Anfon diweddariadau chwarterol

Sut a phryd i anfon diweddariad-au chwarterol, yn seiliedig ar eich cyfnod cyfrifyddu.

Bob 3 mis, bydd eich meddalwedd sy’n cydweddu yn adio eich cofnodion digidol at ei gilydd ar gyfer pob busnes sydd gennych, a hynny er mwyn creu cyfansymiau ar gyfer pob categori incwm a thraul. Gelwir y rhain yn ‘diweddariadau chwarterol’.

Nid oes angen i chi wneud unrhyw addasiadau treth neu gyfrifyddu cyn anfon diweddariad chwarterol at CThEF.

Mae angen i chi anfon diweddariadau chwarterol ar gyfer pob ffynhonnell incwm hunangyflogaeth ac eiddo atom bob 3 mis. Mae’r arweiniad hwn yn nodi’r cyfnodau diweddaru a’r dyddiadau cau. Bydd eich meddalwedd yn rhoi gwybod i chi pryd i anfon diweddariadau a sut i wneud hynny.

Bydd y cyfnodau sy’n cael eu cynnwys yn eich diweddariadau chwarterol yn ei gwneud hi’n haws i chi gywiro gwallau yn ystod y flwyddyn. Bydd hyn yn golygu nad oes angen i chi ailanfon y diweddariad chwarterol gwreiddiol ar ôl gwneud cywiriad.

Yr hyn y bydd yn cael ei anfon yn eich diweddariadau chwarterol

Bydd y diweddariadau chwarterol y byddwch yn eu hanfon i CThEF yn cynnwys:

  • incwm a threuliau eich busnes o’r 3 mis blaenorol
  • y cofnodion digidol rydych wedi eu creu yn barod ers dechrau’r flwyddyn dreth, ac unrhyw gywiriadau rydych wedi’u gwneud iddyn nhw

Er enghraifft, bydd eich trydydd diweddariad chwarterol (sy’n ddyledus ar 7 Chwefror) yn anfon eich cofnodion i CThEF ar gyfer eich incwm o hunangyflogaeth ac eiddo a’ch treuliau o’r cyfnodau canlynol: 

  • 6 Hydref i 5 Ionawr 
  • 6 Ebrill i 5 Hydref rydych wedi’u hanfon atom yn barod, gan gynnwys unrhyw gywiriadau rydych wedi’u gwneud iddyn nhw

Bydd CThEF:

  • yn cael cyfansymiau ar gyfer pob categori perthnasol o ran incwm a threuliau yn seiliedig ar eich cofnodion digidol ar gyfer y cyfnod hwnnw

  • yn peidio â chael manylion cofnodion digidol unigol

Nid oes angen i chi wneud unrhyw addasiadau treth neu gyfrifyddu cyn anfon diweddariad.

Os nad ydych wedi cael unrhyw incwm nac wedi ysgwyddo unrhyw dreuliau yn ystod y cyfnod diweddaru diwethaf, bydd dal angen i chi ddatgan hyn i ni drwy gyflwyno’ch diweddariad chwarterol.

Ar ôl cyflwyno diweddariad, byddwch yn gallu gweld amcangyfrif o’ch bil treth ar gyfer incwm eich busnes yn eich meddalwedd neu yn eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF.

Os ydych wedi dewis cadw cofnodion digidol o ffynonellau incwm eraill yn eich meddalwedd, efallai y byddwch yn gallu rhoi gwybod amdanynt yn ystod y flwyddyn dreth ond ni fyddant yn cael eu cynnwys yn eich diweddariadau chwarterol. Os na allwch roi gwybod am eich cofnodion digidol yn ystod y flwyddyn dreth, neu os ydych yn dewis peidio â rhoi gwybod amdanynt, bydd angen i chi eu datgan cyn i chi gadarnhau’ch sefyllfa o ran Treth Incwm yn derfynol a chyflwyno eich Ffurflen Dreth.

Gallwch ddysgu mwy am y categorïau o wybodaeth y dylech ei anfon i CThEF yn eich diweddariad chwarterol yn yr Hysbysiad diweddaru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn landlord sydd ag eiddo wedi’u hosod ar y cyd

Os oes gennych eiddo wedi’u hosod ar y cyd, gallwch ddewis cynnwys y naill neu’r llall o’r canlynol yn eich diweddariadau chwarterol:

  • cyfanswm yr holl incwm a threuliau o’r eiddo hynny

  • incwm o’r eiddo hynny yn unig, heb gynnwys y treuliau

Os ydych yn penderfynu peidio â chynnwys y treuliau ar gyfer yr eiddo hynny, mae’n rhaid i chi eu datgan ar ddiwedd y flwyddyn dreth cyn i chi gadarnhau’ch sefyllfa o ran Treth Incwm yn derfynol, a chyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Bydd yn dal i fod angen i chi gynnwys y canlynol yn eich diweddariadau chwarterol:

  • eich cyfran chi o’r incwm o’r eiddo hynny sydd wedi’u hosod ar y cyd
  • unrhyw incwm a threuliau sy’n ymwneud ag eiddo sydd o dan eich perchnogaeth chi yn unig

Gwirio pa gyfnodau diweddaru y gallwch eu defnyddio

Mae dau fath o gyfnod diweddaru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm:

  • cyfnodau diweddaru safonol — mae’r rhain yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill)
  • cyfnodau diweddaru calendr — mae’r rhain yn dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis

Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth (6 Ebrill hyd at 5 Ebrill), dylech ddefnyddio cyfnodau diweddaru safonol.

