Codau personol Tŷ'r Cwmnïau ar gyfer gwiriad hunaniaeth
Sut i ddefnyddio a rheoli'r cod personol rydych chi'n ei dderbyn pan fyddwch chi'n cwblhau gwiriad hunaniaeth ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau.
Beth yw cod personol
Mae hwn yn god 11 nod sy’n cael ei roi i berson ar ôl iddynt gwblhau gwiriad hunaniaeth. Mae’r cod yn bersonol i chi, nid eich cwmni neu gwmni rydych chi’n gweithio iddo.
Ble i ddod o hyd i’ch cod personol
Bydd hyn yn dibynnu ar a wnaethoch gwblhau gwiriad hunaniaeth gan ddefnyddio 51²è¹Ý One Login, neu Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA).
Os gwnaethoch wirio gan ddefnyddio 51²è¹Ý One Login
ac ewch i ‘Rheoli cyfrif’ i weld eich cod. Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych pan wnaethoch chi wirio.
Os gwnaethoch chi wirio gan ddefnyddio DGCA
Fe wnaethom anfon eich cod personol i’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd ar eich cyfer.
Os na wnaethoch chi dderbyn eich cod, cysylltwch â’r DGCA wnaeth eich gwirio a gwiriwch pa gyfeiriad e-bost a ddarparwyd ganddynt.
Bydd angen i chi ofyn iddynt gysylltu â ni os ydynt wedi darparu cyfeiriad e-bost anghywir.
Os gwnaethoch gadw eich cod personol i’ch cyfrif Tŷ’r Cwmnïau, gallwch a mynd i ‘Rheoli cyfrif’ i weld eich cod.
Sut i gadw eich cod personol i’ch cyfrif Tŷ’r Cwmnïau
Os gwnaethoch wirio gan ddefnyddio DGCA, rydym yn argymell eich bod yn cadw’ch cod personol i’ch cyfrif Tŷ’r Cwmnïau. Yna byddwch yn gallu cael mynediad i’r cod pryd bynnag y bydd angen.
I gadw eich cod:
- mewngofnodwch, neu greu manylion mewngofnodi gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost y gwnaethom anfon eich cod personol ato
- cadarnhewch eich bod wedi cwblhau gwiriad hunaniaeth
- cofnodwch eich cod personol
- cofnodwch eich dyddiad geni
.Ìý
Sut i ddefnyddio’ch cod personol
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cod personol i gadarnhau eich bod wedi cwblhau gwiriad hunaniaeth os ydych chi yn:
- gyfarwyddwr (neu gyfwerth), neu yn mynd i gael eich penodi fel un
- berson sydd â rheolaeth arwyddocaol (PRhA), neu yn mynd i fod yn un
Yn y dyfodol, efallai y bydd angen i chi ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau ar ran cwmni.
Mae’n rhaid i chi gadw’ch cod yn ddiogel, er y gallwch ei rannu â phobl os ydyn nhw’n ffeilio ar eich rhan. Er enghraifft, os ydych chi’n defnyddio asiant, fel cyfrifydd.
Pan fyddwch chi’n defnyddio’ch cod personol, efallai y byddwn yn gofyn i chi gadarnhau eich dyddiad geni, fel y gallwn wirio bod eich manylion yn cyd-fynd.
Byddwch yn defnyddio’r un cod personol bob tro i gadarnhau eich bod wedi’ch gwirio.
Er enghraifft, os ydych chi’n gyfarwyddwr o sawl cwmni, dim ond unwaith y mae angen i chi cwblhau gwiriad hunaniaeth. Yna byddwch yn defnyddio’r un cod personol i gadarnhau eich bod wedi’ch gwirio ar gyfer pob un o’ch penodiadau.
Os ydych chi’n gyfarwyddwr (neu gyfwerth)
Os ydych chi’n gyfarwyddwr ar hyn o bryd, bydd angen i chi ddarparu eich cod personol wrth ffeilio datganiad cadarnhau nesaf eich cwmni o 18 Tachwedd 2025.
Os byddwch chi’n dod yn gyfarwyddwr o 18 Tachwedd 2025 ymlaen, bydd angen i chi ei ddarparu fel rhan o’ch ffeilio penodiad neu pan fyddwch chi’n corffori cwmni.
Os ydych chi’n PRhA
Bydd gennych gyfnod o 14 diwrnod lle mae’n rhaid i chi ddarparu eich cod personol.ÌýBydd gwasanaeth ar-lein i wneud hyn pan ddaw’r gofyniad i rym ar 18 Tachwedd 2025. Byddwn yn diweddaru’r canllawiau hyn pan fydd y gwasanaeth hwn ar gael.
Mae dyddiadau eich cyfnod o 14 diwrnod yn dibynnu ar a ydych chi:
- wedi cofrestru fel PRhA cyn 18 Tachwedd 2025
- hefyd yn gyfarwyddwr y cwmni
Am ragor o wybodaeth, darllenwch y canllawiau ar bryd i gwblhau gwiriad hunaniaeth.
Os ydych chi’n ffeilio ar ran cwmni
Pan fydd cwblhau gwiriad hunaniaeth yn dod yn ofyniad i ffeilio ar ran cwmni, efallai y bydd angen i chi ddarparu eich cod i gyflwyno ffeilio. Ni fydd angen i chi wneud hyn os ydych chi wedi:
- cwblhau gwiriad hunaniaeth gan ddefnyddio 51²è¹Ý One Login
- cadw eich cod personol i’ch cyfrif Tŷ’r Cwmnïau
- cofrestru fel DGCA, neu wedi cael eu hychwanegu at gyfrif DGCA
Os nad yw’r manylion personol sy’n gysylltiedig â’ch cod yn cyd-fynd â’n cofnodion
Os na allwch gysylltu eich hunaniaeth wedi’i wirio â’n cofnodion, gallai fod oherwydd nad yw’ch manylion personol yn cyd-fynd. Efallai na fydd eich manylion yn cyd-fynd os:
- rydych wedi cofnodi eich cod personol yn anghywir
- mae eich dyddiad geni yn anghywir ar ein cofnodion
- gwiriodd DGCA eich hunaniaeth ac wedi darparu manylion anghywir ar eich cyfer
Gwiriwch fod y dyddiad geni rydyn ni’n ei ddal i chi ar ein cofnodion yn gywir. Os nad yw’n gywir, bydd angen i chi ei newid cyn y gallwch ddarparu eich manylion gwiriad. I wirio a diweddaru eich dyddiad geni, .
Os yw DGCA wedi gwirio eich hunaniaeth, bydd angen i chi gysylltu â nhw. Efallai y bydd angen iddynt ddiweddaru’r manylion gwiriad a ddarparwyd ar eich cyfer.
Os ydych chi’n meddwl bod eich cod personol wedi cael ei rannu neu ei gyfaddawdu
Gallwn newid eich cod personol os ydych chi’n meddwl ei fod wedi’i rannu neu ei gyfaddawdu. Byddwn yn anfon y cod newydd atoch trwy e-bost ac yn canslo’ch cod blaenorol.
Bydd angen i chi gysylltu â ni i ofyn am hyn.