Canllawiau

Cyfyngiad ar ryddhad Treth Gorfforaeth ar gyfer didyniadau llog

Gwiriwch a yw didyniadau llog eich cwmni neu’ch grŵp ar gyfer Treth Gorfforaeth yn mynd i gael eu cyfyngu, ac a oes angen i chi anfon Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol.

Pan fyddwch yn cyfrifo faint o Dreth Gorfforaeth y DU y mae’n rhaid i’ch cwmni neu’ch grŵp ei thalu, mae cyfyngiadau’n berthnasol (o’r enw ‘Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol’). Mae hyn yn cyfyngu swm y rhyddhad treth y gallwch ei gael ar gyfer didynnu llog net a chostau cyllido eraill.

Dim ond i gwmnïau unigol a grwpiau o gwmnïau sydd â llog net a chostau cyllido sydd dros £2 filiwn mewn cyfnod o 12 mis y mae Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol yn berthnasol.

Os yw llog net a chostau cyllido eich cwmni neu’ch grŵp wedi’u cyfyngu, dylech benodi cwmni sy’n adrodd cyn pen 12 mis i ddiwedd y cyfnod rhoi cyfrif. Yna, mae’n rhaid i’r cwmni sy’n adrodd gyflwyno Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol.

Os yw eich llog net a’ch costau cyllido yn llai na £2 filiwn

Does dim angen i’ch cwmni neu’ch grŵp gyflwyno Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi gadw dogfennau sy’n profi na fydd eich cwmni neu’ch grŵp yn didynnu mwy na £2 filiwn mewn llog net a chostau cyllido yn ystod y cyfnod rhoi cyfrif hwnnw.

Byddwch yn dal i allu penodi cwmni sy’n adrodd. Yna, bydd yn rhaid i’r cwmni hwn gyflwyno Ffurflen dalfyredig. Er mwyn lleihau cyfyngiad ar log yn y dyfodol, gallwch gario lwfans llog sydd heb ei ddefnyddio drosodd, am hyd at 5 mlynedd, drwy gyfnewid y Ffurflen dalfyredig am un lawn ar gyfer y cyfnod rhoi cyfrif hwnnw.

Os yw eich llog net a’ch costau cyllido yn fwy na £2 filiwn

Mae’n rhaid i chi gyfrifo beth yw ‘lwfans llog’ eich cwmni neu’ch grŵp. Dyma’r swm mwyaf o log net a chostau cyllido y caiff eich cwmni neu’ch grŵp ei ddidynnu mewn cyfnod rhoi cyfrif.

Cewch ddefnyddio’r ‘dull cymhareb sefydlog’, neu’r ‘dull cymhareb grŵp’. Defnyddiwch y dull sy’n rhoi’r lwfans mwyaf i chi.

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’ch gwaith cyfrifo.

Os yw llog net a chostau cyllido eich cwmni neu’ch grŵp wedi’u cyfyngu, fel rheol dylech benodi cwmni sy’n adrodd cyn pen 12 mis i ddiwedd y cyfnod rhoi cyfrif, oni bai eich bod wedi penodi un eisoes. Yna, mae’n rhaid i’r cwmni sy’n adrodd gyflwyno Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol lawn.

Y dull cymhareb sefydlog

Gan ddefnyddio’r dull cymhareb sefydlog, y lwfans llog yw’r lleiaf o’r canlynol:

  • 30% o’r elw trethadwy yn y DU sydd gan y cwmni neu’r grŵp cyn llog, trethi, lwfansau cyfalaf a rhai rhyddhadau treth eraill

  • y draul llog net byd-eang sydd gan y cwmni neu’r grŵp

Y dull cymhareb grŵp

Er mwyn defnyddio’r dull hwn, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • penodi cwmni sy’n adrodd

  • dewis defnyddio’r dull mewn Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol

Gan ddefnyddio’r dull cymhareb grŵp, y lwfans llog yw’r lleiaf o’r canlynol:

  • y gymhareb rhwng traul llog net byd-eang y cwmni neu’r grŵp sy’n ddyledus i bartïon anghysylltiedig, a chyfanswm elw’r cwmni neu’r grŵp cyn treth, llog, dibrisiad ac amorteiddiad wedi’i luosi â’r elw trethadwy yn y DU sydd gan y cwmni neu’r grŵp cyn llog a lwfansau cyfalaf

  • y draul llog net byd-eang sydd gan y cwmni neu’r grŵp, sy’n ddyledus i bartïon anghysylltiedig

Os nad yw eich didyniadau llog wedi’u cyfyngu

Gallwch benodi cwmni sy’n adrodd. Yna, bydd yn rhaid i’r cwmni hwn gyflwyno Ffurflen dalfyredig. Os byddwch yn cyfnewid y Ffurflen dalfyredig am un lawn ar gyfer y cyfnod rhoi cyfrif hwnnw, gallwch gario lwfans llog sydd heb ei ddefnyddio drosodd, am hyd at 5 mlynedd er mwyn lleihau cyfyngiad ar log yn y dyfodol.

