small businesses who file company accounts or tax returns' and 'Impacts of changes to Research and Development (R&D) tax reliefs and attitudes to the advance assurance (AA) service' has been added.

  13. Information about 'Landlords and sole traders — preparation for Making Tax Digital for Income Tax' has been added.

  14. Information about ‘Application for Action research’ has been added.

  15. Information about 'Check your Self Assessment tax return' has been added.

  16. Information about ‘Online marketplace compliance check’ has been added.

  17. Information about 'Self Assessment — request to appeal a late payment or filing penalty' has been added.

  18. Information about ‘Help to Save — request to update your bank details’ and 'Offshore interests — customer experience research' has been added.

  19. Information about ‘Research and Development (R&D) tax relief’ has been added.

  20. Information about 'Traders and intermediaries research panel' has been extended to be between 12 June 2025 up to and including 1 August 2025.

  21. Information about 'Cultural tax reliefs research' has been added.

  22. Information about 'Unrepresented customers attitudes to HMRC communications' has been added.

  23. Information about 'Traders and intermediaries research panel' has been extended to be between 6 June 2025 up to and including 25 July 2025.

  24. Information about 'Agents — preparation for Making Tax Digital for Income Tax' and 'Client and tax adviser relationships' has been added.

  25. Information about 'First VAT return is due on 7 June 2025' has been added.

  26. Added Welsh translation for Electric invoicing — research into small and medium businesses usage and attitudes section.

  27. Information added about research to understand differences of legal interpretation in tax legislation.

  28. Information about 'Evaluation of Plastic Packaging Tax' has been added.

  29. Information about 'Electric invoicing — small and medium businesses usage and attitudes' research has been added.

  30. Information about 'Tax practitioners — understanding professional standards' research has been added.

  31. Information about VAT returns and payments research and HMRC customer letters research has been added. The start and end dates for the traders and intermediaries research panel have been updated.

  32. Information about 'Traders and intermediaries research panel' and 'First VAT return is due on 7 May 2025' have been added.

  33. Information about 'First VAT return is due on 7 May 2025' has been added.

  34. Information about 'Impact of Making Tax Digital on Income Tax for Self Assessment customers' has been extended to 8 May 2025.

  35. Added translation

  36. We have added information on research to improve the Inheritance Tax process.

  37. Information about 'Jointly Managed Engagement Team (JMET) — HMRC payroll enquiry' research and 'HMRC penalty suspension research' has been added.

  38. Information about research into how companies manage their plastic packaging data has been removed as this research is no longer taking place.

  39. Information about giving feedback on experience of pre-filing conversations has been added.

  40. Information about research into how companies manage their plastic packaging data has been added.

  41. Information about pension research has been added.

  42. Information about 'Agency and temporary workers (the agency legislation)' has been extended, to end 31 March 2025.

  43. Information about 'Identity verification and authentication — exploring organisations’ experiences' has been added.

  44. Information about 'agency and temporary workers (the agency legislation)' has been added.

  45. Information about HMRC stakeholder research and impact of Making Tax Digital on Income Tax for Self Assessment customers research has been added. Help to Save research has been extended to 28 February 2025.

  46. Information about 'Declaring your income' has been added.

  47. Information about 'Self Assessment — request to leave' has been added.

  48. Possible involvement in tax avoidance schemes research has been added. Cryptoasset research has been extended to 31 January 2025.

  49. Information about Making Tax Digital for Income Tax Self Assessment testing phase and Making Tax Digital for Income Tax Self Assessment — agent preparedness research has been added. Help to Save research has been extended to 31 January 2025.

  50. Information about hiring overseas employees to work in the UK on a short or medium term arrangement research has been added.

  51. Information about Annual Tax on Enveloped Dwellings and understanding unrepresented customer needs research has been added. Venture capital schemes research has been extended to 15 November 2024.

  52. Information about the wealthy compliance portal has been added.

  53. Information about HMRC and tax system experience research has been added.

  54. Customs authorisations survey improvement research has been extended to 8 November 2024.

  55. Information about compliance checks into personal and business tax affairs research has been added. Customs processes research has been extended to 17 January 2025.