Os nad yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth (er enghraifft 1 Ebrill i 31 Mawrth), dylech ddefnyddio cyfnodau diweddaru calendr. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i chi gadw cofnodion. 

Os oes gennych asiant, dylech siarad ag ef os ydych yn ansicr ynglŷn â’ch cyfnod cyfrifyddu.

Defnyddio cyfnodau diweddaru safonol

Mae’r cyfnodau diweddaru safonol yn seiliedig ar y flwyddyn dreth.

Unwaith i bob cyfnod diweddaru ddod i ben, mae angen i chi anfon eich diweddariad cyn pen mis.

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r cyfnodau diweddaru a dyddiadau cau a fydd yn berthnasol.

Cyfnodau diweddaru Dyddiad cau ar gyfer diweddaru
6 Ebrill i 5 Gorffennaf 7 Awst
6 Ebrill i 5 Hydref 7 Tachwedd
6 Ebrill i 5 Ionawr 7 Chwefror
6 Ebrill i 5 Ebrill 7 Mai

Os ydych yn gwirfoddoli i brofi’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar hyn o bryd, bydd y dyddiadau cau sydd ar eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF yn ymddangos fel y pumed o’r mis. Bydd hyn yn newid cyn 6 Ebrill 2026.

Defnyddio cyfnodau diweddaru calendr

Gallwch ddewis anfon diweddariadau chwarterol sy’n dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis, os yw’ch meddalwedd yn eich galluogi i wneud hynny. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i gadw’ch cofnodion os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn dod i ben ar 31 Mawrth.

Bydd angen i chi fodloni’r un dyddiadau cau a ddefnyddir gan y cyfnodau diweddaru safonol.

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r cyfnodau diweddaru a dyddiadau cau a fydd yn berthnasol.

Cyfnodau diweddaru Dyddiad cau ar gyfer diweddaru
1 Ebrill i 30 Mehefin 7 Awst
1 Ebrill i 30 Medi 7 Tachwedd
1 Ebrill i 31 Rhagfyr 7 Chwefror
1 Ebrill i 31 Mawrth 7 Mai

Os ydych yn gwirfoddoli i brofi’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar hyn o bryd, bydd y dyddiadau cau sydd ar eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF yn ymddangos fel y pumed o’r mis. Bydd hyn yn newid cyn 6 Ebrill 2026.

Yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud yn eich meddalwedd

Os ydych am ddefnyddio cyfnodau diweddaru calendr, bydd angen i chi ddewis cyfnodau diweddaru calendr yn eich meddalwedd cyn eich diweddariad cyntaf gael ei wneud ar gyfer y flwyddyn dreth.

Bydd cyfnodau diweddaru calendr yn parhau i fod yn berthnasol oni bai eich bod yn penderfynu newid yn ôl i gyfnodau diweddaru safonol.

Os byddwch yn dewis newid yn ôl i gyfnodau diweddaru safonol, bydd angen i chi ddewis cyfnodau diweddaru safonol yn eich meddalwedd cyn i’r diweddariad cyntaf gael ei wneud ar gyfer y flwyddyn dreth. Unwaith i chi gyflwyno diweddariad, ni fyddwch yn gallu newid yn ôl i gyfnodau diweddaru safonol tan y flwyddyn dreth nesaf.

Os ydych yn methu dyddiad cau ar gyfer anfon diweddariad

Os na fyddwch yn anfon eich diweddariad chwarterol erbyn y dyddiad cau perthnasol, efallai y cewch gosb am gyflwyno’n hwyr. Nid yw’r cosbau hyn yn berthnasol pan rydych yn gwirfoddoli i brofi’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Byddant yn berthnasol pan mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r cynllun.

Os ydych yn gwirfoddoli, gallwch gofrestru ran o’r ffordd drwy’r flwyddyn dreth ac ni fyddwch yn cael pwynt cosb ac ni chodir unrhyw gosbau arnoch am gyflwyno diweddariadau chwarterol ar ôl y dyddiadau cau. Gallwch ddarllen rhagor ynghylch ‘dal i fyny’ os bydd eich amgylchiadau’n newid.

Anfon diweddariadau yn amlach

Gallwch ddewis anfon diweddariadau yn amlach.

Er enghraifft, os ydych am ddeall sut mae derbyniadau neu dreuliau busnes sylweddol yn effeithio ar eich bil treth amcangyfrifedig. Bydd y rhan fwyaf o feddalwedd sy’n cydweddu yn eich galluogi i anfon diweddariad ar unrhyw ddiwrnod.

Os ydych yn dewis anfon diweddariadau yn amlach, bydd angen iddyn nhw gwmpasu’r cyfnod diweddaru yn ei gyfanrwydd. Er enghraifft, yn lle cyflwyno un diweddariad sy’n cwmpasu 6 Ebrill i 5 Gorffennaf, gallwch ddewis cyflwyno 3 diweddariad misol sy’n cwmpasu:

  • 6 Ebrill i 5 Mai
  • 6 Ebrill i 5 Mehefin
  • 6 Ebrill i 5 Gorffennaf

Os nad ydych yn disgwyl y bydd gennych unrhyw drafodion pellach i’w cofnodi, gallwch anfon diweddariad hyd at 10 diwrnod cyn diwedd y cyfnod diweddaru. Er enghraifft, efallai eich bod yn mynd ar wyliau ac yn gwybod na fyddwch yn gweithio am weddill y cyfnod na chwaith yn cael incwm pellach.

Beth i’w wneud nesaf

Ar ôl i chi anfon eich diweddariad chwarterol terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth, dylech wirio a oes angen i chi wneud unrhyw addasiadau i’ch incwm o hunangyflogaeth ac eiddo.