Penodi cwmni sy’n adrodd

Gall cwmnïau unigol a grwpiau benodi cwmni sy’n adrodd. Bydd eich cwmni sy’n adrodd yn gyfrifol am gyflwyno Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol eich cwmni neu’ch grŵp. Mae’n rhaid i’r cwmni sy’n adrodd fodloni’r amodau canlynol:

  • mae’n agored i Dreth Gorfforaeth y DU

  • nid yw’n segur

  • mae wedi cael awdurdod gan o leiaf 50% o’r cwmnïau nad ydynt yn segur yn y grŵp (sy’n agored i Dreth Gorfforaeth y DU) i gael ei benodi yn gwmni sy’n adrodd

Pan fyddwch wedi penodi cwmni sy’n adrodd, bydd angen i chi gyflwyno Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol ar gyfer pob cyfnod rhoi cyfrif, gan gynnwys cyfnodau pan nad oes cyfyngiad ar log. Os byddwch yn dirymu penodiad cwmni sy’n adrodd, ac nad oes gennych gyfyngiad ar log, yna ni fydd rhaid i chi gyflwyno Ffurflen.

Rhoi gwybod i CThEF am benodiad eich cwmni sy’n adrodd

Rhowch wybod i CThEF am benodiad eich cwmni sy’n adrodd

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am benodiad eich cwmni sy’n adrodd yn electronig, drwy ddefnyddio un o’r dulliau canlynol:

  • defnyddio meddalwedd fasnachol

  • llenwi’r ffurflen ar-lein

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r dulliau uchod hefyd os oes angen i chi ddirymu penodiad cwmni sy’n adrodd.

Defnyddio meddalwedd fasnachol

Er mwyn penodi cwmni sy’n adrodd drwy ddefnyddio meddalwedd fasnachol, bydd angen i chi fod â Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os ydych yn asiant sy’n cyflwyno penodiad ar ran eich cleient, cewch ddefnyddio eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair eich hun ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth. Bydd CThEF ond yn derbyn cyflwyniadau gan sefydliadau sydd â chyfrif Treth Gorfforaeth gyda ni.

Gwiriwch y dudalen ynghylch ‘darparwyr meddalwedd fasnachol ar gyfer Treth Gorfforaeth’(yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cael rhestr o ddarparwyr meddalwedd fasnachol ar gyfer Ffurflenni Cyfyngiadau ar Log a phenodiadau cwmnïau sy’n adrodd.

Defnyddio’r ffurflen ar-lein

Er mwyn penodi cwmni sy’n adrodd:

  1. Llenwch y templed.

  2. .

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Er mwyn ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen i chi fod â Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.

Dim ond unwaith y bydd angen i chi benodi cwmni sy’n adrodd.

Dirymu penodiad y cwmni sy’n adrodd

Er mwyn newid eich cwmni sy’n adrodd, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF eich bod eisiau dirymu eich cwmni sy’n adrodd presennol, a phenodi un newydd.

. Mae angen i hyn gael ei awdurdodi gan o leiaf 50% o’r cwmnïau nad ydynt yn segur yn y grŵp (sy’n agored i Dreth Gorfforaeth y DU).

Cyflwyno Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol

Mae’n rhaid i’r cwmni sy’n adrodd i chi gyflwyno Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol cyn pen 12 mis i ddiwedd y cyfnod rhoi cyfrif y mae’r Ffurflen yn berthnasol iddo.

Dysgwch sut i gyflwyno Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol lawn neu dalfyredig (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’n rhaid i chi gyflwyno eich Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol yn electronig drwy ddefnyddio un o’r dulliau canlynol:

  • defnyddio meddalwedd fasnachol

  • llenwi’r ffurflen ar-lein

Mae hyn yn berthnasol i Ffurflenni gwreiddiol a Ffurflenni wedi’u diwygio.

Gwiriwch y dudalen ynghylch ‘darparwyr meddalwedd fasnachol ar gyfer Treth Gorfforaeth’ (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cael rhestr o ddarparwyr meddalwedd fasnachol ar gyfer Ffurflenni Cyfyngiadau ar Log.

O 1 Hydref 2022 ymlaen, bydd angen i chi ddarparu mwy o wybodaeth ar Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol.