  56. Information about customs authorisations survey improvement research has been added.

  57. Information about cryptoasset research has been added.

  58. Information about pension schemes migration research has been added.

  59. Information about social media content creation research has been added. Information about venture capital schemes research has been added. End date for National Minimum Wage geographical compliance approach research has been extended.

  60. The end dates for 'Understanding the use of the Lifetime ISA' and 'Help to Save research' have been extended to 30 November 2024.

  61. Information about Large Business survey and Wealthy pre-filing research have been added.

  62. The impact of government childcare support on working parents research has been extended from 9 August 2024 to 3 October 2024.

  63. The pension schemes migration research has been extended from 26 July 2024 to 2 August 2024.

  64. Information added for HMRC customer experience research has been added.

  65. Information about pension schemes migration research has been added.

  66. Information about cryptoasset research has been updated to extend the period of contact to 30 August 2024.

  67. Information about HMRC agents, small and mid-sized business and customs processes research has been added.

  68. Information about research into HMRC customer education has been added.

  69. The information on research into the impact of HMRC communications and safety and security declarations on EU imports has been removed, as these studies have now ended.

  70. The 'temporary Customer Compliance Manager service for mid-size businesses' section has been updated to extend the period of contact to 31 May.

  71. Information about tax code notice research has been added.

  72. Information about research into the cryptoasset industry and how people interact with video guidance has been added.

  73. Information about research for the impact of Making Tax Digital (MTD) on Income Tax Self Assessment (ITSA) customers and information about understanding the use of the Lifetime ISA has been added.

  74. Information about research to understand the impact of HMRC communications has been added. Information about GB-EU traders research and Making Tax Digital for Income Tax pilot have been removed as contact for these have ended.

  75. Information about Help to Save research, temporary Customer Compliance Manager service for mid-size businesses, and uncertain tax treatment research has been added.

  76. Information about the impact of government childcare support on working parents and the impact of border check processes on businesses research has been added.

  77. Information about Single Trade Window user testing, Enterprise Investment Schemes and Self Assessment customer communications research has been added.

  78. Information about VAT Penalty Reform research has been added.

  79. Information about business tax account research has been added. Information about safety and security declarations on EU imports research has been added. Information about The Large Business Survey 2023 has been removed as contact for this has ended.

  80. Information about GB-EU traders research and company structure and financial decision making research has been added.

  81. Information about Bulk Import Reduced Data Set (BIRDS) research has been added to the page.

  82. Information about identity verification and account set-up research has been added.

  83. Information about HMRC potentially contacting you about changes to your tax code has been added.

  84. Information about Employee Ownership Trusts has been added. Information about Help to Save research, Landlord research, Mid-sized Business Customer Survey, Offshore penalties regime — research into effectiveness, Small businesses' interactions with HMRC, Vaping market research, VAT deregistration research and Venture Capital Reliefs — Understanding the customer journey have all been removed as contact for these have ended.

  85. Information about National Minimum Wage geographical compliance approach research has been added.

  86. Added translation

  87. Information about VAT visits and inspections has been added.

  88. Information about simplified mileage rates in the UK have been removed as contact for these have ended, updated translation

  89. Information about HMRC stakeholder engagement research has been added.

  90. Information on Venture Capital Reliefs had been updated to extend end date of contact

  91. added translation

  92. Information about GVMS (Goods Vehicle Movement Service) research has been added.

  93. Information about Understanding the customer journey of companies who seek investors by using Venture Capital Reliefs schemes has been added. Information about Electricity Generator Levy and measuring the impact of Making Tax Digital for VAT customers has been added. Information about Corporation Tax research, Employment status in the UK, VAT payable order repayments have been removed as contact for these have ended.

  94. Information about a customs intermediaries monitoring survey and a new company structure and financial decision-making research survey has been added.

  95. Information about research on Help to Save and research on HMRC communications with customers who complete paper Self Assessments has been added.

  96. Information about Mid-sized Business Customer Survey research has been added.

  97. Research about businesses use of simplified mileage rates, customer experience of HMRC, and how customers authorise agents to interact with the HMRC added.

  98. Added translation

  99. Research regarding childcare providers engagement with Tax-Free Childcare, effectiveness of the offshore penalty regime, and the Large Business Survey 2023 added to the page. Impact of Making Tax Digital research removed as the contact dates for this ended on 21 July 2023.

  100. Information on the company names, and the dates they may contact you to take part in research on the experiences of businesses new to customs has been updated.

  101. Information about Lifetime ISAs research has been added. Information about employer pension salary sacrifice schemes, Income Tax Self Assessment research on future timely payment and research and development tax relief has been removed as contact for these has ended.

  102. Information about a Great Britain EU traders survey and Corporation Tax research has been added, and details about the schools outreach programme analysis, digital channels research and asset managers self-assessment feedback have been removed.

  103. Information about research and development tax relief has been added.

  104. Information has been added about Company structure and financial decision-making research, Impact of Making Tax Digital, Asset managers self-assessment feedback, and Landlord research.

  105. Information about VAT payable order repayments has been added.

  106. Information about research on the experiences of businesses new to customs has been added.

  107. We have removed 'Impact of Making Tax Digital research'.

  108. Research on VAT deregistration, the vaping market, small businesses' interactions with HMRC, and Self Assessment and paper communications, has been added. We have removed out-of-date information on: digital by default, electronic sales suppression, impact of Making Tax Digital for newly registered VAT customers, Income Tax for small businesses, VAT Flat Rate Scheme.

  109. Information has been added about Digital channels and Employer pension salary sacrifice schemes.

  110. Information about contact regarding Electronic Sales Suppression has been added.

  111. Added translation

  112. We have added two updates on research about employment status and Income Tax for small businesses.

  113. Added translation

  114. We have added information about a HMRC compliance check survey.

  115. We have added information about contact from HMRC on the Let Property Campaign. We have also updated the section Income Tax Self Assessment research on future timely payments. IFF Research will contact you by letter and then phone call from 20 February 2023 up to and including 28 June 2023. We have added information on Digital by default. HMRC may contact you about this between 20 February 2023 and 28 April 2023.

  116. Information about research on customs authorisations of UK businesses, temporary customer compliance manager support, the temporary customer compliance manager support survey, and VAT registration experience has been removed as contact for these has ended.

  117. Information about research into the impact of Making Tax Digital for newly registered VAT customers been added.

  118. Information about research on stakeholder engagement has been added.

  119. Information about the VAT on the Energy Bills Support Scheme has been added. Information about the Customs intermediaries monitoring survey has been removed as the contact dates for this ended on 23 January 2023.

  120. Information about research on making a payment to HMRC, Tax-Free Childcare and parent’s working patterns and data holder notices have been added. Information about the Large Business Customer Survey 2022 has been removed as the contact dates for this ended on 6 January 2023.

  121. Research into agents of wealthy customers has been extended from 30 December 2022 to 31 March 2023. In addition agents may now be contacted by email or letter then phone or video call.

  122. Information about research on Customs authorisations of UK Businesses, Customs declarations, Debt management payment plan questionnaire, Making Tax Digital for VAT, VAT Flat Rate Scheme and VAT registration experience has been added.

  123. Added translation

  124. Information about offshore advice for taxpayers and their advisors has been added. We have also added information on employer National Insurance contributions relief for veterans.

  125. Information about supply chains research has been added.

  126. Information about research into agents of wealthy customers and businesses recently in debt with HMRC has been added.

  127. Information about Income Tax Self Assessment research on future timely payment and information about the temporary Customer Compliance Manager support survey has been added. Information about Corporation Tax research and research on HMRC's digital services has been removed as the contact dates for these ended on 18 November 2022.

  128. User research on employers' experiences of the Coronavirus Job Retention Scheme has been extended from 17 November 2022 to 18 November 2022.

  129. Information on Child Benefit digital service research has been added.

  130. Research on employer benefits in kind has been extended from 30 November 2022 to 9 December 2022.

  131. Research on HMRC’s digital services has been extended from 31 October 2022 to 18 November 2022.

  132. User research on employers' experiences of the Coronavirus Job Retention Scheme has been extended from 10 November 2022 to 17 November 2022.