Bydd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • gwlad ymgorffori’r rhiant-gwmni mwy (rhiant-gwmni terfynol) — os nad oes ganddo Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Treth Gorfforaeth
  • dynodydd endid cyfreithiol y rhiant-gwmni mwy (rhiant-gwmni terfynol) os oes ganddo un
  • a oes unrhyw gwmnïau o fewn y grŵp sydd wedi gwneud dewis cwmni seilwaith cymhwysol — sy’n dod i rym o fewn y cyfnod rhoi cyfrif 
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Hunanasesiad unrhyw bartneriaeth yn y DU os yw’r grŵp wedi gwneud dewis lwfans llog (partneriaethau cyfunol) 
  • y draul llog grŵp net wedi’i haddasu ar gyfer y cyfnod, hyd yn oed os yw’r dull cymhareb grŵp yn cael ei ddefnyddio

Os oes angen i chi anfon gwybodaeth ychwanegol atom, e-bostiwch eich Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid neu’r mewnflwch cysylltu ar gyfer Busnesau Mawr (yn agor tudalen Saesneg).

Os nad oes gennych Reolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid, dylech e-bostio’r wybodaeth ychwanegol at msbcorporateinterest.restrictionmailbox@hmrc.gov.uk.

Gwneud dewis

Mae gwneud dewis yn caniatáu i chi benderfynu ar ffordd benodol o drin treth eich cwmni neu’ch grŵp, er enghraifft dewis y dull cymhareb grŵp i gyfrifo’ch lwfans llog. Dylech wneud dewisiadau mewn Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol.

Os oes angen i chi wneud dewis, ond na allwch wneud hynny mewn Ffurflen, anfonwch fanylion y dewis at eich Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid neu at y mewnflwch cysylltu ar gyfer Busnesau Mawr (yn agor tudalen Saesneg).

Fel arall, anfonwch fanylion y dewis drwy’r post at y cyfeiriad canlynol:

Gwasanaethau Treth Gorfforaeth
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Dylech sôn am Gyfyngiadau ar Log Corfforaethol yn eich dewis er mwyn helpu CThEF i ddyrannu’r llythyr i’r tîm cywir.

Cosbau

Os na fydd eich cwmni neu’ch grŵp yn cyflwyno Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol pan ddylai, efallai y bydd yn rhaid iddo dalu cosb benodol fel y gwelir isod:

  • £500 os yw’r Ffurflen hyd at 3 mis yn hwyr
  • £1,000 os yw’r Ffurflen yn fwy na 3 mis yn hwyr

Os byddwch yn cyflwyno Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol sy’n wallus, efallai y bydd yn rhaid i’ch cwmni neu’ch grŵp dalu cosb sydd hyd at 100% o’r dreth ychwanegol (neu’r rhyddhad treth isaf) sy’n ddyledus yn y Ffurflen sydd wedi’i chywiro.

Bydd swm y gosb y mae’n rhaid i chi ei thalu yn dibynnu ar y math o wall, a phryd y gwnaethoch roi gwybod i CThEF amdano. Efallai y bydd eich cosb yn llai os byddwch yn rhoi gwybod i CThEF am eich gwall cyn i ni ei ddarganfod.

Rhagor o wybodaeth

I gael help neu ragor o wybodaeth, gallwch wneud y canlynol:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 Awst 2025 show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. Information about who to contact if you do not have a Customer Compliance Manager has been added.

  3. We have added guidance on what you can do if you've missed the deadline for appointing a reporting company. We have also added guidance on what you’ll need to give us on a Corporate Interest Restriction return from 1 October 2022.

  4. The process on how to tell HMRC about the appointment of your reporting company and submitting a return has been updated. You must now do this electronically using commercial software or by completing our online form and template.

  5. Changes to the process to follow if you have missed the deadline for appointing a reporting company.

  6. HMRC will accept elections by email while temporary measures are in place to stop the spread of coronavirus (COVID-19).

  7. The timescale on when you should appoint a reporting company has been updated.

  8. The address to send Corporate Interest Restriction elections to has been updated.

  9. This guide has been updated to include more information about how to work out your company's or group's interest allowance.

  10. The postal address to send elections outside of the interest restriction return has changed.

  11. Guidance on how to submit full or abbreviated Corporate interest restriction Returns has been added.

  12. The Google worksheet for appointment of a reporting company has been replaced with an Excel worksheet.

  13. Updated with information on how to make an election outside of a return.

  14. This guidance has been updated to include details of how to appoint a reporting company.

  15. First published.

Argraffu'r dudalen hon