  133. IFF Research on employer benefits in kind has been extended to 30 November 2022.

  134. Information on the Automatic Exchange of Information has been added. The customs intermediaries monitoring survey research will continue until 23 January 2023.

  135. Research on employers' experiences of the Coronavirus Job Retention Scheme will continue until 10 November 2022.

  136. Information on navigating between business taxes and personal taxes online research has been added.

  137. Updated because the research on employer's experiences of the coronavirus job retention scheme has been extended to 7 October 2022.

  138. Information about research on HMRC's digital services has been added.

  139. Information on Corporation Tax research has been added.

  140. Information on VAT return research has been added.

  141. Information on the Large Business Customer Survey 2022 and temporary Customer Compliance Manager support has been added.

  142. Added translation

  143. Information on the customer experience of HMRC has been added.

  144. Information on the Mid-sized business customer survey has been added.

  145. Information for businesses who use CHIEF for import declarations has been added.

  146. Information on Making Tax Digital for Income Tax pilot and employer benefits in kind has been added.

  147. Information on economic crime supervision and experiences of HMRC VAT registration has been added.

  148. Information on HMRC and HM Treasury’s 10 year Tax Administration Strategy has been added.

  149. Information on customs intermediaries' experience and Making Tax Digital for VAT registered customers has been added.

  150. Information on the customs intermediaries monitoring survey has been added.

  151. Information about research on Capital Allowances has been added.

  152. Research into understanding tax administration for businesses has been extended from 27 May 2022 to 8 July 2022 and information about research for the Cycle to Work Scheme has been added.

  153. Added section on 'Overseas businesses that sell goods on online marketplaces to UK consumers'.

  154. Added information on the government analysis schools outreach programme and employers' experiences of the Coronavirus Job Retention Scheme.

  155. The information for the 'Research to explore market shifts and behaviours relating to Stamp Duty' section has been re-added as it has been extended.

  156. Added information on 'Research to improve VAT services for small and micro businesses'.

  157. The section about tax relief evaluations has been updated with new contact information from 1 July 2021 to 30 November 2022.

  158. Added information on 'Research into understanding tax administration for businesses'.

  159. Added section 'Annual Tax on Enveloped Dwellings (ATED) reminder to agents and companies'.

  160. Added information on research on the Profit Diversion Compliance Facility and the Diverted Profits Investigation Approach, and the end date of the traders survey has been changed from 10 March 2022 to 25 March 2022.

  161. Added information on repayments research.

  162. Added information on research into self-assessment and VAT repayment systems.

  163. Added information on research to explore market shifts and behaviours relating to Stamp Duty.

  164. Information on research on agent experiences of HMRC's digital services has been added.

  165. Added section 'Research letters about the disability element of Tax Credits'.

  166. Added 'Research to improve HMRC communications for individuals and businesses' section.

  167. Added sections 'Research into the impact of full controls on customs intermediaries' and 'Traders survey'.

  168. Added sections Effects of the super-deduction, Single Trade Window research and Trust survey.

  169. Information on 'Payment of Class 2 National Insurance Contributions through Self Assessment' has been added.

  170. Information on further research on the HMRC Coronavirus Job Retention Scheme added.

  171. Information about the EU Settlement Scheme has been added.

  172. Information added about reform research for off-payroll working rules from 24 September 2021 to 10 December 2021.

  173. Information has been added about HMRC contacting CHIEF users who declare goods into Northern Ireland from outside the UK and EU.

  174. Added 'Large Business Customer Experience Survey 2021' section.

  175. Information about Tax relief evaluations from 1 July 2021 to 31 June 2022 and Traders survey research from 27 August to 12 October 2021 added.

  176. Information about customer research on Corporation Tax reliefs from August 2021 to 30 September 2021 has been added.

  177. We have added information about customer research by HMRC from 12 August to 15 September by 2021.

  178. We have added research on detached workers and social security.

  179. Updated to show HMRC is using a new number to send text messages to customers.

  180. Added translation

Argraffu'r dudalen hon